Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
12 articles on this Page
lklt- S. J. PARRY A'R PARCH.…
lklt- S. J. PARRY A'R PARCH. J. THOMAS. OFY^A? S. J. P. wedi anfon gair trwy y TYST i Grov* f} Piham y gwrthodais fedyddio baban yn d-wf e't b°reu Sabba,th diweddaf, pan yr oedd ^yl £ ar y twrdd> a'r tad a'r fam a'r baban yn ei iiii 3 ei gadw mewn pryder am wythnos gwell i liyn,, ateb yn y fan yma; ac yr wyf yn gwneud i al Y-n fwy parod am fod yn dda genyf gael cyfle gylw at y peth. Mae yr undeb sydd rhwng fc^odoT1 Annibynol Cymreig yn y dref hon i'w henaf i'r cyd-ddealltwriaeth hapus sydd P^0Bl fel Gweinidogion. Yr ydym .yn newid haiU v r>u^)0b boreu Sabbath, ac yn cynnorthwyo y 0ll(j yn nghyfarfodydd ein gilydd hyd y gall- yoiyj.;ic>, mae pob un yn ymgadw yn ofalus rhag 8^yddai a c^in a herthyn yn briodol i gylch dyled- yn Cei fiwd. Mae yn ddealledig bob amser Want ejg ^weinido gion Annibynol fod bedyddio «Uol i'r aelodau a'i wrandawyr yn pei-thyn yn neill- y^ fhe^inidog. Ac y mae fod y naill weinidog y Hall l,^edyddio plant ei aelodau neu wrandawy:1 Ð.od 0 yn wedi peri llawer o ofid. Mae ambell alb. diruIyg ar ei weinidog ei hun yn chwilio ^inidog arall i fedy ddio ei blen'yn; ac y 5 'yVvrir) PU1' ddifeddwl yn gofyn i'r neb a vi 'fyfteri ai- y" y Capel pan y digwyddodd fod Vi °- oVT c: fyned a'i hlentyn yno i'w fed- b 1° an!mhossibl bod yn rhy ofalus mewn W-i yebaiii fel hyn yn enwedig pan y mae nifer #> u Vn°^°n cydlafurio yn yr un lie, a'u hael- > i J. -J a'u gilydd. Nid wyf yn 0r^ V n i n-i ar foreu Sabbath o'r blaen yn _1^^i b0i e<lair hlynedd ar ddeg ac ychwaneg yr wyf w^vpfli<i<'i^a Livc-jpool i fedyddio eu plant; a hyd y ofaj. lriae fy mhobl inau wedi bod yn llawn rhag "gofyn i'r un o'r Gweinidogion eraill, a phe gofynent yr wyf yn lied sicr mai yr un modd y gweitliredent. Ni wyddwn yn y byd pwy oedd rhieni y. plentyn y gofynid i mi ei fedyddio yn Grove Street boreu Sabbath diweddaf. Deallais wedi hyny eu bod yn aelodau heddychol a ffyddlawn, ac mai yn gwbl ddifeddwl y gofynasant, heb dybied fod o bwys pwy a'i bedyddiasai, llawer llai fod hyny yn un anmharch ar eu Gweinidog ei hun. Ond dylai rhieni feddwl mai y gweinidogion y maent hwy yn aelodau gyda hwy, sydd yn fwyaf gweddus i fedyddio eu plant; a bod gofyn i weinidog arall i wneud hyny ond o dan amyylchiadau anghyffrcdin yn radd o ddirmyg ar eu Gweinidog eu hun. A chyn myned i'r seat fawr dylent fynu gwybod gan un o'r Diaconiaid a ydyw yn gyfleus iddynt gael bedyddio y Sabbath hwnw. Maent yn taflu eu hunain i brof- edigaeth, ac yn taflu y Gweinidogion hefyd, fel y mae yn anhawdd i un wrth gael ei gymmeryd yn ddisymwth felly, wybod pa beth sydd oreu i'w wneud. Byddaf yn barod bob amser i wneud pob peth a allaf i wasanaethu pob un o'm brodyrondnid i wneud dim fyddo yn debyg i ymyriad a'u dyled- swyddau hwy; er y gwn nad oes yr un Gweinidog yn teimlo llai mewn pethau felly na Dr. Rees. Dyna i gyd sydd genyf i'w ddyweyd ar y mater; a pha un bynag a ydynt yn rhesymau a'u peidio y maent yn ddigon i'm boddloni. Liverpool. J. THOMAS.
CRYNHODEB SENEDDOL.
CRYNHODEB SENEDDOL. Bu yr eisteddiad prydnawnol ddydd Iau, yn Nhy y Cyfixedin, tynodd Mr Bruce yn ol ei Fil ar Addysg Elfenol, a chymmerodd dadl ddyddorol le ar y mater. Dywedai Mr Jacob Bright ei fod yn credu na fyddai gan drigolion swydd Lancaster un gwrth- wynebiad i gymmeryd eu trethu i ddybenion .addysgiadol, gan y bernid y byddai hyny beri lleihad yn y tlodion a'r carcharorion. Amlygodd amryw eraill awyddfryd mawr i weled rhyw gynllun effeithiol yn cael ei dynu i roi addysg i'r wlad. Ymgyfarfu Ty yr Arglwyddi am bedwar o'r gloch nos Iau, ac yr oedd y lie yn orlawn. Rhoddwyd y cydsyniad brenhinol i amryw filiau. Cynhygiwyd ail ddarlleniad BIL YR EGLWYS WYDDELIG, gan Iarll Granville. Dadleuai yn gryf dros i'w harglwyddi fabwysiadu y mesur, er symud anghyf- iawnder annoddefadwy, ac er adferu heddwch a theimlad da yn yr Iwerddon. Cyfododd Iarll- Grey i gynhyg gwrthodiad y Bil. Addefai fod yr Eglwys Sefydledig yn yr Iwerddon yn groes i gyfiawnder a gwladlywiad teg, a'i bod yn achos o wendid a pherygl i'r ymerodraeth ac yn niweidiol i wir fuddianau Protestaniaeth. ond nid oedd ef wedi ei argyhoeddi fod cynllun Mr Gladstone yr un iawn, ac felly byddai iddo ei wrthwynebu. Yn ei farn ef yr unig ffordd i ymdrin a'r cwestiwn oedd trwy wneud compromise. Dywedai larll Malmesbury ei fod yn awyddus i ddatgan gwrthwynebiad y Weinyddiaeth i'r Bil, ac aeth trwy yr hen resymau ddygwyd yn mlaeu trwy y ddadl gan ei gydswyddogion yn Nhy y Cyffredin. Achwynai ar Mr Gladstone am ddwyn i mewn y Bil mewn ffordd anghyson a byrbwyll, ac y byddai i'r boneddwr anrhydeddus hwnw trwy gynhyg at ddad- gyssylltiad atal i'r Llywodraeth wneud y diwygiad- au hyny a fwriadai wneud yn ol cael adroddiad y ddirprwyaeth ar y mater. Gwnaeth Iarll Clarendon araeth rymus dros y Bil. Dadleuai fod o bwys iddynt gydweithio a Thy y Cyffredin. Ni chyrhaeddid hyny heb iddynt edrych ar gwestiwnau o'r natur yma mewn yspryd mwy annibynol ac eang. Ni wnai y tro i'r ty yma deithio mewn parliamentary train, a'r Ty arall yn teithio mewn express train. Bamai fod cymmaint o allu a gwybodaeth, a mwy o brofiad yn y Ty yma, nag oedd yn Nhy y Cyffredin, ac nid oedd un rheswm na ddylent sefyll yn ngolwg eu cydwladwyr. Siaradodd Archesgob Canterbury am ryw bum munud yn erbyn y Bil, ac ar y pwys o gael crefydd sefydledig mewn gwlad. Yna cyfododd Iarll Derby a gwnaeth araeth faith a doniol yn erbyn y Bil, ond heb ddwyn dim rhes- ymau newydd i mewn. Dadleuai nad oedd gan y Senedd ddim hawl i ymyraeth ag eiddo yr Eglwys, mwy nag ag eiddo corphoriaethau. Teimlai yn hyderus y byddai i'w harglwyddi wrthod y mesur, fel un brysiog, ac felly roi achos i wlal ddiolch- gar ddiolch fod ganddynt eto Dy yr Arglwyddi. (Cymmeradwyaeth.) Atebodd larll Kimberley yn fyr, ond hynod gryf, araeth Iarll Derby. Gofynai, os oedd gan y clerig- wyr hawl breiniol i eiddo yr eglwys Wyddelig, pa fodd yr oedd y Senedd wedi trosglwyddo y degymau Gwyddeliy oddiwrth y clerigwyr i arglwyddi y tir- oedd? (Clywch, clywch.) Yr oedd yr wrthddadl o hawl i'r meddianau, yn tori bob ffordd, oblegyd gallai y Pabyddion hawlio yr un peth, gan mai oddiarnynt hwy yr aed a'r meddianau hyny. Dywedai Esgob Llundain ei fod ef a'i frodyr es- gobol yn foddlon i wneud pob peth a ducddai at gymmodi pobl yr Iwerddon, ond nid oedd yn barnu fod y mesur yma yn fanteisiol hyny. Ar gynhygiad Iarll Caernarfon gohiwyd y ddadl, ac ymwahanodd y Ty am bum munud ar hugain i un o'r gloch y boreu. Yn Nhy y Cyffredin nos Iau, galwodd Mr Grant Duff sylw y Prifweinidog at ei araeth yn y Mer- chant Taylor's Hall, yn yr hon y dywedai fod enw Lloegr yn enw o ddrwgdybiaeth a diymddiriedaeth yn mhob Llys a Chynghor tramor ar ddyfodiad y Weinyddiaeth Doryaidd i mewn. Mewn atebiad, dywedai Mr Disraeli, mai at wlad- weiniad Iarll Russell yr oedd yn cyfeirio, ac nid at Arglwydd Clarendon. Cyfododd Mr Layard i amddiffyn larll Russell mewn araeth wresog. Yr un modd Mr Gladstone a geryddai y Prif- weinidog am ei waith yn cymmeryd gafael mewn gwahanol gyfleusterau i organmol ei hun a'i wlad- weiniad, ac i iselu yn annheg ei ragflaenoriaid. Dywedodd Arglwydd Stanley ychydig eiriau cym- modlawn, a dropiwyd y mater. Yn Nhy yr Arglwyddi nos Wener, ail ddechreu- wyd y ddadl ar YE EGLWYS WYDDELIG. Siaradwyd yn gyntaf gan larll Caernarfon, a dy- wedai ei fod yn barnu fod yn well i'r Eglwys Wyddelig ddyfod i delerau a'i gwrthwynebwyr agored, na rhoi ymddired yn ei chyfeillion proffes- edig. Cyfeiriodd yn y modd inwyaf miniog at ym- ddygiad y Llywodraeth yn ceisio cosi y Pabyddion ar un llaw, a bod yn ffrindiau gyda'r Orangemen ar y llaw arall. Datganai ei hun yn ffafr dadgyssyllt- iad, ond nid oedd dros ddadwaddoliad. Daeth i ran Arglwydd Marlborough i amddiffyn y Llywodraeth ar ol araeth ddinystriol Arglwydd Caernarfon, ac aeth mor bell a gwadu fod y Llyw- odraeth wedi addaw gwaddoli Prifysgol Babyddol. Aeth dros yr hen derfynau, a cheisai ddangos na wnai dadgyssylltiad adferu teimlad da yn yr Iw- rly erddon. Gwadai Arglwydd Dufferin hyny, yr hwn er ei fod yn dal cyssylltiad a'r rhan mwyaf Protestanaidd yn yr Iwerddon, a datganai yn glir fod bodolaeth yr Eglwys Sefydledig a bleidid gan leiafrif mor fychan, yn achos o ddrwg deimlad parhallB yn mysg y rhan luosocaf o'r boblogaeth. Yna siaradwyd gan Archesgobion York, ac Ar- magh, a dadleueunt yn wresog rliag colli y torthau a'r pysgod.. Gwnaeth ArdalycTd Salisbury (Arglwydd Cran- bourne) nodiadau llym ar ymddygiad y Llywodr- aeth, ond ar yr un pryd dadleuai dros wrthod y Bil. Sia-radwyd gan amryw eraill, a g- ihiriwyd y ddadl hyd nos Luii. Ni fu dim o ddyddordeb cyffredinol yn Nhy y Cyffredin nos Wener. Adnewyddwyd y ddadl yn Nhy yr Arglwyddi nos Lun ar YR EGLWYS WYDDELIG. lpy-wedai Dug A-i-gyle mai prif amcan y Bil yd- oedd rhoi sicrwydd i bobl yr Iwerddon yr ymdrinid a'r mater heb oediad diachos, ac yr oedd yn llawen ganddo fod yr amcan wedi ei gyrhaedd, ac na wnai pleidlais wrthwynebol gan eu harglwyddi, ddim atal ei lwyddiant yn y pen draw. Cefnogai ef y Bil am y barnai y byddai i'r Eglwys Brotestanaidd enill nerth trwy ddadgyssylltiad. Yr oedd y Llywodraeth wedi cydnabod fod yr Eglwys Wyddelig i raddau yn ormes ar y Pabyddion, ac wedi amcanu gwneud iawn am hyny trwy waddoli Prifysgol Babyddol. Ceisid gwadu hyny yn awr, ond yr oedd Iarll Mayo wedi dweyd hyny mewn geiriau eglur yn Nhy y Cyffredin. Ceisiai y Llywodraeth fel rhai math o greaduriaid na fedrent fyw trwy eu nerth, fyw trwy eu cyfrwysder. Dadleuai yn gryf dros ail ddarllen- iad y Bil. Atebwyd i araeth y Dug gan Esgob Rhydychain, a cheisiai brofi y byddai yn anghyfiawnder o'r mwyaf dadgyssylltu yr Eglwys. Ni bu un adeg erioed, meddai, ag yr oedd yr Eglwys yn gwneud ei gwaith yn fwy effeithiol nag yn awr yn yr Iwerddon. Dywedai Iarll Shaftesbury mai un dibwys iawn oedd y Bil, a'i fod yn derbyn ei bwysigrwydd oddi- wrth y gwrthwynebiad a gaffai. Bamai ef mai ei basio oedd y goreu yn lie i'r wlad feddwl ar fin eth- oliad eyffredinol, fod y ty hwn yn wrthwynebol i ymchwiliad llawn a theg i'r mater. Yr oedd ef wedi meddwl cefnogi yr ail ddarlleniad, ond yr oedd yn meddwl yn awr mai ymatal rhag pleidleisio o gwbl a wnai. Parhawyd y ddadl gan Dug Richmond, Iarll Bandon, ac Iarll Glancarty, yn erbyn y Bil; ac Ar- glwydd Houghton, ac Iarll Granard, drosto. Edmygai Iarll Russell y medr a ddanghoswyd yn y ddadl bob ochr i'r Ty, ond gofiidiai iddi gael ei chario o'i therfynau priodol gan Iarll Derby. Am- can yr Eglwys Sefydledig yn yr Iwerddon oedd lledaenu crefydd a moesoldeb yn y wlad, ond ceid wrth ymweled a'r Iwerddon fod y mwyafrif mawr o'r boblogaeth yn myned i addoldai eraill, lie y gweinyddid gan glerigwr oedd yn gwahaniaethu oddiwrth athrawiaethau yr Eglwys Sefydledig, fel yr oedd yr amcan o ledaenu crefydd a moesoldeb yn cael ei lwyr golli. Ychydig iawn o sylw a wnaed yn ystod y ddadl i'r ffaith fod y mwyafrif mawr o'r boblogaeth yn Babyddion, ac nad oedd rhifedi y Protestaniaid ond rhyw 700,000 yn yr oil. Yr oedd y Pabyddion yn ystyried eu bod yn cael eu diraddio trwy osod yr Eglwys fel hyn uwch eu penau, fel nod o oruchafiaeth. Dywedid yn ami y byddai i ddis- gleirdeb y goron gael ei gymmylu pe y cerid y mesur hwn, ond nid oedd ef yn gweled pa fodd y gwneid hyny os enillid serchiadau y Gwyddelod trwyddo. Wedi i'r Arglwydd Ganghellydd siarad, ac i larll Granville ateb, rhanwyd y Ty, pan y caed Dros yr ail ddarlleniad 97 Yn erbyn 192 Mwyafrif 95 Rhoddodd Mr Disraeli yn Nhy y Cyffredin nos Lun, rybudd y byddai iddo gynhyg pleidlais o ddiolchgarwch i Ryfelgyrch Abyssinia nos Iau. Ymdriniwyd ag amryw bethau eraill, ond heb fod yn bwysig neillduol. Yn Nhy yr Arglwyddi nos Fawrth, pasiodd Bil Diwygiadol yr Ysgotland trwy y pwyllgor, oddieithr yr adran mewn perthynas i derfynau Glasgow; a darllenwyd Bil Diwygiadol yr Iwerddon yr ail dro. Aed radd yn miaen gyda gwahanol fesurau eraill. n Yn Nhy y Cyffredin yr un noson, bu ychydig ddadl ar y Bil sydd yn galluogi swyddogion y cyllid i bleidleisio mewn etholiadau Seneddol. Gwrthwynebai Canghellydd y Drysorfa y mesur yn y modd cryfaf, ond ar raniad y Ty, gorchfygwyd y Llywodraeth trwy fwyafrif o 30, ac yna pasiodd y Bil trwy y pwyllgor.
AT Y GYMDEITHAS DDIWYGIADOL…
AT Y GYMDEITHAS DDIWYGIADOL GYMREIG. Y mae yn fy mryd erys peth amser yn awr, i gyn- hyg rhyw gynllun a fydd yn debyg o ddiogelu pleid- lais annibynol etholwyr Cymru, a chefnogi darbod- aeth yn mysg ein cenedl. Nid wyf yn gwybod am un moddion gwell i wneyd y cynllun hwn yn adna- byddus, na thrwy ei gyflwyno i ystyriaeth y Gym- deithas uchod, yr hon sydd wedi ymgymeryd a lles- oli y wlad, a theg yw dyweyd fod y wlad yn disgwyl llawer oddiwrthi. Yr ydym wedi siarad llawer, ond yr ydym bellach yn disgwyl i waith gael ei wneyd. Y mae digon o waith i bawb, ac y mae yn ddigon rhwydd ei wneyd, ond cael pawb i wneyd ei ran. Dylid trefnu rhyw foddion i amddiffyn hawliau per- sonau i bleidleisio yn ol argyhoeddiad eu cydwybod. Nis gellir disgwyl i bersonau beryglu bywoliaeth eu teuluoedd, heb i bawb roi iddynt yr help a allont i'w harbed rhag colled. Meddyliwch fod miliwn o Gymry yn cyfranu swllt ac uchod yn flynyddol, gwnai hyny drysorfa o haner can mil o bunau y flwyddyn. Dichon y tybia rhai fy mod yn disgwyl gormod wrth enwi miliwn, ond yr wyf wedi rhoi y swm yn ddigon isel i bawb ddod i mewn, ac os na cheid cynifer a hyny o bersonau y blynyddoedd cyntaf, gellid cael cynifer a hyny o sylltau yn rhwydd. Gellir disgwyl nad swllt a roddai pob per- son. Y mae genym gannoedd a allant, ac a wnaent gyfranu mwy. Wedi cael yr haner can mil punau, gellid prynu 30 o ffermydd am 1,000p. yr un, a 40 am 500p. yr un, yr hyn a wnai 70 yn yr oll. Gallai y tenant yn y ffarm oOOp. gael pleidlais yn gystal a'r un yn y ffarm 1,000p. Neu os dewisid gellid peidio prynu cynifer o ffermydd, a phrynu neu adeil- adu siopau yn eu He, ond gofalu na phrynid dim ond mewn manau ag y mae mantais y Gymdeithas yn galw am hyny mewn modd neillduol. Gellid disgwyl llog oddiar y 50,000p. yn ol 4p. y cant, yr hyn a wnai ddwy fil o bunau y flwyddyn. Cadwer mewn golwg fod y capital blyriyddol yn codi yn bar- haus, ac wrth gwrs yr un modd y llogau. Yn mhen y 12 mlynedd gellid rhoi lOp. yn y flwyddyn i 200 o hen bobl a gyfranant swllt yn flynyddol, wedi cyr- aedd eu 65 oed, trwy bob Sir yn Nghymru, ac os cyfranai rhai fwy na swllt, bydded iddynt dderbyn mwy. Gallai fod gan y Gymdeithas yn mhen y deuddeg mlynedd 840 o ffermydd neu siopau. Bydd- ai y rhai hyn yn barod at wasanaeth pleidwyr Rhydd- id, gan nad o ba gyfeiriad y dioddefent. Yn mhen ychydig flynyddau, byddai dylanwad gormeswyr wedi myned yn ddibwys iawn yn ein gwlad, a'r werin yn mwynhau ei hiawnderau. Nid wyf yn awr ond rhoi amgrymiadau, heb fyned fawr i'r man- ylion. Gellir cynllunio i ranu yr elw yn wahanol os dewisir, ni wnaethum wrth grybwyll am roi lOp. i hen bobl, ond rhoi hint yn unig beth a ellid wneyd. Y mae genyf gynllun arall ar fy meddwl i gyraedd y nod mewn golwg, ond gadawaf yn awr i weled pa dderbyniad a gaiff hwn. Yr wyf yn teimlo yn ddwys fod eisiau gwneyd rhywbeth, a hyny yn ddioed. D. R.
[No title]
ARHOLIAD.—Mae yn lion genym ddeall fod Mr E. P. Jones, diweddar fyfyriwr o Golegau y Bala a Chaerfyrddin, wedi pasio yr arholiadau gofynol yn anrhydeddus, ac wedi cael ei dderbyn i Brifysgol Marburg, Prussia.—Cyfaill. PILS HOLLOWAY.—Y mae Y physig ocraidd hwn, sef rils Holloway, yn effeithio yn hapus ar y gwaed pan mewn eyihvr 1'liy wresog; y mae un bilsen yclxydig1 cyn ciniaw yn rhwystro diffyg trenliad, llawnder a gwynt yn yr ystumog'. Y mac ycliydig' o Bils wrth fjaied i gysgii dros nos yn gweithredu yn ddymunol ar y cylla, ac yn eu dwyn i drefn rheolaidd. Y mae Pils Holloway yn puro yn drwyadl, ac yn rlieoleiddio ri e iad y gwacd.
--'CYMMANFA MEIRION.II
CYMMANFA MEIRION. Cynnelid hon yn y Bala dyddiau Iau a Gwener, Meh. 25 a 26-cynnadledd am un o'r gloch y dydd cyntaf, ac Ellis, y Brithdir, yn y gadair. Heb law y nifer mwyaf o weinidogion y sir, ynghyd a. nifer mawr o ddiaconiaid, yr oedd hefyd yn bresennol y Dr. Rees, Liverpool; Stephen, Tan y marian; Evans, Caernarfon; Jones, o'r India; Richards, Abereirch; Evans, Rhos y medre Edwards, Pentrellyn-cymmer; Thomas, Glan- dwr, Pnfro. Cyttunwyd,— 1. Fod y Gymmanfa y flwyddyn nesaf i gael ei chynnal yn y Four Crosses, Festiniog. i 2. Fod y Cyfarfod Chwarterol nesaf i gael ei gynnal yn Mhenystryt, yr Iau cyntaf yn Medi. Cyttunwyd i dreulio'r gweddill o'r gynnadledd i wrando hanes llwyddiant yr achos yn ngwahanol eg- lwysi y sir. Am chwech, ar y Green, pregethodd Mr. Evans, Caernarfon, a'r Dr. Rees. Boreu dydd Gwener, am saith o'r gloch, cynnaliwyd oedfa YN Y CAPEL NEWYDD -yr oedfa gyntaf-oedfa o gymmundeb. Yr oedd rhyw gydgyfarfyddiadan yn yr oedfa hon, saith o'r gloch foreu dydd Gwener, yn ei gwneud yn un o'r rhai hyny a gofir gan bob un ag oedd yn bresennol tra byddont byw. Arweinid y cyfarfod gan Dr. Rees. Ar ol darllen a gweddio, a thraddodi anerchiad—anerch- iad yn union fel ag a allesid ^ddisgwyl gael gan arweinydd yr oedfa, ar y fath achlysur—galwodd, i ddechreu ar "yr Hen Brice ac wedi hyny, ar Williams, o Deerfield; ac ar ol yntau S. R., o Ten- nessee; ac wedi hyny, Jones, o'r India; Roberts, Brymbo; Stephen, Tan y marian; Thomas, Bangor; ac Evans, Caernarfon. Fel yr awgrymwyd eisoes, un o'r oedfaeon hyny oedd hon na cheir mo honynt ond yn anaml yn y byd yma. Few and far between un o'r oedfaon hyny ag y siar- edir am dani gyda phleser yn mhen ugeiniau o flyn- yddoedd, pan y bydd y rhan fwyaf o'r rbai a gym- merant ran ynddi—o'r tafodau a anerchant y cyfarfod —wedi tewi! AR Y GREEN. Dechreuwyd yr oedfa ddeg, gan Roberts, Brymbo a phregethodd Stephen, Tan y marian; a'r Dr. Rees. A'r oedfa ddau o'r gloch, dechreuodd Davies, Ruthyn; a phregethodd Price, ac areithiodd y Cenhadwr; a'r oedfa olaf, dechreuwyd gan Williams, Deerfield, a phregethodd Stephens, a Thomas, Bangor. Am un o'r gloch, cynnaliwyd cynnadledd yn yr hen gapel i ymdrin ag achos y genhadaeth. Anerchwyd y cyfarfod yn fyr gan W. Jones, a gosodwyd o fiaen y gynnadledd y penderfyniad y cyttunesid amo yn Llanbrynmair. 0 herwydd nad oedd amser yn can- iatau, cyttunwyd ar fod i'r achos gael ei ystyried yn Nghyiarfod Chwai-terol nesaf y sir.
CYMMANFA LLANBRYNMAIR.
CYMMANFA LLANBRYNMAIR. Dechreuwyd y Gymmanfa nos Fawrth, Mehefin 23ain, 1868, pryd y pregethwyd mewn amryw fanau yn y gymmydogaeth gan y Parchedigion Samuel Roberts, M.A.; W. D. Williams, Deerfield, America; D. Jones, B.A., Merthyr J. Davies, Amwythig J. Jones, Machynlleth a D. M. Jenkins, Drefnewydd. Dydd Mercher, cafwyd cynhadleddau lliosog am 10 a 2 o'r gloch. Heb law gweinidogion y sir agos oil, yr oedd yn bresennol amryw frodyr o wahanol sir- oedd yn y De a'r Gogledd, dau o'r America, un o'r India, ac un o Awstralia. Nid ydym yn cofio i ni erioed o'r blaen weled cydgyfarfyddiad mor hynod a hyn o weinidogion mewn cymmanfa. Cymmerwyd y gadair, yn nghynhadledd y bore, gan y Parch D. M. Davies, Llaniyllin-y cadeirydd am y flwyddyn ddiweddaf ac yn nghynhadledd y prydnhawn gan y Parch R. Jones, Llanidloes, yr hwn a etholwyd yn gadeirydd am y flwyddyn cldyf- odol. Dywedodd amryw frodyr yn y gynhadledd eiriau o ganmoliaeth i'r manteision addysg gwerthfawr a fwynheir yn ysgol Mr J. D. Jones, Clwyd Bank, Ruthin. Pasiwyd y penderfyniadau canlynol:— 1. Fod dymuniad taer ar i'r casgliadau tuag at Golegdy Newydd Aberhonddu, gael eu dwyn i law y Trysorydd erbyn diwedd Awst. 2. As the Religious Associations of Wales are old Institu- tions of high name, that have been of extensive usefulness in elevating the character, and in promoting the happiness of the 'Cymry,' this Conference would submit to the kind considera- tion of the Directors of the Railway Companies in Wales the desirability of affording to our Associations the accommodation and privilege of Return-tickets, as they do to other public gatherings of various characters. 3. Fod y Gynhadledd hon, wrth ystyried y golled arianol, a'r niwaid moesol, a'r dyryswch cymdeithasol a achosir i weith- wyr ein gwlad gan y fasnaeh mewn diodydd meddwol ar Ddydd yr Arglwydd, yn llawenhau fod teimlad y wlad yn erbyn y fath fasnach yn cryfhau, ac yn dymuno datgan ei chymmeradwy- aeth o'r Bill sydd o flaen y senedd bresennol er evfyngu ei gweithrediadau ac yn dymuno ar i ddeisebau gael eu hanfon i'r senedd i ymbil am i ddeddf gael ei selio er cyfj-ngu oriau y fath fasnach ar y Sabbath. 4. Afonwyd Deiseb dros y Gynhadledd i Dy yr Arglwyddi i erfyn am i'r Suspensoty Bill' sydd yn awr o flaen y Ty gael ei wneud yn ddeddf yn ddioed. 5. Annogwyd ar i chwe sir y Gogledd agor gohebiaeth a'u gilydd, ac ymffurfio yn ganghen gynnorthwyol o Gymdeithas Genhadol Llundain, er cydweithio yn effeithiolach o blaid am- canion pwysig y Gymdeithas; ac amlygodd y gynhadledd ei llawenydd yn llwyddiant llafur y Parch W. Jones, y cenhadwr o India, ar ei ymweliad a gwlad ei enedigaeth. 6. Fod y gynhadledd hon yn llawenhau fod y Parchn. D. Price, o Newark, Ohio, a W. D. Williams, o Deerfield, New York, wedi gallu rhoddi eu cymdeithas a'u cynhorthwy yn ein Cymmanfa; a'n bod yn credu y bydd eu hymweliad yn adfyw- iad i'w hysbrydoedd, yn adeiladaeth i'r eglwysi yn Nghymru, ac yn foddion i gryfliau y cyfeillgarwch a'r cydweithrediad rhwng eglwysi yr Hen Wlad a'u chwiorydd eglwysi yn yr Unol Daleithiau; ac yn llawenhau fod eu hen gyfaill S. R. yn debyg o sefydlu yn hen wlad ei enedigaeth. 7. Darllenwyd llythyr o Ddinbycli yn hysbysu am ffurfiad Pwyllgor yno i gynnorthwyo y symmudiad am gael Tysteb i'r Parch David Price, a phenderfynwyd—Fod y gynhadledd hon yn gwresog gymmeradwyo yr amcan, ac yn annog holl gyf- eillion yr hen frawd llafurus a serchog, gynt o Benybontfawr, a Rhos a Dinbych, i gydweithredu ar unwaith o blaid yr am- can. 8. Fod y Gynhadledd hon yn llawenhau fod y Parch J. Farr, o Awstralia, yn debyg o ymsefydlu yn Nghroesoswallt, ac yn liyderu cael llawer o'i gymdeithas a'i wasanaeth yn y cyfundeb hwn. 9. Yn gymmaint a bod etholiad seneddol cyffredinol yn am' wrth y drws, fod y Gynhadledd hon o dan ddwys ystyriaeth o'i rhwymedigaeth, yn dymuno galw sylw difrifolaf pob Ymneill- duwr o fewn cylch yr etholfraint, at y pwys iddynt arfer yr hawlfraint hon o blaid ymgeiswyr pleidiol i ryddid gwladol a chrefyddol. Gwnaed cyfeiriad yn un o'r cynhadleddau at Drysorfa Gweddwon Gweinidogion, a dymunwyd yn daer iawn ar fod i'r eglwysi sydd heb gasglu at y drysorfa wneuthur hyny yn ddioed. Ymddengys fod rhyw ddwy neu dair o eglwysi y sir wedi casglu eisoos at y drysorfa ragorol hon; a hyderir yn fawr y bydd i'r gwedclill o'r eglwysi ddilyn eu hesiampl mor fuan ag y bydddo modd. Mae yn anhawdd genym feddwl fod un eglwys mor amddifad o barch i genhadon Arglwydd y lluoedd, fel y gwrthodai wneud casgliad, unwaith yn y flwyddyn, tuag at gynnorthwyo eu gweddwon a'u hamddifaid sydd wedi eu gadael mewn amgylchiadau cyfyng a gwas- garedig, ond i'r peth gael ei osod yn deg o'i blaen. Da chwi, ddiaconiaid caredig, gwnewch sylw o'r ap- peliad hwn, a cheisiwch gan yr eglwysi wneud tipyn o gasgliad yn ddioed tuag at y drysorfa hon. Mae yr Hen Lyfr yn dyweyd mai crefydd bur a dihal- ogedig ger bron Duw a'r Tad yw hyn-ymweled a'r amddifaid a'r gwragedd gweddwon yn eu hadfyd, a chadw ein hunain yn ddifrycheulyd oddi wrth y byd.' Yr oedd trefn y moddion cyhoeddus fel y canlyn:— Nos Fercher, dechreuwyd yr oedfa yn yr Hen Gapel gan y Parch H. James, Llansantffraid; a phregeth- wyd gan y Parchn W. Jones, India, J. Rowlands, Rhos, a W. D. Williams, Deerfield, New York. Pre- gethwyd hefyd nos Fercher yn nghapel y Trefnydd- ion Calfinaidd, gan y Parchn J. Farr, diweddar o Awstralia, ac R. Thomas, Bangor. Bore Ddydd Iau, y 2.5ain, am 10, dechreuwyd yr oedfa gan y Parch D. Evans, Penarth; a phregeth- odd y Parchn D. Price, Newark, Ohio (gynt o Ddin- bych), ac R. Thomas, Bangor. Am 2, dechreuwyd yr oedfa gan y Parch H. Mor- gans, Samah; a phregethodd y Parchn D. Jones, B.A., Merthyr, a W. Caledfryn Williams, Groeswen. Am 6, dechreuwyd yr oedfa gan y Parch R. Jones, Llanidloes a phregethodd y Parchn D. Jones, B.A., Merthyr, R. Hughes, Cendl, a W. C. Williams, Groeswen. Cynhaliwyd yr oedfeuon ddydd Iau ar faes cyfleus gerllaw yr Hen Gapel. Yr oedd y tywydd braidd yn anffafriol yn yr oedfa ddeg o'r gloch ond trodd yn dywydd dymunol iawn at y prydnawn a'r hwyr. Bernir fod tua dwy fil yn bresennol yn yr oedfeuon am 2 a 6, ac yr oedd hyny yn fwy nag a allesid ei ddisgwyl mewn ardal wladaidd fel Llanbrynmair. Y mae yr ardal hon yn enwog am ei charedigrwydd, a chafwyd profion eglur o hyny mewn cyssylltiad a r Gymmanfa. Yr oedd pob ty yn y gymmydogaeth yn llydan agored i dderbyn a chroesawu y dieithr- iaid, a hyny gyda'r sirioldeb mwyaf a daeth llawer o deuluoedd caredig, sydd yn byw dipyn o bellder, a llwythi o ymborth ar gyfer dieithriaid i'r tai o am- gylch y man lie y cynhelid y Gymmanfa. Gorph- wysed bendith y nef ar yr holl deuluoedd fuont yn croesawu y gweinidogion a'r dieithriaid. Mae pawb yn canmol y pregethu; ac nid rhyfedd, canys yr oedd y weinidogaeth yn nodedig o rymus o'r dechreu i'r diwedd. Gobeithio y bydd y pregethau nerthol a draddod- wyd yn fendith dragwyddol i laweroedd, ac yn ad- fywiad i waith yr Arglwydd yn y gymmydogaeth.
NEWYDDIO LN ETHOLIADOL.
NEWYDDIO LN ETHOLIADOL. SIR FON.—Y mae Syr Richard Bulkeley, Barwnig, yr aelod dros y Sir hon, wedi amlygu ei benderfyn- iad i gilio o'r maes, a chredir y gwna'r aelod dros y bwrdeisdrefi, sef yr Anrhydeddus Wm. Owen Stanley gynnyg am ei le. Y mae'r Rhyddfrydwyr fodd bynnag wedi penderfynu dwyn yn mlaen ein cyd- wladwr parchus Richard Davies, Ysw., Benarth, fel ymgeisydd am y sedd. Tybir mai Mr Irby, neu fab Arglwydd Boston, a ddaw allan dros y Toriaid. Yn awr, Ymneillduwyr Mon! 1/nwrolwchl A thra- chefn, meddwn, YMWEOLWCH! BWBDEISDEEFI CAERNARFON.—Dywedir na cha Mr Bulkeley Hughes y ffordd iddo ei hun, ond y gwrth- wynebir ef gan Mr Nanney, Gwynfryn, dros y Tori- aid. Hyd nes ceir ei well, cofier y waedd-' Bwcla Huws am byth!' Sin FEISROXYDD.—Sonir fod Mr Wynn wedi colli ymddiried y Toriaid, a dygir Mr David Williams, Castell Deudraeth, eto i'r frwydr yn ei erbyn, yn fuddugoliaethus, ni gredwn. SiR ABERTEIFI.-Y mae Syr T. D. Lloyd a'r Mil- wriad Pryse, am dTJln yn 01, ac yr ydys wedi gofyn i Mr David Davies, y railway contractor, i sefyll dros y Rhyddfrydwyr. Lied ddisgwylir y gwna Syr T. D. Lloyd ymdrech eto os caiff ddigon o gefnogaeth. Y mae'r Toriaid yn ymuno o blaid Mr E. M. Vaughan, nai i Iarll Lisburne.
TAIBACH.
TAIBACH. Mehefin 21 a'r 22, cynhaliwyd cyfarfod blynyddol yr Eglwys a gyferfydd yn Gibeon. Gweinyddwyd gan y Parchedigion Stephens, Brychgoed; Dr Rees, Abertawe; Davies, Sketty; Jones, B.A., Penybont; Davies, Llandilo; a Jones, Myfyriwr, o Nottingham. Yr oedd y casgliadau yn dda, a llawer yn teimlo mai da oedd bod yno.
GLASBURY.
GLASBURY. Mehefin 23 a'r 24, urddwyd y Parch. Josiah R. Lewis yn Fugail ar yr Eglwys a gyferfydd yn Add- oldy newydd Glasbury, ac yn hen Addoldy Maes- yronen. Pregethodd yn Maesyronen, y dydd cyntaf, y Parch. E. A. Phillips, B.A., Gelli. Dranoeth, am 10, yn Glasbury, gweddiodd y Parch. J. Stephens, Brychgoed. Pregethwyd ar Natur Eglwys gan y Parch. W. Roberts, Athraw Coleg Aberhonddu. Gofynwyd y Gofyniadau arferol gan y Parch. J. Griffiths, Portway. Gweddiodd y Parch. Jones, o'r Gor, yr Urdd-weddi. Pregethwyd i'r Gweinidog gan y Parch. J. Morris, Athraw Coleg Aberhonddu; ac i'r Eglwys ganSy Parch. Dr. Rees, Abertawe.
LLANGEFNI.
LLANGEFNI. Cynhaliodd y Bedyddwyr eu cymanfa flynyddol yn y lie uchod ar Iau a Gwener, Mehefin y 25ain a'r 26ain. Cafwyd pregethu da iawn, hin gysurus, a chynlllleidfa gymedrol. Pregethwyd gan y Parchn. Thomas, Glanwydden; Rowlands, Cwmafon; James, Beaumaris; Williams, Hengoed, a Mr Ellis, Caer- narfon. Dechreuwyd y cyfarfodydd gan wahanol frodyr o' r sir. Gresyn na fuasai y brodyr wedi trefnn i gael train rhad; diamau y buasai y gynulleidfa yn llawer lluosocach. Deallwn fod y Methodistiaid wedi sicrhau y fantais i'w pobl hwy yr wythnos yma. mewn cysylltiad a chyfarfod Llanerchymedd, ac ym- ddengys y bydd train rhad yr amser y cynhelir cy- manfa yr Annibynwyr yma hefyd yr un modd.- Gwrandawr.
RHAIADR-WY.
RHAIADR-WY. Mehefin 24 a'r 25, neillduwyd y Parch. Samuel Prosser, o Goleg Aberhonddu, yn Fugail ar yr eglwys a gyferfydd yn yr Hen Gapel yn Rhaiadr., Y dydd cyntaf am 6, ar ol darllen a gweddio gan y Parch J. Davies, Dolau (B), pregethodd y Parch T. Evans, Talgarth. Dranoeth, am 10, ar ol darllen a gweddio gan y Parch T. Evans, Llanwrthwl, pre- gethodd y Parch W. Roberts, athraw Coleg Aber- honddu, ar Natur Eglwys.' Holwyd y gofyniadau gan y Parch T. Evans.. Attebwyd yn gryno a ehyn- nwysfawr gan y gweinidog leuangc. Gwedldiwyd yr urdd-weddi gan J■ Stephens. Pregethwyd ar Ddyledswydd y gweinidog gan y Parch J. Morris, athraw Coleg Aberhonddu, a phregethodd y Parch T. Rees, D.D., Abertawe, ar I Fawredd Gm,s Diiw y-ii nychweliad peclit(Itiriaid., Am 3, gweddiodd Mr D. Morgan, myfyriwr o Goleg Abevhrjndu; a phre- gethwyd ar Ddyledswydd yr egl wys at y gweini- dog gan J. Stephens yn Gymrej g? a chan Dr Rees yn Saesneg. Am 6, declireiiv'/yd trwy ddarllen a g-\v(.'ddio gan y Parch S. Tl)o-lllas (B), a phregetbodd y Parchn D. Griffiths, Tro^drhiwdalar, a Stephens. Brychgoed.
BANGOR. ---
x erlynydd didderbynwyneb, yn rhoddi cymmorth i rhyddid grechwenu, ac yn dwyn gwarth ar ?AA0ST*v e&wy^dorion hyny a fuont ynfoddion 06dd cr d^U ^>r^a"1 •P'awr nwchlaw holl deyrnas- E cynimaint gan hyny yw ein parch i Mr Thomas tewxs, Frondeg, Mr Morgan Richards, a Mr John Roberts, ar amryw ystyron, eto rhaid i ni addef yn acufloeegni fod ein parch i'r egwyddorion cysegredig yn yn llawer mwy; ac felly nid ymataliwn rhag uinnoethi eu hymddygiad a'r llymdoster hwnw 1tg. sydd yn gweddu i ni pan yn ymdrin a cliatnwedd mor fawr. Ni a ddechreuwn gydallythyr a dibwynt Mr Morgan Richards, yr hwn a jTtiddangosodd yn y Liverpool Mercury, ac a gopiwyd syda r fath awch gan y North IVales Chronicle. Y mae amcan Mr Richards yn y llythyr hwn yn eithaf Huwg i bawb a'i darlleno; ac y mae'r ffaith ei fod yn 1 teimlo gwendid y tir y ceisia sefyll arno yn ycach fyth- Yn nesaf at yr ymgais i glytio ■ gydwybod ddrylliog Arglwydd Penrhyn, a J^y nyny, wrth .gwrs, enill ffafr yn ei ol wg, fe ,!elli Inai prif amcan Mr Richards ydyw dallu llyg- aid ei ddarllenwyr a llwch, trwy geisio eu perswadio .y^riadau (nid profion, cofier) mai creadur bach a rhyddfrydig iawn ydyw y Noble Lord; ac ad ydyw erioed wedi arfer unrhyw drais na gorth- at neb, ond ei fod bob amser yn awyddus *yteddol i bob dyn bleidleisio yn ol dysgeidiaeth ei arn a i gydwybod ei hun. Da iawn yn wir; ond Pa le mae'r profion? 'Wei,' meddai rhywun, 'y mae Morgrugyn Machno yn dywedyd mai un felly ydyw Y Lord; ac y mae Morgrugyn yn deall logic, ac y yn dyegapobl nad oes dim byd yn argy- oeaaxadol iawn mewn' haeriadau, ar wahan oddiwrth ronon, ac o ganlyniad, y mae'n sicr i chwi nad ein logician erioed yn gadael ei air yn ddidyst. ^^weh y llythyr yn fanylach, a chwi a ddeuwch i'r profion.' Wei, chwilio y buwyd, ond eto ddeuwyd o hyd i'r nn prawf, ond yn unig fod Mr "hards yn tystio fod Arglwydd Penrhyn yn dra ad 'lJ^US yn y parthau hyn fel rhoddydd ac w *Wdd eglwysi ac ysgolion eglwysig.' Very Vfi 'aeddwn ninnau, 'y mae adeiladu eglwysi ac Ond° eg1wysig yn burion gweithred yn ei ffordd, ,Pa brawf ydyw hyny o ddiniweidrwydd politic- fod M n'' mae'n syn iawn genym, Foneddigion, Uenor a rhesymydd o fri ac enwogrwydd Mor- ^Q^yn Machno yn dyfod a'r fath rheswm cripil yn edd6n "^e yr adeiladai yr Arglwydd gwir Anrhyd- fca ac ysgol eglwysig bob dydd o'i oes, a fy^ai hyny nad ydyw yn arfer trais a 5: v hre°h ar adeg etholiadau? Os ydyw Mr Rich- v fa*?11 y hydd i Lord Penrhyn ymfoddloni ar n esgusawd twyllodrus, a gwisgo hen fantell r garpiog a hon, er mwyn cuddio noethni ei gam- tn-anr ^.P^^aidd, rhaid i ni addef ei fod yn llawer v ™ ^alch xnewn ystyr foesol, na Charles Dinbych J ? tyn •! Pell iawn oddiwrthym ni ydyw y can dynu unrhyw gwmwl dros haelioni V vv,11011^ Arglwydd Penrhyn; ond yn sicr ddiau J ae yn dra anhawdd i ni fod yn ddystaw pan Wn y rhinweddau hyn o'i eiddo ef na neb arall Odd' ifU ^1°^er^wi°> er mwyn tynu sylw y byd eu pechodau rhyfygus. Grweddus, gan ydyw i ni ymholi pa beth ydyw ystyr ac eg- *pddor yr haelioni bostfawr a hocedus hwn o eiddo l Arglwyddiaeth. Yr ydym ni o'r fam fod tystiol- aeth yr haelioni yma yn hytrach na gwrthbrofi gosodiadau disigl y Dr Rees, yn tueddu i brofi eu Fmrionedd. Y mae'r ffaith fod Arglwydd Penrhyn yn adeiladu eglwgsydd ac ysgolion eglwysig, mewn ardaloedd fel Bethesda, lie y mae mwyafrif anferth Or trigolion yn ymneillduwyr, y rhai oeddynt isoes wedi darparu cyflawnder bendith o leoedd addoliad iddynt eu hunain, yn profi yn amlwg i'n i-Vb ni, ei orawydd toriaidd i broselytio'r bobl a'u V i'r un grefydd a dysgeidiaeth ag ef ei hun. Y gwr da yn eithaf ymwybodol mai ymneilldu- yy1* ydyw'r bobl; ac felly os ydyw yn teimlo ymuniad gwirioneddol i ymddwyn )ti haelfrydig ^y^t, gellid yn rhesymol ddisgwyl iddo eu Ond adeila(iu amhell gapel draw ac yma. J3Vr a tedr Mr Richards, yr hwn sydd mor dra hys- &t dihafal ei Arglwyddiaeth, ein cyfeirio ^Jp^iaint ag un amgylchiad lie y darfu iddo ef vn nn ?° ac^08 crefydd wirfoddol? Yr ydym ni ododd rW £ yfeirio ef at amg}rlchiad lie y gwrth- RVmai T haelfrydig (?) hwn yn bendant enwad a (Jv:er^m neu hyd yn nod hrydlesu lie i Nid oe^f °^U8 0y^nei^^uwyri adeiladu capel arno! y drafn^i 04.T^um mlynedd o amser er hyny. Y mae hyd hedd ^J^dus yn eithaf fresh ar ein cof y^edid^ fe fyd,dai/n dra a^s genym pe Richards n na y*1^ felly hefyd ai" gof Mr Owens v \r nad dy11111110111 ei gyfeirio at W"" Y ]Wasna,,hy(ld, neu Hughes, yr Apothecari, Haelfrvi?' °'r ^e^hiau. Haelfrydig yn wir! yr g i'w amcanion ei hun. Gyda hyn Mr A J711 terfynu a llythyr dauwynebog yn hy+ i. ^lwn' °lwg P°b dyn deallus, sydd RVmrnc.a y11 ymosodiad ar, nac yn amddiffyniad i, ydyw • P°litieaidd Arglwydd Penrhyn. Os Ayddi Wharfs yn credu mewn gwirionedd yn iddo gj^ g^'ydd a thegwch y Noble Lord, bydded toll d i gyhoeddi annerchiad yn ddioed at ei enantiaid a'i weithwyr, fel y gwnaeth Due ^dato-11^0.11' ■^rglwy<id Newborough, ac eraill, i h\vv n ewyHys iddynt bleidleisio fel y dewisont liau 611 ^una^n y11 yr etholiad dyfodol, ac i'w sicr- %dd i unrhyw ddialedd ddilyn hyny. Pan dda r Richards i gael gan ei Arglwyddiaeth ^an 1 ^n' a fyddwn yn barod ac ewyllysgar i iiis J? amo yn son am ei haelfrydedd. Hyd hyny, ga alw ei lythyr yn ddim amgennabaldordd | (Tic larhau). i Yr eiddoch yn ddiffuant, P CASSWALLOX-LAW-HIE. ac °hlegyd hyny rhaid i ni rami ei bei4 doniol. Caiff Thomas Lewis a John Ro- et 8 wythnos o arbediad.—Gol.]