Skip to main content
Hide Articles List

14 articles on this Page

c GWAENCAEGURWEN.

. £ en MERTHYK TYDFIL.

NELSON.

PONTARDULAIS.

RHYL.

REHOBOTH, PENFRO.

WYDDGRUG.

News
Cite
Share

WYDDGRUG. Yr wythnos ddiweddaf, cynhaliodd y Methodist- iaid Calfinaidd eu Sassiwn Chwarterol yn y dref hon, megis ag yr adroddwyd yn y rhifyn diweddaf o'r TYST. Yr wythnos hon, cynnaliwyd CHWABTEB SESSIWN yr ynadon am y sir, ac mae yn ddrwg genyf ddy- weyd fod calendar y sessiwn hon yn dduach na'r cyff- redin o lawer. Pa beth yw yr achos o hyn ? A yw y byd yn myned yn waeth, neu ynte a ydyw yr eg- lwys yn myned yn fwy diwaith ae esgeulus ? Mae y ffaith fod troseddau yn cynnyddu yn galw am ym- chwiliad i'r mater, ac am wn i na byddai sessiwn i wneyd hyn mor bwysig a sessiwn i brofi a chosbi drwg-weithredwyr. Ymddengys mai gair Ffrangc- aeg ydyw session, yn arwyddo y weithred o eistedd. Eistedd yn bwyllog i feddwl, i ymgynghori, ac i benderfynu ac ni byddai niwed yn y byd pe byddai mwy o sessions yn cael eu cadw gyda golwg ar wella cymdeithas. Yr oedd yn dda genyf weled fod y cadeirydd, J. Scott Bankes, Ysw., yn gwella mor dda. Boneddwr gonest a didderbyn wyneb yw hwn ac os arbedir ei fywyd, nid oes ammheuaeth na wna les yn mhob ystyr yn y sir hon. Cymmerodd ei gadair boreu ddydd Iau, am hanner awr wedi deg o'r gloch, ac wedi dyweyd ychydig eiriau wrth yr uchel-reith- wyr, dechreuwyd ar orchwylion y dydd. Addefodd SARAH PIERCE, geneth ieuangc olygus, ei bod yn euog o ladratta 15s. 6c. o arian yn perthyn i Mrs Jaques, o'r Rhyl, ar yr 20fed o Fai diweddaf. Ymddiriedwyd yr arian iddi i brynu rhyw bethau i Mrs Jaques yn Lerpwl; ond yn lie gwneyd hyny, cymmhwysodd yr arian at ei gwasanaeth ei hun. Dywedai ceidwad y carchar ei bod wedi ymddwyn yn weddus tra yn y carchar. Rhoddwyd iddi fis o garchar, gyda gorchymyn i'w chadw ar wahan oddi wrth y carcharorion. LLADRATTA DILLAD gan forwyn. Addefodd Elizabeth Roberts ei bod wedi Iladratta dillad yn perthyn i'w meistres, Mrs Jones, yn Rhyl, ar yr 21ain o Fehefin. Dyfarnwyd i dri mis o garchar. LLADRATTA PLWM. Cyhuddid creadur digon diniwed ei ymddangosiad o'r enw Edwin Withers, o dynu darnau o blwm oddi ar do hen dawdd-dy Rhydymwyn, perthynol i P. B. D. Cooke, Ysw., ar y 19eg o Fawrth diweddaf. Cymmerodd y plwm i'w werthu i siop un McDermott, yn Wyddgrug; ac wrth gymmharu plwm y stordy a'r plwm ar do y tawdd-dy, a'r dull yr oedd wedi ei rwygo, penderfynodd y rheithwyr mai'r un plwm ydoedd. Dygwyd yn euog, a derbyniodd ddau fis o garchar gyda llafur caled, Y DDAU JOHN OWENS.' Crybwyllais am y tad a'r mab hyn yn cael eu tra- ddodi i'w profi yn y rhifyn diweddaf. Cofia y dar- llenydd a ddarllenodd y crybwylliad fod John Owens y mab wedi dwyn darn coron yn arwydd Y Llew Coch,' Wyddgrug, ar y 25ain o'r mis diweddaf, o logell Patrick Diveney, Gwyddel simple ac i John Owens, yr hynaf, logellu y goron, pan yn gwybod ei bod wedi ei lladratta. Cyfaddefodd y pechadur ieu- engaf ei fai, ond gwadai y pechadur hynaf. Cafwyd ef er hyny yn euog. Bu, fodd bynag, mor straight forward am unwaith a chyfaddef ei fod wedi cael ei draddodi i garchar yn mrawdlys Mawrth, 1863, am ladrad. Derbyniodd John Owens y tad chwe mis, a John Owens y mab bedwar mis o garchar. YR YMOSODIAD ANWEDDAIDD. Crybwyllwyd eisoes yn y TYST am John Purcher a ymddygodd yn anweddaidd tuagat Hannah Wilcock. Ar ol prawf hir, cafwyd yn euog, a dyfarnwyd i flwyddyn o garchar. Amddiffynid y carcharor gan Mr Ignatius Williams. Dywedodd rhywun yn y Ilys, ar ol gwneyd yn hysbys y ddedfryd, 'Digon bychan iddo.' Fe gofia y darllenydd mai hogen tua thair-ar-ddeg oed, oedd yr achwynyddes. Cymered dynion iguaingc rybudd. DAU DDYHIEYNS A.I.§,GWC!P^F^| Llaslanciau oedd y rhai hyn yn ateb i'r enwau hynod Donald Mc'Intcsh, Charles Crowford, a John Mc'Donald. Yr oedd gan y lleidr Mc'Intosh yr aliases a ganlyn,—James Green, John Williams, John Franklin, a John Howard. Yr oedd Mac Donald yn fodalawn ar un alias. Cyhuddid y tri o dori tai John Williams, Tremeirchion, a Joseph. Ellis, o blwyf Whitford; a lladratta oddiyno amryw bethau, ac yn eu plith torth, darn torth, a darnau o faewn. Cyhuddid hwy hefyd o ladratta o ystordv Mr David Jones, Fflint. Addefai Mc'Intosh a Crawford eu bod yn euog o dori y tai, ond gwadent ladratta o ystordy Mr Jones. Gwadai John Mc'Donald yr holl gyhuddiadau. Tynwyd yn ol yr erlyniad yn erbyn (,y' y carcharorion am ladratta yn Fflint. Addefodd Mc'Intosh a Crawford eu bod wedi cael eu careharu amryw weithiau yn yr Alban. Gan eu bod yn dros- eddwyr celyd a hen, er nad yn hen mewn dyddiau, dyfarnwyd y ddau i wasanaeth penydiol am saith mlynedd bob un. Dywedai Mc'Intosh yr hyderai y byddai y Cadeirydd yn eistedd yna pan ddeuai yn 01. Cafwyd John Mc'Donald yn euog o gyd-dori ty Joseph Ellis, ond gan nad oedd dim yn ei erbyn o flaen y llys, anfonwyd ef i garchar am ond chwe mis. Y mddengys mae wedi cael ei gymmeryd i mewn yr oedd gan y ddau arall. Yr oeddwn yn teimlo dros y llanciau hyn.—Ni chawsant hwy druain rieni ac athrawon i ofalu am danynt fel bechgyn Cymru.—Cymaint ddylai hwy ragori. Efallai fod llawer o bethau da wedi eu claddu dan wahanol haenau o ddrygioni yn y bechgyn hyn. Peidiwn a barnu yn rhy galed, ond yn hytrach rhoddwn law o gymhorth i drueiniaid a esgeuluswyd. Da fyddai i Ynadon, Arolygwyr, a Gwarcheidwyr y tlodion, ie, a'r Police men eu hunain feddwl tipyn am hyn. LLADRATTA CRYS. Addefodd Thomas Kennedy ei fod yn euog o lad- ratta crys o dy Edward Price, Fflint, ar y 3ydd o Mehefin. Anfonwyd ef i garchar am chwech wyth- nos. Gohiriwyd y Llys ar ol yr achos hwn hyd ddydd Llun, y 6ed cyfisol, pan agorwyd am haner-awr wedi deg or gloch. GWR A GWRAIG. Cyhuddwyd John ac Elizabeth Matthews o lad- ratta X2 7s. 6c. oddiar hen wreigan o'r enw Sarah Ward, yn Wyddgrug, ar y 25ain o Fai. Ni chaf- wyd hwy yn euog-; ond yr oedd cyhuddiad arall yn erbyn Y WRAIG. Dywedid iddi ddwyn gwddi-fantellig o siop Mr Jones, 'Cwch Gwenyn,' W yddgrug, ar y diwmod uchod. Gwadai yn dyn, ond cafwyd hi yn euog, ac anfonwyd i g-archar am fis. E. H. TAYLOR. Mae y gwr hwn yn dra hysbys yn y wlad hon fel un cynhyrfus, siaradus, a hynod dymherog yn ei ddiod. Nid yw heb alluoedd meddyliol, ond mae synwyr cyffredin yn brin iawn ganddo. Mae Uawer iawn gwaeth na, Taylor druan yn cael eu hystyried yn bobi lied dda. Twrw mawr heb lywodraeth ar ei dafod ydyw, pan mae y lleill yn ochelgar, ac yn rhoddi eu geiriau fel wrth bwysau. Cyhuddid Tay- lor gan un Richard Claney, o ladratta nwy bibelli ar yr 8fed o Fai, yn Coedtalon. Yr oedd ymddygiad cynhyrfus y carcharor yn tynu sylw cjdfredinol y Llys, a'r hyn a roddai arbenigrwydd i'r prawf oedd y ffigyr a dorai ei briod wrth ei gynorthwyo i osod ei achos o flaen y dadleuydd, drwy ysgiifenu a chyf- eirio at bapurau.—Mr Swctenham oedd dros yr erlyniaeth, a Mr Lloyd Roberts dros y carcharor. Ar ol hir brawf, caed ef yn euog, a dedfrydwyd i ddau fis o garchar. LLADRATTA ODDIAR Y PERSON. Anfonwyd Elias Williams i chwe mis o garchar am ladratta deunaw swllt oddiar Thomas Burrows. Diweddodd hyn y gorchwylion, a chyfodocld y Llys tua haner awr wedi pedwar. Gwelaf nad oes genyf ond dalen ddu i gyd i chwi yr wythnos lion, ond pe g-ofod, buasai i chwi I eiritl-t evsur. LL ANYMDDiTlil. Gwnaethom dipyn 0 gamsyniad yr wythnos ddi- Aveddaf trwy ddyweyd fod cyfarfod cyhoeddus i gael ei gynnal yn yr ysgoldy Frytanaidd, nos Lun. Yn lie hyny cyfarfod i ymgynghori ydoedd yn nghylch y modd effeithiolaf i gael gan y bobl i ymbarotoi ar gyfer yr etholiad dyfodol. Y Parch. M. Evans, (B.) sydd i fod yn gyfrifol am yr amryfusedd hwn, oblegid efe a ddywedodd wrthym yn ei gylch. Ond bwried- ir cael cyfarfod cyhoeddus eto cyn hir. Y Sychder.—Y mae yn sych anghyffredin, a'i effaith yn fawr yn y cylchoedd hyn yn awr. Y crop- iau gwair yn ysgeifn, a'r tir pori wedi crasu fynu yn goch. Yr afonydd yn agos a sychu yn llwyr, ae o ran hyny gwelsom ran fawr hyd yn nod o wely y Tywi heb yr un dyferyn o ddwfr yn rhedeg arno. Dywedir na fu cyn lleied o ddwfr yn yr afonydd yn y parth hyn o'r wlad er haf'sych y flwyddyn 1826. Ymddengys yn addawus iawn am gropiau cla o wenith; ond y mae y llafuriau eraill yn bur ys- geifn. Gam yn ei le.-Penderfynodd masnachwyr y dref hon, yn y Town Hall, nos Wener, bron yn unol un- llais i gau eu siopau bob prydnaw-i-i dydd lau, er mwyn i'r dynion ieuaingc sydd yn eu gwasanaeth, yn ogystal a hwy eu hunain, i gael ymorphwysiad ac adloniant i'w natur. Ni fydd hyn yn unrhyw anfantais i'r masnachwyr ychwaith, oblegid fe fydd i'r bobl gydag ychydig o ymarferiad yn sicrhau eu negeseuon yn y boreu. Nid oes dim yn fwy dymun- 01 na gweled y meistriaid yn teimlo dyddordeb yn nghysur y sawl sydd yn eu gwasanaeth, dyna'r ffordd mwyaf effeithiol iddynt hwythau sicrhau ffyddlondeb y rhai a'u gwasanaethant.—Sylwcdydd.

CEILIOG YN LLADD PLENTYN.

CYELAFAN ERCHYLL.

BRO MORGANWG.

lEISTEDDFOD Y G WPJIYD.

MANION 0 FYNWY.

TYDDEWI. j

TYDDEWI, PENFRO.