Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

NODION A NiDIAU.

News
Cite
Share

NODION A NiDIAU. Aspri ar y Yellow Cliolce,-s-sef adolygwyr cyfar- fodydd pregethu, am gael pregethu eu hunain. Cy- hoeddwyd cymmanfa iddynt. Yn y gynhadledd am ddeg o'r gloch, darllenwyl yr holl adolygiadau gy- hoeddwyd gan yr urdd y deuddeg mlynedd diweddaf, er mwyn cadw pawb o honynt hwy rllag syrthio i'r unrhyw golliadau. Yn y gynhadledd am ddau o'r gloch, darllen a beirniadu manuscrIpts y rhai oedd yn inyned i arfer eu doniau. Y lie yn wreichion byw at y drysau. Dadleu a fflamio lies llwyr losgi pob gair coeth yn y Geiriaduron, pob deddf gaeth mewn Logic, a rheol deg mewn Rhetoric. Amryw yn dianc adref am eu heinioes. Pawb yn gwrthoddechreuyr oedfa gyntaf. Rhoi swllt i hen bregethwi* Wesley diniwed am wneyd hyn i achub eu pen. Mr Adol- ygwr Logic yn cynnyg pregethu-colli golwg ar ddynion, gweled miloedd o ser, myn'd yn. ynfyd, syrtliio i lewyg! Mr Adolyg-vvr Rhetoric, yr hwn oedd i'w ddilyn, yn slipio i lawr, ac' yn dianc nerth ei garnau tuag Ogof Swildod. Y gynnnulleidfa yn chwalu, heb obaith mwy ei chael at ei gilydd. Mr Adolygwr Good Taste yn dod attaf, ac yn cymmeryd ei lw na adolygid yr un cyfarfod pregethu am chwarter canrif, os addawn beidio anfon adroddiad llaivn o'r Gymmanfa i'r TYST-cydsyniais a hyn a biti drosto ef a'r urdd. Nid yw Eglwys Tabor y Mil Mynyddoedd am weled gwyneb y Grwgnachwr yn dod iddi. Wrth borth Eglwys St. Mair boreu Sabboth di- weddaf. Cyfrif y gynnulleidfa—dau-ar-bymtheg, a chi a gast. Synu mor lleied o honynt oedd yn Eg- lwyswyr gwreiddiol—dim ond pump, a 'Black Prince,' Plas Henllys. Yr oedd y lleill yn hen Ym« neillduwyr, wedi ffoi yno ar ol y drydedd ddisgybl- aeth ar ddeg ar hugain, neu yn amser tramgwydd, neu mewn awydd am blesio y gwyr mawr,' neu am fod yn fawr eu hunain. Golwg siomedig- amynt i gyd, ond Fanny yr ast felen—bariiai hi ei bod yn cael mwy o le a llonydd yn yr Eglwys. Nid wyf am adael i Disraeli fy Jcwio i a'r wlad yn bellach na Rhagfyr nesaf-felly bydded ef a holl weinidogion y Goron yn ofalus gyda'u cyflogau o hyn hyd hyny. Chwerthin wrth ddarllen yn ngwaith Dr Doran am beriglor a'i gurat yn pregethu yr un bregeth. Yr oedd y ddau wedi bod oddicartref ynngwyliau yr haf. Prynasant fwndel o bregethau bob un, wedi eu lithographio, er mwyn diwallu y plwyfolion ar eu dychweliad. Digwryddodd i ran y cu;atbiete':huyn y boreu-yr oedd y periglor wedi myned i roi oedfa i frawd cyfagos. Boddiodd y curat y gynnulleidfa yn fawr. Synent gymmaint o les oedd newid awyr wedi wneyd i'w alluoedd meddyliol. Dyna si a siarad pawb. Dyfod i'r oedfa yr hwyr, mewn dis- gAvyliad fod y periglor wedi cael yr un adnewydd- iad. Cymmeryd ei cl,styn-yr un ag oedd gan y curat yn y boreu. Y rhagymadrodd yr un fath, oddiyno i'r canol yr un fath, ac fcllv yn y blaen yr un fath hyd y diwedd. G wen wawdus ar wyneb pawb. Neb wrth ei fodd ond y periglor ei hun, gan na wyddai ddim am bregeth y boreu. Y curat yn gwrido ac yn gofidio. Tra thebyg iddynt fyim cael gwell dealltwriaeth a'u gilydd byth wedi hyny. Nid oes dim cymmaint o ddynion ieuaingc sir Aberteifi yn parotoi i fyned yn offeiriaid. Call iawn -y maent yn deall arwyddion yr amserau. Nid yw mor hawdd i offeiriaid gael g-wragedd cyfoethog ag y bu. Eithaf athronyddol. Myned i amryw ffeiriau--barnu y byddai yn well i lawer droi adref yn gynarach. NID N OCTIVAGUB- Duw CWSG.

ANERCHIAD I'R PARCH. D. PRICE,

FFYNNOi>f TitE'LATH.

THOMAS JONES,

Y DIWEDD AR T. D. JONES, GWEIiiYOGLE.

PLAS MARL, GER ABERTAWY.