Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

LLYTHYR 0 AMERICA.

T-DIRWESTWYR A ll ETIIOLIADAU.…

News
Cite
Share

T- DIRWESTWYR A ll ETIIOLIADAU. LA At y Parch. -T. Thomas, I.:cei-jjoo7. Anwyl Frawd.—Teimlaf yn dd: -lehgar i chwi am eiih llythyr boaaddigairld yn A Txsr diweddaf. Gwyddwn eich safle chwi yn beivusiol oddiar Gyn- hadledd Cymjnaafa Blaeriycoed yn 1864, ond nis gwyddwn mai chwi oedd awdwr yr erthygl ar Etholiad Bristol yn y Tyst am Mai 'fed, nes cael o honof v TYS ? diweddaf. Gwybod fod rhai nad oeddent na p'u .•idwyr y Permissive Bill na dirwest- wyr yn rhoddi cyffelyb gynghor, ac nid dim yn yr ysgrif ei hun, a barai i mi ofni mai gwrth-ddirwest- wr a'i hysgrifenasai. Da genyf gael ymdrin a'r cwestiwn hwn gan un sydd yn edrych arno o'r un safle a minnau, fel nad oes yn ein gwahaniaethu ond teilyngdod cymharol dau achos da. Mewn barn, byddem ar wahan; ond yn ymarferol cydweithredemmewn 99 o bob 100 o amgylchiadau a ddelent i'w profi. Yn Etholiad Bristol, yr oedd y peth rhwyddaf yn y byd i bob dirwestwr Rhyddfrydig ddewis Morley, acnidMiles, a gwnaethant hyny. Ond nid oedd safle Morley, er ei fod yn ddirwestwr, y fath ag a gyfiawnhai Bwyllgor Dirwestol Etholiadol i weithio drosto, nac i gymhell dirwestwyr Toriaidd i bleidleisio drosto, er ei fod yn groes iddynt hwy ar gwestiwn cydraddol- deb crefyddol. Y mae y cyfryw ddirwestwyr 'pen- boeth' yn y blaid Geidwadol, y rhai a bleidleisient dros wrthwynebu y fasnach feddwol, er ei fod hefyd dros ddilead y Dreth Eglwys. Tybiwn ddau ym- geisydd yn gyfwerth yn mhob peth arall, ond fod un dros y Permissive Bill ac yn erbyn ysgrif Glad- stone, y Hall dros ysgrif Gladstone a thros y fasnach feddwol—pa un a ddylem ddewis ? Dywedais, a dywedaf etto, y dewiswn bleidiwr y Permissive Bill. DN-wedweh chwithau pleidiwr ysgrif Gladstone, o herwydd dau reswm. Cynnygiaf fy marn ar y rhesjanau hyny. Y Cyntaf. Fod sefydliadau gwladol o grefydd yn faieli. ar gydwybod, y fasnach feddwol ar logell y deiliaid, ac y dylem deimlo mwy o awydd i ysgwyd ymaith faich oddiar y gydwybod, nag i wella ein hamgylchiadau. Addefaf y gosodiad cyflredinol, ond gwadaf y cymhwysiad. Cymmerer y dreth eglwys, nid yw yn gwasgu mwy ar fy nghydwybod na'r fasiiael-i feddwol. Ni cheisiwyd genyf ei thalu erioed. Y mae yr awdurdod yn llaw mwyafrif y trethdalwyr i'w gosod; ond pe gosodent hi, gallwn wrthod ei thalu, ac ni effeithiai ar fy nghydwybod, ond ar fy llogell yn unig. Y mae y senedd, wrth awdurdodi gwneuthuriad treth eglwys, yn gwneyd yn groes i'm cydwybod i, felly y mae hefyd wrth drwyddedu y fasnach feddwol, a gosod nod o barch ar fasnach haiogedig-, uwchben yr hon y cyhoedda Duw wae yn ei air sanctaidd, ac nis gallaf osgoi ei chanlyniadau. Teiinla yr holl wlad o herwydd y cynhenau, y cablau, y Uadradau, y llofruddiaethau, y tlodi, a'r gwallgofrwydd a gynnyrcha hi. Ynddi gosodir anwiredd yn lie cyfraith, a phob dylanwad a feddaf yn newisiad deddf-wneuthnrwyr a gaiff ei roddi yn erbyn y rhai a bleidiant y fasnaeh hon o gydwybod i Dduw, yn gymmaint ag er lies i'r llogell. Nid bod yn weinidog Duw er daioni y mae yr awdurdod pan yn eyfreithloni y fasnach feddwol. Eich-ail reswm yw—Fod cwestiwn yr Eglwys W yddelig yn un mwy addfed ac uniongyrchol nag un y fasnach feddwol. Mewn un ystyr y mae felly, o gymmaint a'i fod wedi dyfod yn gwestiwn plaid rhwng y rhai sydd mewn swyddi, a'r rhai awyddus am swyddi; ac y mae ei fod wedi dyfod felly yn ddyledus i lafur cysson a diflino y Liberation Society, ac yn neillduol i ysgrifeniadau goleu ac ymresymiad- 01 Edward Miall, yn perswadio Ymneillduwyr i'w wneyd yn bwngc etholiadol, er dyrysu drwy hyny amcanion plaid. Mewn goleu arall, nid wyf yn gweled y pwngc yn addfetach. Yn y mwyafrif tu cefn i Mr. Gladstone yn Nhy y Cyffredin, ceir: 1 An- ffyddwyr, y rhai a fynent osod eu llaw ar bob sef- ydliad crefyddol, a, bleidient y fasnach feddwol, ac a agorent leoedd o ddifyrweh a masnach ar ddydd yr Arglwydd. 2 Pabyddion, y rhai a fynent ddaros- twng yr Eglwys Brotestanaidd, ac a awyddant, ac a ymgeisiant am uwchafiaeth iddynt eu hunain. 3 Rhyddfrydwyr dychrynedig rhag Ffeniaeth, i ganiatau yn yr Iwerddon ddiwaddoli Eglwys y lleiafrif, er nad ydynt dros yr egwyddor yn Mhry- dain. Ac yn 4, Pleidwyr cydraddoldeb a gwirfodd- iaeth crefyddol, ac ofnaf mai dyma y ddosran leiaf yn y fyddin, a'r unig ddosran y gellir ymddiried ynddi ei bod ar yr iawn yn mhob cymhwysiad. Da genyf allu credu fod yr enwog arweinydd o fewn ychydig at, os nad yn gyfangwbl, o egwydd- orion yr adran yma o'i fydclin. Nid wyf yn erbyn yr undeb danweiniol hyn o gyrhaedd yr un amcan oddiar wahanol gymhelliadaxi; ond na chymmerwn ein twyllo i feddwl fod y frwydr ar derfynu, pan nad yw ei phoethder ond dechreu; ac y mae yn ddigon possibl, yn ol yr argoelion presennol, y g-welir dilead y fasnaeh fedclwol cyn y sefydlir cydraddoldeb cref- yddol dros yr holl deyrnas. Ychydig amser sydd er pan ddywedai Mr Glad- stone ei hun nad oedd yn meddwl y delai yr Eglwys Wyddelig yn gwestiwn ymarferol yn ei amser ef; ond y mae wedi dyfod. Dy-wedodd Argiwydd Stanley na safai cynllun presennol awdurdodiad y fasnaeh feddwol un tym- mhor pe cai Ty y Cyffredin bleidleisio yn ddirgel; ond y mae arnynt ofn y tafarnwyr, y rhai a ddang- osasant eu nerth a'u cynddaredd yn Bristol. Dywedodd Mr Bright wrth dafarnwyr Birming- ham fod eu dydd ar ddarfod, ac y byddai eu dylan- wad yn Ilai yn y senedd newydd wedi yr ychwaneg- iad at yr etholwyr daxx y Reform Bill. Nis gallwn wadu eu hawl i gynghreirio yn mldaid y fasnach, mwy na hawl dirwestwyr i'r gwrthwyneb, fel y cyd- nabyddai y Proffeswr Goldwin Smith; ond gellir ammheu doethineb y ddau. Y mae cwestiwn y fasnnch feddwol ar Ddydd yr Arglwydd yn awr o flaen pwyllgor yn Nhy y Cyff- redin, a gobeithiaf yr esgora ar well cynllun nag un bychan Mr J. Abel Smith. Nis gwyddom pa mor gynted y daw cwestiwn y fasnach i safle bresennol yr Eglwys Wyddelig a'r ffordd i'w gael yw undeb a sel y rhai a deimlant yn frwdfrydig yn ei gylch. Lla y gwyr y blaid Ryddfrydig- fod dirwestwyr yn gryf fel yn Leeds a Manchester, yn lie eu beio am ranu y blaid, g'ofalent am Ryddfrydwyr ffafriol i'r Per missive Bill: Rhaid bod ynorselog i ddwynmawr- serch mewn peth da os mynir iddo lwyddo; a lie na wi-esogo ein rhinwedd ein nwydau, prin y mae yn ddiog-el. Nis gellir rhoddi rheol gyffredinol; ond pa le bynag y byddo nifer o etholwyr mewn sir neu fwro-c-isdref dros y Permissive Bill, cyng-horwn hwy i ffurflo pwyllgor etholiadol. Trwy hyny, tynent sylw yr aelodau presennol, a'r rhai a chweiinycharit am eisteddleoedd. Y mae Syr T. Lloyd, yr A.S. dros sir Aberteifi, yn deilwng o glod a diolch am ei wroldeb yn cynnyg cyfyngiad ar ddylanwad y fasnaeh feddwol mewn etholiadau. O'r ochr arall, y mae Mr Bowen, yr A.S. dros sir Benfro, wedi dangos anwybodaeth hollol o sefvllfa rhanau amaethyddol y wlad gyda golwg ar ddiota a meddwdocl ar Ddydd yr Arglwydd. Nid yw y pwngc yn un a oddefa ei ohirio na'i droi o'r neilldu. Na laeser dwylaw. Cymmerer yn cldiolchgar help gan bawb a ddelont ychydig gam- rau at leihau meddwdod, a myner gwybod barn pob ymgeisydd ar y pwngc. Ni pheidiwn roddi fy llais dros ymgeisydd a bleidiai gydraddoldeb crefyddol, er na byddai dros ddilead y fasnaeh feddwol, on na byddai genyf r/yjffc i roddi fy mhleldlais ,r¡yda,r¡ ymgeisydd gwrtJucynebol i'r fasnaeh feddwol. Dangosais fy safle. Gwelir yn amlwg y llinell lie y gwahaniaethwn. Gobeithiaf y cewch lilt aelod dros Liverpool ar yr ochr iawn ar gwestiwn y fasnach feddwol—cwestiwn sydd yn ei wahanol arweddiadau wedi tynu mwy o sylw Liverpool yn y blynyddoedd diweddaf nag un dref arall yn y deyrnas. Gan dclymuno liwyddiant cydraddoldeb crefyddol a dilead y fLIliacii f(:(Idivol-oiid yn benaf yr olaf, fel help at y blaenaf. Gorphwysaf, gyda phai'ch difl'uant, Yr eiddoeh yn gywir, zzl SIMON EVANS, ••in 9fed, 1867. Hebron.

Y PARCH. W. D. WILLIAMS, DEER…

GWEITHWYR SIR GAERNARFON YN…

CYMRY LIVERPOOL.

LLYTHYRAU CYMRAES YN NGHANAAN.

LLITH 0 GRUGIAU EDRYD.