Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

Advertising

HEBRON.

CYMMANFA GYMREIG GOGLEDD LLOEGR.

LIVERPOOL A'R CYLCHOEDD.

News
Cite
Share

LIVERPOOL A'R CYLCHOEDD. Gwthiwyd fi allan yn lan o'r TYST yr wythnos ddiweddaf. Yr oedd genyf finnau air i'w ddyweyd am SASSIWN LERPWL, ond tra y bum i yn ymdroi gwelaf rhyw Hen Wyl- iwT, wedi gwylio ei gyfle i redeg o'm blaen. Cofied ef mai myfi a bia cofnodi pob peth fel hyn am y dref hon yn y TYST, a chofiwch chwithau Barchus Olygwyr hyny hefyd. Os na ofelwch chwi am gadw fy nghap i yn gymwys, mae papurau eraill i'w cael, a chaiff ysgrifenydd doniol fel myfi groesaw yn mhob un o honynt; a 'does dim trust na chodai bapur newydd fy hun, ac os gwnaf, hwnw a'ch teifl chwi oil i'r cysgod. Ond maddeuaf i chwi a'r 'Hen Wyliwr' y waith hon, yn enwedig gan i chwi roddi hanes mor dda o'r Seiat fawr. CYFARFOD MAWE JOHN BRIGHT sydd wedi tyiiu sylw pawb yma. Dyna y siarad rhwng pob dau. Taflodd hyd yn nod y Sassiwn o'r golwg am y tro. Rhoddwyd adroddiad ardderchog yn y TYST di- weddaf a gaf finnau roddi fy impressions o fy stand point inau. Mae gan bob dyn ei ffordd i ddyweyd ei stori. Pali o gyfarfod oedd y cyfarfod yn yr Am- phitheatre. Glorious success,' meddai pawb. Codiad anrhydeddus i'r Cymry, a chyfle noble i roddi cy- hoeddusrwydd i'r Cyngrair Cymreig. Gwna les 'does dim dad], ac yr oedd yn werth yr holl draul, a'r llafur, ac nid ychydig fu hyny pe na buasai dim ond cael John Bright am unwaith i blith y Cymry. Am Bright yr oedd y disgwyliad mawr. Efe oedd haul y cyfarfod, ond y mae H. Richard, Mor- gan Lloyd, Osborne Morgan, ac R. G. Williams wedi rhoddi boddlonrwydd mawr i bawb. Dyma foneddigion y gellir edrych arnynt fel cynnrychiol- wyr Cymru yn y dyfodol. Cymry cynhes eu calonau a hollol ryddfrydig yn eu golygiadau. Siaradwr ardderchog ydyw Richard—cystal a Bright bob tipyn yn marn llawer. Am yr hen Hiraethog nid rhaid iddo ef wrth ganmoliaeth; yr oedd rhai o'r Saeson yn aflonydd pan ddechreuodd lefaru, ond ni bu y dorf fawr o dro cyn mynu tawelwch i'r hen wron. Creadur balch, liunanol, yw y Sais hefyd. Ni welais hyny mor eglur erioed ag yn y cyfarfod hwn. Er mai cyfarfod y Cymry ydoedd o'r braidd na fynasai y Sais gau y Cymro o'i gyfarfod ei hun. Cafwyd araeth ragorol gan ein cyd-drefwr Mr John Roberts, Hope Street. Ni Tphasiodd neb o'r dechreu i'r diwedd yn fwy cymmeradwy. Araeth fer, glir, gynhwysfawr, a'i thraddodiad yn hyglyw i'r holl dorf, ac yn eu cario gyda hi. Mae Mr Roberts yn un o'n gwyr ieuanc mwyaf addawus. Os ymrodda ati o dclifrif fel yr wyf yn credu y gwna gall ddyfod yn allu yn y dref; mae son eisioes am ei gael i'r Town Council, a chyn pen deng mlynedd fyned i'r Senedd dros ryw gwr o Gymru. Mae ganddo lawer iawn o fanteision i ddyfod yn mlaen. Mae ei gys- sylltiadau, ei amgylchiadau, a'i grefydd yn ei ffafr. Nid oes dim yn eisiau ond dyfal-bara. Yr oedd yn dda genyf ei weled mor glir ei olygiadau ar gwesti- ynau mawr y dydd. Llwyddiant iddo. Yr oedd y cyfarfod cyhoeddus yn bob peth a allesid ddymuno. Ni phasiodd dim erioed yn well. Wedi y fath wledd_ dda-ateithiol 'does bossibl nad yw pob un oedd yno yn barod" at waith bellach. Bendith ar ben pobl Lerpwl am roddi y fath treat i'w cydwladwyr. Yr wyf yn disgwyl rhywbeth pwysig oddiwrth Y GYNHADLEDD DDIWYGTADOL. Y pwnc-mawr yn y diwedd ydyw pa ddaioni par- haol wnaed ? Beth gynlluniwyd yno sydd yn debyg o wella cynnrychiolaeth Cymru ? Mae arnaf ofn yn fy nghalon i'r cwbl syrthio i'r gwellt. Byddai yn resyn i'r fath gyfarfod fyned heibio heb fod rhyw- beth yn cael ei wneud ar ei ol, fel y gellid edrych arno yn ddechreuad cyfnod newydd yn hanes hen Walia. Yr oedd yn y gynhadledd ddigon o allu gwyr lleyg a gwyr lien ond ei gyssylltu a pheiriant priodol i gynhyrfu y Dywysogaeth. Ni chafwyd y fath gyfle yn yr oes yma. A ddarfu ti, ddarllenydd, sylwi pwy oedd yno P Cymmer y gwyr lien i ddech- reu. Dyna Dr W. Rees a Dr Edwards.—Dau leader y ddau enwad cryfaf yn Nghymru. Yr oedd yn ddrwg genyf nad oedd yr Jhybarch Dr Pritchard, Llangollen, yno. Hen gyfaill calon pob diwygiad. Gwelais yno y Parchedigion O. Thomas, J. Thomas, Roger Edwards, J. Hughes, N. Stephens, Dr Emlyn Jones, W. Ambrose Porthmadog, H. E. Thomas, S. R. Dolgellau, R. Lumley, T. Gee (nis gwn pa un ai gyda'r lay neu'r clergy y gosodaf, gall fod gyda phob un o honynt, a gwna gymmaint ag un dau), D Rowlands, M.A., E. Evans Caernarvon, H. Rees Caer, Josiah Thomas, M.A., W. Roberts, G. Parry Llanrwst, a llawer eraill nas gallaf yn awr gofio eu henwau. Beth allai sefyll yn ffordd y cewri y-n-a, ond iddynt ddechreu gweithio, gyda chydweithrediad y llu mawr o leygwyr oedd yno o bob enwad. Chwilied y darllenydd am y TYST diweddaf a dar- llened y rhestr; ac er nad oes ynddi ond enwau nifer fechan o'r rhai oedd yno, eto fe wel fod yno ddigon fel y gellir disgwyl os oeddynt oil o ddifrif y daw rhywbeth gwerth ei gael o'r Gynhadledd. Lied anmharod oedd pawb yn ymddangos yno. Nid wyf am funyd yn beio pwyllgor Lerpwl am na buasai yno well trefniadau yn mlaen llaw. Yr wyf yn deall mai eu penderfyniad ydoedd gadael i'r Gyn- hadledd drefnu ei hun. Ond dylasai fod yno well dealldwriaeth. Er engraifft, ni wyddai y Cadeirydd hyd y funyd y galwyd arno mai efe a elwid i gynt meryd y gadair; ac hyd y deallais i ni wyddai net arall. Mae Mr Charles Hughes yn foneddwr hyll, aws, ao yn gyfaill brwdfrydig i Reform, ond os oedd i gymmeryd y gadair dylasai wybod yn mlaen llaw, a gwybod beth oedd y llinell oedd y rhai a alwodd y Gynhadledd yn fwriadu gymmeryd. Buasai Cyn' hadledd rydd i bawb ddyweyd y peth oedd ar ei feddwl yn burion pe buasid wedi trefnu ail gynhad- ledd i wneud y gwaith yn iawn, ond gan nad oedd ond rhyw ddwy awr am dani dylasai y rhai hynl gael eu cynilo yn y ffordd oreu. Ond nid teg ych' waith i mi feio dim ar bobl a wnaeth gymmaint, nil gwn am neb a wnaethai gystal ag y gwnaethant hwy. Siaradodd yno ddau frawd tanllyd, sef Simon Jones o'r Bala, a John Roberts o Bangor, yn danllyd iawn dros y Ballot. Wel, nid oes dim dadl nad 1 Ballot fyddai yn iachawdwriaeth wladol i Gymrtf ond pa ddyben siarad am beth na cheir eleni beth bynag. Ni cheir y Ballot heb gael Senedd llawer mwy rhyddfrydig na'r un sydd genym, ac ni cheir Senedd felly heb i'r siroedd. anfon gwell cyn- nrychiolwyr i'r Ty. Rhaid i ni wneud nid y peth 9 ddymunem ond y peth a allwn; ac fe ellir hyd yn oed dan yr arngylchiadau anfanteisiol y mae y wlad yndcli sicrhau gwell cynnrychiolaeth na'r un sydd ond cymmeryd mewn llaw y mesurau priodol. Nid oeddwn erioed wedi meddwl, a digon prin yr ydwyf eto wedi credu bod githwyr sir Gaernarfon yB gymaint o slafiaid ag ymynai John Roberts Bangol eu dangos. Beth ddywedodd o ? fod 3,000 o ddynioB dan yr un meistr, onide ? yn gweithio am bymthej swllt yr wythnos, a pha fodd y gallesid disgwyl i'r rhai hyny fod yn ddigon annibynol i bleidleisio yB groes i ewyllys y meistr gwaith. Tebygol mai at chwarelwyr Arglwydd .Penrhyn y cyfeiriai. Yr oeddwn inau bob amser wedi meddwl fod y chwarel- wyr y bobl fwyaf annibynol yn y wlad. Mae Lord Penrhyn yn llawn mor ddibynol arnynt hwy ag ydynt hwy ar Lord Penrhyn, ac y mae y Lord yn gwybod hyny. Ae nid pymtheg swllt yn yr wythnos yw eu cyflogau a'u cymmeryd at eu gilydd, na dim byd yn debyg. Os ydyw eu cyflwr y peth y darluniwyd hwy gan y brawd o Bradford House, goreu pa gyntaf y ffurfil cymdeithas i'w rhyddhau. Mae caethion pob gwlad wedi eu rhyddhau ond caethion Chwareli sir Gaer- narfon. Tebyg mai dyma y gwaith nesaf i ddyn- garwyr ymaflyd ynddo, ond nid ydym yn credu en bod mor isel ag y darluniwyd hwy. Pa ddyben i ddyn godi i fynu mewn cyfarfod yn unig i greU sensation trwy liwio pethau yn gryfach nag y maent mewn gwirionedd. Mae yn sir Gael-narfon heddytf ddigon o bobl annibynol i gario y sir i RyddfrydwT er gwaethaf holl feistri tir, a pherchenogion gweith- feydd y wlad ond iddynt uno a'u gilydd. Codi ys- pryd ac nid tori calon y bobl sydd eisiau. Galwed rhyw un nifer o brif Ryddfrydwyr sir Gaernarfon at eu gilydd, a phenderfyner ar y dyn priodol i sefyll am y sir yn yr etholiad nesaf. Gwneler yr un petb yn sir Feirionydd, a'r un peth yn sir Ddinbycb am y sir a'r bwrdeisdrefi. Ennill pedair eisteddle oddiar y Toriaid yn Ngogledd Cymru yn yt etholiad nesaf a fyddai yn rhywbeth gwerth son am dano. Gadawer sir Fon, a sir Fflint, a sit Drefaldwyn yn llonydd am y waith hon, a gos- oder holl allu y Rhyddfrydwyr ar waith i ddwyn siroedd Arfon, Meirion, a Dinbych, o grafangau y Toriaid. Ar ryw beth pendant fel yna y mae yB rhaid sefydlu ac wedi sefydlu arno penderfynu nil orphwysir nes ei gyrhaedd. Os na wneir rhywbetb fel .yna bydd yr holl dwrw a'r siarad yn waetb nag ofer; ac edrycha ein gwrthwynebwyr ar eio cyfarfodydd a'n cynhadleddau fel chwareu plant. Yr oedd Mr Richard a Mr Gee ac eraill fel practical men y Gynhadledd am wneud rhywbeth heblatf siarad. Yr wyf yn gweled fod I LIVERPOOL A'I CIIYNNITYCHIOLWYR ? yn barod. Glyna y Toriaid o bossibl wrth Meistri Horsfall a Graves er fofl rhyw sibrwd fod Mr Graves yn rhy ryddfrydig ganddynt. Daufoneddwr a satf yn uchel yn y dref ar gyfrif eu cymmeriad personol yw Horsfall a Graves ond nid pwnc o gymmeriad personol ydyw, ond pwnc o olygiadau gwleidyddoli ac nid y dynion goreu yn bersonol a gynnrychiolll oreu bob amser ein galygiadau gwladyddol. Mae Rhyddfrydwyr y dref wedi disgyn ar Mr WilliaB1 Rathbone a Mr Vemon Haycourt. Mr Robertson Gladstone a enwyd gyntaf gyda Mr Rathbone ond y mae ef yn gwrthod sefyll, ac y mae yn gwneud ylI gall iawn. Dyn galluog iawn yw Robertson Glad- stone, rhyddfrydwr trwyadl; ond-nid ydyw yn bob- logaidd yn y dref; ac y mae hyny o anfantais gall amryw o'r rhyddfrydwyr blaenaf yma nad ydyn1 yn ddynion a hoffir gan y lluaws. Mae teuln J Rathbones yn barchus iawn. Nid oes dim dadl tnJ feddyliwn am ddychweliad Mr Rathbone. DJJ: dyeithr yma yw Mr Haycourt; ac er y dywedir el fod yn alluog iawn mae ei ddyeithrwch yn rhwym 0 fod yn anfantais iddo. Rhyw local man, a hwnw yC Ship Owner, pe buasai fodd ei gael, a gymmerasal oreu yn Liverpool. Ond nija ymladdwn yn deg drol y ddau, ond yr ydym yn sicr o un. Mae yma ETHOLIAD YN EXCHANGE WARD i'r cynghor trefol. Mr J. J. Stitt yw yr ymgeisydd rhyddfrydig, ac y mae yn ddigon rhyddfrydig 8t bob mater. Nid rhyw lawer o bwys sydd i'r dref f* y rhan fwyaf .To engreifftiau pa un ai Rhyddfrydwyr ai Ceidwadwyr fyddo yr ymgeisyddion. Er eu bod yn ddwy blaid yn gyffredin, eto nid y rhyddfrydwy1 mewn proffes yw y rhai mwyaf rhyddfrydig yn ell mesurau bob amser. Bu Mr Stitt yn y cynghor o'< blaen dros Everton. Mae yn foneddwr galluog 4 yn siaradwr hyawdl. Mae yn ddiacon yn Eglwy8 Annibynol Norwood Grove yn y dref hon. cwynit gan rai ei fod yn uchelfrydig.; a gwnaeth ei hun J* anmhoblogaidd wrth bleidleisio ar y fainc dros gar iatau trwyddedau i dafarnwyr bron heb ddim atalfit, Anhawdd dyweyd eto pa fodd y try yr etholiad. Hysbyswyd yr wythnos ddiweddaf am laniad Y PARCH. D. PRICE. Pregethodd yma dair gwaith y Sabbath diweddaf yn Great Mersey Street y bore, yn Park Road 1 prydnawn, ac yn Grove Street yn yr hwyr. Mae pregethu yn union fel .cynt, ond ei fod yn wanad1, Yr un ffraethineb, a bywiogrwydd, a thlysni, ono nad oes ganddo y nerth i dywallt llifeiriant fel 1 byddai er's talm. Bydd yn dda gan filoedd ei wele" a'i glywed, ond rhaid iddo gymmeryd gofal rh9 gweithio yn rhy galed, ac i'w gyfeillion beidio yhOI gormod ar ei natur dda. Nos Lun, Mehefin 8, traddododd Ddarlith yn 1

Advertising

AT Y CYHOEDD.

YR WYTHNOS.