Skip to main content
Hide Articles List

3 articles on this Page

Y GYMDEITHAS DDIWYGIADOL GYMREIG.

CYFAEFOD CHWAETEEOL YR ANNIBYNWYR…

CLADDEDIGAETH FY MEAWD.

News
Cite
Share

CLADDEDIGAETH FY MEAWD. Dydd Iau diweddaf, Mehefin lleg, 18HS, yr hebr^Q-.vycl gweddillion fy mrawd o'i gar tref byr yn yr Abermaw, i dy ei hir gartref yn mynwent y Brithdir, gerllaw Dolgellau. Yno y dodasom ef i orwedd ochr yn ochr a'n diweddar hy- barch dad, yr hwn a gladdasom ryw chwe mis i'r un dydd- iau. Dranoeth daeth y TYST i'm llaw, yn cynnwys llinellau coffadwriaethol am yr 'Hen Olygydd,' gan y Parch D. Price, o Newark, sydd newydd lanio yn y wlad hon. Yr oedd eu darllen yn effeithio yn drwm ar fy nheimladau. Yr oeddwn newydd ddychwclyd oddiwrth fedd fy nhad, ac ychwanegu gweddillion fy mrawd i gydgymysgu a'r eiddo ef, yn y llwch, yn y llanerch dawel a chysegredig hon, hyd foreu caniad yr udgorn. Yr oedd rhyw deimladau annes- grifiad^y yn ymwthio drwy fy mynwes ar lan bedd fy mrawd, a rhyw ddymuniad hiraethlon yn esgyn o'r Ilanerch gysegredig hon, o blith y meirw, i drigfanau bythwyrddion y bywyd, lie y gobeithiwn fod fy mrawd wedi cyrhaedd; tra yr oedd ei gorph ef a'r eiddo fy nhad yn cydorwedd yn y llwch yn nghladdfa fechan y Brithdir, fod eu rhanau ys- prydol wedi cydgyfarfod i gydblethu odlau o fawl i'r Hwn a lwnc angau mewn buddugoliaeth, mewn gwlad o fywyd bythol. Mae gan y clail prydferthion, teg eu gwawr, Eu hadeg pan y syrthiant oil i'r llawr A'r blodau cain, gan rym y gogledd wjTit, Cydwywo maent 'run tymhor, megis cynt; Yr haul a'r ser, wrth reol aent bob un, Ond Angau fyn bob tymhor iddo ei hun.' Yr oedd yr Hen Olygydd' yn disgyn i'r bedd fel tywysen aeddfed—* fcl y cyfyd ysgafn o yd yn ei amser;' ond yr 1= oedd fy mrawd yn syrthio dan law angau yn 37 oed-yn nghanol ei nerth a'i ddyddiau. 'Angau fyn bob tymhor iddo ei hun.' Chwe mis yn ol, pan y dodwyd fy nhad yn y gladdfa, yr oedd anian oil dan leni llwydion y gauaf, gwelwder marwol- deb wedi ymdaenu drosti, y meusydd yn wyw, a'r goedwig yn llom; nid oedd glaswellt yn tyfu o'r ddaear, na blodeuyn na rhosyn yn addurno y llethrau; yr hen goeden yn nghlawcld y fynwent fel yn crino ac yn gwywo ymaith. Ond y diwrnod y claddasom ein brawd y mae anian fel wedi adgyfodi o byrth inarwoldeb-y meusydd dan leni gleision irwellt haf, y rhosyn yn prydferthu y fron, a'r goedwig wedi gwisgo ei choron aml-liwiog o ddail. Y mae pob peth yn dangos bywyd ar bob llaw-ond y bedd! Ah! yn adgyfod- iad anian, rwy'n tybio gwelaf eilun gwan o'r adgyfodiad mawr o byrth angau, pan fydd Dorau beddau y byd Ar un gair yn agoryd.' Chwe mis yn ol, pan gladdasom fy nhad, yr oedd chwech o'i feibion yn eu nerth a'u hiechyd yn ei ollwng i'w ystafell' yn y pridd, fel ydywed Mr Price,— Dodwyd corff ein hathraw tirion Gan ei feibion yn ei fedd. Chwech o frodyr, oil mewn oedran, Wedi dewis Duw eu tad.' Oedd, yr oedd yno chwech o honom yn sefyll ar lan bedd fy nhad chwe mis yn ol; ond heddyw, wele y chwech wedi eu tynu i lawr i bump. Dacw y punb brawd heddyw yn gollwng gweddillion y chweched i'r bedd Y mae angau wedi gwneud rhwyg yn mhlith y brodyr—dyma le Dafydd yn wag.' ( Dyddiau dyn sydd fel glaswelltyn, canys y gwynt a a. drosto, ac ni bydd mwy o hono, a'i le nid edwyn ddim o hono ef mwy.' Nis oes genyf yr un awydd i wyngalchu bedd fy mrawd. Yr oedd efe yn ei holl gysylltiadau masnachol a chrefyddol yn wr unplyg, gonest, a didwyll. Enillodd iddo ei hun air da gan bawb, ac ni a obeithiwn gan y gwirionedd ei hun. Nid oeddwn yn bwriadu wrth gychwyn y llinellau hyn ond yn unig daflu allan awgrymiad a'm tarawai yn effeithiol wrth ddringo y rhiwiau o Ddolgellau tua chladdfa y Brith- dir, ddiwrnod claddu fy mrawd. Diolch i eglwys y Brithdir a'r holl gyfeillion am ganiatau i lwch fy nhad, a'm mam, a'm brawd gael gorphwys o fewn i'r llanereh ddistaw, dawel, a chysegredig hon. Bydd y llecyn hwn byth yn gysegredig yn fy ngolwg. Perored yr adar eu corddi melusaf oddiar gangau eu choed, tyfed y gwyrdd-ddail a'r blodau mwyaf swynol, a chwythed yr awel fwynaf yn natur byth dros y Ilanerch brydferth hon, ac na sanged byth ei chyffiniau ond gyda pharch a gwyleidd-dra teilwng o'r gwroniaid a hunant o fewn ei mynwes. Ond, nid yw y fynwent hon ond bechan! ac nid yw ychwaith yn hen, ond y mae yn prysur lenwi. Y mae y wlad yn wlad Ymneillduol, a diau genyf mai o fewn i fynwent Ymneillduol yr hoffent i'w llwch orphwys hyd y dydd mawr. Yr wyf yn deall fod mynwent y brodyr parchus y Method- istiaid Calfinaidd hefyd, gerllaw eu haddoldy yn Nolgellau, eisioes yn rhy lawn. Yr wyf gan hyny yn dymuno taflu yr awgrym yn garedig at lioll Ymneillduwyr Dolgellau a'r cylchoedd, yn Fethodistiaid Calfinaidd a Wesleyaidd, yn Annibjaiwyr a BedyddwYT-oll, ar iddynt ymffui-fio yn bwyllgor er trefnu mesurau i sicrhan Cemetery gyfleus i'r dref a'r ardal, fel y gallont gladdu ei meirw ynddi. Byddai hyn yn goron ychwanegol ar ben Ymneillduaeth y wlad. Nid oes dim yn eisiau ond dechreu y gwaith. Y mae yn eich plith ddigon o nerth a dylanwad i ddwyn hyn i bon yn yn fuan. Fy ngweddi yw ar i chwi ymwregysu. Ydwyf, C. R. J.