Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
8 articles on this Page
'Y TRYDYDD TRO BYDD Y GOEL'-(…
'Y TRYDYDD TRO BYDD Y GOEL'- ( ETHOLWYR MEIRION. i I pan ydyxa yn cofxo dim oil, yr ydym yn $C° ° 3^ hen air,—' Y trydydd tro bydd y 0 e • Pa raor hen ydyw'r hen air nis gwydd- n Y mae yn hynach na ni beth bynag; r. YIlla y cawsom ef pan ddaethom i'r byd, ac y YrC ^8'0n tcbyg mai yma y gadawn ef. )j r oedd cryn lawer o goel yn cael ei roddi ar J eto 611 N»hymru a ^ichon fod j methai un yn ei gais ar ol cynyg dair ^aith, ni byddai gan y dyn fawr o hyder i gynyg at y peth hwnw drachefn. Y mac eich yctydd tro chwithau, etholwyr Meirion, yn •lS°shau! Cynnygiasoeh ddwy waith i cthol gwr yn ol eich calon i gynrychioli eich gwyddorion a'ch syniadau gwladyddol yn y senedd, ond yn aflwyddianus.—Gwnaethoch °gn.xon grymus y ddau dro,—rhedasoch yn dda, 11 agos i chwi gad gafael a chyraedd y nod, &wacthaf bygythion a scriwiau arglwyddi y -^id oedd ond nicgis deg-llath-ar-hugain 0 rhyngoeh a chyraedd y gamp pan dcrfynodd ymdi'ech y tro diweddaf, cr cryfed oedd gwynt gwrthwyncbol bygythion i'ch erbyn, f. c or tyned y scriwiau a ddodid am danoch. yythiodd rai yn eich mysg yn ferthyron dan 1 diulyniadau y scriw. Ond, cymmerwch galon,-y mae dydd yr hen beiriannau bar- baraidd hyny ar, os nad wedi llwyr ddarfod. Ni feiddia bwystfilod nos Toryaeth ddangos eu hunain, chwareu eu stranciau, ac arfer eu cyrn J a'u dannedd, fel yr arfercnt, byth ond hyny.
' Y TRETHI A'R COFRESTR.
Y TRETHI A'R COFRESTR. Yr ydym wedi derbyn llawer iawn o ymhol- ladau yn ddiweddar gyda golwg ar y trethoedd ar cofrestru. Nis gallasem gael hamdden i anfon at bob un yn bersonol. Mioddwn ychydig ° a\ver o'r ymofynion yma, gydag atebion idd- t; yr hyn ond odid a fydd yn wasanaethgar 1 eraill hefyd. Fel hyn y dywed E. E.—' Y mae cyfaill i mi 4 anddo bedwar o dai; ac y mae ef ei hun yn tl^- ynuno honynt. Mae wedi talu treth y • 11 tr\yy compoundio; a'r hyn sydd arno v q- 61 Avybod ydyw, a fydd ganddo vote dros a ^vvrdeisdref ? j ja ae §an eich cyfaill vote yn y Sir fel medd- I ycid. y tri thy y mae yn ei osod—ac y mae ganddo vote yn y bwrdeisdref fel trigianydd y ty y mae yn byw ynddo. Nid oedd compoundio y** ei amddifadu ef o'i bleidlais; ond yr oedd eyd hyny yn ymddifadu y rhai yr oedd yn COnipouiidio drostynt. Drwg genym glywed hwyrfrydigrwydd y rhyddfrydwyr yn y dosbarth yr ydych yn byw ynddo. Da chwi eWch eich goreu i'w cyffroi at waith yn -ddio,d. Ysgrifena J. W. atom fel y canl-yn: Yr Nvyf Wedi byw yn y ty yma er's pedair blynedd; ac yn talu saith swllt yr wythnos o rent, a'r land- • r<^ yn clirio pob trethoedd drosof; oblegid Yny aid oedd vote genyf. Yr wyf wedi dyfod | &ytundeb a'r meistr tir i dalu y dreth drosof ,0' Mae ef yn alloivio y peth oedd o yn ei dalu ° r blaen, a finau yn talu y gweddill. Yn awr y peth wyf am wybod ydyw, a fydd ei fod ef yn a n drosof yn fy yspeilio o fy vote V Os ydyw eich enw chwi ar lyfr yr overseer a'r Perchenog yn talu drosoch yn eich enw chwi, y ltlae yr un peth yn union a phe byddech yn lzyue(I yno yn bersonol i dalu. Nid yw taliad personol (personal paymentJ yn golygu fod yn l'haid i bob un dalu o'i law ei hun. Gall ei | ^"aig, neu fab, neu gyfaill, neu feistr tir dalu j .0sio; ond rhaid i'r taliad gael ei wneyd yn ch enw chwi eich hunan; heb hyn chwi goll- i Wch y vote. J. II. J. a dclywecl-I Yr wyf yn talu 6s. yr | ain letty wedi ei ddodrefnu. Yr wyf f nieddwl fod 2s. yr wythnos yn ddigon am | y celfi candryll sydd at fy ngwasanaeth. | y Rate Collector yn barnu nad oes genyf | yr wyf finau yn barnu yn wahanol; ac yr I aiQ fynu vote os gallaf; ac os ffaelaf ni IletQawr gwaeth.' r ydych yn gwneyd yn hollol yn eich lie i 011 eich claim i mewn. Y Revising Barrister b J .^nderfynu y mater; ond arnoch chwi y d i brofi nad yw use y dodrefn yn werth 2s. yr Wythnos. Gwna y tro i chwi anfon eich ^•Wittewn. ltlIOcIdwn yma ffurf i hawlio pleidlais i letty- • Gwna y tro i'w hanfon yn ysgrifenedig; ond 0l8^yHwn y gofala y Gymdeithas Ddiwygiad- o Jynvreig am barotoi ffurf, yr hon a ellir gael ymofyn am dani; ond rhag na wna, gofaled !>ob un am ei bleidlais ei hun.
CLAIM OF LODGER.
CLAIM OF LODGER. BOROUGH OF To the Overseers of the Parish of I hereby claim to be inserted in the List of Voters in respect of the occupation of the undermentioned Lodgings, and the particulars of my Qualification are stated in the columns below. Christian Name and Surname at full length. Profession, Trade, or Calling. I Description of Lodgings. Descriptthion OfbRo(fse in )WhiCh Lodging is situate, Name, Description and Residence of Landlord, Wl num er 1 any and name of Street. or other person to whom rent is paid. I I, the above named hereby declare that I have been during the twelve months immediately preceding the last day of July in this year, the Occupier as sole Tenant of the above mentioned Lodgings, and that I have resided therein during the twelve months immediately preceding the said last day of July, and that such Lodgings are of a clear yearly value, if let unfurnished, of ten pounds or upwards. Date this day of 1868. Witness to the Signature of the said And I certify my belief in the accuracy of the above Claim. Signature of Claimant, Name of Witness, Residence and Calling Rhoddwn sylw pellach yn y rhifynau nesaf i'r ymholiadau eraill. Ymdrechwn gadw y mater yn barhaus ger bron yr Etholwyr hyd nes elo yr etholiad drosodd.
CYNRYCHIOLAETH MERTHYR AC…
CYNRYCHIOLAETH MERTHYR AC ABERDARE. Mae etholwyr bwrdeisdrefi poblog Merthyr ac Aberdare mewn cyffroad mawr yn y rhag- olwg ar yr etholiad sydd yn nesau. Mae tri ymgeisydd Rhyddfrydig ger bron yr etholwyr. Ofer fyddai i Dori gynnyg ei hun. Er i'r blaid Ryddfrydig ymranu, ni byddai un gob- aith i Don fyned i mewn. Digon prin yn wir y ceid cynygydd a chefnogydd i ymgeisydd Toriaidd yn yr holl le. Mae yr holl ymgeis- wyr yn Rhyddfrydwyr. Mae Mr. Bruce, yr aelod prescnol yn sefyll eto; ac ar gyfrif ei wasanaeth cyhoeddus y mae ganddo hawl i gefnogaoth gyffredinol. Ymddengys er hyny nad ydyw yn boblogaidd gyda'r lluaws, er y cydnabyddir gan bawb ei fod yn un o'r aelodau goreu a fedd Cymru yn y senedd. Nid oes gan Mr. R. Fothergill, hyd y deallasom ni, ddim i'w gymmeradwyo i fod yn aelod sen- eddol, ond ei gysylltiad a'r lie fel meistr gwaith mawr; ac fel meistr gwaith nid yw yn sefyll yn uchel mewn un modd yn ngolwg ei weithwyr; ac ar hyn o bryd y mae yn digwydd bod yn llai poblogaidd nag arfer. Mr. Henry Richard ydyw yr ymgeisydd y teimla corff y boblogaeth yn Aberdare a Merthya sel drosto; dyma ddyn y bobl. Ac os cant lonydd i weithio allan eu barn bersonol, bydd o ddigon yn mlaen ar y ddau arall. Mae y brwdfrydedd yn angherddol drosto. Cawsom yr hyfrydwch yr wythnos ddiweddaf i fod yn eu plith i weled eu trefn, a chlywed eu penderfyniad. Mr. Richard ydyw y dyn y maent yn chwen- nych ei anrhydeddu. Mae ambell etiwardyn hunanol, ac ambell feistr bychan cul, a garent pe medrent ei ddirmygu. Gwelsom un o'r rhai hyny, a chlywsom ei gabledd; ond y mae sel y bobl mor danbaid, fel y tynasent lygaid y cablwr pe buasai ganddo lygaid i'w tynu. Mae y ffaith fod Mr. Richard yn Gymro trwy- adl, ac yn Ymneillduwr cyson, ar unwaith yn ei gymmeradwyo i wyth o bob deg o'r ethol- wyr, ac nid oes dadl i fod am ei ddychweliad llwyddianus, os ca y pleidwyr chwarcu teg; ac nid ydym yn gallu gweled rhyw bcrygl mawr na chant, ac yn y pen draw na fynant bleidleisio yn ol eu cydwybodau. Mae Pwyll- gorau Annibynol hollol g an bob un o'r tri ymgeisydd; er fod rhai o aelodau pwyllgor y naill ar bwyllgor y Hall, eto y maent yn hollol annibynol ar eu gilydd. Cael Mr. Richard i mewn ydyw pwnc mawr yr Ymneillduwyr, a gadael i'r ddau arall ymdaro gorou gallent. Nid yw o bw) s mawr gan lawer o honynt pa un o'r ddau arall fydd yr ail aelod; eu pwnc hwy yw dychwelyd eu dyn eu hunain yn anrhydecldus, ac er mwyn hyny y maent yn penderfynu plumpio drosto os gwelant y bydd achos. Mor belled ag y mae pethau yn ym- ddangos yn awr, bydd pawb at eu rhyddid i bleidleisio fel y mynent, heb ofni gwg nac anfoddlonrwydd eu meistr yn ol Ilaw; o leiaf, y mae yn cael ei siarad yn gyffredin na ddis- gwylia yr un meistr gan ei weithwyr ychwaneg nag un vote dros ei ddyn ef. Disgwylir y bydd i bobl Dowlais a Mountain Ash ac Aber- aman yn lied gyffredin roddi un bleidlais i Mr. Bruce, a'r llall i Mr. Richard. Yn Mer- thyr hefyd bydd yno lawer dros Mr. Bruce, a llawer dros Mr. Fothergill; ond credir y ca Mr. Richard, yn ol pob tebygolrwydd, fwy nag un o'r ddau, os nad mwy na'r ddau yn nghyd yn nhref Merthyr. Bydd dylanwad Mr. Fothergill yn fawr tuag Abcrcanaid a Z) Throedyrhiw, ac Aberdare, ar gyfrif gwaith Plymouth, a gwaith Abernant; ond y mac y bobl yno yn sclog iawn dros Mr. Richard gan mwyaf. Nid ydym yn credu fod o'r deng mil a bleidleisia ddwy fil na phleidleisiai dros Mr. Richard, os cant lonydd i weithredu heb un- rhyw ddylanwad anheg amynt. Cyn belled ag y mae pethau yn ymddangos, nid oes dim dadl am ddychweliad llwyddianus y Cymro Ymneillduol. Ar yr un pryd, nid gwiw i gyfeillion Mr. Richard fod yn rhy hyderus fel ag i fod yn ddiofal ac esgeulus; oblegid fe wneir pob peth a ellir gan bleidwyr y ddau arall, nid yn gym- maint er mwyn iselhau Mr. Richard ag er mwyn dyrchafu eu dynion eu hunain. Mewn etholiad y mae dynion cyfrifol a pharchus yn ymostwng y byddai'arnynt gywilydd o honynt eu hunain i wneyd hyny ar amserau eraill. Mae yn anmhosibl gwybod o ba le y cyfyd gwrthwynebiad, nac o ba gyfeiriad y chwytha gwynt croes. Er y dywedir yn awr y rhydd y meistri bob mantais i'r gweithwyr i bleid- leisio yn ol eu cydwybodau; ac er eu bod hwyrach yn meddwl felly yn awr, eto pan y daw yn boethder y rhyfel, a hwytlmu yn gweled eu dyn yn colli, nid oes genym ddim gormod o ymddiried ynddynt nad ymunant a'u gilydd, ac na roddir y scrho ar waith. Goreu oil os na wneir, ac er ein bod yn ccisio credu na wneir, eto gwell ydyw parotoi ar gyfer y gwaethaf, a gwroli y gweithwyr erbyn am- gylchiadau felly, os deuant; a dylai fod trys- orfa i dalu traul cludiad unrhyw un a gollo ei waith am bleidleisio, fel y gallo fyned i America.—Dichon na bydd dim angen iddynt fyned,—mae digon o weithfaoedd yn Merthyr ac Aberdare; os collir yn y naill ceir gwaith yn y llall. Ond bydd yn help mawr i wroli gweithwyr i wneyd y peth sydd yn iawn, os gwelant barodrwydd i'w cynnorthwyo. Der- byniasom lythyr un o'r dyddiau diweddaf oddiwrth foneddwr o Loegr, yn addaw cyfranu pum punt o bob cant hyd at 10,000p., a dan- ysgrifir at Guarantee Fund, i gynnorthwyo y rhai a ddyoddefa oblegid pleidleisio gyda Rhyddfrydwyr yn yr etholiad. Rhydd 500p. at wneyd 10,000p. Bydd ymgais mawr ond odid pan ddaw yr adeg i feddwi yr etholwyr; ar gyfer hyny byddai yn dda fod yr etholwyr yn cael eu rhanu yn ddosbarthiadau, a 30 neu 40 yn mhob dosbarth, a rhyw un selog a gweithgar i ofalu am bob dosbarth. Nid yw yn bosibl bod yn rhy drcfnus a gofalus. Ac y mae yn Merthyr ac Aberdare ddynion o'r fath oreu ar bwyllgor Mr. Richard. Gweithredant mewn trefn.—Maent wedi llunio rhestr o gyf- arfodydd i fod bob nos o'r wythnos mewn gwahanol gyrau, a phersonau o'r naill gwr i fyned i'r cwr arall i arcithio,—rhoddir pawb mewn gwaith,—ac y mae gan y gweithwyr ffordd briodol iddynt eu hunain o siarad, a derbyniant gan eu gilydd yr hyn ni dderbyn- iant gan neb arall. Mae Anerchiad Mr. Richard wedi ei argraffu yn Gymraeg a Saes- naeg, ac yn cael ei adael yn mhob ty; a bydd y parwydydd yn cael eu britho gan bapurau mawrion, fel, rhwng y cwbl, y ccdwir y mater yn barhaus ger bron y bobl. Mae llygaid holl Gymru ar Ferthyr ac Aberdare. Bydd yn ofer byth i siarad am y cam a ddyoddefwn, a'r an- hegwch sydd yn ein cynrychiolaeth, os na ddychwela Ymneillduwyr Merthyr Mr Richard i'r senedd gyda mwyafrif mawr. Mac yr Ymneillduwr hwnw na phleidleisio drosto yn fradychwr i'w egwyddorion; a'r dyn a frad- ycha un cgwyddor, pa ymddiried sydd iddo na fradycha bob egwyddor. AVeithwyr Merthyr ac Aberdare sefwch eich tir! Cofiwch pwy sydd wedi bod eich cyfeill- ion bob amser.—Mae pawb yn dadleu dros hawliau y gweithwyr pan welont ryw fantais o hyny; ond mae Henry Richard wedi hen arfer dyrchafu ei lais i'ch plaid pan heb un fantais bersonol i'w ddisgwyl wrth wneyd hyny. Mae llygaid Cymru arnoch, a'u dis- gwyliad wrthych i ddychwelyd Cymro ac Ymneillduwr i'r senedd newydd.
MON A MR. DAVIES, PENARTH.
MON A MR. DAVIES, PENARTH. Y mae ffurfafen cynhrychiolaeth seneddol Cymru yn goleuo ydyw y mae yn goleuo, ar 01 hir nos a thywyllwch ar ol hir ddanod ac eclliw i ni gan ein cymmydogion y Saeson, a hir chwerthin yn eu llewis ar ein traul, gan ein I hanwyl gariadus frodyr,' eglwysig a Thoryaidd, am ein bod fel cenedl, o Ymneill- duwyr, heb gymmaint ag un cynrhychiolwr i'n hegwyddorion yn y senedd, Y mae y dyddiau hyny o warth a diraddiad ar fyned heibio ni a hyderwn. "Wedi'r etholiad nesaf bydd gan Gymru Ymneillduol ni a hyderwn ddau Ymneillduwr beth bynag i'w dangos yn y senedd. Nid dau o ryw fath chwaith, ond dau o'r iawn fath—o'r fath oreu—' o'r iawn had oil'—nid amgen Mr Richard Davies, Pen- arth, a Henry Richard. Well done, gwyr Mon! Deallwn ddarfod i chwi ddyfod i'r penderfyniad mwyaf colonog y mynwch fon- eddwr genedigol yn eich Ynys, ac o'ch eg- wyddorion fel Ymneillduwyr, i sefyll trosoch fel eich cynhrychiolydd yn y senedd. Ewch yn mlaen, na throwch yn ol er neb, nac er dim, beth bynag; neu pwy bynag a geisio sefyll ar eich ffordd, a'ch troi oddi arni, na chymmerwch na'ch hudo na'ch dychrynu. Gweithiwch allan eich amcan i fuddugoliaeth; a thrwy hyny gwnewch fawr anrhydedd i chwi eich hunain, a chymmwynas i'ch cenedl a'ch gwlad yn gyffredinol. Bydd yn fawr anrhyd- cdd i Fon fod y sir gyntafyn Ngogledd Cymru i ethol Ymneillduwri'w chynhrychioli, a hwnw yn wr a anwyd ynddi, ac a fagwyd ganddi hi ei hun: a phwy a ddylai fod yn y blaen yn hyn ond Mon Mam Cymru ?' Wel, Mam, edrychwch ati! achubwch y cyfleusdra en- nillwch i chwi eich hun yr anrhydedd hwn, a bydd hyny yn llawenydd i'ch plant trwy Gymru oil. Cawsant wersi yn ac -wedi'r etholiad di- weddaf nad anghofiant yn fuan, a bydd y gyf- raith newydd er diogelu purdeb etholiadol, yr hon sydd yn darbod cospau trymion ar y rhai a brofcr yn euog o arfer bygythion a scriwiau ar yr etholwyr, mewn grym ac wrth law, erbyn y delo'r etholiad nesaf, i gymmeryd gafael yn y troseddwyr a phetrusant beth cyn y gosod- ant eu hunain yn y pexygl o fyned i fachsu hono. Er, rhyngom ni a chwithau, na byddai ddim yn rhyw ofid mawr i ni pe troseddai rhyw hen scriwiwr neu ddau, fel y gellid eu gwasgu yn dda am unwaith yn y scriw eu hunain, gael i ni weled pa fodd yr hoffent hwy y weinidogaeth hono. Wyr Meirion! Ni feddwch chwi ond un cynhrychiolwr trosoch yn y senedd; ac y mae hwnw, er dyddiau cenhedlaeth a chenhedlaeth, wedi bod yn yspryd celwyddog yn Nhy y Cyff- redin, trwy bleidleisio yno ar bob achlysur, ar bob cwestiwn o bwys, yn groes i egwyddorion t) ZD a barn y mwyafrif o honoch. Penderfynweh fel un gwr mai digon, a gormod yw yr amser t' ZD zlo a aeth heibio i aros ac ymdawelu mewn eyf- lwr fel hyn-na ddylech, ac na fynwch aros yn hwy ynddo. Y mae eich ymwared ar eich dwylaw chwi eich hunain. Cymmerwch afael arno. Yr ydych wedi deffro o ddifrif, y mae yn ymddangos. Deliwch ati, na lwfr- hewch, na lacsed eich dwylaw, na ddiosgwch eich arfau nes ennill y fuddugoliaeth. Gelwir ar y senedd nesaf i benderfynu un o'r cwestiynau pwysicaf, y pwysicaf oil yn ddiau, ac edrych arno yn ei holl gyssylltiadau, a ddygwyd o dan ei sylw yn yr oes hon. A foddlona Meirion i anfon etto gynhrychiolydd, i Dy y Cyffredin, i bleidleisio yn erbyn y mesur hwnw o gyfiawnder, ac o blaid parhau z,Y y trawster gwrthun hwnw [liefyd, sydd yn warth i'n gwlad, i'n Protestaniaeth, ac i Grist- ionogaeth-yr Eglwys Sefydledig yn Iwerdd- on ? Y mae yn anhawdd genym gredu y gwna. Attebweh trwy enau eich cyfarfod mawr yn Harlech y foru, NA "VVXAWX nes y cryno muriau yr hen gastell trwyddo.
MYNYDD AR DAN YN NGHYMRU.
MYNYDD AR DAN YN NGHYMRU. Y mae mynydd yr Eglwyseg, ger Wrexham, wedi bod ar dan er ys dyddiau, ac yn parhau i losgi tra yr ydym yn awr yn myned i'r wasg. Bu amrai dai yn y perygl mwyaf, a'r ffordd y cedwid y tan ymaith oedd trwy i ddynion ddefnyddio cangau er ei ymlid, ond yr oedd mewn rhai manau wedi gafael mor ddwfn yn y ddaear fel yr oedd yn rhaid tori ffosydd dyfnion er atal ei ledaeniad. Anfonodd Syr Watkin Wynn beiriant tan ddydd Sadwrn er ei ddiffoddi, ond parhau i fygu a llasgi y mae y mae y mynydd. Ceir rhagor o'r manylion yn y nesaf.
CAIS DIEFLIG I DDYMCHWELYD…
CAIS DIEFLIG I DDYMCHWELYD TRAIN. Ar yr l7eg cyfisol, cyhuddwyd Samuel Jenkins, 33 oed, yn Mrawdlys Worcester, o osod darnau o haiarn a chareg ar y rheilffordd, yn ymyl Kidder- minster, ar y 13eg o Ebrill, gyda bwriad i ddym- chwelyd y train, a thrwy hyny i beryglu dyogelwch y teithwyr. Yr oedd y carcharor wedi bod, amser yn ol, yngwasanaeth y Railway Company, ond di- swyddwyd ef. Ar y 13eg o Ebrill diweddaf, yr oedd review y volunteers i gymmeryd lie yn mharc Ar- glwydd Lyttleton, 'yn Hagley, ac yn yr liwyr, yr oedd special train yn rhedeg i gludo y gwirfoddolwyr gartref. Ychydig cyn i amser y train fod yn Kid- derminster, gwelwyd y carcharor yn rhedeg oddi- wrth y line He yr oedd careg fawr a pheth haiarn wedi eu gosod ar draws y rails. Yr oedd y dystiol- aeth yn erbyn y carcharor y fath fel na adawyd un math o amheuaeth am ei euogrwydd. Yn rhaglun- iaethol rhwystrwyd galanastra torcalonus trwy ddarganfyddiad prydlon o'r cais dieflig. Cyfaddef- odd y carcharor ei euogrwydd, a dywedodd y Barn- wr fod y trosedd yn un ysgeler iawn, a'r fath'y teimlai rwymau i ro'i cosp gyflawn y gyfraith mewn grym. Gan hyny, dedfrydwyd ef i ddyoddef penyd wasanaeth am ei oes.
CHWECH 0 PECHGYN AV, EDI BODDI.
CHWECH 0 PECHGYN AV, EDI BODDI. Ddydd Gwener diweddaf, aeth wyth o fechgyn i ymdrochi yn union ar ol dyfod o'r ysgoliy pryd- YS 90 ,y pry nawn, yn Prestatyn, pentref bychan prydferth rhwng Mostyn a Rhyl, a chylchynwyd hwynt gan y llanw, fel nad oedd modd dianc heb fyned trwy ddwfr tair neu bedair llath o ddyfnder yn y man basaf. Llwyddodd dau o honynt, modd bynag, i allu nofio, sef Robert Evans a David Wells, 14eg ac lleg oed, ag mor gynted y daethant allant rhedasant i ymofyn cynnorthwy, ond nid oedd yn un dyben, gan fod y chwech ar eu dychweliad wedi eu cuddio o'r golwg gan y tonau. Eu henwau a'u hoedran oeddynt-Walter Douglas Williams, 10; Thomas Ellis, 11 William Ellis, 9; Samuel Gilderoy, 11; George Gilderoy, 9 a Martin M'Mahon, 10. Caed tri o'r o'r cyrph oddeutu awr ar ol y dd^mwain, a chaed y tri arall am un o'r gloch boreu Sadwrn. Yr oedd y ddau Gilderoy yn feibion i Mr Gilderoy, meistr gwaith glo, yn Maesglas, ger Treffynon, ac yr oeddynt yn Prestatyn yn. treulio eu gwyliau. Yr'oedd y ddau Ellis yn feibion i ainaetliwr o'r enw hwnw yn nghynimydogaeth Prestatyn; a meibion i rieni tlodion yn y pentref oedd y ddau arall. Cynhaliwyd trengholiad ar y cyrff ddydd Sadwrn, ger bron Mr John Parry, yn y Railway Inn, a dy- chwelwyd y rhexthfarn, o Foddiad Damweiniol.' Yr oedd pump o'r chwech yn perthyn i gor eglwys y Pentref, ac yr oedd ganddynt fel y tybient ddigon o amser i ymdrochi cyn myned i'r cyfarfod canu wythnosol. Cleddir hwynt ochr yn och wrth eu gilydd yn mynwent eglwys y lie. Bwriada yr offeiriad gael ffenestr liwiedig gyferbyn a'u seddau yn goffadwriaeth am danynt.