Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

Advertising

HEBRON.

CYMMANFA GYMREIG GOGLEDD LLOEGR.

News
Cite
Share

CYMMANFA GYMREIG GOGLEDD LLOEGR. Cynhaliwyd y Gymmanfa hon eleni yn Stockton- on-Tees, Dyddiau Sul a Llun y Sulgwyn. Y mae sefydliad y Gymmanfa Gymreig wedi bod yn dde- chreuad cyfnod newydd yn hanes y Cymry, ynghy la chrefydd y Cymry yn y wlad hon. Mae cael cyfar- fod a'n gilydd unwaith yn y flwyddyn i addoli Duw ein Tadau yn y wlad well hon yn foddion i ail enyn dawn Duw ynom. Hon oedd y seithfed Gymmanfa Gymreig yn Ngogledd Lloegr. Dechreuwyd ar waith y Gymmanfa nos Sadwrn brwy gynnal cynhadledd. Dechreuwyd y cyfarfod brwy weddi gan Mr B. Evans, Walker. Yna dewis- wyd y Parch J. H. Hughes, Newent, Gloucestershire, i'r gadair. Wedi cael ychydig o helynt y gwahanol eglwysi, jenderfynwyd,— 1. Fod y Gymmanfa nesaf i gael ei chynnal yn Walker ar Dyne. 2. Fod y Gymmanfa hon yn cydymdeimlo a'r gwahanol achosion gweinion sydd yn y wlad yma. :1 3. Fod y Gymmanfa yn awyddus am i bob enwad srefyddol yn y wlad i uno i gynnal Cymmanfa Gym- -eig; gan obeithio, trwy hyny, y bydd y weinidog- ieth 711 fwy effeithiol i gyrhaedd yr amcan—Gogon- + y arfxl -vr a lies rneidiau anfarwol. Boreu y Sabboth, am 7 o'r gloch, cynnaliwyd cyf- arfod gweddi. Am 10, dechreuwyd trwy weddi gan Mr. Bowen, Stockton (W.) a phregethodd y Parchn J. Davies, Witton Park, a J. H. Hughes, Newent. Am 2, dechreuwyd gan Mr D. Hughes, Five-house, (T.C.) a phregethodd y Parchn. Jones, Auckland (W.) ac E. Price, Branch-end. Am 6, dechreuwyd gan Mr T. Thomas, Middlesboro', a phregethodd y Parchn I. James, Walker, a J. H. Hughes, Newent. Am 7 o'r gloch boreu dydd Llun, cawsom Gynnad- ledd er trefnu pethau arianol. Etholwyd y Parch I. James, Walker i'r gadair, wedi i Mr J. John Witton ddechreu y cyfarfod trwy weddi. Am 10 yr un dydd, dechreuwyd trwy weddi gan y Parch J. Davies, Witton Park, a phregethodd y Parchn T. Jones, gynt o Middlesc-oro', a J. H. Hughes, New- ent. Am 2, dechreuwyd trwy weddi gan Mr O. Evans, Five-house, a phregethodd y Parchn T. J. Jones, (T.C.) Witton Park, ac O. G. Owens, (W.) o'r un lie. Am 6, dechreuwyd gan Mr O. G. Owens, a phregelhodd y Parchn I. James, Walker, a J. H. Hughes, Newent. Yr oedd pobl Stockton wedi dod allan y tro hwn mewn caredigrwydd yn deilwn o genedl y Cymry, ac hefyd yn deilwng o'r grefydd ogoneddus a bro- ffesir genym.—Canmoladwyiawn. Gallasemfeddwl fod pob un o honynt yn ddedwydd yn ei weithred.' Yr oedd y gwrandawiad yn astud a difrifol, a'r weinidogaeth fel 'gwlaw ar wellt a gwlith ar irwellt.' Boed bendith yr Arglwydd ar ei air, er cael cnwd tor ithLg ar y maes yn y dyfodol. Boed felly yw dymuniad hiraethlon-Gwyliwr o Walia.

LIVERPOOL A'R CYLCHOEDD.

Advertising

AT Y CYHOEDD.

YR WYTHNOS.