Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

Advertising

HEBRON.

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

HEBRON. Cynnaliwyd cymmanfa tair sirol yr Annibynwyr eleni yn Hebron, ar y 26ain a'r 27ain o Fai. Etholwyd y Parch J. Davies, Moriah, i'r gadair. Dechreuwyd y Gynhadledd trwy weddi gan y Pro- ffeswr Morgan, Caerfyrddin. Darllenwyd anerchiad agoriadol gan y Cadeirydd, yn yr hwn y cyfeiria at yr elfenau nerthol sydd yn gweithio yn y Dywysogaeth, er dwyn eyfnewidiad yn nghymmeriad, amgylchiadau, ac iaith y genedl, ynghyda'r ddyledswydd sydd yn gorphwys arnom i wneud rhagddarpariadau addas ac amserol ar gyfer y cyfnewidiad sydd yn ein haros. Golyga fod y genedl mewn 'sefyllfa newidianawl' (transition state.) PENDERFYNIADAU. 1. Fod dymuniad taer ac unfrydol ar Mr. Davies i wneuthur yr anerchiad galluog a ddarllenodd yn gyhoeddus trwy y wasg. 2. Ein bod yn cydymdeimlo a'r Parch D. Rees, Llanelli, yn ei gystudd presennol, ac yn galaru o herwydd ei anallu i fod yn ein mysg fel yr arferai fod; ac ar yr un pryd, yn gobeithio y bydd i'r Ar- glwydd adferu ei iechyd eto. 3. Fod y Gynhadledd, ar ol gwrando adroddiad o sefyllfa Trysorfa Colegdy Aberhonddu oddi wrth y trysorydd, gan y Parch T. Thomas, Glandwr, yn taer ddymuno ar holl weinidogion ac eglwysi y tair sir, sydd heb anfon eu casgliadau i mewn i'r cyfryw drysorfa, i wneud hyny gyda y brys mwyaf, gan fod angen mawr am arian. 4. Cydunwyd i anfon at yr Anrhydeddus W. E. Gladstone, A.S., amlygiad o gymmeradwyaeth wres- og o'i fesur i ddadgyssylltu yr Eglwys Wyddelig oddi wrth y Llywodraeth Wladol; ynghyda phen- derfyniad i gydweithredu yn egniol a chalonog tuag at ddwyn ei amcan goruchel i ben. Ni phenderfynwyd pa le y bydd i'r gymmanfa gael ei chynnal y fiwyddyn nesaf, o blegid nad oedd yno neb yn ei cheisio. Dymunwyd ar y Parch E. Jones, Crugybar, i edrych allan am eglwys yn sir Gaerfyrddin a fyddai yn foddlawn i'w derbyn. CYFARFOD CYHOEDDUS. Prydnhawn y dndd cyntaf, dechreuwyd ar y maes trwy weddi gan y Parch. A. Jenkins, Cana. Pre- gethodd y Parch T. Thomas, St. Clears, a'r Parch J. Williams, Castellnewydd. Am 6, pregethoid y Parchn. J. M. Evans, Caer- dydd, Davies, Blaenycoed, ac Evans, Penydre. De- chreuwyd trwy weddi gan y Parch W. Jenkins, Cid- welly. Pregethwyd hefyd mewn gwahanol fanau yn yr ardal ac addoldai cymmydogaethol. Am 7, Dydd Mercher, dechreuwyd gan y Parch B. James, Llandilo a phregethodd y Parchn T. Rees, Maenygroes, a T. Thomas, Glandwr. Am 10, dechreuwyd trwy weddi gan y Parch L. Jones, Ty'nycoed; aphregeehodd y Parchn T. Davies, Llanelli, D. Anthony, B.A., Tenby (yn Saesneg), a D. Roberts, Caernarfon. Prydnhawn, gweddiodd y Parch E. Jones, Ffyn- nonbedr. Pregethodd y Parchn T. Thomas, Bryn- main, a T. Matthews, Castellnedd. Am 6, gweddiodd Mr. Thomas, Tresimwn; a phregethodd y Parchn D. Henry, Penygroes, ac H. Davies, Bethania. Cafwyd Cymmanfa dda; ac yr ydym yn teimlo yn ddiolchgar am dani. Yr oedd y tywydd ar y cyfan yn ddymunol. Y pregethau yn rhagorol, y darpar- iadau yn drefnus ac uwchlaw y cwbl, arwyddion dymunol o bresennoldeb yr Arglwydd.-J. Lewis.

CYMMANFA GYMREIG GOGLEDD LLOEGR.

LIVERPOOL A'R CYLCHOEDD.

Advertising

AT Y CYHOEDD.

YR WYTHNOS.