Skip to main content
Hide Articles List

5 articles on this Page

.AT Y CYHOEDD. F» «r?. ' J

Advertising

YR ETHOLIAD CYFFREDINOL.

News
Cite
Share

YR ETHOLIAD CYFFREDINOL. Yr ydym yn bresenol fel gwlad, mewn cyf- nod tra phwysig, gyda golwg ar y modd yr ymddygwn yn ein cyssylltiad a'r Etholfraint, yr hon y gelwir arnom i'w defnyddio yn newis- iad ein cynrychiolwyr yn yr Etholiad sydd yn agoshau, a'r ffiigr a dorwn y pryd hwnw ger bron ein llywodraethwyr gartref, a gwahanol genhedloedd Ewrob, y rhai sydd ar hyn o bryd yn Ilygaid i gyd, ac yn manwl syllu ar ein hysgogiadau. Mae yr eangiad diweddar ar gyleh yr Etholfraint ar ddyfod i brawf pwysig; mae sibanerau gwahanol bleidiau gwladwr- iaethol i'w clywed yn yr awelon yn mhob man o'n hamgylch; gwneir appeliadau atom am ein pleidleisiau ar wahanol egwyddorion, ac heb unrhyw egwyddorion o gwbl; a mawr yw y dyfalu beth fydd canlyniadau yr Etholiad Cyffredinol nesaf; a pha un ai gwell ai gwaeth fydd ein sefyllfa fel gwladwriaeth, oblegid llu- osogiad rhifedi yr Etholwyr, a'r dylanwad a'r pwysau a ddug y rhif ychwanegol i glorianau yr etlioliadau yn y Bwrdeisdrefi a'r Siroedd. Eglur yw, fod o'r pwys mwyaf i'r etholwyr ystyried a ehredu, mai eu heiddo hwy eu hunain, ac i gael ei defnyddio ganddynt hwy eu hunain, yw yr etholfraint, ac nid eiddo y llywodraeth- wyr, na phcrchenogion y tai a'r tiroedd. Y mac ein trefniadau gwIadwriaethol ni yn y blynyddoedd a'r oesoedd a aethant heibio, ac yn y dyddiau hyn hefyd i raddau helaeth, wedi peri i ddynion feddwl, ac yn peri iddynt feddwl yn barhaus, mai nid eu heiddo pcrsonol hwy yw yr ethblfraint. Wrth weled y llywodraeth yn caniatau i ddosbarth ar ol dosbarth gael bod yn etholwyr, tueddir llawer i dybio fod yr etholfraint yn wreiddiol yn perthyn i'r llyw- odraeth wladol; ac wrth weled fod pleidleisio mewn etholiadau yn perthyn i feddiannwyr a deiliaid tai a thiroedd, tueddir rhai i feddwl mai i'r tai a'r tiroedd hyny rywfodd, y perthyn yr etholfraint: ond gan na all y tai a'r tiroedd eu hunain bleidleisio, fod y rhai sydd yn eu dal yn gwneuthur hyny drostynt. Ond pa fodd y gall yr etholfraint fod yn eiddo i'r llyw- odraethwyr, pryd y mae y dosbarth pwysicaf o lawer 0 honynt yn cael cu dewis i lenwi eu lleoedd gan y deiliaid eu hunain ? Ac nid oes fwy 0 berthynas rhwng yr etholfraint a choed, a cherig, a phridd, a morter, tiroedd a thai, nag sydd rhyngddi a niwloedd ein hafonydd, a'r cymylau a nofiant yn yr awyr uwch ben ein byd. Eiddo naturiol pawb sydd mewn oedran a synwyr, ac yn talu tuag at gynal y 4 llywodraeth, yn union gyrcliol neu yn anunion- gyrchol, ac heb fod 'yn garchitrorion oblegyd txoseddau, yw yr etliolfraint. Mae yn eiddo iddynt fel eu haelodau corphorol, ii'il 'cynneddf- au eneidiol, pa' un bynag a ganiateir iddyiit ei dc-fjiyddib ai na wneir. Nid pCA a roddir i w, gin ddynion eraill, ond peth a bClthyn iddo mor r sy.dd am. ei gn-awd a'i osgyra. ran y mac y. llywodvaeth- wyt'yn caniitau i ycKwaneg o'r-deiliaid fod yn etholwyr, nid rhoddi rhywbeth iddynt nad oedd ganddynt hawl naturiol iddo o'r blaen y maent, ond dyfod yn gyfiawnach, yn raddol, tuag at y wladwriaeth; ac nid yw yr ysgrif ddiwygiadol ddiweddaf mwy na'r un a'i blaen- orodd, ddim ond ernest o ddiwygiadau mwy cyflawn ac effeithiol a ddygir oddiamgylch yn y dyfodol. Yn awr, os nad yw yr etholfraint yn perthyn i'r llywodraeth, nac i'r tiroedd a'r tai, llawer llai y perthyn ei rheoli i dai a thir- feddiannwyr; ac y mae ei gwneuthur yn bwnc i fargeinio yn ei gylch wrth osod tai a thiroedd, yn fradwriaeth yn erbyn hawliau naturiol dyn- ion; ac y mae bygwth dynion, a dial arnynt, oblegyd y defnydd cydwybodol a wnelont o honi, yn orthrwm a'r fath ysgelerder, fel nas gellir cael geiriau digon cryfion i'w osod allan. Eiddo yr etholwr ei hun, ac nid eiddo na meistr, na barwn, nac arglwydd ya y wladwriaeth yw yr etholfraint. Byddai fod argraff annileadwy o hyn ar feddyliau yr etholwyr yn gryn rag- barotoad i gyflawni eu dylcdswyddau yn gyd- wybodol, ac yn effeithiol yn yr etholiad cyffred- inol sydd yn agoshau. Heblaw yr ystyriaeth yna, dylai pob ethol- wr ystyried yn ddifrifol, fod ei waith ef yn pleidleisio yn dal perthynas, nid ag ef ei hun yn unig, ond a lluoedd lawer, a nifer fawr o'r cyfryw yn rhai na feddant unrhyw bleidlais mewn ethol aelodau i'r senedd, ac ar yr un pryd, yn ddynion mor sobr, deallus, a diwyd gyda eu gorchwylion, ag yw yr etholwr ei hun: ond yn ol trefniadau presenol y wladwriaeth, y mae eu materion hwy wedi eu hymddiried i'w ofal ef i raddau helaethach nag a feddylir yn gyffredin.' Y mae yr etholwyr yn aelodau o gymdeithas luosog Prydain Fawr; a dylai lleshad cyffredinol y cenhedloedd sydd yn cyf- ansoddi y gymdeithas hono fod o flaen eu medd- yliau wrth arfer eu hawlfraint. Mae yr ethol- wyr yn hyn fel yn mhob peth arall a berthyn i ddyn fel dyn, dan y ddeddf sydd yn dywedyd, Car dy gymmydog fel ti dy hun.' Nid yw i geisio ei leshad ei hun yn unig, ond lleshad llaweroedd.' Mae ei gyfrifoldeb yn fawr iawn. Daw pleidiau yn y wladwriaeth dan ei sylw yn naturiol, a honiadau y pleidiau hyny. Digon tebyg na fama efe fod yr un o'r pleidiau hyny y peth y dymunai efe iddi fod; fod pob plaid yn gwastraffu arian y wladwriaeth yn dra anystyriol ar amddiffynfeydd diwerth, ac yn ail adeiladu ac yn ail arfogi ein llongau rhyfel, fel plantos yn difyru eu hunain, a bod ein treuliau mewn adeg o heddwch a'r holl fyd, yn aruthrol; a pha blaid bynag a fo wrth y llyw, nad oes fawr o debygrwydd ei bod o ddifrif am ysgafnhau beichiau y wlad. Mae hynyna yn rhy wir ysywaeth. Er y cwbl, gan fod yn rhaid i'r wlad gael ei llywodraethu gan ryw blaid neu gilydd, y pwnc y dylai etholwr ei ystyried ydyw, Pa blaid yn y wlad hon sydd wedi bod yn fwyaf ffyddlon i egwyddorion rhyddid gwladol, rhyddid crefyddol, rhyddid masnachol, a'r cyffelyb; a pha ddosbarth sydd yn awr yn debycaf o gario y pethau hyn yn mlaen yn y blynyddoedd dyfodol; ac wedi ystyried pwy fo debycaf 0 leshau y wlad yn gyffredinol, er pob rhyw ddiffygion a berthyn iddynt, na i-used roddi ei bleidlais 0 du y cyf- ryw, heb geisio ffafr, nac ofni gwg undyn. Ond ofni yr ydym, na fydd unrhyw fesur 0 ddiwygiad, gyda golwg ar yr etholfraint, yn ansawdd bresenol llawer rhan o Gymru, ond, llythyren farw a gwaeth na hyny, hyd oni cheir amddiffyniad trwyadl i etholwyr rhag dioddef anfanteision oddiwrth eu huchafiaid, • pan ddefnyddiant yr etholfraint yn groes i rag- famau y cyfiyw. Y tugel sydd eisiau, a hwnw a raid gael, cyn by thy gallo y wlad amlygu ei barn yn ddiofn a diogel. Diau y ceir yn yr etholiad nesaf, fel mown rhai o'i flaen, engreifft- iau gogoneddus o annibyniaeth meddwl, a gwr- oldeb personol: ond digon tebyg hefyd yr am- lygir ofnau, a gwaseidd-dra llawer 0 galonau. Mae golwg ar etholiad yn peri i ni yn wastad gymysg deimladau. Byddwn yn mawrygu un dosbarth yn fawr, oblegyd eu huniondeb a'u cydwybodolrwydd. Byddwn yn tosturio yn ddirfawr wrth ddosbarth arall. A byddwn yn ffieiddio y trydydd dosbarth, yr ydym yn ofni, tu hwnt i derfynau priodoldeb. Ond y mae pob golwg a geir ar y natur ddynol, dan wa- hanol amgylchiadau, yn addysgiadol dros ben; ac fel y eyfryw, maent yn werth eu hastudio.

COFRESTRWCH! COFRESTRWCH!!

LIVERPOOL A'R CYLCHOEDD.