Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

17 articles on this Page

RHYL.

LLANDOVERY A'R SULGWYN.

News
Cite
Share

LLANDOVERY A'R SULGWYN. Y mae Dydd Llun y Sulgwyn yn wyl gyffredinol yma. Y mae bron pawb yn ei disgwyl gyda phryder, yn ei derbyn yn siriol a diolchgar, ac yn ei chadw yn gyflawu a pharchedig. Yr oedd eleni fel arfer. Yr oedd tawelwch yn teyrnasu trwy y fro-y melinau a'r agerbeiriannau wedi sefyll, y trigolion wedi ym- ddadrus oddi wrth eu gorchwylion, ac wedi ymdaenu i wahanol gyfeiriadau, pob dyn a dynes yn dilyn eu tueddiadau, yn g-wneud yn ol eu hewyllus; ac yn ymestyn at y gwrthddrychau a gydweddant oreu a'u harchwaetl-ia;u' y crefyddol yn ymawyddu am gyr- ddau crefyddol, a'r digrefydd, lawer o honynt, yn myned i grwydro i eithafoedd daear, er mwyn boddio eu llygaid, a chael cyflenwad i ddymuniadau eu calonau. 0 ran hyny, 'does dim yn ddrwg mewn rhyw symmudiadau fel hyn; ond, yn hytrach, y maent yn adnewyddiad i'r natur, ac yn bethau y dylid eu ceisio a'u cael os bydd yr amgylchiadau yn caniatau.. Prif dynfa y lie hwn yr wyl hon eleni ydoedd Llansadwrn, yn yr hwn le yr ymgyfarfyddai lliaws mawr o Ysgolion Sabbothol. Yn foreu iawn dydd Llun, gwelid lliaws yn yrndyru at orsaf y rheilffordd, o herwydd eleni, fel arfer, trwy lafur a di- wydrwydd Mr. James, Llandovery, cawsom yr hyn a elwir yn clicap train i orsaf Llansadwrn. Cawsom ein derbyn yn sorchog a chroesawgar gan drigolion y lie- bychan hwn. Adroddwyd amryw byngciau, a chanwyd amryw anthemau a thonau cyssegredig gan blant yr ysgolion canlynol:—Llandovery, Llangadog, Myddfai, a Llansadwrn. Yr oedd y gweinidogion canlynol yn bresentiol:-Aleistri Thomas a Pryse, Llandovery, Salmon, Llansawel, a Phillips, Caio. Danghosodd y gwahanol ysgolion ol llafur a diwyd- rwydd. Terfynwyd am bedwar o'r gloch y pryd- nliaAvn. Yna ffurfiodd ysgol Llandovery orymdaith i'r orsaf drachefn, a ffurfiwyd yn orymdaith i Llanfair-ar-y- bryn. Prif attyniad i'r He hwn ydoedd bedd yr hen Barchedig Williams o Bantycelyn. Safwyd yn un dorf o amgylch y bedd. Siaradwyd yn gyntaf ar Athrylith Williams gan Evans, draper; Hymnau Williams gan E. L. Evans yr Annheilyngdod o alw pob hymn yn eiddo Williams gan J. Evans. Yna canodd cor y Methodistiaid anthem, Ai Gwir Yw. Canwyd hefyd amryw o Hymnau Williams, ar donau chwaethus Ieuan Gwyllt, hyd onid ydoedd y lie yn diaspedain gan swn y dorf. Yna gwasgarwyd. 'Coffadwriaeth y Cyfiawn sydd fendigedig.' — Cricydryn.

PENTRAETH, MON.

PHILADELPHIA.

LLANDDAROG.

LLANYMDDYFRI A'I CHYLCHOEDD.

GRANGE TOWN, CAERDYDD.

TROEDRHIWDALAR.

KID WELI.

BANGOR.

RHUTHYN.

WYDDGRUG.

GLANDWR.

PISGAH.

MERTHYR TYDFIL.

PENMORFA, GER TREMADOC.

ABERSOCH A BWLCH TOCYN.