Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
13 articles on this Page
[No title]
[Nid ydym y gyfrifol am syniadau ein Gohebwyr; ac nid yw eu cyhoeddiad yn ein colofnau yn ddigon i brofi ein bod yn eu cymmeradwyo. Nis gallwn eu can allan heb gr.el ein cyhuddo o geisio cyfyngu ar ryddid y wasg.—Y GOLYGWYB.]
LLAI 0 SWN ER MWYN POBPETH,…
LLAI 0 SWN ER MWYN POBPETH, A MWY 0 WAITH. At Olygwyr y Tyst Cymreig. Pan oeddwn yn hogyn ieuangc yn yr ysgol ddydd- iol, yr oedd yr ysgolfeistr yn hynod hoff o'r frawddeg ganlynol:—Now empty barrels, little less talk, and more work, will you. Yr hyn o'i gyfieithu yw,—nawr y barilau gweigion, 'chydig lai o siarad, a mwy o waith, wnewch chwi. A chyn wired a bod baril wag yn cadw mwy o swn na baril lawn, fel rheol, y rhai a siaradant fwyaf a wnant leiaf. Ac nid disail yr hen ddihareb Gymreig, 'yr hwch fud fyt y sog i gyd.' Er mai cosb am bechod ydyw fod yn rhaid i ddj-n fwyta bara trwy chwys ei wyneb, h.y. fod yn rhaid iddo weithio neu newynu; eto dylem fod yn ddiolch- gar iawn am fod y gosp hon yn debyg o bara mewn grym tra parhao plant Adda i wisgo clai, oherwydd pe byddai raid i ni fyw mewn byd poblogedig a dyn- ion segur, dyn helpio tabyrddau ein clustiau. Ond dyna oeddem am ddyweyd, ys dywed ambell i bfegethwr, pan wedi rhoddi naid dros y berth a gadael ei bwngc ar yr heol,—taclau noisy ofnadwy yw y Liberal party fel rheol. Pa un a'i canmol rhyw fesur neillduol, neu clynu y llinyn mesur dros ein gwrthwynebwyr, neu gynllunio pa fodd i weith- redu yn y dyfodol, neu yn nghanol dwndwr a berw etholiadol y byddom, rhaid i ni gael cadw cyflawn- der nid bychan o ystwr, cyn y byddom yn deilwng o honom ein hunain, pan mae ein gwrthwynebwyr yn ddirgelaidd gynllunio, ac yn gweithio allan eu cynlluniau yn ddistaw fach, mewn manau a lleoedd mor ddirgel ac anghyoedd fel na wel llygad barcud mo honynt. Gallwn gymeryd un eiigraifft o blith lluaws o amgylchiadau cyffelyb. Meddylier fod the right hon. member for the Borough of B. yn dygwydd marw, (pe dyg-wyddiad hefyd) neu trwy farwolaeth ei dad yn cael ei godi i'r House of Peers, yr hyn sydd yn cymeryd lie yn ami. Yn mhen ychydig ddiwr- nodau bydd rhyw hon. Member yn Nhy y Cyffredin yn cyajgfor the issue of the wr it for the Borough of B. a rhyw the right hon. gentleman yn ei eilio. Wel nawr am dani, cyn pen pedwar diwrnod, bydd dau o ymgeiswyr o olygiadau gwleidyddol gwahanol, fel dau geiliog ar y maes yn sefyll am yr anrhydedd o gynrychioli trigolion B. yn Nhy y Cyffredin. Boreu dranoeth bydd rhyw ddwsin o flaenoriaid cefnogwyr Mr. R., y tory candidate, yn canvassio y dref. Ac ar 01 gorphen, a derbyn addewidion diysgog gan fwy- afrif yr etholwyr; cyfarfyddant a'u gilydd (nid ydym yn cymeradwyo yr arferiad cofier, ond yn unig adrodd y ffaith) cyfarfyddant a'u gilydd yn y Castle Hotel. Nid ydym yn gwybod wIth gwrs pa beth y maent yn wneud yno, oherwydd y mae ganddynt ddyben wrth gadw eu proceedings yn ddistaw. Ac yn ddistaw y byddant, os na' ollynga rhyw libyn pen- chwiban y gath trwy'r cwd, wrth dymblo ei hen gorpws tuag adref y noson hono, fel pe bae am roddi arllwysfa i'r cyfan a gymerodd le, er dial ar ei gyf- eillion am gorddi ei fenydd a champagne—ond rhaid peidio sylwi ar hwna, oherwydd Tori clwl, a'r Tori dwl hwnw wedi meddwi yw hwnyna. Tydi o ddim yn gynrychiolydd teg o'r frawdoliaeth Doriaidd o gwbl. Felly byddant yn cyfarfod a'u gilydd,—gan ychwanegu eraill at eu nhifer os meclrant-mor fynych ag y byddo hyny yn angenrheidiol, hyd ddydd yr etholiad. Yn bcrffaith ddistaw a diclwrw. Wel, beth am weithrediadau yr ochr Ryddfrydolf 0 mae public meeting i fod yn y Town Hall nos Fawrth nesaf. Boors open at 7 o'clock, to commence at S precisely. Tua chwech o'r gloch nos Fawrth, bydd dau neu dri o heddlywodraethwyr y dref yn cerdded amgylch ogylch y Town Hall, fel rhai yn berffaith ymwybodol gweision i bwy ydynt. Yn pwyso ar y muriau, ac o amgylch y drysau, bydd rhyw dair neu Yi bedair dwsin o ddynsodach y lie, yn debycach i ffyrnigwylltfilod y maes nag i fodau rhesymol, yn arllwys allan, yn eu dull a'u hiaith eu hunain eu gol- ygiadau gwleidyddol. A gwae neb pwy bynag a ddywedo air yn eu herbyn. Mae hi yn bresenol yn 7 o'r gloch a nifer y wall leaners wedi cynhyddu yn ddirfawr, a'r ferocious political debate wedi poethi i'r fath raddau, fel mae yn rhaid ei phenderfynu trwy athrawiaeth y dwrn, &c., cael nifer fechan o'r black- eye witnesses i gadw night-icatch ar weithrediadau y public meeting, yr hwn sydd i ddechreu am 8 o'r gloch precisely. Ust! dyma hanner awr wedi saith wedi dyfod i ben o'r diwedd. A braidd cyn fod cadwr y neuadd wedi cael amser i agor y drysau, dyna bedwar neu bum cant o'r cymmeriadau y buom yn edrych arnynt yn ystelcian oddi amgylch y muriau wedi rhuthro i fewn, ac yn brysur chwilio am leoedd es- mwyth i osod eu pwys i lawr. Erbyn wyth, yr oedd yr ystafell eang wedi ei gorlenwi, pryd y torwyd ar ddistawrwydd y disgwylyddion gan floedd aflafar rhyw un o ganol y dorf—The time is top. Canlynwyd ef gan y chwibaniadau, y screams, y shrieks, a'r ys- grechian mwyaf annynad a ddisgynodd ar dabyrdd- au clustiau dyn erioed. Felly y parhaodd pethau am ryw bum neu ddeng munud. Ond yn ddisym- wth cyfnewidiwyd yr ysgrechau a'r chwibianui floedd orfoleddus o hurrahs a chlapio dwylaw, nes oedd yr ystafell gadam yn crynu o'i seiliau hyd y nefoedd. Be sy nawr te ? 0, Mr F., y maer, a Mr S., yr ym- geisiwr Rhyddfrydol, a'i gefnogwyr sydd yn dyfod i fewn, gan estyn eu cegau fel gwyddau dros ben y dorf wrth ymwthio drwyddi, fel pe buasent bron llewygu o hiraeth am gael eu gweled ar y platform. Ar ol esgyn i'r esgynlawr, a gosod eu hunain yn drefnus, ceir gweled un o'r esgynlawrion, ar ol tac- lysu ei wasgod, trefnu chaiib aur ei watch arian, cyf- eirio cadach ei wddf, gosod cydynau ei wallt olew- liwiol oil yn eu lie priodol, a gosod ei dipyn corporal appearance mewn man digon prominent i bawb o'r gwyddfodolion i allu ei weled, dechreua siarad fel y canlyn:— Ladies and Gentlemen,—I beg to propose that Mr F.,our worthy mayor, take the chair. Though I am encircled as it were, with eloquent, able, and influ- ential gentlemen, yet, even on this platform, I ven- ture to say without being insulting to any one, a more able person could not be found to take the chair than our worthy mayor. (Hear, hear.) I am sure that you will not envy me few minutes, just te reca- pitulate, very briefly, the unequalled, the ceaseless, the unwavering, the unwearied, and I may say the boundless service which Mr F., our worthy mayor, has rendered for so many years to the inhabitants of the borough of B. And so on-am bum neu saith munud. Ac ar ol iddo gael nerth i dewi, neu fethu cofio dim rhagor i ddyweyd, nid ydym yn sicr pa un, dyna ryw greadur bach barfog arall yn cymmeryd ei le ac yn dechreu ar ei lith yntau yn y drefn ganlynol:— Ladies and Gentlemen,- With great pleasure in- deed, I take the opportunity to second my dear friend Mr M., that Mr F., our worthy mayor, is to take the chair. Mr M. has very ably put before you the boundless service which Mr F., our worthy mayor, has rendered to the inhabitants of the borough of B. Being aware, as you all must be, of the unspeak- able service which he has rendered us for so many years, and being touched, as it were, with the elo- quent speech of my friend Mr M. in proposing Mr F. to the chair, I am sure that you will all concur with me, when I say that we ought to feel very proud indeed that we have such a gentleman amongst us as our worthy mayor, who is always ready to support us in every good and glorious cause, such as we now have in hand. But, that I may not rob others of their valuable time, whom I am sure, as myself, you are very anxious to hear every one that is for Mr F., our worthy mayor, to take the chair, let him hold up his right hand. Carried unani- mously. 'Nawr, dacw ein worthy mayor, y clywsom gym maint am dano, ar ei draed. Gobeithio y dywed air neu ddau i'r point, a dim yn rhagor. Gwrandewch, dyna fe 'n dechreu. Ladies (rhyfedd mor graffus mae eu llygaid i gyd. Ni allem fyn'd i'n llw nad oes yr un lady yn y dorf, os nad ydyw holl malapertesau a budrogenesau isel- af y dref wedi troi yn Ladies,) and Gentlemen, Electors and non-electors of the borough ofB. After the flattering manner in which I have been proposed and seconded to take the chair this evening, I feel that I cannot refuse. (Hear, hear.) Though I deeply feel that I am placed in such a position that it ill becomes me to shew any bias whatever towards one side more than the other, in the critical question of electioneering, yet I cannot refrain myself from saying that I am a true Liberal from the soles of my feet to the very crown of my head. (Loud and prolonged cheers.) I am a warm supporter of the ballot (hear, hear). It is very natural that I should take a very lively interest in the welfare and happiness of the inhabitants of the Borough of B. It was in this ancient Borough I was bred and born. Tyt, baw, nonsense, bost, trash i gyd. Beth sydd gan hynyna i wneud a'r pwngc, dywed ? Ai nid sicrhau dychweliad yr ymgeisiwr rhyddfrydol i gyn- nrychioli y fwrdeisdref B. yn Nhy y Cyffredin ddylai gael y sylw penaf yn bresenol, ac nid gwran- do ar ryw folwyntyn fel yna yn adrodcl hanes ei fywyd ? Ond waeth ar y ddaear, dyna y llwybr a gymmerodd Mr Chairman am ryw hanner awr, pryd y galwodd ar Mr S. yr ymgeisiwr rhyddfrydol i anerch y dorf, a rhyfedd yr hwyl a gafodd hwnw drachefn wrth adrodd y gwrhydi oedd ef wedi wneud yn y byd, yr anfanteision yr oedd wedi gwneud ei hun yn agorcc1 iddynt oherwydd ei olyg- iadau gwleidyddol; ac yn neillduol wrth ddifrio Mr Disraeli a'i gefnogwyr. Wedi siarad am yn agos i 1:1 z!1 ddwy awr eisteddodd i lawr yn nghanol cymmerad- wyaeth uchel. Ac ar ol y penderfyniadau, y seboni, a'r cliolchiada-Li. i'r darlithydd, y cadeirydd, y cyn- hygwyr a'r cefnogwyr, gorphenwyd y cyfarfod, a chyfrifwyd ef yn grand success yn mhob ystyr o'r gair. Na feddylier ein bod wedi defnyddio gormod- iaeth wrth ddarlunio y cyfarfod uchod. Yr ydym yn apelio at y darllenydd, a'i ni welaist gyfarfodydd tebyg iawn i'r darlumad uchod, pan fuasai aelod ar gael ei ddychwelyd i'r Senedd ? Cadwyd cyfarfodydd tebyg i'r un uchod bob yn ail nos, gan y Rhyddfrydwyr hyd ddydd yr Ethol- iad. Ysgrifenwyd eu hanes i wahanol newyddiad- uron Cymreig a Seisnig. A defnyddiwyd yr iaith gadarnaf wrth sicrhau y cyhoedd, fod dychweliad yr ymgeisiwr rhyddfrydol y tu hwnt i bob amheuaeth. Ond tra yr oeddynt hwy yn cynhal eu public meetings i ddifyru outcasts y dref; yr oedd y Tories yn gofalu yn fanwl am yr Etholwyr. A phrofwyd hyny ar ddydd yr Etholiad yn nychweliad y Tory Candidates gan fwyafrif o 40. Nifer yr Etholwyr oedd 1500. Mae public meetings a swn o'r goreu yn eu lie, a'u hamser, ond nid oes genym fawr o ffydd ynddynt pan fydd Etholiad yn yr ymyl. Yr hwn sydd frwnt, bydded frwnt eto, yw hi y pryd hwnw. Ac os na fydd yr Etholwyr wedi eu dysgu cyn mis i ddydd yr Etholiad, fod o bwys gyda phwy y rhoddant eu votes, nid oes rhyw obaith eryf iawn y cant droedigaeth yn y public meetings. Ac os ydych wedi sylwi, nid y voters sydd yncael yr hwyl fwyaf yn ypublic meetings, i beth ynte y treuliv amser i argyhoeddi y cymmer- iadau sydd yn argyhoeddedig eisioes, ac nad oes ganddynt lais eto yn nychweliad aelod i'r Senedd, ar sail esgeuluso y rhai a fedrent ein cynnorthwyo. Gwelwn oddiwrth yr hyn a fu dan sylw:- 1. Gan fod yr Etholiad cyflxedinol yn yr ymyl, a phob tebygolrwydd y bydd yn un o'r etholiadau poethaf a gymmerodd le er ys llawer o amser; gof- alwn am sylwedd ac nid swn erbyn y frwydr. 2. Gan mai yr Etholwyr sydd yn troi y fantol ar ddydd yr Etholiad, cofiwn fod yn well i ni ofalu am undeb a chydweithrediad yr Etholwyr, na chodi holl outcastsy cyfansoddiad i hwyl i waeddi hurrah a blue for ever ar hyd conglau'r heolydd. 3. Gan fod athrawiaeth yr It is trite because I saw in print mor gryf, coiied jtysgrifenwyr y 'gwahanol newyddiauuron mai cam a'r cyhoedd yw dweyd dim mewn perthynas i Etholiadau, heb fod seiliau cedyrn i'r hyn a ddywedir. Ydwyf fy anwyl gydwladwyr yr eiddoch. oil yn iach a chysurns, Gorph. 10, 1868. THOS. SELBY Jmms. At Olygwyr y TYST CYMREIG. Foneddigion,—Addawsom anfon i chwi y sylwad- au a wnaeth Griff wrth ac ar ymddygiad Mari gwraig Dafydd Fythelig. 'Nawr ynte am araeth Griff. 'Y mae yn ddedwydd iawn gweled ambell i wraig yn meddianu cydwybod oleu a gonest,' ebai Griff, fel sydd genyt ti Mari. Yr ydwyt, o wir barch at dy wr, a pharch cyfartal at y gwirionedd, wedi defnyddio moddion doeth er ei ddarbwyllo o anmhriodoldeb a thuedd niweidiol ei ymlyniad ar- iangar wrth Diotrephes. Yr ydwyt eisioes wedi dechreu mwynhau y wobr y mae Paul yn ddywedyd sydd i'r cyfryw sef I I enill dy wr." Y mae llawer o gymhell ar y gwyr i fod yn wrol, sefydlog, a selog dros eu hegwyddorion yn y dyddiau hyn ond nid oes nemawr neb yn cymhell y gwrag- edd i ddefnyddio eu dylanwad cartrefol ar eu gwyr, er dwyn yr egwyddorion i ymarferiad. 4 Y mae llawer gwraig am gau genau ei gwr, rhag mynegu ei farn yn onest ar ryw fater, os bydd drwy hyny yn sefyll mewn perygl o golli rhyw driflc, megys swllt yn yr wythnos. Yr elw arianol ydyw y bywyd a'r gogoniant gan yr holl ddosparth hwn, ac y mae yn rhaid fod gwrthddrychau eu mwynhad ysprydol yn fach iawn iawn. 0 fel y mae iawn olwg ar eangder a rhyddid egwyddorion da yn effeithio er dyrchafu, urddasoli, ac ysprydoleiddio y teimladau a'r syniadau dynol. Bum yn rhyfeddu, cyn hyn, sut y darfu y Merthyron gymmeryd eu hamddifadu o'u bywydau a'u hysgaru am byth (yn y byd hwn) oddiwrth eu gwragedd a'u plant pa rai a garent mor anwyl a'u bywydau eu hunain. Ond, y mae y Broblem hon yn oleu ac eglur i mi heddyw. Y mae dau fath o fywyd yn perthyn i ddyn, sef y corphor- ol, a'r crefyddol a moesol. Y mae y crefyddol a moesol yn uwch, yn werthfawrocach, yn fwy par- haus, ac yn fwy dwyfol a nefol na'r corphorol. Y mae y corphorol yn ymddibynu ar y swllt a'r dorth a'r cyffelyb, ond rhaid cael cyfiawnder, uniondeb, dyn- rwoh, a i-ight i gynhal y crefyddol. Rhoddi ,a ein rhyddid am y swllt ydyw aberthu y dyn er mwyn yr anifail, dewis y lleiaf ei werth o flaen y mwyaf gwerthfawr. Yr oedd gan y merthyron iawn syniad am y daearol a'r crefyddol. Yr oedd eu dewisiad yn beffaith gyson ag egwyddorion gwreidd- iol rheswm a threfn. Yr oeddynt wrth ddewis right o flaen wrong, yn gweithredu yn gyson ag egwydd- orion cyfansoddiadol crefydd, cyn gystal ag a chredoau gwreiddiol eu syniadau moesol. Y mae graddau uwch i'r naill na'r llall o'r gwa- hanol greadigaethau ag sydd yn bod, ac y mae y dyn goleuedig a chydwybodol yn medru mesur eu teilyngdod a'u rhagoriaethau yn ol terfynau eu hurddas a'u defnyddioldeb, ac yn eu gwerthfawrogi yn ol eu graddau. Y mae aderyn y to, y golomen, a'r eryr, raddau yn uwch na'u gilydd yn nhafol bodolaeth, ac edr- ychem ar ddyn a roddai fwy o werth ar aderyn y to nag ar y golomen fel dyn anghymwys i roddi barn deg ar bethau yn ol cyfartaledd eu gwerth. Yn union yr un fath yr edrycha y gwir ddyn ar y sawl ag sydd yn caru ac yn anrhydeddu trais ac anghyf- iawnder o flaen rhyddid a gwirionedd. Yn awr, barnwyf mai yr ystyriaeth o deilyngdod rhyddid a thegwch a barodd i Gladstone wneud yr anturiaeth a wnaeth. Dylai holl eglwysi y byd ddilyn ei esiampl a mabwysiadu ei egwyddorion. Teimlo yn briodol tuag at urddas a gwerth eg- wyddorion da ydyw dylcdswydd pob crefyddwr; ond, yn lie hyny, cawn luaws o ddynion yn proffesu crefydd heb un nerth ynddynt i wrthwynebu drwg, ond ymollyngant yn rhydd gyda'r gweledig a'r dar- fodedig ar draul dibrisio a diystyru egwyddorion tragwyddol rhyddid ac uniondeb. Wrth weled cref- yddwyr mor llesg a diegni ac anghyson nid yw yn rhyfedd focl eymmaint o wrandawyr da, rheolaidd, a boneddigaidd i'w cyfiawnhau yn hollol mewn aros heb uno a llawer eglwys. Pan yr edrychom ar gymmaint o ddynion dilywodraeth, annonest, ac afresymol ag sydd yn "dilyn crefydd" felydywedir, pa ryfedd fod ambell i ddyn yn hofii yn hytrach golli dagrau wrth ddrws eglwys Dduw nag ymgym- mysgu ag aelodau afreolus ac anghyson ? Tybed nad oedd gan Ragluniaeth olwg ar gyffroi crefyddwyr y wlad i edrych i mewn i deilyngdod yr egwyddorion a broffesant wrth godi Gladstone i daflu tan i'r gwersyll gwladol. Yn yr etholiad dyfodol, ceir gweled llawer dyn ag sydd yn gwisgo yinddangosiad allanol teg gyda chrefydd, fel llong heb un llyw, yn gwbl wrth dru- garedd yr ystormydd a'r tonau. Bellach, Mari, y mae yn rhaid i mi ddymuno noswaith dda i chwi; ac yr wyf yn gobeithio y byddwch yn offerynol i ddwyn Dafydd i ddewis y gwrthddrych o flaen y cysgod. Good bye 'nawr.' Yr ydym wedi ystyried yr amgylchiadau a ol- rheinir yn hwn a'r llithiau blaenorol ar yr un testun yn werth eu cyhoeddi. Gwyddom fod cannoedd o fath Dafydd Fythelig, Diotrephes, a Tory, i'w cael yn Nghymru. Ond ychydig iawn o figures tebyg i Griff a Gladstone geir yn eu mysg. Prysured yr amser pan y byddo llys cyfiawnder yn cael ei ddal, nid o hirbell ond ger bron llygaid pob dyn byw, yw dymuniad calon Caerfyrddin. G LADSTONIAN
Y MAN FASNACHDAI A'R SABBATH.
Y MAN FASNACHDAI A'R SABBATH. At Olygwyr y Tyst Cymreig. Foneddigion,—Yr ydwyf yn darllen y TYST yn gyson er ei gychwyniad, a gallaf eich sicrhau, fy mod yn ei hoffi yn fawr, ac yn cael bias neillduol wrth ei ddarllen. Hir oes iddo, meddaf fi o'm calon. Yr wyf wedi bod ar fwriad, er's amser maith bellach, i anfon pwt o ohebiaeth i'ch sylw; ond yn methu yn deg a phenderfynu beth i'w ddweyd wrth- ych; mor gynted ag y byddaf wedi dechreu ysgrif- 9T enu llith sgleigaidd' i'w hanfon i chwi, dyma DYST arall allan, a rhyw Ohebydd neu gilydd yn trin yn ddoniol ar y pwnc oedd genyf mewn llaw. Ond y mae un arferiad neillduol, ag sydd yn ffynu i raddau helaeth yn y gymmydogaeth hon, yn ymwthio i'm meddwl ar hyn o bryd ac nid wyf yn cofio fod un sylw ar y peth wedi cael ei wneud yn uniongyrchol y ar dudalenau y TYST. Yr wyf yn ceisio cyfeirio at y siopau bychain (Toy Shops) ag sydd ar hyd a lied ein gwlad a'n pentrefydd, prif nwyddau masnachol y rhai sydd yn gynwysedig mewn sweets, afalau, cnau, marbles, tops, &c., &c., y rhai sydd yn gwneu- thur eu prif fasnach ar ddydd yr Arglwydd. Yn ol fy marn ostyngedig i, barnaf eu bod yn gwneud niwaid mawr i'r to ieuainc sydd yn codi, ac y bydd yr arferiad o wario eu ceiniogau; ac yn benaf ammharchu y Sabbath, yn dylanwadu yn ddrwg ar eu bucheddau yn y dyfodol. Ond nid wyf yn beio y plant gymmaint a'r rhieni yn y mater hwn, (waeth bydd plant yn blant yn mhob oes o'r byd). Y mae yn arferiad gan lawer o rieni yn y gymmydogaeth hon, (ac mewn cymmyd- ogaethau eraill o ran hyny,) i roddi pres i'w plant i'w gwario, yn enwedig ar y Sabbath a'r mwyafrif o'r cyfryw rieni yn aelodau o eglwys Dduw, ac yn proffesu parch i'w ddydd sanctaidd Ef; ond er hyny yn cyfranu, (efallai o ddiffyg ystyriaeth briodol,) er cadw i fyny fasnach ar y dydd sanctaidd hwn. Rieni, diwygiwch yn y peth hwn, a gofalwch rhag cefnogi eich plant i wneud Dydd yr Arglwydd yn ddydd i fynychu y lleoedd a enwyd. Mae arferion ieuenctyd yn g-wreiddio yn ddwfn yn nghalonau y plant, a bydd i'r had a hauir yno flaguro er da, neu er drwg, yn eu hymarweddiad, wedi iddynt dyfu i fyny. Gan obeithio y gwna yr ychydig linellau hyn, ddal sylw rhywrai ag sydd yn euog o'r pechod hwn, y gorphwys hyd y tro nesaf, St. Thomas, Abertawy. CLYDEY.
PREGETHWYR TEITHIOL, A MASNACH.
PREGETHWYR TEITHIOL, A MASNACH. At Olygwyr y TYST CYMREIG. Yr wyf wedi talu sylw neillduol i amgylchiadau preg-ethwyr teithiol am lawer o flynyddau bellach, ac wedi cael bob cyfleusderau i ddeall eu dybenion yn dyfod o gwmpas y wlad. Pe na byddai hunan- les yn fwy yn eu golwg na dychweliad pechaduriaid, ni fuaswn yn cymmeryd fy ysgrifell mewn llaw i sylwi ar eu hysgogiadau. Y dosparth cyntaf a nodaf yw y rhai a ddeuant oddiamgylch i werthu llyfrau.—Y rhai hyn yn y cyff- redin ydynt weinidogion mewn eglwysi gweinion yn y wlad. Nid digon i'r rhai hyn yw cael tal am bregethu, a lletty cysurus ar draul yr eglwys a fydd- ont yn ymweled a hi; ond gan fod yn rhaid iddynt dalu ymweliad a phob capel mewn ardaloedd anhys- bell, nid yw cyfleusderau y rheilffyrdd yn ddigonol iddynt, o ganlyniad rhaid iddynt farchogaeth ar geffyl, ac y mae cadwraeth y ceffyl a'i feistr yn faich trwm ar gefn eglwysi mewn trefydd lie nad oes ganddynt wair na phorfa heb dalu y pris uchaf am danynt. Adwaenwn un o'r dosparth hwn yn ddiweddar, wedi bod yn gyru yn ei chwys ac yn Uuddedig gan y daith, o gwmpas tai yr aelodau yn y wlad, yn carlamu er cyfarfod a'i gyhoeddiad yn y dref; a gall pawb wybod mai nid ar ychydig sylltau o draul i'r eglwys yr ymadawodd, gan fod y diwmod nesaf yn ofynol iddo cyn gallu cyflawni ei ddybenion trwy dalu ymweliad a gwahanol aelodau y capel. 2. Y nesaf yw y rhai a ddeuant oddiamgylch i bleidio rhyw gyhoeddiad sectyddol. Dylai bob cy- hoeddiad gymmeradwyo ei hun trwy gynnwysiad ei erthyglau, heb fod angen am ryw brops gweinion fel y cyfryw i'w gadw rhag syrthio i ebargofiant trag- wyddol. Ond wedi y cwbl, os oes angen am bleidwyr cyhoeddus iddo, pwy ddylai dalu eu treulion? A ydyw beichio eglwysi fel hyn yn unol a Dadgudd- iad? 3. Dosparth arall yw y rhai a deithiant y wlad i gasglu at y Colegau. A oes angen am y fath gyn- ilun o gasglu? Gwn am lawer o eglwysi na chania- taent i gasgliad gymmeryd lie ar amser eu hymweliad, er eu bod mor selog a neb i gyfranu at yr achos. Casglant hwy yn flynyddol ar ryw amser neillduol, a throsglwyddent yr arian i'r trysorydd gyda'r eyf- leusdra cyntaf. Nid yw ymweliadau y brodyr ieu- ainc, yn ol y cynllun hwn, ond gosod traul afreidiol ar yr eglwysi; a chynghorem i'r arferiad presenol gael ei anghymmeradwyo gan bawb a bleidiant y cyfryw sefydliadau. 4. Rhywogaeth arall o deithwyr ydyw y rhai sydd a'u bwriad ar ymfudo i wlad y gorllewin. Gwelwyd rhai yn marchogaeth yn drwm ar gefnau eglwysi gweinion i ymofyn am gynnorthwy i fyned i'r wlad rydd,' am fod y trethi a beichiau trymion y wlad hon yn eu llethu i'r llawr. Gwelais un hefyd yn ddiweddar wedi dychwelyd o'r wlad hono yn ddiar- wybod i'w wraig, a hono, oblegid ei absenoldeb di- symwth, yn gofyn am ryw wybodaeth am dano trwy gyfrwng Newyddiaduron y wlad hon. Cafwyd fod yr hen frawd yn diwyd lanw ei goden trwy wahanol siroedd y Deheudir, a phan gyrhaeddai y pres hyd yr ymylon, bwriadai ddychwelyd i fwynhau byd da yn helaethwych beunydd yn ngwlad machludiad haul, Pa beth yw hyn amgenach na thaflu llwch i lygaid cynnulleidfaoedd ? Lie byddo gweinidogion sefydlog mewn eglwysi, nid oes angen am ymweliadau parhaus y cyfryw a nodwyd; ac onid yw yn brawf fod y baich yn cael ei deimlo, pan y gwelir rhybuddion cyhoeddus oddi- wrth eglwysi nad ydyw yn gyfleus iddynt eu derbyn, am fod amgylcliiadau yr achos yn isel. Yr wyf yn caru gweled ryw hen weinidog cymmeradwy yn talu ymweliad achlysurol,—mae hyn yn magu rhyw hen deimladau cynhes. Rhaid hefyd ganiatau fod yn angenrheidiol i Fyfyrwyr y Colegau fyned oddiam- gylch, er rhoddi prawf o'u galluoedd pregethwrol, a thrwy hyny ennill cymmeradwyaeth iddynt eu hun- ain, ac ymdrechu cael galwad i fod yn weinidogion mewn eglwysi amddifaid o athrawon yn ngair y gwirionedd; ond nid priodol yw i'r rhai hyn ddyfod yn gyplau ar nos waith i gapeli gweinion eu ham- gylchiadau, a bychain eu nifer. Gwn fy mod yn y sylwadau blaenorol yn amlygu teimladau ugeiniau heblaw fy hunan; a hyderir y cymmerir yr awgrym yn garedig-, ac y bydd diwyg- iad cyflredinol yn cymmeryd lie yn yr hyn a ystyriwn yn feius. DYFEDWR.
MARWOLAETH MR. EVAN OWENS,…
MARWOLAETH MR. EVAN OWENS, LIVERPOOL. At Olygwyr y TYST CYMREIG. Foneddigion,—Yr ydwyf yn awr am draethu ychydig o'r teimladau dyeithr a'm meddiannai pan welais y geiriau uchod yn y TYST nos Wener diweddaf, sef marwolaeth fy hen athraw Mr Evan Owens. Ni feiddiwn ar y cyntaf ddarllen ychwaneg na'r heading, gan fy ofn mai y gwr a hoffwn mor fawr oedd wedi marw, canys yr oeddwn wedi clywed gan ei hoffus weinidog fod ei iechyd wedi ei amharu. Ac ar ol edrych yma ac acwar hyd y TYST, ond yii methu dar- llen dim, ie, hyd yn nod llith yr Hen Deiliwr, nid oedd dim a'm tawelai ond cael gwybocl pwy oedd y gwr, ac er fy ngalar yr oedd yr hyn a ofnwn yn rhy wir. Yr oeddwn wedi addaw i mi fy hun y pleser o dreulio Sabbath yn Liverpool tua diwedd Awst, ac 0 mor ddymunol fuasai genyf gael ysgwyd llaw a gweled wyneb y Cristion didwyll, a'r cynghorwr nefolaidd, Mr Evan Owens. Ond y llygaid a'i gwelodd nis gwel mwy. Na, y mae ei le yn wag gartref ac yn yr eglwys: A'i le nid edwyn ddim o hono ef mwy.' Eto y mae ei goffadwriaeth yn fendigedig,' oblegid un o rai rhagorol y ddaear' oedd efe, 1 ac y mae efe er wedi marw yn llefaru eto' yn ei esiamplau a'i gynghorion. Fel cynghorwr ni welais ei gyffelyb. Cynghori i bwrpas y byddai, yn ncillduol y bobl ieuainc, dros y rhai yr oedd ganddo fawr ofal calon.' Yn wir, i'm tyb i, yr oedd hen eglwys y Tabernacle yn nod- edig am ei gofal o'r praidd bychain' hyn. Yr oedd Mr Owen yn hyddysg yn y llyfr,' ac wedi trysori llawer o hono yn ei gof-ie, wedi ei ysgrifenu ar lech ei galon,' yr hyn oedd yn dra manteisiol iddo fel diacon, ac fel athraw. Ni fyddai dim yn ei flino yn fwy na chlywed ambell i lefarwr cyhoeddus yn llurgunio adnodau y Beibl. Ond nid oedd berygl iddo byth gael ei flino o achos hyn gan ei weinidog, canys y mae efe yn dcliail am draethu adnodau y Beibl megis y maent yn ysgrifenedig yn I rhol y llyfr.' Gan ein bod megis yn ddiarwybod i ni ein hunain wedi crybwyll am adnodau, daeth i'm medd- wl un amgylchiad arbenig, pan gyfododd Mr Owens i fynu i gorrectio esboniad un o'i frodyr diaconyddol ar yr adnod hono—'A'r meirw yn Nghrist a gyfod- ant yn gyntaf.' Yr oedd gan eglwys y Tabernacle fedd yn perthyn iddi, (na ryfeddwch am hyn) er cyfleusdra i'r aelodau hyny nad allent fforddio talu am le beddrod, canys y mae y tlodion gyda ni bob amser;' ie, yn y trefydd mawrion. Pa fodd bynag, yr oedd y bedd wedi llenwi, ac angen bedd newydd, ac felly cododd y brawd yr awgrymir am dano uchod i siarad ar y priodoldeb, neu ysgrythyroldeb efallai a ddylaswn ddyweyd, o gael bedd arall yn eiddo i'r eglwys; ac yn ei sel am gael bedd, rhoddodd yr esboniad anghywir ac arwynebol a ganlyn,—Y bydd y duwiol yn adgyfodi o flaen yr annuwiol, ac o gan- lyniad mor annymunol a fuasai claddu y duwiol a'r annuwiol yn yr un bedd, yn enwedig os rhoddid y duwiol yn isaf. Eithr cyfododd Mr Owens i fynu, ac mewn dull addfwyn cywirodd yr esboniad anghywir-yr oedd ein cyfaill mor selog a neb am gael bedd, eto nid oedd yn gweled angen am wyr- droi meddwi amlwg yr adnod er cyrhaedd hyny. Fel athraw, yr oedd yn rhagorol. Ceisiai nid yn unig addysg ddeallol, trwy egluro y gwirionedd, eithr hefyd amcanai wasgu a chymmhwyso y gwir- ionedd at gyflwr a chydwybod ei ddosbarth, ac an- nogai hwynt yn ddifrifol i geisio crefydd yn ddioed. Byddai dda i lawer athraw ei efelychu yn y peth hwn. Yr oedd yn hawlio gwrandawiad pa bryd bynag y llefarai—yn y dosbarth neu yn yr eglwys; o blegid nid dyweyd rhywbeth y byddai, ond llefaru geiriau gTasusol,' y cyfryw ag oedd dda i adeiladu ynfudd- iol.' Fel gweddiwr yr oedd yn dywysog;' canys yr oedd yr Ysgrythyr at ei alwad, a'i ddifrifwch pan wrth yr orsedd yn angerddol. Etto, ni byddai yn arfer y rhwnc a'r ysgrechfeydd aflafar a glywir weithiau, a gwyn fyd nad ellid diddymu yr arferiad gwrthun ac anfuddiol o'n heglwysi. Nodwedd arall yn nghymmeriad ein cyfaill oedd gweithgarwch crefyddol. Yr oedd ganddo galon i weithio gyda phob rhan o waith yr Arglwydd. Nid annog ereill i wneyd y byddai, ac esgeuluso gwneu- thur dim ei hun. 0 na, os byddai casgliad, nid oedd neb yn fwy parod nag efe i gyfranu. Yr oedd yn ddefod yn y Tabernacl o wneuthur casgliad, neu yn hytrach gasglu addewidion yn yr Ysgol Sabbathol at y colegau a'r cymdeithasau crefyddol, ac fe allai fod yr arferiad yn parhau etto. Pa fodd bynag, yr oedd yn ffordd dra manteisiol er cael casgliad da, a gwyr y colegau a'r cymdeithasau mai casgliad da fyddant yn gael yno bob amser canys yr oeddynt yn y gras hwn yn ehelaeth, ac ystyried rhif a sefyll- fa yr eglwys. I'r diben o'n tynu ni allan fel dos- barth i roi yn haelionus, addawai ein hathraw roddi cymmaint a ni i gyd. Wrth derfynu, rhoddwn ar lawr un sylw o'i eiddo a ddywedodd mewn I eyfarfocl parotoad.' Ni chlyw- som y sylw gan neb arall, sef yw hwn.—' Mai un cymmhwysder neillduol wrth ddyfod at Fwrdd yr Arglwydd ydyw gallu anghofio pob peth arall, nes gallu sylweddoli yr adnod hon, Pwy sydd genyf yn y nefoedd ond tydi, ac ar y ddaear ni ewyllysiais neb gyda thydi. Diammheu y byddai fel pob Cristion yn cael ei flino gan feddyliai ofer, ac yn cael tipyn o waith tarfu ar yr adar ysglyfaethus hyn, etto o bob amser onid dyma yr amser ag y mae ar y meddwl fwyaf o angen am lonyddwch ? Ond erbyn hecldyw y mae wedi cael buddugoliaeth amynt oil, ac wedi diangc i wlad well, lie y mae yn y gweled yr Iesu fel y mae, a bod yn dragwyddol debyg iddo. Ffydd y rhai dilynwn, gan ystyried diwedd eu hymarweddiad hwynt.' Hawdd genym gredu pan ddywedir 'fod yn anhawdd hebgor y fath un ar y fath adeg,' o blegid yr oedd efe yn gyf- ryw ag y buasai yn anhawdd ei hebgor ar unrhyw adeg. Ein cofioii. caredig at eglwys y Tabernacl, a'n dy- muniad yw ar fod gogoniant y ty diweddaf yn fwy na'r cyntaf Porthmadog. ROBERT McLEAN.
[No title]
ACHOS HYNOD 0 LOFRUDDIO PLENTYN.—Cyhuddwyd gwraig o'r enw Margaret Nathras, 38 oed, am lofruddio ei geneth fach, yn Neardale. Yr oedd y garcharores yn weddw cyn priodi ei gwr presenol, a ganwyd y plentyn ychydig amser ar ol priodi ei hail wr. Achos- odd hyn dipyn o anghysur rhyngddi hi a'i mhab oedd wedi tyfu i fyny, mewn canlyniyd i'r hyn yr aeth i iselder ysbryd a difaterweh. Wyth niwrnod wedi geni y plentyn, tra mewn ystad o wallgofrwydd, cym- merodd ef i'r pantry a thorodd eiwddfa chyllel fwrdd. Ac wedi hyny aeth oddeuty y ty a'r plentyn marw yn ei breichiau dan gynnyg y fron iddo, a chyda anhaws- der y llwyddwyd i'w gael oddiarni. Am amser wedi iddi gael ei charcharu yr oedd mewn sefyllfa o wall- gofrwydd. Rhyddhawyd hi oherwydd hyny, a gorch- mynwyd iddi gael ei chadw dan ofal, yn ystod ewyllys ei Mawrhydi.
ATEBIAD I DDYCHYMYG ' DEICYN…
ATEBIAD I DDYCHYMYG DEICYN O'R pE,' A ymddangosodd yn y TYST diweddaf. Pwllheli yn Arfon a wneir o dair sill, (Mae pwll ar ryw olwg yn beth digon hyll), A moehyn bob amser sy'n hoffi ymdroi Mewn pyllau a thorn, heb geisio eu 'sgoi; ] Ond. wedi daw angeu i ladd yr hen was, Fe'i bwrir i'r heli amheraidd ei flas Pwllheli gan hyny, Mr Deicyn o'r De, 'Rwy'n dweyd yn dclibetrus yw enw y lie, Ac os nad wyf fi'n methu, (pa beth sydd yn haws I Enw'r creadur yw mochyn drwg naws. 'Rwan, Deicyn, dyna i ti Gyflawn 'sponiad genyf V. Sef John Parry, Castell Carn Dochan Mines, Llan- uwchllyn, Bala. i
UN ARALL..11f
UN ARALL..11f Yn siwr nid oes neb a gyfrifir yn gall Nad ydyw am gadw, a hyny yn ddiball, Rhag syrthio i bwll o fath yn y byd, 1 I Ond ambell un ynddo a geir ar ei hyd; "i Y inochyi)^ geir ynddo braidd yn ddibaiu, 'Nymdreiglo a swehian 3m nghanol y llaid Mor gynted 'r estyna ynta'i goes, f Mewn heli y rho'ir ef yn ddigon difoes. V Yn eglur chwi welwch nad oes man na thre Fel ardal Picllheli trwy'r Gogledd na'r De. Llundain. ISAAC WILLIAMS.
FFARWEL I HEN GYMRU.
FFARWEL I HEN GYMRU. <i Ffarwel i hen Gymru a'i chribog fynyddau, vf n? Hen gartref ddymunol fy nhad a fy nheidiau Ffarwel i bob tyddyn, pob cwmwd a dyffryn, A nentydd sisialog hen fod fy nghynefin; I ffwrdd 'rwyf yn myned, ond pa fodd y'th adawai Co Fy nghartref anwylaf, pa fodd y'th anghofiaf r ar Fy serch a ymglymodd am jnys y bryniau, .1 A'm calon angora o hyd ar ei glanau J Q[ Er taflu y tonau gan erchyll ystomiydd, Hi orphwys yn dawel ar lan ei hafonydd c Ond cychwyn raid i mi dros wyneb y We rydd, • f A cholli fy ngholwg ar Walia wen, lonydd,— j n Y wlad lie chwareuwn fy nghampau digrifol I Yn nghwmni difyrus cyfoedion yr ysgol. pt, 0 ddagrau tryloywon, dowch allan am unwaith, Gan arllwys o'r fynwes heillt ffrydiau o hiraeth. Ond ofer yw gwrandaw ar ffoledd y teimlad, A llais fy serchiadau at fryniau fy mam-wlad, Daw brenin y dydd, a gwen dduwies yr hwvrddyddi Yn ffyddlawn gymdeithion i'm draw i'r wlad newydd; Caf hefyd Greawdwr y cyfan i'm noddi,— Cll Yr un a fydd ef pe bai pawb yn fy siomi; Ce Gan hyny, 0 Gymru, a thi 'rwy'n ffarwelio, ad Ond na foed i'r duwiol o'th fewn fy anghofio ba Bendithion orweddo dros byth ar dy diroedd, an A chrefydd y nefoedd arweinio dy bobloedd; aft Gan erfyn am nodded y nefoedd i'm beunydd, Ffarweliaf am enyd o leiaf a'th lenycld. CYFAILL. 4
Y GERBYDRES. co
Y GERBYDRES. co Llathraidd ar rodau llitlirynt,—tra ebrwydd itn Trwy wybr taranynt, Gan saethu, gwanu y gwynt, Curo buander corwynt!
BEDDARGRAPH Q
BEDDARGRAPH Q 1 Mary a William Williams, Ty Newydd, Colwyn. Deuarwyd y ddau dirion,—dau anwyl, Dau onest eu calon A dau sant a dywys Ion J I ganol sereiff gwynion. 1
BEDDARGRAPH - :^
BEDDARGRAPH I T. Williams, Liverpool. Er huno yn ei oer anedd,—eilwaith and Daw Williams o'r llygredd; f of Bolltiau dor farmor ei fedd j Rnv Agora llaw trugaredd. • t,
Y PARCHEDIG D. PRICE. mf.
Y PARCHEDIG D. PRICE. mf. Cyfansoddwyd a ganlyn, ar i/madau'iacl y Parch.$\ Pricc, Newark, Ohio, a glanau Efrog Newydd, ymdaith am ellyd yn Nghymru, gan ei ai/faill I Griffith, Jifrog Newydd. as j Trwy dirion a thaerion wahoddion, the Mae Dewi Dinorwig yn d'od, t I ymdaith trwy Walia, mi welaf, for Cyn cyraedd i ddiwedd ei nod; Bu'n isel ei feddwl am fisoedd ma Wrth adael ei frodyr difrad, .• J Ond hynod o hoenus yw heddyw, Tan obaith cael gweled ei wlad. Wrth gychwyn ei yrfa yn Arfon, Yn llencyn tra-llongar ei wedd, V. Dechreuodd yn foreu farddoni, A denu y dynion i'r -wledd; Mad ydoedd, a Maldwyn a'i mynodd, 0 Arfon y denwyd y dyn Ac wed'yn tre' Diiibyeh a'i hudodd 0 Faldwyn i'w mynwes ei hun. Ond Davydd feddyliodd fel eraill Mai dyled oedd deol o'i wlad, I geisio cysuron i'w deulu, Lie gellir cael celfau yn rhad 'Nol llawer o brudd-der a phiyder, ^l'° Ymado a mudo a wnaeth, A morio i 'Merig fawreddog, .11in Tan obaith na byddai yn waeth. JOIJ Canaan ni chafodd, mae'n cwyno, rIe Er croesi y Werydd i fyw; '1 • Ysigwyd, terfysgwyd ei deulu Gan artaith clefydau drwg ryw; fro Ac yntau fu agos i angau,— ° Cryd-dwymyn anffurfiodd ei wedd; Ysgytiwyd pabellfa ei enaid „ J Gan gryfion awelon y bedd. "e Diangen yw yngan canmoliaeth pai I Davydd—wr hynod a hardd • j Mae miloedd y' Maldwyn a Dinbych A'i molant fel bugail a bardd; Yn llawen y lluoedd a'i derbyn I wyliau a gwleddoedd eu gwlad; Caiff gynes groesawiad ei frodyr, Heb gynen, cenfigen, na brad. Bydd nwydau ei natur yn effro I wylio golygon ei daith; S £ Llawenydd yn fynych a'i llanwa Wrth weled gorlwyddiant y g waith Ond tristweh mewn manau a drystia, Myn yntau gael adrodd ei gam, A'r dagrau yn dystion a dreiglant, Uwch beddau anwyliaid a'u mam. Aiff ingau Ohio yn angof, lIt Ei ofid a'i adfyd i gyd, t. Ac iecliyd heb achwyn a ddychwel I'w yspryd a'i esgyrn ynghyd; I Gwnaiff doniau ei frodyr Iwyr dynu Ei feddwl o eithaf y byd, I Ac yinlid pob pryder a phrudd-der O'i galon i ganlyn y cryd. BvM ^yfryd gan Davydd gyfarfod ». Cymdeithion boreuol ei oes, A chlywed cenadon yn canmol >9 A chymell rhinweddau y Groes; Ac yntau fydd felus i filoedd, Mal hylaw delynor mewn hwyl, Yn chwareu hen donau y Cymod, Nes synu a swyno yr TVyl. Ond adeg ymadaw ddaw wed'yn A brodyr a bryniau ei wlad, Heb obaith cyfarfod yn ddiau CaJ Tu yma i deyrnas eu Tad; r? Cyfarchwn y cyfnod y cesglir Y seintiau i Salem yn nghyd, « Heb ofni byth mwyach ymadael A'u brodyr na Phrynwr y byd. Boed aden y nefoedd yn lledu Dros Davydd ar clir ac ar don, Wrth groesi y Werydd ffals wyneb { Llawenydd a lanwo ei fron; Dychwelyd a gaffo cyn Tachwedd, Yn heinyf a hoenus ei wedd, J At bobl ei ofal a'i deulu, .:B I orphen ei ddyddiau mewn hedd.