Hide Articles List

7 articles on this Page

YR HEN DEILIWR.

News
Cite
Share

YR HEN DEILIWR. LLYTHYR XXVI. Dyn call yw Cynddelw, rhaid i mi ddyweyd hyny am dano ef, pwy bynag ydyw; ond y mae yn ymddangos ei fod yntau, er called ydyw, wedi cael ei ddallu i raddau gan yr hen ragfarn sydd wedi bod bob amser yn meddyliau dynion yn ein herbyn ni y Tailwriaid; ond y inae yn dda genyf weled ei fod ef yn dechreu ymrydd- hau oddiwrthi, ac y mae lie i obeithio y daw cyn hir, fel y daeth ein hen erlidiwr J ami Shon gynt, i garu ein cenedl ni. Nid wyf fi am wadu na bu llawer un drygionus yn perthyn i'n cenedl ni, ond hyn a fyntuxniaf yn wyneb haul a llygad goleuni,' ein bod ni cystal dynion at ein gilydd a rhyw ddosbarth arall o bobl. Y mae rhai da a rhai drwg a rhai canolig yn perthyn i bob celfyddyd a galwedigaeth; felly ninau. Ym- ddengys i mi inai y gofaint oedd dani hi yn amser Paul. Ar Alexander y gof copr, a Demet- rius y gof arian, a'r gofaint ereill yn Ephesus, y mae efe yn achwyn, a chlywais un pregethwr er's talwm yn dweyd, ei fod ef yn barnu na bu- asai Paul lipth yn derbyn go i'r seiat, wedi'r gofid gafodd ef oddiwrth Alexander a Demet- rius; yr oeddwn i, ac yr ydwyf eto, yn barnu yn wahanol i'r pregethwr hwnw ar y pwnc. Gan ddarfod i mi son am bregethwr, yr wyf yn cofio clywed un arall, ac oedd druan yn llawn o rag- farn yn ein herbyn ni y Tailwriaid, yn dyweyd fod tuedd naturiol mewn pechadur i fyned yn Dailiwr, mai yn Dailiwr y ceisiodd Adda fyned, yn union wedi iddo bechu: ac yr oedd y pre- gethwr yn cymeryd hyny yn ddadl a rheswm i gynghori pobl iauainc i ymgadw oddiwrth al- Tv z, l wedigaeth berygius y nodwydd. Nid oedd y truan wedi ystyried erioed both a ddaethai o'r 11 r byd pe buasai pawb yn dilyn ei gyngor ef. Deallais wecli hyny, bod y pregethwr cyntaf wedi cael'ei fliiio gan ôf, a berthynai i'w eglwys, neu y gof ganddo ef; a bod y Hall wedi anghy- tuno a Thailiwr hefyd; a bychan oedd gan y ddau fel Hainan, estyn eu llaw yn erbyn un gof neu Dailiwr; ond ewyllysient ddifetha y ddwy genedl, o ofaint a Tliailwriaid yn gyffredinol. Wel, wel, dyna y fath yw plant dynion a'u hopiniynau. Fy opiniwn i yw, nad oes neb ddim givell,-i-ia dim gwaeth, ar gyfrif ei alwed- igaeth, beth bynag a fo hi, os bydd hi'n alwed- igaeth gyfreithlawn; a dweyd y gwir yn ddistaw i chwi, nid yw yn ddrwg genyf bod y gofaint hwythau, wedi bod gynt, os nad ydynt eto, o dani hi yn gystal a ninau'r Tailwriaid. Y mae yn hen bryd i mi bellach ddychwelyd at fy stori i edrych a allaf gael gafael ar ei di- wedd rywbryd. Gadewais hen wr yr Hafod, yn fy llythyr o'r blaen, mewn blinder ynghylch ei galon. Cynnyddu fwyfwy wnaeth y blinder hwnw bob dydd, nes oedd yr hen wr yn myned yn bur amiiddig yn y ty weithiau, o herwydd ei fod ef a'i galon yn methu cytuno. Modd bynag, or ii-ior anhawdd oedd hyny, i'r gy- feillacli grefyddol i'r capel yr aeth efe ryw noson: mawr oedd syndod pawb ei weled yn dyfod i mewn. Yr oedd yno" un hen wr, yn rhyw fath o swyddog nid oedd erioed wedi ei ddewis yn rheolaidd, ond wedi ym- gymeryc1 a blaenori yn y cyfarfodydd, a chael ei oddef yr oedd. Yr oedd llawer. iawn o yspryd i all tra-awdurdodi yn yr hen wr hwnw druan; ew- yllysiai'n fawr osoo, ei ofn ar bawb, rhuthrai yn sydyn chwerw ar bob un a ddelai i mown y waith gyntaf i'r gyfeillach, ermwyn 'o-,i torI- lawr,' fel y dywedai. Nid oedd dda gan neb a berthynai i'r gymdeithas mo hono. Yr oedd ef a hen wr yr Hafod tua'r un oedran, ac yn hen gymydogion: _ind rliyw lawer o.gyweithas a fu- asai rliyngddynt erioed. Wedi gwasanaeth ar- weiniol y cyfarfod, trodd Owen Huw, canys dyna oedd enw'r hen flaenor, pc buasai fiaenor hefyd, a gofynodd yn dordyn, 'V el, Robert, beth barodd i chwi ddyfod yma heno ? Lladd arnom ni yma y byddech chi'n wastad, a be sy arnoch chi eisio gynthol1 ni, rwan?' 'N'Wll i ddim yn iawn Owen, sut i ateb dy gwestiwn di,' atebai Robert. Be oeddet ti dy hun yn i geisio yma, pen ddoist ti yma gyl-itai, 'Rydwi'n cono'r amser pen fyddet ti'n lladd ar bobl y capel yn gystal a fine, ac yma doist ti wedy'n, a pham. rwyt ti naned neb yn synu mod i chwedi dwad yma, a tliithe'n gwbod dy hanes dy hun, os nad wyt ti wedi anghoflo, a mae'n gwilydd garw i ti os gneist ti hyny.' Brocnoad yr hen liaenor yn aruthr wrth hyn. Yr oedd gweled pawb trwy y lie yn gwenu ac yn mwynh.au y sen a roddasai yr hen wr arall iddo, yn peri icldo ofni fod cyssegrcdigrwydd ei awdurdo d mewn perygl. 0,' meddai, yr oedd- wn i yn ofni, mai yr un oedd o ag or blaen, a dyna ddigon o brawf i chwi, nad oes dim goruch- \v5diaeth gras wedi bod yn trin ei gyfiwr 0, a gobeithio nad oes 5111a neb a ewyllysiai weled ly neb o'r fath yn dyfod atom ni, ac yn cael ei le yn ein plith. Ta,swn in meddwl fod pawb sy yma yn debyg- i ti Owen, ni ddaethai nhraed byth yma; ond rydw i'n meddwl pethe gwell am lawer o honoch chwi.' 'Wel, hwyrach y dywedwch chwi air, Robert bach, o'ch teimlad a'ch meddwl,' ebe Thomas, y gweddiwr hynod hwnw a glywsai 3/11 yr Hafod Ganol. 'Wel, gwnaf yn wir,' ebai yntau. 'Fy meddwl i ydi hyn, mod i'n becliadur, yn bochadur mawr iawn, yn hen becliadur; bod y niowyd, a niuciiedd i, a nhafod, a nghaion i wedi bod yn ddrwg iawn; a mi rydw i wedi blino ar y galon ddrwg yma, narw iawn. Mi glowis Sion y gô, a'r pregeth- wr hwnw fum i'n wrando 5111a hefyd, yn dweyd foci posib cael calon newydd; a mi ddois i yma heno, i gael gwbod allse chi fy rhoid i ar y ffordd sufc i'w chael hi; os cawsoch chi afel ami hi y'ch hinen, crwyddwcli fine i gael gafael ami hi; fu ar neb eriood fwy o'i hoisio hi.' Adrodd- odd yr hen wr holi hanes ei fywyd a'i helynt er y dydd y buasai yn yr efail gyda Sion y go; ac yr oedd y cyfeillion weitinau yn gwenu ac weith- iau yn wylo wrth ei wrando; ac yr oedd yntau ei hun yn wylo yn ami hefyd. Torodd pawb i chwerthin allan unwaith, pan y dywedodd P'un bynag a'i cythrel a'i chwanen aeth i glust Sion, y mae gen i achos i fod yn ddiolchgar am y tro beth bynag—hyny fu'n foddion ar y dechre i farwen i nabod tipin amaf fy hun, a drwg fy nghaion.' PJioddodd amrjwv eyfeillion gyng- horion a chyfai-wyddiad carcdig a phriodol iddo, ac yr oedd yntau yn derbrn y ewbl fel dyn bach. Yr oedd pawb yn foddion i'r hen wr gael dyfod i'r gyfeillr.cli ar brawf, ond yr hen Owen I-hnv: cliwymu yn anfoddog iawn yr oedd Ca. Fodd b5iiag dalicdd yr hen w ci Co Jd ac eniilodd oil +i 1 ) γ serch y l (ieitiias. Ni c < ■ 1 d 511 y capel, c 11 if am C1IA\ 'lh Lie (t 1. t, iau O\\ < rcu yn yr holl < t 1 c 1 Gi d 1 sofydlog a r v o 1 1 £ -• cli'wodd, a mYllych y gwelid y deigryn yn dyferu i lawr o hono. Mewn gair, daeth yr Hafod yn un o'r tai mwyaf crefyddol 511 yr holl gymydogaeth, a'r teulu 511 nodedig arneu rhinweddau. Glyn- odd yr hen wraig wrth ei hen ffordd o fyw. Yr oedd hi yn ddigon boddlon, meddai, i'r hen wr a'r plant wneyd fel y mynent, ond iddi hi gael llonydd i wneyd fel y mynai hithau ganddynt. Ai gyda hwynt i'r capel weithiau, ond nid ym- ddangosai ei bod yn sylwi ar ddim a glywai yno, nac yn teimlo mwy na'r dderwen dan na phre- geth na gweddi. Bu'r ddau, yr hen wr a'r hen wraig, fyw i oedran teg, a bu y ddau farw y naill yn fuan ar ol y llall. Rhoddodd yr hen wr brofion boddhaol iawn i bawb oedd yn ei nabod, ei fod wedi cael y galon newydd yr yni- ofynai am dani, a gadawodd y byd mewn tang- nefedd a gorfoledd. HEX DEILIWR.

DIRWESTWYR A'R ETHOLIADAU.

CYMMEEIADAU.

LLYTIIYB II.

NODION A NIDIAU.

LLANGOLLEN.

LLYTHYRAU CYMRAES YN NGHANAAN.