Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

9 articles on this Page

YE EISTEDDFOD.

News
Cite
Share

YE EISTEDDFOD. icyd y sylwadau canlynol gan Mr Peter Mostyn Williams yn nghyfarfod y Beircld, a'r Lien orion ar fore yr ail ddydd o'i- Eisteddfod yn JSFghaerlleon. Wrth gynnyg yr hyn a ystyriwyf yn welliant ar y drefn bresennol, nid wyf yn anghono nac yn dibrisio mewn un inodd y gwellhacl mawr sydd eisoes wedi cymmeryd lie er adeg- Eisteddfod Llangollen yn 1858. Po heb y diwygiad hwnw, buasai ein cyfarfod yma lieddyw yn beth ammhossibl. Mae y ffaith fod Gogledcl a De wedi ymtino a n gilydd, a'r holl Dyvv'ysog-aetli yn cyclweithredu yn y symmudiad, yn ennilliad ammhrisiadwy. Mae cael eydsyniad prif ddynion ein csnedl i fod ar y Pwyllgor cyffredinol, yn gam yn yr iawn gyfeiriad. Ac y mae fod ethol- iacl y CyngLior.. yii 11aw y Pwyllg-or liwnw yn sicrhau dewisiad dynion y mae gan y wlad ymcldiried yn- clynt, Mae y sylw, y cyffro, a'r Hwyddiant sy'n dilyn eu gweithrediadau yn dangos fod y sefydiiad wedi ennill safle anrhydeddus, ac yn cael ei deiinlo yn lymus trwy y wlad. Ac y mae gweled y rhag- farn a'r cuini hynafol yn diflanu o radd i radd, ac fod yr Eisteddfod yn cael ei chyfaddasu fwyfwy at ysbryd yr oes, a sefyllfa bresennol y genedl, yn rhoddi hyder ynom y gellir rhoddi cam etto ymlaen er cyrhaecld y perffeithrwyclcl hwnwyr amcenir atto. Amcan pmffesedig yr Eisteddfod yw, 'Diwyllio a meithrin barclcloniaeth. a Uenyddiaetb; chwilio, trefnu, a cbadw cofnodion lianesyddol, a gweddillion llenydloly genedl; cynnorthwyo i gyhoecldi gweith- iau gwreiddiol, yn yr iaitli Gymraeg; meithrin a dadlenn talent y Cymry, a defnyddio pob moddion ereill, o bryd i bryd, a fyddo yn debyg o ddyrcbafu cynwT cymdeitliasol, moesol, a deallol y genedl.' Yn ol y deffiniad hwn, diwyHio llenydcliaeth Gymreig- ydyw yr amcan penaf, ac ymddengys hefyd mai y brif gang-en lenycldol a feithrinir ydyw bardd- oniaeth. Y moddion a ddefnyddir i ddwyn yr amcan hwn i ben ydyw, cynnyg gwobrau am y cyfansodd- iadau goreu ar destynau gosodedig—gweinyddu urddau a rhoddi ffugenwau barddonol i bwy bynag a'u ceiaiont, a rhoddi i ennillydd y brif gamp yr an- rhydedd nchaf o eistedd yn y gadair farddol. Gyda gohrg ar gystadleuaeth, credn yr wyf ein bod yn gweithio y ddefod i eithafion ammhriodol. Addefa pawb nad ydywcystacllellaeth lenyddol ond moddion tuag at gyrhaeddyd rhyw ddyben uwch. Diall fod y drefn wedi gwneud llawer o les trwy roddi yni newydd i gyfansoddwyr ieuaingc, a dWYll allan yniaclferthoeclcl llawer bardd a ruasent heb hyny fyth yn guddiedig. Eel annogiad a symbyl- iad, mae yn dda a chanmoladwy, ond pan eir i ym- ddibynu ar hyny yn benaf am brif gynnhyrchion ein llenyddiaeth, mae yr effaith yn rhwym o fod yn niweicTiol. Mae yn resyn genym weled ein prif len- orion o dan ddylanwad yr high pressure meddyliol hwn yn cynnhyrchu darnau mor annheilwng o hon- ynt eu hunain. 0 bob oreadur yn y byd sy'n meddu peirianwaith tyner, moddyliwn mai y bardd yw y tyneraf. Os gwneir chwareu teg ag ef, rhaid iddo gael dewis ei destyn ei hun, a chyfansoddi yn ei am- ser ei hun, ac yn ei ddull ei hunan. Anaml iawn yr ysgrifena dyn megys a gwaed ei galon ar destyn a ddewiser iddo, i'w orphen mewn amser pennodedig, a rhyw safon dychymygol o hyd yn ymrithio o'i flaen wrth yr hon y cyfansodda yn gToes i deimlad natur ac argyhoedcliad rheswm. Ai tybecl y gallasai Mil- ton gyfansoddi ei Goll Gwynfa' er mwyn ennill mewn Eisteddfod ? A fuasai Dafydd lonawr byth yn eilio Cywydd y Drindod' a'i olwg- ar wobr o ugain punt P A allesid rliwymo awen seraphaidd Williams Pantycelyn wrth delerau cystadleuaeth ? Na—os ydym am ddiwyllio a meithrin llenyddiaeth a ddeil y prawf, ac a fydd a bywyd parhaol ynddi, rhaid i ni adael heibio oruchwyliaeth y foreio yn y ty brwd a'r gwely brwd, a chwilio allan am dwf naturiol dan yr awyr agored, lie y megir y gedr- wydden gref a'r dderwen oesol. I'r dyben o wneud hyn, rhaid gosod cystadleuaeth yn is-wasanaothg-ar i ryw ymgais uweh a mwy an- rliydeddus. Nid oes dim yn hyn yn groes i ysbryd nac arferiad yr hen Eisteddfod, Peth diweddar, mewn ystyr, ydyw enwi testynau ymlaen llaw, a darnodi y dull a'r modd ymha rai y mae yn rhaid cyfansoddi. Peth diweddar, hefyd, yclyw fod canghenau ereill heblaw barddoniaeth a cherddor- iaeth yn cael eu coleddu yn yr Eisteddfod gweith- redai ein tadau yn berffaith gysson a hwy eu hunain wrth gyfyngu y gadair i farddoniaeth, oblegid golygent hwy fod barddoniaeth yn cynnwys y dir- gelion oil a phob gwybodaeth, ac felly yn teilyngu pob parch. Ond yr ydym. ni yn gweithredu yn anghysson a ni ein hunain wrth ddilyn eu hesiampl yn hyn trwy dalu cymmaint o sylw a gwarogaeth i un gangen, tra ar yr un pryd y taflwn ein hachles dros ganghenau ereill o ddysg a gwybodaeth. Nis gallaf fi ganfod un rheswm digonol dros beidio rhoddi cadair mewn pob cangen sydd eisieu ei hamaethu. Mae yr hen oruchwyliaeth lenyddol wedi magu mwy o feirdd yn ein gwlad na phob rhywogaeth arall o efrydwyr gyda'u gilydd. Os byddai rhyw fachgen mwy talentog' na ehyffredin mewn ardal, odid byth y gwelid ef yn troi ei sylwat y gwyddorau a'r celfyddydau. Byddai rhyw drydan farddcnol yn yr awyr Gymreig yn ei fesmerisio, fel Saul gynt, pan aeth i fysg y prophwydi, nes ydoedd ar unwaith yn lispio' mewn accenion can. Nid am ei fod yn fardd wrth natur, ond am nad oedd y fath swyn yn cael ei roddi ar ddiin arall i ogleisio ei uchelfrydedd. Mae gweddillion yr hen ddylanwad hwn yn aros yn ein gwlad hyd heddyw, ac y mae lie i ofni fod yr Eisteddfod ddiwygiadol, er ei holl eangder, yn cyfranu llawer tuag at ei fywyd a'i gynhaliaebh. Yr hyn sydd arnom eisieu ydyw, gwneud yr Eisteddfod yn sefydiiad addysgiadol ac anrhydeddus ymhob ystyr. Perthyna yn neillduol i ni fel Cymry, a dylem geisio drwyddi gynnyddu gwybodaeth, dyrchafu moes, gwella cyflwT, a chodi cymmeriad y genedl. Gadawer i fardd- oniaeth gael ei lie priodol, ond bydded i'r gwybodaethau ereill fyned law-law a hi. Yr ydys wedi gwneud yn ddoeth trwy dalu cymmoint o sylw i gerddoriaeth. Yn wir, yn y blynyddoedd diweddaf, hyhi sydd wedi hawlio y sylw a'r anrhydedd penaf. Yn Aberystwyth, gwar- iwyd 420p. ar gerddoriaeth, a dim ond 50p. ar farddon- iaeth. Talwyd Gp. o wobrau i gelfyddyd. Gwariwyd lOp. ar ddaeareg, 35p. ar hanesyddiaeth, 20p. ar gym- 4f deithasgarweh, ac 20p. ar lenyddiaeth gyffredinol. Pe rhoddasicl y gwobrau addawedig i gyd am farddoniaeth, ni buasai yn cyrhaedd dros lOOp., ac ni buasai yr holl wobrau ar lenyddiaeth gyffredinol yn cyrhaedd dros Nid ydym yn c-.vyn0.3m awr oherwydd yr anghyfar- taledd hwn, er y gellid cael sail i hyny; ond yr ydym yn baniu fod yn bossibl gwneud gwell defnydd o'r vcbydig arian a Werir, ac anturio i wneud rhywbeth o iverth a bri gyda'r gweddill. Mae liyn yn ein harwain at eiiaid y cwestiwn a fwriadem ddwyn i sylw. A chan fod pWllgc yr urddau a'r gwobrau a'r graddau yn per- thyn mor agos 1 w gilydd, a chan y gellir cymmeryd pob cangen dan sylw wrth fyned ymlaen, sii a gynnyg- iaf bellach y bras gynllun canlynol i'ch ystyriaeth a'ch c ymmer adwyae th. CYXLL UN. Fod yr Eisteddfod yn rhoddi teitlau, gwobrau, neu urddau i'r ymgeiswyr ymhob yn un o'r canghenau canlynol:— I. Barddoniaeth, gaeth neu rydd. II. Traethodaeth, neu lenyddiaeth gyffredinol. III. Hanesyddiaeth, hen a diweddar. IV. Gerddoriaeth, wyddorol, leisio], ac offcrynol. Y. C-3lf3rddyd—darluniaeth, paent3rddiaeth, a eherf- waith. VI. An"'anyddiaeth—gallofyddiaeth, daeareg, a me- suroniaeth. Yr ydym yn ymwrtliod a'r hen ddosraniad o fardd, ofydd, a derwydd, am nad yw y ddau deitl cyntaf >rn cynnwys holl destynau efryd yr Eisteddfodwr presen- nol, ac am nad yw yr olaf yn angenrheidiol o gwbl, gan fod y weinidogaeth Gristionogol yn meddu urdd o'r eiddo ei hun. Yr wyf yn cynnyg fod y graddau yn y tair cangen gyntaf, sef Barddoniaeth, Traethodaeth, a Hanesydd- iaeth, i gael eu rhoddi yn y dull canlynol: wedi iddynt yn gyntaf gael eu dyfarnu gan bwyllgor o brif-feirdd a phrif lenorion y genedl, y rhai a bsnnodir yn feirniaid arosol (pcrmcnient adjudicators) i ddwyn ymlaen arhol- iadau, i farnu cyfansoddiadau, ac i benderfynu ar y gwobrau priodol i'r 3rmgeiswyr llwyddiannus. I. BARDDONIAETH. Nid ydym yn meddwl y dylid gwahaniaethu rhwng mesurau caethion a rhyddion, oblegid nid y fydrydd- iaeth a ddefnyddir sydd i fod yn safon enaid y gan. Er mwyn gwneud yr urdd yn anrhydedd gwerthu i ym- gyrhaedd atto, barxiwyf y dylai pob ymgeisydd fyned drwy ryw radd ragbarottoawl yn gyntaf, yr hyn a ellir ei aIw ynl. Tnvyddedaeth. Wedi rhoddi rhybudd i'r ysgrifenydd fod yr ymgeisydd am y preliminary degree i fyned o dan arholiad yn y pethau canlynol (1) Gram- madeg, (2) Eheolau cyfansoddiad, (3) Rheitheg, (4) Mydryddiaeth, caeth a rhydd. Disgwylir iddo ddangos cydnabyddiaeth ag elfenau cyntaf pob un o'r rhai hyn cyn y byddo ganddo hawl i ymgyfenwi yn ddisgybl barddonol, na gwisgo teitl o un math. Os a. drwy yr arholiad yn llwyddiannus, bydd ganddo hawl yn yr Eisteddfod nesaf i ymgeisio am yr ail radd, sef 2. Urddiad.—Yma bydd 3rn ofynol iddo (1.) Ddwyn ymlaen gyfansoddiad barddonol gwreiddiol, o ddim llai 11a 100 llinell, 3m dangos talent, chwaeth, ac athrylith. (2.) Dangos gwybodaeth, a gweithiau rhai o'r beirdd canlynol, fel ag i allu rhoddi barn annibynol am eu teilyngdod a'u harddull:—Goronwy Owen, Dewi VYyn, Dafydd lonawr, Eben Vardd, Alun, Geirionydd neu Williams, Pant y Celyn. (3.) Dangos rhyw radd o gydnabyddiaeth a Hen Farddoniaeth Gymreig. (4.) Bod yn liycldysg mewn Barddoniaeth Dramor, megys, Shaksjieare, Milton, Burns, Tennyson, ynghyda Yirgil, Homer, &c., yn y gwreiddiol, neu trwy gyfieithiad. (5.) Gwybodaeth elfenol o Hanes Cymru, Lloegr, Ewrop, ac America, ynghyda hanesiaeth henaiol. Yn nesaf at hyn, ac fel anrhydedd ychwanegol gosodwn 3. jLrtandhvs a Gwobr—I,w hennill trwy fod yn oreu ar destyn a bennodir gan yr Eisteddfod neu trwy gynhyrchu y cyfansoddiad gwreiddiol goreu ar unrhyw destyn mewn barddoniaeth delynol, fugeiliol, neu ddes grifiadol, caeth neu rydd, a fyddo yn meddu teilyngdod uchel. Yna daw yr anrhydedd uchaf a gyfrenir yn awr, sef- 4. Cadair a Gwobr, gyda'r gwahaniaeth hwn, Na byddo yr un testyn yn cael ei roddi allan, ond fod pob ymgeisydd i ddewis ei destyn ei hun, a'i fydr ei hun, ac fod y gadair i'w hennill am y darn barddonol goreu mewn Awdl neu Bryddest, ar unrhyw destyn, yr hwn a ystyrir 3-11 brif gyfansoddiad yr Eisteddfod am y flwydctyn hono, ac yn deilwng o'r anrhydedd penaf. Ac er mwyn calondid pellach i'r buddugwr, fel na byddo iddo fyned i orphwys ar ei fri oddiwrth lafur, cynnyg- iwn fod 0 gradd anrliydeddus, gyda thlws aur, i'w rhoddi gan y pwyllgor a enwasom i bersonau fyddo wedi cyrhaedd safle o enwogrwydd a theilyngdod uchel mewn barddoniaeth. Y gwalianol raddau a enwyd i roddi y teitlau a'r urddau canlynol:— 1. Tricyddedaeth.—Disgybl barddonol. 2. Xlrddiad.—Bardd braint a defawd. 3. A.riandhvs)—Bardd arian-dlysog. 4. Cadair.—Oadeirfardd. 5. Thus aur.—Prif-fardd. II. TRAETHODAETH. 1. Tricyddedaeth.—(1.) Grammadeg. (2.) Rhesymeg. (3.) Rheitheg. (4.) Eheolau cyfansoddiad. Urddiad:-(1.) C3rnnhyrchu traethawd gwreiddiol o 20 o dudalenau o leiaf yn meddu teilyndod uchel. (2.) Bod yn leirniadol gydnabyddus a. Bardd Cwsg," "Dryeh y Prif Oesoedd," Charles o'r Bala, a'r prif- e feirdd Cymreig. (3.) Bod yn gydnabyddus hefycl ag Addison, Locke, Bunyan, Scott, Wilson, a Shakspeare. Hefyd Bacon, Plato, &c. (4.) Bod yn gyfaiwydd a hanes llyfryddiaeth Cymru, Lloegr, a chyfandir Ewrop. Hefyd bod yn hysbys a hanesiaeth gyffredinol. 3. AriandUvs a gwobr—Am y traethawd goreu ar destyn pennodedig, neu ar unrhyw destyn a ddewiser. Y traethawd i fod yn un gwir deilwng. 4. Gradd anrliydeddus—I'r neb a gyrhaeddo safle uchel yn y ganghen hon. Yn y dysbarth hwn gellid cynwys traethodau byrion ar wahanol byngciau cymdeithasol, y rhai nad ellid yn briodol eu eyfleu o dan yr un o'r canghenau ereill a enwasom. Iddo y perthyn y traethodau ar 'Godi yn forou,' ac I Ymiudiaet' i Gymreig,' ar 'Athroniaeth Beirniadaeth,' ac ar Forwyr Cymru,' yn yr Eisteddfod eleni. I'r dosbarth hwn hefyd pertbjmni traothodau ffug-hanesiol. Nid yclwyf yn barnu ei fod yn ddigon addfed etto i dderbyn Cadair, oblegid yn awr mae dosbarthiadan ereill sydd yn cynnwys hwii yn hawlio yr un anrhydedd. Y gracld-tu a'r teitlau a gYllllygir ydynt fel y canlyn :— 1. T'ricyddedaeth.—Disgybl llenyddol. 2. U)-(Icli(id.-Lionor. 3. Ariandhcs.—Lienor ariandtysog. z, 4. Gradd anrliydeddus.-—Prif-lenor. Dylid gwneud rhyw ddarpariaeth hefyd yn y dosbarth hwn ar gyfer cyfieithwyr. Haedda dynion a ddygant feddyliau cyfoethog y Saeson i gyrhaedd amgyfirediad y Cymro uniaith, a'r rhai a drosglwyddant feddyliau goreu y Cymiy i gylch dealltwriaeth y Sais uniaith, glod a pharch dauddyblyg. Yuglyn a'r gradd o Brif- fardd neu Brif-lenor dylid rhoddi gradd anrhydeddus i'r neb a enwoga ei hun fel cyfiieithydd o farddoniaeth neu ryddiaeth Seisneg i'r Gymraeg, neu o'r Gymraeg i'r Saesneg. Dylai yr olaf yn enwedig dderbyn cefnog- aeth neillduol. III. HANESIAETH. 1. Trwyddcdacth.—Ar ol myned trwy arholiad yn rhai o'r cyfnoclau pwysicaf yn Hanes Cyiiira a Lloegr. 2. Urddiad.—(l.)Traethawd byr ar ryw bwngc han- esyddol, yn dangos cydnabyddiaeth gywir a:ffeithiau, a barn annibynol ar y prif sym.mudiadau. (2.) Bod yn gyfarwydd mewn ha,nesiaeth Gymreig, Seisnig, Ruf- einig, Qroegaidd, &c., ynghyda chyclnabyddiaeth beirn- iadol a Charnhuanawg, Pennant, Macaulay, Hume, Hallam, Froude, Thierry, Gibbon, a Rollins. (3.) Bod yn hyddysg mewn hanesiaeth Ysgiytlyrol ac Eglwysig. (4.) Bod yn hysbys o hynaflaethau Cymreig, olion, a choflon Derwyddol, ac yn enwedig ag ysgrifeiiiadau yr heu feirdd Cymreig a'n cydoeswyr mewn gwledydd ereill. 3. Ariandlics a gwobr, am y traethawd, goreu os teilwng, ar unrlyw destyn gosodedig, neu a ddewiso yr ymgeisydd. 4. Cadair a thlws,—am draethawd pwysig o'r radd uchaf o deifyngdod, megys y traethawd ar Ddeclireu- ad Cenedl y Saeson.' 5. Gradd anrliydeddus, a thlws aur, am enwogrwydd anghyfEredin yn y wybodaeth hon. Y graddau a'r teitlau i fod fel y canlyn :— 1. Tnvyddedaeth,.—Efrydydd Hanesiaeth. 2. lJrddiad.-Hanesydd. 3. Ariandlws.—Hanesydd ariandtysog. 4. Cadair.—Hanesydd cadeiriol. 5. Gradd anrliydeddus.—Pxif-hanesydd. IV. CEBDDOEIAETH. Yr wyf yn teimlo tippyn o wyleidd-dra a phryder wrth neshau at y pwngc hwn, a rhaid i mi erfyn ar hynawsedd fy nghyfeillion cerddorol i wrando amaf tra yr wyf yn gwneud ychydig o awgrymmiadau arno wrth fyued heibio. Mae y daioni sydd wedi ei wneud y talentau sydd wedi eu dadblygu, a'r cynnhyrchion sydd [wedi dyfod allan, a'r llwyddiant sydd 3rmhob modd wedi coroni ymclrechiadau y pwyllgor yn barod yn y ganghen hon, bron a'm herchi i fod yn ddistawyn ei chylcli. Ond er mwyn gwneud y cynllun cynnyg- iedig yn ggflawn, hwyrach mai nid anfuddiol fyddai nodi y byddai yn ddymunol i gael pwyllgor o feirniaid yma eto i aros yn eu swyddi ar hyd eu hoes, os na byddai rhyw reswm digonol dros eu newid. Nis gallaf yn bresennol ganfod un gwrthwynebiad i ddilyn b yr un cynllun gyda'r gangheii hon etto, yn ddarostynge dig i ddiwygiad yn y manylion. 1. Tru-yd,(led,aeth.—Dylai yr ymgeisydd yma fyned o dan arholiad yn elfenau cyntaf y gelfyddyd. 2. Urddiad.—{I.) Darllen dernyn cerddorol yn ddi- fyfyr. (2.) Ysgiifenu yn yr hen nodiant, neu y Tonic Solfa, unrhyw ddernyn a genir iddo, heb fod yn an- hawdd. (3.) Dwyn ymlaen gyfansoddiad cerddorol gwreiddiol o'i waitli ei hun. (4.) Bod yn hysbys yn hanesiaeth cerddoriaeth. (5.) Cydnabyddiaeth a'r prif awdurol cerddorol. (6.) Bod yn gyfaiwydd a cherdd- oriaeth Gymreig. (7.) Deall deddfau cynghanedd (harmony). 3. Ariandlws a gwobr.—Am gyfansoddi demyn cerddorol byr o deilyngdod uchel, neu ganu dernyn yn fedrus a soniarus, o flaen yr Eisteddfod, neu chwareu yn odidog ar ryw offeiyn cerdd; Ystyriwn fod yr ys- goloriaeth leisiol a thetynol yn dyfod o dan y penawd hwn. 4. Cadair a gwobr.—Am y prif gyfansoddiad cerdd- orol yn yr Eisteddfod am y fiwyddyn hono, os yn wir deilwng, megys cantawd ar destyn pennodedig, neu unrhyw ddernyn penigamp arall yn yr arddull a dde- wiso y cyfansoddydd. 5. Gradd anrliydeddus, a thlws aur.—I'r neb a fyddo wedi cyrhaedd enwogrwydd uchel iawn yn y gelfydd- yd,fer y baino y pwyllgor. Y graddau a'r teitlau ydynt fel y canlyn :—■ 1. Trwyeldedaeth.—Disgybl cerddorol. 2. Urddiad.—Cerddor. 3. Ari.ondlws.—Cerddor ariandlysog. 4. Cadair.—Cerddor cadeiriol. 5. Gradd anrhudekdus.—Pencerdd. V. CELEYDDYDWAITH. Fod pwyllgor etto o ddynion cyfarwydd ag egwydd- orion celÏyddycl yn cael ei liurilo i ddwyn ymlaen yr arholiadau ac i gyfranu urddau yn ol teilyngdod yr ymgeiswyr. Fod y pwyllgor yma fel y lleill i aros yn eu swyddi ar hyd eu hoes. Y graddau i fod yn gyffelyb i'r rhai a grybwyllwyd. 1. Tricyddedaeth.—(1.) Fod yr ymgeisydd yn deall elfeuau darluniaetn neu gerfwaith. (2.) Engraifit o ddarluniaeth gyda'r pwyntil. 2. Urddiad.— (1.) Cynnhyrchu engraifft deilwng mewn amlinelliad (outline), neu baentyddiaeth, neu gerfwaith mewn coed neu geryg, (2.) Hanes y gelf- yddyd a gelfyddydwyr. (3.) Cydnabyddiaeth a phrif weitniau celfyddyd. (4.) Cydnabyddiaeth a llenydd- iaeth Gymreig a Seisnig. (0.) Bod yn gyfarwydd mewn hanesiaeth hen a diweddar. (G.)Gwybodaeth o ddefnyddiau ar egwyddorion y gelfyddyd. 3. Ariandhcs a gwobr.—Am y celfyddydwaith gareu yn yr arddull a gynuygir gan yr Eisteddfod, neu. a ddev/iso yr yn-igeisydd. 4. Gradd anrhydedd us, a thlws aur.—Am ryw waith godidog yn ngradd uchaf y gelfyddyd. Golygwn nad yw amgylchiadau yn aedd-fed etto i gynnyg cadair am y celfyddydwaith goreu a gynnhyrehir mewn un Eis- teddfod, ac fod y gradd anrhydeddus' ei hun yn ddigon o annogiad er cyrhaedd yr anrhydedd pena,f. Y graddau a'r teitlau a gynnygir ydynt fel y canl,ii: 1. Tricyddedaeth.—Disgybl celfyddydol. 2. Urddiad.—Celfydd. 3. Ariandhcs.—Celfydd ariandlysog. 4. Gradd anrhydeddus.—Pen cellydd. YR ANIANYDDIAETH. Dylai fod yn y dosbarth hwn bwyllgor o ddynion, cyfarwydd a phrif egwyddorion gwyddoniaeth, i arol- ygu gweinyddiad y gwobrau a'r graddau. Cynnwysa yr adrrn hon yr holl wyddorau (sciences). Yn bresen- nol, md oes ond dwy o honynt wedi eu cymmeryd o dan nawdd yr Eisteddfod, sef Gallofyddiaeth (Mechanics) a Daearog {Geology). Bivriedir tm, ddodi cyfres o ddar- lithiau ar Mechanics, yn fuan, er addysg y dosbarth gweithiol. Bwriedir hefyd wneyd rhywbeth gyda Ge- ology. Y ffordd oreu i wneycl gyda'r gangen hon, yn fy meddwl i, fyddai ffurfio man-ddosbarthiadau yma ae acw yn y wlad, lie y ceir hyd i athraw medrus a chael darlith yn awr ae yn y man, mewn rhywle cyfleus, gan un cyfarwydd yn y wyddor. Byddai yu burion pe ffnrfid cwmniau bychain i fyned allan i ymweled a manau lie y gellir astudio llyfr natur a phigo i fyny y gweddillion cyfnodol sydd yn britho ei cldalenau, fel y gellid cael Museum fach mewn ambeli i lan a phentref. Ac yna, trwy ddiwydrwydd a pharhad, gellid, ond odid, gael un Museum fawr i gynnrychioli Cymru ben- baladr ynglyn a'r Eisteddfod Genhedlaethol. Yn ychwmegol at hyn, gellid parhau i roddi gwobr- au am y traethodau goreu ar wahanol byngciau mewn cyssylltiad a'r wybodaeth hon. Y mae braidd yn rhy fuan etto i son am urddau ynglyn a'r dosbarth. Ond yn y man, wedi cael yTchydig o fyfyrwyr ynghyd, gellir anturio i fyned o dan examination y Government De- partment of Science and Art.' Bwriwn fod dosbarth wedi ei ffurfio mewn Geology, neu Mineralogy, neu Theoretical Mechanics, neu Elementary Mathematics, neu bob un o honynt, mewn unrhyw fan, gellid cael arhol- iad dan nawdd y Uywodraeth trwy anfon at yr Ysprif- enydd, Science and Art Department, South Kensington, London. Rhaid i'r 3rmofyniad gael ei wneyd cyn y lOfed o Eb- rili ymhob blwyddyn. Anfonir i lawr i y forms angen- rheidiol, ar ba rai yr hysbysir pa bryd y cynuner yr ar- holiad le, ac ar ba delerau y rhaid ei ddwyn yn mlaen. Digwydda yn gyrfredin yn nghorph mis Mai. Rhoddai hyny ddigon o amser i wybod y results, ac i'w gwreyd yn hysbys yn em gwyl flynyddol. Mae y llywodraeth yn rhoddi y gwobiau a ganlyn: — 1st Class, Queen's prize ana meatn.. zna eiass, etto. 3rcl class, etto. 4th 'class, etto. ynghyda honourable mention am fyned drwy yr arhol- iad. Bhoddir hefyd prize cyffredinol i'w ennill gan y goreu o'r ymgeis wyr trwy y deyims Yr wyf yn meddwi nas gallwn wneyd yn well yn hyn o beth na mabwysiadu arholiad y llywodraeth, ac ychwanegu at y gwahanol wobrau a roddir, rhyw wobrau neu urddau cyfattebol o'r Eisteddfod. Pwy a wyr nad allwn ryw dro gael y wobr fawr gyffredinol. i'r Eisteddfod yn cael ei wisgo gan fachgen o Gymro a phwy a luddiai i'r cyfryw un gael eistedd mewn cadair anrhydedd yn nghanol ban- llefau cymmeradwyaeth ei gydwladwyr ? Gyda golwg ar arholiadau yr Eisteddfod yn y gwa- hanol ganghenau ereill a enwais, yr wyf yn meddwl nad ellir gwneud yn well gyda hwynt na'u dwyn yn mlaen ar gynllun y 'Government Department of Science and Art.' Dyma y cynllun :—Argreflir liifer o ofyniadau' ar len 0 bapyr. Ar ddiwmod pennodedig, ymgyferfydd yr ymgeiswyr gyda dau neu dri o aelodau y pwyllgor, mewn ystafell neillduedig, pryd y torir sel y llywodraeth oddi ar anilen y papurau am y tro cyntaf. Yna rhoddir y gofyniadau gyda lien arall o bapur i bob ymgeisydd, a rhaid iddynt yno, heb fyned allan o'r ys- tafell, na cheisio cynnorthwy ltyfrau, nac ymofyn a neb, atteb y gofyniadau o fewn dwy awr neu dair o amser. T. byddo yr ymgeiswyr wrth y gwaith, erys aelodau ypwjrllgoryn yr ystafell i wylio eu hysgog- iadau, ac i weied na bydd dim cam-chwareu yn cym- meryd lie. Wedi gorphen, amgeuir y papurau drachefn mewn amlen briodol, a selir hwynt yn ofalns. Cyn- nwysa y lien yn gyffredin o 22 i 24 6 ofyniadau, ond nid oes angen atteb mwy na deg o honynt. Ehoddir gwahanol rifedi o farciau, yn amrywio o 10 i 30 wrth bob un o honynt, a gall yr ymgeisydd ddewis y rhai a fyna. Os dewisa y rhai mwyaf anhawdd oil, a'u hatteb yn foddhaol, bydd ei anrliyciedd o gymmaint a hyny yn uwch na phe buasai yn ymfoddloni ar y rhai syml a hawdd. Gellid parotoi lleni cymmlnvys i'r 3ungeiswyr Eisteddfodol yn y gwahanol ganghenau y cyfeiriwyd attynt, a chyfaddasu y cynllun i ryw raddau at delerau neillduol ein harholiad ni. Dylai pob un fyddo yn ym- ofyn am drwydded, neu urdd, neu unrhyw radd arall, roddi rhybudd prydlawn i'r ysgrifenydd, er nHvyn i'r arholiad gymmeryd lie yn mis Mehefin neu Orphenaf, fel y gellid trefnu pob mater angenrheidiol cyn adeg yr wyl flynyddol, pryd y gweinyddid yddofod ar gyhoedd gwlad, I Yii ngwyneb haul a llygad goleuni.' Bydd lliaws o fan dreihiadau ereill i'w gwneud cyn y cwbl- heir y gwaith, megis rhoddi urdd-gerdyn i bob ymgeis- ydd llv.r3rddiannus, cadw rhestr drefnus mewn ll3rfr coffad.v»rriaeth 0 enwau pawb a gant eu hurddo, a chyhoeddi y cyfryw yn y oylchgronau chwarterol, neu ryw lyfr urall a gyhoeddir i'r perwyl. Byddai yn ddoeth dechreu gyda llyfr argraifedig, yn cyn- nwys enwau pob bardd a lienor Cymreig sydd yn fy w yn bresennol, y rhai a gydnabyddid yn deilwng o urddau gan y pwyllgor, a'r rhai a ennillasant iddynt eu hunain unryw radd arall. Diamheu y gofynid i'r rhan fwyaf o'r rhai a wisgant ffugenwau llenorol a cherdclorol i fyned o dan arholiad a disgyblaeth nes ennill yr urddau gofynol mewn trefn briodol. Ni byddai un diraddiad yn hyny, a byddai yn glocl dy- blyg i'r hwn a ennillai ei doitl yn gyfreithlawn. Gwelir mai neillduolrwydcl y cynllun presennol ydyw 1. Cwttogi, ond nid lhvyr ddileu, y drefn gystadl- enol, a'i gwneud y^n is-wasanaethgar i gynnyrchu llenydcliaeth iaclius a pharhaol. 2. Rhoddi cymmhelliad cyfartal i bob cangen o wybodaeth, fel y gallo pob un dderbyn anrhydedd a chlod trwy ddilyn tueddfryd ei feddwl ei hun. Credir, ond i ni wneyd hyn, y bydd i Gymru o hyn allan fagu rhywbeth heb law beirdd a cherddorion, ac y bydd pob dosbarth fel en gilydd yn gosod mwy o fri ar y genedl. 3. Gosod gwerth a pliwys yn yr urddau, fel y gallo dyn fod yn falch o honynt, a'u gwisgo yn an- rhydeddus. Yr ydwyf yn meddwl y byddai yn help mawr i'r Eisteddfod pe gweithredai y cymdeitliatsau llenyddol mewn cyssylltiad a hi. Bwriwn fod cymdeithasau llenyddol ar egwyddor y Mechanic's Institute yn Lloegr yn cael eu sefydlu ymhob tref a phentref o bwys trwy Gymru. Pod yr un amcanion ganddynt hwy mewn gohvg ag sydd gan yr Fisteddfod. Fod yr aelodau a ddewisont ymgeisio am raddau yn yr Eisteddfod yn parotoi eu hunain dan nawdd y gymdeithas lenyddol yn y canghenau hyny a welont yn oreu. Fod y rhai mwyaf llwyddiannus ymhob cymdeithas yn cael eu hanfon yn ddidraul i'r Eisteddfod Genhedlaethol i dderbyn urddau neu wobrau. Deuai y sefydliac1 felly yn ymgorphoriad o dalent a gwybodaeth, ac yni, a zel genhedlaethol. Deuai ein Holympia Gymreig yn ffirwythlawn mewn eynnyrcMon a fydd- ent yn destyn gwir ymffrost i'r CjanrOj ac yn wrth- ddrych syndod i'n cymmydogion. Caffai dynion ieuaingc Cymru, 11a chawsant fawr o fanteision boreuol, gyfleusdra i \Vne3^d y diffyg hwnw i fyny, ac ymenwogi ymhob gwybodaeth fuddiol. Byddai yr Eisteddfod ynllaw-forwyn i'r Brifysgol a'r Co- legau. Ymunai ynddi ei hun holl ragoriaethau y Social Science a'r Archaeological a'r British Associ- ation. Byddai yn dwyn arni hefyd beth o ddelw y Eoyal Academy a'r Industrial Exhibitions, heb law bod yu Musical Festival o'r radd uchaf. Yn ymodcl hwn, wrth weinyddu difyrwch am wythnos i Gymry twymngalon, gofelid am. fod dylanwad daionus yn cydfyned a'i holl ymdrechiadau—fod athrylith plant Gwalia yn cael ei dynu allan mewn ffyrdd gwahanol —fod gwir deilyngdod yn cael ei wobrwyo fo-I moesoldeb yn cael ei ddyrchafu, ac fod gwladgarwch yn cael ei gadarnhau ar seiliau mor gedyrn, fel nad alpai gormes na gwawd oddi allan ei syflyd, nac un cyfnewidiad oddi mewn ei ammharu. Deuai Saeson i weled fod rhywbeth mwy nag ymlyniad penboeth wrth hen ddefod mewn cadw Eisteddfod, ac os bydd raid i'n hiaith farw, cedwid yn fyw yr hyn sydd yn annrhaethol werthfawrocach, sef ein neillduolrwydd, ein haiddgarwch, a'n bywyd cenhedlaethol. A phan y daw adeg nas gallwn mwy waeddi, Oes y byd i'r iaith Gymraeg,' gallwn ddyweyd yn fwy cynnhes nag erioed—' Tra mor, tra Brython.'

BRECHFA.

LLANYBYDDER.

LLANSAWEL.

G-WEKNOG-LE.

ABERTAWY.

DOWLAIS.

CAEEG-YBI. ; plei(

GOWEE, MORGANWG. s