Skip to main content
Hide Articles List

9 articles on this Page

■CYMDEITHAS RHYDDHAD CREFYDD.

MOELTRYFAN.

LLANBEDROG, GER PWLLHELI.

BRYN, LLANELLI.

IPORTHMADOG.

GRYHHOBEB SEIfEBIJOL. I

News
Cite
Share

GRYHHOBEB SEIfEBIJOL. I Ail ymaflodd Ty y Cyffredin yn ei ddyledswyddau nos Iau diweddaf. Cymmerodd Mr Lyttlcton y llwon a'i sedd fel aelod Rhyddfrydig dros East Worcestershire, yn lie Mr Calthorpe, yr hwn sydd wedi ei ddyrchafu i'r Ty uclmf. Y It ETHOLIAD CTEFKEDIXOL. Rhoddai Mr Gathorne Hardy rybudd y byddaj iddo ddydd Iau nesaf ddwyn bil i mewn i ddiwygio cyfraith pleidrestriad mor bell ag y mae a fyno a 1868, ac i ddibenion eraill. MR GLADSTONE A'R EGLWYS WYDDELIG. Gofynodd Syr T. Bateson i'r Prifweinidog os yd- oedd wedi cael galw ei sylw at lythyr oedd wedi cael ei ysgrifenu fel yr ymddengys gan Mr Gladstone yn nglyn ag etholiad East Worcestershire, yn yr hwn y dywedid fod y Llywodraeth yn ystod yr eisteddiad presenol wedi cyuhyg- gwaddoli yr Eglwys Babyddol yn yr Iwerddon, a chreu hefyd Brifysgol Babyddol, a thalu ei threuliau o drethoedd y wlad, a hoffai wybocl pa mor bell yr oedd hyny yn wir ? Dywedai Mr Disraeli fod arno ofn fod yr aelod anrhydeddus wedi syrthio i drap wedi ei osod yn ddeniadol. Credai ef mai ffug neu ddifyrgast oedd y llythyr hwnw, ac. nad oedd ond gwawdlun o ar- ddull yr aelod anrhydeddus wedi ei wneud er mWYll cario yr etholiad, ac nadoedd efwedi rhoi ystyriaeth bellach iddo. (Chwerthin.) Atebai Mr Gladstone nad oedd yn myned i am- ddiffyn arddull y llythyr yn ngwyneb beirniadaeth yr aelod anrhydeddus. Addefai mai efe oedd awdwr y llythyr, a g'allai sefyll at yr hyn a gynhwysai oddi wrth ddatganiad y llywodraeth mewn perthynas i ardrefniadau eglwysig yn yr lAverddon. Nid oedd ei lythyr, modd bynag, wedi cael ei ddifynu yn g-ywir." Amddiffynai Mr Disraeli ymddygiad y Llywodr- aeth, a dywedai fod eu hamcanion yn ddigon clir- na wnaent ar yr un cyfrif waddoli yr offeiriaid Pabyddo1. Galwai Mr Cardwell sylw yr aelod anrhydeddus at y datg-aniad a wnaethai fod y Llywodraeth yn bwriadu rhoddi breintlen i Brifysgol Babyddol, ac fod y draul o hyny i gael ei ddwyn gan y Senedd. Ceisiai Iarll Mayo wadu hyn, ac fod ystyr wedi ei roddi i'w eiriau nad oedd ef wedi fwriadu. Yn Nhy y Cyffiediii, nos Wener, gofynwyd i'r Llywodraeth gan Mr Stopford mewn perthynas i FIL Y TERFYNAU, os bwriedid mabwysiadu anogaeth y pwyllgor neill- duol i beidio helaethu terfynau loo iwrdeisdrefi yn groes i adroddiad. dirprwywyr y terfynau ? Dywedai Mr Disraeli ei fod yn gobeithio y byddai i'r Ty ymffurfio yn bwyllgor ar Fil y Terfynau ddydd Lliin nesaf, pan y cai aelodau y pwyllgor neiilduol gyfleustra i roddi en rhesymau dros fab- wysiadu yr anogaethau a gynhygient i'r ty i'w derbyn. Gwrandawai ef ar y rhesymau hyny gyda dyddordeb mawr. (Chwerthin,) BIL Yu EGLWYS WYDDELIG. Ar ymffurfiad y Ty yn bwyllgor ar y bil hwn, Cynhygiodd Mr Ayrton fod i gyfarvvyddyd gael ei roddi i'r pwyllgor fod ganddo awdurdod i ddarparu yn y bil ar i ddaliad pob swydd yn nglyn a Choleg Maynooth, fod yn ddarostyngedig- i'r un telerau ag y bydd daliad swyddogaethau yn yr Eglwys Sefydl- edig yn ddarostynedig iddynt ar ol pasio y gyfraith hon, ac na bydd dim arian i'w talu yn ol Act 8 a 9 Vic., c. 2-5, i ymddiriedolwyr Coleg Maynooth hlag" at unrliyw hen efrydydd, neu efrydydd a dderbynid )1011 ar ol pasio y gyfraith hon. Danghosai Mr Greville Nugent y byddai mabwys- iadu y cynhygiad hwn yn foddion i roi atalfa hollol ar Goleg Maynooth. Cynhygiai ef fel gwelfeant fod i bob un a bennodid i unrhyw swydd yn Ngholeg Maynooth ar ol pasio y gyfraith hon i ddal y swydd liono yn ddarostyngedig i ewyllys y Senedd. Cefnogai Mr Gladstone y g:welliant gan mai amcan y bil oedd oedi, ac nid difodi ar hyn o bryd. Rhanwyd y Ty a chafwyd Dros y cynhygiad 109 Yn erbyn *185 I Mwyafrif 76 Penderfynwyd ar y gwelliant heb ymranu, gan gynnwys hefyd y Beyium Dmum. gynnwys hefyd y !lcgiuHt .J)cmuJn.

EFENGYLWYP, TEITITIOL cymru.

MARWNAD I'R DIWEDDAR MR. JOIIINI…

ADOLYGIAD AR Y 'TYST.'.