Skip to main content
Hide Articles List

7 articles on this Page

Advertising

Advertising
Cite
Share

'I GORUCHWYLIWR YMFUDOL 'I GORUCHWYLIWR YMFUDOL TRWYDDEDIG GAN Y LLYWODRAETH. ROBERT TRAVIS, (CYMno 0 FANGOR), 3, Edmund Street, allan o Old Hall Street, (0 fewn gwaith pum munud o gerdded i'r Prince's Landing Stage, y Railway Station, a'r Dociau,) LIVERPOOL. ILETTY Cysurus i Deithwyr, heb neu gydag ym- J borth. Ystorfa dda i gadw Luggage. Annogir y sawl sydd yn bwriadu ymfudo i ysgrifenu at Robert Travis, (cyn gadael eu cartref,) trwy yr hwn y ceir bob hysbysrwydd gyda golwg ar reilffyrdd, agerlongau, a'r hwyl-longau, i bob parth o'r byd. Y mae'r boneddigion canlynol yn adnabod R. T., ac yn cymmeradwyo ei dy a'i gymmeriad:—■ Cadben Evans, Prince Arthur; Mr Price, Moorings, Menai Bridge; Cadben Williams, Caergybi; Cadben Hughes, Windsor, Bangor; Cadben Richard Williams, Liverpool; Cadben Johnson, Royal TVilliam; Mr John Williams, Llanfair, Sir Fon; Parch. Noah Stephens, a'r Parch. Jno. Thomas, Liverpool. [51—54. PELENI AC ENAINT HOLLOWAY.—Yr iachad mwyaf effeithiøl i'r gout a'r gewynwst (rheumatism). Achos mynych o'r cwynion hyn ydyw cyflwr poethlyd y gwaed, yr hyn a ddilynir a diffyg treuliad, blinder, a nychdod mawr, yn dangos fodangen am reoliad priod- ol, a bod gwaed anmhur yn mawr ffyrnigo yr anhwyl- derau yma. Y mae Peleni Holloway o natur mor bureiddiol fel y gwna ychydig doses o honynt wedi eu cymmeryd mewn pryd brofl yn rhwystr i'r gout a'r gewynwst, ond dylai pawb sy n dyoddef oddiwrthynt ddefnyddio Enaint Holloway hefyd rhinweddau grym- U3 yr hwn, mewn cyssylltiad ag effeithiau y Peleni, sy'n peri iachad sicr. Dylid rhwbio yr Enaint yn dda i'r mannau a boenir o leiaf ddwywaith yn y dydd, ar ol iddynt yn gyntaf gael eu golchi yn dyner a thxwyadl a. dwfr cynhes i agor y chwys-dyllau er mwyn rhwydd- hau y ffordd i'r Enaint gyrhaedd y chwareiiau. YMDDATTODIAD Y SENEDD.—Nid yw y Daily News yn meddwl y gall y Senedd fyned trwy eu gwaith yr eisteddiad yma, hyd yr ail wythnos yn Awst. HEN WRAIG 106 OED.-Dywed un o newyddiad- uron Caer fod hen ddynes yn byw yn Bollington Lane, Bollington, yn 105 mlwydd oed. Ei henw yw Ann Getliffe, gweddw Humphrey Getliffe. Ganwyd hi ar y 7fed o Fawrth, 1764, ac y mae ganddi bedwar o blant-George Getliffe, 80 mlwydd oed; Sarah Frogett, 70 mlwydd oed; Elizabeth Smith, 70 mlwydd oed; a Francis Collier, 66 mlwydd oed. AT EIN GOHEBWYR. Mae yr ysgrifau canlynol yn mysg llawer eraill yn y swyddfa, ac y mae eu hysgiifenwyr yn dymuno gwybod beth a ddaeth o honynt Syniadau Calvinaidd Cymedrol, gan Jeremoth.—Nid colofnau newyddiadur yw y lie i ddadl dduwmyddol. Rhagluniaeth, gan J. J.—Mae ein cyfaill hwn wedi bod ini yn ohebydd ffyddlon o'r dechreuad. Yn yr ysgrif hon y mae yntau hefyd j'll mjTied ormod i derfynau duwinyddiaeth. Anfonwn hi i le arall, a bydd yn dda genym glywed oddi- Witlio ar destynau yniarferol. Cristion o fewn ychydig, gan Silin Gwyllt.—Anerehiad bywiog a difrifol, ond nid yn hollol y peth y disgwylir ei gael mewn pai,)iu ne-wydd. Darllen Ffuglianesion.—Mae ambell un yn ysgrifenu nes peri 1 wirionedd ymddangos fel ffug, ac eraill yn gallu taflu cym- maint o fywyd i ffug nes peri iddo ymddangos fel gwirion- edd. Mae y niwed y cyfeiria ein gohebydd ato yn fawr, ni a wyddom; ac eto rhaid i, ddyriion gael snujfmewn ysgrifau, onide ddarllenir mo honynt. Mae Dyoddefwr yn ysgi-ifenu yn gryf am y gorthrwm a ddy- oddefa gweithwyr MjTiwy oddiwrth eu meistri. Yr ydym yn cydjindeimlo a Dyoddefwr, ac yn sicr nis gall dynion ddyoddef j'll hir clan y fath galedi heb wingo. Caradog.-Mae Caradog am gael ein barn ar ryw fater mewn dadl rhwng cantorion M-. Caradog anwyl, a oes dim pwys genych am ein bywyd pan y disgwyliwch i ni ei beryglu trwy roddi ein barn ar y fath achos ? Ar yr un pryd, byddai yn dda i grefyddwyr ystyried a phwy y maent yn ymgymysgu yn eu corau. Aeth gohebiaeth Profiadol, o America, ar goll, ao yr oedd yn rhy ddiweddar i'w chyhoeddi pan gawsom afael ynddi. Bydd yn dda genym glywed eto oddiwrth Profiadol. Anwybodus.-Ysgrifena fel hyn:—" Mri. Gol.Darllenais yn y TYST yr wythnos cyn y diweddaf hanes Creulonderau yn Nghymru.' Y fan a nodir lie y cyflawnwyd y creulondeb yw Blackburn. A fyddwch chwi, neu yr hwn a roddodd yr hanesyn, gystal a gwneud yn hysbys trwy gyfrwng y TYST pa le yn Nghymru ymae yfan hono ? Gall fod llawer fel finnau yn anwybodus. Felly rhoddech foddlonrwydd i lawer heb- law ii." Nid ydjTn ninnau 3-n gwybod a oes y fath le a Blackburn yn Kghymru. Gwall oedd y penawd Creulon- derau 3-n Nghymru.' Dylasai fod 'Creulonderau Rhieni yn nghyfraith.' Ar y d-l yr oedd y bai, ae yr ydym wedi ei ddwrdio am gamdystiolaeth. LTn o'r rhai sydd am gael gwybod.—Cyfeiria y gwr hwn y nodyn canlynol at y Parch Simon Evans, Hebron:—" Syr,— "VYrth eich atebiad yn y TYST diweddaf, deallaf mai yr un TTndeb a feddyliwch wrth Undeb Cerddorol Wliitland ag Undeb Cerddorol Henllan. Yn awr, anwyl Syr, carwn gael gair o eglurhad genych eto ar-Pa fodd y cafodd enw yr Undeb ei nein-id t Undeb Cerddorol Henllan y galwyd ef oddiar ei gych-wyniad hyd y tro diweddaf. Pa le y cyfarfu y P,yll,-or pan benderfynwyd hyny ? Gwn na wnaed hyny yn Llandisilio, oblegid yr oeddwn i yno yn y pwyllgor. Atebiad i'r ddau ofyniad ucliod a'm boddlona i." Ivor.-Drw, g genym fod prif ddalen y TYST yn rhy lawn i gan- iatau gofod i'r ddau englyn canlynol gan Ivor i'n eyfaill brwdfrydig yr Enwog Fardd Bro Gwalia :'— Bro Gwaha, un hynod yw ef, A'i enw'n aelwyd air trwy'r dref; Ei awen yn sirioli sy Yr hen ac ieuaingc yn mhob ty. Tref henafol Caerynarfon Fu fagwrfa i'n cj-faill lion; 0 dewch yn unfryd, Gymru mad, I dalu parch i Bro' eich gwlad. Bro Gwalia.-Yr ydym yn sier, wcdi gweled y compliment uchod, y goddefwch i ni osod eicli pennillion i Mrs W-, ar ol adferiad iechyd yn y pmdan am dymhor. Dychwel- ant ond odid heb dderbyn nemawr o niwed. Rhyddfrydwr Ieuane.-Yr ydym yn lloni wrth glywed fod cyfeillion rhyddid yn Nghaernarfon yn dyheu am wneyd rhywbeth erbyn yr etholiad nesaf,' ae yn dymuno cydweith- redu a'r Gymdeithas Ddiwygiadol Gymreig. Nis gwyddom eto pa mor fuan y danfonir Cynrychiolydd y Gyrndeithaa trwy'r wlad, ond collir gan lleied o amser ag y bydd modd. Yn y cyfamser, ffurflwch gangen gymdeithas yn ddioed, ae ymofynwch am y manylion a L. Williams, Ysw., yr ysgrifen- ydd, Canning Chambers, South John Street, Liverpool. Gweithiweh heb ddiffygio. Y mae'r fuddugoliaeth yn ymyl! Ieuan Mon.—Edrychwn dros eich pennillion pan y caffom amser. Crwydriad a Gwladgarwi'.—Rhaid ilch ysgrifau fyn'd i'r ffwrn o "dan brawf, cyn yr anturwn eu eyhoeddi. Byddwch pnarhous am ennyd. Adolygiadan.—Yr ydym newydd dderbjTi y rhifyn cyntaf o Rydd-weithiau Hiraethog." Caiff arolygiad arno ym- ddangos yn ein nesaf.

HEBRON.

CYMMANFA GYMREIG GOGLEDD LLOEGR.

LIVERPOOL A'R CYLCHOEDD.

Advertising

AT Y CYHOEDD.

YR WYTHNOS.