Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
5 articles on this Page
BRO MORGANWG.
BRO MORGANWG. Nid oes dim hynod yma y dyddiau hyn. Mae y yn ddymunol anarferol, gymaint felly nes y Cyladdefa amaetbwyr nad ydynt yn cofio gwell gwan- yjTtt na haf nag eleni. Mae wedi cael effaith ar lun- laeth. dyn nes gostwng ei bris. Yr oedd yn ddigon o bryd, canys yr oedd yn uchel iawn.drwy y gauaf a'r gyanwyn. Ryw dro pan glywodd Gwyddel am styngiad pns y bara, dywedodd, Dyma y tro cyntaf 1 mi lawenhau am gwymp hen gyfaill.' Mae mil- oedd o deuluoedd yn y sir hon yn teimlo y cyffelyb awenydd y dyddiau hyn. Ychydig gawsom ni yma Or ystorm daranau a mellt diweddar aeth di-os yr Yllys hon, end gadawodd beth o'i hoi. Disgynodd 14ellten ar LAW WEITHFA WLAN gerllaw Penyeoed, plwyf Llangrallo, a llosgodd hi ^r oc'dd wedi ei yswirio, fel na fydd dim ned i r perchenogion o'r herwydd. bv ^1Ua *awer 0 ddynion bob Avythnos yn colli eu jTwyd drwy ddanrweiniau, ac o'u hachos eu hunain. 1 dyddiau diweddaf ELADDAVYD PEDWAR 0 DDYNION, Howell, 23 oed, trwy gwyinpo yn ngloddfa ^10S- Richards, 58 oed, trwy gwympo yn g ddfa Maesteg; a William Owen,mewn station ger- Uaw, gan y tra ill; yr oedd yn fcddw fel na allodd ofalu ra aano ei hun aeth y train drosto a thorwyd un o'i >e*u a'j ddwy goes, a bu farw dan gyllell y eddyg. Yr oedd yn ddigon sobr y pryd liwnw. ^ruenus oedd sefyllfa ei feddwl yn gystal a'i gorph e IiI1?1U^ai1 dreuliodd yn J hyd hwn. Weithwyr aied Morganwg, ymgedwch rhag y ddiod feddwol. Wnaeth Thomas Hodyetts, Tondu, 58 oed, derfyn dd-sS k°edl drwy ymdaflu i bwll glo haner llawn o p r*' 5k,f ydoedd; bu am amser yn ngwallgofdy ef6111i tybiwyd f°d wedi gwella, a gollyngwyd a"an—a thyna Avnaeth ag ef ei hun yn fuan wedi 1tyddhau. DOWLAIS. h Cj nualiwyd tri o gyfarfodydd cvstadleuol yn y lie I- y J^ydd Llun Sulgwyn, perthynol i Bethania, capel c^fJlnibynwyr- Cynnaliwyd y ddau gyfarfod yntat yn yp ysgoldy hardd sydd newydd ei hadeil- Pei"thynol i'r capel, a'r cyfarfod hwyi'ol yn jJ° aP°' Bryn Seion, trwy ganiatad caredig yr eg- "Mi'T ^b'Wyddwyd y cyfarfodydd trwy y dydd gan i -Avails o goleg Aberhonddu, yr hwn sydd yn dyfod yn weinidog ar eglwys Bethania. irniad y dadganu ydoedd Mr John Jones, Seion, ymney; beimiad yr adi-oddiadau, ydoedd Dafydd °|"8 anwg, Merthyr Tydfil. Carem ddyweyd fod P.efV,aU- S'y^arf0(i cyntaf wedi eu cyfyngu i gapel a>r ailla> a'r cyfarfodydd liwyrol yn rhydd i'r byd rhv Ws; Aethpwyd yn mlaen a'r cyfarfodydd ywbeth fel y canlyn:— Y CYFARFOD DDEG. agoriad i'r cyfarfod liwn cafwycl can a cllyd- gan '0 rhoweh i mi fwth;' wedi hyny cawsom an- nerchiacl pwrpasol dros ben gan y llywydd. Yn esaf, cystadleuaeth ar Y Bwthvn yn nghanol y Mad,' i fechgyn dan 18 oed; goreu—William Jones. 1 r terch dan 15 oed, a adroddai yn oreu Lief o'r lotty; goreu-E. Jones. 3. I'r hwn a gano yn oren y Solo Tenor o 'Deffro,' gan Lloyd; amryw yn cystadleu, a rhanwyd y wobr rhwng Gwilym Morlais a T. Thomas. Wedi hyny galwyd ar y plant bach C, a8' oedd wedi dysgu damau heb fod yn gystadleuol pan y daeth llu mawr o honj^nt yn mlaen. 4. I'r aehgen dan 15 oed a adroddo oreu Cod well y Pin;' goren-J. Evans. 5. I'r ferch dan 15 oed a gano Yn oreu Father's come home;' goreu- Rachel ThoIna,, Wedi hyny terfynwyd y cyfarfod hwn trwy 1 Eos Morlais ganu 'Hen Feibl mawr fy Mam,' Yr hyn a Avuaeth gyda gallu mawr. Y CYFARFOD DDAU. ^'r Uy«T^(I gymcryd ei le aethpwyd yn mlaen da-n^V cy^arf0<l ^lWn y canlyn:—1. I'r bachgen j oed a adroddo 'Yr Asyn anfoddog;' goreu— r' vaTls- 2. I'r ddau a gano yn oreu 'Y Gradlys;' a Glan Morlais a'i Gryfaill. 3. I'r ddau Tho ^d° yn oreu «Y Ceffyl henthyg;' dim ond T. WoV|RlaS a ^ones ddaeth yn ndaen, a chawsant y I'r ferch a gano oreu Codiad yr Ehedydd;' chaf James ddaeth yn mlaen i ganu a J}as8 y wobr. 5. I'r hAvn a gano yn oreu y Solo gorei °t §'an lluaws yn cystadlu, bethl- "^vanR- I'r ddwy a gano yn oreu 'Pa °es,' un parti a chawsant y wobr. 7. Ar- iloi-1 ai' I'Viiyddoedd Canaan,' dim ond G-wilym iaoli«ainddaeth ar Y testyn, a chafodd gan- 'Nid Uc^e^ yn righyd a'r wobr. 8. Adrodd CvstarTiUr yw Po1) Peth sy'n dysgleirio,' amryw yn oreu 8;°reu G wily in Morlais. 9. I'r 3 a gano yn Jje T. ^'iawd o Anthem Manchester; goreu—E. S-ipT* a 1 §7feillion. Terfynwyd y cyfarfod hwn trwy S'au ?Trs^a^e'aaeti1 ar Nhad sydd wrth y llyw,' cm. -\t 1 ft'01' ° Bethania, a dvfarnwyd y wobr i'r ■^0- 1, dan arweiniad J. Evans. Y CYFARFOD CHWECH. J I^yma y prif gyfarfod gan ei fod yn gyfarfod rhydd awb, ae yn wir cawsonl gyfarfod rhagorol fel y !)'W l-- J to.J I'r ferch. a g-anoyn oreu 1 faban arall;' gwobr 4s., 5 yn cystadlu, ^reu1" A/r i29,106^1 ^'r {Wau a gano yn ae,;i1 y11 fyw;' gwobr 5s., tri parti vn r a <y.w, goreu—J. Evans a T. Thomas. 3. I'r hwn cvsto ?, yn oreu 'Morfa Rhuddlan gwobr 4s., 7 yn. 'r^ees a rliamvyd rllwllg Gwilym Morlais a John 4. Araeth ar y 'Priodoldeb o ddatgysylltu yr 'i^daetf8 oddiwrth y Llywodraeth;' dim ond un ^ros ifi yu mlaen a chafodd y Avobr. 5. I'r hen wr 40 oed a gano yn oreu 'Elliot gwobr 2s. 6c., 4 i^Vdv'Mlu' g°reu-Ieuan Cerdd. 6. Adrodd 'Balm g^oo"1' 3s. Gc., amryw yn cystadlu, uuvyd rhwng J. Evans a W. Jenkins. 7. Canu ^Tr,11 e os., 5 vn cystadlu, goreu i§Vnian Glan Morlais- 8" A(]rodd <Y ty ar dan;' ow" Uuaws yn cystadlu, gorou—Cawr Corwg, t)a y1'- 9" 1>r 8 a gau° °reu Maigw°hr 10s., •'WerV i yn cystadlu' goreu—J. Evans a'i gyfeillion. o.a, xyny y Prif destyn, sef i'r cor o'r un gynulleidfa 01-611 yr Alarch;' gwobr 3p., darfu i bedwar ■fow ^yg am y dorch, sef corau Bethania, G wern- SblagU' Sermon, a Horeb dyfarnwyd y wobr i'r cor yr ^l wii a arweiniwyd gan Gwilym Morlais. MaJy^ cyfarfodydd rhagorol yn mhob ystyr, a Pctfr yn mlaen yn weddaidd ac mewn j" Rha gor o'i fath yw dyiminiad—Morlais. 1 n GWYNFE. fl^1AVycyfarfod dyddorol iawn yn Ysgoldy '2 o'r y lle dydd Mawrth Mehefin 9. Am Hc/l0ch yr oec^ Williams, Ysw., Llanelly, yn ftdav. /r ysg°l. a chafodd foddhad ueillduol yn y 4ene ^dosparth flaenaf, ac efallai y buasai y plant yn ateb jn well oni bae fod y gwragedd w°di dyfod a'r basgedeidiau llaAvnion i'r ijj* oei? °yn r arholiad derfjmu. Am 4 o'r gloch, ^yr(?dau ° dan eu beichiau. Y rliai a y te a'r bara brith eleni oeddynt Mrs JWij. Cwmgwenllan, a Mr Rees, Biynwhith. Yn 'tot oedd yn iechyd i galon dyn i weled oddautu a\¡ blant iachus a glanwcdd yn cydeistedd i fwyn- T byrll "nnain heb un goiid yn eu blino o amgylch ^ait^. P' a'r 'rhai sydd yn main.' yn cael cligon o Ii(,ellllh; Ilid oecldua'r 'Iris/¿ Church' ua'r 'Notorious ?Wy yn blino dim ar feddwl yr un o honyut Waif y ^c.drosodd, ac am 7 o'r gloch cafwyd ^rej-0 P°hlogaidd iawn. Etholwyd yr enwog a'r John Williams, Abertawy, i'r gadair, a yn ^B'01'01- Wedi i'r plant ganu ac f C{|J^ amryw ddarnau yn chwaethas iawm, galwodd ar D. Williams, Ysw., Llanelli, i roddi KiOo. a gwnaeth Mr Williama areiihio yn ardder- oedd pawb yn ymddangos mown hwyl. s^lwodd y catleirydd ar y Parch VV. Thomas i, roddi anerchiad, a rhoddodd ychydig o hanes yr ysgol o'r dechreuad, a dywedodd fod-I., ysgol yn awr mewn sefyllfa foddhaol mewn ystyr arianol, fod yr Ysgoldy yn rhydd, cyflog yr Ysgolfeistr yn dyfod i law yn rhwydd, rhif yr YSt:olheigion yn cynyddu, a bod yr ardalwyr yn gyffredinol bellach yn teimlo intercut ynddi. Yr oedd' y cwrdd drwyddo yn llawn bywyd, a'r cadeirydd enwog yn taflu ambell awgrym a mynd jaiddo, nes ysgwyd y gynulleidfa drwyddi. Wedi'r diolchiadau arferol i'r cadeirydd, areithwyr, ysgolfeistr, a'r boneddigesau a fu wrth y to, ymwasgarwyd ychydig wedi 10 o'r gloch. Y mae yn dda genym allu hysbysu trwy gyfrwng y TYST fod Dr Williams wedi ymsefydlu yn Aber- tawy. Y mae efe yn feddyg medrus, yn Gristion gloew, ac yn ymneillduwr trwyadl. Chwi bobl Abertawy, gwnewch yn fawr o hono, ni bu gwell boneddwr yn troedio palmant eich tref yn yr oes bresenol. Gadewch i ninau gael ymweliad ganddo un waith y flwyddyn beth bynag.-Gohebyrld, BETHEL, CAERPHILLY. Cynhaliwyd gwyl flynyddol gan yr ysgol perth- ynol i'r lie uchod dydd Mawrth diweddaf. Dech- reuwyd am 3 o'r gloch, trwy gyfranogi o'r to a'r bara brith. Yna wedi cael gorymdaith drefnus trwy y dref, a rhoi tro i'r castell, cawsom gyfarfod aclrodd a chanu am 7 o'r gloch yn Bethel. Llyw- yddwyd gan y Parch D. Richards, y gweinidog; arweiniwyd y canu gan Mr William Davies. Canwyd tri dernyn gan y cor yn bur dda. Canwyd amryw solos, duetts, a thrios, hefyd yn wych iawn. Yr oedd yr adroddiadau yn well nag arferol. Cynhygiwyd diolchgarwch i'r Cadeirydd gan H. Anthony a Daniel Thomas, yr hwn a basiwyd yn unfrydol a gwresog.
BANGOR. '
BANGOR. AWDURDOD PEllCHENOGION TAI A TIIIROEDD AR FOTS EU TENANTIAID. Y mae'r ychydig eiriau a ddywedodd y Dr Rees yna yn nghyfarfod mawr Y Gymdeithas" Ddiwyg- iadol Gjmreig,' wedi gosod yr hen ddinas EsgoboI Bangor yma, ar dan gwyllt o benbwygilydd. Dyma'r geiriau Ewch i sir Gaernarfon; yno cewch weled arglwj-dd estroHol, mewn hiliogaeth ac mewn iaith, yn arglwyddiaethu dros feddyliau a chydwybodau yr holl boblogaeth, braidd. Onid yw'r bobl i'w beio yn fwy na'r arglwydd P O chwychwi bobl Eryri, ni ddylai'r pethau hyn fod felly Dyna nhw! Nid yw'r cwbl ond chwe llinell fer, ac eto, ewch i'r siop, i'r dafarn, i'r argraphdy, i'r pobdy, i'r efail, i'r crydd-dy, 1101L i'r teiliwrdy a fynoch trwy'r holl fangre, I yn-iosodiad Rees ar yr Arglwydd Penrhyn,' trwy gyfrwng y geiriau uchod, ydyw testyn y siarad, y ddadl, a'r ffrae ynmhob twll a chornel! Er esiarnpl, yr oeddwn i, neithiwr ddweuthaf, mewn ystafell gyhoeddus, lle'r oedd gryn ddwsin o ddynion mwyaf meddylgar y ddinas yma (fydda i ddim yn mynd i blith pob rapsgaliwns), a dyna lle'r oedd y dadleii bryntaf a'r a welais i er pan ddaethum o'm cryd hyd yr awr hon, o blaid ac yn erbyn Hiraethog ac Arglwydd Penrhyn. Wedi galw Gweirydd i'r gadair, am mai fo oedd yr hynaf yn y lie, am wn i, y cwestiwn a roddwyd i lawr oedd yr aralleiriad Ysgrythyrol yma :—' Ai nid cyfreith- lawn i'r Arglwydd Penrhyn, fel arglwydd y winllan gynt, wneuthur a'fyno a'r eiddo ei hun ?' Gan fod plaid Hiraethog a'r chwigiaid gryn lawer yn gryf- aeh yn y cyfarfod neithiwr -na plilaid yr arglwydd a'r toriaid, mi drois i efo'r olaf I ae os ich chi Yn y fan yna!' chwedl yr Hwntw, yr ydw i'n meddwl, hyd yn oed heddyw, ar ol i boethder y ddadl fyned drosodd, fy mod i yn llygad fy lie; ac un amcan pendant yn anfon hyn i'r TYST,yw cael barn eraill ar y mater. Rhai o'r siamplau a ddygwyd g-er bron, yn ]ighorph y ddadl, oedcl y rhai canlynol:— Y mae dyn bychan o gorpholaeth yn y ddinas yma a'i enw llenyddol Morgrugyn Machno. Y mae'r ,y dyn bach yma mor annibynol ei feddwl a phe buasai wedi dodwy holl Fangor ei hunan; ac nid oes arno ddim mwy o ofn yr Arglwydd Penrhyn, mewn ystyr wasaidd, nag sydd arno o ofn yr 'Hen G-ofi.' Yr oedd ar hwn eisiau un o dai newydd mawrion yr Arglwydd Penrhyn, sydd yn y ddinas, i gadw siop. Anfonodd genad at stiwart yr arglwydd i fynegi ei gais, yr hwn a ddywedodd ar unwaith y cai 'r Mor- grugyn y ty (gan y gwyddai na byddai dim perygl am y rhent), ac archodd iddo ddyfod ato i'w gym- meryd yr amser a'r amser. Aeth y MorgTugyri yn ol yr alwad, pan y dywedodd y stiwart wrtho, Wel, Mr Richards (dyna ydyw ei enw bedydd), yr ydych wedi dyfod i gymmeryd y ty a'r ty i gadw busnes; a bydd yn dda genyf ei osod i chwi; ond, os cym- merwch ef, rhaid i chwi ddeall y bydd y Colonel Pennant (canys dyna'i deitl y pryd hwnw) yn dis- gwyl i chwi fotio yr un ffordd ag ef ei hun.' 1 0 na, Syr!' medd y Morgrugyn, I nid oeddwn i'n deall hyny o'r blaen; ac os "felly dyna'r fargen drosodd;' a throdd ar ei sawdl i fyned ymaith. Dywedodd y stiwart fod yn bur ddrwg ganddo golli tenant o'i fath ef, ond mai ar yr ammod hwnw yn unig y gallai efe osod y ty iddo a dymunodd arno gymineryd wythnos o amser i ystyried cyn penderfynu. Dy- wedodd y Morgrugyn nad oedd arno ef eisiau dim munud ychwaneg i benderfynu, ac aeth ymaith heb fwy o 101. Yn awr, y mae'r dull yna o fargeinio yn ym- ddangos i mi yn ddigon teg. Dyna'r ammodau yn cael eu gosod ger bron y tenant yn mlaen llaw, a dyna yntau, wrth reswm, yn cael ei ddewis i'w der- byn ne'u gwrthod a beth sy decach ? Gannacl yw yr Arglwydd Penrhyn yn dewis i greaduriaid anni- bynol, radicalaidd, fel y Morgrugyn hwn, fod yn denantiaid iddo ef ai cyfreithlawn i'r arglwydd wneuthur a fyno a'r eiddo ei hun.' A dyma ys- grythyr eto, o waith Hiraethog ei hunan o'i bl.-iid: Onid yw'r bobl i'w beio yn fwy na'r arglwydd Dyma esiampl arall a ddygwyd i'r dcl-,icll:-y mae yn y ddinas hon lordyn arall, yn mecldu ychydig- deiach yn Hirael; ond ni fyn ANinffra neb yn denant a fyddo'n smocio, yn cnoi tybacco, yn yfed cwrw neu licar, neu yn cadw cath. Y mae telerau Wmffra, fel teleraxi'r arglwydd, yn ddig-on hysbys yn y dref ac y mae'n-well gan bawb naill ai tybacco, cwrw, neu gathod na thai Wmffra, ac felly y mae ei dai ef braidd bob amser yn wag ond ni chlywais i neb yn condemnio Wmffra fel gorthrymwr,' I y-ii arglwydd- iaethu ar feddyliau a chydwybodau pobl, o blegid hyn y mae ambell un yn ddigon haerllug i chwer- thin am ei ben a dyna'r cwbl. Weithian, os ydyw yn deg i'r lordyn yma wrthod anifeiliaid fel ysinoc- wyr, yfwyr, a chathod yn denantiaid; onid yw'n llawn mor deg i'r lord mawr arall wrthod creadur- iaid fel chwigiaid a radicaliaid, sydd yn llawn mor atgas yn ei olwg ef ag ydyw ysmocwyr, yfwyr, a chathod yn ngolwg y llall P Ai nid cyfreithlawn i'r naill fel y Hall wneuthur a fyno a'r eiddo ei hun r' Oidd yw'r bobl i'w beio yn fwy na'r arglwydd ? Os oes rhywun yn meddwl vn amgenach, traethed ei len.—Gohebydd. Y BALA. Gan na chynaliwyd yr un cyfarfod diwygiadol yn y dref hon eto, ni chafwyd traffortl-i yn y byd i gael gan Mr Simon Jones dewi, nac i gael arweinwvr y bobl i siarad. Y mae gobaith o'r diwedd, er holl rwgnaeh y treth- dalwyr, y ceir tref lan ddiifosydd yma yn fuan. Y mae y gwaith o osod i lawr bibellau dwr, ac o gau yr hen gvrterydd yn myned ymlaen yn dra esmwyth. Cafwycl excursions dirif yma yn yr wythnosau a basiodd, o bob man dan y lloer, ac un o leuad Rhos- llanerchrugog. Pedwar a chwech oedd pris uwchaf ciniaw yn yr hen dref gydwybodol hon. Rhesymol iawn, Hy Pur dda Hot Hell. Raid dim diolch iddynt hwy pe 11a ddeuai aderyn i'w bluo yn dra- gywydd i nofio tonau y llyn. Ceir trains rhad i' r gymanfa o Riwabon, a Dinbych, a Dolgellau, ac y mae tafarnwyr parchusaf y dref wedi adclaw rhoddi ciniaw rhad i haner miliwn o 1301)1 am haner gini y pen a gini y bol. Clywais fod yr Aran a'r A.renig yn tynu allan ddeiseo at holl gryddion yr Ynys i erfyn arnynt beidio rhoddi hoelion ewinedd milgwn yn motasau dynion a boneddigesau, rhag rhwygo eu croen melfedaidd. Cwyna Mr Griffith Jones ei fod yn methu cael digon o lyfrau gwynion i'r plant i'r dref a'r wlad i ysgrifenu penau pregethau y gymanfa ynddynt. Cyfrihr y bydd dwsin o bregethau yn cael eu traddodi heblaw yr anerchiadau yn y capel newydd foreu y gymanfa yn y seiat gyffredinol am saith. Felly rhaid iddo gael haner mil o lyfrau chwechau cyn y deuir i ben a'r gwaith. Cynelir cyfartod mawr wrth y groes nos Sadwrn nesaf, i ddadlu pa un o'r ddau gapel yw yr harddaf, a'r casgliad rhesymol y deuir iddo fydd, fod capel Llandderfel yn curo y ddau. Daeth newydd galarus i'r dref gyda'r 'talig raff' fod un o geidwaid yr afon wedi tagu wrth fwyta gleisiad Bochyrhaiadr. Dygwydclocldy ddamwain ofidus drwy i'r asg-wm a elwir splenum maximum fyned rhwng ei epiglottis a'i poricarduim, yr hyn a achosodd injlamation of the kidneys. Bu yr adyn truan yn dyoddef loesau arteithiol am bedwar mis, a phrin y mae o honynt eto. Tybir yn y cyffredin nad oes dim putteiniaid yn y Bala, a chafwyd prawf adnewyddol o hyny nos Fercher diweddaf. Ni chafwyd ond un Daniel yn ffyclcllon Y11 yr ys- tadegiaeth cliwddaf, dros beidio cau y tafarnau ar y Sabbath. Diau fod y gwr hwn 0 flaen ei oes,—gy- maint ag y mae y rhai sydd yn adciladu capeli Gothic o ffasiwn canoloesoedd, alias yr oesoedd tywyll. Cynelir cyfarfod cystadleuol yn ngefail Rhyduchaf boreu ddydd Llun nesaf am bump o'r gloch. Pwng-c yiiiddiddaii,Pri-in ai Odyn ai ty tafarn ydyw y lie goreu i fagu plant! Y peiiderfyniad y deuir iddo— nad oes nulle tebyg i'r efail. 'Siams, a fyddwch chwi yn darllen ryw bapur neAvydd weithiaur' 'Byddaf, Dafydd Daniel, bydd- af yn darllen y leading article bob wythnos.' Y TYST dalltwch chwi, oedd yr hen bosnet yn ei feddwl, ac nid dwl fo.—Lhjfr yr Apocrypha, y bummed benod a'r dwsin adnodun blaenaf. CALLESTB-DDELLT. Mae plant y Bala, wrth ymddifyru ar lan llyn Tegid, yn dyfod ar draws daman bychain o Gallestr (flint) yn fynych. Yn y gauaf byddant yn clnvare ysbryd, ac yn dychrynu eu gilydd, drwy guro y darn- au hyn yn eu gilydd mewn conglau tywyll cymwys i ysbryd fod. Os nad yw plant yr oes hon yn cldoeth- ach na'r to blaenorol, a gobeithio eu bod, nid ydynt byth yn gweled dim yn rhyfedd. fod callestr yn y fath le. Y mae anwybodaeth yn rhythu iiienvi-i syn- dod ar ambell beth dibwys a dinod, ac y mae gwybod- aeth yn ymgolli mewn syfrdandod uwchben ffaith sydd mor eglur a'r Aran i'r cyffredin. Buasai gofyn i'r plant o ba le y daeth yr ysglodion callestr i'r llyn yn ymddangos iddynt hwy yn ofyniad ffol i'r pen, o achos yn ol eu barn hwy, yno yr oeddynt erioed. Ond gan fod dynion meddylgar yn ymranu yn ddau ddosbarth—y naill yn clal fod eeryg yn tyfu, a'r llall eu bod oil wedi eu tori o ryw graig neu gilydd, efallai y gwelir cyn y diwedd nad yw y cAvestiwn mor ffol wedi y cwbl. Nid yw y syniad fod ceryg yn tyfu yn ddim amgen na dyfaliad bechgyn meddylgar, ond ,Y heb ddigon o wybodaeth am y pwnc i amgyffred ei neillduolion. Rhaid felly fod pob careg rydd yn y tir, yn y mor, ac ar waelod llyn ac afon, wedi ei rhyddhau o graig- o'r un natur a hi ei hun. Yn awr, nid oes yr un graig gallestr i'w chael mewn unman. Y cyflwr y cyfarfyddir a challestr yn ei chartref yw yn rhimynau a chlapiau drwy y graig briddgalch (chalk). Y mae yn y calch o wahanol gyfnodau fath o gareg debyg i gallestr, ond y mae yn gwahaniaethu cryn lawer yn ei chyfansoddiad, a geilw y Seison y cyfryw yn chert, ac y mae peth o hono yn nghalohen Sir Fflint, ac mewn manau ereill yn Nghymru yn ddiau. Nid yw yn anhawdc1 mewn un modd wahaniaethu y gave- hon oddiwrth y wir gallestr, ac y mae engroiiftbll o'r naill a'r Hall i'w cael ar lanau y llyn. Ond y mae y gallestr yn y gareg- bob amser yn f jgljmau tebyg fel y dygwydda careg haiam rhwng haneau y glo, ac y mae bob amser bob boglyn yn orchuddiedig- a chroen o briddgalch. Ond ar lan llyn Tegid anaml iawn y ceir boglynau cyfain, a'r crwyn am danynt, er i fy nghyfaill daearegol Mr R. P. Hughes gyfarfod ag un felly o gryn faintioli er's ychydig fisoedcl yn ol. Y cyflwr y ceir y callestr yma yn gyffredin yw yn ddarnau toredig ag ymylau miniog iddynt, ac weithian yn ddalenau teneuon a miniog fel cyllell. Yn awr nid oes un gallu mewn natur allasai eu tori yn y dull hwn ond cywreinrwydd dynol, a rhaid mai gwaith dyn ydyw hollti y dellt callestraidd hyn. Dywedir fod llawer o foglynau cyfain i'w cael ar gaeau y Ddolfach yn mhen arall y llyn, ond ni ymyra y ffaith hono a'r darwelion dan sylw., Pe buasai yr holl gallestr yn ddarnau cyfeion gall- esid meddwl a. dal mai y rhedlif mawr a'u cludodd o Flamborough Plead neu y Wash yn NgogleddDdwyr- ain Lloegr, fel ag y cludodd Ithfaen Aberdeen i glocldfa dywod Croesoswallt. Daeth a'r defnyddiau sydd yn ffarfio y crynswth o'r gloddfa hon yr holl ffordd ar hyd Lloegr o Ogledd Ysgotland i Croesos- wallt, a gallasai yn hawdd gan hyny gludo pridd- galch a challestr o Yorkshire i Benllyn. Ond ni ddyry hyny gyfrif am ei fod yn llafnau mor luniaidd, ac wedi ei dori mor hynod. Heblaw hyny, pe rhed- lif a'i cludasai buasai i'w gael ar hyd lanau y llyn o gwmpas, ond yn awr ni cheir ef heblaw ar y lan ogledd ddwyreiniol nesaf i'r Bala, yno yn cael ei luchio i'r lan gan y tonau a'r tymhestloedd. Yn Switzerland ac ar ycyfandir, yn gyffredinol, lie y mae llynau, ceir cyffelyb weddillion "callestraidd ar eu glanau, ac nid yn unig hyny, ceir hefyd bob math o olion trigfanau, megis lludw coed, daman o bridd- feilli a llestri, ynghyd ag csgyrn creaduriaid. Y casgliad yw, fod llwyth obobl haner wareiddiedig, pan oedd y wlad yn Avyllt ac anial, ac yn llawn o fwystfilod rheibus, yn gwneud eu trigianfrn ychydig oddiAvrth y llyn er mwyn dyogehveh a chyfleusdra, ac yn gadael ar eu liolau ysparion oiL hymborth a'u celfyddyd. Hwy a ddygasant y callestr o siroedd pell Lloegr, neu fe ddichon a farchnatasant ag ereill am dani y.11 ddefnydd cyllill, cynion, mynawydon, nodwyddau, bAAryill, a morthwylion. Felly, fe welir fod dygwyddiad ysglentiau o g-allestr ar lan y llArn, ond darllen y darwelion aAvg-rymiadol yn briodol, yn arwain i gasgliadau dyddorol a. phwysig, ac nad vw y CAvestiAvn—O ba le y daethant, mewn un modd'yn ffol nac yn ddiffrwyth. Ond nid yn y llyn yn unig y ceir y callestr dan sylw. Coxais rai darnau mewn caeau, ac ar ben y bryniau o amgylch. Cefais ddernyn du yn ddiwedd- ar ar gae perthynol i Gwernfeistrol, ac y mae eraill megis Captain Richardson, Aberhirnant, wedi cael llaAArer mewn manau ereill. Y lie y cefais i fwyaf o un man oedd yn Nhrawsfynydd, mewn cae perthynol i Llechidris, yn agos i hen gapel Penystryd, ychydig- Avythiiosau yn ol. Yn Maes y bedd, gerllaAV y ty, y gorwedd lyorim, pAvy a pha beth bynag oedd y gwr 1 11 o dan gareg, a'r argraff canlynol ami m c in ttimiilo iaret Poriu, Homo planus fait 1275. is'. mewn Cymraeg fel hyn Yma, n-tonvii bedd y gorwedd Porius, Gwr duwiol r ydoedd. 1275. E. Gallwn sylwi wrth basio fod y dyddiad wedi achosi cryn ddadleu ymhlith dysgedigion, am ei fod mewn rhifau Arabaidd ac nid Rhufeinig-, ac mai prin yr "I oedd y cyfryw wedi dyfod i arferiad ar y pryd hWllW. Tybiai yr hen LAvyd o'r Cemaes, fel yr adnabyddir ef yn gyffredin, yr hwn oedd hYllafieithycld diail, a thybia Mr Davies, ErAvddAvr, yr hwn sydd eithaf ol- ynydd neu yn hytrach ofoesydd iddo, mai ffug yw y dyddiad, ac fod y bedd yn llaAver hyn. Yr wyf fi yn rhy ieuanc a dilorofiad i weled yr angenrheidrwydd am wrthod y dyddiad fel y mae ar lawr, oblegid y mae tnedd mewn dynion i arfer fEasrwn newydd mewn dysg fel pobpeth arall, ac nid oedd yn amhqsibl i ryAv Dderfel Meirion yr oes I10110 fod o flaen ei oes a chae^ gafael yn y dull newydd o rifnodi gyda ei bod wedi ei dwyn o'r Hispaen i blith athrofeydd Ewrop. Ond at y callestr-Y mae llwybr Elen yn pssio drwy waelod y cae hwn rhwng y bedd a nodwyd a chromlech fawr a roddodd enw i Llechidris, ac TO ymyl yr afon ar y gwastadedd y mae yr holl fan yn orchuddiedig a dellt callestr. Tynwyd fy sylw atynt gan Mr Williams, y gwr caredig a chraff sydd yn byw yn y tyddyn, mewn canlyniad i mi ddangos iddo ddarnau a gefais mewn man arall. Daeth yntau ag amryw ddarnau du a godasai i fynu, i'r bwrdd yn uniong-yrchol, a dyAvedai mai or cae dan sylw—Maes y bedd—y byddai yr holl wlad yn cael callestr i daro tan cyn oes olewdig y Ia'cifer. Aeth y mab a minau yno, a chawsom mewn lia ner aAvr lonaid ein Hogell o wslurion ysblenydd, y rhai a ddygwyd yn ofalus a llwyddianus, yn gymysg ag arian y casgliad, a pheth- au gwerthfawr ereill, gan fy nghyfaill Mr Pritchard i'r 'cadw mi gei' yn y Bala. Y peth cyntaf o bwys a gefais yn y ffordd hon oedd hen fwyall gellt gan Mr Williams, Bwlchgwyn, yn wobr anrhydeddus am fyned yno i bregethu cyn adeiladu capel Horeb. Yr wyf yn falch iawn a'r an- rheg, ac yn ei chadw yn bur ofalus. Careg filain yw, ryw 12 modfedd o hyd a 4 o led yn y naill ben, wrth ryw fodfedd a haner yn y pen arall. Y mae wedi ei gweithio yn lluniaidd, llyfn a miniog, ac yn pwyso pedwar pwys a chwarter; gan hyny, wedi ei sicrhau mewn lemffyst hir a thAvll yn y naill ben; nid dyogel ia,wn fuasai bod dau ei dyrnodiau, pan yn cael ei hwylio gan hen Frython-breichfras. Dywedai Mi- Thomas, Llestr, Penfro, iddo gael haner dwsin o honynt yn ngwaelod Hyn g-erllaw y ty wrth ei lanhau, a bod un o rheiny ar haner ei gwneud. "i trysor nesaf a gefais oedd dernyn o g-allestr Avedi ei weithio yn y modd mwyaf perffaitli a lluniaidd ar lun blaen saeth. Gem ydyw hwn na fynwn arian am dano. Drwy garedigrAvydd y brinid anwyl Gutyn Ebrill y cefais ef, yr hwn a dystiaiiddo ddyfod o faAvnog yn Migna.int a dAvy droedfedd o fawndir ar ei gefn. Bum yn dangos hwn i wahanol gyfeillion, a phan yn darlithio ar Ddaeareg- yn nghapel Horeb, dangosais ef i feibion craffus y BAvlchgAvyn, ac nid hir y bmn cyn derbyn newydd oddiwrth un o honynt ei fod wedi cael un cyffelyb yn mawnog fawr Arthog, ac y cawn i ef pan y deuwn yno i bregethu. Yn aAvr, yr esboniad ar yr holl ffeitliiau hyn yw, fod haiarn yn llawer iawn prinach, a'r gelfyddyd o'i weithio yn llawer iawn amherffeithiach yn yr oesoedd boreuol nag yw yn bresenol, ac i Avneud i fynu am y diffyg defnyddient y ceryg caletaf, ac yn enwedig callestr. Y mae priodoledd holltawl neillduol yn y gareg hon sydd yn ei chymwyso i'r amcan. Y mae ei hollt yn wydraidd a phob amser yn teneuo yn finiog at yr ymylau. Gan fod callestr bron yn ang- iiyfneAvidiol, ac anrheuliadwy, ceir hwynt yn aAvr ar 01 bod am ddwy neu dair neu bedair mil o flynydd- oedd mown corsydd a llynoedd, mor newydd a phe buasent wedi eu hollti ddoe. Yn awr gall cyfeillion caredig mewn gwahanol ar- daloedd ddilyn esiampl gall y orawd hynafiaethol Mr Thomas Davies, o Landrillo, ac addaw casglu pob callestren o bob tomen y Avadd, ac o bob rhych, a'u cadw yn ofalus nes cael cyfleustra i'w hanfon i'r am- gueddfa gyffrcdinol yn y Bala. A gaf i glywed oddiAvrth gyfeillion ar y pwnc hwn. yn gyfrinachol neu drwy gyfrAvng y TysTt-loan Tedr.
AGORIAD CAPEL NEWYDD YR ANNIBYNWYR…
AGORIAD CAPEL NEWYDD YR ANNIBYN- WYR YN NOLGELLEY. Diwrnod mawr oedd dydd Gwener y 5ed o'r mis hwn, yn Nolgelley,—dydd agoriad un o'r addoldai harddaf yn y Dywysogaeth. Yr oedd y son am dano, yn gystal ag am yr enwogion oedd i weinyddu ar yr achlysur, wedi creu aAvyddfryd yn yr holl amgylch- oedd am fod yn bresenol; ac yn wir yr oedd golwg lanwaith, clrwsiadns, a hardd ar blant y bryniau yn dylifo i'r dref y boreu hwnw o bob cyfeiriad, rhai mewn cerbydau, eraill ar feirch a mulod, yn ol yr hen ddull cyntefig. Cefais y fraint o fod yn Avydd- fodol yr oedfa gyntaf y nos o flaen y cyfarfod, ac yr oedd y capel yn orlawn o wrandawyr. Drwg genyf nas gallaf ysgrifenu yn gymeradAvyol am waith y brodyr a alwyd i ddechreu y cyfarfod hwn a'r oedfa 10 dranoeth, yn cymci-yd cymaint o amser y cyfarfod i ddarllen a gweddio. Pregethwyd gan ddyn lied ieuanc, o bryd tywyll a gAvneuthuriad cadarn, cadarn o feddwl a gwrol yn ei ddull o draddocli. Annibyii- wr yr Annibynwyr ydyw, ond buaswn yn disgwyi mwy o efengyl, a llai o atbroniaeth ar g-yfarfod mawr; lie mae gwan hen a gwan ieuanc yn disgwyi am fwyd, yn fwy cywir na'r cryf, y digonol, a'r beirniad. Ar ei ol ef cyfodai un o ber-efeng-ylwyr Cymru — geiriau yr hwn sydd fel y 'myrr diferol;' coeth ei iaith, g-weddaidd ei ysg-ogiadau, a hynod brydferth ei ddrychfeddyliau. Yr oedd ei bregeth y tro hwn yn un o'r rhai mwyaf amrywiol a chyAvrain a glywais ganddo erioed; eithaf priodol, ond teimlwn rywfodd wrth ei wrando, fod ymAvneyd a'r fath amrywiaeth yn rhwystr iddo wneyd argraff uniongyrchol a gorch- 11 fygol ar y meddwl. Difyr iawn ydyw rhodio 3m hamddenol ar hycl lanau yr afon ddolenog sydd yn murmur ar ei gwely griaialaidd, ond yr afon ddofn a chyfyngedig sydd yn gAvneyd y gwaith, ac yn cario pob peth gyda hi. Fodd bynag-, cafwyd deciireu da. Yr oedd gan y brawd a bregethai gyntaf am ddeg bregeth ddigon pwrpasol, .ond bu yn rhy faith o'r haner; mewn canlyniad gorfodAvyd un o brif bregeth- wyr Cymru i ddarnio rhai o'r gwirioneddau mwyaf gogoneddus a sAvniodd yn nghlustiau byd colledig erioed. Gan fy mod AAyedi clywed y bregeth o'r blaen yr ydwyf yn dyweyd yn ddibetrus mai felly fu. Methais bod yn bresenol yn yr ooclfa ddau o'r gloch, ond clywais fod un o anwyliaid y pulpud o'r gogledd yn pregetliu. Nid ydyw ef yn myned allan gyda'r gwyntnorthol sydd ynrhuthro, na'r ddaeargryn, ond gyda'r 'llef ddistaw fain,' a mynych iawn y bydd y cynulleidfaoedd yn teimlo fod cenadwri yr Arglwydd ynddi. Acldawn i mi fy hun fAvynhad mawr yn oedf a'r nos, ond drwg iawn genyf orfod addef mai mwynhad hanerog- oedd hwn eto, a chredaf fod yno luaws yr un deimlad. Er fod y Cymry fel rheol yn dda eu natur a'u hamynedd, yr oedd golwg parod i wylltio ar lawer gwyneb, a barned y byd onid oedd achos? yn y lie cyntaf yr oedd y gynulleidfa cyn dyned a pheiiAvaig mewn picil, pregetlnvyd i ni wedi hyny yn dra athronyddol, a threthwyd amynedd y Cymry uniaith a phregeth Seisnig. 0 bobl anwyl! yr oedd yn anhawdd dioddef—a sicr yw na. fuasem yn dioddef mor dawel oni bae ein bod yn gAveled un o gewri y weinidogaeth yn eistedd yn ddigyffro ar yr esgyn- lawr. Ni bu of yn hir cyn gyiu y drwg ysbryd i gerdded. Mae pob rhagoriaeth pregethwr yn cyd- gvfarfod yn y dyn maAvr a rhyfedd hwn: ceir am- bell bregethwr yn feddianol ar feddwl ardderchog, ond mewn corff yn rhy wan i gario y meddyliau allan i effeithiolrwydd. Ond dyma feddwl a chorff cawr- aidd Avedi ymgyfarfod ac enaid byw o deimlad, a llais fel swn 11a,wer o ddyfroedd yn ymdori y cyflawnder trag^wddol i draethau tvAvodlyd colledig fyd. Mae yn resyn fod yn rhaid i'r fath bregetlrwr farw, ond mae ei ben wedi gwynu, a iIIVAV don bruddglAvyfus a glywir yn ei englynion a ymddangosodd yn y TYST am Mai 29ain, sof '1'1' fynwent yr at finau,—i'r un daith A'r undull a hwythau; Ond hedd, pur liecl d, fo'n parhau Yn mro anwyl fy mryniau.' Wrth derfynu dyAvedaf yn hyf (er fe allai na bydd pawb ynbarod i gredu) mai fy unig amcan yn ysgrif- enu y llythyr hwn ydyw ceisio rhoi iawn gyfeiriad i gyfarfodydd o'r fath yn y dyfodol.—Gwladgarwr. [Yr ydym wedi arfer ein liawl i alltudio, at yr ys- brydion drwg, ranau o ysgrif 'Gwladg-arwr,' gan obeithio eibod jrn awr meAvn ffurf oddefol i ddiwygio heb fod yn frwnt a chiaidd at iie-b.-Gol-I
LLANFYLLIN.
LLANFYLLIN. YMDRWSXO BEDDAU'R MEARW. 0 tan yr hen .orucliAvyliaeth ^byddai y byw yn hynod 0 ofalus i drwsio beddau eu hanwylia.id ym- adaAvedig ag arwyddion o bareh ac anwyldeb tuag* atynt. GAvyngalchent y beddau^oddiallan, er ceisio tirgyhoeddi y byd efallai o lendid a phurdeb cym- meriad yr hwn a orAveddai yn bydredig oddifewn a. childa phriodoldeb mawr y benthycodd y GwaredAAT yr arferiad i osod allan nodwedd moesol y Phariseaid, y rhai oeddylit yii ceisio gosod eu hunain yn arwyn- ebol mor bur "a dihalog yn ngolwg y byd, pan yr oeddynt o ran eu cyfhvr ysprydol oddifewn yn llawn. twyll a budreddi moesol. Mewn mynwent eglwys heb fod yn mhell o Lan- fyllin, yn Maldwyn, y mae cymmaint o hynodrAvydd yspryd y Phariseaid yn cael ei arddangos yn arferiad cyfeillion y meirw fel nas gallaswn lai nag ysgrifenu yr ycli ydig linellau hyn WTrthroi tro drwy yllanerch gyssegredig hon o'r greadigaeth. Ni chefais y fraint er's amryw flynjrddau bellach o fwynhau y pleser o droedio yr lien lanerchau hyfryd hyu, lie y treuliais mor ddifyr ddyddiau fy ieuenctyd, ac yn y fynwent rwy'n cael ar ddeall fod llu maAvr iaAvn o'm hen gydnabod gynt wedi rhodio y Uwybr ar hyd yr hwn ni ddychwelant-rhai y bu eu henwau yn per- arogli yr oes yr [oeddynt yn byw ynddi am eu duw- iolfrydigTwydd, eu sel dros achos y Gwaiedwr, a'u hymdi-ech di-ildio i ddAvyn y byd o gyfeiliorni eu ffyrdc1 at Geidwad eu lieneidiau,—eiaill o'r ochr arall a dreuliasant cu ,;hoes i geisio lladd eu dylan- Avad, i Avi-thiyfela yn erbyn Dnw, ac i ymroddi o lwyrfryd calon i chwantau y byd, y onawd, a'r cythraul. Dyna fedd yn y fan yna yn yr Invn y gorwedd llwch cyssegredig yr hen 'iciikii-i Lewis" yr hwn a bregethai yr efengyl mor wresog- gyda'r Annibyu wyr oddeutu cliAvedd y ganrif cliweddaf, yn ngwyneb cymmaint o wrthwynebiad ystriwgar gel- yiiiijn crefydd nes y bu ef ac eraill o achos eu proffes 0 Grist vn agos yn angau fwy nag nnAvaith. Hun- odd 3-11 yr Iesu TacliAvedd 25, 1805. Ni fyddai ond gorcliAAyd bychan i achos pendefigaidd Pendref i osod Beddfaen teilmig ar fedd yr hen batriarch, feddyli wn i. Yn ymyl bedd Jenkin Lewis mae bedd ring-leader y terfysgwyr hyny a ymosodasant ar ei berson pan yn pregetliu yn nliy un John Hughes, ac oni buasai i Dduw darawo un o'r ymosodwvr a barn pan oedd- yiit yn yr act o'u llabyddio buasai y Pregethwr ond odid fawr wedi ei roddi i farwolaeth Dyna gyfar- fyddiad onide 'r Ddydcl y farn fawr bvdd yn chwith gan y terfj^sgAvr Aveled 3m ei ymyl, yr Efen gA-1 wr, dan ei geciUnau, i dystio yn ei ertyn Ar fedd gerllaw y tyf bin/eh o Hose war> ac wrth holi deallwyf mai y brydferth Mary Evans—lodes ieuanc y dyddiau hyny yn yr ardnl, sydd yn gorwedd yn ddigon tawel o tano. Yr oedd ei rhod- iad gwastad a'i moesgarwch duwiol yn ei nodAveddu yn ei bywyd yn Hose Mary mewn gAvirionedd—3-11. perarogli yr holl ardal. A'r gofadail mwyaf priodol a welais yn fy mywyd sydd ar ei bedd. Ond, heb fod yn mhell oddiwrthi tyf, ar fedel arall, bwnch o'r Hen Wr,' ac wrth holi y eyfilll sydd gyda mi deallwyf mai bedd hon a hon yw hwn. 3rna, yr lioik oedd gymmeriad hollol wahanoli denant y ty o bridd ar yr lrwn y t^'f y Jiosemary. Un an- niAvair ddrwg oedd hi, ond gobeithio ei bod Avedi cael trugaredd cyn dod i'r fan yma. Yr oedd yn yr ardal yn adeg fy ieueiietyd un o'r eiiiv William Griffith, cerddor galluog, hynod am fwynder ei lais, ac ohenvydcl hyny; adnabyddid ef fynycliaf wrth yr einv Sweet William.' Cafodd yr enw yna dvwedir mewn canlyniad i ryw giniaw cy- hoeddus yn llgwesty y dref, ar ol yr hwn y canodd William Griffith gan ar archiad y Cadeirydd, ac wedi i'r canAvr eistedd i lawr cododd y Cadeiiydd a. dywcdodd da.11 wenu yn foddlaAvn—' Sweet ANifiiaiii l' Ar ei fedd o'm blaen er fy nifyrwèh heddyw tyf y peraroglus Sweet William' dan ledu ei gangau, a gwasgar ei berarogl dros fro marwolaeth Yr oedd hen ymladdwr pur wrol yn y g'ymmydog- aeth yma ddeng- mljaiedd ar hugain yn ol arferai ddyweyd wrth ei Avrthwynebydd ineAvn batel' time —keep time. Erbyn hyn, er rymrnamt a orchfA-godd efe, cyiarfyddoddyntau a'ifateh :—daeth angau ar ei warthaf, ac mewn straggle aeth angau yn drech nag ef, ae ar ei fedd blagura heddyAV swp o'r 'T\-me' mwyaf sawrus. Nis gm-ii a oedd yr hen frawd 3-11 gwaeddi Time wrth ei arwr yn y straggle ddiweddaf, p modd bynag, y mae y Tyme' ar ei fed(I yn galw i'm cof luaAvs mawr o hynodion yr hwn a orwedd yn fud odditano. Coffa da am dano. Dyna fedd yn y fan yiia a'r Bythwyrddion yn lledu eu dail ir uwch ei ben, nesaf ato, a pwy fedd- yliech rhwi sydd yn huno hun o hedd' o dan hwn ? Pwy hefyd, ond yr hen wr duwiol Daiydd Huws. Delywedai Dafydd druan yr un gair drwg am neb gwmaed hwy y dncg a fynent, ond yr oedd gan bawb air da iddo ef. Cyfeiriai offeiriad y plwyf sylw ei blwyfolion ato ef fel patrwn o ddawioldeb. Treuliai bob dydd i fyw i Dduw, ac 'rwy'n meddwl i mi glywec1 na phrofodd neb yn yr ardal yma farwolaeth felgsaeh. Cafodd fynediad helaeth i mewn i'r go- goniant, a pli-ar gymhwysiadol yw fod y Byth- wyrddion (evergreens) yn hYllOeli ei fedd, o herwydd y mae yr hen Dafydd Huws yn y wlad lie mae y goron sydd ar ei ben yn dragAvyddol ogoneddus, a'r pahnwycld yn ei law yn fyth-wyrdd. Mae yma luaws o feddau a'r chwyn wedi eu gor- chnelclio-hyclcrwyf nad ydynt i g-yd yn ti,wyd(lo mai chAv5ui 3rdoedd cAunmeriadau y rhai sydd o tan- ynt, ac nad oeddynt dda i ddim ond eu tori i lawr a'u taflu yn tan,' onide y mae wedi bod yn ddrwg- ar lawer. Ond 3*11 bendifaddeu d3'ma Fedd William Jones, neu a adnaijyddid pan oeddAvn i yn liogyn wrth yr enw Wil,' ac os oedd ffrindiau y rhai eiiAAyrd uchod wedi planu ar feddau eu han- Avyliaid y llysiau a enwais mor briodol, y mae natur wedi planii y llysiau mwyaf awgrymiadol ar fedd Wil ciruan,-y chwreiwyn mwyaf pigog yn y wlad oedd ef—y mwyaf peevish, y mwyaf cignoeth fwyt- odd fara oedd Wil; pan y nythai y Wenol tan fargod ei dy ef lluchiai Wil hyny o geryg fydelai ar yr heol ato, ac nis bycldai yn esmwyth 311 ei groen nes cael gAvared o hono-hen AvonAvyngi felly oedd Wil, a; phlannodd natui- ar ei fedd lwyn o'r ilysiau adnab-J yddir y ffordd yma wrth yr eiliv I Dtlalipocthioii 1, Pur nodAveddiad-ol, onide r er nad oedd gan neb ddim aiimheuaeth nad oedd marw yn elw i'r hen. frawd. Fel 3aia gallasem fyned yn mlaen am oriau, ond y mae y llith y tro hwn wedi myned yn hwy nag y meddj-hais, felly t\uiwn ben ami 3*11 y fan yma, ac os bydd hwn yn dderbyniol gwnaf ychydig nodiadau pellach ar y ffasiwn o gladdu y meirw yn y parth hwn o'r wlacl. Ceavydriad.
DOLGELLAU.
DOLGELLAU. AGORIAD CAPEL NEWYDD YR Ak>tibyitwye.—Der- byniasom y daflen ganlYll01 yn gosod allan drefn y CArf arf odydd.:— Y Sabbath, Mai 31, am 7, 10, a 2 o'r gloch, eyll- nalhv3rd cyfarfod gweddi, a thraddodwyd anerchiad- au gan amrywiol frodyr. Am 6 yn yr hvvyr, pregeth- wyd gan Mr RoAvland Hughes, oddiar Preg. Ar. 1- Nos Iau, 1fehefin 4, dechrcuwyel gan y Parch I. Thomas, Towyn, a phregethodcl y Parch Mr Evans, Caerdydd, oddiar Luc i. 1; ar ei ol y Parch D. Rob- erts, Caernarfon, oddiar Luc xv. 7, 10, a'r 32. Dyelcl Gwener, am 10, deehreuodd y Parch Josiah Jones, Machynlleth; a phregethodd y Parch T. Thomas, Gland wr, oddiar Dat. iii. 12; ar ei ol y Parch Robert Thomas, Bangor, oddiar 1 Pedr ii. 24. Am 2, decli- reuAvyd gan y Parch Ebenezer Morgan Dolgellau a phregethoelc1 y Parch D. Griffith, Port Dinorwig', oddiar Esaiah xxiv. 3; ar ei ol y Parch T. Davies, dc Ph.D., Ross, oddiar loan ii. 19. Am 6, pregethodd y Parch E. Jones, Llangadoc, oddiar 2 Tim. ii. 8; y Parcli Dr Davies, oddiar Luc ix. 62; a'r Parch. K. Thomas, oddiar 1 Pedr iii, 21, 22.