Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

.CYNWYSIAD.

"CYKRHYCHIOLAETir A CHYNRHYCH-IOLWYR…

CYNDDAREDD YR ORANGEMEN.

SEIAT FAWR SASSIWN LERPWL.

News
Cite
Share

SEIAT FAWR SASSIWN LERPWL. Clywais ganwaith am Seiat Fawr Sassiwn Lerpwl; ond ni chefais cyn e-leni y fraint o fod ynddi. Byddaf yn hoffi tamaid da lie bynag y byddo, ac nid yw ond bye-ban genyf fyned dros glawdd ffin sect i ymofya am dano. Mae am- bell un nas gall fwynhau} dim ond ar ei aelwydi ei hun, na bwyta tamai;d' os na bydd wedi ei gogyddio gan ei blaid ei hun. Gan fod cyfie yn rhoi, aethum ar foreu Llun-gwyn eleni i'r Philharmonic Hall, 110 yr oedd seiat fawr y sassiwn yn cael ei chynal. Yr oedd Evan Williams, Pentre-Qchaf (felly yr adwaenwn i o gynt), yn darllen pan aethum i mewn.. Dar- llenodd yn dda, a gweddïodd yn afaelgar a phwrpasol iawn. Teimlwn fod y gwlith yn disgyn gyda'r weddi. Rhoddwyd pennill allan i'w ganu gan Mr. Joseph Williams, Na ddigied yr hen frawd am beidio rhoddi Parch o flaen ei enw nid o un amharch yn wir y peidiais, ond Mr ddigwyddodd dd'od, ac ni welais yn werth ei newid. Tra yr oedd y canu yn myned yn mlaen, cefais hamdden i edrych dros yr Sail a'r gynnulleidfa. Golygfa ardderchog. Mae yna 250, mi feddyliwn, fe allai fwy, ar y platform, a hwnw yn esgyn i fynu yn syth iawn. Yn ei waelod y mae prif weinidogion y corff. Ar bob ogadair esmwyth, un wrth bob pen i'r bwrdd, eisteddai y ddau frawd Hy- barch Henry Rees a David Howells, Abertawe. Wrth gefri y bwrdd, rhwng y ddau, y mae O. Thomas a J. Hughes-yr olaf yn gweithredu fel ysgrifenydd. Ar y ddeheu i Mr. Rees, eisteddai y Doctoriaid Phillips o Hereford, ac Edwards o'r Bala; ac ar yr aswy i Mr. Howells yr oedd Lumley a Robert Hughes y Gaerwen. Mae y gweddill blith draphlith fel y digwyddai. Ar waelod y Neuadd, yr oedd, mi feddyliwn, 1,200 o bersonau. Yn y boxes, yn y ddwy ochr, a'r talcen, gallaswn gasglu fod yno 400 a rhyw 500 arall, mi feddyliwn, yn yr oriel- yn gwneud i gyd, mor belled ag y medrwn farnu ar amcan-gyfrif, rywle tua 2,400. Nid wyf yn sicr, ond yr wyf yn meddwl nad wyf yn mhell iawn o'r marc. Yr oedd golwg wych iawn ar yr holl dorf; nid yn unig yr oeddynt yn edrych yn dda, ond edrychent yn foneddig- aidd. Nis gallaswn berswadio fy hunan mai dyma olynwyr yr hen Fethodistiaid a adwaen- wn pan yn fachgen. Gwarchod ni, beth pe gwelsai Huw Prisiard, Saer Maen, yr olygfa. Bychan fuasai ganddo dynu y grib drwy wallt y llanciau yma, a rhwygo rubanau y merehed yn gareiau. Clywais ef yn dyweyd geiriau fel brath cleddyf ar lawer Ilai o achos. Ond yr oedd Huw druan cyn falched ei hunan yn ei glos ffustion rib a neb o honynt. Yr oedd y cyfnewidiad yn yr olwg oddi allan yn llawen- ydd mawr i mi; ac nid rhaid iddynt, o ran hyny, fod wedi gwaelu mewn crefydd ysbrydol oddifewn. Nis gwn pa eisiau cwyno sydd fod y gogoniant yn ymadael, am fod y bobl yn cyf- oethogi a'r capeli yn gwychu. Bu y gogoniant yn amlwg mewn teml orwychacli, na dim a fedd y Cymry o ran hyny. Ond at y seiat fawr. Mr. Rees oedd y cadeirydd, Yr oedd golwg dda iawn arno, wedi ei wneyd gan natur yn bregethwr. Dyn tal, llathraidd, syth er yn ddeg a thrigain oed, gallaswn famu y gall fyw yn hawdd am ugain mlynedd eto, ac mi wn y dywed pawb-byw fyddo. Galw- odd ar Mr. Samuel Jones, Pall Mall, yr hen ddiacon hynaf (blaenor, hwyrach, ddylaswn ddyweyd wrth son am Fethodistiad) y dref. Hen gofiadur manwl a gofalus ydyw Mr. S. J ones. Nis gallaf gofio y cyfrifon yn awr. Byddai yn dda genyf eu cael. Yr oedd yr ar- graff ar fy meddwl wrth wrando am rif yr ael- odau a chyfanswm y casgliadau nad oedd y cyfraniadau yn ateb i rif ac amgylchiadau yr aelodau. Dyna darawodd fy meddwl ar y pryd, yn enwedig ynglyn ar tanysgrifiadau eglwysig —llai, os wyf yn cofio yn iawn, na deg swllt y flwyddyn ar gyfer pob aelod. Ond yr oedd y cyfanswm, er hyny, yn swm anferth. Galwyd ar Dr. Phillips i ddyweyd gair ar yr Adrodd- iad. Cafwyd ganddo, nid gair, ond araeth ragorol. Dywedodd y peth oedd eisieu ei ddy- weyd ar yr achlysur. Arweiniodd y gynnull-, eidfa yn ol i ryw hen gwar (chwarel) lie y dechreuodd y Methodistiaid addoli pan nad oeddynt ond ychydig o bobl druain dlodion, a galwai arnynt I i gofio y graig eu naddwyd,. a cheudod y fpofl y cloddiwyd hwy o honi.' Dy- wedodd eiriau difrifol wrthynt-mai hyny o grefydd oedd o'u mewn yn y diwedd oedd: eu nerth a'u gogoniant. Rhoddodd Mr. John Hughes i lawr y mater oedd wedi ei benodi i fod yn destyn y seiat.— I Y dijrifoffieb a'r solrwydd sydd, yn gweddu i rai yn proffem duwioldeb. Y difrifwch yma yn ein hymwneyd ag ordinhadau dwyfol, ac yn ein hymddiddanion cyffredin. Testyn cymhwys iawn i'r amserau hyn. 0.. Thomas oedd y cyntaf a alwyd i siarad arno. Dywed- odd ychydig eiriau difrifol ar dclifiifoldeb. Cyfeiriodd at y cyfnewidiad sydd wedi dyfod dros Fethodistiaid. Mai i'r eithafion arall o brudd-der a phendrymder yr oedd yr hen dadau yn agored i syrthio. Gwnaeth eylw da iawn, mai argyhoeddiad dwfn yr hen, bobl osododd y wedd ddifrifol oedd ar eu hwyaebau—fod eu pryder am eu mater eu hun y fath fel nas gallasent fod yn gellweirus. Cymmeradwyai sirioldeb, ond ei gadw o fèwn terfynau, a pheidio ei ollwng yn ysgafnder gyda phethau dwyfol. Dywedodd fod dynion cellweirus bob, amser yn dyfod i ryw ddiwedd truenus; a bodL yn dyfod i'w feddwl y funud hono am rymai glywodd yn y pulpud yn pr-epethu, ag y gallagai dynion o draw feddwl e-u, bod yn ddifrifol ond erbyn eu dilyn i'r coaglou, mai cellweirwyr oeddynt, a diwedd rhai, o, honynt fu ymadael a'r byd heb fod mewHi un cyssylltiad ag achos. yr Arglwydd. Rhoddodd yr hen Howells Abertawe anerch-. iad cynhes dros ben.. Nid yn uniongyrchol ar y mater; ac eto yr oedd yn dyfod ar ei draws yn ami, ac yn dyweyd ambell sylw pur gyr- haeddgar. Yr. eedd yn hapus iawn, yn fwy humorous nag y clywais ef erioed; ac eto yr oedd ei eiriau yn bachu. Gwnaeth gyfeiriadau mor effeithiol at weddïau ac addysgiadau mam- au, fel nad wyf yn meddwl fod yno un gwyneb sych yn y gynnulleidfa. Teimlwn yn sicr ei fod yn gwneud lies. t Dywedodd R. Hughes, Gaerwen, ychydig eiriau digon pwrpasol; a dilynwyd ef gan Samuel Jones, Castellnedd gynt, Dyn bychan du, pur wanaidd yr olwg arno. Yr oedd yn hawdd deall yn ei lygaid a'i wyneb ei fod yn fwy meddylgar na'r cyffredin. Go bruddaidd a chwynfanus oedd style y ddau. Wrth fod yn ddifrifol, nid oes eisieu i ddyn dori ei galon ychwaith. Dr. Edwards, o'r Bala, a siaradodd i bwrpas. Nid dyweyd rhywbeth i basio yr amser, end dyweyd am fod ganddo rywbeth i'w ddyweyd., Nis gallaf gofio y cwbl a ddywedodd, er y b-tA,. asai yn dda gonyf allu rhoddi pob gair i law. Enwogrwydd pob cyfarfod crefyddol,' me-adai, ydyw ei fod yn gyfarfod i ddifrifoli. Nid eedd ef yn gwelod dim o lo mewn eliwareu diniw. Mae pob creadur ieuanc yn chwa- reus. Mae yr oen yn chyfareu yn gystal a'r tiger, ond fod chwareu yt oen yn ddiniwed, a chwareu y tiger yn grc-ulon; ac mai dyna y pryd yr oedd difyrweb, yn myned yn bechad- urus, pan elai yn greralondeb i larpio cymmer- iadau. Gwnaeth svlw mai y dynion mwyaf cellweirus sydd yr, y diwedd yn troi allan yn fwyaf creulon. Na bu Lloegr erioed yn fwy cellweirus nag^edd yn nyddiau Charles yr ail, yn y gwrthweithiad ar ol llymder Cromwell a'r Puritaniaid. Yr oedd yn rhaid cael Llyfr y Chwareuon,' a chyfarfodydd i chwareu; ond mai dyna yr adeg y gwnaed y creulonderau mwyaf, a hyny gan y dynion a reilent ar ol difyrweh, Fel meddyginiaeth rhag yr ysbryd yna, cymmhellai hwy i weithio—nad oes gan y dynion sydd yn llawn gwaith ddim amser i gellwair. Arwyddair Dr. Arnold oedd 1 Be earnest: Yr hen air oedd 1 Be serious.' Y mate y cyntaf yn cyfeirio at weithio, a'r olaf at deimladau. 0 ddifrif yn gweithio. Gweith- iwch trwy ddarllen, meddai. Melldith yr oes ydyw llyfrau heb ddim gwaith i'r meddwl ynddynt, Gallwch eu darllen ar hanner cysgu; a phe byddech yn cysgu, chollech chwi ddim. Faint o honoch, chwi,, fechgyn Lerpwl yma, sydd yn wedi darllen Hooker, a Kant, a Reid, a Mill ? J Darllenwch lyfrau a ba^i'eh medd- yliaiz ym-sefydlu. Darllenwch lawer ar yr un llyfr. Wrth ddarllen llawer o lyfrau, ac heb ai os ar yr un o honynt, y mae y meddwl yn myned !yn wasgarog., Blino ar bob peth, heb aros gyda dim. Darllenwch bob llyfr nes ei ddeall; Byddweh o ddifiif. M, ae ar ddynion leuamc ofn bod yn ddifrifol, rhag cael eu cyfrif yn rlmgrithwyrond y mae rhith-ddigrifweh yn gystal a rhith-sobrwydd, coeg-ddigrifweh,' digrifweh gwag, digrifwch heb ddim ynddo. Yrydychchwiyma dan anfnntais rhagor ni yn y wlad. Yr ydym ni yn nghanol pethau. mawrion, a chwithau ynrxghanol pethau bach. Mae gweled y mynyddoedd uchel, a'rllynoedd mawrion, y pethau aruthrol a wnaeth Duw, yn (help mawr. i'n, cadw na yn ddifrifol. Ond pethau byehain. o waith dynion ydyw eich pethau mwyaf, ehwi ;■ ac y mae perygl i chwi- thau fynedynifychaiui yn eu canol. Yr unig ffordd i chwi. ddyfod: atoch eich hunain ydyw myned o'r neilldu, a chuu arnoch, a chewch Dduw eto yn yr hen Feibi yma. Maent wedi ei gau allan, bron o bob man arall. Gwnewch hwn eich llyfr,. a chewch ddigon ynddo i ddi- fyru eich- eneidiaiL. Anerchiad i'r pwrpas ydoedd.. Nid, wyf ead ysgrifenu o gof, fel nas gallaf ond, rhoddi, awgrym o'r llwybr a gerddodd. Galwyd; ar T: Edwards, Penllwyn, brawd L Dr. Edwards, i ddyweyd gair, yr hyn a wnaeth yn dyner iawn.. Rogçr, Edwards, Wyddgrug, a siaradodd yn bwrp^sol dros ben. Yr ooddwn yn meddwl ar y pryd y gallaswn gofio y cwbl i'w gofnodi, gan gymmaint y pleser a f'wynhawn ond ni wnawn. ond, lljapgunio ei ddywediadau, tlysion pe cynnygiwn eu gosod i lawr yma. Galwyd: ar un Harries, o Ironton,. America, i ddyweyd; ychydig eiriau. Yna terfynodd D. Jenkins, o sir Fynwy, tnvy weddi ddwys ae felly y dibeaodd Seiat Fawr Sassiwn Leipwl elenl Siomwyd fi ynddi o'r ochr oreu. Yjr oeddwn dan yr argraff nas gwn o ba le y cefais ef fod yno. lawer iawn o rwysg a rhocb.-AS. Ni thc-lm- lais i dd £ oi o hyny. Yr oedd yno dorf fawr, a i golwg vmpo&ing oedd ei gwelecL Ni chlywais erioed lai o wenieithio, a mawrygu, a seboni ar bobl. Dangosai yr anerchiadau gan y giveini- dogicn- eu bod hwy, beth bynag, yn ddynion o ddifriif; ac os nad yw yr aelodau yn jrnddwyn yn dieilwng, nidam nad yw ten y pulpud yn ddi- gon uchel a phur y mae byny, yr wyf yn sicr. Hwyrach y buasai anibell, un o enwad arall, pe- digwyddasai fod yno, yn barnu eu bod yn Bed Fethodistaidd nidi o blegid fod: yno fawr- ygu Methodistiaeth, mewn un modd, ac yn sicr nid am fod yno delinnygu enwadau ereill; o blegid nid awgryrnwyd yno air angharedig, ond yn absennoldeb pob-, crybwylliad am fodolaeth pob enwad arall. fi) ran dim a ddywedwyd yn y cyfarfod hwnw,. nis gallasai neb ddeall fod yr un capel Cymraeg gan yr un enwad arall yn Lerpwl, nac un qnwad arall i'w gael i fod a chapel ganddo.. Mae y medr yna i gadw eu hachos eu huix^in yn seagl o flaen ell. pobl yn tact gan Fethodistiaid nad yw yr Annibynwyr- o leiaf wedi, ei ddeait, Ni chymmeraf amaf ddyweyd pa nn ai ennill ai colled iddynt yw hyny. Yr yn sicr yn fy meddwl fod y bobl y$; ymadael o'r cyfarfod wedi derbyn, mewn Mbrdd axtuniongyrchQl, fwy o sel enwad- ol, ae. y. teiinjoiit yn fvlcli o'r enwad a allasai wne-y,d! tuna out mor anrhydeddus. HEN WYLI-NV-U.

ERLYNIAD Y CYN-LYWYDD EYRH.

DYCHWELIAD Y FYDDIN.

RHAGOR 0 ARIAN I DYWYSOG CYMRU.