Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

12 articles on this Page

--HELAETHIAD Y < TYST.'

Advertising

IAT EIN GOHEBWYR.

GLANIAD Y PARCH. D. PRICE,…

News
Cite
Share

GLANIAD Y PARCH. D. PRICE, NEW- ARK, (GYNT 0 DDINBYCH). Bydd yn dda gan filoedd ddeall fod yr anwyl Mr Price, wedi cyraedd yn ddiogel i'r Hen Wlad gyda'r City of Paris, ddydd Mawrth diweddaf. Yr oedd awydd mawr yn mysg lluaws yn y dref hon am gael golwg ar y gwyneb swynol, a welwyd am oddeutu deg mlynedd ar hugain yn mhwlpudau Cymru. Ar y Prince's Landing Stage, ychydigwedi haner dydd, yr oedd y Parchn J. Thomas, Tabernacl; ac H. E. Thomas, Birkenhead; a Meistri George Owens, Old Church Yard; Rees Rees, Egerton-st.; Thomas Lloyd, Falkner-st.; Thomas Jones, Scotland-rd.; C. R. Jones, Llanfyllin, a llaweroedd eraill o feibion a merched yn disgwyl yn bryderus am ei ddyfodiad. Caed ar ddeall na chyrhaeddai yr agerddlong am awr neu ddwy beth bynag, ac ofnid weithiau nad allai groesi y bar mewn pryd i allu cyraedd cyn yn hwyr y nos. Wedi deall hyn ymadawodd amryw. Ond oddeutu chwarter wedi un, daeth rhai yn ol i gael gwybodaeth sicr, a chyda hyny dyma y City of Paris yn dod yn fawreddog i'r golwg. Daeth y llythyr- glud i mewn oddiwrthi, ac yna cychwynodd y tender yn ol i ymofyn y teithwyr, ac yn hono aeth y Parch H. E. Thomas, a Mr Rees Rees. Fel y neshai Mr T. at yr agerddlong, edrychai yn bryderus am Mr Price. Methai ei weled. Ofnai nad oedd wedi dod. Ond gwelai Mr Parry (mab yn'ghyfraith Mr Price) yn gwenu yn siriol arno. Gwybu fod yr ymwelydd hoffus ar y bwrdd. Yr oedd Mr Parry, a'i briod, (anwyl Jane Mr Price), a'r Bardd Aled wedi myned gydag ymweliad cyntaf y tender a'r agerddlong. Wedi i Mr Parry ganfod Mr T., rhedodd i mewn i ymofyn Mr Price. Dyna fe i'r golwg. Craffai y ddau ar eu gilydd, a theimlent rhyw lwmp yn eu gyddfau. Neidiodd Mr T. ar fwrdd yr agerddlong- ysgydwyd llaw, ond methwyd dyweyd gair am funud neu ddau. Gwenid ac wylid. Ysgydwyd llaw a David, (unig fab Mr P.) yr hwn a adawodd yr Hen Wlad yn blentyn pum mlwydd, ond sydd yn awr yn llangc llyfndew unarbymtheg oed. Wedi cael luggages amryw o'r teithwyr i'r tender, cyfeiriwyd tua'r Landing Stage. Wrth nesu ati gwelem Dr Rees, Mr Ambrose, Porthmadog; Mr D. Davies, Catherine- street; a Mr C. R. Jones, yn nghyd ag amryw eraill (yr oedd y Parchn J. Thomas, ac N. Stephens, a'u holl egni yn parotoi at gyfarfod Bright, ac yn gwylio ysgogiadau y Tories, ac yr oedd y Parch W. Roberts oddicartref), nid oedd modd dyweyd dim gan gymysg deimladau, ond ysgwyd llaw. Mewn gwirionedd yr oedd gweled Rees ac Ambrose a Price yn ysgwyd llaw heb ddyweyd nemawr air yn farddoniaeth fyw. Anfonwyd Mr Price mewn cab i Spellon-lane, i gar- tref clyd ei anwyl ferch. Aeth y Parchn J. Thomas, N. Stephens, ac H. E. Thomas ato yn mhen tipyn. Bydd yn pregethu y Sabbath mewn tri o gapelau Liverpool, ac yn darlithio nos Lun yn y Tabernacl Newydd, Netherfield-rd. Wedi hyny a i Gymanfa Coedpoeth, oddiyno i ddarlithio yn Ninbych nos Wener, lie yr erys dros y Sabbath; oddiyno i Rhos, a Rhosymedre, ac i Penybont at y Sabbath, wedi hyny trwy Lanfyllin i gymanfaoedd Llanbrynmair a'r Bala. Gobeithio na chaiff ei ofer weithio. Nid yw mor gryf ag y bu. Edrychai yn deneu a gwywedig iawn ar ei ddyfodiad cyntaf o'r llong, ond yr oedd hyny i'w briodoli yn fawr i ryw hen het oedd ganddo. Cydgondemniwyd hi, fel y caiff ei halltudio am ei hoes oddiar ei ben. Wedi iddo ymdrwsio, edrychai yn bur debyg fel yr oedd un mlynedd ar ddeg yn ol, ond ei fod yn llawer iawn teneuach, a pha ryfedd, gan iddo gael, 'y cryd'—nid natur y cryd, yr hwn a'i tynodd haner can' pwys i lawr. Disgwyliwn y gwna ymweliad a Chymru ei wneyd yn wr cryf a llyfndew eto.

CYMANFA Y METHODISTIAID CALFINAIDD…

GWERTHFAWR L WYTHY LLONG GENHADOL.

YR IAITH GYMRAEG.

ENGLYN I'R PRYF COPYN.

Y GYMDEITHAS DDIWYGIADOl GYMREIG.

Y GYNHADLEDD.

Advertising

GOLLYNGIAD Y SENEDD.