Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

12 articles on this Page

--HELAETHIAD Y < TYST.'

Advertising

IAT EIN GOHEBWYR.

GLANIAD Y PARCH. D. PRICE,…

CYMANFA Y METHODISTIAID CALFINAIDD…

News
Cite
Share

CYMANFA Y METHODISTIAID CAL- FINAIDD YN LIVERPOOL. Fel y mae yn arferoler's llawer blwyddyn yn awr, cynnaliodd y Methodistiaid Calfinaidd eu Cymanfa flynyddol yn y dref hon y Sabbath a'r dydd Llun diweddaf ac mor bell ag y gallwn faruu, yr oedd nifer y gwrandawyr lawn cymaint ag a welwyd yn ymgasglu yma erioed i'r cyfarfodydd. Yr oedd y tywydd hefyd yn hyfryd, ac arwyddion fod llawer- oedd yn mwynhau y cyfarfodydd cyhoeddus a neill- duol. Dechreuwyd y cyfarfodydd nos Wener diweddaf, pan y traddodwyd pregethau yn y capel ysplenydd sydd newydd ei agor yn Prince's Road, ac hefyd yn nghapelydd Fitzclarence Street a Bootle.. Boreu dydd Sadwrn, ymgyfarfyddodd pwyllgor gweinyddol Cymdeithas Genhadol Dramor yr enwad yn nghapel Chatham Street; ac yn y prydnawn cynnaliwyd cynnadledd o weinidogion a henuriaid yn nghapel Fitzclarence Street. Yn y cyfarfod hwn adolygwyd sefyllfa yr amrywiol eglwysi yn y dos- barth hwn, a rhoddwyd hanes dyddorol iawn am sefyllfa yr eglwysi Cymreig perthynol i'r Method- istiaid Calfinaidd Cymreig yn yr Unol Daleithiau gan y Parch David Harries, o Ohio, a'r Parch William Hughes (gynt o Birmingham, a chyn hyny o Lanfair talhaiarn) Racine, Wisconsin; a rhodd- wyd gwrandawiad astud a derbyniad caredig a chalonog i'r naill a'r llall. Traddodwyd pregethau yn yr hwyr yn nghapelyddd Pall Mall, Chatham Street, a Netherfield Road; a'r Sabbath canlynol, cynnaliwyd gwasanaeth crefyddol trwy y dydd yn yr holl addoldai perthynol i'r enwad yn Liverpool a'r gymmydogaeth. Borcu dydd Llun, am hanner awr wedi naw o'r gloch, cynnaliwyd y seiat fawr,' fel y gelwir hi, fel arferol, ond y tro hwnyn y Philharmonic Hall; ac yr oedd y neuadd eang yn orlawn yn mhell cyn yr amser appwyntiedig i ddechreu. Cymmerwyd y gadair gan y Parch Henry Rees, a chynnorthwywyd ef gan Dr Edwards, Bala; Dr Phillips, Ilenffordcl; y Parchedigion David Howells, Samuel Jones, a Thomas Levi, o sir Forganwg; Daniel Jenkins, o sir Fynwy; Thomas Edwards, o sir Aberteifi; Robert Hughes, a Hugh Jones, o sir Fon Evan Williams, Thomas Owen, Robert Roberts, a William Jones, o sir Gaernarfon; Roger Edwards, o sir Flint; Owen Jones, a William Davies, o sir Feir- ionydd; T. J. Wheldon, a William Jones, o sir Drefaldwyn; William Hughes, Racine, Wisconsin, a David Harries, &c., &c. a'r Parchn. R. Lumley, Owen Thomas, John Hughes, T. Charles Edwards, M.A., W. D. Lewis, M.A., a J. Williams, o Liver- pool. Wedi darllen rhan o'r Beibl, canu mawl, a gwedd- io, galwodd y Cadeirydd ar Mr Samuel Jones, yr Y sgrifenydd Cyffredinol, i ddarllen yr Adroddiad Ystadegol a Chyllidol am y flwyddyn ddiweddaf. A ganlyn sydd grynodeb o'r Adroddiad :— Y STADEGAu,-Capelydd ac Ysgolion, 17; Gwein- idogion a phregethwyr, 23; diaconiaid, 40; cymmun- wyr, 4,009; plant aelodau eglwysig wedi eu derbyn i gyflawn gymmundeb yn ystod y flwyddyn ddi- weddaf, 153; personau eraill wedi eu derbyn i gyflawn gymmundeb, 92; bedyddiadau, 125; plant yn dilyn cyfarfodydd eglwysig, 1,046; personau wedi eu derbyn i'r eglwysi yn ystod y flwyddyn, 102; ymgeiswyr am aelodaeth eglwysig, 105; marwol- aethau, 47; diarddeliadau, 28. Ysgolion Sabbothol, 17; athrawon yn yr Ysgolion Sabbothol, 307; ath- rawesau, 98-y naill a'r llall gyda'u gilydd, 405; personau mewn oed yn aelodau o'r Ysgolion Sabboth- ol, 2,424; plant o dan 15 mlwydd oed yn yr Ysgolion Sabbothol, 1,502; y canolrif yn bresennol yn yr add- oliad cyhoeddus ar y Sabbath, 7,730. CASGLIADATT CYHOEDDUS.—Yr oedd symiau y cas- gliadau cyhoeddus yn dangos hefyd weithgarwch a haelioni yr enwad yn Liverpool, ac nad ydyw eu cyfraniadau yn cael eu cyfyngu at yr enwad chwaith. Casglwyd at y Feibl Gymdeithas 499p. Os. O!e.; y Gymdeithas Genhadol Gartrefol, 284p. 17s. 7fc.; y Gymdeithas Genhadol Drefol, 62p. 3s. 2c.; y Gymdeithas Traethodau Crefyddol, 34p. 8s. 4c.; y Gymdeithas Ddirwestolt 9p. 14s. 4|c.; Clafdai, 73p. 4 18s. 7Jc.; yr Ysgolion Sabbothol, 124p. 9s. lic.; casgliadau chwarterol at ddybenion cyffredinol, 202p. lis. lOfc.; cynnaliaeth y tylodion, 444p. 19s. loic.; 2 dyledion y capelydd, 2,799p. 6s. 5fc. Y Cyfanswm, 4,732p. 10s. Itc. Llaihad o 981p. 12s. 7ie. ar gasgl- iadau cyhoeddus y flwyddyn ddiweddaf. CASGLIADAU EGLWYSIG.-Tuag at gynnaliaeth y weinidogaeth, 2,118p. 2s. 9Jc.; tuag at yr elfenau yn Swper yr Arglwydd, 85p. lis. 11c.; tuag at Gym- deithas Dilladu Dorcas, 22p. 18s. lc.; cyfanswm o 2,326p. 12s. 10c. Cynnydd ar gasgliadau eglwysig y flwyddyn ddiweddaf o 38p. lis. 3c. Wedi i'r Parch Dr. Phillips wneuthur ychydig sylwadau ar yr adroddiad, traddodwyd amryw o anerchiadau ar y pwngc a ddewisasid i fod yn destyn ymddiddan, sef "Difrifwch a Sobrwydd." Terfyniwyd y gweithrediadau nos Lun, pan y tra- ddodwyd pregethau yn yr amrywiol gapelydd yn y dref a'r gymmydogaeth. Yr oedd y Gymmanfa hon o'r dechreu i'r diwedd yn un dra dymunol, ac arwyddion fod Pen Mawr yr JEglwys gyda'i bobl.

GWERTHFAWR L WYTHY LLONG GENHADOL.

YR IAITH GYMRAEG.

ENGLYN I'R PRYF COPYN.

Y GYMDEITHAS DDIWYGIADOl GYMREIG.

Y GYNHADLEDD.

Advertising

GOLLYNGIAD Y SENEDD.