Skip to main content
Hide Articles List

7 articles on this Page

LLYTHYR 0 AMERICA.

T-DIRWESTWYR A ll ETIIOLIADAU.…

Y PARCH. W. D. WILLIAMS, DEER…

GWEITHWYR SIR GAERNARFON YN…

CYMRY LIVERPOOL.

LLYTHYRAU CYMRAES YN NGHANAAN.

News
Cite
Share

LLYTHYRAU CYMRAES YN NGHANAAN. LLYTIIYE III. JEEUSALEIVI, MAI 16, 1865. ANWYL RIENI,— Cymerais daith un prydnawn i fynydd yr Olewydd; ond fy mhi-if amcan oedd myned i weled gardd Gethsemane, gan fy mod yn gallu gweled y mynydd pan y mynwn oddiar nen y ty. Aethonx allan o'r ddinas trwy borth Joppa, tu allan i'r hwn y mae amryw wahangleinon bob ochr i'r ffordd, yn estyn eu dwy- law elwyfeclig am elusen yn y modd mwyaf gresynus, gan ddymuno pob benditlx arnom os rhoddwn ryw- beth tuag at eu eyiibaitetl-i; ac yn wir y maent yn wrthddrychau tosturi. Yr oil o ddillad sydd gan- ddynt ydyw math o hen fantell rwygedig, a chap coch am eu penau, a chalico neu liain wedi ei rolio o amgylch liwiiw. Wedi i ni fyned oddcutu elxAArarter milltir ar hyd y ffordd hon, troisonx ar y dde, a thros un o fryniau Judea, ar hyd y llwybr sydcl yn arwain heibio i Borth Damascus, i fynydd yr Olewydd. Oddeutxx can llath oddiwrth y Porth hwn y mae hen ogof Jeremiah, yr hon sydd mewn craig isel, a gardd fechan o'i blaen. Nid oedd amser yn caniatau i ni fyned i mewn iddi y waith hon; ond os caf fYViyd ac iechyd, mi a af nid yn un unig i ogof Jeremiah, ond hefyd i lawer o fanau eraill y bydd yn dd.yddorol genych gael ychydig o'u hanes. Wedi i ni gyrlxaedd go die mynydd yr OleAvydd. lie mae gardd Gethsem- ane, yr oeddwn i yn teimlo yn rhy flin i fyned yn mhellach, ac heblaw hyny, nid oedd arnaf awydd gweled u-ii- lie arall y prycl )nvnw. Eisteddais yno gan hyny ar garreg wrth oclir yr ardd, nes y deuai y teulu yn ol o ben y mynydd. Ac 0! fy anwyl rieni, nis gallasAvn beidio wylo dagrau wrth feddwl am y Gwaredwr a'i ddioddefiadau, ac Wrth gofio'i mddfaiiau yn yj- ardd, A'i cfrw-ys fel defnjTiau o waed; Aredig' ar gefn oedd mor hardd, A'i daro a clilcddyf ei Dad.' Y mae y rhan hono or ardd lie y tybir i'r lesu fod yn dyoddef wedi ei haddurno a'r coed a'r blodeu prydferthaf a ellir gael; ond nid oes dim ond coed olewydd yn y rhan arall, lie bu y dysgyblion yn cysgu. Rhaid talu am fyned i mewn i'r rhan a enwais gyntaf, i'r dyn sydd yno yn cadw yr ardd mewn trefn. Dywedwch wrth Samuel Jones a'i gyfeillion fy mod wedi eu cofio yn garedig at yr hen wlad anwyl, (i. e. anwyl iawn hefyd, am fod Un mor anwyl wedi bod yn byw ynddi), ac yn enwedig at yr hen goed 0 Olewydd sydd yn yr ardd, ac ar y mynydd Yr oedd yr hin yn bur deg y diAvrnod yr aethom i Gethsemane, heb gWllwl ar y wybr, ond yn unig uwchben yr ardd. Yr oedd hwnw yn wir mor ddued ago y gallai fod, ac yr oeddwn i Avrth edrych ar hwnw yn meddwl am gAvxnwl digoi'aint y Duw cyfiawn, pan y g-wlawiodd ar ben ei unig-anedig a'i anwyl Fab, er mwynagor ffordd i achub pechaduriaid euog os credant ynddo. Wedi i'r teulu ddychwelyd yn ol, aethom ar hyd y ffordd y tybir i'n Harglwydd gael ei arwain ar ixyd-ddi i tys yr Arch-offeiriad. Y mae jax bresenol glaf-dy wedi ei adeiladu ar adfeilion yr hen Ddad- leudy. Y mae hefyd hen bont yn ei ymyl, a dywedir i Grist fyned dani pan yr arweiniwyd ef i'w groeshoelio. Ar ein ffordd adref, daethom heibio i Lyn Beth- esda, yr hwn sydd yn bresenol mewn gardd berth- ynol i deulu o Fahoiaetaniaid. Y mae inur o am- gylch yr arcld, a drysau ynddo yma ac acw, a thrwy y rhai hyny yr oeddym yn gallu gweled y llyn. Yr ydoedd yn syell ar y pryd, ac felly y mae dros dri -J' chwarter o bob blwyddyn, meddir. Dyna y peth diweddaf o bwys a welais ar y daith hon. Crefydd ydyw prif bwnc preswylwyr Jerusalem y dyddiau hyn. Y mae gan y Protestaniaid gyfarfod gweddi bob bore am chwech, a hefyd am banner awr wedi pedwar bob prydnaAvn dydd Mawrth. a dydd Gwener, ac un arall drachefn bob nos Sadwrn, a phedwar ar y Sabbath. Nid oes ond dau o'r cyfar- fodydd hyn yn Saesonaeg. Y mae y lleill mewn- xeithoedd eraill. Y mae yma ddyn o'r enw Mr Saphira. yn traethu yr efengyl mor hyf ag y bu Paul erioed, mi feddyl-r iwil. Nid ydyw yn Genhadwr wrth ei swydd, ond y mae yn cyflawni gwaith Cenhadwr i raddau hel- aeth iawn. Gwerthu llyfrau y mae dros Gymdeith- as yn Llundain, a phan y bydd ganddo hamdden y mae yn chwilio am adnodau o'r Beibl i ddangos i'r Iuddewon mai yr lesu yw y Crist, ac y mae yn ar- graphu yr adnodau hyny ar bapurau, ac yn eu gosod i lynu ar y muriau ar fore dydd Sadwrn. Ni feiddiai Avneud hyny ar ddyddiau ex-aill; ond gan mai y Sadwrn yw Sabbath yr Iuddewon, ac na chant yn ol cyfraith Moses wneud dim gwaith ar y diwmod hwnw, y maent yn gorfod gadael pethau yn llonydd. Peth arall y mae Saphira yn ei Avneud ydyw sefyll ar fur neu garreg i bregethu yn y Ileoedd mwyaf poblogaidd yn y ddinas; ac er fod llawer yn gwawdio ac yn ysgwyd eu penau, eto y mae teuluoedd cyfain yn dyfod i ymofyn am y ffordd tua Sion. Mae rhai o r Mahometaniaid yn myned i benau y pinaclau am bedwar o'r gloch bob bore, ac yn gwaeddi, Duw sydd faA\T.' Y maent yn galw i weddio dair gwaith yn y dydd, ac ni cheir dim ar werth gan y Tyreiaid ar yr awr weddi. Mor fuau ag y clywant yr alwad i weddio, gwelir cannoedd 0 honynt ar benau y tai yn gweddio. Y mae yr Ar- meniaid hefyd yn selog iawn yn eu ffordd eu hunain. Gwelir llawer o hen bobl ar faehlud haul yn myned a'u bwndeli yn eu dwylaw i gysgu ar fedd yr Arglwydd, o herwydd iddynt hwy y mae y bedd yn perthyn. Ychydig iawn o wlaw sydd yn Jerusalem y flAvyddyn hon, ac ofnir y bydd yma lawer o brinder dwfr. Y mae y locustiaid hefyd yn difetha y peth- au sydd wedi eu hau. Disgynant i lawr yn gawod- ydd am ddwy awr neu dair bob dydd, ac wrth edrych i fynu ymddang-osant fel cawod fawr o eira, nes tywyllu yr awyr a britho ein llygaid. Bu yma lawer o deithwyr y flwyddyn hon. Devi- ant yma o bob parth o'r byd. Daw rhai i mewn i'r ddinas a choron ddrain ar eu penau, er coffadAvriaeth am ein Harglwydd. Mae yn debyg eich bod wedi darllen yn y papurau newyddion fod y Tywysog Arthur wedi bod yn talu ymweliad a'r wlad hon. Cawsom yr hyfrydwch o'i weled agos yn ddyddiol tra bu yn aros yn Jerusalem. Bu yn yr eglwys y Sabbath a dreuliodd yma. Y mae yn edrych yn bur ieuanc, ac yn ymddangos yn fachgen anwyl a hynaws gwenai yn siriol ar bawb. Rhaid i mi derfynu yn bresenol, gan obeithio eich bod oil yn inell, &c. Oddiwrth eich merch, M. J.

LLITH 0 GRUGIAU EDRYD.