Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

Y CYFARFOD HWYROL.

....... BRECWEST CYHOEDDUS…

AM WEITHIO 0 DDIFRIF.

Y GYNHADLEDD.

News
Cite
Share

oedd angen arnom am ddysg wleidyddol. Yr oedd llawer iawn wedi ei wneud yn y cyfeiriad yma gan ei gyfaill Dr Wm. Rees (banllefau). Ofnai nad oedd y wlad eto wedi gwerthfawrogi yn iawn ei wasanaeth ef. Yr oedd Mr Gee (ban'lefau) hefyd wedi gweithio yn ardderchog, ond yr oedd cyflawnder o le eto i addysgu y genedl mewn pyngciau gwladol (clywch). Buddiol fuasai lledaenu tracts ar y cyfryw byngciau trwy bob parth o'r wlad yn cldifiino (banllefau). ■reth arall pwysig i'w wneud oedd gofalu am restr yr etholwyi\ Hefyd, chwilio am y dynion goreu i'n cynniychioli yn y senedd, a sefydlu rhyw gynllun i amddiffyn yr etholwyr (gydag arian a thafod) rhag gorthrwm^ perchenogion tiroedd. (Banllefau.) Pe yr ymunai'r Cymry yn un dorf gref i benderfynu gwarthnodi y gorthrymwyr hyn—crachfoneddigion (Chmrertbin)-Ye, hyd yn nod Syr Watkin, os beidd- lal fathru iawnderau ei denantiaid—yn yr etholiad nesaf-llwyddid i roi check effeithiol ar y drwg. (Banllefau.) Wedi'r cwbl, prin yr oedd dim yn cael ei ofni yn fwy na rheithfarn y bobl. (Banllefau.) Cododd Dr Edwards, y Bala, ynghanol banllefau tiystfawr, i ofyn cwestiwn, sef-A oedd rhywbeth yn anghydweddol ag amcanion y Gymdeithas neu a chyfraith y wlad, i ffurfio tenant league ? (Ymgyng- horodd y cyfreithwyr oedd yn bresenol ar y mater.) Dr Davies, Treffynon, a ddywedai na wnai dim Iwyddo i rwystro gorthrwm g-Avleidyddol ond y ballot. Heb hwn byddai y tenant yn slave am byth. (Ban- llefau.) Sylwodd Mr Ellis Eyton, Fflint, y gallai y Gym- deithas yn hawdd gospi a rhwystro'r gorthrwm, ond iddi bonderfynurhoi cyfraitliarbawb a feiddiai ei am- lygu, a chyhoeddi ei phenderfyniad i'r byd. Clyw- odd lawer o son am y gorthrwm yn Nghymru; ond ni chlywodd fod neb etto yn y wlad wedi ei gospi o'i herwydd. Y diffyg oedd hyn—eisieu gallu a gwrol- deb i roi'r euog yn ngafaelion y gyfraith. Gobeith- iai y gwnai'r Gymdeithas droi yn publie prosecutors (banllefau). Cododd Mr John Roberts, Bradford House, Ban- gor, ei lef yn ucliel o blaid y ballot; ac ar hyn, Neidiodd Y Gohebydd ar ei draed (ynghanol chwerthin a banllefau arswydus), wedi colli ei amyn- edd, a dwrdiai y waedd barhaus am y ballot yn y cyfarfod hwn. Nis gellid cael y ballot erbyn yr election nesaf, nac o leiaf am bedair neu bum mlyn- edd, a choll amser oedd son am dano ar hyn o bryd. Y cwestiwn oedd, Beth a fedrwn ni wneud yn yr election nesaf gyda'r machinery sydd genym yn bres- ennol (banllefau ofnadwy) ? Siaradodd Mri. Roger Edwards, Wyddgrug; Sim- ner, Llundain; Roberts, Manchester; Thomas Lewis, Frondeg, Bangor, ac ereill. Dechreuodd y cyfarfod ymwahanu tua phedwar o'r gloch, ac ni chafwyd trefn ar ddim ar ol hyny. Yr oedd y bobl yn anesmwytho am fod mewn pryd yn yr Amthitheatre. Anerchwyd y cyfarfod gan Mr Osborne Morgan, a Mr. Morgan Lloyd, bar-gyfreithwyr. Hysbyswyd z:,Y y cyfarfod gan yr olaf nad oedd unrhyw rwystr ar y ffordd i ffurfio tenant league, yn ol awgrymiad oi hen gyfaill parchus Dr. Edwards (banllefau). Cyhoeddodd y Parch John Thomas y buasai y gynhadledd yn ail-gyfarfod drenydd, yn y Reform Association Room, Lord street.