Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

8 articles on this Page

YD.

ANIFEILIAID.

MASNACH MARCHNADOEDD CYMREIG.

y BEDDARGRAFFIADAU, YN NGYSTAD-LEUAETH…

[No title]

News
Cite
Share

ME BRIGHT A'R TTTGEL.—Yn nghyfarfod diweddaf Pwyllgor Gweithredol Oyngrair Diwygiadol Edin- burgh, darllenwyd llythyr oddiwrth Mr Bright, A.S. | yn datgan ei obaith 'y gwna holl Gyiadut>raSau Diwygiadol y ymrni yn awr i gael y tugel; gan fod y dull hwnw o bleidleisio yn ol barn Mr Bright' yn rhan hanfodol o gyfundrefn cynrychiol- iad gonest.' AFIECHYD Y BARNWR MFLLOR.-Mewn canlyniad i afiechyd parhaus y Barnwr Mellor, ni bydd yn alluog i fyned i'r gylchdaith orllewinol, yn ol y penodiad gwreiddiol. YMWELIAD ME LONGFELLOW A PHEYDAIN.—Y mae y bardd Americanaidd enwog hwn yn awr ar ym- ymweliad a'r wlad hon. Derbynir ef yn groesawgar iawn. Urddwyd ef yn LL. D. yn Cambridge. Y CNYDATJ YN TURKEY.—Dywed y Times fod y newyddion sydd wedi cyraedd i Constantinople yn hysbysu fod y cnydau yn mhob parth o'r ymherod- raeth yn addaw bod yn hynod o doreithiog. MAB Y DIWEDDAR FRENHIX THEODOP.E.Dywedir fod ei Mawrhydi wedi arddangos ei dymuniad i fab y Brenhin Theodore gael ei ddwyn i'r wlad hon, a'i addysgu yma. CAREDIGRWYDD Y GWYDDELOD I'W PEETHYNASAU.— Anfonwyd y llynedd gan W yddebd America y swm dirfawr o 540,000p. i'w perthynasau yn y wlad hon. O'r swm yma anfonwyd 202,000p. fel rhagdal clud- iad i'r America. Y mae y Gwyddelod yn America wedi anfon er y flwyddyn 1848, y swm o 14.500,000p. i'r wlad hon. TYWYSOG YN CHWXLIO AM WRAIG.-Y mae y Tywysog Charles o Ronmania, yn edrych allan am wraig, ac y mae ar ymweled ag Ewrop i'r perwyl hyny. LLLTOSOGEWYDD TEOSEDDWYE.—Cafodd 14,207 o droseddwyr eu heuogfarnu a'u dedfrydu yn Lloegr a Chymru y flwyddyn ddiweddaf; 2510 yn yr Ysgot- land; a 2733 yn yr Iwerddon. COLEG NEWYDD NOTTINGHAM.—Agorwyd y Coleg newydd hwn i'r Annibynwyr yr wythnos hon. Cyn- hwysa le i o 80 i 100 o fyfyrwyr. Dechreuwyd y sefydliad oddeutu pum mlynedd yn 01, gyda'r amcan yn benaf o addysgu gweinidogion cymhwys i'r dos- barth gweithiol, ac y mae 40 wedi eu porotoi eisoes ynddo, heblaw 10 a gyflwynwyd i Golegau eraill. Cymmerwyd 30,000 o erwau o dir i fyny yn ddi- weddar gan ymsefydlwyr yn un dosbarth yn Nhal- aeth Minnesota yn America. Diswyddwyd Mr C. H. Holygate, trengholydd yn swydd Lancaster, am wrthod cynal trengholiad ar hen wraig bedwar ugain oed. Ei esgus oedd 'fod yn bryd i'r hen dd——1 i farw, 08 nad oedd hi yn meddwl byw byth.' Yr oedd llawer o gyhuddiadau eraill yn ei erbyn,—un oedd y byddai yn arfer ysmocio o bibell fer ar y trengholiadau. Yr oedd gan Syr R. Napier gydag ef ,ar yr 22ain o Ebrill, 7,365 o gamelod, 13,649 o fulod, merlynod, ac asynod, a 7,823 o ychain; yn gwneyd o g-wbl 28,830 o anifeiliaid i ofalu am danynt. t, Mae y diweddaf o'r rhai oedd ar "fwrdd y Hong genhadol y 'Duff,' wedi marw er y 29ain o fis Mawrth, yn Awstralia.—Y Parch Thomas Hassall, gweinidog i'r Eglwys Esgobaethol yn Awstralia ydoedd. Yr oedd yn 73 oed. Yr oedd ei dad yn.un o'r Cenhadon ar fwrdd y Duff; ac yntau yn fachgen gyda'i dad. Pan y gorfodwyd amryw o'r Cenhadon i adael ynysoedd Mor y De, sefydlasant yn New South Wales, ac felly y gwnaeth Mr Hassall, y tad. Cymerodd y mab urddau yn yr Eglwys Esgobaethol, a phriododd a merch i'r Parch Samuel Marsden. Dyna yr olaf o'r rhai oedd ar fwrdd y Duff wedi myned ymaith. Profwyd ewyllys y Parch Christopher Benson, un o Ganoniaid Worcester, ac yr oedd yn werth 130,000. Mae Dr M'Cosh yn myned drosodd i America i fod yn Llywydd Coleg Princeton. Mae trin garw na chynygid iddo gadair athroniaeth foesol prif ysgol Edinburgh, yr hon sydd yn awr yn wag. Y mae Leotard, y chwareu-gampwr enwog, yn ennill punt y funud yn Llundain,—ond ni chwareua fwy na chan' munud bob wythnos, am dymhor byr mae'n clebyg. Y TYWYSOG ALFRED.—Dywedir mewn llythyr a dderbyniwyd o Melbourne fod tros 320,000p. wedi eu gwario gan y Llywodraeth a'r bobl er anrhydeddu y Tywysog Alfred ar ei ymweliad diweddar a'r tref- edigaethau yn Awstralia.

Family Notices

RHOSYMEDRE.

Advertising