Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
7 articles on this Page
YR HEN DEILIWR.
YR HEN DEILIWR. LLYTHYR XXVI. Dyn call yw Cynddelw, rhaid i mi ddyweyd hyny am dano ef, pwy bynag ydyw; ond y mae yn ymddangos ei fod yntau, er called ydyw, wedi cael ei ddallu i raddau gan yr hen ragfarn sydd wedi bod bob amser yn meddyliau dynion yn ein herbyn ni y Tailwriaid; ond y inae yn dda genyf weled ei fod ef yn dechreu ymrydd- hau oddiwrthi, ac y mae lie i obeithio y daw cyn hir, fel y daeth ein hen erlidiwr J ami Shon gynt, i garu ein cenedl ni. Nid wyf fi am wadu na bu llawer un drygionus yn perthyn i'n cenedl ni, ond hyn a fyntuxniaf yn wyneb haul a llygad goleuni,' ein bod ni cystal dynion at ein gilydd a rhyw ddosbarth arall o bobl. Y mae rhai da a rhai drwg a rhai canolig yn perthyn i bob celfyddyd a galwedigaeth; felly ninau. Ym- ddengys i mi inai y gofaint oedd dani hi yn amser Paul. Ar Alexander y gof copr, a Demet- rius y gof arian, a'r gofaint ereill yn Ephesus, y mae efe yn achwyn, a chlywais un pregethwr er's talwm yn dweyd, ei fod ef yn barnu na bu- asai Paul lipth yn derbyn go i'r seiat, wedi'r gofid gafodd ef oddiwrth Alexander a Demet- rius; yr oeddwn i, ac yr ydwyf eto, yn barnu yn wahanol i'r pregethwr hwnw ar y pwnc. Gan ddarfod i mi son am bregethwr, yr wyf yn cofio clywed un arall, ac oedd druan yn llawn o rag- farn yn ein herbyn ni y Tailwriaid, yn dyweyd fod tuedd naturiol mewn pechadur i fyned yn Dailiwr, mai yn Dailiwr y ceisiodd Adda fyned, yn union wedi iddo bechu: ac yr oedd y pre- gethwr yn cymeryd hyny yn ddadl a rheswm i gynghori pobl iauainc i ymgadw oddiwrth al- Tv z, l wedigaeth berygius y nodwydd. Nid oedd y truan wedi ystyried erioed both a ddaethai o'r 11 r byd pe buasai pawb yn dilyn ei gyngor ef. Deallais wecli hyny, bod y pregethwr cyntaf wedi cael'ei fliiio gan ôf, a berthynai i'w eglwys, neu y gof ganddo ef; a bod y Hall wedi anghy- tuno a Thailiwr hefyd; a bychan oedd gan y ddau fel Hainan, estyn eu llaw yn erbyn un gof neu Dailiwr; ond ewyllysient ddifetha y ddwy genedl, o ofaint a Tliailwriaid yn gyffredinol. Wel, wel, dyna y fath yw plant dynion a'u hopiniynau. Fy opiniwn i yw, nad oes neb ddim givell,-i-ia dim gwaeth, ar gyfrif ei alwed- igaeth, beth bynag a fo hi, os bydd hi'n alwed- igaeth gyfreithlawn; a dweyd y gwir yn ddistaw i chwi, nid yw yn ddrwg genyf bod y gofaint hwythau, wedi bod gynt, os nad ydynt eto, o dani hi yn gystal a ninau'r Tailwriaid. Y mae yn hen bryd i mi bellach ddychwelyd at fy stori i edrych a allaf gael gafael ar ei di- wedd rywbryd. Gadewais hen wr yr Hafod, yn fy llythyr o'r blaen, mewn blinder ynghylch ei galon. Cynnyddu fwyfwy wnaeth y blinder hwnw bob dydd, nes oedd yr hen wr yn myned yn bur amiiddig yn y ty weithiau, o herwydd ei fod ef a'i galon yn methu cytuno. Modd bynag, or ii-ior anhawdd oedd hyny, i'r gy- feillacli grefyddol i'r capel yr aeth efe ryw noson: mawr oedd syndod pawb ei weled yn dyfod i mewn. Yr oedd yno" un hen wr, yn rhyw fath o swyddog nid oedd erioed wedi ei ddewis yn rheolaidd, ond wedi ym- gymeryc1 a blaenori yn y cyfarfodydd, a chael ei oddef yr oedd. Yr oedd llawer. iawn o yspryd i all tra-awdurdodi yn yr hen wr hwnw druan; ew- yllysiai'n fawr osoo, ei ofn ar bawb, rhuthrai yn sydyn chwerw ar bob un a ddelai i mown y waith gyntaf i'r gyfeillach, ermwyn 'o-,i torI- lawr,' fel y dywedai. Nid oedd dda gan neb a berthynai i'r gymdeithas mo hono. Yr oedd ef a hen wr yr Hafod tua'r un oedran, ac yn hen gymydogion: _ind rliyw lawer o.gyweithas a fu- asai rliyngddynt erioed. Wedi gwasanaeth ar- weiniol y cyfarfod, trodd Owen Huw, canys dyna oedd enw'r hen flaenor, pc buasai fiaenor hefyd, a gofynodd yn dordyn, 'V el, Robert, beth barodd i chwi ddyfod yma heno ? Lladd arnom ni yma y byddech chi'n wastad, a be sy arnoch chi eisio gynthol1 ni, rwan?' 'N'Wll i ddim yn iawn Owen, sut i ateb dy gwestiwn di,' atebai Robert. Be oeddet ti dy hun yn i geisio yma, pen ddoist ti yma gyl-itai, 'Rydwi'n cono'r amser pen fyddet ti'n lladd ar bobl y capel yn gystal a fine, ac yma doist ti wedy'n, a pham. rwyt ti naned neb yn synu mod i chwedi dwad yma, a tliithe'n gwbod dy hanes dy hun, os nad wyt ti wedi anghoflo, a mae'n gwilydd garw i ti os gneist ti hyny.' Brocnoad yr hen liaenor yn aruthr wrth hyn. Yr oedd gweled pawb trwy y lie yn gwenu ac yn mwynh.au y sen a roddasai yr hen wr arall iddo, yn peri icldo ofni fod cyssegrcdigrwydd ei awdurdo d mewn perygl. 0,' meddai, yr oedd- wn i yn ofni, mai yr un oedd o ag or blaen, a dyna ddigon o brawf i chwi, nad oes dim goruch- \v5diaeth gras wedi bod yn trin ei gyfiwr 0, a gobeithio nad oes 5111a neb a ewyllysiai weled ly neb o'r fath yn dyfod atom ni, ac yn cael ei le yn ein plith. Ta,swn in meddwl fod pawb sy yma yn debyg- i ti Owen, ni ddaethai nhraed byth yma; ond rydw i'n meddwl pethe gwell am lawer o honoch chwi.' 'Wel, hwyrach y dywedwch chwi air, Robert bach, o'ch teimlad a'ch meddwl,' ebe Thomas, y gweddiwr hynod hwnw a glywsai 3/11 yr Hafod Ganol. 'Wel, gwnaf yn wir,' ebai yntau. 'Fy meddwl i ydi hyn, mod i'n becliadur, yn bochadur mawr iawn, yn hen becliadur; bod y niowyd, a niuciiedd i, a nhafod, a nghaion i wedi bod yn ddrwg iawn; a mi rydw i wedi blino ar y galon ddrwg yma, narw iawn. Mi glowis Sion y gô, a'r pregeth- wr hwnw fum i'n wrando 5111a hefyd, yn dweyd foci posib cael calon newydd; a mi ddois i yma heno, i gael gwbod allse chi fy rhoid i ar y ffordd sufc i'w chael hi; os cawsoch chi afel ami hi y'ch hinen, crwyddwcli fine i gael gafael ami hi; fu ar neb eriood fwy o'i hoisio hi.' Adrodd- odd yr hen wr holi hanes ei fywyd a'i helynt er y dydd y buasai yn yr efail gyda Sion y go; ac yr oedd y cyfeillion weitinau yn gwenu ac weith- iau yn wylo wrth ei wrando; ac yr oedd yntau ei hun yn wylo yn ami hefyd. Torodd pawb i chwerthin allan unwaith, pan y dywedodd P'un bynag a'i cythrel a'i chwanen aeth i glust Sion, y mae gen i achos i fod yn ddiolchgar am y tro beth bynag—hyny fu'n foddion ar y dechre i farwen i nabod tipin amaf fy hun, a drwg fy nghaion.' PJioddodd amrjwv eyfeillion gyng- horion a chyfai-wyddiad carcdig a phriodol iddo, ac yr oedd yntau yn derbrn y ewbl fel dyn bach. Yr oedd pawb yn foddion i'r hen wr gael dyfod i'r gyfeillr.cli ar brawf, ond yr hen Owen I-hnv: cliwymu yn anfoddog iawn yr oedd Ca. Fodd b5iiag dalicdd yr hen w ci Co Jd ac eniilodd oil +i 1 ) γ serch y l (ieitiias. Ni c < ■ 1 d 511 y capel, c 11 if am C1IA\ 'lh Lie (t 1. t, iau O\\ < rcu yn yr holl < t 1 c 1 Gi d 1 sofydlog a r v o 1 1 £ -• cli'wodd, a mYllych y gwelid y deigryn yn dyferu i lawr o hono. Mewn gair, daeth yr Hafod yn un o'r tai mwyaf crefyddol 511 yr holl gymydogaeth, a'r teulu 511 nodedig arneu rhinweddau. Glyn- odd yr hen wraig wrth ei hen ffordd o fyw. Yr oedd hi yn ddigon boddlon, meddai, i'r hen wr a'r plant wneyd fel y mynent, ond iddi hi gael llonydd i wneyd fel y mynai hithau ganddynt. Ai gyda hwynt i'r capel weithiau, ond nid ym- ddangosai ei bod yn sylwi ar ddim a glywai yno, nac yn teimlo mwy na'r dderwen dan na phre- geth na gweddi. Bu'r ddau, yr hen wr a'r hen wraig, fyw i oedran teg, a bu y ddau farw y naill yn fuan ar ol y llall. Rhoddodd yr hen wr brofion boddhaol iawn i bawb oedd yn ei nabod, ei fod wedi cael y galon newydd yr yni- ofynai am dani, a gadawodd y byd mewn tang- nefedd a gorfoledd. HEX DEILIWR.
DIRWESTWYR A'R ETHOLIADAU.
DIRWESTWYR A'R ETHOLIADAU. At II Parch. 8. Evans, Hebron. Anwyl Gyfaill,—Mae yn dda genyf weled fod eich sel Ddirwestol ynparhau. Yr ydwyf finau hefyd yn hyn o beth yn 'dal fy ffordd, ac yn ychwanegu cryf- der,' ac o ddechreuad Cyngrair y deyrnas g-yfunol yn un o aelodau ei gynghor. Cyfansoddais draeth- 17, y awd bychan ar y Maine law cyn fod dim arall wedi ei gylioeddi ar y mater yn N ghymru. Nid oes, ac ni bu un petrusder ynfy meddwl am. y priodoldeb a'r tegwch o roddi y fasnach feddwol i lawr trwy gyf- raith. Yr wyf dros y Sunday Closing, a byddai yn dda genyf weled y Permissive Bill yn gyfraith; er y byddai yn well genyf gael mesur ymerodrol ar y fasnach feddwol, na chael awdurdod i wneyd cyf- raith leol; ond byddai yn dda genyf gael rhywbeth a osodai ryw atalfa ar y clrwg. Yr wyf yn dyweyd hyn rhag i neb gasglu (gwn nad oes perygl i chwi wneyd) mai ocldiar wrthwynebiad i'r Permissive Bill yr wyf am beidio ei ddwyn yn rhy brominent yn yr etholiad dyfodol. Ysgrifenais yr I erthv,l olygyddol,' fel ei gelwch, ,y yn y TYST am Mai 8fed, gyda golwg ar etholiad Bristol, yn y train wrth fyned i Lundain y Doreu Llxui blaenorol. Nid wyf yn meddwl fod yr un gair yn yr hyn a ysgrifenais a all fod yn sail i neb gasglu fod yr ysgrifenydd yn wrthwynebwr i'r Permissive Bill. Cwestiwn o ddoethineb yn unig ydyw. A ydyw yn ddoeth gwthio y Permissive Bill i sylw yn yr ethoiiadau dyfodol; a phleidio y neb a'u cefnogo heb ofalu beth fyddo eu golyg-iadau ar bynciau eraill P Mae yn ymddangos i mi os ydvv'yf yn eich deall yn iawn, fod hyny yn ddoeth, ac y dylid ei wneyd. Dywedwch—'Y mae y fasnach foddwol yn fwy o felldith na'r Dreth Eglwys. Gwnelai dileu y fas- nach feddwol fwy i wneyd yr Iwerddon 511 deyrngar- 01 na dadwaddoli yr Eglwysi Esgobyddol, Pabaidd, a Phresbyteraidd. A phe byddai genyf bleidlais yn Merthyr, a bod dau yiiigeisydd-un dros y fasnach feddwol ar Hall yn ei herbyn—pleidleisiwn yn ddi- betrus dros yr hwn fyddai dros y Permissive Bill, ie, ar gyfryw amser a hwn.' Nid -\vyf am ddadleu pa un ai y fasnach feddwol ai y Dreth Eglwys sydd yn fwyaf o felldith—ond y mae gwahaniaeth yn y ddau achos. Baich ar amgylchiadau y wlad ydyw y fas- nach feddwol; o leiaf fel y mae yn faich ar amgylch- iadau y wlad y mae gan y llywodraeth wladol hawl i ymyraeth a hi. Baich ar gydwybod y wlad ydyw y Dreth Eglwys; ae os na all y senedd symud y ddau ar unwaith, y mae yn ymdclangos i mi mai cael y baich oddiar gydwybod y wlad yw y peth ddylid ei wneyd gyntaf. Y mae yn amheus iawn genyf a wnelai dileu y fasnach feddwol yr Iwerddon yn deyrngarol os parheid yr Eglwys Wyddelig yn iau ar eu gwarau. Nid caethion y fasnach feddwol yn unig sydd yn gwingo yn yr Iwerddon, ond y mae yno iiloedd o bobl oreu y wlad wedi myned i deimlo nas gall y fath anghyfiawnder barhau yn hwy. Ond y mater ydyw pa fodd y mae yn ddoeth gweithredu dan yr amgylchiadau yr ydyrn ynddynt F Pc byddai dau ymgeisydd 511 Merthyr—un droa dcliiead liollol y fasnach feddwol, n'r llall dros barhau y drefn bre- senol o flrwyddedu, lieb ddim potrusder rhoddwn innau fy mhleidlais i'r hwn fydclai dros ddileu y fasnach, os mat dyna yr unig ff west he 11 y byddai y ddau ■ymgeisydd yn gwahaniaethu arnynt. Ond os byddai un o'r ddau Yl1 cynrychioli fy ngolygiadau i mewn unarddeg o bethau, ond yn methu gweled yr un fath a mi ar y deuddegfed peth, yna yn sicr nid aberthwn ddyn sydd yn cydweled a mi mewn cynifer o bethau pwysig; a rhoi fy mhleidlais yn frafr dyn am ei fod ef a minau yn digwydd cydweled ar un peth pwysig!; pan yr ydym yn iiollol groes i'n g-ilycld mown unar- cldeg o bethau pwysig eraill. Heblaw hyny, hwyr- acii mai y pethau y mae ef a minau yn anghydweled arnyut a ddaw yn gwestiynau deddfwriaeth miion- gyrchol; ac nad yw teimlad y wlad a'r senedd eto ddim yn addfed i ddeddfu ar y peth y mae ef a min- au yn uno. Dy-na fi wedi anfon dyn i'r senedd i'm camgynrychioli ar bob cwestiwn sydd ger bron y Ty am ei fod ef a minau yr un farn ar gwestiwn nad yw ger bron y Ty. Os gweithreda pawb ar y cynllun yna ni chawn byth tmrliyw fesur allan. Anhawdd genyf feddwl fod yr un jmgeisydd all gael ei ddy- chwelyd i'r senedd mewn na Sir na Bwrdeisdref yil unig ar y Permissive Bill, heb ei fod yn cynrychioli yr etholwyr ar un pwnc arall. Mao yn wir fod hon yn elfen alluog- mewn llawer iawn o fanau, ac 311 dyfod yn alluoeach bob blwyddyn; ond wrth gyd- rreitliio ag elfenau eraill, ac 511 ami wrth beidio gwneyd ei linn yn rhy amlwg y mae wedi llwyddo i ddychwelyd dynion i'r senedd yn fFafriol iddi. Os a Dirwestwyr a phleidwyr y Permissive Bill i ddyweyd na roddent eu pleidlais i neb beth bynag fydd eu g-olygiadau ar bynciau pwysig eraill, os na byddant yn iawn ar yr un pwnc yna, beth fedclyliecli i dafarn- wyr a gwrthwynebwyr y Permissive Bill ddyweyd na roddent hwythau eu pleidlais i neb a fyddo drosto beth bynag fyddo eu golygiadau ar faterion eraill, Beth debygech fyddai y canlyuiaclr Mae arnaf ofn yn wir na byddai yn y senedd newydd neb i gynyg y Permissive Bill i sylw y Ty. Ond wrth syrthio i mewn a'rblaidryddfrydig* yn gyffredin, ymae genyf obaith cryf gweled degau o ddynion gonest yn y senedd newydd yn barod i gymoi-ycl y fasnach fedd- wol o ddifrif mewn llaw. Nid yn ddioeel—nid cyn gwneyd y pethau y mae pob plaid yn teimlo fod yr amser wedi dyfod i'w cwbl benderfynu. Mae dilead y Dreth Eglwys, Dad- gysylltiad yr Eglwys yn yr Iwerddon, Agoriad y Prif Ysgolion i Ymneillduwyr, yn gwestiynau sydd wedi dyfod yn addfed; ac ond i'r blaid ryddt-rydig gydweithio, gall y rhai hyn cyn pen pum mlynedd gael eu cyfrif yn mysg y pethau a fu. Ond nid yw dilead y fasnach feddwol trwy eto ivedi dyfod i'r addfedrwydd yna. Ac er fy mod yn gwbl hyderus y daw hyny hefyd, bydd yn hir iawn cyn dod, a rhaid i ni foddloni i!w gymeryd bob yn ycliydig, a chymeryd cymaint o help ag a allom gael gan bawb nad ydynt yn myned yn llawn mor bell a ni. Gell- wch benderfTOu mai oddiwrth y blaid ryddfrydig yn y senedd y ca pleidwyr y a'r Closing fwyaf o gefnogaeth. Ni wnelai delim lies i achos sobrwydd i'w g-jfeillion wthio eu clynion i'r maes. G-allant trwy I13 ny ranu y blaid ryddfrydig, a sicrhau dychweliad dynion a fyddo yn eu herbyii V., bol,) aehos; ond yn sicr nis gallant trwy hyny hyr- wyddo eu haclios eu hunain. Lie y gellir- dychwel- ycl rliyddfrydwyr trwyadl fyddo yn bleidiol i'r Per- missive Bill neu'r Sunday Closing, ar bob cyfrif gwnel- er hyny. Ond o dan yr amgylchiadau presenol na chymgred Dirwestwyr eu dallu i bleiclleisio dros Dori hyd yn oed pe oyjioeddiii ei hun yn gefnogwr i lwyr ddilead y fasnach fedclwol. Peth hawdd iawn vdyw aaaaw eefnogi mesur y gwyddis nad oes deddfwr- iaeth tunongyrehol i fod am.o. C\7esfciynau eraill sydd yn awr ger bron, a chael y dynion iawn ar y 1 hyny yw y pwnc i id ar gyfryw amser a hwn.' L yfaiu proiedxg 1 bob achos da, y mae genj-f ymddiried yiioch y rhoddweh eich dylanwad o blaid dychweliad dynion i'r senedd fyddo yn ateb yn hollol i angen ac amgylchiadau yr amserau presenol, Yr eiddoch yn serchog, Liverpool. J. THOMAS. Eoneddigion,—Yn ein llythyr diweddaf, cafodd yr jinddiddan a gymerodd le rhwng Griff, a Dafydd Fythelig, o barthed i Mr..Gladstone, ein sylw, ac y mae genym y tro-hwn ychwaneg, neu yn hytrach barhad, o'r un peth. Cyfarfu Griff a Dafydd eilwaith; ac yr oedd testun yr ymddyddan blaenorol yn fresh ar fedd- wl Griff, a dechreuodd ar unwaith i wneud sylwadau cymwysiadol at Dafydd, oddiwrth onestrwydd Glad- stone i ac ymdrechodd wneud argrainadau personol ar feddwl Dafydd er gwell, ac nid er gwaeth. Dang-- osodd y dylanwad oedd Mr. Gladstone wedi ennill drwy fod yn onest, dihoced, a rhyddfrydig. Y mae tri pheth,' ebai, I yii Gladstone, ag sydd yn sicrhau ei lwyddiant. Mae ei wybodaeth am yr egwyddorion, a'r cysylltiadau, ag sydd yn cyfan- soddi rhwymedigaethau dynion i'w gilydd, fel deil- iaid yr un cyfansoddiad, gwladol a moesol, yn dra helaeth. Mae tcimlad pur a brwdfrydig tuag at y d3dedswyddau ag sydd yn naturiol darddu allan o'r cysylltiadau ag sydd yn bodoli rhwng dynion a'i gilydd yn Ilond ei enaid. Ac hefyd, y mae ei gariad twym a nerthol tuag at i a wilder an dynion yn gwneud ei lwyddiant yn sicr.' Ond yn awr Dafydd, dal sylw. Nid llwyddiant Gladstone yn unig y mae yr egwyddorion hyn yn sicrhau, ond llwyddiant pob dyn ag sydd yn eu meddianu. Clywaist ein gweinidog ni yn dweyd fod right yn rhwym o lwyddo, ei fod y gallu cryfaf mewn bod, ei fod yn ddwyfol yn ei darddiad, ac ei fod yn cludo ei berchenog i fynwes Duw, ac yn ei gadw byth yno. Cysylltiadau Gladstone a'r egwydd- orion hyn sydd yn rhoddi iddo y nerth anorchfygol a berthyna iddo fel dyn. Cofia hyn Dafydd; mae yn well ini fwynhau calon lawen, onest, a da, ar ychydig, na dyoddef cnoadau parhaus cydwybod ddrwg, ar lawer.' Synodd araeth Griff Dafydd; ond, er mor eglur oedd cyfeiriadau Griff, nid oedd Dafydd yn eu gweled yn cyrhaedd mor belled ag yr amcanai Griff iddynt fyned. Beth bynag, wedi cyrhaedd gartref, dywedodd wrth Mari ei wraig am yr addysgiadau ag oedd Griff yn dynu oddiwrth ymddygiadau Glad- stone, a deallodd Mari yn y man fod Griff yn gwneud y defnydd goreu o honynt er gwella ei gwr. Y mae yn dda genyf,' meddai Mari, i Griff ym- osod arnat fel y gwnaeth. Ni wrandawsit iirnaf fi yn dy rybuddio i beidio a gweniaethu cymaint i Mr. Diotrephes. Gelli fod yn sicr mai at hyny y cyfeiria Griff; ao yn wir, y mae pawb yn y gymydogaeth yn edrych arnat fel gwas bach am swllt, yn barod i gyf- lawni unrhyw beth a fedri er mwyn boddloni spleen ddialgar Diotrephes. Yr oeddwn yn teimlo yn annedwydd hollol yn y Cwrdd Llenyddol diweddaf, wrth glywed y bechgyn, pan yn dadleu ar Gladstone yn gwneud cyfeiriadau at gymeriadau dau-wjmebog mor fynych, o herwydd, yr oeddwn yn teimlo yn sicr eu bod yn cyfeirio atat ti a Diotrephes. Gwy- ost yn dda nad oes neb yn parchu Diotrephus, er fod llawer fel tithau yn gweniaethu iddo, yn unig o her- wydd fod ganddo dipyn o gyfooth. Mae yn am- harchus yn ci gymydogaeth, yn ei blwyf, ac 301 fwy amharchus yn yr eglwys y perthynai iddi. Y11 wir, Dafydd mae yn rhaid i ti beidio myned cymaint i'w dy, a gweniaethu cymaint iddo, os myni gadw dy gymeriad yn loyw. Mae y wlad yn deall yn eithaf da sut y mae rhyngot ti a Diotrephes, ond nid yw pawb mor ddiragrith a Griff. Y mae ef yn eithaf gonest, ac os g-ofyni di iddo cei weled mai fel ag yr wyf fi yn dweyd y mae ef yn amcanu.' Ar ol i Mari ddystewi, yr oedd meddwl Dafydd dipyn yn fwy goleu ynghylch yr hyn a ddywedodd Griff wrtho, ac yr oedd yn teimlo yn dra annedwydd oddifewn. Clywodd Griff am yr hyn a ddywedodd Mari wrth Dafydcl, a chymeradwyai ei barn. Caiff araeth sjorwyrgall (yn ein tyb ni) Griff ar hyn ein sylw y tro nesaf, os caniatewch. Cewch weled fod Griff yn dipyn o Gladstone mewn gonestrwydd a gallu meddyliol. Ni ryfeddem pe gelwid ef yn 'Welsh Gladstone' cyn bo hir. Yn y cyfamser, Yr eiddoch, &c., GLADSTOKIAIT.
CYMMEEIADAU.
CYMMEEIADAU. PEN. VI.-Y DYN DAU-DAFODOG. Mri. Gol.,—Brawd ydyw y Canaanead dienwaed- eclig hwn i'r dyn dau-wynebog, Y mae y ddau frawd yn hynod debyg i'w gilydd. Y mae family likeness yn amlwg iawn ynddynt. Efeilliaid ydynt, wedi eu magu ar yr un bronau, ac y maent bob am- ser, fel y bydd brodyr yn yr un teulu 311 gyffredin, yn ffyddlon iawn i gynnorthwyo y naill y llall mown trallodion a chyfyngderau. Y mae dau dafod yn beth hylaw iawn i'r dau-wynebog, a dau wvneb yn beth anhebgorol i'r dau-dafodog. Ni fed: y naill wneud fawr iawn o honi, yn eu dull hwy o fyw, heb y llall. Nid rhyw hapus iawn y bydd y ddau wyneb heb y ddau dafod, na'r ddau dafod heb y ddau wyneb. Y mae y naill wedi gwaredu y Hall lawer gwaith o gyfyngderau peryglus, ac y maent mewn dyled drom i'w gilydd a phe byddai y ddau wyneb 5-11 dywevd castiau y ddau dafod, a'r ddau dafod yn dyweyd castiau y ddau wyneb, byddai genym ddigon i lanw deg TYST CYMEEIG bob wytlmos,. Gwyn fycl nag elai hi yn ffrae iawn rhwng y ddau, fel y celai y byd ychydig o'u cyfrinach. Ond, y mae genyf ofn eu bod yn rhy gyfrwys i edliw. Fc-I hyn y mae Paul yn dyweyd wrtho,—' Nid yn ddau eiriog;' hyny ydyw-nid yn ddan-clafocl.og--yn ddyblyg- dafodog (non bilinques). Nid dyweyd'un peth yn ngwyneb y clyn, a dyweyd peth arall hollol wahanol yn ei gefn. Y mae dichcll a brad yn y fath ym- ddygiad. Nid diaconiaid yn unig ddylai fod yn un- dafodog, ond pob dyn yn mhob man. Y mae y dyn. hwn yn ceisio boddio pawb a chosi pob dyn, ac felly y y mac dyweyd llawer iawn nad ydyw yn ei feddwl, nac yn ei gredu a chan mai nid yr un peth sydd yn boddio pawb, y ddau dafod ydyw ei expediency ef. Y mae y dyn dau-dafodog yn nodedig am ganmol dynion yn eu gwynebau, a'u pardduo yn eu cefnau. Dywed wir am ddyn yn ei gefn, ond dywed anwir- edd yn ami am dano yn ei wyneb. Y mae mel gan- ddo ar un tafod i bawb, a cholynau marwol ganddo yn y tafod arall i fratliu agos pawb. Y mae yn or- mod o goward (llibyn) i ddyweyd y gwir wrth neb yn ei wyneb, ond gwenieitha i bawb er prynu eu ffafr. Ni chlywir byth mo hono yn ceryddu neb— hyny yw, yn ei wyneb, ond edrycliwch chwi ati yn eich cefnau. Nid ydyw erioed wedi gweled yr ad- nod hon, feddyliaf, ao os ydyw, nid ydyw yn ei chredu, a dyma hi,—' Y neb a geryddo ddyn, a gaiff yn y diwedd fwy o ffafr na'r neb a draetho weniaith a'i dafod.' Nid ydyw efe erioed wedi medru credu yn dilcedd' y sonia yr adnod yna am dano. Y mae blys dyweyd mawr ar lawer o ddynion, a chyn y gallant foddio y blys mawr hwnw, y mae yn rhaid cael mwy nac un tafod. Y mae un, a dau yn ami iawn, yn rhy fychan. Y mae tafod y dyn hwn I yii fyd o anghyfiawnder,'—' tan ydyw,—' ac yn gosod troell naturiaeth yn fflam, ac wedi ei wneuthur yn fflarn gan uffern.' Y rhai y mae yn rhaid can eu safnau.' Byddai yn fendith i'r byd, gallem feddwl, pe buasai miloedd heb gael yr un tafod. Peth truenus yw gweled dynion mudion, ond peth an- nhraethol mwy truenus, a m wy peryglus, yw gweled tafod wedi ei wneuthur yn fflam gan tdfern yn gosod. tref, dinas, gwlad—b3>d, ar dan. Gellir bod yn bur sicr, os bydd dyn yn orbarod i ganmol yn y gwyneb, y bydd yr un mor barod i frathu a'r tafod arall yn y cefn. Yr wyf ii, Mri. Gol., wedi a chlywed rhai dynion fel yna yn union, ac mi waranta eich bod chwithau hefyd; ac mor wired a fy mod yn YfJ- grifenu ybenod yina, yr wyf wedi laru nes yr yel ivyf yn sal iawn, ar glywed dynion yn camnol eu gilydd, yn enwedig y dynion y gown yn eithaf da fedr gan- mol yn y gwyneb a cholynu yn ofnadwy yn y cefn. Wrth y dyn dau-dafodog- y dywedaf, Bydded dy ganmoliaeth gyda thi i ddistryw.' Nid yw ei gan- moliaeth ond hugan ffalster i guddio cas,—' Cuddia gas a gwefusau celwyddog.' Un tafod y mac yr Hollalluog yn roddi i bob clyn. RhydCL ddwy droed, dwy law, dwy ffroen, dwy glust, a dau lygad, onclun tafod, ac un genau. Porth i ollwng allan yw y genau. Ffenestri i dderbyn gwybodaeth a synwyr i mewn ydyv/ y ddau glust a'r ddau lygad, ac ymae hyn yn awgrymu, mi feddyliaf, y dylai pob dyn dderbyn i mewn trwy y ffenestri mwy o'r hanner nag y-mae yn ei ollwng allan a'i dafod trwy borth y genau. Gwyddai y Crewr doeth focl un tafod yn llawn ddigon i wasanaethu yr ynienydd-yr ymen- ydd mwyaf. Pe 11a roddid i'r tafod mwy o waith nag y mae yr ymenydd yn ei roddi iddo, diau na ddywedai gymaint o eiriau ofer, ac y celai ddigon o amser i orphwys yn dawel. Y mae pob call yn meddwl mwy nag y mae yn caniatau i'w dafod lef- aru, ond y mae tafod yr anghall yn cael llefaru llawer mwy nag y mae wedi ei feddwl. Y mae un tafod yn llawn ddigon i bob dyn, ac yn llawer gor- mod i filoedd. Byddai dau drwyn yn beth hyll iawn ar un wyneb, ond byddent yn llawer mwy diniwed na dau dafod yn yr un safn. Nid ydwyf yn hoff iawn o'r tafod hir, ond y mae yn llawer gwell genyf tin tafod hir na dau dafod byr. Hwyrach y dywed y tafod hir fwy na fyddai yn ddoeth ei ddyweyd weithiau, ond fe ddywed yr un fath yn y wyneb ac yn y cefn os bydd yn safn y dyn uil-dafodog-y gonest. Y mae tafod hir i ddyweyd y gwir, ac i gy- hoeddi twyll, ac i fynegu rhinweddau Duw a chref- ydd, yn dda ond y mae tafod hir i draethu anwir- eddau, ac i ymffrostio pethau mawrion, y felldith fwyaf all fod mewn tref a gwlad—ond un, a hyny ydyw, y dyn dau-hir-dafodog. Y mae dau dafocl byr yn yr un safn yn beth sobr o ddrwg, ond y mae dau /i/r-dafod yn yr un safn yn erchyll ofnadwy Lie y mae dau dafod, byr neu hir, yn yr un safn, tyner un-y gwaethaf, wrth gwrs, o'r gwraidd, ac os bydd y llall yn rhy hir, torer ef yn ei hanner. Y mae yna fur o esgyrn caled o gwmpas y tafod,-cacl-,A, ef yn ofalus o fewn y castell hwnw, ac na ad iddo byth fyned allan heb ffrwyn yn ei enau. Cofia mai drwg ac anllywodraethus ydyw.' Y mae un tafod yn beth nas dichon un dyn ei ddofi. Gwareder ni, ddarllenydd anwyl, rhag y dyn dau-dafodog. FoErEX.
LLYTIIYB II.
LLYTIIYB II. Y DAITII I GA3IAAS. Fy Anwyl Rieni,—Yr wyf wedi ysgrifenu di- gwyddiaeall pob diwrnod fel y deuent tra buom ar ein taith i Jerusalem, a'r pethau a welais ao a ddi- gwycidoclcl i mi ar y ffordd. Rhoddaf y cyfan i lawr mor fyred ag y gallaf, a disgw3diwch am lythyr gwell y tro nesaf, oblegid y mae fy amser yn brin yn bresenol. Dydd Mcrcher, Ion. 43Tdd, .1865.—Yr ydwyf wedi cyrhaedd Dijon, ar ol bod yn y train am un awr ar d'deg, ac wedi teithio olcleutu tri chant o filldiroedd. f Y mae llawer o wahaniaeth yn yr hin yn Dijon; yr oedd yn eira dwfn yn Paris, ond 'does yma ddim o'r fath beth y mae yr hin yn bur hynaws, a gwelais winwydd wedi eu planu am rai milldiroedd ar ochr y reilffordd. Dydd Iau, y oed—Yr yxfym wedi cyrhaedd Lyons. Y mae y dref yma ehwe chant., o filldiroedd o Paris. Y mae hi yn dref fawr a hadel;' Yr ydym yn lletya mevvn Hotel fawr, ac yn awiviyr -wyf newydd gocli odcliwrth giniaw ardderchbg". Yr oedd deunaw o honom wrth y bwrdd. Dyma y French dinner cyntaf a gefais erioed, ac yr wyf yn meddwl mai dyma y ciniaw goreu a geiais erioed. hefyd. Yr ydym yn bwriadu aros yma liycl wyth nos y fory, pan y bydd y train yn gadael Lyons i fyneel i Marseilles. Sadvan, y 7fed.—Yr wyf yn teimlo yn bur swrth. Cyrhaeddasom i Marseilles am hanner awr wedi saith y boreu heddyw. Yr ydym wedi teithio yn agos i fil o filldiroedd ar hyd Ffrainc, ac wedi ffar- welio a'r tram am rai biynyddo-edd, os nad am byth; yr Arglwydd ^yn unig a wyr, a gwnaed a ni fel y byddo da 311 ei olwg. Yr ydjrm mewn Hotel eto i aros hyd ddydcl Llun, pan y gadawn y fan yma i fyned i'r llong. Un lie o addoliad Seisnig sydd yn y dref hon, a hwnw yn perthyn i Eglwys Loegr; lie gwael ydyw; ni ddeil yr Eglv, 3rs dros hanner cant; ond nid yw y gynnulleidfa ond ychydig dros hanner ei llon'd. Y mae preswylwyr y dref yn bur grefyddol yn eu ffordd eu hunain, set yn broffeswyr y grefydd. Babaidd. Dydd Llun, 3 0" d.— Dyma ii wedi dechreu bywyd newydd erbyn h,^ i byyw mewn Hong. Oycliwyn- asom dri o'r gloch prydnawn heddyw am y llong; y mae hi yn bar fawr. ae yn llestr hardd iawn. Mae Fystafell oreu yn iigain llath o hyd, a deg o led, as wedi ei liaddurno gyda, piano ardderchog. Y r v cl, y m yn eillièwa LTll chweeh yn y prydnawn; nid oes yr un fereh yn gallu dyfod at y bwrdd heno ond myrfi ±y hunan y maent oil yn eu gwelyau 311 glaf, vr y1} wrth gwrs, 5-11 dra ann3munol. Y mae fy meistres, druan, bron yn methu codi ei phen oddiar y gobenydd, ac yn gofidio na byddai fel fi; ond diolch am lechyd, yr wyf yn ei fwynhan i raddau helaeth iawn. Dydd Mawrth y lOfed.—Yr ydym yn Itali,-ac wedi myned heibio i'r ynys lie ganwyd Napoleon Bonaparte. Aethom heibio i dy Garibaldi hefyd, yr hwn sydd yn ymddangos i mi trwy yr yspienddrych fel pe byddai mewn ynys yn nghanol y mor. Y mae y ciyiroedd yn lied dawel yn bresenol. Dydd Merchcr, yr lleg.—Y mae y llong yn aros am dawy awr ar fin tref yn Itali a elwir Uissiaci; ond nid aeth neb ond fy meistr i dir ac wedi dyfod yn ol,dywedodd mai y dyn cyntaf a g-yfarfyddodd oedd Cymro o'r Deheudir. Gellwch feddwl y fath syndod i mi oedd clywed hyny. Garibaldi ydyw pobpeth yma yn Itali; y mae ei lun ar bobpeth-ar y poteli, a'r llestri, &c., ac ni chlywir dim gan y dynion sydd yn dyfod a'u cychod at ein llong ond B3W fyddo Garibaldi.' Nid oes dim son am y bremn, druan. Dydd lau, y 12fed.—Cychwynasom o Itali am lleg neithiwr, ac nid oes dim yn y golwg heddyw ond awyr a mor. Y mae y tywydd yn bur braf. Y mae yma ddynion o bob Uwyth, iaith, a chenedl, a chrefydd a'r bobl ryfeddaf a welais i erioed, nid yn unig o ran eu gwisgoedd, ond hefyd yn eu dull" o fyw. Y mae yma Arabiaid y maent yn byw ar y deck-yn bwyta, cysgu, a phobpeth yno. Bum yii gresynu wrth feddwl nad allent dalu am le i gysgu; ond wedi hyny gwelsom un o honynt yn dangos i'r llall bwrs oedd ganddo yn llawn o aur. Nid ydynt yn bwyta nemawr ddim ond bara gydag yohydig olew a ffrwythau. Daeth un o honyiit fel boneddwr mawr, a dau o weision i'w ganlyn. Yr oedd gan y boneddwr hosanau ac esgidiau am ei draed, ac am ei gorph yr oedd pais sidan resog a gwyn, a slit bob ochr iddi, a chlog o frethyn du wedi ei thyrchu J'll lwmp ar ei gefn, a pheth o'r un defnydd o amgylch ei ben, ond ei fod wedi ei gymysgu a rhywbeth melyn. Yr oeddym yn disgwyl y buasai hwn yn myned i'vfrst class ond yn lie hyny at y lleill yr aeth, fel hwch i'r domen yn ol ei helfen. (Tw barhau.)
NODION A NIDIAU.
NODION A NIDIAU. Cael golwg yn mysg deg mil o ryfeddodau ar ddarlun cucking-stool— rhyw droch-gadair a arferid gynt i gospi men3rwod anystywaHt. Barnu y gwnaethai y tro eto yn burion i lenorion cyffelyh yspryd. Nid pan y mae y gweinidog gartref y mae teulu Nanfygwenwyn yn dangos fwyaf o'u talent. Gohebu tipyn a'r hen wr a'r baich drain yn y lleuad—addaw peidio lluchio ei gap nos ataf os cadwn y Murphyaid a'r Pabyddion yn dawel am chwe mis, troi y Jew allan o fod yn Brif Weinidog, a gwaeddi hwre gyda Bright naw gwaith drosodd nos Fercner. Yr olaf yn unig- a addewais wneud yn sicr. Nid y fi sydd yn gyfrifol fod y pobwyr yn cadw y bara yr un bris, tra y mae y blawd wedi dod i lawr gryn lawer yn ddiweddar. Gallaf ofyn hyny iddynt yn Gymraeg os dewisir—y mae wedi ci ofyn iddynt yn Seisoneg. I" Gweled un o dderbynwyr ffyddlon Y TYIT yn Morganwg yn ei groesawu ar ei helaethiad boreu ddydd Sadwrn diweddaf. Ysgydwai law yn galon- og ag ef, a churai ei gefn yn anwyl, ac cdiychai arno gyda llygaid yn gwreichioni o serchawgrwydd, a dywedai yn, ei briod-ddull teuluaidd ei hun,— Brafo! machan i, 'rwyt ti wedi dod yn gawr ar unwaith, ac wedi maeddu holl bapurach Cymru!' I NiO, oes dim a gystadia gyfaill ffyddlawn, ac nid oes dim a gydbwysa ei degweh ef. Eli einioes yw cyfaill ffyddlon; a'r rhai sy'11 Oflli yr Arglwyclcl a'i cant ef,'—dwy adnod o'r Apocrypha. Myned i Free Library i edrych dros y Saturday Review, ond yr oedd rhyw hen wr barfwyn mewn syndod uwcli ei ben. Dod heibio yr ail waith—yr. un fath. Cynhyg y drydedd waith—mwy syn fyth uwch eu ben. Creffais yn fanylach arno—gwelwn fod yr hen bererin wedi cysgu. Barnu y buasai y Punch yn debycach o'i gadw ef yn effro. Pawb at y peth y bo. Nid wyf wedi cael ininiud o ond am imi 3-swirio fy mywycl ddeg mlynedd yn ol. 1 11 Wedi cael pedair ar ddeg o awdlau i'w hadolygu cyn eu hanfon i Feirniaid Eisteddfod Rhuthyn. Canfod naw cant a hanner o wallau ynddynt. Bron edifarhau na fuaswn yn anfon fy awdl fy hun. Nid wyf yn siwr iawn mai dillad heb dalu am danynt oedd gan y llanciau a welais yn y tren dOi-cl(I Sadvnn. Gwell i holl deilwriaid a siopwyr y d3rwvs- ogaeth anfon gwybodaeth yn ddioed i ojjice yr Hen Peiliwr. G-wisgo dillad collier, a myned i lawer i waelocl y pwll; wedi coibio am ddwy awr, cael hyd i'r LfyfFaut hwnw ddyg-odd yr Englynion hyny gannoedd o fiyn- yddau yn ol. Son am fyned i'w exhibitio i Eistedd- fod Rhuthyn. Yn barod i ddadleu a Daearegwr aitt gywirdeb y ffaitli. Nid y gath dorocld y llestri te yr wykhnos yr oedd y feistres a neb ond y forwyn gartref, ond hi gafodd y bai. Tyngai Pwsi yn crwin nad hi ddarfu. Myned am daith i'r Iwerddon gweled lluaws o']! Shir yn yfed Dublin Slont—wedi ci ar .e, g ia gymmeryd am gofti oor. XNvuc i'w ystyried a dor- g asant eu dirwest. Nid wyf wedi clywed dim yn swyddogol oddiwrtli Gyfarfod Misol Sir Gaernarfon, yn nynmno am nn1 wneud Cofiant i'r Parch J. Jones, Talysarn; nac oddiwrth Gyfarfod Chwarterol Sir Feirionydd, yn dymuno am imi wneud Cofiant i'r Parch Michael Jones. Geneth fach yn gofyn i'w mham ar ganol yr oecl-fa y Sabbath diweddaf, Mam, cysgu y mae y elyll. aew r' gan gyfeirio at rhyw greadur swrth, diflas» yn union o flaen y pregethwr. Welwch chwi mof graffus yw plant. Gwenai un o'r angylion gwarch- e'diol ar y fach. Nid oeddwn yn clywed un gair a ddywedai y pro- gethwr y Sabbath diweddaf am hanner awr. GwelwH ei lygaid yn troi, ei enau yn ysgwyd, a'i law -vil u- ia symud—golwg ryfedd, methu deall yr un sill. Nid oedd y bai i gyd ar y pregethwr. Capel mileinig 0 z;1 dr win. Barnu y buaswn yn gallu clywed yn buriofl pe buaswn yn ddigon o geiliog i fyned i'r nen-bost. NID NOCTIVAGUS-DUW CWSG.
LLANGOLLEN.
LLANGOLLEN. Prydnawn dydd Merclier yr oedd dau dtlyJJ icuangc yn cydweithio mewn ty yn y dref ucliod, aO jmddengys eu bod wedi myned i ymryson ychydig Y mae un o honynt, o'r eniv Williams, yn asiedydw a'r lhdl, o'r enw Davies, "yn baentiwr. Ymostyng' godd Davies at y llawr i dori dernyn o bapur, ac yf oedd y ddau langc wedi ymryson gymmaint- geiriau fel y cymmerodd Williams afuel mewn brlv4 ac a daravrodd Davies ddwywaitli ar ei ,)-ofill Cynhyrfodd hyny gymaint ar y diwedddaf fel Ý tafli'dd siswra at Williams, yr hwn a aeth i'w gefn aD a'i harchollodd. Cymmerwyd Davies i'r ddalfa, dydd Inn cymmerwyd ef o flaen yr ynnel, John Price" Ysw., ond gobiriwyd yr Qchoshycl ddydd Alaivrtl" Y mne y ddouddyn ieaangc o gwmpas 17 oed, aC J maent yn perthyn i denloedd parchus. Yr ydym yJJ deall nad ydyu yr arclioll yn berygius.
LLYTHYRAU CYMRAES YN NGHANAAN.
LLYTHYRAU CYMRAES YN NGHANAAN. LLYTHYE I. [Ysgrifenwyd y liythyr cyntaf hwn gan yr awdures pan yn Paris, prif ddinas Ffrainc, lie bu yn aros am beth amser cyn cychwyn i wlad Canaan.] Anwyl Rieni,—Synais fod eich llythyr yn dyfod mor fuan, a lla,wen oedd genyf ddeall eich bod oil yn fyw ac yn iach. Yr wyf finau yu gwella. Bum yn y capel bob Sabbath er pan ysgrifenais yn Ion- awr. Ni fcelclwn weinidog sefydlog, ond gobeithiwn gael un yn fuan. Mae yma er's tri Sabbath y pre- gethwr goreu a wrandewais i er pan adewais Gy- mru ac wedi y bregeth, yr ydym yn cael cjrfarfod gweddi. Y mae h3n3' yn beth newydd jTiia, ac y niae pob arwyddion fod Duw yn ein canol, ac 3-11 ein bendithio. luddew fydd yma y Sul nesaf. Yr wyf wedi cynefino a'r Ffrancod yma, fel nad wyf yn gweled dim yn rhyfedd ynddynt; ond yr wyf yn gobeithio na ddeuaf byth yn gy-nenn a'u hannuwiol- deb hwy. Taerant mai yiifydr-ffyeld i un ieuanc fel myfi yw son am Feibl, crefydd, a byd arall, yn lie ymfwynhau gyda phleserau ynfyd. Ond hyd yn hyn y mae eu pleserau yn fy ngolwg yn waelach na gwegi, a gobeithio yn nerth gras na newidiaf byth fy marn am danynt; a phe medrwn lwyddo i gael fy nghymmydogion i brofi bias gwir grefydd, credwyf y byddent hwy yn fuan o'r un archwaeth a minau. Dywed rhai o honynt yn wawdus, os oes y fath beth a nefoedd, y byddwn ni fel teulu yn sicr o fod yno, ond nid ganddynt hwy y byddwn yn cael ein barnu. Pan yn d3rfod o'r capel ar nos Sul, ymae yn anhawdd ymwthio trwy gyrchwyr i'r chwareudai a'n cyfar- fyddant. Mae Paris wedi ymroddi i'w gwag- bleserau, ac y mae y gwragedd ieuainc yn ddiofal hyd yn nod am damaid. Wedi priodi, cymmerant ystafell wely fechan; ac wrth fyned at eu gwaith yn y y boreu, galwant am deisen geiniog, neu rywbeth cyffelyb. 0 gylch 11 byddant yn cael eu boreu- fwyd, a'u ciniaw am 6, mewn tai mawrion pwrpasol. Pris y cilliaw rhataf yw saith a dimai, a'u bara eu hunain, ac wedi darfod yniaith a hwy i'r Opera. Y mae y rhan fwyaf yn anfon eu plant i'w magu at ryw hen wragedd yn 3r wlad, ac yn talu lOp. y flwyddyn am hyny ond os bydd y plant yn lliosog, a'r god yn ysgafn, rhaid, wrth gwrs, i'r mamau aros gartref i'w magu, ac ymgeisio am bleserau fel y gallant. Er pan dderbyniais eich llythyr, bu yma TVyl y Cigydclion. Ymwisgai oddeutu cant o honynt ar lun, ac mewn crwyn llewod ac eirth, ac aent o amgylch y ddinas am dri diwrnod. Yn eu canol, mewn cerbyd a dynid gan 6 o geffylau, safai bustach wedi ei wisgo a blodau. Yr oedd Gwyl y Golehgdd- ion rywbeth yn debyg, ond eu bod yn hono yn gwneud dynes yn frenhines yn lie bustach. Y mae arnaf ofn fy mod wedi trosoddu trwy adael i'r Ffrancod yma gael gormod o Ie yn fy liythyr ond maddeuweh i mi y waith hon. Druain oeddynt hwy d -1 a'u pleserau! Gyda y cofion anwylaf atoch, ydwyf, anwyl rieni, eich merch, M. J.