Skip to main content
Hide Articles List

17 articles on this Page

RHYL.

LLANDOVERY A'R SULGWYN.

PENTRAETH, MON.

PHILADELPHIA.

LLANDDAROG.

LLANYMDDYFRI A'I CHYLCHOEDD.

GRANGE TOWN, CAERDYDD.

TROEDRHIWDALAR.

KID WELI.

BANGOR.

RHUTHYN.

WYDDGRUG.

News
Cite
Share

WYDDGRUG. CAU Y TAFAENAU AR Y SABBOTH.—Y mae llais y dref fechan hon wedi ei gael o barth y symmudiad sydd ardroed yn awr i gau y tafarnau ar Ddydd yr Arglwydd, yr hwn a saif fel y canlynTai bres- wylwyr-Dros gau 678; yn erbyn, 5 anmhleidiol, 5. Gwerthwyr-Dros gau, 69; yn erbyn ac anmhleid- iol, nid un. Meistriaid—Dros gau, 13 nid .oedd uu yn erbyn nac anmhleidiol. Y mae y meistriaid hyn yn rhoddi gwaith i 1002 o ddwylaw. Teilwng yw liysbysu fod. y canvassio wedi ei ddwyn ymlaen gan un gwr ieuangc ymroddgar yn unig. Mae yr arfer- iad o anfon hanesion i'r papurau newyddion gyda'r pwrpas i ganmol personau, er yn y pen draw gael ryw ffafrau oddiar eu llaw wedi myned yn fwrn; ond lie mae gwir cleilyngdod, a Uafur cariad, ae ymrodd- iad ac ymegniad trwyadl. oddiar yr amd^a pur o wneyd daioni i gymdeithas, y mae coffa da am y l'hagorolion distaw, diymhongar, a gwylaidd hyn yn beth canmoladwy. Ni enwaf y cyfaill ieuangc sydd wedi bod wrthi yn dawel o dy i dy er's dyddiau, dan bwys a gwres dyddiau tanbaid yn ceisio enwau. Ni dderbyniodd ddimai am ei drafferth. Ymroddodd yn wirfoddol, a gorphenodd ei orchwyl blin gydag ysbryd tirion, a diolchgar am gael cyfleusdra i wneud daioni. 'Da was da a ffyddlawn.' Mae y ganmol- iaeth hon yn werth mwy na thudalenaid o ganmol- iaeth ddynol ammheus. HEN FRYN Y BEILEY.'—-Y mae pwyllgor wedi ei nurno yn y dref hon tuag at gael trysorfa er dwyn treuliau yr ymchwiliad i gynllwys y mwnt (mount) hynod hwn, yn ganlynoli ddarganfyddiad mur crwn o dair a hanner i bedair llath o drwch o am- gylch ei goryn. Bemir y gellir dyfod o hyd i olion dyddorol yr hen gastell a dybir oedd yn sefyll yno yn ystod y cyfnod Normanaidd, ond yr hwn a ddi- nystriwyd yn y flwyddyn 1260. Dengys llewyrch hanesyddiaeth yn unig fod y castell hwn unwaith yn meddiant y Mont Alts, ac y bu yma lawer ymgyrch' boeth, yr hynotaf o ba rai oedd pan gymmerwyd y castell cadarn gan Owen Gwynedd, yn y flwyddyn 1144. Yn y crybwylliada roddir am ddinystr Cas- tell Wyddgrug gan Llewelyn ab Iorwerth, yn 1201, yr ydym yn cael fod yr amgylchiad yn cael ei gof- nodi gan Llywarch Prydydd y Moch, bardd cydoesol a'r tywysog, mewn awdl anerchedig iddo. Cyfeiria Prydydd y Moch at dri ymosodiad llwyddiannus ar y castell, pan y dinystriwyd ef ar y tri achlysur. Fel hyn y dywed yr hen fardd yn rhan o'i awdl:— Caer Llleon, llyw Mon, mwyn Pabo a'th dug, Ef a'th dwg ymghodo Llewelyn, ef llosges dy fro, Lias dy wyr llyr, tra llwyfo, Llwyr dug y Wyddgrug, nid ffug ffo, Lloegrwys i llugfryd i symio Lleudir teyrn lluddiwyd yn agro, Lias ei glas, ei glwysdai, neud glo ? Mae yr hen Gymraeg uchod yn debyg i hyn yn y Gymraeg bresennol:— Caerlleon, rheolwr Mona, meddiant Pabo a'th gym- mera di, Bydd iddo dy yru i enbydrwydd; Mae hyd yn oed Llewelyn wedi llosgi'th wlad, Mae wedi lladd dy bobl tu hwnt y llanw a'r traeth; Mae wedi hollol gymmeryd Wyddgrug—nid ffug ffoedigaeth Oedd gan y Lloegriaid gyda meddyliau cythryblus ei hadolygij; Mae tiriogaeth ardderchog y brenin wedi ei difrodi, Mae ei fynachdai wedi eu dinystrio, a'i daiSantaidd onid ydynt ynt lludw ? Dywedir fod Iorwerth y cyntaf wedi llettya yn nghastell Wyddgrug ar ei daith i Gaernarfon. Cymmerwyd y lie drachefn gan Qruffydd ab Gwen- wynwyn yn 1149. Gwnaed yr ymosoliad diweddaf gan Syr Gruffydd Llwyd, yr hwn a gyfarfyddodd ag aflwyddiant, ac a gymmerwyd yn garcharor i Rhuddlan, a tliorwyd ei ben yn 1322. Gwèlir olion amryw furiau ar y Bryn, y rhai a dybir a berthyn- ent i'r hen gastell. Pan wrth y gorchwyl o wneud y Bowling Green cyfleus sydd ar y Bryn, deuwyd o hyd i amryw ysgerbydau dynol, ynghyda bathodau, a phethau gwerthfawr i'r hanesydd a'r hynafiaetjji ydd. Mae ugeiniau lawer wedi bod yn ymweled a'r I Hen Feiley' yn ddiweddai; ac mae'n debyg, pan ddechreuir ar yr archwilion, y bydd y mwnt godidog hwn yn dyfod yn wrthddry ch Hawn o ddyddordeb a sylw. Mae ein doethion lleol yn hynod o'r bywiog ac egniol gyda'r anturiaeth.

GLANDWR.

PISGAH.

MERTHYR TYDFIL.

PENMORFA, GER TREMADOC.

ABERSOCH A BWLCH TOCYN.