Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

YR HEN DEILIWR.

News
Cite
Share

YR HEN DEILIWR. 4 LLYTITYIt XXVIII. Storm yn y Plus, Wedi i Robin y Glep fyned ymaith gyda'r llythyr dododd morwynion y Plas eu penau yn nghyd i ddyfalu ynghylch tebygolrwydd gwir- ionedd y stori fod eu meistr ieuanc ar fyned i briodi. Pwy allasai yr un ddedwydd fod ? rhyw foneddiges o waed uchel a chyfoeth mawr yn ddiau. Nid oedd un yn y wlad hono, nac yn Nghymru chwaith, yn deilwng o hono yn eu bryd hwy. Ar ganol eu cynghor daeth gwraig cllawd o'r gymmydogaeth a fyddai yn arfer gwneud negeseuau dros y ty, i mewn atynt. Holodd y merched hono, a glywsai hi ddim son bod eu meistr ar fyned i briodi ? Mi glywais fod Robin y Glep, byddant yn ei alw fo, yn dweyd rhywbeth felly,' eb y wraig. Oedd o'n dweyd pwy ydi hi?' gofynent. Miss Evans yr Hafod Ganol, meddai Robin,' ebe hi. Cod- odd y merched eu dwylaw mewn syndod, 'Miss Evans!' meddai un, Mary Evan meddai y Hall. Hono !'meddai y drydedd, Nonsense,' meddai un arall. 'Robin sy'n dweyd,' meddai'r wraig, a does fawr o goel arno fo wyddoch.' I Be naeth i Robin feddwl erioed am y fath beth ?' gofynai un o honynt. Dyna'r sail oedd ganddo,' atebai'r wraig, bod y gwr bon- eddig yn arfer galw yno dair gwaith neu bedair bob -,Nytlinos,-meddai fo.' Pwy ddigwyddodd fod yn clywed yr holl ymddyddan o'r tu ol i dclrws y gegin, ond yr hen wraig foneddig ei hun. Cythruddodd yn ddirfawr, ond ciliodd yn ei hoi i'r parlwr yn ddistaw a chadwodd y cwbl iddi ei hun. Is it possible meddai ynddi ei bun. No, it can't be,-but I must make inquir- ies. Surely, it can never come to that.' Cyfeiriodd Robin tua'r Plas y bore dranoeth gyda'r llythyr oddiwrth y gwr boneddig yn y dref. Archodd y foneddiges am i Robin ddyfod ati i'w hystafell; parodd iddo eistedd i lawr; ac wedi derbyn a darllen y llythyr, :trodd at Robin gydag edrychiacl digofus, a gofynai, Pe chi'n deyd am y mab fi, hyd y glad yma ?' Y fi'n ddweyd am y gwr boneddig ebe Robin, ddweydes i ddim 'rioed amgenach na da am dano fo, na'i achos chwaith: mae pobol yn meddwl y gallan nhw ddeyd y peth fynon am dana i!' Chi cymyd gofal chi deyd y gwir wrtha i, Robert,' ebai hithau Taru chi dim deyd bod Edward (ei mab) yn myn'd i priodi lodes yr Hafod Canol?' I Na ddeydis i 'rioed y fath beth, mi na lw,' ebe Robin. Wel, taru chi dim deyd bod o'n galw ono tair ne peder cwaith pob wthnos 'nte ?' I Wel, hwyrach i mi ddweyd cymmaint a hyny, ond doeddwn i'n meddwl dim drwg o hono fo, ac yn wir,' eb efe drachefn, yr oeddwn i meddwl un- waith am ddweyd hyny wrthych chwi eich hun, ond mi feddyliais wed'yn nad oedd o ddim o musnes i.' Tim o'ch bisness chi deyd o wrth neb arall, siwr, mae o'n bisness i mi. A chi'n deyd fod Mistar Edward yn calw yn'r Hafod tair ne peder cwaith yn 'rwthnos ?' Mae hyny yn peth mae pawb yn y wlad yma'n ei wybod ac yn ei ddweyd cystal a minau, Madam,' ebai Robin, ond toes neb yn meddwl, am a wn i, dydw' i ddim beth bynag yn meddwl, bod gan y gwr boneddig feddwl yn y byd o'r lodes, ond dall o alw yn y fan fyno fo, ran hyny.' Yd- ach chi siwr bod o'n galw ono felly, dyna'r cwbwl sy arna i eiso cwbod gyno chi. Wel, ydw, Madam, yn ddigon siwr o hyny, mi gwel- ais o myn'd ac yn dwad ono laweroedd o weith- iau a'm llygaid fy hun.' O'r gore, toes arna i eiso dim chwaneg.' gynoch chi, dyma i chi han- ner coron am fyn'd trosta i'r tre doe.' Wedi i Robin fyned ymaith, galwodd y lady holl ferched y ty ger ei bron, a holodd hwynt mor fanwl ac yr holodd Herod y doethion gynt, yn nghylch y stori am eu meistr, ond nid oedd ganddynt ddim rhagor i'w ddywedyd nag a n glywsai hi ei hun y wraig hono yn ddweyd wrthynt, pan oedd hi'n gwrando o'r tu cefn i'r drws, ond sicrhaent iddi nad oedd dim yn y stori, na buasai ei meistr byth yn edrych ar eneth fel Mary Evans. Yr oedd yr eneth yn burion,' meddent, ond ddim yn amgenach na rhyw eneth arall, o'i sefyllfa; ac am ei theulu, pobl wladaidd gyffredin iawn oeddynt, ond mai dynes erwin oedd eimam, &c.' Yr oedd y boneddwr ieuanc oddicai-tref er's deuddydd neu dri, ond yr oedd i ddychwelyd y diwrnod hwnw. Yr oedd ei fam yn parotoi ar ei gyfer,—yn hogi ei chleddyf, ac yn trefnu ei pheirianau i ymosod arno. Daeth adref yn yr hwyr, a gwelodd yn union fod arwyddion storm i'w canfod ar aeliau ac wynebpryd, a llygaid ei fam. Amheuodd beth oedd yr achos. Gan gynted ac y cafodd hi yr ystafell heb neb ond hwy eu dau ynddi, dechreuodd ymosod arno, gan dywallt ei theimladau digofus yn 0 gawodydd am ei ben. Troai yntau y cwbl yn gellwair. Chwarddai yn ei hwyneb, yr hyn a'i cynhyrfai hithau yn waeth. Yr oedd yn gyw- ilydd ganddi hi feddwl fod ei mab hi yn gwneyd son am dano drwy sylwi ar lances wleclig, vulgar, ignorant, fel merch yr Hafod; pan y gallasai gael merch un o bendefigion y deyrnas yn wraig. Yr oedd yn beth annioddefol iddi hi i feddwl fod i waed eu teulu anrhydeddus hwy gael ei halogi elrwy ei gymysgu a gwaed pobl gyffredin.' Methodd yntau a llywodraethu ei dymer yn y man: a dywedodd na wrandawai ddim chwaneg arni yn difrio Miss Evans. Y mae hi yn gyslal lady a chwithau bob dydd,' meddai, a medr actio y lady yn well nag y meclrech chwi erioed. A waeth i mi ddweyd y cwbl i chwi ar unwaith i gael pen ar y mater,' ebe efe, gan gau ei ddwrn, a rhoddi dyrnod ar y bwrdd nes oedd aelodau hwnw pi gwegian dan ei bwys, Mi fynaf gael Miss Evans, cost ied a gostio. Ni phrioda i byth, os na phrioda i hi, cymerwch y ngair i ar y mater,' ac ymaith ag ef. Bu yr hen lady o'r naill fit i'r llall, i'r hysterics trwy y nos hono. A mawr oedd helynt y gweinidogion yn feibion a merched gyda hi hyd y bore. Ymneillduasai Mr. Edward i'w lyfrgell ar ol y ffrwgwd gyda'i fam; aeth un o'r gweision ato, i ofyn ai ni fuasai yn well anfon brys genhadwr i'r dref i ymofyn y meddyg? 'Na, gadewch iddi,' ebe efe, 'hi a ddaw ati ei hun erbyn y bore.' A rhoddodd gyfarwyddiad- au iddynt i weinyddu ami. Deallasai y gwein- idogion beth oedd y mater, a chydymresymu y buant arno bob hamdden a gaffent y noson hono. Yr oedd Robin yn ei le wedi'r cwbl,' meddent. 'Ond pwy fuasai'n meddwl? pwy allasai goelio ? Beth sydd wedi ymwel'd ag ef ? Y fo briodi merch yr ^Hafod! A fu 'rioed fath beth o'r blaen, es pan mae'r byd yn fyd!' Os daw hi yma, ni arosa i ddim yma i fod dani hi am fynyd,' meddai un; Na finau,' meddai un arall, Na finau chwaith,' meddai y drydedd; Ni arosai neb yn ei sens,' meddai y bedwaredd Mi aroswn i'n wir,' ebai y burned, Mi fyddai'n dda gen fy nghalon i pe tae Meistr yn priod Miss Evans, chaiff o byth well gwraig, ac ni chawn ninau byth well meistres.' Bu rywyr i hono druan hel ei charnau a dianc- ymaith, yr oedd y merched ereill am ei llarpio. Yr oedd y meibion yn edrych yn fwy pwyllog ac athron- yddol ar y cwestiwn, na'r merched. Yr oedd y peth yn ymddangos yn chwithig iawn yn eu golwg hwythau; ond caniataent ei bod yn iawn a rhesymol i'w meistr, fel dyn arall, gael ei ryddid i briodi y neb a fynai, mai ei fisnes ef oedd hyny, &c. Wel, y mae yn iawn, ac yn bryd i minau derfynu y llythyr hwn bellach. HEN DEILIWIL

BETH WELAIS I YN LLUNDAIN.

BETH AM Y RHIFYN DIWEDDAF…

. EISTEDDFOD GWEPvNOGLE. --

Y PABCHEDIG DA YID PRICE YN…

YMADAWIAI) Y PARCH. T. C.…