Skip to main content
Hide Articles List

3 articles on this Page

Y GYMDEITHAS DDIWYGIADOL GYMREIG.

CYFAEFOD CHWAETEEOL YR ANNIBYNWYR…

News
Cite
Share

CYFAEFOD CHWAETEEOL YR ANNIBYNWYR YN SIR FAESYFED. GAN KILSBY. (Parhcid o'r JRhifyn diweddaf. J Yn ol ein haddewid rhoddwn i'n darllenwyr ychydig o hanes y Parch. John Griffiths o Portway, neu, yn briodol, Porthwy, gan fod Bachwy yn tarddu yn agos i'w annedd. Gwr glandeg, gwridgoch ydyw ein cyfaill, o daldra canolig, ac anarferol o ifanc ei yspryd ac ystyried ei fod yn 55 mlwydd oed. Dywedir nad yw'r galoib byth yn heneiddio, ac y mae ieuenctyd yn nhonau llais Mr Griffiths, yn ystumiau ei gorph, a swn ei gerddediad. Sieryd yn eglur ac mewn ton gysurus o isel, ac nid ar gopa ei lais fel mae arfer y rhan luosocaf o amaethwyr. Nid oes dim yn fwy tramgwyddus i dabwrdd ein clustiau na llais-donau rhy uchel i bawb ond cynulleidfa o fyddariaid. Mae ein brawd yn byw ar ei dyddyn ei hun yr hwn sydd yn cael ei wrteithio yn fedrus ganddo, a chan ei fod yn ddiwyd ac yn weithgar, ac yn thorough man of business, mae y byd, yr hwn sydd yn was ufudd, ond yn feistr caled, o dan ei draed. Mae ei dorth yn ddiogel, ac y mae hyny yn gym- horth mawr i ddyn i ddyweyd ei feddwl yn ddiofn a di- dderbynwyneb mewn byd ar delerau rhy gyfeillgar a thad y celwydcl. Mae ei gyndeidiau wedi byw am bedwar cant o flyny^lau ar eu treftadaeth eu hunain, yr hyn a brawf eu bod yn bobl ofalus a gafaelgar os nad yn anturiaethus. Dygwyd ef i fyny yn eglwyswr, ac fel un o fynychwyr ei eglwys blwyfol gwnai ei hun yn wasanaethgar iawn fel cantor, a digon tebygol taw parhau yn llanwr a wnaethai oni buasai i'r offeiriad ei gyhuddo o fod yn hoff o ganu emynau rhy efengylaidd, yr hyn a alwai ei athraw diras yn Methodist Hymns, er mewn gwirionedd nad oeddynt ond emynau allan o gasgliad eglwysig: ond yr oedd arogl a bias efengyl arnynt, ac o ganlyniad annerbyniol oeddynt gan ganlynwr (gauJ yr apostolion. Gwarafunwyd iddo i ganu, ac mewn canlyniad gadawodd yr eglwys. Yn y cyf- amser yr oedd amaethwr a phregethwr o'r enw Lloyd newydd symmud o Gerygcadarn, yn sir Frycheiniog, i Lan- yrafon, yn ymyl Cas' Pain, a elnvedi dechreu pregethu yn ei dy ei hun, a'r gwr da hwn a ddechrouodd yr achos An- nibynol yn yr ardal dywell hon, )"n gystnl ag yn Llanbadarn- gareg, o fewn pedair milltir i Lanfair yn Muallt. Aeth Mr Griffiths i'w wrando, a chafodd ei argyhoeddi dan ei weinidogaeth, ac fel prawf o wirionecldoldeb ei ddychweliad gofynodd i'w Feistr pa beth a fynai ef iddo wneuthur drosto a chan nad oedd dim yn fwy arbenigol o angen- rheidiol yn yr ardal lie trigai na gwneud cymmeriad, gwaith, a hawliau y Meistr hwnw yn adnabyddus, dech- reuodd lefaru yn gyhoeddus yn ei enw, a gwneud ei hun yn ddefnyddiol yn mhob ffordd ag oedd angenion moesol y gymmydogaeth yn ofyn ar ei law fel Cristion. Ar ol marwolaeth Mr Lloyd cafodd ei ddewis yn olynydd iddo, a chafodd ei urddo i'r weinidogaeth yn y flwyddyn 1852. Gomeddai ar y cyntaf i gymmeryd ei ordeinio, gan nad ystyriai ei hun yn gy;nhwys i wneud rhagor fel genau cyhoeddus na phregethu yn achlysurol fel lleygwr. Ond breuddwydiodd freuddwyd, yn yr hwn y gwelai ddydd yr urddiad wedi dyfod, a'r manau yn y capel lie yr eisteddai y gwahanol weinidogion ag oedd i gymmeryd rhan yn ngwasanaeth y dydd. Gan gredu fod y Goruchaf yn parhau i ymweled a dynion yn ngweledigaethau'r nos, golygai y breuddwyd fel awgrym o'i ewyllys, a chydsyn- iodd a ehais y cyfeillion yn y lie i gymmeryd ei ordeinio. Ni bu ganddo am flynyddau ond Capel Hermon, yr hwn a adeiladodd, i bregethu ynddo, ond wedi iddi fyned yn ech- wydd a nos ar dipyn achos y Primitive Methodists yn Cas' Pain, prynocld eu eapel yn yr hwn y pregetha yn bresenol yn lie yr amaethdai a'r cottai lie y gorfyddai yn flaenorol i bregethu i'w gyinmydogion. Nid oes un ddadl nad yw wedi gwneud gwaith efengylwr yn ei ardal enedigol lie y mawr berchir ef gan bawb ar lawer o gyfrifon nad oes amser i'w henwi. Mae ei natur dda, neu yr hyn a ddewis ef ei hun alw my own folly, wedi costio iddo gannoedd o bunnau trwy feichnio pobl hroffesedig o grefyddol, ond mor anonest a diegwyddor a thad y celwydd ei hun ond yn fodus mae ei amgylchiadau yn rhy dda i'r symiau mae wedi orfod daln dros ladron twyllodrus i fenu arnynt, ond y mae y twyll a gafodd oddiwrth ddynion yr oedd ganddo bob lie i gredu y dylasai ac y gallasai ymddiried ynddynt wedi yn ddiau wneud poth niwed i'w yspryd haelionus, ond trwy ddylan- wad gras ar laeth y tynerwch dynol a'i dynoda, ac ysgol ddrudfawr ond effeithiol profiad, mae yn dechreu gwella o'r clwyfau a gafodd yn nhy ei gyfeillion fgauj, ac ad- feddu y sirioldeb a'r heartiness am ba rai yr oedd yn ddiarebol yn flaenorol i'r profedigaethau costus y cyfarfydd- odd a hwynt. Mae Mr. Griffiths yn deall y secret o efyngleiddio gwlad yn llawn cystal a'r hen ddiwygwyr Cymreig ag y proffesir cymaint o edmygedd o honynt. Trwy bregethu yr efengyl am ddim, y mae yr efengyl wedi llwyddo i wreiddio ei hun mewn llawer ardal lie yr erlidiwyd ei phregethwyr cyntaf. Trwy lafur ac anhunedd y cyfiawnion hyny sydd yn awr yn ddiogel yn y nef y mae i niferi o bregethwyr yr oes bres- enol etifeddiaeth deg, a chofied y rhai ffodus hyny taw a gwaed merthyron yr achleswyd, ac mai mewn amserau en-, bydus y planwyd pren rhyddid dan gangenau cysgodfawr yr hwn y gorphwysant hwy heb fod neb yn beiddio eu haflonyddu. Trwy fod ganddo ddigon o eiddo galluogh- Mr Griffiths i bregethu am ddim i gynulleidfaoedd bychain Hermon a Chas' Pain, ac a'i ddwylaw ei hun yr ymgynal- iai'r apostol g-ynt pan efengylai i'r cenedloedd, a'r un llaw a ddefnyddiodd i wneud pebyll, casglu briw-wydd yn Melita, a fu yn ysgrxfenu y llythyr at y Ehufeiniaid—llythji" ag y dywedai Coleridge ar ol ei astudio yn ddyfal am ddeu- ddeg mlynedd ei fod yn meddwl (nid mewn un modd yn sicr) ei fod yn deall rhyw gymaint o hono! Ond gyda liaw, efallai ei bod yn awr yn bryd i Mr. G. ddysgu pobl ei ofal i wneud rhyw gydnabyddiaeth iddo am ei lafur er mwyn eu parotoi i gynnal ei ganlyniedydd, yr hwn efallai, ac yn fwy na thebygol, a fydd wr heb un tyddyn o'i eiddo ei hun i'w gynnal. Yn ystod em liarosiad dan gronglwyd letteugar ein cyfaill adroddodd wrthym lawer o bethau pur hynod mewn perth- ynas i offeiriaid, llanrm, personau unigo'l, a sefyllfa gym- deithasol a chrefyddol yr ardal. Dan ei gyfarwyddyd yin- welasom ag eglwys ei blwyf sef Br^g^vyn, yr hon sydd yn gyflei ig cl1 ? s ^T11 oddiar goppa yr hwn mae golygfa hardd ac amrywiol. Mae y fyAvoliaeth yn werth tri chant y flwyddyn, ond, trwy drugaredd, nid yw y synagog dylotaf a bertjiyn i x Jimeillduaeth hanner mor druenus a'r eglwys hon. Mao mdilution yr adeilad yn berffaith, canys mae pob ffenestr yn dyllau, ac felly y to, a'r un modd y tipyn clochdy coed sydd ami. Nid oes achos i'r Jackdaws wastraffu amser wrth ehedeg o'u cwmpas, canys medrant fyned trwyddo yn mhob cyfeiriad. Os nad oedd Honed berfa o faw yn y pulpit nid oedd yno ddim, a gallasid cael llwyth cart o hono yn yr holl adeilad pe byddai i'r hen eglwys gael y fath amheuthyn am unwaith a chael ei hysgubo. Mae rhyw wyth o eneid- iau yn mynychu y lie ar y Sul. Dyna fan cysurus i bade-ra ar ddiwrnod o eira a rhew yn y gauaf! Ac y mae y He addoliad hwn yn eiddo i'r enwad crefyddol cyfoethocaf yn y deyrnas. Wyth o eneidiau, os eneidiau hefyd, a thri chant o bunau am ddysgu iddynt y ffordd i'r bywyd! Yr eglwys sefydledig ei hun, ac nid Ymneillduwyr, sydd yn offerynol i ddwyn oddiamgylch ei chwymp. Tri chant o bunau o gyflog i'r offeiriad, a hwnw bob Sul yn dweyd ei bader a'i gredo ynghanol llonaid wheelber o faw! Dyma ei gwneud hi yn galch! Dyma olyniaeth apostolaidd fendigedig! Baw! baw! baw! ar bob tu! Ond er cynddrwg yw baw. gwlyb neu sych, mae e yn well na chelwydd glan goleu— celwydd yw adenedigaeth trwy fedydd-celwydd yw fod adgyfodiad buddugoliaethus i bawb—a chelwyddau, yn 01 tystiolaeth Mr. Griffiths, oedd ac sydd ar y ceryg beddau yn monwent Brynwyn. A barnu yn ol tystiolaeth y ceryg beddau yr oedd yr ardal wedi cael colled anrhaethol oddi- wrth ymadawiad pryfed ag y buasai dyn canolig o foesol yn foddion cadi ticket iddynt a thalu eu fare i ben y daitli-sef-- (I'w orphen—positively ys dywed y Showmen—yn y nesaf.)

CLADDEDIGAETH FY MEAWD.