Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

EFEXGYLWYR TEITHIOL CYIRU.

BETH WELAIS I YN LLUNDAIN.

News
Cite
Share

BETH WELAIS I YN LLUNDAIN. Mawr y rhyfeddodau a welir yn Llundain; y mae yr holl fyd i'w weled yma.' Dyna ddywedir gan y rhan fwyaf a ymwelant a'r brif ddinas, ac nid pell ydynt o ddyweyd gwir. Mawr yw ei rhyfedd- olau, mewlllluosawgrwydc1 yn gystal ag mewn am- rywiaeth; mor fawr yn wir, fel y gellir dywedyd mai ychydig o ymwelwyr sydd yn gweled cymmaint a'r ddegfed rail o htn^ n;. Clywais am gyfaill ar ei ddychweliad o Lundain yn rhoddi aclroddiad o'r hyn a welodd yno, a digwyddodd fod yn y gynnulleidfa ddyn oedd wedi byw drjs (Icleugaiii mlynedcl yn y ddinas fawr. Wedi gwrandaw ar yr ymwelydd yn traethu am yr hyn oedd wedi ei ganfod mewn wyth- nos neu naw diwrnod yno, cododd y Llundeiniwr, a dywedodd ei fod wedi elywed y lioson hono am lawer 0 bethau yn Llundain nad oedd erioed wedi gwybod am danynt, er byw cymmaint o flynyddoedd yn eu canol. Hawdd genyf gredu tystiolaeth onest yr hen frawd. Y mae miloedd yn debyg iddo. Nid yr un pethau y mae pob dosparth o ddyeithr- iaid yn edrych arnynt pan yn Llundain. Y golyg- feydd mwyaf cyffredin y chwilir am danynt ydynt y Crystal Palace, y British Museum, y Zoological Gardens, y Royal Academy of Arts, y National Gallery, Houses of Parliament, ac felly yn y blaen, gydag ugeiniau o'r cyffelyb bethau. Eir hefyd i weled capeli ac eglwysi mawrion Llundain, ac i wrando ar y prif bregethwyr—-Mri Spurgeon, Bin- ney, Dr Raleigh, Jones, Bedford Road, a rhai cy- ffelyb. Dylid gweled a chlywed rhai felly tra yn Llundain, a dall ac esgeulus iawn raid fod yr ym- welydd na wnelo hyn os bydd ganddo amser. Bum inau yn Llundain fwy nag unwaith, a gwel- ais lawer o'r pethau uchod, a chlywais lawer o'r pregethwyr enwocaf; ond gwelais lawer o bethau eraill nad ydyw llawer yn meddwl am danynt pan yn Llundain, am bwriad yn bresenol ydyw dywedyd beth a welais mewn cornelau yn y ddinas fawr. Tua chanol y mis diweddaf yr oedd genyf Sabbath yn rhydd—fel yr arfera pregethwyr ddywedyd pan na fydd ganddynt i bregethu,—a phenderfynais ei dreulio i weled y rhanau nodedig hyny o Lundain lie y cydgyfarfydda tlodi, anwybodaeth, llygredig- aeth, a barbareidd-dra yn y trigolion. Yr oedd genyf gyfaill, yr hwn sydd berffaith adnabyddus o bob rhan o'r ddinas, ac addawodd i fod yn arwein- ydd. Cefais afael ar ddau ymwelydd o Gymry yn teimlo awydd i weled y pethau hyn. Felly cychwynasom o gylch naw o'r gloch yn y bore. Aethom heibio St. Paul's, trwy Cheapside, i Bishops- gate Street a Whitechapel. Dyma yr east end o Lundain-cartrefle tlodi a llygredigaeth. Nid oedd- ym bell yn awr o'r man a geisiem, sef Petticoat-lane, lie y cydgyferfydd yr Iuddewon i werthu hen ddillad. Heol gul ac aflan ydyw; ond bob bore Sabbath cerir yn mlaen fasnach helaeth ynddi. Yr oeddym yno yn rhy fore i weled pob peth yn ei gyflwr gwaethaf. Ond gwelsom ddigon. Ar ein mynediad i mewn, safai dyn golygus, o ran ei gorph, ar ein cyfer yn ymyl drws a wylid ganddo ef ac un arall, a gwaeddai yn groch, Y dyn lleiaf yn y byd; ie, meiddiaf ei ddywedyd, heb ofn gwrth- ddadl, y dyn lleiaf yn y byd—saith ar hugain oed— dim ond ceiniog am ei weled-dewch i mewn, fon- eddigion.' Dyna ddull hwnw o gael ei geiniog ar fore Sul. Aethom heibio iddo ef. 0 bob ochr i'r heol gul, ac yn ei chanol hefyd, safai dynion a men- ywod yn cynnyg pob math o nwyddau, ac yn ddoniol dros ben, canmolai pob un yr hyn a werthai. Dillad —hen a newydd, glan a budr, cyfaddas i bob gradd ac oedran, ac ar gyfer pob rhan o'r corph. Bwyd- ydd o bob math, a ffrwythau o bob rhyw-y rhai rhagoraf a gynhyrchodd y ddaear erioed, yn ol tyst- iolaeth y rhai a'u gwerthent. Tlysau ac addurn- iadau o aur ac arian, a gemau gwerthfawr, i focld- loni y plant mawr; a phob math o chwareubeth, llai g-werthfawr wrth reswm, i foddloni plant bach. Ond dyma ddyn du, negro perifaith, mewn dillad da a gweddol drefnus, yn sefyll ar gornel heol gul yn troi i'r cefn yn rhywle. Cyfeiriai i'r fan hono, a chyhoeddai yn uchel a llais eglur, Y ceffyl mwyaf yn y byd-ceffyl gwirioneddol—dim twyll yn y peth -y mwyaf yn y byd-ceiniog am ei weled-trowch i mewn, foneddigion.' Ond nid gwiw ymdroi, nis gellir dywedyd y cwbl. Wedi cyraedd un pen i Petticoat-lane, cawsom afael ar heddgeidwad, ac aeth gyda ni i'r Hag Market. Lie agored ydyw hwn, lie yr arwerthir pob math o garpiau o ddillad ar ganol dydd bob Sabbath. Yr oedd yn rhy fore yn awr, felly nis gwelsom y farch- nad, ond yr oeddynt yn parotoi ar ei chyfer. Ar y ffordd, arweiniwyd ni trwy fath o farchnadfa gau- edig, He y telid gan y gweithwyr am eu lie. Dyma bentwr o hen esgidiau, oil wedi eu glanhau, rhai wedi eu gwella, eraill yn rhy wael i fyned dan y driniaeth. Gwerthai rhai o honynt am geiniog neu ddwy y par—eraill am brisiau uwch. Rhaid fod yma amryw gannoedd o honynt, a gellir gweled lluaws o bentyrau eyffelyb. 0 ba le y daethant Y I ba ddyben y cesglir hwy ? A brynir rhai o honynt gan rywun ? Gwneir ac y mae y ffaith eu bod yn cael eu casglu a'u gwerthu yn cyhoeddi tlodi truenus lluaws o drigolion Llundain. Dyma bentwr eto o hen ddillad—dillad plant, dynion, menywod-oll yn gymysgedig. Dyna ryw greadur llwyd, tlawd, yn tynu hen gerpyn a eilw yn goat oddiam ei gefn, ac yn treio hen waistcoat, yr hon a fwriada brynu. Nid oes botwm arni o'r pen i'r gwaelod, a disgleiria gan y budreddi sydd wedi ei gorchuddio. Gofyna y gwerthwr roat am dani; dadleua y prynwr nad ydyw yn werth hyny gan nad oes botwm arni. Troais fy nghefn, ac nis gwn a brynwyd hi ai peidio. Erbyn hyn y mae y bobl yn lluosogi, ac yn mhen awr eto bydd yma filoedd lawer yn prynu'ac yn gwerthu gyda'r brwdfrydedd mwyaf; a phan yr agorir y tafarndai yn y prydnawn, bydd Petticoat- lane a Rag Market fel Bedlam ac annwn wedi ^m- gymysgu. Dyma ychydig o awgrymiadau o'r hyn a welais ar fore Sul, y lOfed o Mai, 1868, mewn un gongl o brif ddinas y wlad fwyaf Gristionogol yn y byd. Tra y mae pobl dduwiol Cymru yn cyfarfod yn gysurus yn eu capelau i wrando eu dwy bregeth bob Sabbath, y mae miloedd yn Llundain yn mas- nachu mewn carpiau ac ysgarthion cymdeithas er enill eu bara. Onid yw trueni dyn yn fawr arno ? Y mae gan Gristionogion y byd lawer i'w wneud eto heblaw gweithio eu ffordd i'r nefoedd eu hunain. Gwelais ragor na hyn, ond gadawaf y gweddill hyd dro arall. W. J.

CWYN ZACHARIAH TRIAGL YN ERBYN…

PLAS MARL, GER ABERTAWY.