Skip to main content
Hide Articles List

5 articles on this Page

COLEGDY NEWYDD ABERHONDDU.

I COLEG NEWYDD YR ANNIBYNWYR…

Y DIWEDDAR DR. VAUGHAN.

CLICYDDIAETH.

News
Cite
Share

CLICYDDIAETH. Mri. Golygwyr,—A fedrweh chwi ddweyd i mi pa beth yw Clicyddiaeth ? Yr wyf yn gofyn am nas gwn yn sicr pa beth ydyw; eto, fel y bydd ysgrib- leriaid yn gyffredin, yn ysgrifiaw yn hyderus ar beth- au na wyddant ond y nesaf peth i ddim am danynt, yr wyf yn anturio dweyd rhywbeth ar glicyddiaeth. Wel, os na wna fy ysgrif i y tro, gwnaed rhywun I n arall ei gwell; oblegyd ni wn i ddim byd am genfig- enu wrth rywun am ragori arnaf, os bydd o yn rhag- ori digon i mi fy hun alltt gweled hyny. Yn hyny mae y gamp. Mae arnaf ofn herio yr 'Hen Daeliwr' i ysgrifenu ar y mater pwysig hwn, rhag iddo fyned yn ben ar glic o daelwriaid, ac iddynt oresgyn y wlad a'u nydwyddau dur! Wyddoch chwi beth? Mae rhyw ias o ddyreidi yn gweithio ynof bob tro y deuaf i gyffyrddiad a'r 'Hen Deiliwr' yma nid oes gen'i mor help. Rhyw beth ynddo fo sydd yn dylanwadu yn rhyfedd arnaf. Wel mae genyf finau 'stori am hen daeliwr; ac wedi gorphen hono af at y pwnc sydd ar dop yr ys- grif, sef Clicyddiaeth. Haner can mlynedd yn ol yr oedd hen daeliwr teneu, gewynog, difrifol, a da, genym ni yn y weinidogaeth. Llafur cariad oedd ei weinidogaeth, ac angenrheidrwydd er cynnal teulu oedd ei daeliwryddiaeth. Yr oedd e bob amser fel creyr glas yn rhydd yn ei fola, ac yn cael llawer o drafferth gyda'r trugareddan a wastraffid ganddo, ao o herwydd hyny yr oedd efe yn llym a diarbed fel dysgyblwr eglwysig, ac yn llwyr lanhau ei lawr dyrnu, fel nad oedd nemawr o us na gwenith i'w canfod amo. Gallasech feddwl ar ei olwg mai bres- ych cochion o'r gwinegr oedd ei fwyd, ac mai wermod a bustl oedd ei ddiod; eto, yr oedd ei dduwioldeb yn ddigon amlwg a diamheuol i foddloni hyd yn nod 11 Sami Sion, o Nantyglo. Hen frawd rhagorol oedd yr hen daeliwr, ond ei fod yn deneu ac yn gul o gnawd, yn ddreng a phigog yn hytrach o ran ei ysbryd, ac yn buritanaidd a difrifddwys yn mhob arweddiad. Dygwyddodd fod mewn cynnadledd cymanfa yn amser rhyfel Boni, ac ofnid gan lawer y pryd hwnw, y buasai y gwron milwraidd hwnw yn goresgyn ein gwlad. Dyna'r taeliwr yn codi yn arafaidd a phwys- ig i gynnyg neillduo diwrnod o ympryd a gweddi er mwyn cadw Boni draw. Ond rywfodd neu gilydd nid oedd y peth yn cymeryd gyda'r gynnadledd, a'r taeliwr yn dal at ei bwnc fel y gweddai i wron a fyno sefyll yn erbyn byddin ei hunan, nes oedd amynedd C. E. yn darfod, ac yn dymuno cael llonydd i fyned at rywbeth arall mwy pwysig ac angenrheidiol. A dyna fe yn cyfarch y taeliwr fel hyn:- Wel, bach, yr wyt ti yn ddigon teneu, fel nad oes a.hos i ti ymprydio; gwnei'r tro yn burion am hyny; a gobeithio dy fod yn arfer gweddio bob amser, fel nad oes achos i ti golli diwrnod at hyny chwaith. Ond os myni gadw Boni o Sir Fon ymarf- oga ati hi o ddifrif.' Cymer y tape coch yn wregys am dy ganol, dod nydwydd ddur yn mhen y Uathen fesur i wneyd gwaywffon, a'r siswrn yn gleddyf, cymer y llabwd yn darian, a chroga'r wydd wrth reffyn am dy wddf, a dos i ben y clogwyn yna ar lan v mor i wylio dyfodiad Boni, ac i'w rwystro i dir. Os daw o i dy gyraedd, gwan o a'r nydwydd ddur; ac os na frdd hyny yn ddigon, bwra fe yn ei dalcen a'r wydd. Bu v llith yna yn foddion i roi taw ar y taeliwr, a chafwyd hamdden i ystyried pethau ereill oedd yn gofyn sylw. Dro arall, achwynai y taeliwr fod ei hen gymydogion, y rhai a gladdesid yn weddaidd, yn codi o'u beddau ganol nos, ac yn gwneyd gwaith bwganod, er braw a dychryn i'r gymydogaeth; ac yr oedd o yn galw sylw y gymanfa at y mater, ac yn gofyn help ei frodyr i ddarostwng yr elfodau anys- tywallt, ac i gadw tawelwch yn ngwlad angau. Ond lynghor yr oragl iddo oedd gosod y nydwydd ddur fyth yn mhen y fesurlath, a rhoi y wniadur ar flaen y nydwydd, a rhedeg ar ol y drychiolaethau gan ysgwyd y fesurlath nes byddai y wniadur yn tincian ar flaen y nydwydd, ac y disgynai hyny ar glustiau yr elod mor frawychus a swn larwm, nes y ffoent mewn eiliad i'w llochesau! Gallwn lonwi rhifvn o'r TYST a chwedlau cyffelyb oddiar lafar gwlad. Ond Clicyddiaeth oedd fy nhwnc, a deuaf ato y tro nesai, os na ddaw rhyw ''hvdod i ddyrysu fy meddwl, ac i'm harwain ar Idisperod. Gair mawr yw Clicyddiaeth, a llysenw larod i'w roddi ar unrhyw fintai o ddynion a ymun- tnt i gydweithio er mwyn cyrhaeddyd rhyw ddyben leillduol; a'r clicyddion gwaethaf sydd yn gwaeddi jawyaf yn erbyn clicyddiaeth. C'YNDDELW.

[No title]