Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
9 articles on this Page
Advertising
AT Y CYHOEDD. BIBAELLEITWYR CitAFFus,-Wele hanes rhyfeddol a thefiwng, am Y PROFFESWR JOSEPH THOMAS, (Josephus Eryri), 33, CLARENCE STREET, MOUNT PLEASANT, LIVERPOOL. (Professor of the Remedial Power of the Electric Fluid Medical Magnetism, and Galvanism, and Practical Phrenology), yn meddyginiaethu, trwy y Fywydol Elf en, wedi i bawb a phob peth fethu, yr hwn sydd er's blynyddoedd meithion ger bron y cyhoedd fel meddyg, a'r gwelliadau hynod a wnaeth wedi peri syndod i Gymry, Saeson, a lluaws o'r Cyfandir. Sylwer ar y llythyr hwn sydd fel y canlyn:— Aethum at Proffeswr Thomas tan effeithiau anwyd trwm ar fy nglun. Yr oedd yn anesmwyth a phoenus angerddol am amser maith, nes yr oedd fy nghyfan- soddiad drwyddo yn gwanhau. Gwnaethum brawf ar bob moddion i'w dadgloi, ac i liniaru y boen, cyn dyfod ato, megis ymdrochi yn y mor, mewn ffynhonau, ac mewn bathau, &c., ond y cwbl yn hollol ofer. Nid oedd y nos yn dymhor gorphwys i mi, na'r dydd yn adeg o lawenydd, gan mor fawr fy mhoen. Cefais ef yn hollol ddifost-dywedai fel dyn gonest y cymmerai dipyn o amser, fel ag yr oedd wedi cyhoeddi ugeiniau o weithiau fod pob hen anhwylder yn gofyn llawer o wythnosau o brawf, pan na bydd y rhai na fu cynddrwg a chyhyd yn yn gofyn cymmaint. Sierhai y gwnai ei oreu i mi, a gwelais ei fod yn ddyn i'w air. Gtcellhaodd fl yn hollol. Effeithiodd nid yn unig ar fy nglun, ond ar fy holl gyf- ansoddiad. Symmudodd boenau echryslon iawn, trwy foddion tyner iawn. Sylwer mai nid &'r peirianau, y mae yn gweithredu bob amser, fel y cyffredin, ond def- nyddia natur ei hun, sef yr elfen wefrol fywydol, er fod ganddo y peirianau goreu a ddyfeisiwyd erioed, pa rai a all gymhwyso at lygad plentyn, yn gystal ag at y cyf- ansoddiad mwyaf cawrfilaidd. Yn sicr fe ddylai ei gymhwysderau gael eu cydnabod yn gyhoeddus. Gwir nad yw yn fyr o lythyrau can- moliaeth,"—buom yn darllen canoedd o honynt, oddiwrth bersonau pwysfawr a geirwir, wedi derbyn gwelliadau hynod, rhai o honynt yn ail iwyrthi au, ac y mae croesaw i unrhyw un gael eu gweled (gan eu bod yn llawer rhy luosog i'w cyhoeddi), a gwneud yr ym- chwiliad manylaf yn eu cylch. Y mae Proffeswr Thomas yn deall natur, ac yn medru gwneud y defnydd goreu o honi. Y mae yn nodedig o fedrus, fel y mae canoedd yn dystion. Y mae yn myned ar gynydd yn barhaus. Trwy brofiad a myfyr- dod, y mae wedi cael amrai bethau newyddion allan yn ddiweddar, sydd yn sicr o fod yn wasanaethgar iawn. Dymunaf y llwyddiant mwyaf iddo i symmud ymaith wahanol boenau y ddynoliaeth. Sylwer, a dealler, y geill pawb weled fy enw i a ewyllysient, ond ymofyn gyda Proffeswr Thomas, a chael llwyr foddlondeb o barth gweled digonedd o dystiolaethau, ac enw pob un yn gyflawn ac eglur, a'r cyfeiriad yn berffaith amlwg a didwyll. Mae nifer mawr o hysbysiadau y naill amser ar ol y llall yn y cyhoeddiadau er's llawer o flynyddoedd yn cynwys rhestr helaeth iawn o enwau rhai yn sicrhau gyaa thystiolaethau, eu bod wedi cael eu meddyginiaethu trwy Ddymgyrchiad y corff dynol y wir Fywydol Elfen ganddo ef, er na lwyddodd neb arall i wneud dim lies iddynt. Geill yr ymofynydd hefyd weled enwau nifer luosog iawn o bob dosparth o bobl, uchel ac isel radd, y rhai a iachaodd efe; y cyfryw o herwydd llawer o ystyriaethau, a phethau rhesymol gwir deilwng, ac esgusodol, a chwennychant fel fy hun, yn hytrach i'r cleifion ac eraill weled eu henwau gyda Proffeswr Thomas ei hun,' nag yn gyhoeddus. Dymunwyf iddo bob llwyddiant i iachau y cleifion. GOHEBYDD." (Gwelsom enw y Gohebydd' ac enwau llawer- oedd eraill. Gallwn yn hawdd ddeall fod personau yn teimlo anfoddlonrwydd i gyhoeddi eu henwau trwy y Wasg, eto nid yw y ffeithiau yn llai gwir.— Un o'r Golygwyr). AIS AR WERTH. DYMUNWYF hysbysu Adeiladwyr, Masnach- wyr, ae eraill, a ddefnyddiant Ais, fod genyf yn wastad Stock dda ar law yn un o'r lleoedd mwyaf cyfleus at Stations y Rheilffyrdd, i'w hanfon i bob man. Pris rhai 4 troedfedd 135. y fiL Eto 3 eto I Is. y fil. Cyfeirier at DAVID ROBERTS, 14, Victoria Road, Tranmere Park, Birkenhead. (Gynt o 41 Great Howard St., Liverpool.)
AT ETHOLWYR MERTHYR, VAYNOR,…
AT ETHOLWYR MERTHYR, VAYNOR, AC ABERDAR. FONEDDIGION,-Mae yn awr ddeuddeng mia er JL pan y cleauais,-heb ddim awgrym na chais o'm hochr i, ond mewn modd perffaith wirfoddol,-fod cyf- erfodydd cyhoeddus wedi eu cynhal yn Merthyr ac Aberdar, yn mha rai y pasiwyd penderfyniadau yn fy marnu i yn un cymhwys i gynnrychioli eich bwr- deisdref yn y Senedd. Yn fuan wedi hyny, cyflwyn- wyd y penderfyniadau hyn i mi trwy ddirprwyaeth O foneddigion parchus iawn, ynghyda gwahoddiad i gynyg fy hun yn ymgeisydd yn yr Etholiad nesaf. Er mor ddwys y teimlais y fath anrhydedd, ni wneuthum yn frysiog ei dderbyn. Dymunais, cyn dyfod i unrhyw benderfyniad, roddi cyfleustra helaeth i chwi ddyfod yn adnabycld- us a mi, ac a'm golygiadau politicaidd. Felly, yn ystod y cynhauaf, telais ymweliad a chwi, ac an- erchais bump o gyfarfodydd cyhoeddus gorlawn, gan roddi eglurhad llawn o'm golygiadau ar brif byngciau cyhoeddus y dydd. Nis gallai dim fod yn fwy caredig a chalonog na'r derbyniad a roisoch i mi; dim yn fwy unfrydol a brwdfrydig na'r gymeradwyaeth a ddatganasoch trwy lafar a phleidlais dros y syniadau a leferais y pryd hwnw. Cadarnhawydy gymmeradwyaeth yma, yr wy'n deall, ar ol hyny, mewn dull mwy pwyllog fyth, trwy addewidion cofnodedig Iluaws mawr yn eich plith i'm cefnogi gyda'ch votes pan y deuai dydd prawf yr Etholiad i ben. Y mae'r amser hwnw, foneddigion, yn cyflym agos- hau, ac, yn unol a'r ymrwymiad a roddais yn yr olaf or cyfarfodydd cyhoeddus hyny, yr wyf yn awr yn dyfod yn mlaen i gynnyg fy hun fel ymgeisydd am eich cefnogaeth, ac i hawlio cyflawniad y pender- fjTiiadau a'r addewidion yn fy ffafr, ar sail pa rai y derbyniais y gynnrychiolaeth gynnygiedig. Y tir neillduol ar ba un y gwnaethoch i mi yr anrhydedd o'm dewis i fod yn ymgeisydd, oedd hwn:—Gan fy mod yn Ymneillduwr, tybid fy mod yn deall [ac yn cydymdeimlo (mor bell, fodd bynag, ag sy'n angenrheidiol i'w cynrychioli) a golygiadau a dymuniadau trigolion y fwrdeisdref, mwyafrif dirfawr y rhai ydynt Ymdeillduwyr. Y mae hwn, mor bell 0 fod yn sectaraidd, yn symmudiad gwrth- sectaraidd hollol, a hyny mewn ystyr bwysig iawn- gan fod ei amcan i rwystro y monopoly gan un Sect benaethol, o gynrychiolaeth gwlad gyfan (oblegid yr oedd gennych olwg yn y mater yma nid ar eich bwrdeisdref eich hunain yn unig, ond hefyd Gymru i gyd) tairrhan o bedair o drigolion yr hon sy'n perthjTi i enwadau crefydclol eraill, iawnderau ac interests y rhai a fynir eu hamddiffyn yn barhaus yn y Senedd yn erbyn rhagorfreintiau hiuianfeddianol a honiadau arbenig-ol yr un Sect benaethol hono. Y mae'r holl resymau dros y fath dclewisiad y prycl lawnw, yll awr yn llavrer mwy priodol a grymus, oblegid eglur yw mai y cwestiyn- au pwysicaf a raid fod o dan sylw y Senedd a'r wlad am gryn amser i dd'od, fyddant y cyfryw a ddalient berthynas agos iawn ag Ymneillduwyr, ac i ben- derfynu y rhai, yr wy'n mentro credu, y bydd eu cymhorth o werth mawr, oherwydd y mae gan- ddynt argyhoeddiau eglur ar y pyngciau a ddeuant yn mlaen i'w dadleu. Mae'n gof gan lawer o honoch am y pwysigrwydd a roddais yn fy anerchiadau yn yr Hydref ar bwngc yr Eglwys Wyddelig, a'r modd diamheuol yn mha un y deliais mai ei dadgysylltiad yn Uwyr ydyw yr unig ffordd foddhaol i gael ymwared oddiwrth y fath ddrwg ac anghyfiawnder anferthol. Y mae'r golyg- iad yma er hyny wedi ei ddal allan gan Mr. Glad- stone, a'i dderbyn gan lais unfrydol ei ganlynwyr fel yr erthygl gyntaf yn nghredo y Blaid Ryddfryd- ig. Ond, mi a bleidleisiwn drosto nid am ei fod wedi dyfod yn bwngc plaid, ond am fy mod wedi fy argyhoeddi erys talm o'i gyfiawnder cynhenid. Ar bob cwestiwn o RYDDID CREFYDDOL, nid wyf yn hawl- io goddefiad, ond cyfartaledd (equality) trwyadl, gan y credwyf na ddylai yr un dinesydd gwladgarol ddyoddef mewn un modd gyda golwg ar ei iawnder- au gwleidyddol ar gyfrif ei argyhoeddiadau crefydd- ol. A chan nas gellir byth gyrhaedd y cyfartaledd trwyadl yma tra y bydd un sect mewn undeb neill- duol a'r Llywodraeth, yr wyf yn dadleu dros ddad- gysylltiad yr undeb hwnw, nid yn unig fel ammod hanfodol i gyfiawnder dinasol a chymdeithasol, ond fel y peth mwyaf tueddol i gynnyddu purdeb a llwyddiant yr eglwys. Gyda'r golygiadau hyn, prin y mae'n angenrheid- iol i mi ddyweyd y pleidleisiwn dros ddilead y fath anghyfiawnder, yr hwn a esyd Ymneillduwyr mewn sefyllfa is-raddol :i'w cyd-ddeiliaid perthynol i Eg- lwys Loegr, pa un a'i gyda golwg ar daliad y Dreth Eglwys, neu eu mynediad, ar dir hollol gyfartal, ag eraill, i'r Prif Ysgolion, a'r Ysgolion Grammadegol, a rhydd-ddefnydd o'r monwentydd plwyfol. Gyda mwy o hyfrydwch fyth y gwnawn gefnogi Rhydd- had Crefydd oddiwrth ei chysylltiad llygredig a'r Llywodraeth. Y mae y cwestiwn o ADDYSG, yn ddilys, yn dech- reu dyfod i agwedd newydd, a gofyna am ymdrin- iaeth eang a chynwysfawr. Yn yr ystyriaeth am y mater hwn, arweinir fi gan y ddwy egwyddor fawr yma-yn gyntaf, i wneud Addysg ynddo ei hun mor gyffredinol a chyflawn ag y byddo'n bosibl; ac yn ail, wrth wneud felly, cymmeryd gofal eiddigus fod hawliau cydwybod yn cael eu hamddiffyn gyda phob manylrwydd. Nid ydwyf mewn un modd yn addef fod pob cwestiwn Diwygiadol wedi ei benderfynu gan y mesur y llynedd. Y mae Dosraniad yr Eisteddle- oedd eto yn. bur anwastad ac anfoddhaol. Y mae taliad personol trethi, fel cymhwysder i bleidleisio, yn taflu anghyfiawnder creulon ar nifer mawr o'r Dosbarth gweithiol, ac yr wyf yn barod i symmud ymaith y drwg hwn a'm holl egni. Yr wyf yn fwy cryf nag erioed dros y BALLOT fel moddion amddi- ffynol i'r etholwyr, gan fy mod yn cwbl gredu na fydd helaethiad yr etholfraint hebddo, mewn llawer lie, ddim amgen nag helaethiad i'r gallu i orthrymu a defnyddio dalanwad anheg. Y mae llawer o gwestiynau perthynol i Ddiwyg- iad Deddfwriaethol a ymddanghosant i mi yn galw yn fawr am ystyriaeth y Senedd,—ac yn neillduol, y mae rhai deddfau mewn grym y rhai a gynnorthwy- wn yn ewyllysgar i'w dileu neu i'w lliniaru, y rhai ydynt yu gwasgu yn drwm ar y Dosparth Gweithiol, yn eu gosod ar dir gwahanol i'w Meistriaid gyda golwg ar gytundebau am lafur, ac yn taflu rhwystr. au ar eu ffordd i ymuno yn rhesymol er mwyn am- ddiffyn eu hiawnderau eu hunain. Mewn perthynas i Faterion Tramor, yr wyf yn bleidiwr cryf i'r egwyddor o beidio ymyraeth a theyrnasoedd ereill—non-intervention—yn ei chym- hwysiad mwyaf eang a llawn. Dadleuwn dros ostyngiad mawr yn y Costau Cen- hedlaethol-yn enwedig y costau ynglyn a'n sefydl- iadau milwrol, y rhai ydynt nid yn unig yn arswyd- us o fawr, ond a werir yn y fath fodd ag sy'n peri gwastraff ofnadwy ar arian y cyhoedd. Y mae cyflwr arfogol presonol Ewrop, yn fy marn i, yn warth i gymeriad gwareiddiol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ac yn achos o ddyoddefiadau anrhaethadwy i'r bobl. Buaswn, gan hyny, yn llawen yn cefnogi unrhyw fesur yn tueddu i ddwyn y Prif Deyrnasoedd i gytuno ar rhyw gyfundrefn i benderfynu eu hanghydwelediadau heb rym arf na phylor; ac i gyd-ostwng, ar unwaith, yr amddiffyn- feydd aruthrol y rhai sy'n awr yn tlodi eu trysorfeydd, yn gorthrymu eu deiliaid a beichiau annyoddefol, ac yn peryglu heddwch y byd. Y mae rhai yn barod i'ch dirmygu chwi a minau trwy awgrymu nad oedd yr hyn oil a gymmerodd le yn yr Hydref ond bost a swn gwag—nad oeddych yn meddwl dim yn ddifrifol yn yr arddangosiadau o groesaw a chymmeradwyaeth a roisoch i mi, ac y gwnewch fy ngwadu pan y daw dydd y prawf. Yr wyf yn hollol anghredu y fath dystiolaeth enllibaidd am fy nghydwladwyr. Gan deimlo yn hyderus yn ngonestrwydd eich penderfyniadau a'ch haddewid- ion, yr wyf yn penderfynu estyn cyfleustra i chwi i ymladd y frwydr yma i'r eithaf—yr hon sydd frwydr nid am anrhydedd, ond am eich rhyddid eich hunain, eich hurddas, a'ch hannibyniaeth. Ydwyf, foneddigion, Eich nyddlon a'ch ufudd was, HENRY RICHARD.
AT ETHOLWYR BWRDEISDREFI SIR…
AT ETHOLWYR BWRDEISDREFI SIR DDINBYCH. FONEDDIGION,-Gyda theimladau o lawenydd -L nid bychan yr wyf yn cael fy hun wedi fy ngosod gan nifer mawr a dylanwadol o Etholwyr eich cynnrychiolaeth mewn sefyllfa i anfon yr An- erchiad hwn atoch, fy Nghydwladwyr, gan ofyn i chwi osod arnaf yr anrhydedd uchel o gael eich cyn- nrychioli yn y Senedd. Y mae meithder yr amser a a heibio cyn i'r Ethol- iad gymmeryd lie yn sicr o roddi digon o gyfleus- derau i chwi i ffurfio barn am fy nghymmhwysder i'r anrhydedd o gynnrychioli eich syniadau politic- aidd yn Nhy y Cyffredin ond yr wyf yn meddwl ei bod yn ddyledswydd arnaf i roddi adroddiad cy- hoeddus i chwi, heb oediad pellach, o fy syniadau ar y cwestiynau mwyaf pwysig a ddygir o dan sylw y Senedd newydd. Yr wyf yn bwriadu rhoddi y gefnogaeth wresocaf i gynllnn Mr GLADSTONE er dadwaddoli yr Eglwys Wyddelig, gan ei fod yn fesur wedi ei seilio ar gyf- iawnder a doethineb. Y mae parhau i gadw, trwy nerth awdurdod oruchaf y Llywodraeth, sefydliad Eglwysig mewn gwlad lie y mae yn groes i deiml- adau a syniadau corph mawr y boblogaeth, yn fy mam ostyngedig i, nid yn unig yn ddifudd a gorth- rymus, ond yn niweidiol i achos Protestaniaeth ei hun, ac yn elfen o wendid mawr i'r deymas yn gyff- redinol. Y mae caniatau rhyddid i'r holl Genedl, ac i bob enwad yn ddiwahaniaeth, i fwynhau holl ragor- freintiau a manteision ein Prif Ysgolion Cenhedl- aethol a'n Hysgolion Gwaddoledig, yn ddiwygiad ag yr wyf wedi ei gefnogi yn wresog am y deunaw mlynedd diweddaf. Yr wyf yn benderfynol o barhau i'w gefnogi rhag llaw; ac yn gobeithio fod yr am- ser yn awr wedi dyfod pan y gellir cario y cyfryw fesur trwy Dy y Cyffredin. Yr wyf yn credu fod y cyfnewidiad a wnaed yn Nhrethi y Tlodion drwy yr Ysgrif Ddiwygiadol ddi- weddaf, y rhai y mynodd y Llywodraeth bresennol eu gosod ar y wlad er gwaethaf gwrthwynebiad penderfynol Mr GLADSTONE, yn ddiangenrhaid ac yn orthrymus; ac am hyny y dylid eu diddymu. Nid ydynt yn amddiffyn yr Etholfraint rhag cael ei har- fer yn ammhriodol, ond y maent yn gosod baich chwanegol, a hyny yn hollol afreidiol, ar y dosbarth mwaf analluog i'w ddwyn o holl ddeiliaid ei Mawr- hydi. Yr wyf yn edrych bob amser ar gadwraeth y gref- ydd Gristionogol yn ein plith, ac amddiffyniad y Cyfansoddiad rhagorol a grymus a'r hwn y mae yr Arglwydd wedi gweled yn dda fendithio y wlad hon, fel y sicrwydd goreu am barhad ein mawredd a'n llwyddiant cenhedlaethol ynnghanolycynnyddsydd yn awr yn cymmeryd lie ar addysg a chyfoeth y bobl. Y mae bodolaeth cymmaint o anwybodaeth a thlodi ynghyda'r diffyg o hunan-barch ahunan-lywodraeth sydd yn ei ddilyn, yn mhlith dosbarth mawr o'r bobl yn niweidiol iawn, gan ei fod yn arwain i lawer o feddwdod, afreolaeth, a drygau ereill, ac y mae yn fwy nag erioed yn gofyn am ystyriaeth ddifrifolaf a dioed yn y Senedd ac am hyny, yr wyf yn ffafriol i gynllun gwir Genhedlaethol o Addysg, yr hwn a rodda addysg a diwylliant i'r bobl yn gyffredinol, a thrwy hyny gyfleusdra i bawb i gychwyn gyrfa eu bywyd yn deg. J)edwycldu:ch mwyaf y nifer liosocaf ydyw unig a gwir amcan a dyben pob cyfraith gyfiawn.' Dyma y prif wirionedd politicaidd yr wyf yn sefyll arno; a phan fy mod yn credu mai at Mr GLADSTONE, yn fwy nag un dyn arall, y dylem edrych am gyfreith- iau djrfodol yn ngwir ysbryd y gwirionedd hwnw, iddo ef, ac i'r blaid fawr Ryddfrydig, arweinydd yr hon ydyw efe, y rhoddaf fy nghefnogaeth gysson a chalonog. Ymddengys i mi fod rhan fawr o'n cyfundrefn o dreuliadau Gwladol yn wastraffus, ac yn gofyn am ddiwygiad trwyadl. Fel Cymro, nid oes eisieu i mi ddywedyd y bydd mi bob amser deimio dyddordeb mawr yn mhob mater o duedd i ddyrchafu a gwellhau gwlad fy ngenedig- aetth. Yr wyf yn disgwyl y caf gyfleustra yn fuan i'ch anerch yn fwy cyflawn ar y pyngciau uchod, a ma- terion pwysig ereill. Gobeithiaf y bydd y crynodeb byr hwn o fy syniadau yn dderbyniol genych, ac yr ystyriwch fi yn deilwng o'r anrhydedd o'ch cyn- nrychioli yn y Senedd. Yr wyf yn meddu yr anrhydedd o fod, Foneddigion, Eich ffyddlawn was, WATKIN WILLIAMS. PLASDSAW, Gorphenaf, 1868.
AT ETHOLWYR MON.
AT ETHOLWYR MON. F ONEDDIGION,-Gan fy mod wedi derbyn llawer o ddeisebau o amryw fanau yn y sir yn erfyn amaf ddyfod yn mlaen fel ymgeisydd i'ch cynnrychioli yn] y Senedd, a chan fy mod yn deall fod penderfyniad i'r un perwyl wedi ei basio braidd yn unfrydol yn y cyfarfod a gynnaliwyd yn Llan- gefni, yr wyf yn teimlo nad allaf lai nag ufuddhau i'r fath alwad croesawus a charedig. Yr wyf yn ammheu fy nghymmhwysder i lanw yn deilwng swydd mor newydd ac anrhydeddus; ond yr wyf yn penderfynu, os etholir fi i'ch cynnrychioli, i fod yn ffyddlawn hyd eithaf fy ngallu i'r ymddiried a roddir i mi. Ar yr un pryd, yr wyf yn teimlo gyda chwi oil yn wir ofidus fod SYR RICHARD BLTLKELEY, Barwnig, wedi penderfynu ymgilio o sefyllfa, yr hon y bu iddo am dymmor mor faith ei llanw er anrhydedd iddo ei hun, a budd i'r wlad yn gyffredinol. Y mae fy syniadau politicaidd yn wybyddus i'r rhan fwyaf o honoch. Braidd y mae yn angenrheid- iol i mi ddywedyd y llawenyehaf yn fawr weled Mr Gladstone eto mewn awdurdod, a fy mod yn mawr gymmeradwyo ei gynnygiad o barth i'r Eglwys Sefydledig yn yr Iwerddon. Yn y pwngc o Addysg yr wyf yn cymmeryd y dyddordeb mwyaf, a bydd yn dda genyf gefnogi unrhyw fesur rhesymol a dueddai i'w ddwyn yn fwy cyffredinol ac effeithiol. Yr wyf o blaid diddymiad pob anfanteision cre- fyddol, megys, er enghraifft, y rhai sydd yn am- ddifadu YMNEILLDUWYR o fwynhad cyflawn o fan- teision y Prif Ysgolion. Yr wyf yn teimlo yn ddwfn yr anrhydedd yr ydych wedi ei osod arnaf trwy fy ngwahodd i ddyfod yn gynnrychiolydd i chwi, ac yr wyf yn diolch i chwi yn ddiffuant am y fath brawf o'ch ymddiried, yr hyn yr wyf yn ei werthfawrogi yn fwy ar gyfrif ei fod yn dyfod oddi wrth Etholwyr fy sir enedigol. Ydwyf, yr eiddoch yn ffyddlawn, RICHARD DAVIES. Benarth, Gorphenaf 17eg, 1868.
SOAR, LLANTRISANT, A CASTELLAU…
SOAR, LLANTRISANT, A CASTELLAU MORGAWCh OYNNELIR cyfarfodydd yn y lleoedd uchod i neillduo Mr W. C. Davies, o Goleg Aberhon- ddu, i waith y weinidogaeth, ar y 29, 30, a'r 31 o Orplienaf, 1868. Bydd yn lion gan Mr Davies a'r Eglwysi gael presenoldeb pawb o weinidogion- yr undeb, ac eraill ar yr amgylchiad.
AT EIN GOHEBWYR.
AT EIN GOHEBWYR. D. Thomas.-Teimlwn yn ddiolchgar iawn am eich cynhorthwy fel Gohebydd. J; Dychymyg Deicyn o'r De.-Reblaw y ddau atebiad a gyhoeddir yn y rhifyn hwn, derbyniasom yr eiddo Sambo'r Go, Dys. Mth., a Dewi ap Gomer. Gladstonian.—Bydd gohebiaeth ar unrhyw bwngc dyddorol yn gymmeradwy, ond byddwch gystal a goehel meithder. Yr ydym yn ofni nas gallwn gael yr holl rifynau a nodirgen- nych, ond gwnawn ymchwiliad. Caswallon-law-hir.-Daeth eich atebiad i lythyr Mr Thomas Lewis i law yn rhy ddiweddar i ymddangos yr wythnos hon. Cyhoeddir ef yn y rhifyn nesaf. Disgybl.-Anfonweh at y Parch. H. Reynolds, B.A., Cheshunt College, Cheshunt, Hertfordshire, a chewch y wybodaeth sydd amoch eisieu. Ceidwad.—Derbyniwch ein diolchgarwch gwresocaf. Cewch glywed oddiwrthym yn fuan. Mae cymmeradwyaeth rhai fel chwi yn werthfawr yn ein golwg. Llythyr y Parch. Dr. William Rees at Syr R. Bulkeley, Bar- wnig.—I ymddangos yn ein nesaf. Derbyniwyd a chauwyd allan o ddiffyg lle-Cefnder, Caswall- on, Eliseg, Cymmydog, D. E., &c. Cyfeirier y Gohebiaethau oll-To the Editors of the TYST CnI- RErG, 19, Chapel Walien, South Castle Street, Liverpool. Gonestrywdd.—Rhy ddiweddar i ymddangos yr wythnos hon.
YR WYTHNOS.
YR WYTHNOS. MAE rhyw sibrwd unwaith eto fod nifer o ar- glwyddi i gael eu creu,' fel y dywedir, yn fuan. Gwelsom enwau y rhai a dybir sydd i gael eu hanrhydeddu. Nid yw yn werth i ni eu henwi yma, canys nid yw ein darllenwyr yn gwybod nemawr am danynt, nac yn gofalu llawer yn eu cylch. Y mae y Weinyddiaeth Doriaidd yn gall yn eu cenhenlaeth, Yn awr yw eu hamser i anrhydeddu eu cyfeillion, canys y mae yn ddigon tebyg y bydd raidd iddynt roddi yr aw- enau o'u dwylaw yn fuan ar ol yr Etholiad Cyffredinol. Bu dirprwyaeth oddiwrth weithwyr Llundain gyda Mr Gladstone ddiwedd yr wythdos o'r blaen, yn datgan eu mawr gymmeradwyaeth i fesurau y gwladweinydd talentog a rhyddfryd- ig. Derbyniwyd y dirprwywyr yn barchus a chynhes iawn. Tranoeth, ymffurfiodd y gweithwyr yn orymdaith fawr, aethant drwy brif heolydd y ddinas, ac wedi hyny cynhalias- ant gyfarfod mawr yn Hyde Park, Yr oedd yr areithiau yn danllyd, a'r dorf yn bloeddio, I lawr a'r Eglwys Wyddelig,' ac I lawr a Thy yr Arglwyddi.' Yn hytrach na chreu' ych- waneg o arglwyddi, byddai yn ddoethach, a diogelach i Mr Disraeli i berswadio yr ar- glwyddi y sydd eisioes, i blygu i farn Ty y Cyffiredin, a gwrandaw ar lais y wlad. Y mae genym yn awr rifedi go lew o arglwyddi-y quality sydd fwyaf diffygiol o lawer. Yn ystod y Senedd-dymhor presenol, pasi- wyd 57 o ddeddfau cyhoeddus, a 146 o rai Ileol. Dechreuodd yr Eisteddiad ar y 19eg o fis Tachwedd. Prif waith, os gwaith hefyd, pawb a allant ar hyn o bryd, ydyw cymmeryd holidays. Deallwn fod ein Brenhines yn bwriadu gwneud hyny hefyd yn lied fuan. I'r Cyfandir y mae hi yn myned. Bydd yn gadael Osborne ar y 5ed o Awst yn y Royal Yacht Victoria and Al- bert. Yn ol y trefniadau presenol, yr ydym yn deall y bydd ei Mawrhydi ryn glanio yn Cher- bourgh, ac yn myned eddiyno gyda'r gledr- ffordd i Paris a Lucerne. Mae ei Mawrhydi yn bwriadu treulio peth amser yn Switzerland. Yr ydym yn caeljarwyddion bob dydd y bydd brwydrau poethion yn cael eu hymladd yn ystod yr Etholiad dyfodol. Ond South West Lancashire fydd Waterloo y rhyfelgyrch—yno y bydd y penrhyfelwr, Mr Gladstone ar ei brawf. Yn ol y Reform Act newydd y mae South Lancashire wedi ei rhanu yn ddau ddosbarth— Cantref Salford, a Chantref West Derby. Yn Salford y mae Manchester Rhyddfrydig, ac yn West Derby y mae Liverpool Doriaidd. Gallai Mr Gladstone gael gwell mwyafrif yn Salford, ac y mae Salford am yr anrhydedd :o'i ddych- welyd, ond brodor o Liverpool ydyw y gwladwr hyawdl, ac oherwydd hyny, y mae am ymladd y frwydr yn ei hen artref er gwaethaf dylanwad Arglwydd Derby, etifeddiaeth yr hwn sydd yn y West Derby Hundred. Bydd y frwydr yn boeth. Mae y ddwyblaid yn ymarfogi. Ond teimlir yn hyderus y try fuddugoliaeth o du y gwr sydd yn pleidio cydraddoldeb crefyddol.
Sir Gaernarfon a'r Etholiad.
Sir Gaernarfon a'r Etholiad. CYFARFOD PWYSIG YN MHEN- YGROES. Nos Iau, yr wythnos ddiweddaf, cynhaliwyd cyf- arfod diwygiadol yn y Market Hall, Penygroes, mewn cysylltiad a chang-en o Gymdeithas Rhyddhad Crefydd. Llywyddwyd gan T. Ll. Jones, Ysw. Dywedodd y cadeirydd mai hwn oedd y cyfarfod olaf o gyfres o gyfarfodydJ a gynhaliwyd yn ddi- weddar i Lymbylu yr etholwyr i gofrestru mewn pryd. Cymhellai bawb i ddanfon y claims i fewn yn brydlon,—a gellid cael y forms, neu gyfarwyddyd at y gorchwyl, gan Dr. Roberts ac jrn Penybryn. Canmolai Mr R. Roberts, Carnarfon, drigolion Dyffryn Nantlle am ffurfio cangen Gymdeithas Rhyddhad Crefydd, enw yr hon oedd wedi myn'd yn glodfawr trwy'r Sir. Annogai bawb i wneud eu goreu i ryddhau y Sir o grafangau teuluoedd Tori- aidd. Yr oedd pobl Caernarfon wedi tyngu y mynent enill y frwydr, a hyderai y dilynid eu hesiampl gan drigolion y Sir yn gyffredinol. (Ban- llefau). Sylwai y cadeirydd fod son am foneddwr o sefyllfa anrhydeddus yn y Sir yn barod i ymgeisio y gynrychiolaeth dros y Rhyddfrydwyr, a diau y rhoddid hawddamor i'r newydd pan gadarnheid ef. (Banllefau). Nid oedd methiant y Suspensory Mil yn Nhy'r Arglwyddi, meddai, ond cau dorau'r dwr, er mwyn magu nerth i ysgubo pobpeth ymaith yn yman. (Banllefau). Galwyd ar y Parch. E. Evans, Caernarfon, i anerch y cyfarfod, yr hyn a wnaeth gydag hyawdledd a a thanbeidrwydd rhyfeddol. Nid oedd ei sefyllfa fel gweinidog yr Efengyl yn un rhwystr iddo (fel yr haerai rhai) i siarad ar bjmciau gwleidyddol teimlai mai ei ddyledswydd oedd gwneud hyny, dinesydd, fel gwladwr, ac fel Ymneillduwr. oedd gan Weinidogion Ymneillduol gystal haWI 1 gymeryd rhan mewn materion politicaidd ag oe$ gan yr Esgobion i eistedd yn Nhy'r Arglwyddi^ J rhai a wrthwynebant ymron bob mesur rhyddfryw ac nid oedd ambell i un o honynt yn ei ystyried r. beth islaw eu hurddas i ddynwaredu ei gycl-wewa* ogion yn eu lleoedd yn y Ty, fel y gwnaed f. ddiweddar a Mr. Spurgeon. Gobeithiai weIéd Henry Richard a Miall yn y Senedd cyn hir-4 hyny nid fel gweinidogion yr Efengyl, megys f oedd yr Esgobion yn eu sefyllfa glerigyddol ýD- Nhy'r Arglwyddi, trwy ddylanwad y rhai, mwyaf, y gorchfygwyd y Suspensory Sill. Gn nad oeddem yn disgwyl yn amgen, oblegid yr y cyfarfod rhyfedd yn St. James's Hall wedi arwyd pa ffordd yr oedd y gwynt yn chwythu, ond os oeu y clerigwyr yn ymuno fel trades-union, chwedl Bright, ac yn pregethu eu hegwyddorion allan °'l pwlpudau, credai mai ei ddyledswydd yntau 0$ dysgu ei gydwladwyr y pwysigrwydd o bleidleisf yn uniawn a chydwybodol yn yr etholiad dyfod (Banllefau). Ni fynai ddywedyd dim yn anmharchus am glet' igwyr yr Eglwys Sefydledig yn wir, yr oedd 0 Camarfon yn engraifft hardd o foneddwr trwyad o fugail Cristionogol cywir a ffyddlon. Edrycl81 ar yr etholiad nesaf fel y pwysicaf ynglyn ag EGIO Crist a fu yn ein dyddiau, ac yr oedd yn eglur 10 lwyddid i ddadgysylltu yr Eglwys yn yr I werdd/JI heb sjTnbyliad nerthol gan farn y cyhoedd. (Ba"! Uefau). Yr oedd gan y blaid Ryddfrjrdig wr & blaenor y mwyaf talentog, gonest, a chydwy1" odol a eisteddodd erioed tu fewn i furiau$ Stephen. (Rhoddwyd banllefau ofnadwy i Gladstone). Danghosai Mr Evans y gwrthuni 0 W Eglwys y lleiafrif yn cael eu gwneud yn Eglwf. Sefydledig y wlad, a rhan fechan o'r wladwriaio yn derbyn yr holl gyllidion. Yr oedd hyn fel 5 dywedai Sydney Smith am siopau cigyddion f. India, pa rai oeddynt yn groes i deimlad yr India^ ond a orfodid er hyny i gadw un yn mhob pentF rhag of n i Sais ddyfod heibio. (Chwerthin a banllefau)' Yr oedd gwleidyddwyr enwog wedi cyhoeddi baf, yn erbyn yr Eglwys Wyddelig—megis ArglW! I Brougham, John Bright, (tair banllef i John Brigbtli Burke, ac hyd yn oed Disraeli cyn iddo fyned f Brif Weinidog, ar ol yr hyn y daeth 'yn geidwadl1 y ffydd.' (Chwerthin.) Barnai mai ymddygiad POI: ffaith anghyson ar dy y llywodraeth oedd gWrt' wynebu dadgysylltiad yn yr Iwerddon, tra ar yr 10 pryd yr oedd ganddynt fesur mewn llaw i effeito, dadgysylltiad yn yr India Orllewinol; ond yr 08 y wlad hono yn mhell, ac ni theimlid colli y cyflog411 mor ddwys mewn canlyniad. Yna, aeth Mr Eva": yn mlaen i ddangos y priodoldeb o ddadgysylltl yn Nghymru—a'r anghyfiawnder oedd ein gwlad J* ei ddyoddef oblegid cynrychiolaeth Doriaidd. B" asai yn well o lawer i ni fod heb gynrychiol'Wj'i Fel y dywedai cyfaill wrtho, buasai yn llawn cy-O i ni anfon dyn tawdd o'r foundry i'n cynrychioli Jj y Senedd, a'r label yma arno,—' Bob amser gyd& Toriaid.' (Chwerthin.) Diweddodd Mr Evans i bur rymus drwy apelio at y wlad i gyflawni ei dr: edswydd yn amser yr etholiad-bydded, meddai1 ryfel-floedd gwron Trafalgar adseinio trwy bob b a bryn, o fwthyn i fwthyn—' Y mae Lloegr heddf yn disgwyl i bob dyn wneud ei ddyledswydd a djj ledswydd pob dyn yw pleidleisio yn gydwybodo (Banllefau.) Bydded pob dyn yn gjrwir iddo ei h«J yn gywir i'w wlad, ac yn gywiri'wDduw, ac yn bod ynddirmygyngolwgeincym'dogionni ahawli^1 eu parch fel concwerwyr, a bydd llais ein gwlad t y senedd, am y tro cyntaf yn adlais gwirioneddol' lais ei phobl. (Banllefau taranllyd.) Terfynwyd y cyfarfod gyda'r diolchiadau arferol
Cynnrychiolaeth Ynys Mon.
Cynnrychiolaeth Ynys Mon. CYFARFOD MAWR YN LLANGEFl Y mae'r ysbryd etholiadol yn Ynys Mon y clyddio; hyn yn arddangos tanbeidrwydd mawr, a hyny J; ffafr Cymro o waed, iaith, a theimlad, Rhyddfry" wr trwyadl ac Ymneillduwr selog-sef Rich3 Davies, Ysw., Benarth. Prydnawn dydd Iau, yr 16eg cyfisol, cynhaliW cyfarfod o etholwyr rhyddfrydig y Sir yn ysta$ fawr y Bull Hotel, Llangefni, o dan lywyddia^ Syr Richard Bulkeley, Barwnig, ac yn mhlith! presenolion eraill yr oedd—W. Bulkeley Hugbel Ysw., A.S.; H. Pritchard, Ysw., Trescawen; Pf Brisco Owen, Haulfre; Robert Davies, Ysw., londeb; Richard Williams, Ysw., Bodafon; Roj,. Evans, Ysw., Fron Goch; Wm. Evans, Ysw., Polt y Borth; J. Edwards, Ysw., eto; Parch. Josef Jones, eto; Mr. H. Williams, eto; Parch. Jal, Donne, Llangefni Parch. John Pritchard, AmlW Parch. William Williams, (Cromwell), Beaumalo Mr. Wm. Roberts, Amlwch; John Lewis, Yslf1 Caergybi; Mr. E. Foulkes, eto, &c. Agorodd y Cadeirydd anrhydeddus y cyfari mewn araeth fer. Gobeithiai weled y rhyddfryd1 yn unol yn yr etholiad dyfodol, oblegid os gwasga y ddiadell yn sicr fe ddeuai y blaidd i fewn. Gy golwg ar y fwrdeisdref, nid oedd cysgod o amhj 9 0 aeth na etholid Mr. Stanley, yr hwn a ddocbPJ, gefnogaeth yr holl ryddfrydwyr, am ei fod mor K nabyddus a pharchus yn eu plith yn gyffredifl"' Felly, nid oedd ganddynt ond dewis aelod droa,' Sir-yn ei le ef, am ei fod, oblegid oedran helaeo yn cilio o'r maes. I Cododd Mr. Bulkeley Hughes, ynghanol banllef gwresog, i gynnyg—fod gofid JTI cael ei ddat/ oblegid enciliad Syr Richard, ac i gyflwyno diol"11. garweh diffuant iddo am ei wasanaeth ffyddl"' dros y Rhyddfrydwyr yn y Senedd am yspaid 3* flynyddoedd. Cyfeiriodd at rinweddau y Bar —yn enwedig fel cyfaill i'r ffarmwr, a derbynitfl ei sylwadau gyda chymmeradwyaeth mawr. oedd ef, (Mr. Hughes) wedi datgan ei ofld JTI sonol wrth Syr Richard, am ei enciliad, a'i ateb^j oedd—' Byddai'n well i chwithau ddilyn fy esiatflj (Chwerthin, a bloeddiadau "Na, na.") Dylai ej gwallt gwyn a'ch barf wen droi eich meddwl J bethau gwell.' Yr oedd y sylwadau yna yn gwir, ac o ran ei deimlad personol yr oedd yn ddig"! parod i orphwys oddiwrth ei lafur. Ond yr oedd gyfeillion wedi apelio ato yn wresog am iddo barH yn y fyddin, a phan goflai am eu caredigrW^ gwastadol, nis gallai beidio cydsynio i barhau fyddin. (Banllefau.) Eiliwyd y cynnygiad gan Cromwell, mewn arfC lawn o foliant i SJT Richard am ei ysbryd haelfrj'^1; at Ymneillduwyr, ac am gefnogi eu hegwyddorJ? yn y senedd. Pasiwyd y cynnygiad gyda brtf frydedd mawr. Dy^vedodd Syr Richard, wrth gydnabod yr rhydedd, fod Solomon wedi eu dysgu fod 'am9ej bob peth,' a chredai nad oedd 67 mlwydd oed f amser i ddyn i dreulio haner ei oes yn Llund^ gyda materion gwladol. Yr oedd Cromwell, med<*J wedi cyfeirio at ei ymddygiad at Ymneilldu^ Yn ystod y blynyddau diweddaf yr oedd cyfnewid3^ mawr wedi cymmeryd lie yn ei feddwl gyda go^ ar Ymneillduaeth. (Banllefau.) Yr oedd eto fi glynu wrth yr Eglwys Sefydledig; ond dyW' hyn, gyda gofid—ie gyda chywilydd—fod yr Egl^i Sefydledig yn y cyflwr mwyaf peryglus a nycbJ.1ø ac yn ngeiriau gnvr oedd yn siarad yn cldiweddill y pwngc, dywedai—Yr wyf yn edrych ar Ym&efj duaeth fel asgwrn cefn Protestaniaeth. (Banll6;^ trystfawr a hirfaith). Ond tra yr edrychai ar neillduwyr yn ffafriol, nid oedd yn hoffi Cymdel Rhyddhad Crefydd; nid oedd yn hoffi. yr iaitJ1 ddefnyddid gan ei chefnogwyr. Yr oedd" gandd^, berffaith hawl i wneud bob ymdrech rhesymol i g'JfJ haedd eu hamcan, ond nid oedd yr iaith a arferid ( fynych at Eglwyswyr yn wir, yn Gristionogol,11