Skip to main content
Hide Articles List

9 articles on this Page

LLYTHYR 0 AMERICA.

AT Y GWEINIDOGION A'R EGLWYSI…

[No title]

CHWE' PHENNILL I'R DIWEDDAR…

AT AP DAEAREGYDD.

COENODION "PERERIN."

LLYTHYRAU CYMRAES YN NGHANAAN.

TAITH Y PERERIN.

YR HEN OLYGYDD.

News
Cite
Share

YR HEN OLYGYDD. Ar edyn mellt ehed newyddion trwm 0 Walia gu wna'm calon fel y plwm, Ar ol llifeiriawg li a dirfawr wlaw, Cymylau du a thymestl et-o ddaw, Ow Gymru hoff lie mae fy serch a mryd, Hen ser dy wlad syrthiasant bron i gyd; Prin cafodd Phillips gu hawddgaraf wedd, Gael adeg fer i oeri yn ei fedd, Cyn cael y newydd trist fod Aubury fawr Mewn tawel fedd ar waelod daear lawr. Mae angau fel tan lw rwy'n credu'n awr Y myn ef dori'r cedrwydd oil i lawr. Ac yn eu mysg, a'r mwyaf oil i mi, (Fy nhad, fy nhad, mae'm llygaid fel y lli,) Yr hybarch Jones, Dolgellau, wedi 'i waith, A. aetli o'r bvd i dir y mwynfyd maith. Ni bu hawddgarach dyn mewn unrhyw wlad Fel cyfaill hojJ, a phriod, brawd, a thad Dyn pwyllog oedd, arafaidd, llawn o swyn, Diddichell a diweniaeth er yn fwyn Dyn cryf ei farn, diragfarn cywir fu, Fel athraw coeth a brenin doeth i'w dy; Bu yn oifeiriad hefyd trwy ei oes, I'w deulu mawr, defnyddiodd waed y groes. Rwy'n cofio'11 dda ei iaith a'i dirion wedd, A gwnaf a'r ganiad hon eneinio'i fedd; Mi welais rai rhodresgar balch ac iach, Mm uchel ben i wel'd pregethwr bach, Nid felly ef er iddo fod yn fiity, y Ac uwch ei ben na'r un o honynt hwy, Ond cydymdeimlai ef a'r gwan tylawd Heb g'wilydd ganddo'i alw ef yn frawd. Yn annedd y Deildre,-ger Castell Carn Dochan, Y ganwyd y bachgen gynhyddodd yn ddyn, Bu'n dr-inga llechweddau Llanuwchllyn yn fych Heb nemawr gymdeithion end anian ei hun, Awelon y bryniau wnai buro'r awyrgylch, Hen drigxan hirhoedledd oedd cartref ei dad, 'Doedd yno ddim cynwrf nathai-fysg oddiamgyli Ond perffaith lonyddwch, tawelwch tiwy'r wlacl Ni chlywodd swn ond adlais creigiau crog Yn gwatwar llais ac atteb can y gog, A ffurfiwyd delw'r ardal dawel hon, Yn ail i natur, dan ei daAvel fron, A bu yn byw dros einioes faith heb wad Y bZaenafyn ei bivyll o bawb trwy'r wlad.. Yn moreu'i ddydd cyn cyraedd ugain oed, Heb ar ei wisg frycheun budr erioed, Ymuno wnaeth ar g'oedd ag eglwys Dduw, Ac ynddi bu heb fwlch tra bu ef byw; A bu'n pregethu Crist a'i ddwyfol glwy, Dros drugain mlynedd faith a pheth yn hwy, Nid rhuadrau croch dros greigiau Trystfawr oedd ei ddoniau ef, Ond rhyw afon ddofn ddidonnau Lawn o ddylanwadau'r nef, Medrus ydoedd yn wastadol Am oleuo deall dyn, Tyner, addfwyn a deniadol, Oedd ei eiriau bob yr un. Fe fu'n ffyddlawn fel 'Golygydd,' I'r Dysgedyclcl flwyddau hir, Pleidio rhyddid, codi crefydd, Wnaeth yn dawel drwy'r holl dir. Er na chafodd o'r dechreuad Gydweithrediad tyrfa fawr, Mae holl Gymru a phob enwad, Yn. ei efeiychu'n aavr. Y prifgynghorwr fu i'w frodyr gwiw Mewn amser blin terfysgoedd egbvys Dduw; Ni ddeuai dros ei wefus'eiriau ffol, Ni roddai neb 'r un addysg ar ei ol, A chafodd hefyd weled cyn ei fedd, Ei enedigol fro mewn perffaith hedd. Ond daeth y dydd cyrhaeddodd ben ei daith. Mwynhau y mae ei wobr am ei waith. Digonwyd ef a dyddiau yn y byd, Aeth at ei frodyr hoff i'w gartref clud. Mae angau'n lladd y baban ar y fron, Ni arbed ef y lanwaith wyryf Ion, Y canol oed cydgwympant tan ei gledd, A'r henaint llesg, mae'n bwrw hwn i'r bedd, Mae gan y dail prydferthion teg eu gwawr, Eu hadcg pan y syrthiant oil i'r llawr, A'r blodau cain gan rym y gogledd wynt Cydwywo maent 'r un tymor megis cynt. Yr haul a'r ser, wrth reol aent bob un. Ond angau fyn bob tymor iddo'i hun, Ei ymerodraeth ef sydd dros y byd, Pentyru mae bob gradd i'r bedd i gyd. Ond gwelaf ddydd, 0 ryfedd ddedwydd awr. Pan Iwyr ddiddymir ei lywodraeth fawr, Difodir cf, a'i gaethion oil ddaw'n rhydd, Sain Haleluwia Ion dros byth a fydd. Dodwyd corff ein Hathraw tirion, Gan ei feibion yn ei fedd, Hawdd oedd gwel'd teimladau 'xl^calon, Wrth eu gwyw grynedig wedd;' Clnccch o frodyr oil mewn oedran Wedi dewis Duw eu tad, Dyma dystion o'i gymeriad, A'i ddylanwad yn y wlad. Newark, Ohio. DAVID PRICE.