Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

15 articles on this Page

BANGOR.

ABERDAR.

BETHLEHEM, LLANHARAN.

MANION 0 FYNWY.

News
Cite
Share

MANION 0 FYNWY. Dylasai hanes Cyfarfod Misol Cwm, Rhymney, fod wedi ymddangos yn gynt, ond gwell hwyr na hwyrach. Cynnaliwyd ef y tro diweddaf yn Salem, Hirgwm, ar y 7fed cyfisol. Am 2, dechreuwyd gan y Parch. D. Jones, New Tredegar, a phregethwyd gan y Parchn. T. L. Jones, Machno, a W. Griffiths, Rhymney. Am 6t, dechreuwyd gan y Parch. W. Griffiths, a phregethwyd gan y Parchn. J. Farr, Croesoswallt, ac E. Hughes, Penmaen. Cafwyd cyfarfod da iawn a phur luosog, yn enwedig yn yr hwyr. Bydd y nesaf yn NEW TBEDEGAB, ar y dydd Mawrth cyntaf yn mis Awst. Dydd Llun, y 13eg cyfisol, cafwyd Tea Party ar- dderchog iawn yn RISCA. Yr oedd ysgol Cross Keys wedi cyfarfod ag ysgol Risca am y tro, a buwyd yn cerdded trwy y gym- mydogaeth ac heibio dai y gwyr mawr dan ganu, nes tynu sylw y gymmydogaeth. Tua 3 o'r gloch, dechreuwyd ar y te, ac erbyn tua 7 yn yr hwyr yr oedd tua 400 wedi cael eu gwala, ac eto yr oedd yno weddill. Dyma'r turn out goreu fu yn Risca eto, yn gyssylltiedig a'r Annibynwyr beth bynnag. Tua 7 J, cymmerwyd y gadair gan C. Lewis, Ysw. Newport, yr hwn a wnaeth araeth ragorol ar yr Ysgol Sabbothol. Wedi hyn, siaradodd y Parch. W. Edwards, Newport, yn dda iawn. Yna galwyd ar y Parch. T. M. Prentice, o wlad yr haf.-Nid Sais ac nid Cymro yw y brawd hwn, ond Gwyddel,—ond Gwyddel pur dda, a gelyn hollol i Ffeniaith a Phab- yddiaeth.Wedi hyn, ciliodd Mr Lewis o'r gadair, a chymmerwyd hi yn ei le gan y Parch. D. Davies; a chafwyd dau ddarn o gyd-siarad gan bobl ieuainc ylle; yr oedd y ddau yn interestiny iawn. Canodd cor Risca a chor y Primitive Methodists yn dda dros ben. Da oedd genym weled y ferch a'r fam, sef Cross Keys a Risca yn edrych mor iachus a chryf. Llwyddiant mawr fyddo i'r ddwy Ysgol a'r ddwy Eglwys, a Mr Davies fel eu blaenor. Mae'n wir dda genyf hysbysu ddarllenwyr y TYST fody LIBERALS yn dechreu gweithio o ddifrif yn Sir Fynwy. Cyn- naliwyd cyfarfod yn y Town Hall, yn Newport, nos Fawrth, y 14eg cyfisol; a phenderfynwyd fod angen mawr am gyfnewidiad. Yr oedd y siaradwyr yn llawn sel, ac nid gwan oedd eu gobaith 'chwaith am gael LIBERAL I REPRESENTIO Y BOROUGII. Mae cais wedi ei anfon at Sir John Ramsden, yr hwn sydd wedi bod yn M. P. dros y West Riding of Yorkshire; a disgwylir y bydd yn Newport tua nos Lun neu nos Fawrth nesaf, yn adrodd ei syniadau gwladyddol wrth yr etholwyr. Mae Sir John yn Liberal cydwybodol, olid nid wyf yn gwybod pa beth yw ei farn ar yr Eglwys Wyddelig; ond gall ben- derfynu na chaiff gefnogaeth os nad yw yn bleidiwr i Mr Gladstone. Nid oes dadl na charia y Liberals y dydd o ddigon, os na fydd y scriw yn caeleiddefn- yddio. Cewch wybod ychwaneg yr wythnos nesaf. BODDIAD. Boddodd bachgen bychan yn Pontywaun dydd Llun diweddaf. Mab ydoedd i Mr. Woodley, o'r lie uchod. Ni fu ond saith munyd o'r ty, ond pan gafwyd ef yr oedd yn hollol farw.—Gohebydd.

PFNFRO.

PWLLHELI.

PORTHMADOG.

RHYL.

ODDIWRTH EIN GOHEBYDD 0 CEREDIGION.

TREFFYNHON.

SION, GER TREFFYNHON.

SIR GAERFYRDDIN.

LLANGEFNI.

MANCHESTER.

RHOSLLA-INTERCHRUGOG.