Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

12 articles on this Page

--HELAETHIAD Y < TYST.'

Advertising

IAT EIN GOHEBWYR.

GLANIAD Y PARCH. D. PRICE,…

CYMANFA Y METHODISTIAID CALFINAIDD…

GWERTHFAWR L WYTHY LLONG GENHADOL.

YR IAITH GYMRAEG.

ENGLYN I'R PRYF COPYN.

Y GYMDEITHAS DDIWYGIADOl GYMREIG.

Y GYNHADLEDD.

News
Cite
Share

Y GYNHADLEDD. Cynhaliwyd y gynhadledd yn Hope Hall, am 2 o'r gloch yn y prydnawn. Llywyddid gan Charles no Hughes, Ysw., Wrexham. Yr oedd yno gvnnulliad lliosog o Gymry a Saeson; ac yr oedd y cyfarfod yn gymmysg o Gymraeg a Saesneg. Yn mysg y rhai oedd yn bresennol yr oedd y bon- eddigion canlynolParchn. Henry Richard, Wm. Rees, D.D., Owen Thomas, Roger Edwards, Wydd- grug; Wm. Ambrose, Portmadoc A. Francis, Rhyl; Jno. Thomas, N. Stephens, a Wm. Roberts, Liver- pool; H. E. Thomas, Birkenhead; David Price, America; Henry Rees, Caer E. Evans, Carnarvon; S. R., (gynt o Lanbrynmair); Lewis Edwards, D.D., Bala; Josiah Thomas, Bangor; Griffith Parry, Llanrwst; Hugh Jones, Cemmaes Lewis Williams, Ysw., Morgan Lloyd, Ysw., Osborne Morgan, Ysw., W. H. Darby, Ysw., Wrexham, P. Ellis Eyton, Ysw, Fflint; Dr. Davies, Treffy mion; D. Davies, Ysw., Catherine st., Liverpool; John Roberts, Ysw., Hope st.; C. R. Jones, Ysw., Llanfyllin Y Goheb- ydd, Thomas Gee, Ysw., Dinbyeh 0. D. Hughes, Ysw., Corwen Parchn. R. Llugwy Owen, Acrfair, Ruabon; Thomas Roberts, Ysbytty; W. Davies, B.A., Woolton; William Williams, Corwen; Owen Jones, Ffestiniog; David Harries, Ironton, Ohio, North America; Daniel Rowlands, M.A., Bangor; Aaron Davies, Rhymney; Mri. Thomas, Bangor; Wynne, 23, Brunswick Road; J. Rhydwen Jones, Rhyl; Joshua Rowlands, 116, Myrtle street; Thos. Llewelyn Rees, swyddfa'r Herald, Carnarvon Robt. Wright, Ty'n y Celyn, Dinbycli; ll. C. Rawlins, Ruabon William Owen Thomas, 11, The Willows, Breck Road, ac amryw eraill. Ar ol i'r Llywydd wneuthur ychydig sylwadau ar amcan y gynhadledd, darllenwyd papur rhagorol ar GYNRYCHIOLAETH A CIIYNEYCIIIOLWYB CYMBU, gan y Parch John Thomas, Liverpool. Cymmerad- wywyd y syniadau cynnwyssdig ynddo, ynghanol arwyddion gwresog iawn. Gwelir y papur yn ar- graphedig yn y tudalen cyntaf o'r rhifyn hwn. Mr. Thomas Lewis, flour dealer, Bangor, gynhyg- 0 iodd y penderfyniad cyntaf, sef- ° "Fod y cyfarfod hwn yn mawr-gymmeradwyo amcanion y Gymdeithas Ddiwygiadol Gymreig, yn llawenhau yn ei rhagolygon gobeithiol, ac yn annog yn daer fod cymdeithasau i'runperwyl, neu gangen- gymdeithasau yn cael eu sefydlu yn mhob cymmyd- ogaeth yn Nghymru." Siaradodd yn uchel am y Gymdeithas fel un wedi llwyddo yn fuan ryfeddol i dynu sylw ac i ennill dy- lanwad yn y deyrnas. Yr oedd ei chyfarfoc1 cyhoedd- us cyntaf wedi cael sylw yn Nhy y Cyffredin, ac ni ryfedda glywed sylw yn cael ei wneyd o'r ail gyf- arfod (yn yr hwyr) yn Nhy'r Arglwyddi. Annogai ei gydwladwyr i sefyll yn gadarn 0 blaid egwyddor- ion rhyddfrydig, ac i fymi dynion cymhwys i'w cyn- rychioli yn y senedd. Mr. Simon J ones, Bala, a ddv wedai, gyda brwd- frydedd oedd yn tanio y gynnulleidfa, mai y peth mawr angenrheidiol oedd, y Ballot! Yr oedd dylan- wad perchenogion tiroedd mor gryf fel y carient y cwbl gyda hwy fel y genllif ofnadwy, a mynai i ni i waeddi o foreu dan nos, Y ballot! Y ballot! Talai warogaeth i ddosbarth gweithiol Cymru trwy floeddio fod llawer labrwr yn eu plith yn gwybod mwy o'r hanner am bolities na nifer fawr o'r riqi t honourable a'r learned men yn y senedd (chwertk'n mawr). Gan hyny, meddai, a'i holl nerth, Rhyddid iddynt! Bloeddiwn fel udgorn mawr dydd y farn, Y Ballot! Y Ballot! Y Ballot! (Ystorin o chwerthin, yr hon a barhaodd am lawer o funudau). Mr. Darby, Wrexham, a sylwai (yn Saesneg), ei fod yn llawenhau wrth ganfod Cymry wedi dyfod yn allu mawr mewn trof mor aruthrol a Liverpool. Gobeithio y byddai y cyfarfod hwn yn foddion i uno yr holl Gymry trwy y Dywysogaeth hefyd i ben- derfynu cefnogi y blaenor mawr hwnw yn ngwersyll y Rhyddfrydwyr, sef Mr. Gladstone (cymmeradwy- aeth). Dylem ei gefnogi ef am ei fod yn caru Cymru, am fod ei wraig o waed Cymreig; ond yn benaf am ei fod yn ddyn gonest, ac yn bleidiwr cadarn i egwyddorion Rhyddfrydig (uchel gymmer- adwyaeth). Mr. J. P. Williams (Rhydderch o Fon), a ddy- munai hysbysu y gynhadledd fod Cymdeithas Ddi- wygiadol wedi ei sefydlu yn Rhyl, cjffalyb i'r gym- deithas fawr yn Liverpool; a barnai y byddai yn ddoeth ymholi pa gynnifer o gymdeithasau o'r fath oedd eisoes yn bodoli yn Nghymru (cymmeradwy- aeth). Dywedai y Parch Mr Davies, Rhymni, fod un wedi ei sefydlu yn Abertawe, Drefnewydd, &c. Mr Thomas Gee a gododd nesaf, a derbyniwyd ef gyda banllefau hir-barhaol. Dywedai eu bod hwy yn Sir Ddinbych wedi bod wrth 'y gwaith' ers llawer o flynyddoedd. Dymunai dalu teyrnged @ barch i Mr Darby, a Mr Charles Hughes, o Wrex- ham, am eu hymdrech o blaid ryddhad y Sir oddi- wrth gaethiwed y Toriaid. (Gymmeradwyaeth). Llawenhai wrth feddwl fod y llu rhyddfrydig yn cynyddu,—yr oedd talu sylw manwl i restr yr ethol- wyr bob blwyddyn yn ychwanegu at eu rhif,—a hyderai y gwneid hyny yn ffyddlon yn mhob Sir a bwrdeisdref yn Nghymru. (Cymmeradwyaeth). Yr oedd y Rhyddfrydwyr wedi ennill point pwysig yn y ffaith fod plaid gref yn awr o Seneddwyr yn cydnabod fod yr egwyddor o ddadwaddoliad trwy'r deyrnas yn gystal ag yn yr Iwerddon yn cael ei chydnabod fel egwyddor gyflawn a rhesymol, (cym- meradwyaeth), ac mai anaddfedrwydd yr amgylch- iadau presennol i'w derbyn yn ymarferol, oedd yr unig rheswm dros ei gwrthwynebu. Hoffai gael gwybod a oedd cylch y gymdeithas yn gyfyngedig i Ymneillduwyr, ynte yn agored i Rhyddfrydwyr o Ymneillduwyr, ynte yn agored i Rhyddfrydwyr o bob sect yn y wlad. (Clywch, clywch). Daeth Mr Price, America, (o Ddinbych gynt), i fewn yn awr, a safodd y Cyfarfod i roi lion gyfarch- iad iddo a barai i'r Neuadd fawr grynu ar ei seiliau. Attebwyd gofyniad Mr Gee gan Mr Lewis Will- iams, ysgrifenydd y gymdeithas, drwy ddyweyd ei bod yn agored i bob Rhyddfrydwr yn ddiwahan (cymmeradwyaeth). Mr Henry Richard, yr hwn a gafodd groesaw mawr, oedd y siaradwr nesaf. Erfyniai am ganiatadilefaru yn Saesneg, am fod ei Gymraeg yn afrwydd a rhyd- lyd wrth ymdrin a phethau politicaidd, ac er mwyn i'r reporters Saesneg gael eyfieusdra i gyfleu syniadau y cyfarfod i'r Saeson. Nid oedd wedi anghoflo yr hen iaith, ac ni wnai byth, a gallai yn awr siarad Cymraeg gyda phob rhwyddineb arfaterion crefydd- ol (banllefau). Dywedai nad oedd perygl i'r waedd 4 Dim Pabyddiaeth' gael ei effaith yn N ghyrnxu-yr .oedd pobl Cymru yn rhy oleuedig yn yr Ysgrythyr i gad eu dychrynu gan ddim o'r natur yna; ond yr

Advertising

GOLLYNGIAD Y SENEDD.