Skip to main content
Hide Articles List

6 articles on this Page

CYNWYSIAD. I

THE CHURCH IN wales.

BETH Y MAE Y GYMDEITHAS DDIWYGIADOL…

CYFARFOD CYNHYRFUS YN LLUNDAIN.

News
Cite
Share

CYFARFOD CYNHYRFUS YN LLUNDAIN. Bu un o gyfarfodydd mwyaf cynliyrfus y dyddiau cynhyrfus hyn yn Llundain ddydd Linn, yr 22a.in o Fehefm. Yr oedd ai-weinwyr y blaid ryddfrydig- yn teimlo yn lied gyffrous at yr Arghvydd Faer oblegid iddo, fel y tybient hwy, gamddarlniiio golygiadan y ddinas yn yr ychydig eiriau a ddywedodd yn St. James' Hall. Penderfynasant fynu cyfarfod yn y Conunon Hall i ddatgan eu barn yn deg ar y mater, sef penderfyniadau Mr Gladstone. Yn ol eu harfer, gwnaeth y Toriaid eu goreu i ddrysu y cyfarfod, a llwyddasant yn eu hamcan. Yr oedd y neuadd yn orlawn ddwy awr cyn vr amser, no yr oedd yn hawdd deall ar wynebau a gwisgoedd cannoedd o r rhai oedd yno eu bod wedi dyfod vno yn bwrpasol i ddyrysu amcan y cyfarfod. Yr oeddynt wediparotoi i derfysgu mewn trefn. O'r acleg y daeth yr Arglwydd Faer i fewn hyd nes yr aeth allan ni chafwyd munud o lonyddwch; ac yr oedd y trwst mor ofnadwy fel yr oedd y reporters yn methu clywed gair o'r hyn a ddywedid. Am yr Arglwydd Faer, ni chafodd ef agor ei enau. Cynnygiwyd penderfyniad yn ffafr dadgyssylltiad yn yr Iwerddon gan Syr John Lubbock, a chefnog- wyd ef gan Mr Sheriff McArthur. Oynnygiwyd gwelliant gan Mr H. Greig, a dhefnogwyd ef gun Syr W. Rose. Ei gynnwys oedd yr hen stori fod cynnygiad am ddadgyssylltiad yn yr Iwerddon yn peryglu uwchafiaeth y goron, sefydliadau Protestan- aidd y wlad, a hawliau eiddo personol. Pan oedd Syr W. Rose yn ceisio siarad y daeth y cynhwrf i'w fan uchaf. Dyna ryw ddyn ar yr es- gynlawr yn arddangos hysbyslen fawr, a'r gair gwelliant' arni mewn llythyrenau breision, ac yn ei hestyn i Syr W. Rose. Mae hwnw yn ei rhoddi yn gyntaf ar ei het, yna ar ei fynwes; ond y mae rhyw un yn ei dwyn o'i law, nes y mae yn myned yn ym- laddfa fawr o gylch y gadair. Mae Syr W. Rose yn ymdrechu yn galed am gadw meddiant o'r placard, ond y mae ei wrthwynehwyr yr un mor ymdrechgar i'w gymmeryd oddi arno. Maent yn dechreu dangos eu dyrnau, a newid cwpl o ergydion. Cafodd Syr W. Rose ergyd neu ddwy, felly hefyd y cafodd yr Arglwydd Faer yn bur drwm. Mae yn myned yn ffrwgwd wyllt rhwng Syr W. Rose ac Edmund Beales; ond y mae y ddau yn gwneyd i fyny ac yn ysgwyd dwylaw. Pan welodd yr heddgeidwaid fod yr Arglwydd Faer mewn perygl, gwnaethant gyn- nyg i'w waredu, ond yn ofer. Mae pab trefn wedi darfod—ofer cynyg siarad, ac mae yr Arglwydd Faer yn hwylio i fyned allan yn nghysgod ryw hanner dwsin o heddgeidwaid, heb roddi na'r cynnygiad na'r gwelliant i'r cyfarfod. Gwnaeth Mr Crawford a Mr Goschen, a Mr Al- derman Lawrence, aelodau seneddol, ac ereill gynyg i siarad wedi iddo fyned, a phan nad oedd neb yn y gadair; ond gwaeth na difudd oedd y cwbl, o blegid nid oedd yn bossibl elywed gair. Yr oedd ruffians gwaethaf St Giles a chymmydogaeth Drury lane yno, a gwelwyd dynion gwell eu gwisg yn eu talu 2s. 6c. i'r naill a Is. 6c. i'r lleill am dd'od yno i aflonyddu. Ac yr oedd yn gymmaint terfysg wedi hyny rhwng y eyflogwyr a'r cyflogedig am y tal fel y bu raid galw am help yr heddgeidwaid. A dyma y tylwyth sydd yn gofalu am grefydd ai e Fel hyn y mae y Toriaid yn gwrthwynebu twyll Pabyddiaeth, ac fel hyn y maent yn amddiffyn eu Heglwys yn yr Iwerddon Arfau eu milwriaeth ydynt gnawdol, a phyrth uffern a'u c-ynnorthwyant! Yr ydym fel gwlad yn ymffrostio yn ein rhyddid- rhyddid llafar, a rhyddid y wasg. Bu yma ddeddfau gorthrymus i gau geneuau pobl onest. Dilewyd yr hen ddeddfau caethion hyny. Ond pa leshad i ni yw hyny, os ydym i fyned dan ormes arall r Gwell genym ormes deddf ysgrifenedig ac adnabyddus, na gormes dyhirod cyflogedig cafelloedd aflanaf ein trefi mawrion.

DARGANFYDDIAD DYCHRYNLLYD.

CYFARWYDDIADAU I GOFRESTRU…