Skip to main content
Hide Articles List

17 articles on this Page

RHYL.

LLANDOVERY A'R SULGWYN.

PENTRAETH, MON.

PHILADELPHIA.

LLANDDAROG.

LLANYMDDYFRI A'I CHYLCHOEDD.

GRANGE TOWN, CAERDYDD.

TROEDRHIWDALAR.

News
Cite
Share

TROEDRHIWDALAR. Y PARCH. WILLIAM D. WILLIAMS, DEEBFIELD, YN' EI HEN ARDAL. Yr oedd yn y gymmydogaeth yma lawer iawn o ddisgwyliad am y gwr parchedig uchod er yr adeg y clywyd ei fod yn bwriadu croesi Mor y Werydd i' w fam-wlad; ac nid rhyfedd, o herwydd dyma yr ardaIlle y dechreuodd anadlu er yn agos i drigaili mlynedd yn ol—dyma lie y gwnaeth broffes gyhoedd- us o'i Waredwr tua chwe blynedd a deugain yn ol, a dyma.hefyd lie y dechreuodd gyhoeddi digonolrwydd Aberth y Groes i gyfarfod ag- angenrheidiau pechad- uriaid euog a damniol er yn agos i. ddeugain mlyn- edd yn ol. Ac o'r gymmydogaeth yma y croesodd For y Werydd, er mwyn pregethu Crist i Gymry America, lie y mae wedi Uafurio am yn agos i un- flynedd ar bymtheg ar hugain gyda llwyddiant mawr. Felly, peth naturiol iawn oedd fod yma ddisgwyliad am dano yn yr ardal hon. Buom yn disgwyl am dano yr haf diweddaf, ac oddiar hyny hyd yn bresennol. Llawer gwaith y gofynwyd gan yr hen frodyr a'r chwiorydd a'i hadwaenent cyn iddo adael gwlad ei enedigaeth, I Ydych chwi yn meddwl y daw Mr Williams, Deerfiold, y ffordd yma, gyda fod pobl yn siarad pethau felly r' Carwn ei weled yn fawr, ebe pawb drwy yr holl wlad. Gobeithient gael ei weled; ar yr un pryd ofnent nad oedd hyny yn bossibl. Ond fe gryfhawyd eu gobeithion drwy gyfrwng y TYST ychydig o wythnosau yn ol; o her- wydd y mae yma grediniaeth selog iawn yn ngwir- ionedd y TYST. Yr unig fai ydym yn gael ynddo ydyw ei fod weithiau yn esgeuluso dyfod yn brydlon i'r Ilys i ddywedyd yr hyn sydd ganddo; ond ar yr un pryd, gwyddom am ei waeth yn hyn o beth. Y newydd goreu ddarfu i'r TYST ddyfod i'r gymmyd- ogaeth er's llawer o ddyddiau oedd fod y Parch W. D. Williams, Deerfield, yn dyfod i'r wlad. A gwir yw ei dystiolaeth, o herwydd y mae erbyn hyn wedi dyfod nid yn unig i Lerpwl, ond hefyd i Troedrhiw- dalar. Daeth i'r gymmydogaeth Ddydd Llun, y 25ain o Fai. Pan ddeallwyd ei fod wedi cyrhaeddyd Tanyrallt, mawr oedd yr awydd am ei weled gan fach a mawr, hen ac ieuanc. Yr hen yn ei weled wedi newid yn anghySredin, fel pe y buasent yn disgwyl am ei weled yr un fath ag ydoedd tua deugain mlynedd yn ol, a'r ieuanc yn synu am fod ei groen yn wyn, ac felly cafodd yr hen a'r ieuanc eu siomi. Wedi ei weled, yr awydd nesaf oedd cael ei glywed yn pregethu. Y Sabboth a ddaeth, pryd y pregeth- odd y gwr parchedig yn y Beulah am ddeg, gydag arddeliad mawr. Yn Troedrhiwdalar am ddau, i gynnulleidfa liosog, pryd y rhoddodd foddlonrwydd mawr i'w wrandawyr. Wedi gorphen yr oedfa, gallem feddwl na chai ddyfod allan y noson hono, gan fel y tyrent o'i gwmpas, er mwyn ysgwyd llaw a'r Yankee' am unwaith beth bynag. Am chwech, pregethodd drachefn yn yr Olewydd, fel y synodd pawb. Cawsant eu siomi yn fawr ynddo fel pre- gethwr hefyd, yn enwedig yr hen bobl oedd yn ei gofio cyn iddo adael gwlad ei enedigaeth. Disgwyl- ient ei fod wedi aros yn yr un man fel pregethwr yn gystal ag yn ei wedd. En hiaith y dyddiau yma ydyw, I Mawr fel y mae Mr William Williams wedi gwella i bregethu rhagor i'r hyn ydoedd cyn iddo adael y wlad yma.' Cafodd yn ei hen gartref dderbyniad brwdfrydig neillduol. Yr hyn sydd yn ein blino yn breseimol ydyw fod y gwr parchedig yn ein gadael mor fuan. Y mae teimlad y gymmydogaeth mor gynhes tuag ato fel y carent iddo aros yn eu mysg yn barhaus. Ond hyn yma sydd anmhosibl, o herwydd y mae yn bwriadu gadael y gymmydogaeth yma, i ymweled a'i frawd i Cendl cyn y Sabboth. Gallem feddwl, wrth weled y ceisiadau sydd yn dyfod iddo o wa- hanol ranau o Gymru, na fydd ganddo amser segur i dreulio yn yr ynys. A goreu oil i'r cymmydog- aethau hyny a fwriadant gael ei weled a'i glywed po gyntaf y gohebant ag ef, onite bydd ynrhy ddiwedd- ar, gan y bydd yn bur fuan ganddo lawn waith dros ei arhosiad yn Nghymru. Bydded i wenau y nefoedd ei ganlyn yn ei deith- iau drwy Gymru, fel y byddo o fendith fawr i'w gydgenedl yn ystod ei arosiad yma. A phan y bydd efe eto yn canu yn iach i wlad ei enedigaeth, bydded iddo gael mordaith hwylus, fel y cyrhaeddo ei wlad fabwysiedig yn ddiogel, ac yn fwy ei awydd nag erioed i wasanaethu ei Waredwr yn mysg ei gyd- genedl yn ngwlad machludiad haul. Bydded iddo, yn y rhan sydd yn ol o'i oes fod yn ddefnyddiol i ddwyn eneidiau lawer at Fab Duw, ydyw dymuniad ei hoffus gyfaill-D. Griffiths.

KID WELI.

BANGOR.

RHUTHYN.

WYDDGRUG.

GLANDWR.

PISGAH.

MERTHYR TYDFIL.

PENMORFA, GER TREMADOC.

ABERSOCH A BWLCH TOCYN.