Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

EFEWYLWYE TEITHIOL CYMRU.…

News
Cite
Share

EFEWYLWYE TEITHIOL CYMRU. RICHARD JONES, LLWYNGWRIL. fParhad <j r rhifyn diweddaf.) Dygwyddodd iddo weithiau yn ei oes fyned tir ei liynt yn llawn digon agos ganddo i gyffin- ian y Saeson, gan deirnlo yr anfantcision oedd iddo oddiwrth ei anaclnabyddiaeth o'r iaith Saesoneg. Ceir engraifft o hyn yn yr hanesyn a ganlyn, yr hwn a dderbyniwyd oddiwrth Mr. Thomas, o Benarth:—'Arferai Richard Jones ddyfod i bregethu yn flynyddol i Benarth, Jer- usalem, &c., ac yr oedd pawb yn hoffi ei wran- daw. Yr oedd y gvveinidog yn y fhvyddyn 1844, yn ilettya mewn tyddyn o'r enw Brynelen, lien gartref cysurus gweision Crist am lawer o flyn- vddau, Daeth cyhoeddiadau Richard Jones i law i fod yngliapeli y gymydogaotb, "ac yn nhy rhyw foneddiges grcfyddol ar ororau y Cymry a'r Saeson, ger Trallwm. Pan ddaeth efe i Brynelen, nid oedd gwr na gwraig y ty gartref, ua'r gweinidog ychwaitli, neb ond y forwyn, a Mr, Williams y ineistr tir. Ar fynediad yr hen frawd i'r ty, gofynai i'r forwyn, "Oth yma gy- Iioeddiad i mi heno, dwad?" "Oes," ebehithau. '•O'dd goreu, da iawn." Ar hyn eisteddai ar y gaclair wrth y tan gyferbyn a'r landlord cysglyd, yr hwn oedd yn hoff iaAvii o siarad, a holi pawb; ond ni fedrai air o Gymraeg. Yn mhen enyd feclian deffrodd y boncddwr o'i gwsg, a chan edrych ar Jones yn ymddangos yn esgobaidd iawn yn y gongi arall, efe a'i cyfarchodd, gan ddywedyd Good morning, Sir." Good modd- •nin, th.yrf ebe yntau. It is a very fine morning, ebe y landlord. "(food moddnin," medd- :¡i\. hen lane. "Did you see Mr. and Mrs. Da vies <(uj ii'he-re?" Good moddnin." "I am the proprietor of this farm, and I intend to improve it do you know something aboltt drainage.2" "Well wfft ti, taw bellach; good moddnin, dim tliathneg." Gyda hyny trodd at y forwyn, yr lion oedd wedi ei gorchfygu gan chwerthin, a z, dywedodd wrthi, "Ni ddo'i i byth ar gyfyl dy Glawdd Offa di mwy." Felly ybu; clyna y tro olaf iddo fod yno mwyach, er iddo fwriadu ym- weled drachefn a'r gymydogaeth hono. Mawr- hcied gwyr ieuainc y dyddiau hyn eu breintiau mawrion, a gofalant am eu hiawn ddefnyddio, fel y byddont yn alluog, os bydd raid, i yin- gomio a landlords a ddygwydclant deimlo ar eu calon holi cwestiynau iddynt; ac yn enwedig y medront bregethu Crist yn agos a thu hivnt i Glawdd Offa. Arferiad cyffredin Richard Jones ar ol ei ddyeliweliad adref am ychydig wythnosau, fyddai cyfansoddi tair neu bedair o bregethau ue'iryddion fol darpariaeth gogyfera'i daith nesaf, oblegyd yr oedd yn hynod fyfyrgar. Yr oedd yn rhagorol fedrus yn newisiad testyi-ia-Li at wa- hanol amgylchiadau. Dygwyddodd i'r ysgrif- enydd ar un o'r cyfnodau hyn, ymweled a'i dad oedranus ag oedd mron marw. Dywedai Richard .Ton(,5, Evanth, y mae eich tad yn bur sal; mae o'n debyg o fyn'd i lawr yn fuan, fuan. 0'1' holl gyfeillion ag oedd yn dechreu'r achos yn Llwyngwril, doetli neb o honynt yrwan yn fyw ond eich tad a minan. Ac oth bydd yntau farw o'm mlaen i, mi fydda i wedi fy ngiadel fy i, Ar ol sychu ei ddagrau, dywedai yn inhellach, Evanth, y mae gen i destyn rhagor- ol at bregeth angladd eich tad; sef y geiriau HûW yn 1 Bren. xix. a'r rhan olaf o'r ddegfed adnod—"a mi fy hunan a adawyd, a cheithio y niaent fy einioeth inau. Pregethodd ar yr achlysur yn nodedig o effeithiol. Teimlai ein hen gyfaill yn ddwys bob amser dros lwyddiant achos yr Arglwydd yn gartrefol a tliramor, yn enwedig yn misoedd diweddaf ei oes. Llywodraethid ei sel yn gyffredin, yn ngnvresogrwydd ei weddiau, gan wybodaeth a doethineb: ond un tro yn Llwyngwril ar foreu Sabbath, pan oedd efe yn gweddio dros achos Crist mewn gwledydd pellenig tudraw i'r mor- oedd, yn enwedig yn Madagasgar, tywalltai ei galon mewn erfyniau taerion dros y brodyr a'r chwiorydd oeddynt yn dyoddef yno dan anfan- teision ac erledigaeth, a dug achos yr hen fren- hines ger bronDuw; ac mewn eiddigedd duw- iol dros ei ogoniant, ac mewn tosturi cyffrous dros ei gyfeillion gorthiymedig, ac o gasineb calon at greulondeb ei Mawrhydi, dywedai,— Yr ydym yn dymuno arnat roddi colon neiuydd iddi, Arglwydd; dyro galon newydd i hen fren- hineth annuwiol a chreulon Madagathgar! Ond, oth bydd hi ar ffordd dy achoth di i fyn'd ymlaen, i'r fflamia a hi! i'r fflamia a hi I I' Ni feiddiai neb a dweyd amen wrth y fath ddeisyf- ond yr oedd pawb yn ddystaw fel y bedd, oddieithr rhyw hen gyfaill a roddai ochenaid drom. Hwyraeh y buasai meibion Zebedeus yn angerdd eu sel yn gwaeddi gydag ef, A -g- lwydd, a fyni di ddywedyd o honom am ddyfod tan i lawr o'r nef a'i difa hi A phe dygwydd- asai i'r enwog genhadwr Eliot fod ar y pryd yn nghapel Llwyngwril, a deall deisyfiad yr hen fmwd, efallai mai cryn orchest fuasai iddo jiitau allu ymatal, yn mhoethder ei sel dros achos ei Dduw, rhag gwaeddi yn uwch na'r tri, Amen, fjord, hill her I' Ar ol diweddiad y moddion, aetli rhai o'r cyfeillion at Richard Jones, gan o iddo mewn syndod, 'Paham y gweddiasoch mor arswydus dros frenhines Madagasgar? Ac yn mha le yn yr ysgi"}"tliyr y cawsoch sail i ddeisyfu y fath beth Yntau, yn ymwybodol fod ei sel y tro hwn wedi tori dros ei derfynau piiodol, ni chynhygiai ymresymu a hwynt ar y mater, ond gan brysur hwylio tuag adref, a Ad ywedai wrthynt, Mae yno ddifai lie i'w thiort hi, oeth yn wkidioiiedd inu. Mae 11awer o'i gwell hi wedi myn'd yno!' Aeth ymaith i'w daith drachefn yn mlien ycliydig ddvddiaii, Ond yr ydym bellaeh yn barnu mai pricic101 fyddai i ni derfynu ein hysgrif, heb ymhelaethu am ei rinweddau fel Cristion, ac am ei hpiod- ion fel pregethwr teithiol: yn unig ni a edrych- wn arno yn dvchwelyd adref i Lwyngwril i fame. Nid oedd fawr o bryder ynddo un amser gyda golwg ar y lie y byddai farw ynddo, pa un ai gartref, ynte ar ei daith, y cymerai hyny le. Gofynodd chwaer hynaf yr ysgrifenydd iddo pan oedd etc ar gychwyn i un o'i deithiau, 'Ric'iiarcl Jones, a fydd arnoch chwi ddim ofn marw oddicartreff Betsy, dim; dyw o bwys yn y byd yn mha le na pha bryd; y mae'r pac bach yn barod;—ffarwel i ti yddwan.' Teimlodd rhywun awydd hysbysu i dywysog- aeth Cymru, a hyny flynyddoedd yn gynt na phryd, fod Richard Jones, Llwyngwril, wedi marw. Nis gellir canmol y tro hwn, oblegyd achosodd yr hysbysiad hwn drallod nid bychan i ganoedd, ac yn enwedig iddo ef ei hun, Dy- wedodd rhyw gyfaill wrtho, 'Richard Jones, mi glywais i eich bod wedii),(ti,it, 4 Wel, yn wir, mi glywais inau hyny hefyd; ond mi wyddwn i gynted ag y clywaith i mai cehvydd oedd o.' Ond yn awr y gwir yw fod ei angau ef gerllavr. Ni chafodd ond byr gystudd, yr hyn ydoedd yn fraint fawr iddo. Awgrymasai ycliydig amser epi hyn fod awr ei ymddattodiad ef yn agoshau. Pan fynegwyd fod ei frawd, yr hwn a fuasai yn byw yn yr un ty ag ef, wedi marw, cyfododd o'i wely ac aeth i gwr ei ystafell, gan ddywedyd yn wylofus, 'Wei, wel, Guto bach, dyma di wedi myn'd!' Dof finau ar dy ol cli dethd yn union.' Gofynai ei chwaer iddo cyn caelohono un o'i lesmeiriau marwol, 'Die bach, leiciet ti fyw gyda ni dipyn eto:' 'Dim o bwyth,' ebe fe. 'A fyddai yn well gen ti farw?' 'Wel y gwelo Fo'n dda,' ebe yntau. Cymerodd yr ymddyddan canlynol hefyd Ie rhwng un o'i gyfeillion ag ef. Pa fodd yr ydych r' "Rwyf yma yn myn'd yn gyflym iawn.' 'A ydych yn lled ofidus?' 'Nac W,,yf, 'rwyn maddw yn ffeindia 'rioed dan gysgu o hyd, heb fawr ninder arnaf.' 'A ydych yn ym- wybodol eich bod yn ymyl byd arall?' Ydw:' 'Yr ydych wedi pregethu cryn lawer yn ddi- weddar ar farw a byd arall: pa un ai goleuo ai tywyllu y mae arnoch chwi yn awr, fy hen gyf- aill, pan yn nesu i'r amgylchiadr' "Dyw hi ddim t'wllach both bynag, ond yn oleuach.' Dywed rhai eu bod yn cael rhyw olygfeydd mawrion a rhyfedd yn ymyl marw; a ydych elt lui yn cael rhywbeth felly ?' Diiii byd, dim byd yn bellach na thir y Beibl; nid oes dim pellach i'w gael tra bo ni yma. Mae pob peth tu allan i hwn yn gwbl guddiedig gan Dduw. Ni thai dim ond gweithredu ffydd ar dystiolaeth Ddwyfol.' Ar hyn syrthiodd i gwsg, a chysgu n 11 Li a wnaeth etc gan mwyaf yn ystod ei ddyddiau diweddaf. Llawer a, soniai efe yn ei fywyd wrth oreill am weinidogaeth angau, ac am werthfawredd crefydd erbyn myned i'r afon; dyma ef ei hun yn awr ar fin yr afon heb arswydo rhag ei chen- Ilif, ie, yr hwn a deithiasai ddwy filldir o gwm- pas yn hytrach na chroesi cornant dros bont- bren ganllawiog;—ie, yr hwn a gwmpasai ar ei draed ugain milldir o ffordd i fyned o Abermaw i Lwyngwril, yn hytrach na chroesi yr aber gul hono mewn bad, gan yr arswyd oedd arno rhag croesi dyfroedd,—wele ef yn awr, pan yn dech- reu gwlycliu ei draed yn afon angau, yn mynegu wrth ei gyfeillion, a hyny gyda sirioldeb a gwr- older, 'nad ofnai ef niwed, gan y gwyddai fod ei fywyd yn thaff yn Nghrist cyn dyfod yno.' Felly ymadawodd a'r bywyd hwn, Chwefror 18fed, 1853, yn 73 mlwydd oed, ac aeth i mewn i lawenydd ei Arglwydd. Llangollen. E. EVAXS.

YR IAITH SEISNIG MEWN EGLWYSI…

DALEN 0 DDYDDLYFR GWYNX YAUGHAN.

,CYSTADLEUAETH Y BRYN, LLANELLI-

BEIRNIADAETH Y TRAETHODAU…

[No title]