Skip to main content
Hide Articles List

7 articles on this Page

LLYTHYR 0 AMERICA.

News
Cite
Share

LLYTHYR 0 AMERICA. NEW YOEK, Mai 29, 1868. Foneddigion,—Mae y cyng-haws a. ddyg-odd Ty ein Cynnrychiolwyr yn erbyn Johnson ger bron senedd yr Unol Daleithiau wedi terfynu ddydd Mawrth di- weddaf. Terfynwyd ef heb gymmeryd votes ond ar yr ail a'r trydydd cyhuddiadau. Hysbysais yn fy llythyr diweddaf ei fod wedi ei ryddhau ar y cy- huddiad lleg er y Sadwrn diweddaf, trwy i 6 neu 7 o'r Representatives votio gyda'r Democrats. Darfu i 35 o'r seneddwyr ei gyhoeddi yn euog, a 19 yn ddieuog felly, efe a gafodd y mwyafrif o un dros ei ryddhau. Ond gan nad oes ammheuaeth yn medd- yliau yr Ardwywr dros Dy y Cvnnrychiolwyr yn nghylch fod rhai o'r seneddwyr wedi eu llwgrwobr- wyo, penderfynodd y Ty i'r pwyllgor archwiliadol barhau gyda'u gorchwyl nes cael y dirgelwch allan. Dichon y gellir dywedyd nad ydyw Johnson wedi ei gwbl ryddhau eto, am na votiodd y senedd ond ar dri o'r un-ar-ddeg cyhuddiadau a ddygwyd yn ei erbyn. Ond y mae yn eit-haf amlwg, pe buasent yn votio ar yr wyth cyhuddiad ereill, y buasai yr un rhai yn votio dros ei ryddhau, a'r un rhai yn votio euog fel o'r blaen. Mae wedi ei ysgrifenu ar ddyddlyfr y senedd ei fod yn ddieuog yn ngwyneb y tri cyhuddiad y vot- iwyd arnynt. Yna cymmenvyd vote y senedd dros iddi gael adoedi neu ei gohirio fel rileithlys ar achos Johnson (sine die) heb ddydd. Felly, yn ol fy main i, mae achos yr Arlywydd wediei benderfynu yn llys senedd yr Unol Daleithiau, er inai adroddiad y rlieithlys a basiodd y senedd. Ond nid yw hyny ddim gwell na dichell gyfrwys- ddrvvg I geisio dallu y wladwriaeth. Wedi ei argyhoeddi na byddai i'r Arlywydd gael ei ddiswyddo, trwy i saitlx o'r Representatives votio gyda'r Democrats, penderfynodd Stanton roddi ei swydd i lyny-yi-i y swyddfa ryfel; ac felly y gwnaeth er doe. Rhoddodd yr holl lyfran a'r agoriadau i fyny i'r swyddog nesaf ato, ac anfonodd hysbysiad o hyny i'r Arlywydd, ynghyd a'i resymau dros wneyd. Anfonodd yr Arlywydd enw General Schofield i'r senedd er's rhai wythixosau bellach i gymmeryd lie Stanton, pan welai na chefnogai y senedd Lorenzo Thomas, ei dwl ef; ac y mae yn fwy na thebyg mai Schofield fydd yr ysgrifenydd rhyfel bellach, hyd, nes y daw tymmor Johnson i fyny. Fy ngobaitll i ydyw y bydd i'r saith a ddewisodd Ty y Cynnrychiolwyr yn Ardwywyr y cyhuddiadau yn erbyn Johnson ger bron y senedd barhau yn bwyllgor archwiliadol i baciau y seneddwyr hyny a dwyllodd en plaid, fel J olmson o'u blaenau, nes cael allan tan babell pwy y mae y llafn &c., wedi eu cuddio. Ac er na ddymunwyf i'r rhai y ceffir y llwgrwobrwyon yn eu meddiant gael eu llabuddio a meini i farwolasth, a llawer llai eu tenluoedd dieuog; eto dymunwyf iddynt gael en dynoethi a'u cospi yn g-yfiawn yn ol deddfau y wlad, yn rhybudd i ereill, ac i'w tai foi fel ty yr hwn y datodid ei esgid yn Israel am fod yn anffyddlawn i wraig- ei frawd. Ac os cymmerodd rhai o honynt arian gan Johnson neu ei gyfeillion, am ei ryddhau oddi wrth y gosp a haeddai yn gyfiawn, nis gallaf ddymuno dimgwaeth iddynt nag* i. wahanglwyf J ohnson lynu wrthynt nes yr eclifarnaont yn wirioneddol, a dodi yr arian yn ol i'r rhai a'u hudodd i ollwng y tarw hwylig yn rhydd. Mae y Gydgynghorfa yn awyddus dros ben am gael adoedi tua chanol mis Mehefln, tra y mae ganddi lawer iawn o waith heb ei gyflawni, a hwnw yn dra ph-w-ysig i'r Ilywodraeth, yn enwecdg Cyfi-aith y Fewnol Ardreth (Internal Revenue Bill) sydd wedi ei gynnyg er's llawer dydd bellach. Sicrheir gan arch Avil wyr i'r amgylchiadau fod y masnachwyr mewn whisky a ffwgws yn lladrata oddiar y llywodraeth filiwn o ddoleri bob wythnos. Ac organ y ring hon o ladron yw y New York World, 9 1 g-olygydd pa un a annogai y frawdoliaeth, ychydig dclyddiau yn ol, i gasglu yn eu plith en Imuain ddeng miliwn o ddoleri, i brYllu wyth neu cldeg o'r seneddwyr Republicanaidcl i votio dros ryddhad J ohnson. Am hyny, mae llais y wlad yn erbyn i'r Gydgynghorfa gael ei gohirio nes pasio y gyfraith UChod, er rhoddi terfyn ar y twyll a'r lladrad sydd yn cael ei gario yn mlaen dan y drefn bresennol. Hefyd, y mae teimlad y dinasyddion yn erbyn i'r Gydgynghorfa gael ei gohirio nes y derbynir yn ol i'r undeb y Talaethau Deheuol hyny ago sydd wecli newid eu Cyfansoddiad au Taleithiol i fod yn unffurf a mestirau adgyweiriol y Gydgynghorfa. Mae pump neu chwech o'r talaethau hyn yn dis- gwyl wrth ddrws y Gydgynghorfa yn barod; ac fe ystyria y wlad fod yn anheg eu cadw wrth byst pyrth y Gydgynghorfa i ddisgwyl am fisoedd eto, gan y byddai hyny yn anfantais a cholled i'r llyw- odraeth gyffredinol, ac i'r talaethau hefyd sydd yn bresennol yn barod gycl.Li, Cyfansoddiada-Li- Diwyg- iadol. Ond y mae y rhan fwyaf o'r Gydgynghorfa yn gyfreithwyr, a chanddynt orchwylion cartrefol yn syalw am danynt. 0 ganlyniad, y mae yn lied an- hawdd penderfynu pa beth a wnant, am ei bod yn gyfyng arnynt o ddeutu. Eu buddion personol a eilw am danynt adref, ond buddion y talaethau a nodwyd a eilw arnynt i aros nes eu derbyn hwynt i'r Undeb. Hefyd, mae ar rai o honynt beth ofn, os na wrandawant ar lais y wlad, na chant fyned i Washington eto. Mae cyfarfodydd cymmeradwyol i Grant i fod ein Harlywydd dyfodol, a Colfax yn Is-lywyad, yn cael en cynnal clrwy holl drefydd a phentrefydel;j y wlad, a hyny gyda'r set a'r brwdfrydedd mwyaf. Nid yw y Democratiad wedi dyfod i benderfyniad eto pa ddau a redant hwy yn eu herbyn. Ond pwy bynag a fyddant, hyderaf ybycldant yn aflwyddian- nus. Gomeddodd Saul gynt a gwneyd ewyllys yr Ar- glwydd, a chafodd ei t'wrw ymaith am ei anufudd- dod. Ond cafwyd Dafydd yn wr wrth fodd calon Duw, i gyflawni yr hyn aesgeulusodd Saul, a llawer mwy hefyd. Felly hefyd Johnson a omeddodd wneyd ewyllys Dnwa dynion goreu yr Unol Dal- eithiau, a chaiff ei chwydu yn fuan o enau y wladwr- iaeth, fel adyn atgas a ffiaidd, ynghyd ag amryw creill i'w ganlyn. Ond yi- ydym yn lIed sier y caiff Duw a'r dinasyddion Undebol yn Grant a Colfax cldynion wrth fodd eu calonau; ac y g-wnant yr hyn .a esgeulusodd Johnson, a llawer mwy, tuag- at ddvfod a phethau i drefn y wladwriaeth. Arbedodd a maddeuodd J ohnson i filoedd o Amaleciaid y De- heu, clan obaith cael eu dylanwad i redeg yn Ar- lywdcl drachefn; ond daliodd Rhagluniaeth y cyf- rwvs yn ei g*^rfrwysdra, a throdd ei holl gynlluniau .a'i" fwriadau yn ffolineb, hyderwyf. Hyderaf yn qTvf y myn y wladwraeth, a Duw hefyd, Grant a Colfax i brif swyddau y Uwodraeth. Dios y g-wnaiff ty Johnson eu goreu yn eu herbyn, fel y gwnaeth ty Saul gynt cu hegiii yn erbyn Dafydd. Ond pared Duw a dynion da i'w holl lafur fyned Yl1 ofer, medd fy enaid." E. G. New York.

T-DIRWESTWYR A ll ETIIOLIADAU.…

Y PARCH. W. D. WILLIAMS, DEER…

GWEITHWYR SIR GAERNARFON YN…

CYMRY LIVERPOOL.

LLYTHYRAU CYMRAES YN NGHANAAN.

LLITH 0 GRUGIAU EDRYD.