Skip to main content
Hide Articles List

10 articles on this Page

AT OLYGWYE Y 'TYST CYMKEIG,'

ADGOFION CYMRU LIVERPOOL.

NODION A NIDIAU.

YR ETHOLIAD.

DIGWYDDIAD YSMALA.

AT iNlEISTAP, TYST.

News
Cite
Share

AT iNlEISTAP, TYST. Wei done, machgen i! Pe dawn i yn agos atat ti mi gurwn dy gefen di. Ni fydd'dim use i Syr Wat- kin, na Price bach, na neb arall, roi y screw ar bobol hen sir anwyl Meirionydd, tra y da i di ati i dystio gwirionedd. Bydd yn dda gen i dy wel'd bob dydd Gwener, er mai o LerpAvl yr wyt yn dwad. A deyd ygwir iti, ni leicies i mo Lerpwl erioed mi fum i yno pan fyddai y coaches yn rhedeg, a byd mawr fyddai myn'd i gyfarfod y goach fawr i'r Ddwy- ryd. Dyna y lie cynta, ystalwm, y bydde pobol Penllyn yn cael coach pan fydde arnyn1; eisio myn'd i Loeger. Yr yd-vi yn coho mai pobl falch iawn fydde rhai Lerpwl, fel y mae nhw eto, o ran hyny, ac yr oedd dywediad ganddynt am bobol Lancashire —Bolton lads, Manchester men, Liverpool gentlemen. Dig-on tebyg eu bod yn meddwl mai gentlemen oedd- ynt am mai slave traders oeddynt, ond y mae y fun hono drosodd gyda nhw yrwan. Wel, yr an, bydd yn ddyn, a meindia dy fusnes dy hun, a rhaid imi ddweyd dy fod yn gwneyd hyd yma. Mae y Tystiau dwaetha yn dangos fod ene ddyn wrth eu pene. Dymi hin braf wedi dwad. A oes dim posib cael clowed genyt pan fydd excursions yn myn'd yma. ac acw. Fyddai yn leicio clywed am hanes yr excur- sions. Pe dawn i ddim yn gallu myn'd fy hun, mae nhwy yn agor tipyn ar lygaid pobol. Ond, bobol anwyl! y fath wahaniaeth sydd rhwng y Saeson a'r Cymry Bydd yn dda gen i mai Cymraes ydwi pan welai y fath set o rai mor ignorant a vulgar a rhai o'r Saeson eto, druain o honynt, mQ-wi\ factories mawr, neu o dan y ddaer, mae nhw y rhan fwya' o'r fiwyddyn, a phan welant hwy Llyn Tegid, neuAfon Menai, y Wyddfa a'r Aran, does dim rhyfedd eu bod yn colli dipyn arnynt eu hunain. Mae gen i achos arall i fod yn dda gen i fy mod yn Gymraes, ac o sir Feirionydd hefyd. Gwelais fap yn dangos cynnydd Pabyddiaeth; ac y mae ganddynt lawer o gapeli yn mhob sir yn Lloegr ond un, a Scotland ond tair sir, ond mae pump sir yn Nghymru heb yr nn, sef Meirionydd, ac Aberteifi, a Brycheihiog,* a Pen- fro, a Maesyfed. Go lew, Cymru; ond wfIt i sir Fflint, maent yn britho yno. Mae yr Eglwyswyr yn dyweyd mai cyfarfod Diwygiadol Liverpool sydd yn helpu i'r Pabyddion lwyddo. Druain o'r Eglwys- wyr; mac yr esgid yn gwas u, ac mae nhw yn melldithio cyfarfod Lerpwl a Dr. Eees yn enwedig. Wyddost ti be fyddai yn ddweyd wrth riw ddynes fydd yn dwad yma, ac mae arni of on y Pabyddion o'i chalon. Ewlwysreg ydi hi. Fyddai yn weyd tase Eglwyswyrs wecli bod yn Senters er pen oedd Besa yn teyrnasu, fuase yr un Pabydd yn Mhrydain yrwan. Wel druain o'r personiaid! Beth ddaw o honynt, yn enwedig y rhai aeth o golegau y Senters a'r b Methodistied, er mwyn cael bwyd a cliogi ? Beth ydi dy farn di am y pregethwrs sydd yn myn'd at y Saeson oddiwrth y Cymry ? Mi glowais rai a glowoedd Mr Oliver, Pontypridd gynt, wrth agor capel Llanberis, yn dyweyd ei fod wedi ei andwyo i fod byth gyda'r Cymry eto. Y fath bity! Dyn mor glyfar! Yr oedd yn seren o faintioli mawr. Clywais hefyd fod Dr. Eees wedi bod mor Hwydiannus a rhoi tair preg-eth mewn un oedfa—un iddo ei hun, un i'r bobol yn y set fawr, ac un i'r holl bobol. Wel done y'doctor! Yr oedd Mr Evans, Aberayron, yno hefyd. Dyna ddyn ddylai gael D.D. Mae bob gair o'i bregeth fel afalau aur mewn gem- waith arian" -yr un gair yn ormod na rhy fach. Mae'n debyg gen i y dwedi fy mod i yn barnu pre- gethwrs ormod. Dywedaf wrtha tithe, dy fod yn rhy ifangc i wybod — mai clyna fyddai gwaith merched Meirion 40 inlynedd yn ol, ac mae yr hen air yn dyweyd mai annodd ydi tynu cast o hen geffyl. Mae rhywun yn beio ar rai am fod yn hir yn darllen a gweddio wrth ddechreu cyfarfodydd mawr. Wel, yn siwr, mae gormod o hyny fe allai, gan mai i wrando pregethwyrs diarth y bydd y bobol hyny yn myn'd, ac nid i weddio nac i wrando gweddi ych- waith. Dyna y peth ola mae nhw yn feddwl am dano. Dyma fi wedi dwad i ddiwedd fy llith. P.S.—Daswn i yn Mrs Rothchild, buaswn yn gwneyd railway i ben yr Aran, a'r Renig, a'r Wydd- fa, er mwyn cael awel o wynt, ond gorfod aros yr ydw i yn GYMKAES 0 DROED Yn ARAIT. Nid yw Brycheiniog mor lan ag y meddylia yr hen chwaer mae yn Aberhondda gapel gan y Pabyddion.—GOL.

DIEWESTWYE A'R ETHOLIADAU.

LLYTHYRAU CYMEAES YN NGHANAAN.

CYFARFOD CHWARTEROL CYFUNDEB…

[No title]