Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
6 articles on this Page
NODION A NiDIAU.
NODION A NiDIAU. Aspri ar y Yellow Cliolce,-s-sef adolygwyr cyfar- fodydd pregethu, am gael pregethu eu hunain. Cy- hoeddwyd cymmanfa iddynt. Yn y gynhadledd am ddeg o'r gloch, darllenwyl yr holl adolygiadau gy- hoeddwyd gan yr urdd y deuddeg mlynedd diweddaf, er mwyn cadw pawb o honynt hwy rllag syrthio i'r unrhyw golliadau. Yn y gynhadledd am ddau o'r gloch, darllen a beirniadu manuscrIpts y rhai oedd yn inyned i arfer eu doniau. Y lie yn wreichion byw at y drysau. Dadleu a fflamio lies llwyr losgi pob gair coeth yn y Geiriaduron, pob deddf gaeth mewn Logic, a rheol deg mewn Rhetoric. Amryw yn dianc adref am eu heinioes. Pawb yn gwrthoddechreuyr oedfa gyntaf. Rhoi swllt i hen bregethwi* Wesley diniwed am wneyd hyn i achub eu pen. Mr Adol- ygwr Logic yn cynnyg pregethu-colli golwg ar ddynion, gweled miloedd o ser, myn'd yn. ynfyd, syrtliio i lewyg! Mr Adolyg-vvr Rhetoric, yr hwn oedd i'w ddilyn, yn slipio i lawr, ac' yn dianc nerth ei garnau tuag Ogof Swildod. Y gynnnulleidfa yn chwalu, heb obaith mwy ei chael at ei gilydd. Mr Adolygwr Good Taste yn dod attaf, ac yn cymmeryd ei lw na adolygid yr un cyfarfod pregethu am chwarter canrif, os addawn beidio anfon adroddiad llaivn o'r Gymmanfa i'r TYST-cydsyniais a hyn a biti drosto ef a'r urdd. Nid yw Eglwys Tabor y Mil Mynyddoedd am weled gwyneb y Grwgnachwr yn dod iddi. Wrth borth Eglwys St. Mair boreu Sabboth di- weddaf. Cyfrif y gynnulleidfa—dau-ar-bymtheg, a chi a gast. Synu mor lleied o honynt oedd yn Eg- lwyswyr gwreiddiol—dim ond pump, a 'Black Prince,' Plas Henllys. Yr oedd y lleill yn hen Ym« neillduwyr, wedi ffoi yno ar ol y drydedd ddisgybl- aeth ar ddeg ar hugain, neu yn amser tramgwydd, neu mewn awydd am blesio y gwyr mawr,' neu am fod yn fawr eu hunain. Golwg siomedig- amynt i gyd, ond Fanny yr ast felen—bariiai hi ei bod yn cael mwy o le a llonydd yn yr Eglwys. Nid wyf am adael i Disraeli fy Jcwio i a'r wlad yn bellach na Rhagfyr nesaf-felly bydded ef a holl weinidogion y Goron yn ofalus gyda'u cyflogau o hyn hyd hyny. Chwerthin wrth ddarllen yn ngwaith Dr Doran am beriglor a'i gurat yn pregethu yr un bregeth. Yr oedd y ddau wedi bod oddicartref ynngwyliau yr haf. Prynasant fwndel o bregethau bob un, wedi eu lithographio, er mwyn diwallu y plwyfolion ar eu dychweliad. Digwryddodd i ran y cu;atbiete':huyn y boreu-yr oedd y periglor wedi myned i roi oedfa i frawd cyfagos. Boddiodd y curat y gynnulleidfa yn fawr. Synent gymmaint o les oedd newid awyr wedi wneyd i'w alluoedd meddyliol. Dyna si a siarad pawb. Dyfod i'r oedfa yr hwyr, mewn dis- gAvyliad fod y periglor wedi cael yr un adnewydd- iad. Cymmeryd ei cl,styn-yr un ag oedd gan y curat yn y boreu. Y rhagymadrodd yr un fath, oddiyno i'r canol yr un fath, ac fcllv yn y blaen yr un fath hyd y diwedd. G wen wawdus ar wyneb pawb. Neb wrth ei fodd ond y periglor ei hun, gan na wyddai ddim am bregeth y boreu. Y curat yn gwrido ac yn gofidio. Tra thebyg iddynt fyim cael gwell dealltwriaeth a'u gilydd byth wedi hyny. Nid oes dim cymmaint o ddynion ieuaingc sir Aberteifi yn parotoi i fyned yn offeiriaid. Call iawn -y maent yn deall arwyddion yr amserau. Nid yw mor hawdd i offeiriaid gael g-wragedd cyfoethog ag y bu. Eithaf athronyddol. Myned i amryw ffeiriau--barnu y byddai yn well i lawer droi adref yn gynarach. NID N OCTIVAGUB- Duw CWSG.
ANERCHIAD I'R PARCH. D. PRICE,
ANERCHIAD I'R PARCH. D. PRICE, Newmark, Ohio, ar ol ei glywed yn darlithio yn Liverpool. Ein hathraw sy'n wr llaAven, Didwyll a pharod ei awen A pharchus yn N ghymru a Llundain, Ail i Garibaldi ar ymweliad a Piirydain, Areithiodd prif fardd y Taleithiau Yn gampus, a dnyr ei ddoniau, Ar Abram Lincoln a'i Amserau'— Yn ail i angel y bu am oriau. Hwn oedd ddydd i'r Cymry dd'od, A'r beirdd o awen barod, I glywed Price sy'n fawr ei glod, A'i ddoniau yn ddiddarfod. Darlunio gorthrwm caethwasiaeth, Ac erchyll rwygiad dynoliaeth; A Jeffri a'i stinking lywodraeth— Glory i Lincoln, fe gafodd fuddugoliaeth. BARDD ALED.
FFYNNOi>f TitE'LATH.
FFYNNOi>f TitE'LATH. Pob gwlad yn gyffredinol, Rhowch glust i wrandaw 'n siriol: Bydd dda gan bawb, mi goelia'n siwr, Gael hanes dwr meddygol. 'Rwy'n teimlo arnaf awydd, Yn ddiau, mae 'n ddyledswydd, Fynegi am beth o gymmaint pwys, Sy'n gorpwys mewn distawrwydd. Mae Ifynnon wedi ei ffeindio Yn Mlaenau, plwyf Llandilo, Yn sir Frycheiniog-nid ffordd bell, Sydd o Drercasteil yno. Ar dir Trelath mae 'n tarddu, Ac mae ffordd uniawn ati; Gall pob dieithr ffeindio 'r fan Yn rhwydcl o Lanymddyfii. Mae 'n ymlid pob clefydau I ffwrdd oddiar ei gianau; Gwna'r cloff i lamu fel yr hydd, Gwna'r claf yn rhydd o'i boenau. Hi esmwytha 'r blinderog, Cryfha y gwan ei stumog; Gwella pawb yn union wna- Mae 'n ffyunon dda odiclog. lachusol yw 'r awelon Sy 'n ciiwytiiu dros y ffynnon, Maent mor effeithiol ar y wlad Fel nad oes neb yn gleifion. Un da yw dwr Llanwrtyd, A dwr .Li.audri.ij.uod üeryd; Ond gwell na'r ddau yw dwr Trelath At bob math o afiechyd. Y mae, yn ddiammheuaeth, Yn berifaith feddyginiaeth; Rhodd yw hon i ddynolryw 0 eiddo Duw Rhagluniaeth. Ac etto, ar y terfyn, Rhof newydd dda i'r werin: Mae meclclyginiaeth ynddi i ga'l, Heb ddisgwyl tal gan undyn. Dweyd rhagor nid oes eisiau, Am y ffynnon a'i rhinweddau; Gwnewch brawf o hon, dywed pawb cyn hir, Mai digon gwir yw 'r geiriau. J. VV » JT,
THOMAS JONES,
THOMAS JONES, Mil) James Jones, Boat Builder, Rhfd-y-fclen, ger Pontypridd, yr hwn a fufario Menefin 28ain, 1867, yn 5 mlwydd oed, Thomas bach sydd wedi diangc Ar bechodau 'r byd o r bron, A igau ddaeth i 'mofyn Thomas At y dyrfa ddisglaer Ion; Ac am hyny sychwn ddagrau, A gweddnvn tra yn iach, Am i ni gael bod yn barod, I gael myn'd at Thomas bach. JACOB.
Y DIWEDD AR T. D. JONES, GWEIiiYOGLE.
Y DIWEDD AR T. D. JONES, GWEIiiYOGLE. I fri mawr a Idy^ yn fora-i moriodd, A hy trwy ei ddawn yn mhe l treiddiodd; Fiytidlaw-i a oiijUu, ei uuji udyi chaiodd, I risiau caiu liwydd^ant yr e.- gyiioclu Da was Seion—hon fywhaodcl—Ow lei, Ei fywyd ddarfu—i'r nef ehedodd! Gwemoglc. GWlLDI CLYDACH.
PLAS MARL, GER ABERTAWY.
^an^a^awn ei fod yn rhyddfrydwr, felly rn f^lcbard ei fod yn gefnogwr penderfynol i Mr Gladstane, felly Mr Richard ei fod yn bleidiwr i'r Tugel, felly Mr Richard; ei fod yn bleidiwr i os- tyngiad y trethi, pa faint mwy JVTr Richard; ei fod yn wrthwynebol i bob mesur sydd yn gwasgu ar y gweithiol (beth am y Truck Shop r), onid y Mr Richard felly; ei fod yn awyddus i weled ein prifysgolion wedi eu taflu yn agored i bawb yn ddi- wahaniaeth, felly y mae Mr Richard. Dyma gasgl- i X Gohf%dd o'r De, a chasgliad digon naturiol Os nail ellir g-alw Mr Fothergill yn rhyddfrydwr J;Wyadl, nis gwn i pwy ellir alw wrth yr enw hwnw.' ithaf da, y mae Mr Fothergill yn rhyddfrydwr proitesedig da, y mae wedi proffesu proffes dda, ond y mae Mr Richard wedi prof, ei hun drwy lawer o flynyddoedd yn rhyddfrydwr trwyadl. Yn mhob Psrthynol i'r ffydd ryddfrydig y mae Mr ichard Ilawn cystal a Mr Fothergiil, ond y mae Mr ichard yn ymneillduwr ac nid yw Mr Fothergill Gan fod wyth o bob deg o'r boblogaeth yn neillduwyr, onid yw cyfiawnder yn gofyn am i'n jmneillduaeth i gael ei chynnrychioli, yn neillduol i .ve -J mae cysylltiad crefydd a'r wladwriaeth yn j'll "Wnc y Senedd. Gof ynwn i'r Goliebydd o'r De *y. y dylai yanneillduwyr Merthyr ac Aberdar p Curied eu hachos fel ymneillduwyr ? ai i Mr ryddfrydig r i Mr Fothergill ryddfrydig? yn au xMr Richard ryddfrydig ac ymnciliduol hefyd? n, T> y Giohebydd bellach mai ar Yinneillduaeth y •i^0 V^^S"01' Richard wedi cymmeryd ei safle, '0 ar hwnw y mae yn penderfynu sefyll a chodi ei sl™(ir- Er fod y tri yn rhyddfrydwyr, un yn unig w (Tri ymneillduwr, ac y mae ffyddlondeb i'w eg- ,l7 ^on yn l,awlio eael pleidlais pob ymneillduwr ?? yr un hwnw—Henry Richard. VrW ydym yn gwybod trwy ba gyfrwng y cafodd fydd y De ar ddeall fod sefyllfa pethau y fath Pi yr ofna mai mantais wan fydd ganddo (Mr Ah e* ddychwelyd dros Merthyr Tydfil ac lYifif r yn ei'byn dynion o fath Mr Bruce a Mr am rgilL Yn Merthyr Telegraph, awdurdod di- lpfi? ou°l ar y -cwestiwn mewn cysylltiad a Mr a Richard, y mae llinell fel hyn,— the in doubt but that he (Mr Richard) will 'head Ie poll., Dyna ddywed awdurdod lleol yr hwn UP! d thv scenes, ac yn gweled yn eglurach na vn y11 yn Llanellv, beth sydd yn myned »wir am cTani ydyw hyn' tra y x>. yanneillduwyr yn ranedig gvda golwg ar Mr enilf •* 1?Ir fothergill—rhai yn bleidiol i'r naill, eithriaH y mae F ho11 ymneillduwyr (gyda'r Richard ° n"8g01 feclian y ]Dr-) y1! imo1 am Mr e»'lw 0e's ynia bedwar ymneillduwr am bob neu dyweder 3 ymneilldiiwr am bob ftvrlrll Wl' yn e^°lwyr, os bydd yr ymneillduwyr yn vdyin °U a° Un°b ond yr eithriad a nodwyd, nid Rich mai mantais wan fydd gan Mr fvdrt~- •' -wgTyma y Gohebydd mai dymunol Nv or. •1'1a 1 bwyUg°r Mr Richard a phwyllgor Mr Foth- a'u gilydd, a dyfod i ddealltwriaeth fori 1 • a 1 ■^•C 08 na pleidwyr Mr Richard S1Cnvydd. y ca^ e' ddychwelyd y byddai yn •er S'well iddynt beidio ei gynnyg. Nid ydym \v, u"t;led i ba ddyben' y cyfarfydctent; nis gallant ^neud comprom is?, oblegid fel ymneillduwr saif Mr ichard wrtho ei hun yn mhlith yr ymgeiswyr y ^oniwn am danyiat. Ceisio gan Mr Richard i wadu ymneillduaeth er mwyn cael ei ddychwelyd i'r Senedd, fyddai y sarhad penaf ellid osod arno. A chael gan Mr Fothergill i ddyfod yn ymneillduwr inwyn yr un peth, fyddai cael ganddo wneud yr ,}yn y byddai pob ymneillduwr cydwybodol yn barod IT .ddirmygu a votio jai ei erbyn am ei wneud. aid i r ymneillduwyr gael eu hymneillduwr, a li)"y ao-id iddynt fod yn unol a pbenderfynol a pneidio gwrando ar frodyr gau. CYNWYD, GER CORWEN. CYMlTAXFA BLODEIT'R OES. fioB,?ia^-57ina 8Tmmanfaoedd pregethu a chymman- lawe • o- wedi 130(1 y11 Edeyi-nion o'r blaen, ond ni fu yma yr un gym- T\r ddirwestol o'r blaen. 0> liefinvti^^ y 8'r>b,'ithio y tnasai yr lleg o Fe- nhaTtrT ddlwl*nod braf, ac felly y bu. Yn y pryd- Oorwe' -^lodeu'r Oes, Cynwyd, a Blodeu'r Oes, urddercho^ 8'or->rnaclcitllio' Pryd y1' oedcl y banerau seiriin yn chwifio yn yr awelon, a'r canu yn ad- Yn V 1-S ynu *Yhv 7* h°U wlad yma. r>edd iv •!iV.edd' aethant yn orymdaith i'r maes, lle'r iVttmo i i°' dadleu, adrodd, holi'r plant, a chanu i eistedd^i. ^'r cannoedd. pobl a phlant T tvfirlo; C (dw3'd y Parch J. Lewis (A.) i gymmeryd i wrand1"' ^ddo alw ar Owen, Corwen, vr nri J.v ar adr°ddiad Daniel v. ac i weddio, cawsom Wed v. a £ >01'iad°l ganddo. v rha: 1 kyny, galwodd ar y plant i fray i'r stage, sef baro+^ adrodd yr ymddiddan oedd wedi ei Corw-eri e/rryn yr ade^ s'an Jr i>arcJl Williams, ^annmi V' C-)- Aeth y Plant drwy ou gwaith yn fwiaawy iawn. lc* aWn i fanylu ar weithrediadau y cyfarfod, nag am fod y cwbl yn haeddu canmoliaeth ^1 lawn. y p °lwyd y pla,nt yn y burned bennod o Daniel gan t'od^rC^" ^ewis' sef hanes gwledd Belsassar. Ad- 'r,d^gaud amryw ddarnau gan y Plant ar wahanol \wir0itllil,vyd ar walianol reolau Blodeu'r Oes, Cyn- *iaC' iIr °- Roberts, Cynwyd, Parch. W. Will- ;tr O HI°NVEN' a'r Parch R- Morgan (W.). Y cyntaf Oes Tx? a'r ail ar arwyddair Blodeu'r tmi-tr^j Hyfforddia blentyn yn mhen ei ffordd;' a'r ygdd ar Ddirwest.' gan Mw^d y gyni}u^eidfa ar wahanol byngciau ac J; Q "arson, station master, J. Evans, myfyriwr, ]\Ir Pars^eu' Oorwen. Yn Saesoneg- yr areithiodd ^awer ° ddarnau swvnol iawn gan y ii. a.ai1 arweiniad Mr H. Davies, Corwen, a Mri /anas a J. Edwards, Cynwyd. AvuoL?1 yhoddi diolchgarwch i Mr .J. Edwards am $G ac Gistedflleoedd cysurus i'r holl gynnull- ln'perw7d i blant Corwen eistedd ynfwrddeidiau, oedd Iyn uldynt gael bu»s gan yr apostolion. Nid odd n t,yr Un fasgedaid yn llaw)1 ar ol. Ymadaw- -^jPawb fel wedi eu boddhau yn fawr iawn. :fel IWYddiaVlt i Flodeu'r Oes i symmuc1 peehodaii, cyfeiriodrl un o'r areithwyr, yw lilyTii-Liniacl- L,-ie Vila. (hy CAERFYRDDIN. Villains yn brccmsta gyda myfynoyr Coley Y Caerfi/rddin. a'r 1(^odd Mr Williams a' r dref hon er cyfarfod gheu o^r^y1"' y ,dud sydd wedi ymgorphori yn gan- 0deithas Rhyddhad crefydd. Cafwyd a''dal(wi^110,s Fawrth o aelodau y gymdeithas yn yr faferion cylchynol. Ymdrafodwyd a ^wahanol Y cadei^ ^jd^ cafd araeth bwrpasol gan Mr Williams. Boreuyi oedd y Parch H. Jones, Tabemacl. ^"c.sta. 3'dd Mercher, am naw, dechreuwyd brec- eyfraii0o. ^ed^ ethol Pro feswr Morgan i'r gadair, ■"lae Pawb yn galonog o'r danteithion. Y v.arPy' Arms, yn deilwng o ddi- am y am barotoi mor ardderchog, heb ofalu • CaW1:L'rdrafforth. ^'lau y'r, °yfarfod i rydd-ymddiddan ar amgylch- %fodol y^'lcithas, a'i rhagolygon gobeithiol yn y Ir' y rnyf j-rwyr, yr oedd Mr Williams, Pro- y Pn-l>li?aT1' y Pi'offeswr Evans, y Parch Z. Lyt- r H0ft-e?i Da-vies, Peniel, Mr S. B. Rogers, a C0,E Photographer, yn bresennol. DOleg ]. CAEP-],-YDDIN. -Y mae Mr W. Williams, o'r |idarnha 'lWed/ ateb galwad o Clarach a Borth yn a/j. Q Clywsom fod yr ordination i fod ar y t*avies °'r mis nesaf, pryd y bydd y Parch E. Abergele, a Hwfa Mon, Llundai i, yn IVRDEISDEEFI CAEEFYEDDIN.—Y mae ewyUt yma am fod Mr Morris, yr Aelod Seneddol presenol yn gwrthod addaw sefyll eto. Y mae Mr Morris wedi bod yn Aelod rhagorol fel ]1 idleisiwr Rhyddfrydig-. Y mae yn wir resyn ei fod yn cilio o'r maes pan y mae fwyaf o angen ei fath. Yn awr, pa le ceir olynydd iddo a fydd yn deilwng o Ryddfrydwyr ein trefydd? Myner Whig o'r iawn ryw. Now let us be up and doing! Bydd gan ryddfrydiaeth nerth mawr adnewyddoi yn Llanelli. HERMON, GER LLANDILO. Mehefin yr 16eg a'r 17eg, cynhaliwyd cyfarfod ar yr achlysur o agoriad capel newydd Hermon. Pre- gethwyd yn y gwahanol gyfarfodydd gan y Parch- edigion W. Jenkins, Pentre Estyll; J. Davies, Caer- dydd T. Davies, Llanelli; a B. Williams, Canaan. Allan ar gae hynod o gyfleus a pliwrpasol y dygwyd y gwasanaeth yn mlaen yr ail ddydd, ac yr oedd yno dorfeydd yn gwrando yn astud ar y pregethau grymus ac ymarferol a draddodid. Ar y diwedd, rhoddodd y Parch E. Jones, Crugybar, grynodeb byr o hanes yr achos yn y lie. Mae Hermon yn awr yn un o'r addoldai harddaf yn yr holl wlad. Dan- gosodd yr ardalwyr fel arferol garedig-rwydd a hael- ioni mawr.— Un oedd yno. CARMEL, LLANSADWRN. Traddodwyd darlith yn y llo uchod nos Fawrth, yr lGeg o'r mis hwn, gan y Parch J. R. Kilsby Jones, ar Jolui Penry y Merthyr.' Cawsom ddar- lith wir dda.. Gwnaeth y darlithydd enwog i ni chwerthin yn iachus ac wylo yn rhwydd drwy ei hyawdlecld anorchfygol. Cymmaint oedd y dorf ddaeth yn nghyd, fel y gorfuwyd myned allan i'r awyr agored. Llanwyd y gadair gan y Parch E. Jones, Crugybar. Siaradwyd hefyd gan y Parch T. Davies, Llandilo, ac eraill, ar y diwedd, ac ymadaw- odd pawb wedi mwy na'u llwyr foclcllon. TV. -le. Davies, Bethlehem. ST. CLEAR'S. Cynhaliwyd Cymanfa Ysgolion Bethlehem, St. Clear's, eleni dyddMawrth, yr 16eg cyfisol. Am 10, wedi ethol Mr T. Rees, Bishop's Court, hen ffrynd profiedig i'r ysgol Sabbothol, i lywyddu y cyfarfod, dechrenwyd trwy ddarllen a gweddio gan Robert Salmon, (M.C.), Llansawel. Hohvyd ysgol Ffynon Bedr yn Actau xxii. 1—21, gan S. Thomas, Bethle- hem; ysgol Rhydyceisiaid yn 2 Cor. iii., ga,n A. Jenkyns, Gibeon ac ysgol Betlilehem yn Rlmf. xii., gan weinidog y lie. Gorphenwyd trwy weddi gan D. Williams, (B.), Salem, Am 2, darllenwyd a gweddiwyd gan J. Jones, (M.C.), Mydrim. Holwyd ysgol Gibeon yn Rhuf. v., gan J. Jones, Rhydyceis- iaid; ysgol Elim yn 1 Thess. v., gan ei gwoinidog ei hun ae ysgol Capel Mair gan J. R. Thomas, Beth- esda. Gorphenwycl trwy weddi gan E. Jones, Ffynon Bedr. Yr oedd y newydd wedi eyraedd y lie ganol dydd fod gwraig ieuanc, 26 oed, un o fFyddloniaid ysgol Capel Mair, wedi gorphen Bliii daith yr anial wlad,' ac wedi myned, yn ol barn pawb a'i liadwa;nai, I cldechreu can am farwol glwy', Na chlywir diwedd ami mwy.' Yr oedd hyny, yn ngiiydo naws y cyfarfod drwyddo, wedi palinantu y flordd i gael diwedd difriiol gyffrous i'r gymanfa, ac felly yr oedd y weddi olaf yn garreg gloi dda ar waith y dydd. Y mae rhyw- beth yn rhagluniaethol garedig- i g-ael marw ar ryw ddiwrnod hynod. Pa ddydd gwell i'r chwaer anwyl gaelffarwclio a'r cystudd mawr am gymanfa a chyn- nulleidfa y rhai cyntafanedig, y rhai a ysgrifenwyd yn y nefoedd, na'r dydd pan oedd ei chyfo -dion gyda y gwaith oedd hi gan afiechyd wedi cael ei lluddias oddiwrth ymvaieud ag of? Ond gollyng- wyd hi I uno mewn addoliad gwell.' Ar foreu ein cymanfa yn 1861 yr ymadawodd y Parch W. Davies, Rhydyceisiaid, a'r ddaear am y nef. Yr oedd yr addoldy yn boenus o lawn eleni; er hyny adroddwyd a ehanwyd yn dda. Y ewrdd goreu erioed o'r natur, meddai rhai hen frodyr a chwiorydd, y rhai feddent ddawn i farnu, oblegid eu bod wedi profi yr Arglwydd yn dirion, a'u bod yn chwenych didwyll laeth y gair aot yn cynnyddu trwyddo. Yr oedd y touau yn rhai meithion, cel- fycldydgar, cywrain, a soniarus. Yr oedd ol llafur mawr ar y cwbl. Nid aberthau rhad a g-jmnygiwyd i'r Arglwydd y waith hon. Yn mhob llafur y mae elw. Ni bydd y llafur hwn yn ofer. Peth yw hau ar bob adsg gyfleus ydyw gair Duw. Yr Arglwydd a'i rhoddes, a mawr erbyn heddyw ydyw mintai y rhai a'i pregethant yn mhob dull a modd. Y dydd mawr olaf i gyd a ddeng-ys i ba sawl calon y mae y saethau yn myned rhwng cysylltiadau y llurig. Y mae Duw yn dwyn tystiolaeth i air ei ras mewn am- ryw ffyrdd. Un ffordd ydyw trwy ei wneud yn fwy poblagaidd yn y long run na dim arall i'w ac yn ei eglwys. Trwyddo hefyd y mae yn achub a sanct- eiddio,—' Sancteiddia hwynt yn dy wirionedd.' Coroned gras yr ie'ngctyd cu Sy'n eyrchu i'r ysgolion Effeitliiau'r gair ymdaeno ar led A gwisged 108u'r goron. Yr oedd pawb fu yn gweddio yn gyhoeddus ac yn holi yr ysgolion yn Barchedigion. HENLLAN. Cynaliwyd Cymanfa Ysgolion yn y lie hwn, dydd Gwener, Mehefin 12fed. Trefn y Gymmfa oedd fel y canlyn :-Am 9 o'r gloeh, dechremvyd trwy ddar- llen a gweddio gan Mr L. Beynon, Brecon College. Yr ysgol gyntaf oedd ysgol Henllan. laf, canwyd 'Dewch canwn i'r Arglwydd,' yna adroddwyd 1 loan ii. 12—24. Y plant yn adrodd y tair adnod gyntaf, ac ateb y gofyniadau a roddwyd iddynt, a chanasant y don 'Thank God for the Bible.' Yna adroddwyd y gweddill gan yr holl ysgol. Yr holydd oedd y Parch L. James, Carvan. Yna canwyd 'Hallelujah Chorus.' Felly gorphen- odd Henllan ei gwaith. Yn nesaf oedd ysgol Llan- boidy. Canwyd 'Universal Prtdse,' ac adroddwyd y ddwy Psalm gyntaf,—y plant vn adrodd ac ateb y flaenaf, a'r holl ysgol yr ail. Yr holycld oedd y Parch W. Thomas, Whitland. Yna canasant 'Llawenha O! Judah.' Yna terfynwyd y cyfarfod boreuol trwy weddi gan y Parch J. Lewis, gwein- idog y He. Am 2 o'r gloch, dechreuwyd trwy ddarllen a gweddio gan y Parch W. Thomas, Whit- land.—Adroddiad gan ysgol Zoar, Whitland. Can- wyd ton 'Passing away,' gan y plant, ae adroddasant Pregethwr xii. yn Seisneg. Holwyd hwynt gan y Parch J. Lewis, Henllan, yna canasant 'Mighty to save.' Yn nesaf canwyd 'Molwch yr Arglwydd,' gan Zoar, ac adroddasant Galatiaid vi. Holwyd h-,vy liefyd gan Mr Lewis. Yn eanasant 'lachaw- dwriaeth testyn can.' Y nesaf oedd ysgol Cwmiies. Canwyd Ar ben mae'r gogoneddus waith' ganddynt, ac adroddasant 1 Pedr i. 1-12. Yr holydd i fod oedd y Parch S. Evans, Hebron, ond daeth cenad i'w ymofyn allan o'r cwrdd boreu o achos rhyw am- gylchiad, ac yn ei absenoldeb, holwyd hwy gan Mr James, Carvan; yna, fel ar y dechreu, canwyd ton gyffredinol, a therfynwyd trwy weddi gan Mr James, CarvalY. Gellir dyweud am yr ysgolion, yr holwyr, a'r can- wyr, ea bod wedi myned trwy eu gwaith yn ganmol- adwy iawn. Yr oedd ol llafur ac ymchwilio mawr i'w we ed ar yr esbonio a'r canu. Credwn fod y Fam yn Henllan yn llawen iawn i weled rhai o'i merched yn ymweled a hi am unwaith y flwyddyn. Gobeithio y bydd iddynt barhau felly, ac y daw y rhai eraill hefyd i ymweled a hi. Dymunwn lwydd- iant mawr eto yn y dyfodol i'r gwahanol ysgolion i wnend llawer o les yn y gymydogaeth y maent, a lleoedd o'r newydd ddelo i'w phleidio.—Gwylhn Amgoed. AMWYTHIG. TABERNACLE.—Diwrnod hynod o gyffrous yn y dref bon yw y dydd y gelwir Show Monday arno. Cynaliwyd ef eleni Mehefin 15. Dydd gwyl na wneir ynddo ddim gwaith, edrychir amdano gan lawer amser maith cyn iddo ddod. Pe byddai i chwi gymeryd eich safle yn y Railway Station am ychydig oriau yn y boreu, arweinid chwi i'r casgliad fod pobl y dref a phobl y wlad wedi gwneyd amodau a'u gilydd i newid cartrefleoedd, cylchoedd, &c. Daw yma dyrfaoedd mawrion o'r holl fan drefi, a'r wlad oddiamgylch o fewn pymtheng neu ugain mill- dir o gwmpas, i dreulio y dydd mewn edrych ar arferion ifol a symudiadau iselwael, pa rhai a ddygir yn mlaen yn ilynyddol mewn bri a rhwysg mawr. Cynrychiolir gwahanol alwadau (trades) y dref gan finteioedd a ymfFurfiant i'r pwrpas, ac ymwisgant yn hynod, gan symud yn ol a blaen trwy y gwahanol ystrydoedd; rhai mewn gwageni, rhai ar feirch, ac eraill ar draed, gan g-ludo arfau y dosparthiadau a gynrycliiolant, yn cael eu blaenori gan fyddin y pibellau pres a swn y tabyrddau, nes yw yn ddigon a syfrdanu clustiau y rhai sydd yn ewyllysio byw yn llonydd. A phe byddai i chwi yn ddamweiniol roi tro i le a elwir Kingsland, byddech yn barod i dybied ar yr olwg gyntaf eich bod yn byw yn amser Moses, ae i chwi ddisgyn i ganol gwerayll y genedl Israel. Gorchudclir y lie a phebyll. Ond nid hir y rhaid i chwi aros yma cyn eich argyhoeddir fod y trigfeydd hyn wedi eu codi gan genedl arall, ac i ddybemon tra gwahanol i eiddo y genedl gynt. Gwna teulu y pebyll elw mawr o'r dydd hwn; bydd i lawer o honynt yn ddydd cynull, ac yn amser cynhauaf. Er gochelyd dylanwad niweidiol arferion llygredig a symudiadau fFol y dydd, gwna agos holl Ysg-olion Sabbothol y dref fyned allan i'r wlad, pawb o dan eu banerau eu liunt- ii a dewisir yn gyffredin y lle- oedd mwyaf manteisiol i fwynhau golyg-feydd pryd- ferth y greadigaeth, ynghyd a chael adfywiad ac adloniant i natur hen ac ieuangc. Gwahoddwyd ysgol y Tabernacle i Hinton, lie tlws, a chartref dedwydd Mr R. Owen. Wedi dringo i goppa Tontesbury Hill, ac yfed yn helaeth o'r awelon iachus a chwythent drosto, dis- gynwyd i fwynhau y ddarpariaeth bwrpasol oedd wedi ei pharotoi ar ein cyfer, a'r cyfan wedi ei osod allan yn y modd mwyaf destlus a chwaethus, gan y teulu hynaws oeddem wedi cael y pleser o ymweled a hwynt. Ar ol i bawb gael eu diwallu, treuliwyd ychydig oriau mewn chwareuon diniweid, yn y rhai y gwnai hen ac ieuangc gymeryd rhan, er chwyddo dedwyddweh y dydd. Ymddangosai pawb yn siriol, ac wedi eu perffaith foddloiii gan garedigrwydd mawr, groesaw cynes, ac awydd diflino pob un o'r teulu. i wneyd pawb yn hapus. Dymuna ysgol y Tabernacle gydnabod Mr a Mrs Owen a'r teulu oil yn y modd gwresocaf, am eu llafur, eu gofal, a'u caredigrwynd mawr i wneyd y dydd yn ddydd llawenydd i bawb a ddeuent yno yn ddiwahaniaeth. Boed benclithion fyrdd yn gorph- wys arnynt, a pharhaed crefydd yn y teulu holl ddyddiau y ddaear.-Ioail Vengwem. LLANDEILO. DAMWAIN HYKOB.—Boreu dydd Iau, sef Mehefin lleg, fel yr oedd OatleyRees yn inyned at ei waith i chwarel Maesyquarry, trodd i mewn i dy hen wTaig- o'r enw Betty Lewis, 84 oed,,a rhoddodd dclwy ysten iddi. Dywelodd wrth yr hen wraig mai pylor oedd ganddo mewn un, a gofynodd a gawsai eu rhoddi mewn lie dyogel, dywedai hefyd mai coffi oedd g'an- ddo yn y Hall. Dywedodd yr hen wraig wrtho am eu rhoddi ar y bwrdd, ac y gwnai hi eu cadw yn ddyogel. Pa fodd bynag-, rhwng saith ac wyth o'r gloch rhoddodd yr hen wreigen yr ysten a gynwysai y pylor, mewn camgymeriad, ar y tan, a'r llall o'r n illdu, a phan drodd ei cliefn taniodd y pylor a chwythodd y drws a dai-n o'r mur allan i'r twyn ac ysgydwodd y ty oil, ond yn ffoclus ni chafodd yr hen wraig' ddim niwed. Gofaled y rhai sydd yn ym- drin a phylor rhag ei roddi i hen bobl pa rai nad ydynt yn ddigon gofalus.-Ap Gwilyni. PENIEL, NELSON. Ar yr 8ed a'r 9ed cyfisol, cynhaliodd yr Annibyn- wyr eu cyfarfod blynyddol yn y lie hwn. Gwein- yddwyd ar yr achlysur gan y Parchn. P. Howells, Ynysgau, Merthyr; J. Thomas, Libanus; R. Row- lands, Aberaman; D. Price, Siloa, Aberdare; a'r hybarch dad P. Griffiths. Yr oedd yn un o'r cyfar- fodydd goreu a gawsom erioed—arwyddion eglur fod yr Arglwydd yn gwenu arnom—ei weision yn cael eu gwisgo a nerth oddiwrth Dduw, a'r hen hwyl- iau gynt yn cael eu teimlo, a disgwyliwn y bydd i eneidiau lawer gael eu dwyn i afael a'r iachawdwr- iaeth a fydd bytli. Cawsom gynulliadau llnosog, a chasgliadau rhagorol o dda. Yr oedd yn dda iawn genym weled a chlywed yr hen dad o'r Alltwen yr oedd yn edrych llawn cystal ag y gwelsom ef erioed, ac yr oedd yn ei hwyliau goreu. Gobeithio y daw ef i'n gwyl flynyddol nesaf.D. B. DOLGELLAU. Nos Fawrth y 19eg o'r mis hwn, cynhaliwyd cyng- herdd yn y Town Hall, er cynnorthwyo Ysgol Fryt- anaidd y Brithdir. Y mae'r cyfeillion hyn yn deil- wng o glod am fod mor ffyddlon ac ymdrechgar er carlo yn mlaen y sefydliad daionus hwn; a dymun- em iddynt Dduw yn rhwydd' i addysgu a diwyllio cymaint a allant ar yr oes sydd yn codi. Nid oes angen ar y Brithdiriaid wrth ganmoliaeth, gan fod eu henwau yn ddigon adnabyddus eisoes i'r cyhoedd fel rhai o dalent a medr-yn feirdd, cantorion, ac adroddwyr. Cynnorthwywyd hwy y tro presenol gan amryw o gyfeillion iddynt, ac yn eu mysg y gwr pert, doniol, ac athrylitligar liwnw—Mynyddog, o Lanbrynmair, a merch ieuanc dalentog- o ardal y Bala, adnabyddus wrth yr enw Eos Penllyn. Yr oedd y neuadd yn lied lawn, a gallesid casglu oddi- wrth ddull y gynnulleidfa yn gwrando eu bod oil yn cael eu boddhau. Cafwyd elw gweddol dda oddi- wrth y cyfarfod. DA:MWAI.-Fel yr oedd y cerbyd sydd yn rhedeg rhwng y dref hon a'r Bala yn dychwelyd ddydd Sadwrn diweddaf, daeth un o'r olwynion yn rhydd, a'r canlyniad fu i'r cerbyd droi ar ei led ochr, nes dymchwelyd yr holl lwyth oedd arno. Neidiodd y cerbydwr ac eraill o'r teithwyr i lawr mor fuan ag y deallasant fod rhywbeth allan o Ie, ac felly diangas- ant yn ddianaf; ond yn anlfodus, taflwyd un, sef y Parch. E. Evans, Llangollen, (yr hwn oedd yn dyfod yma i supplyo am y Sul) i'r ffordd, a derbyniodd gryn ni wed. Ond y mae yn dda genyf allu hysbysn nad ydyw cynddrwg ag yr ofnid ar y cyc-h-wyn ei fod. Yr oedd wedi dychryn cymaint fel nas gwyddai yn iawn sut yr oedd, ond wedi dyfod i'r dref, a chael gorphwys am ychydig, teimlai ei hun yn well na'i ddirigwyliad. Gallodd yntau ddianc heb gael yr un briw nac archoll, ond ofnir fod garddwn ei law dde- hau wedi ysigo. Canmolai ein haddoldy yn fawr; dywedai ei fod wedi bod yn pregethu mewn capelau yn Liverpool a manau eraill, ond na welodd yr un ag yr oedd yn hawddach pregethu ynddo na'r capel hwn. Gobeithiwn y caiff ddychwelyd adref yn ddi- ogel at ei deulu eto, a hyderwn y bydd iddo wella yn i'uan.—Uohvbydd. BETHEL, DERI. Cynhaliodd yr ysgol Sabbothol perthynol i'r Cyrl- ulleidfaolwyr yn y lie uchod, ei chyfarfod te ar Llun y Sulgwyn, pan y cyd-eisteddodd tua 100 i fwynhau eu hunain trwy yfed o ffrwyth y ddalen ddu. Am 7, cynhaliwyd cyfarfod adroddiadol o dan lywydd- iaeth y Parch. W. H. Thomas, y gweinidog. Yn mysg eraill a adroddodd cafwyd llawer o bleser wrth wrando ar Mr John Morgan, Fochriw, yn adrodd 'Beth sydd ddewr;' a Mr John Gower, yn adrodd ''Mae rhywbeth yn well na dim;' a Mr Thomas Evans, Pryddest ar I Galfaria.' Canwyd amryw ddarnau yn hynod o swynol gan gor Carmel, Fochriw, o dan lywyddiaeth Mr David Pugh; a.chor plant Bethel, o dan lywyddiaeth y Parch. W. H. Thjmas. Aeth y cyfan heibio yn y modd goreu. Mae yr achos yn hynod o obeithiol yn Bethel. Mae rhif yr aelod- au yn 15, yr ysgol Sul yn 56, a'r gynulleidfa yn dros 100. Mae ysgoldy prydferth wedi ei adeiladu yn bresenol, a lie capel wedi ei gymeryd. Cafwyd tir gan C. H. James, Ysw., Merthyr, am bris hynod o rad, a rhoddodd yr un boneddwr yr holl gerig am ddim. Mae eglwys Bethania, Dowlais, wedi bod mor garedig a'n anrhegu a chadair hardd i'w gosod ar y platform; yr ydym yn cyflwyno ein diolchgar- Im weh i'r cyfeillion am eu haelioni, ac yn neillduol i Mr Jonah Howell am osod ein hachos ger bron.— Hirgwrn. WYDDGRUG. Dyweder a fyner, mae y rheilffyrdd, yr ager-fadau, llyfrau a chyniweiriad gwybodaeth," wedi rhoddi gweddnod hollol wahanol i'r oes hon; ac er fod llawer o bethau oeddynt fuddiol ac angenrheidiol, haner canrif yn ol, y dyddiau hyn wedi myned yn hollol afraid a dialw am danynt, eto mae teimlad o chwithdod mewn llawer un sydd wedi myned i ychydig oed, ar ol y pethau hyny ag y mae adgofion eu hieuengctyd fel eiddierwg yn ymfreichu o'u ham- gylch. Ceir llawer o hen bobl yn dyweyd gydag oehenaid, -wrth son am y blynyddau gynt, Wei, wel, mae pethau wedi altro yn arw y dyddiau yma.' Un o hynodion byd crefyddol Cymru ychydig amser yn ol, mewn cydmariaeth, oedd ymweliadau CYMEELADAU HYXOD yn gyfnodol i bregethu, megis Rhys Dafis, neu Rhys y Glun Bren, Richard Jones, Llwyngwril, ac eraill a gofiaf yn dda. Yr oedd eu dull o wisgo, eu dull o bregethu, a'u dull o drafaelio, yn hynod ac yn rhoddi lasting impression ar y meddwl ieuangc. Yr oedd y pregethwr teithiol a'i geffyl yn meddianu arbenig- rwydd neillduol, ac oddiar adgof o'r anifail dyddorol hwn y rhoddais y llinellau a. ganlyn wrth eu gilydd,— Fe geir ami rywogaethau Bron yn mhob man o geffylau; Yn eu plith y mae fel hen-wr, Dawel I geff'yl y pregethwr.' Heibio'n dra chwym y cyflyma, Geffyl lluniaidd y rhedegfa; Ond un araf fel saneuwr,' Ydyw I ceffyl y pregethwr.' Eofn ydyw march y rhyfel, E weryra'n ffroen y fagnel; Un fel Richards yr heddychwr,' Ydyw 'ceffyl y pregethwr.' Erys ceffyl y gyriedydd, Braidd wrth bob man ceir diodydd; Ond gwr diarth' yw'r tafarnwr I war geffyl y pregethwr.' Uchel llyfndeg a cliyhyrog, Ydyw march y gwr cyfoethog; Ond un hir-flew, cadarn gerddwr, Ydyw ceffyl y pregethwr.' Gwahaniaetha heb ymholi, Rhwng aneddau a chapeli, Hoffir cae a stabal ffarmivr, Gan fwyn I geffyl y pregethwr.' Ond mae y pregethwr teithiol a'i geffyl bron a myned yn extinct-ond nid ydyw railways yn gallu attal teithio rheolaidd a chyfnodol eto. Mae dir- prwyon cymdeithasau da, a chasglyddion, ac areith- wyr cyhoeddus eto i'w cael yn tramwy trwy y wlad, ac yn eu plith yr ydym yn cael BOBIN DDU. Ymweliad y bardd, y llenor, a'r areithiwr hwn a'n tr i cleni eto, a roddodd achlysur ysgrifenu yr ar- weiniad i mewn a fydd ofnwyf, fel porth yn fwy na'r eglwys. Wel, cymerodd Mr Parry ei safle i areithio ar Addysg Gelfyddydol,' nos Wener y 12fed cyfisol, ar uchaf risiau dyfr-bost (fountain) y Groes, lie yn fynyoh y gwelir plant yn slotian gyda'r dwfr fel hwyaid, a'r segurwyr yn cadw cynadiedd ar symud- iaclan a dygwyddiadau lleol. Cafodd yr areithiwr gynulleidfa luosog, ac yr oedd mewn hwyl dda. Areithiodd y bardd drachefn nos Lun, ar Ei bod yn ddyledswydd ar bawb i wneyd daioni.' Testyn rhagorol ac i'r pwrpas yn y dyddiau selfish hyn. Cafodd Mr Parry dyrfa fawr i'w wrando er fod y digrifddyn George Hodson a'i barti yn chwysu yn y neuadd wrth law i gynhyrfu peirianau chwerthin ei gynulleidfa. Yr wyf yn meddwl fod Mr Parry wedi tori cwrs priodol iddo ei hunan, ac y gall wneyd lies dirfawr, a chyfranu llawer o addysg fuddiol, gyda chodi chwilfrydedd yn y dosbarth ieuangc. Anerch- odd y Du ysgol yr Annibynwyr prydnawn Sabbath, ar faterion priodol. Rhaid yn awr roddi tro at y troseddol cyn diweddu y llith am yr wythnos. Cynhaliwyd cyfarfod YR YNADON yma ddydd Gwener, pan yr ymgynullodd nifer fawr yn cael eu gwneyd i fyny o seg-urwyr o dystion q, phartion yn yr achosion i'w trin. Rhyw ddangoseg lied gywir ydyw man lysoedd o gyflwr moesol cym- mydogaeth—cyfarfodydd i ddangos nifer y man g-werylau, y meddwi, y miri a'r helynt o bob natur a ddigwydd mewn tref a phentref yn y ddosran; ac yr oedd y cyfarfod hwn yn specimen go dda o'r fath lysoedd. Yr oedd yma saith achos o FEDDWDOD. Dirwywyd un hogyu tua phymtheg oed, i bum swllt a chostau; gollyngwyd y lleill drwy dalu cost- au yn unig. Yr oedd ar y rhestr bump achos o DDEFNYDDIO DYENAXT, ac yr oedd un wedi tynu llu i'r llys. Heddgeidwad oedd yr achwynydd, a gwr ieuangc o gysylltiadau parchus oedd y diffynydd. Oddiar grybwylliad a ddisgynodd oddiwrth y faingc, addefodd y gwr ieu- angc ei fai, pan y dirwywyd ef i ddeg swllt a chost- au. Oni buasai iddo addef diau y cymerasai yr achos lawer o siarad pro and con, o herwydd fod gan y di- ffynydd gyfreithiwr medrus o'i du. Man gwerylon oedd y lleill, ag y gallasai tipyn o attal tafod, amyn- edd a synwyr cyffredin eu hattal. Yr oedd dau achos o FASTAEDIAETH. Ni ddaeth, pa fodd bynag, ond un i wrandawiad, ac yr oedd hwnw yn llawn digon. Yr oedd achos hagr o YMOSODIAD ANWEDDAIDD, ar hogen ddeuddeg oed. Trowyd yr holl ferched allan oddigerth yr eneth, tra yr holid y tystion. Yr oedd y carcharor fe dybiwn tua thair ar hugain oed, ac ymddangosai y gwalch mor ddidaro a meddwyn yn y cyffion o dan gawod o wlaw. Traddodwyd y dyhiryn i'w brofi yn y llys chwarterol nesaf. Bu cryn ddadlu rhwng dau dwrne ynghylch hawl i fyned i'r 'FFYNON LOEW* siriol sy'n rhoddi ffrydiau grisialaidd. Mae son am ffynon y fynud yma, pan mae dyn bron toddi, yn codi syched arnom, ac yr oedd pwngc dwfr ffynon Bedlwyn yn dra refreshing i'r Ilys, a ryfeddwn i ddim na buasai cryn ddrachtio ami pe yn agos. Cyhuddid gXvreigan wledig o drespasu wrth fyned i geisio dwfr, ac ychwanegai yr achwynydd nad oedd myned i'r ffynon ond hugan dros y bwriad o gymeryd tanwydd a thipyn o ffrwyth fel yr addfedai. Dywedai twrne y wraig fod ganddi hawl i'r dwfr, ond gwadai twrne yr achwynydd. Ar ol hir a hwyr ddadlu, gohiriwyd yr achos i'r llys nesaf. Wedi trin rhyw achos bychan arall, cododd y llys wedi cael digon am wythnos beth bynag o ffraeo a thynu yn groes.