Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

18 articles on this Page

ITHE PEDIGEEE OF THE ENGLISH…

--------------CROESOSWALLT.

COLEG ABERHONDDU.

LLANFAIRCLUDOGAU, GER LLANBEDR.

News
Cite
Share

LLANFAIRCLUDOGAU, GER LLANBEDR. Lied anaml y gwelir enw yr ardal uchod ar dudal- enau y TYST CnIREIG, nag un tyst arall; ond y mae llawer iawn o bethau yn digwydd yma vn haeddu cad eu cofnodi bob Avythnos. Saif yr ardal hon mewn llanercli brydferth iawn tua chanol sir Aberteifi, tua banner y ftordd rhwng Llanddewibrefi a Llanbedr Pont Stephan, ar lenydd ffrwythlawn Teifi. Ei phrif fasnach yw amaeth- yddiaeth, a dianmheu nad oes achos i'w hamaethwyr dynu euhetiau i neb yn ydywysogaeth. Maegolwg I hynod obeithiol am gnydau toreitliiog y flwyddyn hon, ac y mae y wlad yn edrych oddiar ben un o'r i")ry72i.nn cylchynol fel paradwys. Wel! "W-e.' syned y byd, Lloegr, a Llaiirwst T Beth ydyw yr liyHuj'^ku fechan dlws acAy ? Mae hona yn beth hollol newydd yii Llanfair betli bynag ydyw, canys ni welir fawr hysbysleiii yn yr ardal hon oddiethr ambell i arwerthiad gan rai o'r aiii,,etli- wyr, ac nid ydyw y rhai hyny yn dobyg yr un ddull a honacAv Cyfarfod Cystadleuol, Capel Mall'. Yr oeddwn i yn meddwl ar unwaith ei fod o yn rhywbeth newydd, canys pan oeddwn i yn hogyn bach, fyddai dim o'r fath beth i'w weled, na son am dano chwaith. Y ffordd fwyaf talelltog oedd gan y trigolion yr amser hwnw i loewi ychydig ar y cof, &G., fyddai crynhoi i efail y Gof neu Biop y Crydd, i adrodd ystraeon, a'r mwyaf doniol efo'i stori fyddai y callaf yn yr ardal, fynychaf. Ond y mae yn dda genyf weled chwaeth yr ardal wedi newid, ac yn eynnyg am ddilyn yr oes. Yn wir y mae yma hysbyslen ddestlus dros ben; chwaeth uchel yn neAvisiad y testynau ond nid cystal yn gwbl yn rhaniad y gwobrau. Yr wyf yn an- mheu fod beirdd yn dal cyssylltiad a'r Pwyllgor neu ni fuasent yn rhoddi nnvy iddynt hwy am en gwaith na'r llenorion. Rhy fach braidd yn wir yw y wobr am y prif Draethawd; ond'does dim i'w wneud 'rwaii ond gwneud y goreu o'r gAvaetliaf,' gan mai fel yna y mae wedi digwydd y tro hwn. Yn wir y maent wedi bod yn bur ofalus rhag- gadael i neb fod 1:1 yn segur. Mae lie i'r Beirdd o bob gradd ac urdd i ddod yn mlaen, ac hefyd i'r Traethodwyr a'r Haneswyr, a'r Cerddorion, a'r Datgauwyr yr un modd. o Hefyd cawn yma rai o brif ddarnau yr oes i'r Ad- roddwyr a'r Cyfieithwyr, &c., ae nid ydynt wedi an- nghofio y bobi dalentog hyny, yr Areithwyr, ac yn wir, i mi gael dyweyd fy meddwl wrthych, yn ddistaw bach, yr wyf fi wedi Avincio ar un o'r gwobrau hyny eisioes. A dylwn ganmol y Pwyllgor am fod nior ofalus yn chwilio allan eu Beimiaid, yn mysg y rhai'n y cawn yr enwog John Lewis, B.B.D., Tregaron, (Glan Meirig), &c., a chlyAvais ddyAveyd eu bod Avedi cael addewid gan E. Hughes, Ysw., Castell du, i lanw y gadair. b Bobol anwyl yr wyf wedi meddwi yn siwr ddigon ar yr Eisteddfod. Pan oeddwn i yn dechreu ysgrif- enu yr oeddwn yn meddwl cofrestru yehydig o weithrediaclau yr ardal, ond aethum yn ddamweiniol ar draws yr Eisteddfod, ac aeth y cyfan yn bendra- mwnwgl. Yr wyf yn hyderu y gwiiaiff y PAvyllgor faddeu i mi, ac yr wyf yn addo bod ychydig yn fwy cymmen y tro nesaf Mr. Gol—-Morgrit.gyn. arei daith.

AMERICA.

CHWYLDROAD YN YR YSBAEN.

MARWOLAETH A CHLADDEDIGAETH…

YMWELIAD Y PARCH. D. PRICE…

PWNC Y DADGYSYLLTIAD.

"CYMANFA LLANBRYNMAIR.

ADOLYGIAD Y WASG.

NODION A NIDIAU.I

LLANFYNYDD A'I CPIYLCHOEDD.

MERTIIYR TYDFIL.

PORTHMADOG.

PWLLHELI.

WYDDGRUG.

BRYSTE.