Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
10 articles on this Page
Y'FASNACH feddwol A DEDDF.:vWRIAETH.
Y'FASNACH feddwol A DEDDF- :v WRIAETH. a° y teimlad yn cryfhau bob dydd y dylid bWiioyd rhywbeth yn effeithiol er atal rhwyg j j* ifrod, a dinystr y fasnach feddwol. Beth. y"ag am amcan eithaf Cynghrair y Deyrnas jrunol i Iwyr ddileu y fasnach, y mae yn | ^Iwg fod cymdcithas yn addfedu yn gyflym I "^Ueyd rhywbeth a rydd attaliad ar y galan- n^ra ;°f'uadwy a gynnyrchir gan gynnifer o e(*d o, dai agored i wertlra. dcfnyddiau Illeddlvd,od y wlad. Nid ein hamean yma yw dwyn ffeithiau i brofi mai y fasnach feddwol %nnonell y rhan fwyaf o lawer o'r tlodi ar. ^'oseddau sydd yn y wlad. Mae hyny e* foofi mor eglur fel mai anaml y ceir yn ei wadu. Ond y pwnge ydyw pa fodd (1 ttlraUc' 5" drwg h.¥D. Mae y wlad dan i ( iWr i gyfeillion y Cynghrair yn Man- icifeter am alw sylw ato, a'i tidal yn barhaus. feei bron y cyhoedd; ac er mai llvnjr ddilead f^ aiWyddair y Cynghrair, etto y mac yn ai°d i roddi pob help at gael attaliad rhanol ar Y fasIlach. ffae Cyindcitlias wedi ei sefydln gyda'r am- caJ2 p gael nicsur seneddol i gau y tafarnau ar Y Sabbath. Dyma brif ddiwrnod y fasnach eddwol. Dydd Llun o holl ddyddiau yr wyth- l°* d.Vgir y nifer fwyaf o droseddwyr ger lonynadon ein trefydd; ac y mae y gym- eitlids y cyfeiriasom ati wedi cael tystiolaoth fhifcdi mawr o feistriaid sydd yn cadw can- III)edd, a rhai o honynt filoedd p weithwyiyyn SWneyd gyda'u gilydd gan mil o bersonau, ae gycl yn dangos y drwg y mae y fasnach Sabbathol yn ei wneyd yn gymdeithasol i'w SWeithwyr hwy. Ond nis gellir llunio cyfraith ar faterfelhyn heb gael barn y bobl eu hunain. Teimlad y ^ladwriaeth wedi ei gorphori ydyw cyfraith a vhaid iddi gael ei hategti gan farn a clialon y •g0 011ide bydd yn fuan yn llythyren fiirw. iad^^711 S*cr'iau barnT k°bl, y mae ymofyn- r. 0 ay i dy wedi bod mewn Uawer iawn o 11 yn Lloegr a Cliymru, ac y mae ffrwyth y hwnw yn foddhaol iaivia. Y dull a fabwysiaclwycl oedd gadael papurau yn mhob HQ1 ^amv > a ynddynt i roddi i lawr pa ai ^8 gau y tafarnau ar y Sabbath, ai yn yn a* yu anmhleicliol. Cymmerer y ifrwyth -p, I Wooedd a ganlyn er enghraifft 0 Ogledd a Cymru M £ 3 S tit Tref,,v M p £ ev Llani'wst, 188 0 1 LlSaaris 294 8 1 dno 519 17 22 LWan,tffraid> ger Conwy 76 1 ,1 ffifcVmeddT 224 0 2 *5^ 423 2 1 HhS 308 3 3 WekwuerLru°°^ 507 5 4 UaXN 423 8 14 Trvrl/i ^aereinion 173 2 2 228 1 0 Lla5a^ Ff^tiniog 103 3 6 twy11^11 171 1 4 CSSp 412 10 8 cs 13 20 Ahc^A 1533 21 36 ^arlech Gwynfryn a Lianbedr 211 12 ig: ^Keud^th'^ } j aentavr 284 0 0 ^uabon 199 2 2 257 0 1 514 1 5 225 0 1 ^lanidloes 526 10 29 p^ngefni 289 1 3 ^Wdoc 411 0 2 Tiuthyn 518 25 9 579 1 2 1006 2 8 182 3 6 678 5 5 C0t^Oed 172 0 0 342 3 7 C^^riUo, Corwen 160 1 1 aon 1428 10 12 183 2 6 Betft 440 10 6 Me8da 1333 12 2 454 6 2 Dr^jTdleth 361 1 3 Ca3&dd 845 15 27 Tall ydd 5366 266 281 96 0 0 Abl yr Tydfil a Dowlais 2149 204- 14 1700 0 0 887 23 15 CDl'°te 1027 42 33 Abp?1'ddirL 1556 50 36 AbHjnddu 831 44 49 Ami te 2775 188 93 570 3 6 id oes yr un ifordd mor effeithiol i argy- j hoeddi y senedd o'r angenrheidrwydd am y fath fesur a phan y gwelir y bobl yn addfed iddo, ni bydd gan ein cynrychiolwyr un gwrthwyn- iad i'w ganiatau. Bydd hwn yn un o'r mesur- au cyntaf a ddaw ger bron y senedd newydd, ac erbyn hyny bydd yn dda fod cyfeillion sobr- wydd yn barod.
CYNNRYCHIOLAETH 1VIEIRIONYDD.
CYNNRYCHIOLAETH 1VIEIRIONYDD. Grwyr pawb o ddarllenwyr Cymreig am gynnrych- iolaeth sir Feirionydd yn y Senedd, ei bod drwy yr oesoedd yn gyfangwbl yn nwylaw y Toriaid. Mae'r Meirionwyr; pa fodd bynag, yn bresenol wedi penderfynu ac wedi ymdynghedu mynu newid y drefn. Tmgymmerodd rhai o wyr Ffestiniog, a galw cynnadledd yn ISTolgellau. Enwyd diwrnod, ,ac anfonwyd llythyrau i bob rhan o'r sir i'w gwa- hocld yno erbyn awr bennodedig. Anfonodd gwyr Conis wedi hyny lythyrau allan yn cefnogi cynhyg- iad gwja' Ffestiniog-. Y canlyniad fu i nifer mawr ddyfod yn nghyd i Ddolgellau erbyn mi ar ddeg ddydd lau cynnrych- iolwyr o bob rhan o'r sir—o Ffestiniog, Trawsfyn- ydd, Bala, Corwsn, Llandrillo, Llandderfel, Rhydy- main, a'r Brithdir, Dinas Mawddwy, Tywyn, Aber- dyfi, Corris, y Dyffryn, Harlech, Maentwrog, a Phenrhyndeudraeth, y Bermo, Pennal, a Llwyngwril a pha faint o leoedd heblaw hyny nid wyf yn cofio; a'r Gohebydd, ar ei chais, i gyniirychioli Cyrndeith as Ddiwygiadol Gymreig Liverpool. Dewiswyd boneddwr o gymmydogaeth y Bala— John Jones, Ysw., Fachdeiliog- gynt, ond yn awr o'r Frondderw, yn llywydd y gynnadledd. A chadeir- ydd campus oedd ef: yn deall ei fater yn drwyadl, a'i holl enaid a'i galon yn yr achos.. Yr oedd rhywrai wedi ymgymmeryd yn mlaen llaw a pharotoi dan benderfyniad i'w cynnyg'i sýlw'r gynnadledd, a chyttnnwyd ar y rhai hyuy heb lawer o siarad- Fod y cyfarfod hwn, dan deimlad dwys o bwysign\-ydd sof- yllfa bresennol y wladwriaeth, ac o'r cwesti^nau liibiwrion gwladol, a el-irefyddol ag y bydd yr ethdbvyr—hen a. newydd— yn cael .eu galw yn fuan i'w .penderfynn, yn barnu ei bod o'r canlymadan pwysioaf i holl Eyddfrydwyr Meirionydd i yin- ffuiflo.ar unwajth yn ^ghpi-air unedig, i'r dyben o ethol i'r Senedd gynnrychiolj'dd ag a fyddo yn Ehyddfrydwr trwyadl cywir, a chefnogwr i Mr Gladstone.' Fod y cyfarfod h-w-n, i'r dyben o eefydlu cynghrair felly, yn ei gyfansoddi ei hun yn Gymdeithas Ddiwygiadol-Sir Feirion- ydd, i fod. yn gangen o Gymdeithas Ddiwygiadol Gymreig Liverpool, ac i gydweithio a. chymdeithasau diwygiadol eraill- y Dywysogaeth.' Bu cryn dipyn o siarad ynghylch y ffordd fwyaf effeithiol er cari.o allan y ddau benderfyniad yna a phenderfynwyd 'I'r dyben o gario allan amcanion ein cynghrair, fod pwyllgor i gael ei ethol a'i sefydlu yn mhpb rhaniad etholiadol o'r sir, a bod is-bwyllgor i gael ei ffurfio yn mhob plwyf; a bod y pwyllgorau lleol hyny i ethol pwyllgor cyffredinol i fod yn gwlwm ac yn gymmhell- ydd eu cydweithrediad, ac i weithredu dros yr holl sir ac i gyfarfod mewn rhyw le canolog yn ol yr achos a'r cyiieusdra.' AwgTymodclrhai o'r eyfreithwyr ag oeddynt bre- sennol mai yr hyn ag oedd genym bellach rwwneyd oedd dychwelyd bawb adref, ac edrych ar ol y rcgÙtcr; ac' wedi y cwblhaer hwrnv, ac y gwelir tua diwedd Medi neu dclechreuHydref pa fodd y bydd hwnw yn sefyll, yna cyfarfod ettoa phenderfynu ar y dyfodol. Ond gwrthwynebid hyny o bob cwr o'r ystafell. 'Wna hyna, (meddid) byth mo'r tro. Os ydym ynmyned i ymladd a'r Toriaid rhaid i hi yn gyntaf oil gyttuno pwy fydd ein Tywysog; wiw i ni ymladd cyn dewis ein cadfridog. 'Wn i yn iawn pa un ai y cadeirydd ai ynte rhyw frawd arall a awgrymodd gyntaf, mai j Tywysog Dafydd o Gastell Deudraeth, oedd yn arivaiii ein pobl ni yn Meirionydd allan ac yn eu dwyn i mewn, a chyda bron fod y gair allan o'i enau, neidiodd Ffestiniog ar ei thraed, a gwaeddai mai 'Dafydd 4!1 y ydyw ein dewis Dywysog ni acw.' Holai Corwen ynghylch el gredo: os oedd sicr- wydd ei fod yn iach yn y ffydd Gladstonaidd, fod Corwen yn benderfynol, cyn symmud gain yu mhell- ach, o fynu dealldwriaeth glira diaxnmwys ar y pen hwnw. Cafwyd attebiad cwbl foddhaol gan un a wyddai, fod y Gwron o Gastell Deudraeth' yn berffaith iach; ei fod, os anfonid ef i Westminster, yn barod i ymladd o tan y Gladstone Flag,' a'i fod yn wir yn barod i fyned tu hwnt i derfynau presennol Gladstone-ei fod yn barod i argraphu, a hyny mewn Ilythyrenau mawrion ar ei faner Y Ballot.' Gran hyny, ebai Corwen, Dafydd i ninnau;' ac i ninnau ebai Llandderfel; ac i ninnau acw ebai Llandrillo; a'r un modd gwaeddai Corris, Dafydd ydyw ein favourite dywysog ninnau yn y cwr acw o'r sir. Ac erbyn compario notes, ys dywed y Sais, cafwyd allan fod y sir o ben bwy gilydd yn hollo! unol mai Dafydd oedd i fod yn dywysog i arwain y gad Kyddfrydig yn erbyn y Toriaid; ac os ceid ganddo yntau ymgymmeryd a blaenori, teimlid yn hollol ffyddiog, gydag ymroad, dyfalbarhad a ben. dith y nef, y llwyddid y tro hwn- y trydydd gwaith —^i ennill y gonfcwest. •• Cyttunwyd gan hpiv yn unfrydol ar y penderfyn- iad canlynol:— 'Foddeputation, yn. cynnwys un o bob dosbarth ethol- (polling district) yn y sir, i alw yn ddioed gyda D. VVuliains, Ysw., Castell Deudraeth, i hysbysu iddo mai i^TI1dad *aer ao unfrydig y cyfarfod hwn ydyw, iddo v ymSeisydd am gynnrychiolaeth y sir yn yr etholiad clyfodol. A phenderfynwyd yn mhellach ar fod i requisition i'r un perwyl i gael ei barotoi mor fuan ag y byddo ddiehonadwy, a'i arwyddo gan gynnifer ag y byddo bossibl o etholwyr y sir, i'w gyfiwyno i Mr Williams. Enwyd yn rlejmtation i Gastell Deudraeth y boneddigion caniynol:—y Cadeirydd, J. Jones, Fron- derw, Bala; S. Holland, Ffestiniog; Edward Morgans, Dyffryn; R. "Nanney Williams, Llwyn (dros, ddosbarth Mawddwy); W. Williams, Ivy House, Dolgellau; Pear- son Roberts, Corwen; -W. R. Davies, Corris; a W. Rees, Towyn. A chyda hwy, ar wahoddiad, fe aeth Dr. Richards, Bala; D. Lloyd, Towyn; ar "Goheb- ydd." I 'Fod diolchgarwch y cyfarfod i gael ei roddi i David Pugh, Ysw., Dolgellau, am eiegnïadau diwyd a chysson drwy y blynyddoedd diweddaf i gywiro a pherffeithio y cofrestriadau yn sir Feirionydd.' Annogwyd i drysorfa gael ei hagor yn y sir er cario allan amcanion y Rhyddfrydwyr.' Wedi diolch i'r cadeirydd am ei foneddigeiddrwydd, terfynodd y cyfarfod. Tranoeth, ymwelodd y cenhadon a Mr Williams, yn ei Gastell. Ar ol cyrhaedd yno, cafwyd amryw oriau o ym- ddiddan rhydd a hollol ddiseremoni. Cyflwynwyd i'r gwron y penderfyniadau y cyttunasid arnynt yn Dolgellau y diwrnod blaenorol. Didlchodd ein gwron yn fawr am y fathamlygiad o deimlad da y sir tuag ato; ac ar ol bod am amser o'r neilldu yn ymgynghori gyda dau neu dri oi gyfeillion, dychwelodd ein gwron gyda'r atebiad canlynol.- 'Ei fod ef yn rhoddi ei liull yn hollol yn llaw ei gyf- eillion, y' blaid Ryddfrydig yn y sir; ei fod ef, fel yr awgrymodd eisoes, mor awyddus ag y bu erioed, ac mor awyddus a neb o honynt am ennill sir Feirionydd oddi ar y Toryaid; ac os, drwy y requisition y bwriedid, yn ol penderfyniad Dolgellau, ei hanfon iddo, y dangosid fod y blaid Ryddfrydig yn y sir yn teimlo mai ei ddyled- swydd ef .oedd dyfod i'r maes y tro hwn etto, i ymladd a'r Toryaid, a'u bod yn ymrwymo i ymladd o ddifrif gydag ef, ei fod yntau yn barod i ufuddhau i'w galwad (cymmeradwyaeth mawr).' Cododd y cenhadon, un ar ol y llall, i ddiolch i'r gwron am ei addewid, ac hefyd i'w sicrhau yn mhellach, mai penderfyniad y sir y tro hyn ydyw, ei arbed' ef rhag rhedeg i gostau diachos o gannoedd o bunnau am paid canvassers, Hotel Committee- Rooms, ac felly yn y blaen, a chymmeryd y gwaith, o ddifrif, heart and soul, i'w llaw eu hunain, a chario yr etholiad yn mlaen mor bell ag y byddo bossibl yr un modd ag yr ydym yn dwyn yn mlaen ein gwa- hanol achosion crefyddol, sef ar y drefn wirfoddol. Ar yr un sgstem ag y mae Merthyr, Aberdar, a Dowlais yn penderfynu cario Henry Richard; a'r drefn ar ba un y cariodd dinas Westminster Stuart Mill, a Lambeth Thomas Hughes. Cyn ymadael, cyttunodd y ddirprwyaeth i anfon tri yn deputation i Liverpool mor gynted ag y byddo yn gyfleus i ymgynghori a Chyng-hor y Reform -T,eag,?,to enwyd Mri. Pearson Roberts, Corwen; Davies, Corris; a'r Gohebydd.
YR AELODAU GYMREIG A'R EGLWY8…
YR AELODAU GYMREIG A'R EGLWY8 WYDDELIG. 1) Mewn cyfarfod a gynaliwyd yn Abetteifi y dydd ■o'r lilaen, gwnaeth M^ Carvell Williams, ddadan- soddiad ar y tri rhaniad pwysicaf sydd wedi cym- meryd lie ar gwestiwn yr Eglwys Wyddelig, er mwyn daiigos pa faint o gefnogaeth a dderbyniodd Mr. Gladstone gan gynnrychiolwyr y Dywysogaeth. Ar y rhaniad blaenaf a phwysicaf, o'r un-ar-ddeg ar hugain o aelodau Cymreig,pleidleisiodd dali ar bymtheg o blaid Mr, Gladstone; pleidleisiodd un-ar-. ddeg, a phariodd dau, yn ei erbyn; ac yr oedd un yn absenol. Ar y penderfyniad cyntaf yr oedd deu- ddeg- yn pleidleisio, a dau yn pario o'i blaid; a deu- ddeg yn pleidleisio neu yn pario yn ei erbyn; a phump.yn absenol. Ar ail ddarlleniad y Mesur, At- taliol, pleidleisiodd un-ar-ddeg-, a phariodd pedwar o'i blaid; pleidleislodd neu pariodd 14 yn ei erbyn; ac yr oedd dau yn absenol. A ddylai Ymneillduwyr Cymru, os ydynt wyth width lliosocach nag Esgob- aethwyr Cymru, fod yn dawel yn ngwyneb y ff'aith nad oedd ond hanner cyhiirychiolwyr Cymru1 yn pleidleisio er cefnogi gwleidiadaeth nad allai pohl Cymru lai na theimlo yn gynnhes tuag ato P Oni bai fod Ymneillduwyr Lloegr ac Ysgotland yn cael eu cynnrychioli yn llawer iawn gwell ni buasai Mr. Gladstone yn gallu siclrhau y mwyafrif ysblenydd hyny.aroddodd gymmaint o lawenydd yn nghalonau y Gwyddelod. Un ffaith arall sydd yn deilwng o sylw ydyw fod y Rhyddfrydwyr Cymreig wedi pleidleisio yn waelach yn yr ail nag yn y rhaniad cyntaf, ac yn waelach drachefn yn y trydydd rhaniad; tra yr oedd pleidleisiau y Toryaid Cymreig yn gwell- Hau tua r.diwedd. Yr oedd y Rhyddfrydwyj", mae'n debyg, yn medd- wl eu bod wedi gwneyd digon i foddloni Ymneilldu- wyr tawel Cymru yn y rhaniad cyntaf, ond yr oedd eu gwrthwynebwyr yn glynu wrth yr achos drwg hyd y diwedd. Terfynodd Mr. Williams ei anerch- iad gydag appeliad gwresog at y Cymry i gadarnhau dwylaw Mr. Gladstone yn y senedd newydd; ac er .gwaethaf meistriaid tiroedd, cyfreithwyr, a chlerig- wyr, benderfyriu gweithredu yn unol ag- argyhoedd- iadau eu cydwybod, dfwy ddychwelyd, i Dy y Cy- ffredin y personau hyny a bleidleisiasant o blaid cyf- iawnder i'r Iwerddon, ai wrth wneuthur hyny cefn- ogasant yr egwyddorion hyny y mae y Cymry morl ymlyngar wrthynt.
FY NHAITH .I HARLECH.
FY NHAITH I HARLECH. CYLCHWYL Geeddobol Undeb Dxewestwye Aedudwy. Pasiodd amryw flscedd heibio ar ol sefydliad yr undeb uchod (yn Gorphenaf, 1867), heb i ni glywed fawr iawn o son yn ei gylch. Ofnem weithiau fod ly clarfodedigaeth wedi ymaflyd yn ei gyfansoddiad ieuangc ac eiddil yn ystod hirnos gauaf, ac nad oedd wedi gollwng ei afael o hono hyd nes i'r anadliad ddiweddaf gael ei threulio ymaith. Ond pa fodd bynag, yn nghanol ein hofnau a'n hameuon, cawsom ein hargyhoeddi ei fod mewn gwell sefyllfa nag yr oeddym ni ar y eyntaf yn tybio ei fod. Pan welsom fod hysbysleni mawrion o wahanol liwiau ac mewn gwahanol ieithoedd w3di cael eu hargraffu, a'u dodi ar y muriau yma ac acw drwy ein hardal, yr oedd yn rhaid i ni yr adeg hono gredu fod rhywbeth pellach a mwy sylweddol na siarad i gymmeryd lie mewn perthynas iddo; ac felly yr oedd. Dydd Iau, Me- hefin 25, ydoedd y diwrnod penodedig i gynal yr wyl; mawr oedd ein pryder a'n dysgwyHad am dani; ac fel yr oedd y dydd yn nesau, yr oedd ein hawydd ninnau yn mwyhau yn gyfatebol i hyny. Ond o'r diwedd wele'r diwrnod hirddysgwyliedig yngwawr- io. Ymddangosai yn y boreu yn lied anffafriol i'n gwyl, ond erbyn adeg cychwyn daeth yn hollol deg; yr oedd yn anmhosibl cael diwrnod mwy dymunol. Wedi i ni adael ein cartref, nid hir y buom cyn cyr- haedd gorsaf y rheilffordd. Yno yr oedd ugeiniau os nad cannoedd o feibion a merched yn llawn ffwd- an, yn stwffio ar draws eu gilydd i'r station iymofyn tickets am Harlech. Os dymuna rhai o ddarllenwyr y TYST weled yr hen air hwnw 'Meindied pawb ei fusnes ei hun,' yn cael ei osod mewn gweithrediad bob iot o hono, cynghorwn hwy i fyned i un o'r Railway Stations ar dcliwrnod excursion—yno, beth bynag y gwelais i ef berffeithiaf o un man y bum ynddo erioed. Ar ol cael ticket, gwnaethum (fel pob dyn call arall) fy ffordd cyn gynted ag y gallasai'm traed fy nghario tua'r carriages, a meddyliwn yn sicr fy mod wedi achub y blaen ar eraill o'm cyd- deithwyr, ond druan o honof, yr oeddynt oil yn llawn; ac i ba le Meistri Gol. debycech chwi cefais i fyned? Wel, cefais yr anrhydedd poenus o gael fy ngyru i gerbyd yr anifeiliaid! Ond dywedwch chwi a fynoch, yr oedd yn dda cael rhywle ar y fath adeg. Mor fuan ag yr aeth pawb i'w lie, dyna gychwyniad yn cael ei roi i'r cerbydau, a ffwrdd a ni wed'yn yn lied ddiseremoni i ben ein taith. Yr oeddym wrth fyned yn pasio heibio i amryw orsafoedd, ond ni welodd Mr Tt ain yn dda stopio yr un eiliad yn yr un o honynt, er fod yno lawer oedd yn dysgwyl am dano. Yr oeddynt yn ddiamheu yn llawenhau wrth ei gan- fod draw yn y pellder yn dyfod tuag atynt, ond pan ddeallasent ei fod yn ormod o wr bonheddig i aros, dyna hwy yn dechreu tynu gwynebau hirion, a rhai o honynt yn barod i'w felldithio; ond 'doedd dim help am dani, pe buasent hwy yn gwybod y cwbl, yr oedd ganddo ddigon o faich eisoes, a gormod pe qawsai chwareu teg, a bu agos iddo golli ei wynt a thori asgwrn ei gefn wrth geisio myned a ni i ben ein siwrna. Ar ol cyrhaedd yr orsaf, canfyddais fod hen dref henafol Harlech (prif dref y Sir yn yr amser gynt, ac eto mewn enw), yn llawn bywyd a berw drwyddi oil. Y peth cyntaf a dynodd fy sylw wedi i mi ddisgyn o'r cerbyd oedd yr hen gastell mawreddog a safai ar y bryn gerllaw, pinnaclau yr hwn sydd yn ym- ddyrchafu i'r cymmylau. Cyfeiriasom ein camrau tuag ato yn ddioed, gan fod yr adeg i ddechren wedi nesau. Ar ol dringo i fyny am oddeutu chwarter milltir ar hyd ffordd gul, swrth, a garw, cyrhaedd- asom y fynedfa sydd yn arwain i'r castell; cymmer- asom dicket, ac aethom i mewn drwy y porth i neuadd agored, yn mha un yr oedd yr wyl i gael ei chynnal. Erbyn hyn yr oedd yn 10 o'r gloch, a dacw L. H. Thomas, Ysw., Caerffynnon, yn cym- meryd y gadair. Rhoddodd annerchiad byr a a phwrpasol i'r gynnulleidfa, ac yna aeth yn mlaen yn ol y Programme. Carasem roddi o flaen y dar- llenydd holl fadylion y cyfarfodydd, ond ofnwn na bydd hyn yn dderbyniol gan Meistri Gol; Ymfodd- lonwn y tro hwn ar yn unig grybwyll ein bod wedi cael ein siomi yn ddirfawr yn nghyfarfod y boreu,— yr oedd yn anrhaethol well na'n disgwyliad. Yr oedd boneddwr o ardal Dolgellau wedi addaw bod oedd baneddwr a ardal Dolgellau wedi addaw bod yn Llywydd am 2, ond lluddiwyd ef gan amgylch- iadau, fel. nad allai fod yn bresenol; ond gofalodd Rhagluniaeth am anfon un arall cymhwys yn ei le, sef W. Griffith, Ysw., Cyfreithiwr, Dolgellau. Yr oedd y cyfarfod hwn etc feddyliem yn llawn cystal, os nad gwell na' r, un blaenorol. Am 6 yn yr hwyr, cynnaliwyd Cyngherdd o radd uchel, gan y gwa- hanol gorau, a phersonau eraill. Canodd rhai o honynt yn dda rhagorol, a chawsant gynuneradwy- aeth mawr. Trodd yr anturiaeth allan yn hynod o lwyddianus. Clywais fod y derbyniadau yn ystod y dydcl 3,n X 140. Well done Ardudwy! Y mae wedi euro ei-chymmydoges Eryri yn deg, er ei bod yn gryfach, ac yn hyn. 'Trech metal na maint.' Gobeithio y parha yr undeb hwn i fynecl yn mlaen yn yr un cyfeiriad ag y mae wedi cychwyn. Y mae ynperthyn iddoyn bresenol .16, a gorau, a'r rhai hyny yn nghyd yn cynnwys 600 o aelodau. Y mae yn amheus gennyf a fu cymmaint o bobl yn Harlech erioed ar yr un adeg, ag oedd yno y diwrnod hwn; gallwn gasglu ar amcan-gyfrif fod ync, o ddwy i ,dair mil; a phwy bynnag fydd byw i weled yr wyl nesaf, ni rhyfeddwn ddim na bydd yno lawer mwy. -Tyst.
GENEDIGAETH TYWYSOGES YN NHEULU…
GENEDIGAETH TYWYSOGES YN NHEULU TYWYSOG CYMRU. Marlborough House, Gor. 6, 5'30 bore. Rhodd ei Huchelder Brenhinol y Dywysoges Qymru enedigaeth i Dywysoges am 25ain wedi pedwar bore heddyw. Mae ei Huchelder Brenhinol a'r Dywysoges ieuanc mewn sefyllfa hollol ddymunol. ARTHUR FARRE, M.D. E. H. Sieyeking, M.D. Ymwelwyd a'r Dywysoges gan y Frenhines cyn canol dydd, a dychwelodd i Gastell Wind- sor yn yr hwyr. Taniwyd gynau mawr, a chanwyd clychau'r prif eglwysi yn Llundain yn ystod y dydd i anrhydeddu'r amgylchiad. Addumwyd y llongau hefyd yn y dociau fel arwydd o barch ac ewyllys da i'r teulu brenhinol. Yn union ar ol yr enedigaeth, danfonwyd hysbysiad o honi gyda'r pellebyr i Frenhin a Brenhines Denmarc, a phrif benau coronog Ewrop. Dyma'r pedwerydd plentyn a anwyd i Dy- wysog a Thywysoges Cymru. Yn awr y mae ganddynt ddau fab (y plant hynaf), a dwy ferch.
COFRESTRWCH ! COFRESTRWCH…
COFRESTRWCH COFRESTRWCH Craffed yi* etholwyr ar y cyfarwyddiadau canlynol:— Gorphenaf 20.—-Rhaid i'r trethi, dyledus o flaen Ionawr 5ed, gael eu talu cyn y dydd hwn gan yr etholwyr mewn dinasoedd a bwrdeis- drafi, onide amddifedir hwynt. o'r gallu i bleid- leisio. Dyuaa'r idiwrnod olaf iroi i fewn hawl am bleidlais yn y siroedd. Gorphenaf 22.—Yr Overseers i wneud rhestr- au, heb fod yn hwyrach na'r dydd hwn, o enwau pawb sydd heb dalu trethi ytlodionhyd Gorph. 20fed; y cyfryw restrau i fod yn agored i'w darllen a'u chwilio am 14 o ddyddiau. -pi reeholders.-Personan yn meddu tai, neu dir- oedd gwerth 2p. ac uchod yn glir yn flynyddol. Leaseholders.-Sydd yn dal lease ar unrhyw eiddo, yr hon a wnaed ar y cyntaf am 60 mlyn- edd neu ragor, a'r hon sydd yn werth 5p. neu ragor yn y flwyddyn yn glir i'w pherchenog.
[No title]
Takawiaxi YR Haul.—Yr wythnos ddiweddaf, lladdwyd dau ddyn gan darawiad yr haul, yn West- port, ger Castlebar. LLADRAD CREULON.-Daeth geneth ddeuddeg oed o Bury i Manchester, yr wythnos diweddaf, i ymweled a rhai o'i pherthynasau. Yn nghorsaf y rheilffordd cwrddodd a rhyw ddynea, yr hon a gymmerai arni wybod pob peth am ei pherthynasau, ac o dan wahanol esgusodiall, llwyddodd i'w hysbeilio o'r holl arian oedd gandd yn gystal a pheth o'i dill-i,(I, Daliwyd y ddynes, a hi i garchar.
IY PARCH W. D. WILLIAMS, DEER-IFIELD,…
Y PARCH W. D. WILLIAMS, DEER- FIELD, AMERICA. Treuliodd Mr Williams y Sabbath diweddaf, sef Gorphenaf y 5ed, yn Llanfyllin. Preg-ethodd dair gwaith yn ei hwyliau goreu. Yr oedd newydd fod mal'7 yn Nghymanfaoedd Llanbrynmair yn Maldwyn, a'r Bala yn Meirionydd, a thua Llanuwchllyn a'r Bala y Sabbath cyn hyny. Bwriada Mr Williams dreulio y Sabbath nesaf yn ngweinidogaeth y Parch H. James, Llansantffraid, ac wedi hyny y mae am dreulio wythnos yn nghymmydogaethau y Bala a Llanuwchllyn, a dychwelyd i Ddinbych erbyn Sab- bath, y 19eg—i Gaergybi erbyn y 26ain, ac oddiyno i Gymanfaoedd Arfon a Mon; i Bangor erbyn y Sabbath cyntaf yn Awst, ac yn ol i Gaergybi erbyn yr ail, sef Awst 9fed. Hyd yna y mae ei drefniad- au yn cyrhaedd. Bwriada ein hen gyfaill dalu ymweliad a'r brif- ddinas cyn dychwelyd yn ol i'w wlad fabwysiedig. Yr oedd yn dda iawn genyf ei weled yn edrych mor dda. Y mae ein hen gyfaill yn ymddangos yn mwynhau ei hun yn fawr. Y mae ei yspryd yn sir- iol, a'i galon yn lion. Gobeithiwn y bydd ei ym- weliad yn adloniant parhaol i'w yspryd, ac y bydd ei bregethau buddiol ac adeiladol yn gadael argraff- iadau arosol ar gynnulleidfaoedd Cymru. Peidied ei berthynasau a'i gyfeillion a rhyfeddu os collant eu liadnabyddiaeth o hono erbyn y dy- chwela, oblegid yr ydym yn penderfynu anfon Mr Price ac yntau yn en hoi yn regular Dulls. C. R. J. ;c
CANIADAU CRANOGWEN.
CANIADAU CRANOGWEN. Nid oes neb yn Nhgymru, na Lloegr, nac America, ag sydd yn meddu gradd o adnabyddiaeth o lenydd- iaeth Gymreig nad yw yn hysbys o enw yr awdures dalentog Cranogwen. Er nad yw ond geneth ieuanc, ac er nad oes fawr iawn o amser er pan gychwynodd ar ei gyrfa gyhoeddus, eto, mae wedi cyrhaedd pinacl uchel enwogrwydd fel darlithyddes, a bardd- ones, ac y mae ei henw da wedi ei gerfio yn ddwfn ar galonau ei chydwladwyr. Ymddangosodd rhai darnau o'r gyfrol fechan sydd o'n blaen eisioes. Enillodd rhai o honynt wobrau Eisteddfodol, a siar- adwyd am danynt yn uchel gan y beirniaid. Ond, er mor brydferth ydyw y Fodrwy Briodasol,' er mor doddiadol ydyw Hiraeth,' er mor gryf ydyw Pedr yn nhy Cornelius,' ac er mor ddysgrifiadol ydyw I Dyffr3,i-i Cranog,' mae yma ganeuon bychain ereill sydd yn eu taflu i gyd i'r cysgod. Yn y y darnau cystadleuol yr ydym yn teimlo yn barhaus rhyw ymdrech annaturiol, rhyw ymgais am fod yn ,a fawr, rhyw anystwythder clogyrnog; ond yn y darnau ereill ymollynga yr awen i nofio gyda'r lli, mwynha ei hun mewn esmwythyd tawel, a'r canlyn- iad ydyw, y mae miwsig yn mhob ton o'i llais, a swyn yn ei holl linellau. Yr ydym yn dotio ar y Ffynon,' I Ffylioli fechan groew, loew, Llygad lion, y dyfroedd byw.' Rhoddem gant o awdlau ar y pedwar mesur ar hugain yn anrheg am yr un penill hwn, Ffylion f ach, mae swyn dy wyneb, Swyn dy lygad gloew, lion, Wedi hudo'r ser i waered, I addumo'th dyner fron, A bwrlymol si dy ddyfroedd Wedi swyno'r blodau blydd I ymgasglu o dy gwmpas, I roi cusan ar dy rudd.' Y mae Y Gwlithyn' yntau wedi ei ddyhidlo o awyrgylch bur awenol Castalia, ac ymddengys fel Gem a wisgai Un o'r engyl ar ei fron.' Pelydra y Seren' fel llygeidyn o anfarwoldeb, Seren anwyl, lawen, dlos, Gwenu'r wyt ar fron y nos; Dawnsio mewn addurnol fri, Ar y nef, ac ar y lli.' Sieryd y Plentyn a'r Frongoch' iaith gywiraf natur. Anadla diniweidrwydd, a gwena symlrwydd yn mhob penill. Dylai hwn fod yn ngenau pob plentyn, ac yn nghalon pob henafgwr; mae pob gair o hono yn werth ei gadw ar lafar gwlad.' Cymerai ormod o ofod ini sylwi ar yr anerchiadau, a'r ymsyniadau, a'r cyfeiriadau personol, ynghydag- amryw ddarnau eraill yn y Uyfr; maent i gyd yn dwyn arnynt rai o nodweddion goreu ein hawdures, er nad ydynt yn rhydd oddiwrth ddiffygion a gwall- au cyfiEredin cyfansoddwyr ieuainc. Wrth ddadansoddi y llyfr, a cheisio cael gafael ar- neillduolion meddwl ac awen ein barddones ieuanc ymrithia teithi amrywiol i'n golwg. Gwelwn anni- 9 t, byniaeth meddwl wedi ei leddfu gan wylder benyw- aidd, gwroldeb ysbryd yn cael ei reoleiddio gan dynerwch teimlad, gonestrwydd egwyddorol dan arweiniad awydd gwneud daioni, a'r cyfan wedi ei nawseiddio gan grefyddolder y pur o galon. Gwisgir amgyffredion bywiog mewn iaith ddillyn a grymus, ac ymsymuda ysbryd y peth byw yn nghwmni celfyddyd. Gwelir mwy o dlysni nag a nerth, mwy o deimlad na chywraingarwch. Dar- lunir y Ffynon' yn well na'r Ystorom,' a'r Gwlithyn yn well na'r I Haul.' Mae yn fwy car- trefol gyda I fy ffrynd' a fy mrawd' na chyda Dafydd' a fy ngwlad.' Offeiriades y mwyn a'r tyner, y syml a'r tlws, ydyw ein chwaer. Dymunwn iddi hir oes i siarad iaith natur yn ei dull swynol ei hun. Mae y gyfrol fechan yn dlos dros ben. Yr argraff yn dda, ar toned paper prydferth, wedi ei rwymo yn' hardd mewn plygiad cyfleus. Yr ydym yn lion- gyfarch Mr R. 0. Rees ar yr yohwanegiaa hwn eto o'i eiddo at lyfrau goreu ein gwlad. Gobeithio y caiff ledaeniad teilwng, ac y bydd galwad buan am, ail-argraffiad. Pede Mostyhv
[No title]
Y Gwetheyfel rN China.—Y mae y twrhgyrfel yn parhau mewn rhyw ran 0 China o hyd. Yn ol y newydd diweddaf, yr oedd y gwrthryfelwyr wedi; cyrhaedd i gymydogaeth Tientsin. Bernir eu bod oddieutu 30,000 o rifedi. Yr oedd gan yr Ymerod- wyr 8,000 o filwyr o fewn y ddinas, ac yr oeddynt yn hyderus y gallent wrthsefyll ymosodiad y gelyn- ion. Amcan y gwrthryfelwyr oedd cael gafael ar y Junks llwythog o rawn oeddynt mewn rhifedi mawr ar y Peiho. Yr oedd y gwnfad Prydeinig Dove yno,, a disgwylid i'r Opossum gyrhaedd yn fuan. Paro- toai y Ffrancod a'r Prydeinwyr i amddiffyn y tramorwyr a'u heiddo, os ymosodid amynt.