Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
8 articles on this Page
[No title]
[Nid ydym yn gyfrifol am syniadau ein Gohebwyr; ae nid yw eu cyhoeddiad yn ein colofnau yn ddigon i brofi ein bod yn eu cymmeradwyo. Nis gallwn eu cau allan heb gael ein cyhuddo o geisio cyfyng-u ar ryddid y wasg.-Y GOLYGWYR.
HANES TAITH I'R AMERICA.
HANES TAITH I'R AMERICA. Foneddigion,-By(Idaf ddiolchgar os rhoddwch fenthyg tafod y TYST er adrodd hanes ein taith i'r America. Ac er mai boddloni fy hen gyfeillion yn Llanbrynmair a fydd yn benaf yn fy ngholwg, etto dichon y ca eraill beth pleser wrth ei ddarllen. Nid yn fuan yr anghofiaf y caredigrwydd a dderbyniais yn Llanbrynmair. Yr oedd yr help a dderbyniais oddiareu llaw yn bell tuhwnt i'm disgwyliad. Yr oedd yr hyn a wnaed mewn. cylch wythnos yn debyc- ach i wyrth i mi na dim arall; ond pan ddaeth yr awr i ymadael, yr oeddwn yn teimlo fy meddwl bron a chael ei lethu." Er oedd amryw bethau yn cydgyf- arfod er peri hyn. Gadaelllu o frodyr a ehwiorydd crefyddol y bu yn dda genyf lawer gwaith gyd- gerdded gyda hwy i Dy yr Arglwydd. Gadael y Parch. a'r anwyl Mr Evans, yr hwn y teimlwn y fath ymlyniad wrtho ag a deimlai Dafydd gynt at ei gyf- aill Jonathan. Gadael brodyi-, a chwaer, a'u teulu- oedd, g-yda hen fam oedranus. Nid yn fuan yr anghofiaf y cyfarfod ymadael nos Sabbath, Mai lOfed, pan yn derbyn Beibl mawr Peter Williams o law fy anwyl weinidog, fel arwydd o serch ac ewyll- ys da fy hen gymmydogion. Diolchaf o'm calon iddynt; a gallaf eu sicrhau na theimlais erioed y fath ofn yn rhuthro i fy meddwl rhag fy mod yn gwneyd yr hyn oedd groes i ewyllys fy Nghreawdwr. Boreu Llun, Mai 1.1 eg, oedd yr adeg idroi ar yr hen gartref, Braichodnant. Felly aethom tua gorsaf Llanbrynmair, lie yr oedd llu mawr o'r cymmydog- ion wedi ymgasglu, er cael yr olwg ddiweddaf ac ysgwyd llaw a'r teuluoedd oedd yn ymadael. Felly, ar ol y gosod allan a'r ymadael, canasom yn iach i hen olygfeydd Llanbrynmair. Ac ymhen ychydig cawsom ein hunain yn ngorsaf y Drefnewydd, He y cyfarfu a ni amryw o'n cydnabod, a gwyddem wrth wasgiad y llaw eu bod yn teimlo mwy na- a allent ddyweyd, a'u bod yn dymuno ein llwyddiant. Wedi cyrhaedd i orsaf Trallwm, ecUychein a welem ein parchus hen weinidog, Mr Rowlands, ond ni welsom ef; felly, ymadawsom wedi ysgwyd llaw yn gynhes a'n cyfaill ffyddlon Mr Richard Williams. Cyrhaeddasom Liverpool tua phedwar o'r gloch. Wedi rhoddi ein clyd dan ofal Mr Lamb, a chael ychydig luniaeth, cawsom gyfeillach amryw gyfeill- ion sydd yn byw yn y dref o Lanbrynmair, a chafodd rhai o honom ein gwahodd i swpera at y cyfeillion caredig Mr W. Hughes a'i briod. Gobeithio fod Mrs H. wedi gwella o'i hafiechyd. Mai 12fed. Wedi cael boreufwyd, aethom at lan yr afon, er ymgydnabyddu tipyn a'r hen for, a phwy a'n cyfarfu ond y Parch H. E. Thomas, Birkenhead. Yr oedd yn dda gan ein calon ei weled. Aethom gydag ef trwy wahanol ystafelloedd y TYST. Wrth ymadael, ysgydwasom ddwylaw, dan y teimlad na welem ei wyneb mwy.' Ond er ein llawenydd, pwy a welem gyda 'r nos ond ein cyfaill caredig Mr Thomas, a chawsom lawer o gysur wrth wrando ar ei gynghorion gwerthfawr. Bore y 13eg. Symmudasom ein boxes at y llong. Nid yn fuan yr anghofiaf y diwmod llwytho yn Lerpwl! Bum o 8 y bore hyd 3 y prydnawn yn y fath grotvd a thyndra fel yr oedd yn galed iawn ar y gwragedd a'r plant a'r gweiniaid. Wedi gorphen llwytho y lIong, ymadawsom o gyleh tri o'r gloch, gan gychwyn ein taith bell; ac wedi cael pethau i drefn, cawsom ein ciniaw cyntaf ar y mor. A chan ein bod yn teimlo cryn chwant bwyd, bwytasom yn dra helaeth; teimlem y bara, a'r cig, a'r tatws yn hynod flasus. Ond gydaj'r nos, clywem ryw afion- yddwch yn ein stymog a chyn pen ychydig funyd- au, dyna y cwbl i fyny, a llawer yn ychwaneg. A dyna glefyd y mor o ddifrif wedi ymaflyd ynwyf, ac nid yn fuan yr anghofiaf ei effaith ar fy nghnawd a'm hysbryd. Yr oeddwn wedi colli fy nheimlad at bawb a phobpeth, ac megis wedi colli fy hunan! Prydnhawn y 14eg, cyrhaeddasom Queenstowh, a daeth amryw gannoedd o Wyddelod i fwrdcl y France; ac yn awr yr oedd yr eneidiau oil oedd ar ei bwrdd o 14 i 15 cant. 15fed. Ni ddigwyddodd dim neillduol, ond pawb yn sal iawn. 16eg. Dydd tywyll, gwlawog; arhwng y dydd a'r salweh, pawb yn hynod o ddigalon. Gyda'r nos cododd y gwynt. Ac wedi i ni gysgu ychydig, de- ffrowyd ni gan Swn darllen; fic erbyn i ni edrych, gwelem amryw o'r Gwyddelod wrth bleu y lampau yn darllen, ac yn gweddio ar Mair; ac. wrth eu clywed, dychrynodd rhai o ferched Llanbrynmair, a chodasant o'u gwelyatr dan wylc. a dyweyd, 'Ni a fodclwn yn wir l' Ond wedi eu hargyhoeddi nad oedd dim perygl, dychwelasant i'w gorweddfa. 17eg. Wei, dyma rywun yn dywedyd-y mae yn Sabbath heddyw; ac er fy mod yn sal iawn, teimlais yn debyg i Samson gynt, Af allan y waith hon fel cynt acymysgydwaf.' Ac wedi i mi ymlusgo i'r bwrdd, O y fath siomedigaeth, yn lie bod yn yr hen gapel yn gwrando yr anwyl Mr Evans, beth oedd yno ond chwareu cardiau a thori gwalltau, a phob math o ysgafnder. A chyda dyweyd fel Jacob, I Dial-L nad oes ofn Duw yn y lie hwn,' aethum i lawr ac i'm gwely, yn drist iawn fy meddwl. 18fed. Gwynt go uchel drwy y dydd, fel yr oedd y Hong fawr yn ysgwyd fel meddwyn. Mai 19eg. Gwlaw mawr trwy y borau, ond yn codi ganol dydd, fel y cawsom brydnhawn hyfryd, a golygfa ardclerchog- ar y mor mawr llydan. Mai 20fed..Gwlaw mawr etto, a'r gwynt i'n herbyn. Feallai y bydd rhai yn barod i ofyn, Pa ham y soniwn am wynt gyda-- agerlong f' Wei, y mae Uawer yn troi ar y gwynt. Y mae yr agerlong yn ei llawn hwyliau fel llong arall pan fydd y gwynt o'i thu, a golwg ardderchog fydd arni yn mynedpan fydd y g\v"ynt o'i thu gyda yr ager. Mai 21am. Y gwyiit o'n tu hyd 2 o'r gloch, i'n herbyn o hyny hyd dranoeth. Mai 22ain. Trodd hwn yn ddydd oer anifir, er fod golygfa ryfedd ar y mor-llawer o bysg mawr- ion i w gweled, y bobl yn tyru i ochrau y llong i gael golwg arnynt yn clerythu y sybwr yn gymmylau i fyny. Mai 23ain. Dyma ddydd braf. Pawb ar y deck. Golwg ardderchog .ar y mor fel rhyw gyfan- dir mawr diderfyn, a hwnw a'i wyneb yn can miliwn a mwy o fan donau; a'r rhai hyny yn chwareu ac yn wmcio ar eu gilydd. Yr oeddwn yn teimlo fy nghalon yn rhy galed o lawer ganfod y fath arwydaion o wenau yr Arglwydd arnom. 24ain. Dyma ddydd Sabbath etto. Yr wyf beth gwell o ran fy iechyd a'm teimlad. Wei, a oes dim gobaith y cawnaddoliad heddyw ? Nac oes ddim. Gan hyny, penderfynais ymneillduo i ryw gon0-! i ddarllen fy Nliestament bach, y' pethau am yr lesu.' 2iiain. Trodd hwn etto yn ddydd tywyll a niwliog. A phc" ryfedd ? Granol y nos, safodd y llong, a. darfu i rai dciychrynu ei bod yn myned i soddi; ond mae yn debyg mai canfod llong arall trwy y niwl a ddarfu beri i'r swycldogion attal ei I: mynediad. 26ain. Dydd niwliog iawn, ac yn clirio peth y prydnhawn. Y Pilot yn dyfod i'r bwrdd tua 3 o'r gloch, er llawenydd cyrfredino!. Bu gyda ni trwy y gloch, er llawenydd cvih-edii,oi. Bu gyda ni trwy y nos. Pawb yn fwy tawel i oTSo-u, gan fod y Pilot ■* v Oti "O ? O v ar y bwrdd. Mai 27ain. Tartli tew ar yr afon fely methwyd myned a'r llong iddi hyd 11 o'r gloch. Felly buwyd trwy y gweddill o'r dydd yn dadlwytho. Tua'han- nor dydd, daeth amryw o swyddogion New York i'r bwrdd, er ecirych y boxes; ac wedi eclTych yohydig-, rhoadasant i i'ynu eu hagor. Ond er eu bod wecli I. gollwng cannoedd heb cu hedrych cyn dyfod at fy moxes i, etto gorfu ax-naf agor un, er fy mod yn gwneyd fy ngordu i'w hargyhoeddi nad oedd dim i ond hen lyfrau ynddo. Yr oedd yn drwm iawn, ac wedi ei hoelio yn rhy dfalus. Ond er eu siomedig- aeth, ni chawsant ddim ynddo ond a oedd gyfreith- Ion. Yr oedd golygfa ar ddinas New York oddiar yr afon yn swynol iawn, fel y dywedai rhai eu bod wedi cael digon o dal am ddod oddicartref.. Gobeithio na welaf yn fy mywyd y fath ddydd a'r dydd hwn. O! y fath dyngu a rhegu! Aethom i fewn i'r dref tua ,phump o'r gloch. Llettyasom mewn ty parchus, a chychwynasom am bump o'r gloch dranoeth tuag Ebensburgh. Cyn symmud yn mlaen, goddefer i mi wneyd sylw neu ddau gyda golwg ar ein llohg. Un ardderchog ydyw. Y mae yn fawr iawn-o gylch 150 o latheni o hyd, a thua deg o led, yn hynod p steady. Ac am ei Swyddogion, yr oeddym yn eu mawr hoffi, yn ddyn- ion gwir ofalus, a siriol, a chyfeillgar; ac er fod ar ei bwrdd o 14 i 15 cant, ni bu neb farw ar y fordaith, pa dim ond rhyw un anghydfod, a hwnw rhwng Gwyddel a Germaniad, pan y darfu i'r olaf frathu y .Gwyddel yn ei forddwyd pan yn ei wely. Nis gwn beth a gafodd o gosp yn New York. Yr oedd y gair fod tri neu bedwar o blant wedi eu geni ar y for- daith. Peth arall y teimlais yn fawr o'i herwydd oedd fy niffyg o fedru yr iaith Saesneg. Boneddigon o Loegr a Scotland yn nesu ataf, fel pe buasent am fy ngwneyd yn fwy dedwydd a gwybodus, ond ni fed- rwn siarad gair a hwy. Fy hen gymmydogion yn Llanbrynmair, a fyddwch chwi gystal a gwneyd un cynghor o'm heiddo. Gwnewch yn fawr o'chysgol- feistr, a chefnogwch ef yn mhpb peth a fydd yn fan- teisiol er gwneyd yr ysgol yn well, megis llyfrau, mapiau, &c.; ac na adewch i'ch plant fod un hanner diwrnod gartref os gallant fyned i'r ysgol. Yr oeddwn yn falch yn wir fod Ann fach wedi gwneyd cjysted defnydd o'i hysgol, ac hefyd o'i meistr am ei lafur yn ei dysgu. Mai 28ain. Wedi gadael New York tua phump, teithiasom drwy y nos, a daethom drwy leoedd hyf- ryd yn state New York cyn i'r nos ymgau arnom. Orid daethom ar hyd lleoedd hynod wael yn state Philadelphia. Erbyn goleuni y boreu, daethom i Altoona, lie 0 ddeutu 22 milldir i Ebensburgh. Bu- oin yno dair awr yn disgwyl y gerbydres i fyned a ni i ben ein taith. Cyrhaeddasom Ebensburgh erbyn hanner dydd y 29ain o Fai, yn bur llesg ac isel ein meddwl. Ond argyhoeddwyd ni yn fuan ein bod wedi dyfod i fysg pobl hynod garedig. Yr oeddynt yn y dref a'r wlad fel un gwr yn codi i'n croesawu. Ond y peth a'm synodd fwyaf oedd, pan aethom gyntaf i'r dref, cef- ais fy hysbysu fod gan y brodyr parchus y Trefnydd- ion Calfinaidd gymmanfa yn y dref y 30ain a'r 3lain o'r mis; ac felly cefais yn ystod y ddau ddydd uchod a'r nos Lun canlynol 14 o bregethau rhagorol, fel yr oeddwn yn teimlo awydd ifoliannu yr Arglwydd am ddarparu felly ar ein cyfer, a theimlwn fwy o anwyl- deb nag erioed at y brodyr parchus y cefais y fraint o'u clywed. Wedi bod cyhyd heb ddim moddion, teimlwn yr un fath ag y bydd ambell un yn teimlo eisieu ymborth naturiol wedi bod yn hir iawn heb ddim, ac yn barod i ddyweyd, Ni chlywais y bwyd erioed gystal. Felly finnau, yr oeddwn yn barod i ddyweyd na chlywais erioed well bias ar bethau yr efengyl ag a glywais yn Ebensburgh. O'r Ar- glwydd y daeth hyn, a rhyfedd yw yn ein golwg ni.' js E. P. 'I; 1'<1.
LLYTHYRAU CYMRAES YN NGHANAAN.
LLYTHYRAU CYMRAES YN NGHANAAN. LLYTHYR V. JERUSALEM, Hydref 3, 1865. Fy Anwyl Rieni,—Y mae yn hawddach i chwi ddychymygu nag ydyw i mi ddarlunio y llawenydd y mae golwg ar lythyr yn rhoddi drwy bob nerve yn fy nghyfansoddiad, yn enwedig y rhai agosaf at fy nghalon. Cyn y byddaf wedi ei ddar llen hanner dwsin o weithiau, (yr hyn wyf yn, ei wneud o leiaf y diwrnod cyntaf) y mae yn fy adnewyddu gorph ae enaid, wrth ddarllen am yr hen gapel a'r cyfar- fodydd, a'r hen weinidogion parchedig sydd yn cyn- nal y cyfarfodydd hyn, a phawb a phob peth yn yr hen wlad, yr hon yn nghyd a'i thrigolion sydd yn wir anwyl genyf Yr wyf yn angbyffredin o ddiolch- gar i chwi am y llythyr diweddaf a anfonasoch, o herwydd y darluniau* oedd ynddo; ac yn ol fy marn i, dyna'r darluniau goreu a welais i eriped. Cofi wch fi yn garedig at Mr Lettsome, y photographic,. artist, am eu gwneud mor dda. Y mae fy nain yn ym- ddangos i mi fel pe bai ganddi ryw lawer o sccrets i ddyweyd wrthyf, pe gallai ond agor ei safn i'r pwr- pas hwnw; ond os yw hi yn fud',yu Jerusalem, gobeithio na bydd hi felly mewn gwii-ionedd, os gwel Rhagluniaeth yn dda, pan y cyfarfyddwn a'n gilydd eto yn yr hen wlad. Cofiwch fi yn garedig ati, a dywedwch wrthi mai dyma yr amser y gwran- daiwaf fi y cwbl. Yr oedd yn bur dda genyf weled darlun fy mrawd bach; y mae ef yu bar debyg i Catherine fy chwaer. Yr oedd yn bur ddrwg genyf weled yn eich llythyr fod gwialen ein Tad Nefol wedi ei 'harferyd mor drom ar fy mam drwy ei chlafychu, 'ond y rhai y mae yr Arglwydd yn eu caru, y rhai hyny hefyd y mae ef yn geryddu,' fel ein cymhwyser i etifeddu y deyrnas hono a barotowyd i ni er cyn seiliad y byd, ac O! mor fawr yw ein braint. Y mae yn dda genyf fod y Parch W. Roberts wedi derbyn y rhodd fechan, sef y blodau, a anfonais iddo ef i ac hefyd ei fod wedi ei foddloni. Dymunwn i chwi fy nghofio yn garedig ato ef. Dydd Llun diweddaf, cefais yr un faint ag a gaf- odd Mair Magdalen, a Mair, mam lago, pan y dywedwyd wrthynt, I Deu-,Nch, gwelwch y man lie gorweddodd yr Arglwydd.' O! mor annheilwng yr ydwyf yn teimlo fy hun i feddwl fy mod yn fecldianol o'r un fraint a'r gwragedd duwiol hyny. Y mae eglwys wedi ei hadeiladu er's rhyw gannoedd o flynyddau yn ol dros y bedd, ac yr ydwyf wedi dyfod i ddeall yn ddiweddar fod pedair plaid neu sect o grefyddwyr yn adcloli yndcli; felly y mae yr eglwys wecli ei rhanu yn bedair rhan o dan un to, ac nid oes ond pont, a hono yn bedair neu bump o latheni o drwch, rhwng y rhanau a'u gilyclcl. Y mae y rhan oreu, a'r mwyaf costfawr, yn perthyn i'r Rwssiaid. Y mae front yr oriel, yr hon sydd o saith i wyth o latheni o'i thop i waered, sef y wyneb yn unig, a'i defnydd o haiarn neu brcs, yr hwn sydd wedi ei gilclio ag aur, a phob man wedi ei addurno yn y model mwyaf cywrain; ae uwchben canol yr oriel, fel pe baech yn meddwl am le y cloc, y mae llun Crist a'i ddysgyblion, wedi ei wneud o'r un ddefnydd a front y Yn union o dan y rhai hy^y y mae drws yn arwain i'r cysegr nesaf i mewn, lie yr oedd yr offeiriaid a'r archoffeiriad, a'r hen batriarchiaid, &c., a swp g-o lew o honynt, pan ddi- gwyddais i fyned i mewn, a chodwyd y lien oedd yn lie drws i wahanu. rhyngom ni a hwythau, yn yr hon adeg y gwnes fy ngoreu i edrych i mewn i'r lie cysegTeclig- hwnw; ond yr oedcl yr allor, yr hon oedd wedi ei gorlwytho a Ilestri aur ac arian, &c., ar y rhai yr I:> oedd goleuni ugeiniau o ganwyllau yn 'pelydru, yn nghyda phethau eraill yn y cysegr hwn, n-.ot ardderelio, fel nas ceis-iaf eu darlunio i chwi, 0 herwydd fy mod yn gwybod nas gallaf. Ni chef- ais amser i eclryeh ryw lawer cyn y daeth trwy dclrws, y lien yma ddau fachgen, 0 12 i 14 oed, yn cario canwyllau o ddeutu llathen o hyd, ac o bedair i bum moclfedd o led, bob un yn ei cldeheulaw, lies daethant i waelod tail' o risiau, pan y gosodasant y canwyllau fel ffyn ar y llawr, ond gafaol yn agos i'r top' rhag iddynt syrthio.. Wedi hyny daeth yr arch- offeiriad, neu y. Patriarch, fel y galwasant ef,. a saf- odd ar ben y grisiau. Yn ei law yr oedd ugain o gadwynau aur, wrth y rhai yr oecld cwpan o'r un ddefnydd yn grogedig, a'r ho'n a ysgydwai y Patri- arch uwchben y gynnulleidfa. Ei wisg oedd o ysgar- laa wedi ei weithio ago edau aur, a choron o aur ac arian ar ei ben. Yr oedd ei wallt yn wyn, a'i farf yn cyrhaedd gryn fiordd i lawr ei frest. Yr oeddwn yn ei gyffelybu. i Aaron yr hen ddyddiau gynt, ond nad oedd gan yr archoffeiriaicl y dvddiau presenol mo'r clclwyironeg y sonir am dani yu yr hen desta- ment. Wedi i'r gwr mawr gyflawni ei ddyledswydd yi1 y man hyn, ciliodd i mewn i'r cysegr, allan o'r hwn, yn mhen mynud wedi hyny, y daeth rhes o offeiriaid. Gan y cyntaf, yr oedd basin, tebyg i'r fawlen siwgr sydd genych chwi, ond fod hon yn ddwbl-hyny yW, y mae ei chylch yn fychan yn y canol, ac yn dyfod yn llydan yn y gwaelod, a'i defnydd hi oedd o aur, ac ar ei ben y cariai yr offeir- iad hi, gan ei hamddiffyn ag un Haw. Yr oedd yr ail yn cario math o gist yn ei ddwylaw, maint yr hwn oedd yn agos i droedfedd o hyd, a thri chwarter hyny o led, defnydd yr hon oedd arian wedi ei addurno ag aur. Cariai y trydydd lestr o'r un defnydd ond llai na'r ail, ac felly hyd y diweddaf, yr hwn oedd y bedwaredd ar bymtheg. Ar eu hym- ddangosiad cyntaf tuallan i ddrws y cysegr, rhanodd y gynnulleidfa o ganol yr. eglwys, a chiliasant i'r ochrau. Wedi hyny gwelais yn nghanol yr eglwys rywbeth tebyg i'r fa sin fedyddio sydd yn Eglwys Lloegr. Daeth yr offeiriaid i lawr un ochr i'r eglwys, ac o amgylch y gawg garreg, ac i fynu yr ochr arall I fewn i'r cysegr yn ol, wedi eu bendithio ar y ffordd gan yr hen Batriarch a'r cwpan, yr hwn yn absenoldeb ei is-frodyr a ddaeth ac a safodd ar y grisiau i aros en mynediad i mewn. Bu agos i mi anghofio dyweyd wrthych fod y gwragedd, pan ddaeth yr offeiriaid i ganol yr eglwys, wedi dyfod o'r ochrau a gosod en hunain yn rhes o amgylch y fasin fedyddio mor agos ag y medrent ddyfod, i'r dyben o gusanu gwisgoedd y parchedigion, yn nghyda'r llestri cysegredig a garent; ac wedi idd- ynt basio, aeth y gwragedd i gyd ar eu gliniau i gusanu ol traed yr offeiriaid. Yr oedd y gwyr hyn wedi gwisgo yn debyg i'r archoffeiriad, ond nad oedd ganddynt ddim ond gwallt ar eu penau, a hwnw yn cyrhaedd i hanner. eu cefnau, ac wedi ei ranu yn y canol fel gwallt merch. Wedi gweled yr holl ddefodau hyn, gofynais i'm harweinydd a oedd bedd yr lesu yn y cysegr y son- iais am dano, gan ofni, wrth fod y lie mor santaidd, na chawn ei weled; ond er fy llawenydd, dywedodd fod y bedd oddeutu tair Uath o'r tu ol i'r man lie yr oeddwn yn sefyll, ac fod trwydded i ni fyned i'w weled pan y mynwn a gallwch feddwl na chollais i ddim amser cyn myned er boddloni yr hiraeth mawr oedd arnaf am ei weled. Y mae math o fuarth tu allan i'r ystafell lie mae y bedd, yr hwn sydd yn llawn o bobl yn tynu a rhoi eu hesgidiau am ac oddiar eu traed, oblegid eu bod yn ystyried fod myned a'u hesgidiau i mewn at y bedd yn halogi y lie. Y mae yr ystafell oddeutu dwy lath a hanner o hyd a dwy o led, ac ar y de, o dan goffr o farmor (marble), y dywedir y gorwedd- odd yr Arglwydd. Ymae yn crogi nwchben y bedd bob math o bethau gwerthfawr, wedi eu rhoddi yno gan deithwyr a phererinion a ymwelant a'r lie. Y mae y room wedi ei goleuo a dwsiniau o ganwyllau o bob maint a lliw. Nid ydwyf yn meddwl fod cymmaint a modfedd ar y coffr na'r llawr nad ydyw wedi ei gusanu filiwnau o weithiau, oblegid nid oes braidd neb yn myned i mewn nad ydynt yn cusanu pob un o'r ddau. Wedi hyny arweiniwyd fi i'r man lie dodwyd yr lesu wedi ei dynu i lawr oddiar y groes. Y mae y fan hono wedi ei oleuo a lanterni o wahanol liwiau. Nid oes ystafell yno, ondmarble yn dair llath o hyd wrth tri chwarter o led, a phost wrth bob pen, ac oddiwrth y naill at y llall y mae weifren wedi ei gosod rhyw lathen yn uwch na'r marble, ar yr hon y mae lanterni. Wedi hyny aethom i Galfaria, lie y crpeshoeliad. Y mae ei arlun ar y groes yn bresenol. Nid oes genyf ddim neillduol i'w ddarlunio yn y man hyn, ond ei fod mewn math o ystafell, top yr hon a gynhelir gan bedair o golofnau, y rhai sydd wedi eu gosod yn rhes o flaen yr allor sydd yn gwynebu y groes, 0 fy anwyl rieni, yr oeddwn yn teimlo fy aelodau yn dinerthu wrth feddwl fy mod yn sefyll yn y man lie bu ein Ceidwad bendigedig pan ei har- weiniwyd fel oen i'r lladdfa, a'i hoelio ar groes- bren, Ile y dyoddefodd y poeri a't gwatwor, ac yr aberthodd ei fywyd gwerthfawr er prynu eneidiau pechaduriaid annheilwng fel nyni, a gocldef y gwarth ar y groes er mwyn i ni gael y goron. 0, dyma gariad! Pwy a'i traetha P Anchwiliadwy ydyw ef. Dyma gariad nad ellir byth treiddio i'w ddyfnderoedd ef. Er fy mod yn teimlo rhyw barch- edig ofn wrth droedio ar le mor santaidd, eto yr oeddwn yn dymuno byw ae aros yno, fel y gallwn barhau i fyfyrio ar ddyoddefiadau ein Harglwydd, heb halogi fy meddwl gyda gwag bethau y byd hwn. Ond gweddiweh drosof, fel ym galluogir fi i gadwy myfyrdod hwnw trwy rwystrau. Wedi myned oddiwrth y groes, arwoixnwyd fi i'r man lie y fflangellwyd ef. Mae y man hono wedi ei hesgeuluso i raddau mawr. Nid oes yno allor na chanwyllau, na dim o'r fath beth, ond rhyw ddelw, yr hon sydd yn ymddangos fel pe bai gwynt a gwlaw, heb son am lwch oesoedd, wedi gwneud eu goreu i'w hanffurfio. Y mae yn debyg ei fod wedi ei wneud i arddangos Crist ryw dro, ond y mae yn bur annheil- wng o'r enw yn bresenol. Wedi hyny aethum i lawr 25 o risiaui ryw fath o seler, oi-id mai yr awyr las yw ei hunig do, lie y meddyliais fod fy arwein- ydd wedi fy nghymmeryd i ddim ond gweled plant yn chwareu marbles, oblegid dyna yr oil a welais am gryn amser; ond wedi myned dipyn o ffordd, dang- oswyd i mi rywbeth tebyg i fedd, lie y claddwyd y gTOesbren wedi croeshoelio Crist, ond lie ei dadgudd- iwyd ugeiniau bsnad cannoedd o flynyddoedd wedi hyny. Ar gyfer bedd y groesbren y mae hen ddrws —hen iawn hefyd; o leiaf felly y mae ei wyneb yn dyweyd. Trwy yr hen ddrws hwn y mae hen graig ac agen neu gree yndcli, yr hon, yn ol tyst- iolaeth preswylwyr Jerusalem, sydd un o'r creig- ial hyny a holltwyd ar ddydd marwolaeth yr Arg- lwydd. Nid ydyw pawb yn credu hyn; ond gallaf fi wneuthur fel y mynwyf a'r pwnc, ae felly gallwch chwi. Y mae rhai o'r anghredinwyr yn dyweyd mai dynwaredol (artificial) yw hi; fe allai hyny fod,-wni ddim yn wir. Wel; y mae yn amser ter- fynu yn awr ar y pwnc yma, ac oni bai ei fod yn destyn ag yr wyf yn gwybod eich bod oil yn caru clywed am dano, buaswl1 yn rhoddi llawer llai yn ei gylch; ond gobeithio na flinwoh yn ei ddarllen, os byddweh yn alluog i'w ddeall. Er pan ysgrifenais atoch ddiweddaf, yr ydwyf wedi bod yn gweled beddau brenhinoedd Israel. Y maeiit hanner milldir tu allan i furiau Jerusalem, wrth waelod un o fynyddoedd Judea, ac mewn craig pur debyg i'r hon sydd o flaen y tai newydd yn yr Open Cast yn nhop y Ponkey yn Rhos yna, ond ei bod yn fwy amlwg na hon. Wedi myned dipyn o ffordd oddiar dop y tir i lawr ryw hen risiau, y rhai, yn ol fy marn i, sydd yno er declireuad y byd, gorfu amaf blygu agos yn ddwbl i fyned dan yr hen bont sydd yn ochr y graig. Oddeutu ugain llath yn mhellach y mae genau yr ogof, o flaen yr hon y mae math o berth, ac uwch ei ben y tu allan y mae hen gerfiadau, ond fod henaint, a'i gyfeillion, sef y gwynt a'r gwlaw, wedi en gwisgo i ffwrdd, a'r hyn sydd yn adawedig o'r hen gerfiadau yw swp o rawn- win. Y mae y lleiil yn debyg i dair pluen hir, ae y mae yiio bethau eraill nas gallaf eu desgrifio i chwi. Y mae lie drws yr ogof, yr hwn sydd o fewn y porth, wedi hanner ei gau i fynu gan faw a cherrig wedi caledu yn eu gilydd, felly cawsom lawer mwy o dra- fferth i fyned drwy hwn na thrwy y porth yn ochr y graig; ond wedi codi fy mhen ar ol ymlusgo drwy enau yr ogof, cefais fy hun mewn ystafell ysgwar, yr hon oedd o bump i chwech llath o'i gwaelod i fynu, a chyinmaint a hyny bob ffordd. O'i chwmpas yr oecld meinciau cerrig, ac yr oedd tyllau wedi eu gwneud yn llun drysau, y rhai oeddynt yn arwain i ystafelloedd bychain eraill, yn mha rai yr oecld cyrph wedi eu gosod o clan garreg ar ganol y llawr, yr hon, pe buaswn yn myned i mewn, y buasai yn rhaid ei sathru. Yr oedcl llawr pridd i ganol ylleill, ac wedi myned i fynu ar y fainc garreg, a thrwy y drws oedd yn arwain i'r llawr pricld, gwelais fath o goffrau bob ochr, a dim ond hanner llath 0 le i gercidecl rhyngdclyiit. U^chbeu y coflxau yr oedd lie i ganwyll wedi ei wneud yn y mur, a phan ofyn- ais beth oedd eu dyben, yr ateb oeddfod yr Iuddew- on yn myned yno yn y nos i gysgu ar y beddau. Y mae yr ogof yn myned ugeiniau o latheni dan y ddaear, ond nid aethum ond i dair neu bedair o ys- tafelloedd mawrion; er hyny, gwelais ugeiniau o feddau, wrth fod cymmaint o honynt yn rhes ar y meinciau cerrig. Wel, yr ydwyf yn gweled fod yn rhaid terfynu, gyda fy nghofion caredicaf at' fy holl gyfeillion a'm; perthynasau, gan obeithio eu bod oil yn iach, fel yr wyf finau. Hyn, yn anmherffaith, oddiwrth eich merch, M. J. f' )}"
DIRWESTWYR A'R ETHOLIADAU.
DIRWESTWYR A'R ETHOLIADAU. At y Parch. J. Thomas, Liverpool. Anwyl Frawd,—Nid yw eich llythyr yn y TYST j heddyw yn galw ond am ychydig sylwadau eglur- haol pellach oddiwrthyf. Yr ydych yn addef y geill ymgeisydd fod dros cldadwaddoliad yr Eglwys Wyddelig heb fod dros g-ydraddoldeb crefyddol, ac yn awgrymu y geill un fod dros i'r fasnach feddwol ddarfod o ddiffyg cefnogwyr, er na byddo bleidiol i'r Permissive Bill. Yr wyf yn cydweled a chwi yn hollol yn hyn. Yr wyf hefyd yn ystyried mai dir- westwyr yw asgwrn cefn y mudiad ataliol, ac wedi teimlo yn anfoddus i ddarllen areithiau rhai o hen bleidwyr dirwest yn esgusodi eu hunain rhag pleidio y mudiad dirwestol yn egniol, oherwydd y gwna y Permissive Bill y gwaith. Y mae Uwyddiant y gyfraith wedi ei phasio yn gystal a'i gwneuthuriad yn ymddibynu ar gadwraeth i fynu deimlad goleu- edig yn erbyn y fasnach yn nghalon y cyhoedd, yn enwedig Trethdalwyr. Yr un fath nid wyf yn gweled un sail i ni fel Ymneillduwyr bleidio dad- waddoliad yr Eglwys Wyddelig ond gwirfoddiaeth grefyddol. Addefweh nad oes mwy o debygolrwydd i gwestiwn cydraddoldeb crefyddol ynddo ei hun ddyfod gerbron y Senedd na chwestiwn y Permissive Bill, am eu bod y naill fel y llall yn anaddfedu. Ond daw mesurau yn arwain at y naill a'r llall. Y mae y fasnach feddwol mewn sefyllfa mor gyffred- inol anfoddhaus, fel y mae yn sicr o ddyfod ger bron, a phan soniaf am ddyn dros y fasnach feddwol golygaf ddynnidyn unig croes i'r Permissive Bill ond dyn fel Mr Roebuck yn erbyn pob cyfyngiad ar weithrediadau y fasnach. Dyna reswm y frawddeg yn fy llythyr diweddaf a gyfrifech dipyn yn annheg. Nid wyf yn credu yn uniondeb iia doethineb y policy o gadw o'r golwg ar yr adeg bresenol y pen draw yn ein golwg, sef perffaith gydraddoldeb crefyddol. Credwyf fod y Parch. W. Rees yn llygad ei le yn ei lythyrau at Mr Gladstone, a'u bod nid yn unig yn alluog ond hefyd yn amserol. Derbyniaf gyda phleser a diolchgarweh bob instalments a gyfyngo ar ryddid y fasnach feddwol, neu a helaetho ryddid crefyddol, ond parhaf yn y naill gwestiwn a'r llall i ofyn a hawlio yr holl ddyled. Derbyniaf help a chydweithredaf a phersonau er Cael y eyfryw instal- ments er na byddaf yn aros lie yr arosant hwy-a galwaf y cyfryw undeb yn un damweiniol yn hyt- rach nag egwyddorol. Yr wyf yn meddwl mai fel hyn y sicrhawn fwyaf ac y cadwn ef ar ol ei gael. Yr wyf yn awyddus i wrthwynebwyr y fasnach feddwol weithredu yn annibynol ar bleidiau gwlad- yddol, fel moddion i beri i wladweinwyr astudio eu pwnc nea y daw yntau yn ei dro yn destyn plaid. Dywedaf hyn heb roddi 'sen' i'r naill blaid na'r llall. Y mae llywodraeth trwy bleidiau yn fath o ddrwg angenrheidiol yn ein gwlad;' ond y mae yn mhob plaid ddynion cydwybodol yn ofni Duw ac yn amcanu at les y wlad. Deallwn ein gilydd. Dealla ein darllenwyr, ond hwyrach yr arosem ar safteoedd gwahanol, ond y peth y daethom ato cerddwn wrth yr un rheol.' Yr eiddoch yn barchus, Hebron, Mehefin 26, 18.68. SIMON EVANS. Ni waeth i Mr Evans a miimau derfynu ein hym- gomyn y fan yma. Nid amser i daeru ydyw, ond amser i weithio. Gwnaeq Mr Evans ei oreu i ddy- chwelyd i'r Senedd newydd aelodau ffafriol i gyn- hygiad Mr Gladstone; ac os byddant dros y Per- missive Bill hefyd goreu oil. Yr wyfyn barod i fyned law yn llaw a fy nghyfaill i gael y fasnach feddwol d'r ffordd ar ol hyn ond er mwyn pob peth gadewch i ni gael yr Eglwys Wyddelig o'r ffordd. Llwyddiant mawr i Mr Evans i wasanaethu ei o-en- hedlaeth yn mhob peth da, gyda chofion cywir ato. Liverpool. J. THOMAS.
'""NEW TREDEGAR. --"
NEW TREDEGAR. Mrio GoL—Ymddangosodd ychydig linellau yn eich TYST ffyddlawn yr wythnos ddiweddaf, yn cael ei alw yn rhywbeth ysmala (nid wyf yn cofio y penawd yn hollol, am fy mod wedi gwerthu pob TYST a ddaeth ger fy mron yr wythnos grybwylled- ig.) Yn awr, foneddigiqn, e1' mwyn- gwneuthur y peth yn fwy ysmala' fyth, mae y creaduriaid dau- droediog yi-i y lie hwn yn'awgrymu niai myli a an- fonodd y llinellau hyny i'r TYST, dan y ffuffenw. • Talyfan; ac yn awr, foneddigion, fel y gwyddoch, mai cligon yw i bob.dyn ei ddrwg ei hun. Y mae yn ofnaclwy fod yn rhaicl i ryw greadur teneu, hyll, a barfog fel myfi gario pechodaii. (os poehodau hefyd) y gwr o I Hawyr anwyl! Y mae genyf fi lawn ddigon o waith mewn llaw yn barod, heb fyned i chwilio ae edrych pwy a plievi-i yw'r achos fod car- iaclon ac ereill yn brwydro. Nis gwn a ydyw yr hyn a hysbyswyd i, I Talyfan gan y merry moodmcn hyny ynÎawn ai nad yw, rhwng Talyfan a'i gyfeillion (dieithriaid ?) a hyny; ond hyn. a wn i, na fuaswn i byth yn gweled y fath ysmaldod' yn we t-th ei ys- grifenu a hoelen bren er mwyn ei anfon i'r TYST nac un newyddiadur arall. Ac yn awr, foneddigion, hyderaf y gorphenwch chwi y 'ceffyl' hwn trwy osod ychydig gwt wrtho yn eich TYST nesaf, er dangos fy niniweidrwydd i yn y peth hwn. Ydwyf yr hyn ydwyf, Yr eidcloeh, lOAN DIDEWB. Post Office, New Tredegar. [Y mae loan Ddeivr yn rhydd. Ymddangosai y peth i iixnnau braiclcl yn rhy ddiwerth i dalu ceiniog am ei gludo yma.—GOL.]
'Y LLYFR TOlTAIJ AC EMYNAIJ.'
'Y LLYFR TOlTAIJ AC EMYNAIJ.' At y Parch B. Stephen, a J. D. Jones, Ysw. Foneddigion,.—Mae miloedd yn teimlo yn ddiolch- gar i chwi am eich llyfr rhagorol. Yn sicr mae yn anrhydedd i chwi, ac i'r argraphwyr. Hyderaf y ca dderbyniad cyffredinol gan bob enwad. Fy am- can wrth anfon gair atoch trwy y TYST CYMKEXG yw eich argymell i ddwyn allan argraphiad o'ch llyfr gwerthfawr yn y Tonic Sol-Fa Notation. Bydd hyn yn ei osod ar unwaith o hyd cyraedd miloedd na wnant ddim a'r riodiant presenol. Nid gwiw sefyfl bellach yn erbyn y llif ag sydd yn ymgryfhau boV dydd. Ni fyddai hyny yn eich rhwymo chwi mewn un modd i gymmeradwyo y system newydd o fiaen yr hen, ac ni fyddai raid i neb dderbyn y nodiani newydd, ond y sawl ag a fyddai yn dewis. Gwn y gwerthech lawer mwy yn y nodiant newydd nag yn yr hen. Dymunaf eich llwyddiant yn eich antur- iaeth ganmoladwy, ac hyderaf na chewch eich siomi ..9 yn eich disgwyliadau. Ydwyf, Foneddigion, .< Yr eiddoch yn serchog, Machen, Meh. 26, 1868. T. L. JONES. Mri. Gol.,—Yr oedd y TYST y tro diweddaf y gwelais ef yn dyweyd eich bod am gael bardd, galluog i adolygu y f arddoniaeth—i nithio y cyf an-' soddiadau barddonol fydd yn cael eu hanfon i'r TYST. Eithaf peth yn wir; gobeithio y bydd hyny- yn lies i'r beirdd ieuainc. Ond er mwyn yr anwyl, dymunaf arno beidio nithio ar dywydd gwyntog iawn, onite saif dim ond y grawn goreu i gyd. Fe ddylid cadw y man-ycl hefyd. Fe fydd ,y man-yd yn damaid i rhywbeth. Cofiwch mai cyfansoddiad- au y beirdd ieuainc yr wyf yn olygu wrth y man- y<J. Cofiwch finau hefyd os byddaf yn anfon yehydi- o fy ngwaith i'r TYST. Yr wyf yn fwy hoff o'r TYST nag un newyddiadur arall wn i am dano, oblegid arJ ei dudalenau ef yr argraphwyd ychydig o fy egwan waith gyntaf erioed. Ni wiw i chwi ddisgwyl cael grawn da a phur oddiar welltyn gwan fel myfi, a gobeithio y -wnaiff I Gol3,-ydd y Farddoniaeth' gydymdeimlo a mi, a rhai cyffelyb i mi. Byddaf' yn ddiolchgar i chwi hefyd os treiweh wneud lie i'r! .tri Englyn a anfonais i chwi yn y TYST nesaf. Yr eiddoch yn ostyngedig, Llangefni. R. EVANS (lEUAN MON). (,'
CYMMERIADAU.
CYMMERIADAU. PEN. VII.—Y DYN ARWYNEBOL. Mri. Gol.,—Yr wyf er ys wythROsau Lel.acli. wedi methu cael amser i ysgrifenu fy mhenod i'r TYST. Pw! onid ydych chwi yn gwybod hyny, heb i mi, ddyweyd; ond dyma both na wyddoch Cliwi-byddaf, rywsut yn methu a gweled y TYST yn llawn hebfy, mhenod fach i ynddo; Y digrifweh mwyaf a gefais < er ys talwm oedd darllen beirniadaeth rhyw Graffwr, ac yr oedd yn dda ddigon o-enyf, a dyweyd y gwir, weled Nid duw cwsg' (diolch am y duwiau yma, ac am nad ydynt yn cysgu) wedi ei rhoddi hi yn iawn i Craffwr, (hwyrach mai duw arall yw hwnw, ond ei fod yn hoff o gysgu, feddyliwn, yn enwedig wrth'3 ddarllen y TYST). Y mae eisieu i rywun gymeryd y beirniaid yma mewn llaw er ys blynyddau, i dynu ychydig o'r gwynt a'r anffaeledigrwydd yma o honynt. Wel, gobeithio y gwna ffynhonau Llan- wrtyd fendio ei olygon, ac yr a, wedi hyny, (canys gwel fod eisiau) i Langammarch a Llandrindod, i fendio ei deimlad. Pw! pw! I ba le yr aethum? Y picngc yw y peth i mi. Wel, yntau, 'Y dyn arwyn- ebol' (The shallow man). Y mae Uawer iawn o bethau i'w dywedyd, ond anhawdd eu traethu am y cymmeriad, (cymmeriad na fyddai y byd fawr gwaeth pe bae pob un sydd yn ei wisgo wedi myned o hono,) hwn eto. Er i miwneyq pob ymchwiliad ag oedd yn ddichonadwy, a holi llawer iawn, ar yr holl antiquarians yma, a'r antedulivians wedi hyny, yr wyf wedi methu a chael gwybod gan bwy, yn' mha oes, yn mha wlad, a than ba amgylehiada' ,Y'l defnyddiwyd y term hwn gyntaf. Y mae yn debygol iawn i mi mai y doethwr welpdd y dyn arwyn- ebolwnaeth ei ymddangosiad cyntaf erioe,d,yn ybyd.C;¡ Yr oedd gan y doethwr hwnw, pwy bynag ydoedd,' lygad i ganfod a synwyr i roi enw priodol iawn ar y panorama hwn, pan yr ymddangosodd o'i fiaen. A. y wyneb bob amser y mae y dyn hwn yn ymddangos oreu. Y mae yn union fel pot tlactli,-haeno hufen ar y wyneb, ond glas-laeth truenus o dcneu odditano. Y mae rhai yn. medru scimo (dihufenu) dynion, a byddai yn dda iawn genyf fi; canys byddai hyny yn ddiau yn Iles mawr i'r byd, pe byddai rhyw rai. fel awdwr galluog pennod y 'glas-dwr hwnw gynt, yn ymgymeryd a'r gwaith. Dyna benod i scimo yr arwynèbol oedd hono! Y mae 61 eigoruchwyliaeth ar lawer hyd y dydd hwn. Y mae yr ymddangosiad bob amser yn go wych, ond y mae mor amddifad 0 sylweddolrwydd ag- ydyw chwedlau breuddwydiol yx.: Arabian Nights. Gadewch i.ni weled.—Edrychwch,< dacw fo! Y mae yn gwneyd ei fiordd i'r esgvnlawr,i' bid siwr, yn, cerdded yn or-syth ac ysgafn;" y mae rhyw importance^ anghyffredin yn'ei olwg, acyn.ei^ osgo. Y iriae ei wisg o'r coryn i flaen y troecf, boW-. ipaua phob peth yr un ffasiwn cut a lliwiau, '■& Phrif WeinidogPrydain Fawr. Pwy, oh! oh1 Pwy ydyw? Teiliwr y pentref gwledig yna, a'r oil sydd ganddo amdano yr oll sydd ganddo a ddywedais? Pa fodd y gwnaethum y fath orfawr gamsynied? Eiddo y draper ydynt, canys y mae efe lw:irolle fach anwyl'i,' ys dywed pobl Sir Benfro, Iteb dalu am danynt. Cofied y darllenycld nad ydyw Yi, hen deiliior' yn perthyn o'r nawfed ach. i'r 'rhywTQgaeth. hon o deilwriaid.' Edrychwch etc,, dacw fo, cyxuei. arno dclysgu y bobl,-y mae wedi darparu wrth gwrs,—y"mae yn,sefyll i fyny ac yn cyfranu syl' wedd o ddysg a gwybodaeth; nac ydyw yn wir, ond y mae ar ei oreu yn eaparUdchio hen chwedlau, (eU haner yn gelwyddau noethion, a'r hsner arall yW bur amheus), a wits gwirionfipl i ddifyru nid i leson 1 eynnulleidfa llawn mor Cl>cth yiua\ ag,.yntau. Ax 'ddiwedd y concern y tfiae pa^b' yii 'k^ylio gartref, a phob un yn codi ei saclx layxn ar ei gefn, ac nid oeS eisieu help llaw, chwi gofiwch,ar neb i wneuthitf,' phob un yn codi ei saclx layxn ar ei gefn, ac nid oeS eisieu help llaw, chwi gofiwch,ar neb i iviiciith-Lir, hyny, canys us yw y cwbl sydd yncldo. Difyru 4, ¡ chael difyrweh yw yr holl femcan. «Mi: glywaiSfi adrodd' neu 'Mi ddarllenais meSyn rJifni- 'A//)-?_byth j yn cael ei enwd, yw yr.adnodaii sydd mater. Chwedlau a draethir, a chwedlau a gofi a chwedlau a ganmolir,—camnoedd o chwedlau -heW iieiiiaivr ddim sylwedcl, n'r cwbl oil yn dibenn pI cli G) -eat cry and little, wool.' Y. mais genyf ofD' mawr fod y byd wedi myned yn hynod o'r arwvn-' obol gyda phob petli,—yn ei fonedcligeiddrwydd, ei fasliach, ei ddarllen, a'i wybodaetft grefyddol. Y mae eithriadau gogoneddns wrth gwrs* Gogwydcliacl yr oes, gallem feddwl, yw gosod y cwbl yn y J'i-o)i t-f-fenestr lawn a c ystordy gwag. Nid ydym yn golygu fod gwybodaeth neb yn ddiwraelod, ond yr yclym yn eanfod y ffug-ysgolhaig yn gosod ei holl wyboclaeth a'i ddysg yn y golwg; ac nid oeS eisieu lie nac amser mawr byth arno i wneuthui' hyny. Cofia ychydig axioms a rhestr o enwai1 beirdd, athronwyr, awdw^yr, diwygwyr, a IlyfraiJ poblogaidcl, a dyna yr oil, ac y mae yn medru tori cystal dash o fiaen yr anllythrenog a'r anwybodus » phe byddai yn un o Fellows Prif Ysgol Rhydychaiu- t Y mae y cwbl yn y front, heb ddim y tu cefn; y mae ei holl wyboclaeth fel golch-aur ar bren pwclr; ac y mae obl defnyddiol ddigon—yn cario ei holl siop yn y fasged. Y mae y byd wedi ein dysgu bellach er ys llawer blwyddyn i beidio cym- eryd dynion na phethau fel y maent -yn ymdclangoS ar yr arwyneb. Sut y carech chwi, Mri Golygwyrl gael ltWl arian gan dderbynwyr y TYST ar ben ? u chwarter, llun torflt, IILLN cosyi- a Hun darn o gig, wedi ei rostio ar eich byrddau, neu lUllplu-wely 1 orphwys arno bob nos wecli gorphen eich gorchwyl' iony dyddP Mi warranta y dywedech Oh! moi' | arwynebol yw y byd! Byddai eich cyrph o leiaf yl» I bur sicr o fyned cyn hir yn dra arwyncbol. Wclr < y peth yr ydwyf am i'r darllenydd ei ddeall yw by ft fod pethau arwynebol—llyfrau, papurau, addysg'< &c., mor anclwyol i'r meddwl ag a fyddai ymborth arwynebol i'r corph. Darllenwch. lyfrau a dyfndtf ynddynt, ac nid novels bus; ac yn benaf oil, gochel' wch grefydd arwynebol.—Profer ei phrofiad rhag' rithiol.—Forpcx. j
s ■ " BEIRNIADAETHAU. !
s ■ BEIRNIADAETHAU. Mri. Gol.Pa beth ydyw y rheswm na fyddai' beirniadaethau ar gyfansoddiadau pob Eisteddfod yn dyfod allan trwy y wasg? Os na fyddir yn bres- senol yn yr Eisteddfod, ni chlywir gair yn nghylch y feirniadaeth drachefn. Os mai er mwyn meithrin talentau y rhai ieuaingc ydyw amcan y cyfryw sef- ydliad, dylid anfon pob beirniadaeth i ryw newydd- iadur, fel y gallo yr ymgeiswyr aflwyddianus gael gweled eu gwallau, a diwygio yn ol llaw. Addaw- odd Eryr Glyn Cothi anfon ei feirniadaeth ar gyfansoddiadau Eisteddfod Gwernogle i'r TYST, ond gellir tystio na chyflawnodd ei addewid eto. Carwn yn fawr pe gwnai ef eu hanfon yn fuan. Dymunol fyddai gan lawei, hoblaw myfi gael gweled beirniad- aeth yr hyglod Ieuan Morganwg ar gyfansoddiadau a anfonwyd erbyn Eisteddfod Bryn, Llanelli. Gob- eithio feirniaid anwyl y gwnewch gyduno a'm cais, oblegid y mae eisiau goleuni arnom er fod y Dydd wedi gwawrio. Mewn cariad at bawb, y terfynaf, EISTEDDEODWE 0 GALON. ,rA < —