Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

9 articles on this Page

■CYMDEITHAS RHYDDHAD CREFYDD.

MOELTRYFAN.

LLANBEDROG, GER PWLLHELI.

BRYN, LLANELLI.

IPORTHMADOG.

GRYHHOBEB SEIfEBIJOL. I

EFENGYLWYP, TEITITIOL cymru.

MARWNAD I'R DIWEDDAR MR. JOIIINI…

ADOLYGIAD AR Y 'TYST.'.

News
Cite
Share

ADOLYGIAD AR Y 'TYST. BETH AM Y RHIFYN DIWEDDAF ? Beth hefyd? Dyma geiniogwerthna chynygiwyd i Gymru erioed ei bath. Y papur yn dda, y maint wedi ei- ychwanegu, a'i gynnwysiad yn bell, bell uwchlaw y man newyddiaduron. Pan ddar-U-Ilis Y rhifyn diweddaf dywedais wrth wr call, sef wrthyf fy hun, i s na chefnogir y fath bapur a hwn, gan y Cymry, goreu pa, leiaf a gammolir amynt.' Y mae yrerthygleyntafar, GYNEYCIIIOLAETH A CHYNEYCHIOLWYE CYMEI7, yn werthfawr iawn. Onid yn awyrgylcli cyfarfod- ydd gogoneddus Liverpool y cynyrchwyd yr ysgrif c! bwrpasol, ddifyr, a tharawiadol hon? Dylai gael ei chopio i bob papyr Cymreig yn y Dywysogaeth. Y mae yr ail ysgrif fer ar Gynddaredd yr Orangemen yn debyg i waith yr un llaw. Y mae yr ysgrif hudoliaethus ar SEIAT FAWE SASSIWN LERPWL yn debyg i gynyrch yr un meddwl, pan mewn frame dipyn mwy crefyddol. Y mae yn well darluniad o'r cyfarfod hwnw na dim a welais erioed. Y mae awdwr a fedr siarad mor barchus am enwad arall yn gymwys i weinyddu y cerydd a geir yn niwedd yr erthygl i Fethodistiaid. Yr oedd yn y cyfarfod yannoedd o bobl yn perthyn i enwadau eraill; buasai cyfeiriad caredig at gydweithrediad eraill yn weddus, ac iddo fod allan o'r ffasiwn. Yr oeddwn i yn casglu oddiwrth don yr areithiau fod Methodistiaid,— Methodistiaid Lerpwl yn neilldnol-yn cael eu blino o herwydd diftyg difrifoldeb eu pobl ieuanc. Gwnaed sylwadau rliagorol gan y naill a'r Hall o'r llefarwyr. Ond yr oeddwn yn teimlo fod eisieu dweyd rhywbeth na thraethwyd ar y pryd os yw yv adroddiad yn gyflawn. Tynais fy ysgrifbin dr^\w y geiriau I orwyeliaeli' ac anferth.' Wel, YR HEN DEILIWE. Myned well, well, o hyd. Y mae hen wr yr Hafod wedi dod i'r seiat, a'i dy wedi myned yn gartref i'r arch. Nid yw awduriaeth y llythyrau hyn yn secret,—neb llai na'r 'Hen Ffarmwr' ei hun. Yr wyf yn deall fod y llythyrau hyny i gael eu cyhoeddi yn gyfrol yn swyddfa Mr. Gee. Dynn dynged yr Hen Deiliwr. Y mae llythyr y Parch J. Thomas at y Parch S. Evans, yn amserol; ac y mae y ffaith fod Mr T. yn llwyrymwrthodwr trwj-adl yn ychwranegu at'effeith- iolrwydd y llythyr. Dylem ni, plant y goleuni, fod mor gall yn ein cenedlaeth a phlant Toryaidd y byd hwn. Ein pwnc mawr ar yr adeg bresenol yw cael dynion da i'r senedd—dynion y gellir ymddiried ynddynt. Ofer i bob crotchet cldisg-wyl oael ei chyn- rychioli. Cymerwn addysg oddiwrth ein gelynion. Rhydd Tori dirwestol ei bleidlais i Dori meddw, yn hytrach nag i Ddincesticr Rliyddfrydig. Y mae llythyr Gladstoidan yn ddigon iach. Yr wyf yn ymatal ar hyn o bryd rhag dyweyd fy marn ar erthyglau Forpex ar 'gymeriadau.' Y mae yn awr yn y chweched bennod. Nid wyf yn eu teimlo mor hudol ag y disgwyliwn ar y fath destun, ond yr wyf yn tcimlo fod rhywbeth ymldynt. Cawn weled. Both yw y I Nodion a Nidia,ii Gwaith lolyn, ebe fi weithiau. Edrych am y gair Dinbych, methu ei gael. Bryd arall, yn credu yn wir mai nid o'r ty sydd dan ofal Mr. Robinson y mae Nid Noctivagus, -Die yn ysgrifenu. Haws dyoddef dyn call yn dynwared ffwl, na dyn dwl yn ceisio chwareu v dyn doeth. Rhys Davies, (parhad). Dyma hit dda; os gellir cael cyfres o erthyglau tebyg i hon, ar hen bregeth- wyr teithiol Cymru, yr wyf yn sicr y cymerai yn dda. Dyma yr adeg i wneyd hyn. Bydd yn rhy ddiweddar i gael defnyddiau yn fuan. Y mae erth- yglau rhagorol ar Rich. Jones, Llwyngwril; Shon Evan, Llanuwchlyn a John Davis, Glasbwll, wedi ymcldangos yn y Dysgedydd, ond y mae lie eto i wnend rhywbeth o arddull gwahanol-cpnwysach i'r newyddiadur. Holo: gan zn Dernyn o Gilsbiaeth perffaith. Ni fuasai raid iddo roddi ei enw; adweinid ei waith yn mhig y fran. Y mae y testyn yn grefyddol, sef 'cyfarfod chwarterol yr Annibynwyr, Sir Faesyfed.' A'i tybed ei fod yn son am ei fol' ? oedd cwestiwn cyntaf ein haner goreu.—Dyma fo: Gan fod genym gryn esgynfa o ddyffryn cul Gwy i'r Uch ddyffryn, lie mae y castell yn gyfleuedig, barnwyd yn unfrydol, wedi ymgyngori a'n dynion oddimewn, taw, ys dywed y Sais da oedd, er cadw angeu yn mhell oddiwrthym, ymnerthu trwy fara a chaws wedi ei Iwybreiddiau a sudd afalau, yr hyn y gwnaethom gydwybod ei wneud, yn nhafarn Cam Twm bach.' Goren pa amlaf yr addurnir tudalenau y TYST a chynyrch ymenydd Kilsby. Y mae y wlad yn hoffi darllen ei waith, yn enwedig pan fyddo yn fresh, heb ddechreu blino. Y mae hanes y creulonder ar fwrdd lIong, yn ofnadwy. Y mae yn anhawdd i bobl, dyeithr i'r mor, ddychmygu y fath driniaeth annynol a roddir i'r morwyr mewn rhai llongau,— yn enwedig llongau ein brawd Jonathan. Y mae yn dda genyf weled fod y Cabden a'r Mate wedi eu trosglwyddo i'r carchar i aros eu prawf am lofrudd- iaeth. Y dyhirod! y mae carchar yn rhy dda i'w bath. Y mao glaniad y Parch D. Price wedi ei ysgrifenu ar ormod o ffrwst. Beth a olyga JT ysgrifenydd wrth ddweyd Gobeithio na chaiíÍ ei oferweithio' ? Yr wyf yn meddwl na ddymunai hen gyfeillion Mr. Price roddi unrhyw waith 'ofer' yn ei law. CYFAEFOD MAWR LIVERPOOL. Dyma yr hanes cyntaf yn yr iaith, am un o'r cyf- arfodydd pwysicaf yn ein hoes. Gan fy mod wedi darllen yr holl areithiau yn yr iaith y traddodwyd hwynt, nid oeddwn yn teimlo angen am eu had- ddarllen yn Gymreig, dim ond taflu bras olygiad i farnu y cyfieithiad, yn yr hyn yr wyf yn cyfrif fy hun yn dipyn o law. Rhagorol, rhagorol, yn wir. Os na sylwodd y darllenydd, gwnaed hyny. Y mae y cwbl yn darllen mor rwydd a'r iaith wreiddiol. Cydmared y darllenydd y TYST ag unrhyw bapur Cymreig yn nhrosglwvddiad yr areithiau i'r ffurf Gymreig. Ac os darganfydda ladrad, h.y. cymeryd peth heb gydnabod, anfoned i'r llys, Chapel Walks. Y mac y Newyddion Cymreig wedi eu cyfleu yn dda. Y mae ein parthsyllydd yn gwrthod dweyd wrthym yn mha ran o 'Leyn' y mae Llanbedr.' Ha! Dyma wr dyeithr! 'Gwas.' Two of a Trade. Nid yw yn canmol gorniod ar y TYST. Y mae y ffaith ei fod yn cadw allan bob cecraeth, yn hawlio pob help a ellir roddi iddo. Nid yw yn ymladd, ac nid yw ychwaith yn stripio ei ddillad, yn cau ei ddyrnau, tiac yn challcnyo neb. Nis gellir dweyd ei fod yn cnwacbl, cr mai un enwad sydd yn ei gynal. CIYV, ai, gan un oedd yn debyg o wybod, ei fod yn credu y •c"-fnogid y TYST gan ddo.-tbnrth mawr o Fethodisfaid, yn enwedig Methoili. tiaid Liverpool. Digon o brawf nn-l yw hyny o enwadaefch sydd yn y TTST yn i eraill. Daliwcli uti. Nioddefa yr hen genedl i chwi golli eich gwobr. CEAFTWE.