Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
14 articles on this Page
c GWAENCAEGURWEN.
c GWAENCAEGURWEN. |°'dy j ^yd cyngherdd anrhydeddus yn yr Ys- b yp^naidd nos Sad-wrn, Mehefin 20fed. Can- j S^Hltn^y^^thcg o ddarnau rhagorol gan glee party 0ll6ti) r% 0g'aeth. Llywyddwyd gan y Parch John larigiwc.
. £ en MERTHYK TYDFIL.
£ en MERTHYK TYDFIL. °'i le-—Gan nad beth am galon yr 8o 0 le ? d^ed^» yn Merthyr, y mae rhywbeth W? y fona^ri,.e^ P^en hi. Nid yn ei phen yn mher- M o^d ge? urddaso1 yn Windsor Castle a fedd- ln6 J1* v1 P^en mater°l a gweinidogaethol yn amser y11 ol» Pan oedd y gwas- tert ^odH^i° ar 1108 Sabbatl1 yn myned yn mlaen, ktf$v £ °dd U le yn 1?lhen Eglwys St. Davids, fel y t j ^5?st y gynnulleidfa, ac y rhedodd pawb allan Jj y g>eif-an adael y person yn ei wenwisg i wneyd ig^ddaf 1 yn oreu. Boreu Sabbath, wythnos i'r tu'a r,8'anol y gwasanaeth, syrthiodd darn o'r i f Pnwys o bwysau, i un o'r corau, ac mor Uli0neddi8'e9, fel pe buasai ychydig fodfeddi ochr y buasai ei phen, er gwaethaf y saucer bonnet, oedd arno, wedi cael eyfieusdra i brofi pa un ai efe ynte y darn mortcr oedd galetaf. Felly, gan hyny. rhid Iod rhywbeth allan o le yn y pen naturiol cyn ei fod mor agored i dan ac i syrthio. Pe gwrandewid ar ein cynghor, cynghorem pawb sydd yn mynychu St. Davids i beidio myned yno o gwbl, neu i beidio myned yno nes byddo y pen wedi ei sicrhau rhag tan a rhag syrthio. Yn yr hwyr, teimlodd y pen gweinidogaethol (y rector) mai ei ddyledswydd arbenig ef y noson hono oedd ymdrechu argyhoeddi ei wrandawyr mai nid epaod call gwar- eiddiedig a dysgedig ydynt. Galwodcl allan holl nerthoedd ei enaid a'i athrylith i wrthbrofi athraw- iaeth ddadblygiadol Darwin. Nis g-allwn ddyweyd i ba raddau y llwyddodd yn ei amcan i'w perswadio i gredu mai nid epaod oedd ei hynafiaid hwy ond credwn iddo lwyddo i brofi, os oes rhyw un yn Mer- thyr wedi disgyn o'r linach epaol, ei fod ef a hawl gref i haeru mai efe ydyw hwnw. -D).. -Dyke a'r Ysgol Frytanaidd.—0 ddeutu pythef- nos yn ol, gwelsom sylw yn y Daily Leader fod bachgen bychan wedi marw mewn canlyniad i ddy- chryn a gafodd drwy gael ei gloi mewn dark hole yn yr Ysgol Frytanaidd. Yn mhen ychydig ddyddij-iu, dyma nodiad yn y papuraulleolynhysbysunad oedd y bachgen wedi ei gloi mown dark hole. Daeth y mater dan sylw pwyllgor yr Ysgol Frytanaidd, a dyma y ffeithiau fel y maent wedi eu cael allan hyd yma. Rhan o ddisgyblaeth yr Ysgol Frytanaidd hon yw, os bydd bachgen yn hwyr yn dyfod i'r ysgol, ei fod i gael ei gadw i mewn am tua thri chwarter awr ar ol ei gyd-ysgolheigion. Ar un boreu, digwydd- odd y bachgenyn (8 mlwydd oed) dan sylw fod yn ddiweddar; ac fel y mae yn digwydd yn y byd drwg presennol, yr oedd gan y bachgen dri ehyfaill yn euog o'r un trosedd, ac felly i ddilyn yr un gosp. Am 12 o'r gloch, anfonwyd y class adref, ond cadwyd y pechaduriaid i mewn am dri chwarter awr i ddysgu eu gwersi. Ar y pryd, yr oedd yn yr ysgoldy o ddeugain i hanner cant o feehgyn y dosbarth blaen- af, y rhai a gedwir i mewn am dri chwarter awr ar 01 y 11eill bob dydd. Nid oes dark /¡ole yn perthyn i'r adeilad, fel yr oedd y bachgen yn un o bedwar fel efe mewn class room, a pupil teacher gyda hwynt, neu yn y room fan lie yr oedd un jJupil teacher, meistr yr ys- gol, a thua deugain neu hanner cant o feehgyn ereill. Gollyngwyd y carcharorion yn rhydd yn agos i I o'r gloch. Aeth y bachgen adref, cymmerodd ei giniaw, s a dychwelodd i'r ysgol, er dang'os anfoddlonrwydd am ei fod wedi ei gadw i mewn. Nid oedd yn hollol iach er's dyddiau ond yn mhen dau neu dri diwr- nod, cymmerodd fFitiau afael arno, a bu yn wael am dair wythnos, pan y bu farw. Yr oedd Dr Dyke yn attendio arno o'r dechreu; ac wrth roddi certificate y farwolaeth, ysgrifenocld arni fod y bachg-en wedi marw o ffitiau a achoswyd gan gael ei gloi i mewn yn yr ysgol. Er pan gadwyd ef i mewn hyd ddydd ei farwolaeth yr oedd tair wythnos. Gan fod cym- meriad yr ysgolfeistr a chymmeriad yr ysgol yn gyff- redinol yn cael ei beryglu gan y fath certificate, cym- merodd y pwyllgor y mater i fyny, ae wedi cael pob boddlonrwyckl nad oeddybachgen hwn wedi cad dim ond yn cael ci wneyd i ereill bob dydd, penderfyno^d y pwyllgor osod y mater o flaen y crwner. Wedi deall yr amgylcliiadau, mynegodd y crwner ei farn nad oedd efe yn gweled- angenrheidrwydd am ym- chwiliad i'r mater o gwbl. Wrth hyny, nis gallasai y pwyllgor wneyd dim ond ceisio gan Dr Dyke i alw ei eiriau yn olOne-Li i roi esboniad ar ei ymddygiad yn rhoddi y fath certificate, a liyny mewn modd cv- hoeddus drwy y papurau lleol. Nid yw y Dr wedi gwneyd hyd yn. hyn. Os na, wna, a hyny yn bur fuan, cynghorem y pwyllgor, er mwyn amddiffyn cymmeriad yr ysgol a chymmeriad yr athraw, i geisio gan yr Ysgrifenydd Cartrefol i orchymyn ymclivfil- iad cyfreitluol i'r mater. Pe buasai y fath beth wedi digwydd mewn cyssylltiad a'r Ysgol .Genhedl- a-ethol, nid ydym yii credu y buasai y fath certificate wedi ei roddi. Y mae genym. ddau lygad a welodd feistr yr Ysgol Genhedlaethol yn rhedeg allan i'r heol ar ol bachgenyn, ac yn ei guro yn y modd mwyaf creulawn, ac y mae genym dafod a siaradodd ag ef ar y pryd am ei ymddygiad ciaidd ond ni fu gair o son am hyny. Nid ydym yn beio ar yr Eglwyswyr am y distawrwydd hwn, ond arnom eia hunain. Y mae yn eithaf gwir fod ugeiniau lawer o blant wedi gadael yr Ysgol Genhedlaethol ac ymuno a'r Ysgol Frytanaidd ond nid yw hyny yn cyfreithloni y fath ymddygiad brwnt a drwg-amcanol ag eiddo Dr Dyke yn yr amgylchiad hwn. Er gwaethaf yr ymosodiad hwn, yn mlaen y mae yr ysgol yn myned, ae yn mlaen yr a er gwaethaf pob dyfais Eglwysyddol i'w di- fetha. Yr ugeinfed o Orphenaf,—Cofied Ymneillduwyr Merthyr ac Aberdare na fydd ganddynt vote i'w rhoddi dros Henry Richard yn yr etholiad nesaf, os na fyddant wedi talu y dreth ddyledus erbyn yr 20fed o Orphenaf.
NELSON.
NELSON. Cynhaliodd undeb ysgolion y lie ucliod eu cym- manfa flynyddol ar ddydd Llun, Mehefin 15ed. Trefn y gymmanfa oedd fel y canlyn:—Am 11 o'r gloch, cychwynwyd yn orymdaith gan ysgol Eben- ezer, (T.C), yna ymunwyd a hi gan ysgolion Salem, (T.C.), Peniel (A.) Libanus, (A.) Craigyberthlwyd, ac ysgol Mynwent y Crynwyr, (T.C.) Gorymdeith- wyd o'r Nelson i lawr i Fynwent y Crynwyr dan ganu, a chanu yn ardderchog oedd yma hefyd, a'r baneri yn hofran yn yr awyrgylch; ac wedi cyrhaedd y fonwent, safodd yr holl ysgolion yn y lie hwn, a chawsom ddwy araeth ragorol ar yr Ysgol Sab- bothol gan y Parchn T. Davies, Maesycwmwr, (T.C.) a Griffiths, (T.C.) Pontypridd. Yna daethom yn ol tua Nelson, a safwyd ar square o flaen ty Mr Roberts. Anerchwyd ni ar yr ysgol Sabbothol yn dda iawn gan y Parchn F. Evans, Adulam, Merthyr, (A) Davies, Mountain Ash, (T.C.); R. Rowlands, Aber- arnan, (A.) Canodd yr holl ysgolion ddwy don gyn- nulleidfaol, ac wedi dyfod hyd at Penuel, ymadawodd yr ysgolion a'u gilydd, ac aeth pob ysgol i'w capel eu hun i fwynhau eu hunain a the da a bara brith blasus. Wedi gorphen yfed tê, aeth y rhan fwyaf o ieuengctyd yr ysgolion i chwareu kissing ring. 'Roedd yn wir ddrwg genyf weled ieuengctyd ein ysgolion yn darostwng eu hunain i'r fath chwareu drygionus, wedi bod gyda phethau g-well ar hyd y dydd; gobeithio na wnant h)rn bytli mwy. Am 6| cafwyd dau gyfarfod,—un yn Libanus, (A) gan yr ysgolion isaf. Araethiodd Mr R. Hughes, Pendaren, a'r Parchn Davies, Mountain Ash, a F. Evans, Adulam, Merthyr; ac fe ganwyd amryw donau gan yr ysgolion. 'Roedd yr areithiau yn wir dda ar y pwngc, sef yr Ysgol Sul; a'r canu hefyd yn dda iawn—cyfarfod da drwyddo. Y cyfarfod arall yn Penuel, (A.) Nelson, gan ysgolion y lie, a'r ewbl yr tin amser. Llywyddwyd gan y Parch R. Jones, Penuel. Mae Mr Jones yn Llywydd da bob amser, ond yn neillduol felly y tro hwn. Canwyd ae ad- roddwyd gan yr holl ysgolion bob yn ail ,ac areithwyd hefyd yn ardderchog ar yr ysgol Sabbothol gan y Parchn T Davies, (T.C.) Maesycwmwr; Griffiths, (T.C.) Pontypridd; ac R. Rowlands, (A.) Aber- aman. Cawsom gyfarfod da iawn; gobeithio y bydd ol y gymmanfa hon i'w weled ar yr ysgolion oil Mae undeb yr ysgolion hyn wedi dechreu er ys pedair blynedd, ae mae'r undeb nid yn unig wedi dal ei dir, ond hefyd wedi magu nertli. Gobeithio y bydd areithiau y brodyr yn foddion i ddwyn y rhai sydd yn esgeuluso yr ysgol yn awr, i'wphleidio rhag-llaw.
PONTARDULAIS.
PONTARDULAIS. Mae Cyfarfod Misol y Methodistiaid Calfinaidd, Sir Gaerfyrddin, yn adeiladu capel yn y lie uchod. Dydd Gwener, Mehefin 26ain, oedd adog- apwynt- iedig i osod y gareg sylfaen. Dechreuwyd y gwas- anaeth trwy ganu hymn 'Gosod babell yn ng-wlad Gosen,' &c., yna darllenwyd a gweddiwyd gan y Parch D. How- ells, Abertawe, yn hynod effeitliiol. Yn nesaf, cyfiawnodd T. Phillips, Ysw., Abertawe, y ddefod arferol ar y sylfaen. Dywedocld Mr Phillips nad oedd yn ystyried ei fod ef yn gosod un addurn ar y capel, ond ei fod yn golygtt fod y gwasanaeth yn gosod mawredd arno ef, o herwydd mai adeiliad i addoli yr Arglwydd ydyw. Yn nosaf, y Parch D. Howells, yr hwn a gymerodd fantais o'r amgylchiad i fynegi am Grist fol sylfaen i'w eglwys. Cyflwyn- oddMrT. James, M.A., Llanelly, gyfarchiad, ynghyd ag amryw frodyr eraill yn y weinidogaeth, a'r oil yn deilwng o'r efengyl. Ynghylch pump o'r g-loch ymadawodd pawb yn y gobaith y bydd i'r deinl yr ymgasglwyd o'i herwydd fod yn lie i luaws wneyd eu cartref yn y dwyfol farwol glwy. Yn hwyr yr un dydd cawsom GYFARFOD Y FEIBL GYMDEITIIAS. Cynnaliwyd y cwrdd hwn yn ysgoldy perthynol i Eglwys y plwyf. Mr T. Cleark, Vicar y lie, yn y gadair. Wedi i'r llywydd agor y cyfarfod yn fyr ond yn bwrpasol, g-alwodd ar Mr Lewis, B.A., Liverpool, i anerch y gynulleidfa, yr hyn a gyflawn- wyd yn y modd mwyaf eglur ac effeithiol. Mae Mr Lewis yn wir deilwng i fod yn nghyleh y llyfr dwyfol. Y Sabbath canlynol, pregethodd y gwr o Liverpool ger llaw y capel fu dan sylw i dyrfa fawr. Yr oedd y weinidogaeth yn eglur ac mewn dylan- wad mawr. Ein gweddi ydyw am sirioldeb wyneb y Brenhin aros ar ein cymydogaeth.—J. J.
RHYL.
RHYL. Y Parch Mr Priee.-Y mae dyt.gwyliad mawr am y gwr enwog uchod i'n tref, yn enwedig genym ni yr Annibynwyr. Y mae i bregethu., yr wyf yn deall, yn Nghapel yr Annibynwyivyn Queen-street, ac i ddarlithio hefyd. Gobeithio y cawn ei weled yn edrych yn iach ac yn gryf. 'Abraham Lincoln" yw testyn y ddarlith. Yr Excursions.—Yr ydym yn cael ein gwala o'r uchod y dyddiau hyn-ml bron bob dydd. Credir gan rai eu bod yn gwneyd mwy o ddrwg- nag o les, eu bod yn cadw y visitors draw a ddelent yma pe na bycldent hwy yn dod. Am gael lie tawel, ac nid bustle a low-life y mae ymwelwyr boneddigaidd. Ond beth bynag am hyn, yr ydym yn sicr fod yn dda gan y man fasnachwyr weled pobl o unrhyw ddosparth yn talu eu hymweliadau a'n tref. Y Visito),S.-Y maent yn dylifo yma yn lliosog iawn gyda phob train bron. Yn sicr, os tywydd sych, braf, y maent hwy am dano, y maent yn cael eu gwala yr wythnosau hyn-ïo, braidd ormod o hono, os ystyriwn y cnydau, o herwydd ymddengys fod pob peth fel yn llosgi o eisiau gwlaw. Y Plel'Darfn i'r stea!!1C)' am y tro cyntaf adael y pier y Llun, wythnos i'r diweddaf. Bydd hyn yn fenciitli fawr i'r rai sydd yn arfer myned yn ol ac yn mlaen. Arbedir taith y Foryd, lie yr oeddis yn arfer glanio. Y Promenade Band.—Y band sydd wedi eu cyflogi i chwareu ar y Parade am y tymhor presenol ydyw y Ist Oxford Volunteers. Ymddengys fod y g-well- iant yma yn cael band iawn er difyrwch i'r visitors wedi cydfyned a'n chwaeth, ac y maent yn canmol y drefn sydd wedi ei mabwysiadu gan y pwyllgor yn fawr. Yn sicr, bydd hyn yn dyweyd yn dda am Iwyddiant mwy yr haf nesaf nag yr un presenol. Nid oes dim o'r begging system yn nglyn a'r casglu y tro hwn-nid casglu ar ol bob ton, ond box yn nghanol y Parade, ac at ewyllys da pawb. 'Rwyf wedi myned yn lied faith-rhaicl tewi ,rwan.Dehei.t?t,)-.
REHOBOTH, PENFRO.
REHOBOTH, PENFRO. Traddododd y Parch R. Williams (Hwfa Mon), Llundain, ei ddarlith ar Farddoniaeth yn y lie uchod nos Wener, y 3ydd o'r mis hwn, i gynnulleidfa liosog a pharchus. Cymmerwyd y gadair gan y Parch J. M. Evans, Caerdydd. Elid i mewn trwy docynau swllt yr un. Yr elw at adgyweirio y capel. Cadwodd y darlithydd enwog y gynnulleidfa wrth fodd eu calon am o ddeutu dwy awr a hanner o am- ser; ac ni awd ymaith heb fod pawb (fel y gwyddai y cadeirydd) wedi cael nid yn unig en difyru, ond wedi cael adeiladaeth hefyd. Buan y delo ef i'r gymmydogaeth hon etto yw dymuniad—A>-daIter,
WYDDGRUG.
WYDDGRUG. Yr wythnos ddiweddaf, cynhaliodd y Methodist- iaid Calfinaidd eu Sassiwn Chwarterol yn y dref hon, megis ag yr adroddwyd yn y rhifyn diweddaf o'r TYST. Yr wythnos hon, cynnaliwyd CHWABTEB SESSIWN yr ynadon am y sir, ac mae yn ddrwg genyf ddy- weyd fod calendar y sessiwn hon yn dduach na'r cyff- redin o lawer. Pa beth yw yr achos o hyn ? A yw y byd yn myned yn waeth, neu ynte a ydyw yr eg- lwys yn myned yn fwy diwaith ae esgeulus ? Mae y ffaith fod troseddau yn cynnyddu yn galw am ym- chwiliad i'r mater, ac am wn i na byddai sessiwn i wneyd hyn mor bwysig a sessiwn i brofi a chosbi drwg-weithredwyr. Ymddengys mai gair Ffrangc- aeg ydyw session, yn arwyddo y weithred o eistedd. Eistedd yn bwyllog i feddwl, i ymgynghori, ac i benderfynu ac ni byddai niwed yn y byd pe byddai mwy o sessions yn cael eu cadw gyda golwg ar wella cymdeithas. Yr oedd yn dda genyf weled fod y cadeirydd, J. Scott Bankes, Ysw., yn gwella mor dda. Boneddwr gonest a didderbyn wyneb yw hwn ac os arbedir ei fywyd, nid oes ammheuaeth na wna les yn mhob ystyr yn y sir hon. Cymmerodd ei gadair boreu ddydd Iau, am hanner awr wedi deg o'r gloch, ac wedi dyweyd ychydig eiriau wrth yr uchel-reith- wyr, dechreuwyd ar orchwylion y dydd. Addefodd SARAH PIERCE, geneth ieuangc olygus, ei bod yn euog o ladratta 15s. 6c. o arian yn perthyn i Mrs Jaques, o'r Rhyl, ar yr 20fed o Fai diweddaf. Ymddiriedwyd yr arian iddi i brynu rhyw bethau i Mrs Jaques yn Lerpwl; ond yn lie gwneyd hyny, cymmhwysodd yr arian at ei gwasanaeth ei hun. Dywedai ceidwad y carchar ei bod wedi ymddwyn yn weddus tra yn y carchar. Rhoddwyd iddi fis o garchar, gyda gorchymyn i'w chadw ar wahan oddi wrth y carcharorion. LLADRATTA DILLAD gan forwyn. Addefodd Elizabeth Roberts ei bod wedi Iladratta dillad yn perthyn i'w meistres, Mrs Jones, yn Rhyl, ar yr 21ain o Fehefin. Dyfarnwyd i dri mis o garchar. LLADRATTA PLWM. Cyhuddid creadur digon diniwed ei ymddangosiad o'r enw Edwin Withers, o dynu darnau o blwm oddi ar do hen dawdd-dy Rhydymwyn, perthynol i P. B. D. Cooke, Ysw., ar y 19eg o Fawrth diweddaf. Cymmerodd y plwm i'w werthu i siop un McDermott, yn Wyddgrug; ac wrth gymmharu plwm y stordy a'r plwm ar do y tawdd-dy, a'r dull yr oedd wedi ei rwygo, penderfynodd y rheithwyr mai'r un plwm ydoedd. Dygwyd yn euog, a derbyniodd ddau fis o garchar gyda llafur caled, Y DDAU JOHN OWENS.' Crybwyllais am y tad a'r mab hyn yn cael eu tra- ddodi i'w profi yn y rhifyn diweddaf. Cofia y dar- llenydd a ddarllenodd y crybwylliad fod John Owens y mab wedi dwyn darn coron yn arwydd Y Llew Coch,' Wyddgrug, ar y 25ain o'r mis diweddaf, o logell Patrick Diveney, Gwyddel simple ac i John Owens, yr hynaf, logellu y goron, pan yn gwybod ei bod wedi ei lladratta. Cyfaddefodd y pechadur ieu- engaf ei fai, ond gwadai y pechadur hynaf. Cafwyd ef er hyny yn euog. Bu, fodd bynag, mor straight forward am unwaith a chyfaddef ei fod wedi cael ei draddodi i garchar yn mrawdlys Mawrth, 1863, am ladrad. Derbyniodd John Owens y tad chwe mis, a John Owens y mab bedwar mis o garchar. YR YMOSODIAD ANWEDDAIDD. Crybwyllwyd eisoes yn y TYST am John Purcher a ymddygodd yn anweddaidd tuagat Hannah Wilcock. Ar ol prawf hir, cafwyd yn euog, a dyfarnwyd i flwyddyn o garchar. Amddiffynid y carcharor gan Mr Ignatius Williams. Dywedodd rhywun yn y Ilys, ar ol gwneyd yn hysbys y ddedfryd, 'Digon bychan iddo.' Fe gofia y darllenydd mai hogen tua thair-ar-ddeg oed, oedd yr achwynyddes. Cymered dynion iguaingc rybudd. DAU DDYHIEYNS A.I.§,GWC!P^F^| Llaslanciau oedd y rhai hyn yn ateb i'r enwau hynod Donald Mc'Intcsh, Charles Crowford, a John Mc'Donald. Yr oedd gan y lleidr Mc'Intosh yr aliases a ganlyn,—James Green, John Williams, John Franklin, a John Howard. Yr oedd Mac Donald yn fodalawn ar un alias. Cyhuddid y tri o dori tai John Williams, Tremeirchion, a Joseph. Ellis, o blwyf Whitford; a lladratta oddiyno amryw bethau, ac yn eu plith torth, darn torth, a darnau o faewn. Cyhuddid hwy hefyd o ladratta o ystordv Mr David Jones, Fflint. Addefai Mc'Intosh a Crawford eu bod yn euog o dori y tai, ond gwadent ladratta o ystordy Mr Jones. Gwadai John Mc'Donald yr holl gyhuddiadau. Tynwyd yn ol yr erlyniad yn erbyn (,y' y carcharorion am ladratta yn Fflint. Addefodd Mc'Intosh a Crawford eu bod wedi cael eu careharu amryw weithiau yn yr Alban. Gan eu bod yn dros- eddwyr celyd a hen, er nad yn hen mewn dyddiau, dyfarnwyd y ddau i wasanaeth penydiol am saith mlynedd bob un. Dywedai Mc'Intosh yr hyderai y byddai y Cadeirydd yn eistedd yna pan ddeuai yn 01. Cafwyd John Mc'Donald yn euog o gyd-dori ty Joseph Ellis, ond gan nad oedd dim yn ei erbyn o flaen y llys, anfonwyd ef i garchar am ond chwe mis. Y mddengys mae wedi cael ei gymmeryd i mewn yr oedd gan y ddau arall. Yr oeddwn yn teimlo dros y llanciau hyn.—Ni chawsant hwy druain rieni ac athrawon i ofalu am danynt fel bechgyn Cymru.—Cymaint ddylai hwy ragori. Efallai fod llawer o bethau da wedi eu claddu dan wahanol haenau o ddrygioni yn y bechgyn hyn. Peidiwn a barnu yn rhy galed, ond yn hytrach rhoddwn law o gymhorth i drueiniaid a esgeuluswyd. Da fyddai i Ynadon, Arolygwyr, a Gwarcheidwyr y tlodion, ie, a'r Police men eu hunain feddwl tipyn am hyn. LLADRATTA CRYS. Addefodd Thomas Kennedy ei fod yn euog o lad- ratta crys o dy Edward Price, Fflint, ar y 3ydd o Mehefin. Anfonwyd ef i garchar am chwech wyth- nos. Gohiriwyd y Llys ar ol yr achos hwn hyd ddydd Llun, y 6ed cyfisol, pan agorwyd am haner-awr wedi deg or gloch. GWR A GWRAIG. Cyhuddwyd John ac Elizabeth Matthews o lad- ratta X2 7s. 6c. oddiar hen wreigan o'r enw Sarah Ward, yn Wyddgrug, ar y 25ain o Fai. Ni chaf- wyd hwy yn euog-; ond yr oedd cyhuddiad arall yn erbyn Y WRAIG. Dywedid iddi ddwyn gwddi-fantellig o siop Mr Jones, 'Cwch Gwenyn,' W yddgrug, ar y diwmod uchod. Gwadai yn dyn, ond cafwyd hi yn euog, ac anfonwyd i g-archar am fis. E. H. TAYLOR. Mae y gwr hwn yn dra hysbys yn y wlad hon fel un cynhyrfus, siaradus, a hynod dymherog yn ei ddiod. Nid yw heb alluoedd meddyliol, ond mae synwyr cyffredin yn brin iawn ganddo. Mae Uawer iawn gwaeth na, Taylor druan yn cael eu hystyried yn bobi lied dda. Twrw mawr heb lywodraeth ar ei dafod ydyw, pan mae y lleill yn ochelgar, ac yn rhoddi eu geiriau fel wrth bwysau. Cyhuddid Tay- lor gan un Richard Claney, o ladratta nwy bibelli ar yr 8fed o Fai, yn Coedtalon. Yr oedd ymddygiad cynhyrfus y carcharor yn tynu sylw cjdfredinol y Llys, a'r hyn a roddai arbenigrwydd i'r prawf oedd y ffigyr a dorai ei briod wrth ei gynorthwyo i osod ei achos o flaen y dadleuydd, drwy ysgiifenu a chyf- eirio at bapurau.—Mr Swctenham oedd dros yr erlyniaeth, a Mr Lloyd Roberts dros y carcharor. Ar ol hir brawf, caed ef yn euog, a dedfrydwyd i ddau fis o garchar. LLADRATTA ODDIAR Y PERSON. Anfonwyd Elias Williams i chwe mis o garchar am ladratta deunaw swllt oddiar Thomas Burrows. Diweddodd hyn y gorchwylion, a chyfodocld y Llys tua haner awr wedi pedwar. Gwelaf nad oes genyf ond dalen ddu i gyd i chwi yr wythnos lion, ond pe g-ofod, buasai i chwi I eiritl-t evsur. LL ANYMDDiTlil. Gwnaethom dipyn 0 gamsyniad yr wythnos ddi- Aveddaf trwy ddyweyd fod cyfarfod cyhoeddus i gael ei gynnal yn yr ysgoldy Frytanaidd, nos Lun. Yn lie hyny cyfarfod i ymgynghori ydoedd yn nghylch y modd effeithiolaf i gael gan y bobl i ymbarotoi ar gyfer yr etholiad dyfodol. Y Parch. M. Evans, (B.) sydd i fod yn gyfrifol am yr amryfusedd hwn, oblegid efe a ddywedodd wrthym yn ei gylch. Ond bwried- ir cael cyfarfod cyhoeddus eto cyn hir. Y Sychder.—Y mae yn sych anghyffredin, a'i effaith yn fawr yn y cylchoedd hyn yn awr. Y crop- iau gwair yn ysgeifn, a'r tir pori wedi crasu fynu yn goch. Yr afonydd yn agos a sychu yn llwyr, ae o ran hyny gwelsom ran fawr hyd yn nod o wely y Tywi heb yr un dyferyn o ddwfr yn rhedeg arno. Dywedir na fu cyn lleied o ddwfr yn yr afonydd yn y parth hyn o'r wlad er haf'sych y flwyddyn 1826. Ymddengys yn addawus iawn am gropiau cla o wenith; ond y mae y llafuriau eraill yn bur ys- geifn. Gam yn ei le.-Penderfynodd masnachwyr y dref hon, yn y Town Hall, nos Wener, bron yn unol un- llais i gau eu siopau bob prydnaw-i-i dydd lau, er mwyn i'r dynion ieuaingc sydd yn eu gwasanaeth, yn ogystal a hwy eu hunain, i gael ymorphwysiad ac adloniant i'w natur. Ni fydd hyn yn unrhyw anfantais i'r masnachwyr ychwaith, oblegid fe fydd i'r bobl gydag ychydig o ymarferiad yn sicrhau eu negeseuon yn y boreu. Nid oes dim yn fwy dymun- 01 na gweled y meistriaid yn teimlo dyddordeb yn nghysur y sawl sydd yn eu gwasanaeth, dyna'r ffordd mwyaf effeithiol iddynt hwythau sicrhau ffyddlondeb y rhai a'u gwasanaethant.—Sylwcdydd.
CEILIOG YN LLADD PLENTYN.
CEILIOG YN LLADD PLENTYN. Dydd Sul, wythnos i'r diweddaf, yr oedd geneth fach, o fewn mis i ddwyflwydd oed, yn chwareu yn un o heolydd Llundain, a chanddi ddarn 0 fara yn ei llaw. Yr oedd ceiliog gerllaw, a thynwyd ei sylw at y bara. Yn y man, ymosododd ar y plentyn- taflodd hi i lawr-a pharodd y fath glwyfau yn ei phen a'i mynwes, trwy ei phigo, fel y bu hi farw bore ddydd Mawrth. Cynhaliwyd trengholiad, a dychwelwyd y rheithfarn ganlynol: Bu farw mewn canlyniad i glwyfau yn ei phen wedi eu hachosi gan ymosodiad oddiwrth geiliog, tra yn chwareu mewn heol gyhoeddus.'
CYELAFAN ERCHYLL.
CYELAFAN ERCHYLL. Canfyddwyd cyflafan arswydus yn TreMzond, dinas ar lanau yMor Du, ar y 7fed cyfisol. 9™^ dim llai na dau-ar-bymtheg o bobl yn ysguyraeth 0 dan law lloerig mewn ychydi(, funuclau,! Bu pedwar farw yn y fan, gadawyd deg mewn eyflwr anobeith- iol, a thri wedi eu clwyfo yn dost. Un ergyd a dderbyniodd pob un, yn y frest, ac oddeutu'r galon. Dyn o Persia neu Rwssia oedd yllotrudd—tua haner cant oed, bychan ond cryf 0 gorpholaeth. Yr oedd wedi trigianu yn Trebizond am oddeutu pedwar mis yn gwerthu hen haiarn yn un. o'r heolydd mwyaf poblogaidd. Dechreuodd ar ei gigyddiaeth ganol dydd goleu, a'r offeryn a ddefnyddiodd oedd cyllell ddau-finiog, yr hon oedd wedi ei rhwymo am ar- ddwrn ei fraich dde. Ymosodai ar y cyntaf a ddeuai i'w gyfarfod-yn wyr, yn wragedd, a phlant! Nis gellid rhoi cyfrif am ei ymddygiad, oddigerth mai wedi ei feddiaiiu yr oedd gan ysbryd lloerig. Nid oedd yn bosibl mai malais neu ladrad oedd ei amcan. Yr oedd yr amser a'r lie, a'r ffaith fod llawer o'r dyoddefwyr yn bobl wledig yn dyfod i'r farchnad, yn gwahardd y fath dybiaeth. Buasai wedi lladd llawer mwy oni bae iddo gael ei ben-syfrdanu gan ergyd car eg, oddiwrth ddyn ieuanc oedd yn gwylio ei symiaudiadau. Daliwyd a throsglwyddwyd ef i ofafyfc heddgeidwaid.
BRO MORGANWG.
BRO MORGANWG. j prydferth y Taf, dydd Mercher di- 0 dd<>I' ^^nodd dyn o'r enw William Dafydd, °«Weutuoo oed, C-T, HUNANLADDIAD nij^r^ttl8'rogi- Yr oedd yn aelod er ys oddeutu tri Parch 6^Wys G^ndwr, J"1' hon f-J'dd dan ofal y vdd ri' Davies, Yr oedd y truan yn y cyfarfod- a Sa bbath cyn hyny. Ni wydclis pa beth red j ^ddeifeddwlnesei vrui gyilawni yweith- yn evfUe-US" .e^3TS' f°d yr yspryd hunanleiddiol esid e'°dl odd*ar ryw afiechyd corphorol, ac y gall- iasid 7™ 7 dJn eititafion pe dcfnydd- Orl rW, ^dion priodol; ond yn lie liyny mae y dy- y11 yxaiari fn cufdio ei afiechyd °ylayd a§' ygaii, ac ttilioi-ffi a° e hunan, Pan y dylai ofyn eym-. Sftndd ?11eddjr§'0- diwedd yw cael ei orchfygu syn m°- y1' amgylchiad uchod. Onid yw yii JTHosod axTd(Iynion 711 Ulli§' 7mae 7Pla ^wn yn c 1 chlywyd, debygaf, am anifail eriocd er hvn10 terfyn ar ei fywyd ei bun.—Efallai, reifftia"T' 7 £ ™yv darllenwyr lluosog y TYST am eng- oofnodi' ° yny> os gwyddant, byddent yn werth eu 1\ te yu y 11 TAIDACII. be yma dri o Gapeli, un gan yr Anui- yddwv*' mi y M^ethodistiaid, ac un gan y Bed- f0(j yv' Rhwng y tri dylai crefydd a moesoldeb riacl opJ10 yn y lle Poblo& llwn> yn enwedig gan 0 leiaf 7°; dau dafarndU yn yi' hon le. Buasai yno wyrenw:(J ar llU(Jain 0 dafamdai pe cawsai budrel- Talbot y0rcld' 01ld mae y tirfeddianwr, sef C. XL M. Hob i 8w->Marg'am> perchen yr boll le, ynrhwystro feddwol V y ddau a_ nodwyd, i agor y fasnach dy syd(i yn°" ystyriod mai dim ond dan dafarn- hyujr- ^e> nid °es 11awer o yfed yn y ddau a med(J rddcr cyfleusterau sydd yn arwain i yfed ninj' "ae y ddiareb y11 cael ei gwirio yma — cyn y creates a demand.' Pe buasai tafarndai buasai if81 d mewn lleoedd eraill yn Nghymru, chai'dla °°e^au a bwydgellau yn llawer llawnach a Hill ei arall yn wagadJ. Haedda Talbot g-lod mawT ae y^-ynebiad i gadw tafarndai ar ei dir. gena^ w §'as ganddo am dan yj.it, ac ni chaiff neb ef, os do i werthu diodydd meddwol ar ei dir Dylai er "u r^yw^e^ neillduol yn gahv am liyny. r^"ent taf1 Wneud yr un fatb ag ef. Ond gan fod J"U lupf-u^^y yn uwch na thai eraill, y mae llawor p 8'Wrfchsefyll y brofedigaeth. yw 7 %wr sydd y11 ysgrifenu yn y c}rnyrcbn lllmeriadau hynod Cymru,' y mae yn fuddiol i Jr^'rifau dyddorol dros ben. Bjddint yn eS'aeth ^^y^'edin i haneswyr dyfodol y DjrWyS- cyfodir l?1"16 y Afynhonell yn ddihysbydd. Cynt y dt'i'fy^^ 0 phwarelau Caernarfon nag' y ^aent yi ^r?y.dd^au y cofnodion ucliod, canys y ddyuion rf"'° yn barhaus gyda phob to newydd o cU"»-nr' ^"°^eithio y daw yr ysgrifenydd evil hir 'iws y cliTveddar DAFYDD THOMAS O BENIWAIN Dyn^"1 y o°llid adrodd myrdd o bethau doniol. ^aetlifW'^r1^ Vyw dro yn pregethu mewn brvd Ar ^ano1 ei ^h «ebvJ o-v-bnylv,18?1- fQ'^ tharo ^aeth nid oes ithl pj,bo.d Pa faiut- Dyna llo yr oedd y preg- Wr a r aylais yn myned yn mlaen yr un pryd w/ mwyaf gwydn ac uchel. Yr oedd gwr y ty, m s-i 8' ? foes a syniadati, yn edrych ar y ddau bob t f 5 0 r diwedd torodd allan a dywedocld, 'Tawed fhom ° k01100^ »' da"waf n ynte,' ebai Dafydd lot 'tcaiiys yr wyf yn gallach na dy hen gloe dawaf nnnau y waith hon.—
lEISTEDDFOD Y G WPJIYD.
EISTEDDFOD Y G WPJIYD. lr W' iJma newydd. Eisteddfod boblogaidd lawei. 0 ynyd(i y Gwrhyd, Llangiwc. Yr oedd am daili a darparu ar ei chyfer gany fr5i' i'r cylchynol, a daeth lliaws o ymgeis- fV fychlaeS'1 fod Ga,Vel 7 Gwrilyd y11 Uawer %ored. dai'Parwyd ei chynnal yn yr awyr pan yjl JJaeth y dydd neillduedig, sef Mehefin 27, g-wleK 1 J'lllgasg-lodd cannoedd ynghyd i fwynhau aywydd yddol yn awyr iachus y mynyddoedd. Y ^'Weinv/i ,edd y Barch John Jones, Llangiwc; ac I>echr(d' F Joseph Eees, Ddery. aflryd In- am 0 r y Prydnhawn, a phar- a o- 11 °'r 8'i00'1 y nos, ond yr ychydig ham- aid o yniInerwyd rhwng 5 a 6 i fwynhau cwpan- e. ''r Ono^fWr?wyd Eben Fardd am y pennillion goreu ysgrif 0r ^-yhacco Dyina fi yn dod' am y Llaw- PDydd^tr' 'flange o'r llwyii' am ddarllen darn i'r.Dd iXiS h > Negro bach am adrodd Englyn feig j Jo},0 os ^an Tawe am gauu can Gym- Haeli Q. Evans, Cwmygors, am y traethawd goreu t^ifyr^r111' Eos Glan Tawe a'i gyfaill am ganu Kra "dx Y 1VIeddwyn 'Hebron' a 'Negro bach' aill am 0raet Judah ger bron Joseph dau gyf- teWi dadl eldifyr Alaw Elynfell a John Gwrhyd O-ar^e,,111 y pennillion goreu i Gapel y Gwrhyd John 0- '"Iadrodd Fe ddaeth y gath o'r cwdyn; Yt caruW yd Lewis a Michael Vaughan am y llyth- fri yn D^?leu » Bronwen' am ganu Eobin yn flin JJ'ar c-vla-iT,lta^ am y &an gynnulleidfaol oreu; ped- ^'aenca1 ° ^staly^era am ganu Call John; cor &n.rhyw a'r Coedwigwyr yn gyfartal am )reu i Hpnard' J°^in Gwrhyd Lewis am y farwnad >dau t?n-r Ze°^a^ Evans, Gwrhyd Isaf, ac am y traeth- cor peU ar Werth Cyfaill a Chanu Cynnulleidfa- 'Dei sjr pVaencaegurwen am ganu y Ddadl Hyfryd; y^leisjn•■jaer am arae^ ddifyr; cor y Llwyn a'r ?■ Srvfnin §Xfartal am ganu Alma JohnDavies ^yfei-a a ?anu. Dafydd a Rhys; un parti o Ys- ?anU oaadav1bartl« Cwxnllynfeii yn gyfartal am ru gy?ai iaid am Gy™y John Evans a rhywun Sin am gfmf T'° John «^rhyd Lewis Ein Jones geir yn llywydd eiiian-gonest, Teg hynaws ei amcan 5 | Athraw glwys, harcld, bachgen glan, 1 Cywii-ac^ yy? nac arian.—1, 2, 3, 4. '• ^ele deyrn uchel y dydd—ar gewri T Y Gwi'hyd mae'n llywydd Joaes hofE yn llawn yni sydd, Y 1 cheir un uwch arweinydd.—DysgyU. fVe^j^aid—y traethodau a'r llythyrau caru, y S, V111 Jones, Llangiwc y farddoniaeth a'r r Th adau, y Parch B. Thomas, Gurnos; y canu, II ^-Oroail> Ystalyfera. ^yddian n/ am roddi ffagenwau yr ymgeiswyr m 0<^°1- aUS ^awr' am nad ydym yn sicro'renwau Ub> a o- ^-r e^stedd^od hon heibio yn anrhyd- S'obeithio na bydd clebran ar ol hyn.
MANION 0 FYNWY.
MANION 0 FYNWY. Fontygof.—Mae'r ]le hwn rhwng Cendl a Peny- cae, ac aelodau o'r ddau le a enwyd a ddechreuodd yr achos Annibynol yn y lie. Pan sefydlwyd yr eglwys gyntaf yn y lie, tybiwn ei bod yr eglwys fwyaf obeithiol yn Sir Fynwy, ac yr oedd genyf amryw resymau dros hyny. Yn un peth, yr oedd ynddi rai o'r dynion goreu o eglwysi Cendl a Peny- cae, ac heblaw hyny yr oedd y lie yn cynnyddu yn fawr mewn poblogaeth. Ond nid yw yr eglwys ar y cwbl wedi dyfod i fynu a'm disgwyliadau, nac a disgwyliadau y cyfeillion yn y lie, am yr unig reswm fod cymmaint o ymfudo o'r lie i America a manau eraill. Nid oes eglwys mwy gweithgar a mwy car- edig yn Sir Fynwy, nac un sir arall, a phe cae lon- ydd gan symmudiadau, byddai yn lie mawr yn fuan. Nid yn ami y rhoddir charge i eglwys heb son cryn lawer am arian; ond fel y sylwai y Parch J. Davies, ei diweddar weinidog, nid oedd angen am hyny yma. Hyfryd yw cael eglwys ag y mae ei swydd- wyr yn deall eu gwaith, ac yn deall y llwybr i gael eraill i weithio hefyd. Y Sabboth a'r Llun, yr 28ain a'r 29ain o'r mis diweddaf, bu cyfarfodydd yn y lie er urddo Mr J. Edwards yn fugail ar yr eglwys. Boreu Sabboth, gweddiwyd gan y Parch D. Thomas, Abercanaid, a phregethwyd gan y Parch J. Davies, Soar, Aberdar, y cyn-weinidog, a da oedd genym weled Mr Davies mor barchus gan bawb yn ei hen gymmydogaeth. Am 2, dechreuwyd gan y Parch R. Hughes, Cendl, a phregethwyd gan y Parchn D. Thomas, a J. Williams, Castellnewydd Emlyn, a chan yr un ddau am 6 drachefn. Boreu Llun, dechreuwyd gan y Parch R. Parry, Victoria. Areith- iwyd ar Natur Eglwys gan y Proffeswr Roberts, o Aberhonddu, ac ni chlywais neb erioed yn fwy ded- wydd gyda'r pwnc hwn. Holwyd y gofyniadau gan y Parch D. Hughes, B.A., Tredegar, a gofyn- wyd arwydd gan y Parcll Hughes, Cendl. Gweddiwyd gan y Parch T. Jeffreys, Penycae. Pre- gethwyd i r gweinidog gan y Parch J. Williams, Castellnewydd, a hyny wrth reswm yn ddoniol dros ben; ac i'r eglwys gan y Parch J. Davies, yr hyn a wnaeth fel arfer, yn gwbl wreiddiol a gwir dda. Am 2, pregethwyd gan y Parchn J. Jones, Bryn- mawr, a T. L. Jones, Machen; ac am 6, gan y Parchn W. Morgan, Troedyrhiw, W. Williams, Hirwaun, ac E. Hughes, Penmain. Cafwyd urdd- iad. cysurus, ac hyderaf y bydd Mr Edwards yri ddedwydd a llwyddianus yn ei le newydd. Rhymney.—Traddodwyd darlith yn Moriah nos Fawrth, y 30ain o'r mis diweddaf, gan y Parch J. Williams, Castellnewydd. Y testun oeclcl-Dr. vl Livingstone. Darlith dda odiaeth, ac yr oedd y darluniau o wahanol leoedd a phethau yn Affrica yn ychwanegu llawer at ei dyddordeb. Yr oedd yr ol-sylwadau gyda'r pethau goreu a glywais yn fy mywyd. Llanwyd y gadair yn rhagorol gan y Parch E. C. Jenkins, gweinidog y lie. Yr oedd yr holl elw at gapel yr Annibynwyr yn Pontlottyn, a diau i'r cyfeillion lwyddo i gael cryn dipyn o enill, a chawsent ragor yn ddiau pe buasent hwy a'u llyg- aid yn agored i beidio g6sod eu darlith ar noson; ond mae anffawd yn digwydd i'r goreu weithiau. ond mae anffawd yn digwydd i'r goreu weithiau. -Bassalle.g.-Dyma le prydferth dros ben, ond nid yw'r eglwys Annibynol ond gwan yn y lie. Mae wedi bod am flynyddau fel llin yn mygu, ac eto mae yn fyw. Mae wedi myned yn gwbl Seisnig yn awr, ac mae y cyfeillion yn Newport yn cymmeryd cryn interest yn y lie. Cafwyd Tea Farty yma dydd lau, yr 2il cyfisol, a gallwn feddwl iddo droi allan yn llwyddiant hollol. Cafwyd benthyg cae cyfleus iawn gan y Parch E. Williams, (B.), at yfed te, a hyn oedd dda, o herwydd buasai yn annyoddefol boeth yn y capel. Cafwyd cyfarfod wedi hyny ar y caeG. Lewis, Ysw., Newport, yn y gadair. Siar- adwyd ar wahanol bynciau gan y Parchn J. Davies, Caerdydd; T. L. Jones, Machen; II. Oliver, B.A., Newport; P. W. Darton, o'r un lie; a D. Davies, Risca. Gobeithio y bydd rhywbeth fel hyn yn creu bywyd newydd yn yr ychydig gyfeillion yn Bas- salleg.
TYDDEWI. j
TYDDEWI. Gorphedaf 2il, cynnaliwyd cyfarfod i gydnabod Mr J. Foulkes, diweddar fyfyriwr yn Ngholeg Caer- fyrddin, yn fugail ac athraw i'r Eglwys yn Ebenezer, Tyddewi. Dechreuwyd am 9 y boreu, gan Mr W. Pivee, myfyriwr o Bristol. Traddodwyd y gyn- araeth gan y Parch J. Lewis, Henllan, oddiar Ephes. iv. 15-16. Gofynwyd y gofyniadau arferol gan y Parch E. T. Davies, Abergele, i'r rhai y cafwyd atebiad syml, cyflawn, a dirodres. Wedi i'r eglwys a'r gynnulleidfa gadarnhau yr unol alwad, ac i Mr Foulkes arwyddo ei gydsyniad, gofynwyd bendith Duw ar yr undeb gan Mr Evans, Hebron. Preg- ethodd Proffessor Morgan, Caerfyrddin, i'r gwein- idog oddiar 1 Tim. iv. 12.—'Na diystyred neb di.' a'r Parch R. Williams, Llundain, i'r eglwys, oddiar 1 Thes. v. 11, 12, 13. Dechreuwyd am 2 gan y Parch Jenkyn Jones, Dowlais, (gweinidog diweddaf yr eglwys yn Nhyddewi), a phregethodd Thomas, Bethesda, ar Salm cxlvii. 12.; a Evans, Hebron, ar Amos ii. 11, 12. Am 6, gwediiiodd Dr Jones, (W.) a phregethodd Davies, Abergele, ar Phil. i. 27, a Williams, Llundain, ar Luc ix. 56. Dygwyd tystiolaeth foddhaol a chyson i gymeriad a llafur flaenorol Mr Foulkes, yn ystod y cyfarfod, gan Hwfa Mon, dan weinidogaeth yr hwn y dech- reuodd bregethu yn Bethesda; gan Davies, Abergele, gyda'r hwn y bu yn efrydu cyn ei dderbyn i'r Coleg; a chan y Proffessor Morgan, dan ofal yr hwn fel athraw a gweinidog y bu am 4 blynedd yn Nghaer- fyrddin. Daeth i'n plith a gair da iddo; a'n gweddi yw ar iddo gadw y cyfryw air, a chjnyddu fwy fwy. Yr oedd y brethyn du o gylch y capel yn arwyddallanol o ddwfn deimlad yr eglwys o herwydd colli y diacon ffyddlon, Mr D. Griffitlis.-Caf wycl cyfarfod da. Y dydd blaenorol ordeiniasid Mr D. Jenkins, o Goleg Caerfyrddin, yn Nhrefgarn,—ac felly am unwaith y mae y Sir oil heb wagle gweinidogoethol, ond nis gwyddom pa mor fuan y by Id i angeu neu symud- iad agor eto fylchau yn ein plith. Byddwn oil yn egniol ac unol i weithio dros ein meistr ac yn erbyn ei holl elynion, a byddwn ddedwydd yn ein gweith- red, a safwn yn ein rhan yn niwedd ein dyddiau.— S. Evans.
TYDDEWI, PENFRO.
TYDDEWI, PENFRO. Cynhaliwyd cyfarfod ordeinio Mr John Foulkes, Bethesda (o Goleg Caerfyrddin), i g-yfiawn waith y ,,y weinidogaeth yn y lie nehod, y laf a'r 2il o'r mis hwn. Pregethwyd y noswaith gyntaf gan y Parchn R. Rowlands, Llansamlet, Morganwg; a'r Proffeswr Morgan, Caerfyrddin. Boreu dranoeth, pregethwyd ar Natur Eglwys gan y Parch J. Lewis, Henllan. Holwyd y cwestiynau gan y Parch E. T. Davies, Abergele ac attebwyd hwy yn fyr ac yn eglur gan Mr Foulkes. Traddodwyd yr urdd weddi gan y Parch S. Evans, Hebron. Rhoddwyd y siars i'r gweinidog gan y Proffeswr Morgan, ac i'r eglwys gan y Parch R. Williams (Hwfa Mon), Llundain. Yn y prydnhawn, pregethwyd gan y Parchn J. R. Thomas, Bethesda, a T. Evans, Hebron. Yn y nos, pregethwyd yn Saesneg gan y Parch E. T. Davies, Abergele ac yn Gymraeg gan y Parch R. Williams (Hwfa Mon), Llundain. Cafwyd cyfarfod rhagorol iawn. Y pregothau yn nerthol aci'rpwrpas, a'r g-wrandawiadyn astnd. Da genym glywed cymeriad mor dda i Mr Foulkes gan ei athrawon a'i hen weinidog, a bod rhagolygon mor dda o'i flaen. Yr vdym yn gobeithio y bydd dan fendith gref yn gwneyd daioni mawr yn y maes y mae wedi myned icldo.- Ymdeitllydd.