Skip to main content
Hide Articles List

10 articles on this Page

AT OLYGWYE Y 'TYST CYMKEIG,'

ADGOFION CYMRU LIVERPOOL.

NODION A NIDIAU.

YR ETHOLIAD.

News
Cite
Share

YR ETHOLIAD. Fonedaigon, Mae y frwydr etholiaclol fwyaf DAvysig a ymladdwyd erioed wrth y drwa ac yn ddiau, mae yn ddyledswydd ar bawb i godi ei lais dros ei ochr. Nid iawn i neb i esgusodi drwy ddy- weyd nas gall wneuthur ond ychydig. Mae pob peth a wneir yn bier o fod o ryw werth naill ai dros neu yn erbyn y gwirionedd, a gall pob un wneuthur rhywbeth, a gall y rhywbeth hwnw fod y gwelltyn diweddaf a dor asgwrn cefn y camel. Mae pi idiais y tlotaf mewn etholiad yn pwyso llawn cymmaint a plileidlais y cyfoethocaf; a gall, ac mae yn fynyeh, un vote yn penderfynu'r ddadl a throi y fantol. Ond hyd yn oed pe na buasai gobaith am lwyddiant ar y pryd, dylesid myned at y poll os bydd galw, oblegid gall wneuthur lies mewn amser dyfodol. Hyd yn hyn, mae ein cenedl ni wedi bod yn hir gysgu, a'r canlyniad yw fod sefyllfa bresennol ein cjomrychiolaetii yn warthus. Y prif achos o hyn yn ddiau yw fod corph v genedl wedi cadw oclcliwrth wleidiadasth fel oddi wrth ysgymunbeth, dan y grediniaeth nad yw politics a chrefydd yn gyfartal a'u gilydd. Camsyniad mwy erioed ni wnawd, o blegid y mae y naill yn anattodadwy gylymedig wrt i y llall. Hyny yw, credaf mai y eyfreithiau mwyaf unol a'r Beibl yw y rhai goreu er lies y wladwriaeth, a bod cael deddfau gwladol da yn gynmihorth mawr i lwyddiant a ffyniant crefydd. Mae'n wir fod gcnyni enghreifftiau o g'refydd yn llwyddo yn nghanol y tywydd mwyaf tymmhestlog, a blodeuo hyd yn oed ynglianol tan a r ffagodau, er gwaethaf pob deddf a chyfaith a roddid yn ei herbyn. Ond etto, gwell ganddi gyfreithiau cydweddol a'i liysbryd rhyddfrydig ei hun, a ffiaidd ganddi bob trais a gormes ar gyrph a chydwybodau dynion. Mae Prydain yn enwog drwy'r byd am ei rhyddid, ac mae hy, i yn hyn yn cadw'r blaen ar wledydd ereill y ddaoar; ond rhaid iddi etto ymysgwyd o'r llwch a tharo yn gryf yn erbyn yr anghyfiawnderau sydd yn aros ynddi, onite yn sicr fe gyll y flaenor- iaeth, ac fe symmudir y ganwyllbren allan o honi, o blegid yr ydym yn mhell iawn etto o fod yn meddu perffaith ryddid. Nis all fod rhyddid lie y mae Eglwys Sefydledig, a lie y mae unhryw fanteision i'w hennill wrth gTedu un ochr fwy na'r llall. Ni ddylem aros yn foddlawn yn ein sefyllfa bresennol, os gallwn drwy unrhyw foddion ei gwella. Ac nid oes neb a ddywed ein bod ni fel cenedl etto wedi ymdrechu hyd at waed dros ein hopiniynau politicaidd, gan ymladd yn erbyn anghyfiawnder. Mae tir lawer i'wfeddiannu, mae'r dydd yn fyr, felly rhaid i ryw rai weithio fel cewri cyn y gellir bloeddio goruchafiaeth ar elynion ein rhyddid. O'r diwedd daeth yr amser i weithiq; ac yn awr, pan y mae pwngc pwysig yr Eglwys Wyddelig wedi ei godi i'r gwynt gan un o ddynion mwyaf talentog ein senedd, rhaid i Gymru Ymneill- duol ymysgwyd o'r llwch, a gweithio neu ymfodd- loni etto i fradychu ei hegwyddoricn. Mae yn dda genym weled fod rhyw belydr o oleuni yn ymddang- os y dyddiau hyn, fod y wawr megis ar dori, a bod etto obaith am oleuni yn yr hwyr.' Mae Cymry Lerpwl wedi dechreu yn ardderchog. Na fydded iddynt byth golli eu sel a'u cariad cyntaf, a bydded i ddeuparth o'u hysbryd syrthio ar eu brodyr clrwy'r.holl wlad. 0 blegid cyn i'r demons- tration yn yr Amphitheatre wneuthur y lies bwriad- edig, rhaid i'r brwdfrydedd a'r tan yn y cyfarfod hwnw lynu wrth y deputations nes peri iddynt gofio a gweit io wedi myned gartref, nes tanio'r holl wlad o Gaergybi i Gaerdydd ag ysbryd cewri. Rhaid ffurfio canghenau o'r Gymdeithas Ddiwyg- iadol Gymreig yn ein prif drefydd, rhaid cynnal cyf- arfodydd, a rhaid dysgu'r bobl yn egwyddorion rhyddid a masnach deg, onite yn sicr fe ddiwedda'r holl dwrw presennol etto, mor bell ag y mae a fyno Cymru ag ef, mewn mwg. Mae ein gwrthwyneb- wyr yn gweithio gydag egni, ac mae yn sicr na ollyngant yr un gareg heb ei thori os breuddwydiant y cant rywbeth dani. Maent hivy yn benderfynol o weithio, canys mae yr anghyfiawnder presennol mewn gwlad ac eglwys yn peri elw nid bychan iddynt; o blegid y mae plant y byd hwnyn gallach yn eu cenhedlaeth na phlant y goleuni.' Y mae ein hegwyddorion ni yn sicr o lwyddo, ond ni lwyddant byth ond drwy gyfryngau ac heb i rywrai weithio a dioddef llawer drostynt. Ati ynte gyfeillion o ddifrif. Nid oes dim amser i'w golli. Mae 'r struggle wrth y drws. In the world's broadfield of battle, In the bivonac of life, Be not like dumb driven cattle, Be a hero in the strife.' Yr eiddoch, &c., Pontselly. W. J. E.

DIGWYDDIAD YSMALA.

AT iNlEISTAP, TYST.

DIEWESTWYE A'R ETHOLIADAU.

LLYTHYRAU CYMEAES YN NGHANAAN.

CYFARFOD CHWARTEROL CYFUNDEB…

[No title]