Skip to main content
Hide Articles List

9 articles on this Page

■CYMDEITHAS RHYDDHAD CREFYDD.

MOELTRYFAN.

LLANBEDROG, GER PWLLHELI.

BRYN, LLANELLI.

IPORTHMADOG.

GRYHHOBEB SEIfEBIJOL. I

EFENGYLWYP, TEITITIOL cymru.

News
Cite
Share

EFENGYLWYP, TEITITIOL cymru. RHYS DAFIS, NEU RHYS Y GLUN BREN. [Parhad o'r rhifyn dnoecldaf.) Nid un o'r rliai hawddaf i gael Hetty iddo oedd Rhys Dafis. Byddai yn gynddeiriog yn crbyn trefn 'cadw'r mis,' yn enwedig pan y dig- wyddai y mis' fod yn mhell, ac yn hollol o'r cyfeiriad lie yr oedd i fyned dranoeth. Trefn ryfedd ydyw y drefn o 'gadw'r mis.' Digon tebyg ei bod yn ddyeithr i'r rhan fwyaf o'n dar- llenwyr. Yn siroedd amaethyddol y De y maent yn lletty a pregethwyr bob yn ail fis. Bydd rhyw ddeuddeg neu cldeunaw, mwy neu lai, yn eu cymeryd am bob o fis yn eu tro. A phob pregethwr ddaw ynghorff y mis hwnw, y mae y teulu sydd yn cadw y mis i ofalu am fwyd a Hetty iddo. Pan y byddo moddion ar hyd y dydd ar y Sabbath neu yn yr wythnos, y maent yn dyfod a bwyd i Dy'r Capel; ond os yn y nos y daw pregethwr, rhaid idclo fyned i lettya i'r lie fydd yn cadw'r mis.' Y peth cyntaf a ofyna pregethwyr dyeithr pan ddaw ar gyhoeddiad i gymydogaeth ydy w, Pwy sydd yn cadw'r mis ?' a rhaid myned yno, pell neu agos. Mae y neb fyddo a'r mis, a hawl ar bob preg'ethwr mawr a ddaw yno ynghorff y mis; ac y mae gan bob pregethwr dinod hawl i letty yn y lie y byddo'r 'mis.' Tramgwydd dychrynllyd ydyw myned i un man ond y lie y byddo y 'mis;' ac yn en- wedig i bregethwr enwog fyned i le gwych pan y digwyddai y mis fod mewn lie cyffredin. Mao cadw'r mis' wedi crOll a chadw llawer cynen cyn hyn. Ac y mae y mis weithiau yn digwydd bod yn nihell iawn, ac yn hollol o'r pwynt y bydd ar y pegethwr eisiau myned dranoeth—ond nid oes dim help, rhaid ymostwng i ddeddf y mis,' Y neb sydd yn 'cadw'r mis bia'r pregethwyr am y mis hwnw. Clywais y diweddar Mr Morris, Cilgemn, Tyddewi wedi hyny, yn ei ffordd ffraeth ei hun yn dyweyd, wrth son am Zacheus wedi dringo i ben y syca- morwydden, a'r lesu yn ei gyfarch rhwng cang- au y pren, Disgyn ar frys, canys y mae yn rhaid i mi heddyw aros yn dy dy di.' 'Taw,' meddai un o'r disgyblion, 4 aros yn nhy Zecheus, both yw dy feddwl di; na raid, nid y fe sy'n cadw'r mis, ac y mae yn rhudd myn'd yno pe bai e dair milldir o'r ffordd.' Gwyddai Mr Morris trwy brofiad, beth oedd gorfod myned o'i ffordd i Ie "r mis.' Dyna un o'r pethau sydd yn perthyn i grefydd gymdeithasol Cymru, na cheir yn mysgun genedl arall. Nid oedd dim a fynai Rhys Dafis a lle'r mis, yn enwedig pan ddig- wyddai fod yn mhell, ac o'i flordd, ac os buasai ganddo ryw un yn yiiiyl fuasai yn rhoddi lletty iddo. Ond bu dda iddo ef am hen drefn y 4 cadw'r mis;' oni buasai hon digon tebyg y bu- asai yn ami heb 10 i roddi ei ben i lawr. Ond yr oedd y rhai a lettyont bregethwyr er mwyn yr Efengyl bob amser yn groesawgar o bono, ac yn gwneyd eu goreu i'w wneyd yn gysuras. Disgynodd ei goelbren i lettya unwaith ar noson oer yn y gauaf, gyda thculu caredig. Gorch- ymynodd gwraig y ty i'r forwyn dwymno y gwely i'r hen bregethwr, yr hyn a wnaed yn cldioed. Aeth Rhys Dafis i'r room a clechreuodd ddiosg ei ddillad. Cofiodd y forwyn ei bod heb fyned a'r warming-pan o'r gwely, a rhedodd i fynu y grisiau, clywodd Rhys hi yn dyfod,, diffoddodd y ganwyll, ac ymollyngodd i'r gwely heb ddatod y glun brcn. Aeth y forwyn mor ddistaw a chath at y gwely, a chafodd afael, fel y tybiai, ar goes y luarming-pan, a dechreuodd dynu yn ddiarbed—ond yn lie coes y warming- pan coes bren Rhys oedd yn ei Haw. Ffymigai Rhys a ffyrnigai yr eneth; a chan ei bod yn llanees gref tynodd ef o'i wely gerfydd ei goes bren. Clywyd y struggle o'r gegin, a brysiai y gwr a'r wraig i fynu i gyfryngu rhwng y ddau. t', Mae y chwedlau a adroddir am dano yn ddirif, llawer o honynt yn wirionedd, a llawer eraill y mae yn bur debyg fel y mae chwedlau yn gy- ffredin yn myned yn fwy wrth dreiglo. Ni bydd hanes Rhys Dafis yn gyflawn heb air am ei geffyl. Yr oedd y march yn ateb i'r niarchogwr. Bu ganddo lawerceffyl yn ei oes, ond yr oeddynt oil yr un ddelw. Teneu a thru- ain iawn bob amser. Araf iawn yr elai ei geffyl, am nas gallai ei feistr odclef myned yn gyflym. Byddai ei geffyl bob amser yn llawn castiau, cicio a bratliit--ond nid oedd digon o north yn- ddo i beri i'w gic wneyd fawr niwed; ac yr oedd yn rhy hen i beri i'w ddanedd wneyd fawr o'u hoi. Bu ganddo yn liir geffyl a alwai yn Miller; ac y inae un aingylchiad yn mywyd Miller gwerth ei gofnodi. Yr oedd Rhys Dafis yn cyd- deithio a Mr Davies, Abeiieifi, a Mr Griffiths, Hawen, i gymanfa Llanelli. Cyrhaeddasant Gaerfyrddin erbyn haner dydd, a disgynasant wrth ddrws y Drovers Arms. Llawen g-yfarch- wyd y ddau wr parchedig gan Mrs Davies, a gorchymynodd yn uchel i John yr ostler gymer- yd ceffylau Mr Davies a Mr Griffiths i'r ystabl, a rhoddi digon o geirch iddynt; ac mewn llais clistawach gorchymynai iddo droi ceffyl Rhys i'r yard. Sgramen felen, arw o ddynes oedd Mrs Davies, neu Mari o'r Drovers, fel y gelwid hi gan lawer; weniaithgar iawn i bregethwyr enw- og, ond yn bur ddibarch i bregethwyr dinod. Dywoi, llawer mai un dyner garedig ydoodd yn y gwaelod, ond fod y gair garwaf yn mlaon- af ganddi. Hwyrach hyny, ond gwyddai Mari o'r Drovers yn dda wrth bwy i fod yn swrth a garw. Gallasai drin Rhys Dafis felly, ond ni buasai byth yn ymddwyn felly at Mr Davies, Aberteifi, a Mr Griffiths, Hawen. Pa fodd bynag, wedi iddynt giniawa, cychwynodd y tri am Lanelli. Gwelwyd yn fuan fod bywyd new- ydd yn Miller—-qfe oedd y ceffyl goreu ar y ffordd, ac erbyn cyrhaedd gallt Penygraig nid oedd a'i dilynai. Yl oedd ei hoywder yn syndod iddynt oil. Aeth y gymanfa heibio, ac aeth Rhys i'w daith i werthu llythyr y gymanfa. Wrth ddychwelyd galwodd Mr Davies a Mr Griffiths drachefn yn y Drovers Arms, pryd y cawsant Mrs Davies yn tywallt melldithion ar ben Rhys Dafis, oblegid i'w hen geffyl y dydd o'r blaen, yfed llon'd celwrn o'r breci goreu a ddarllawasid erioed. Chwareu teg i Miller. Serviwyd hi yn right am droi hen geffyl Rhys Dafis i'r yard. Am lafur a gwasanaeth Rhys Dafis i'r Efengyl, hwyrach y gwelir yn y dydd y datguddir y dir- gelion oil, ei fod wedi bod o fwy gwasanaeth i'r Efengyl na Ilawer a gyfrifid yn enwocach. Beth bynag, fel y dywed awdwr yr ysgrif arno yn y Geirlyfr Bywgraffyddol o E4 Cyriru, y mae dwy ffaith yn hanes ei fywyd gwerth eu cadw ar gof. Efe yn y flwyddyn 1806, pan yn cadw ysgol yn Mhenal, ar gais Mrs Anwyl o'r Lleigwy, oedd yr Annibymvr cyntaf a aeth i bregethu i Dalybont, Sir Aberteifi. Ar esgynfaen o flaon y Black Lion y traddoclodd ei bregeth gyntaf yno. Efe hefyd pan yn pregethu mewn lie o'r enw Beddycoedw, a fu yn offeryn yn llaw yr Arglwydd i argTI-ioeddi baehgenyn o'r enw William Williams, yr hwn wedi hyny a adwaenid trwy Gymru oil wrth yr enw anwyl Williams o'r Wern.' Nis gellir adrodd hanes eglwys Talybont yn llawn hob son am Rhys Dafis; a thra y byddo Williams o'r Wern mewn coffadwriaeth, coffeir hefyd am Rhys y glun bren. Anfarwolwyd y pregethwr diaddurn yn anfarw- oldeb "Clll o'r 'tri chedyrn cyntaf.' Dichon y dylaswn ddyweyd mai genedigol oedd Rhys Dafis o ardal Castellnewydd. Gan- wyd of, fel yr arferai ddyweyd, yn y ilwyddyn tair caib, yn 1777, a bu farw yn 1847, wedi bod am haner can mlynedd yn Efengylwr teitliiol ,,y yn Nghymru. ,¡.¡; :¡r,¡; 4>?O;='r

MARWNAD I'R DIWEDDAR MR. JOIIINI…

ADOLYGIAD AR Y 'TYST.'.