Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

10 articles on this Page

AT OLYGWYE Y 'TYST CYMKEIG,'

ADGOFION CYMRU LIVERPOOL.

NODION A NIDIAU.

YR ETHOLIAD.

DIGWYDDIAD YSMALA.

News
Cite
Share

DIGWYDDIAD YSMALA. Mri. Gol.—Aethum ar fy nha-ith y dydd o'r blaen tua chymmydogaeth New Tredegar ac fel yr oedd- wn yn myned ymlaen, gwelwn dri neu bedwar o ddynion trwsiadus yn sefyll ar ochr yr heol; fe dro- ais innau tuag atynt, gan feddwl iddynt fy nghyfar- wyddo i dy fy nghyfaill. Ond och! er fy syndod, 'r oedd y dynion wedi eu meddiannu gan rhyw flit chwerthingar. Sefais yn hanner hurt, gan edrych arnynt. Yn wir, Mri. Gol., yr oeddwn yn credu yn ddiam- mheuol mai ar fy mhen i yr oeddynt yn chwerthin. Modd bynag, dywedais yn wylaidd wrthynt fy mod yn begio eu pardwn, a dywedais y rheswm fy mod yn troi atynt. 1 0 dear,' ebe un o honynt, peidiweh a meddwl, ddyn dieithr, ein bod ni yn chwerthin ar eich pen chwi—chwerthin yr oeddem ni am ryw ddigwyddiad ysmala sydd wedi cymmeryd lie yma.' Digwyddiad ysmala?' ebe finnau. I Ie,' ebeyntau ac yna aeth yn mlaen, gan adrodd wrthyf yr hanes am y digwyddiad ysmala. A braidd cyn iddo or- phen adrodd ei ystori, yr oedd pawb bron ymhollti gan chwerthin. Yr wyf finnau yn penderfynu gwneyd y' digwydd- iad ysmala' yn New Tredegar yn hysbys i chwi, Mri. Gol., ynghyda darllenwyr lliosog y TYST, gan obeithio na ddigwydd un digwyddiad mor blentyn- aidd eto yn New Tredegar nag yn unlle arall. Mae'n debyg fod rhyw fab a merch yn cyfeillachu a'u gilydd er's tfynyddoedd; ond ryw noson, aeth yn ffrae led ysmala rhyngddynt. Gwyddoch, Mri. Gol., fod llawer tro lied ddigrif yn digwydd weithiau tra mewn sefyllfa garwriaethol; ond dyma y tro mwyaf digrifol y clywais son am dano. Yr oedd y mab a'r ferch yn rhodio gyda'u gilydd. Digwyddodd fod bonet newydd ar ben y fercli, yr hon oedd yn neillduol o fechan. Y bachgen, gan wneyd sylw ar y fonet, a ofynai beth oedd y fonet fach oedd efo hi. O,' ebe'r eneth, bonet newydd ydyw.' 'Wel,' ebe'r mab drachefn, 'rhaid i minnau gael cap i fod yn equal i'r fonet fach yna. I Wel,' ebe'r eneth, os chwi ddaw a chap gyda A, ni ddeuaf byth gyda chwi wed'yn.' Modd bynag, hyny fu y noson hono. Pennodwyd noswaith arall i gyfarfod a'u gilydd, as 'roedd y bachg-en wedi cael y cap erbyn y noson hono. Pan weled 1 y ferch y cap, hi ddigiodd yn aruthr; ac y mae pob tebygolrwydd fod y cap wedi peri ysgariad rhyngdcJynt am eu hoes. Ychydig amser yn ol, meddai nhw, gallesid medd- wl fod y naill fel y llall yn curio mewn rliwydau cariad,' ac nad oedd dim ond angau allasai ddad- wreiddio y cariad hwnw, ac yr oedd wedi gwreiddio yn nyfnderoedd eu calonau; ond gwelwn fod ym- ddygiad y mab trwy wisgo y cap wedi peri i'r serch hwnw oedd gynt yn angerddol i ddiflanu, a'r cariad mawr hwnw oedd gynt fel mynyddoedd o dan eirias erbyn hyn wedi rhewi. Fy nghyfeiilion ieuaingc, cynghoraf chwi i beidio gwnenthur eich hunain yn destyn siarad i'ch cym- mydogion, ac yn sport ir ffyliaid. Nid yw y fath ffrae a nodwyd ond arwydd o benwendid yn hytrach na dim arall. Ydwyf, yr eiddoch, &c., • ■ R TALFAN.

AT iNlEISTAP, TYST.

DIEWESTWYE A'R ETHOLIADAU.

LLYTHYRAU CYMEAES YN NGHANAAN.

CYFARFOD CHWARTEROL CYFUNDEB…

[No title]