Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
24 articles on this Page
ABERHONDDU.
ABERHONDDU. Y TONIC SOL-FA.-Nos Fawrth, y 19eg cyfisol, tra- ddodwvd darlith ar y testyn uchod yn yTown Hall, gan Mr Robert Griffith, Llundain. Llywyddwyd gan P. Bright, Ysw., maer y dref. Gwedi eael ych- ydig o eiriau ar fanteision y gyfundrefn gan y llyw- ydd, galwyd ar y darlithydd i annerch y cyfarfod. Sylwodd j n fyr ar yr hoffder sydd yn mhlith pob dosbarth o ddynion am gerddoriaeth. Eglurodd beth oedd ei plnif hanfodion, natur ei seiniau, yn nghyd ag effaith feddyliol (mental effectJ y gwahanol seiniau. Unodd y gynnulleidfa amryw weithiau i ganu yn y Voluntaries oddiar y Modulator yn ol ar- weiniad y darlithydd. Teimlai Mr Griffith yn falch ei fod wedi cael v fraint o dalu ymweliad a'i wlad enadigol—y wlad lie y mae yr elfen ganu mor gref. Credai nad oes yr un moddion yn well i ddwyn allan yr elfen hon i berffeithrwydd na'r gyfundrefn bres- enol, a gobeithiai y byddai i'r dydd i wawrio ynfuan y gellir galw y Cvmry yn genedl o Donic Sol-faists. Cyflwynwy d diolchgarwch i'r darlithydd gan Profesor Morris, o'r Coleg Annibynol, ac eiliwjd ef gan y Parch H. Griffiths. Diolchwyd i'r llywvdd gan y darlithydd, ac eiliwyd ef gan y Parch W. Thomas, Bwlchnewydd. Y CAPEL PRESBYTErAIDD.-Aeth y Senior Class sydd 0 dan arweiniad Mr E. Cynffig Davies yn y Capel uchod o dan arholiad Mr Griffith ar yr Inter- mediate a'r Old Notation Certificates.' Llwvdd- odd yr holl rai a ymgeisiodd, sef Miss Annie Evans, Miss S. T. Jones, Stuart House; IVIR T. H. Williams- Mr William Evans, Draper; Mr J. B. Moss, Golyg- ydd y Brecon County Times Mr Joseph Johns (Brig- yronen), myfyriwr o'r Coleg Annib vnol; a Mr Henry Price. Ond arholwvd y Parch D. W. Davies, gwein- idog y lie, gan y Parch W. Thomas, Bwlchnewydd, a phasiodd trwy yr un certificates yn llwyddianus. Arholwyd y Junior Class sydd dan addysgiaeth y Parch D. W. Davies. Ymgeisiodd 12, ac ennillasant y Crimson Prize. Y mae eu henwau fel y canlyn :— Mary M. Jones, Sarah A. Edwards, Margaret A. Morgan, Lizzie Morgan, Edward Morgan, Isabella, Emily, a Ellen Louisa Davies, Margaret Price, Eli- zabeth Price, Sarah Stephens, ag Alice Ball. Ar- holwvd Mr D. Jenkins, Trecastell, am yr advanced certificate gan Mr Griffith. Y mae y gwr ieuanc hwn yn Tonic Sol-faist gobeithiol dros ben. Cyn- haliwyd cynhadledd nos Fercher, ynYsgoldy y Capel uchod, pryd v rhoddodd Mr Griffith amryw hyffordd- iadau i berffeithio add) sgiaeth y gyfundrefn. Can- wyd amryw ddarnau gan y gynnulleidfa er boddhad mawr i'r darlithydd. Gwedi talu diolchgarwch i Mr Griffith, diweddwyd y cyfarfod trwy ganu yr Anthem Genedlaethol. CAPEL Y PLOUGH.—Bu y Parch W. Thomas, Bwlch- newydd, yn arholi y dosbarth sydd yn y lie uchod, a phassiodd amryw yr Intermcdiate, Old dotation, a'r Elementary Certificates Y COLEG.-Dymunir hysbysu y cyferfydd Pwyll- gor Coleg Aberhonddu yn y Colegdy, ddydd Mawrth, y 9fed o Feliefin, am 3 o'r gloch yprydnawn ac v eyi-ihelir y Cyfarfod Cvffredinol ar y dydd canlynol (lOfed), am 10 o'r gloch y boreu. Disgwyliri'r ym- geiswyr fod yn y Colegdy i'w arholi gan yr Examin- ing Board am 6 o'r gloch dydd Llun (8fed).—H. Griffiths Ysgrifenydd.
BALA.
BALA. GALWAD.—Da genym ddeall fod Mr T. Evans, o Goleg Annibynol y Bala, wedi derbyn galwad un- frydol oddiwrth yr eglwysi Annibynol yn Betwsy- coed a Chapel Garmon. Deallwn fod Mr Evans yn bwriadu eu hateb. Da genym fod yr eglwysi uchod wedi bod mor ffortunus a dewis dyn ieuanc mor obeithiol. Y mae Mr T. Evans yn ddyn o gymeriad diargyhoedd, ac yn bregethwr gwir boblogaidd.— ,,y Gohebydd.
BETHESDA.
BETHESDA. Y DDAEAR A'R FFURFAFEN.Traddododd Dr. Rees, Liverpool, ei ddarlith odidog ar y testyn uchod yn nghapel yr Annibynwyr, Bethesda, nos Fawrth, Mai 19eg. Etholwyd y Parch T. Roberts, (T.C.), Jerusalem, i'r gadair, yr hwn a'i llanwodd yn mhob ystyr o'r gair. Yr oedd y gweinidogion canlynol ar P-Y Parchn. G. Jones, Tregarth J. Jones, (T.C.), Brynteg; H. Jones, (T.W.), Siloh; G. James, (B.), Tabernacl; E. Stephens, Tanymar- ian; W. Griffiths, Amana; a Rees Jones, myfyriwr o Goleg Aberhonddu. Da genyf ddweyd i dorf lu- osog ddod yn nghyd, er ei bod yn noson hynod o anghyfleus. Ni rhaid i'r Dr. wrth ganmoliaeth; gwnaem gam ag ef pe yr amcanem at hyny. Digon yw dweyd iddo siarad am yn agos i ddwy awr nes gwefreiddio yr holl gynnulleidfa. Yr oeddym yn deall fod yr elw yn myned at achosion daionus yn nglyn a chapel newydd Treflys.—Beruenydd.
BRECHFA.
BRECHFA. CYMDEITHAS ST. TEILO.-Dydd Mercher, y 13eg cyfisol, cynhaliwyd gwledd flynyddol y gymdeithas uchod am y waith gyntaf. Wedi i nifer luosog o'r. aelodau ddyfod yn nghyd, ffurfiasant yn rhes gryno, a chychwynasant yn drefnus i gyfarfod J. M. Davies, Ysw., Ffroodvale, yr hwn sydd wedi cydsynio i roddi ei enw fel aelod anrhydeddus. Yr oedd yr ymdaith hon yn hynod bleserus, oblegid heblaw fod yr hin yn ffafriol, yr oedd chwareu swynol band hyglod Llandyssil ar eu hofferynau yn gwasgar bywiog- rwydd a hwylusdod trwy yr holl dorf. Wedi cyfar- fod a'r boneddwr uchod, dychwelasant yn rheolaidd i'r pentref, a cherddasant yn uniongyrchol i'r Eglwys, lie y cafwyd pregeth hynod gyfaddas gan y Parch Mr Jones, offeiriad y plwyf. Wedi dyfod allan, cyfranogodd yr holl aelodau o giniaw a bara- towyd ar yr achlysur yn y Forest Arms, ac wedi yfed iechyd da y boneddigion presenol, rhoddodd Mr Davies speech bwrpasol dros ben ar yr amgylchiad, a dilynwyd ef gan amryw eraill. Wedi treulio y pryd- nawn yn hyfryd a gweddaidd, dychwelodd pawb i'w gartref yn lion a boddlongar. Wrth ystyried yr ychydig amser sydd er pan sefydlwyd y gymdeithas uchod, y mae ei chynydd a'i llwyddiant yn bob peth a ellir ddymuno. Y mae parhad pob cymdeithas o'r fath yn ymddibynu i raddau mawr ar undeb; tra byddo brawdgarwch yn ffynu rhwng yr aelodau, gall herio pob ymdrech i'w diddymu ond unwaith y torir y rhwymau euraidd sydd yn eu dal yn nghyd, y mae dyddiau y gymdeithas hono wedi eu rhifo— gellir dyweyd wrthi am drefnu ei thy, canys marw fydd, ac ni bydd byw.' Ond gan fod pob arwydd- ion yn addaw hir oes i Gymdeithas St. Teilo, llwydd- iant iddi, meddwn ni, a dyweded yr holl aelodau 1 Amen! TONIC SOL-FA,-Dydd Iau, Mai y 14eg, bu arholiad ar y Tonic Sol-fa yn Brechfa, gan y Parch W. Thomas, O.N., (Arholydd), Bwlchnewydd, pryd yr aeth yr holl ddosparth trwy ei waith yn llwyddianus, Cafodd pump o honynt yr Intermediate Certificate, a saith yr Elementary. Enwau y personau a gafodd yr Elementary Certificate yn unig oedd Evan Rees, Temple; David Thomas, Castle Green; David Davies, Gilfachgoch; William Morgans, Maries Mill; L. Thomas, Lan; Mary Evans, Union Hall; Mary Rees, Temple; a'r rhai canlynol y ddau Cer- tificate :—John Griffiths, Llwyngruffydd; David Rees, Abergole; Evan Davies, ilystun; T. Rosser, ysgolfeistr, Brechfa; a Mr R. H. Lewis, Forest Arms. Ar y diwedd, rhoddodd Mr Thomas gymmeradwy- aeth uchel iddynt fel y cantorion goreu a ef yn eu holi erioed, a dywedodd fod eu hathraw llafurus, sef Mr W. Rhydderch (Gwilym Glan Hafren), Cwm- llydan, yn haeddu clod mawr am ei ddiwydrwydd i'w dysgu.-Gohebydd.
CWMLLYNFELL.
CWMLLYNFELL. Dydd Llim wythnos i'r diweddaf, claddwyd yma hen wraig o'r enw Magdalen Williams, Cwmtwrch, yn 73 oed. Pregethwyd yn ei hangladdgan y Parch J. Evans, Beulah, (B). Dydd Mercher eilwaith, cafodd gweddillion hen wr o'r enw Roger Jones, Gelli, yn 73 oed, ei ddaearu hyd foreu y chwythsain fawr. Pregethwyd ar yr achlysur hwn gan y Parch R. Price, y gweinidog. Dydd Gwener wedi hyny, claddwyd hen wraig o'r enw Margaret Price, Bryn, Cwmllynfell, yn 86 oed. Pregethwyd y tro hwn gan y Parch J. Morgans, sir Aberteifi, yr hwn oedd wedi rhoddi ei gyhoeddiad yn achlysurol. Yr oedd i'r hen wraig ar ei chladdedigaeth tua 55 o wyrion a 28 o orwyrion, ac y mae un peth hynod mewn cyssylltiad a hanes y ddwy hen wreigan yma a gladdwyd o fewn yr un wythnos, fod eu gwyr hwynt wedi cael eu di- wedd eill dau trwy syrthio yn ddamweiniol i'r pwll glo, sef pwll Cox fel ei hadnabyddir ef yma; gwr y blaenaf er's rhywle tua 35 o ilynyddoedd yn ol, a gwr yr olaf er's 40 mlynedd i Ebrill diweddaf. Dydd Sadwm eto, claddwyd un Morgan Lewis, dyn ieuanc 24 oed, genedigol o Gwynfe, sir Gaerfyrddin. Pre- gethwyd y tro hwn, yn absenoldeb y gweinidog o herwydd cystudd corphorol, gan Mr D. Morgan, pre- gethwr cynorthwyol yn y lie. Cyfarfyddodd Morgan Lewis a'i angeu ar yr awr na thybiai, a hyny trwy fyned ryw ffurdd yn anhysbys i afael olwynion peir- iant manus (chaff-cutter), yr hwn a weithid gan ddwfr. Yr oedd y trancedig yn fachgen tawel, tyner iawn o'i rieni, ac yr oedd y teimladau drylliedig yn ei gynhebrwng ac ar lan ei fedd, yn arddangosiad o'u mawr serch tuag ato. Gwasanaethed y mynych rybuddion er daioni, ac er dSvyn pob anystyriol i weled mae yn nghanol ein bywyd yr ydym ni yn angeu, a phriodol iawn y gellir arfer geiriau y Salmydd at y dyn ieuanc hwn, I Gostyng cld efe fy nerth ar y ffordd, go Lyrliaodd fy nyddiau.'—Epenetus.
CRICIETH.
CRICIETH. Dydd Iau diweddaf, yr oedd hen wraig, yr hon oedd yn gwbl fyddar, yn croesi y ffordd haiarn, a geneth fechan gyda hi, daeth y gerbydres heibio a lladdodd yr hen wraig mewn eiliad. Datguddia y trengholiad y bai, os oes bai ar rywun. b Y mae y dref hon yn cynhyddu yn gyflym y dydd- iau hyn, ac y mae yn dda genym weled cyfieusderau yn cael eu caniatau i adeiladu tai. Y prif adeilad sydd yma yn awr heb ei orphen yw Capel newydd hardd yr Annibynwyr. Disgwylir y bydd yn barod i'w agor tua diwedd Gorphenaf.
CEMAES.
CEMAES. Llun a Mawrth, y 18fed a'r 19eg o'r mis hwn, cynhaliodd Annibynwyr Cemaes, Mon, eu cyfarfod blynyddol. Pregethwyd ynddo gan y Parchedigion E. James, Llanhaiarn; J. Williams, Caecoch; E. Evans, Caernarfon; a J. Thomas, Liverpool. Yn gysylltiol a'r cyfarfod cafwyd dwy bregeth yn Seion hefyd nos Lun, a dwy nos Fawrth. Yr oedd yr hin yn gysurus, y cynnulliadau yn dra lluosog, a'r pre- gethau yn ddylanwadol iawn.
CWMYGLO.
CWMYGLO. Nos Sadwrn, Mai 16eg, traddodwyd araeth effeith- iol ar Ddirwest gan Miss Paynter (Rahel o Fon), yn y Tabernacl, addoldy perthynol i'r Annibynwyr. Cymmerwyd y gadair lywyddol gan Mr R. Williams, Cwmyglo. Cymmerodd Miss Evans (Eos Gwynedd) ran yn y cyfarfod trwy ganu yn rhagorol fel arfer. Hefyd, canodd cor y lie yn ganmoladwy. Wedi cyf- lwyno y diolchiadau arferol, ymadawodd pawb wedi eu llwyr foddloni.-Bi-odoi- o'i, Owm.
EIN GOHEBYDD 0 SIR FON.
EIN GOHEBYDD 0 SIR FON. Mri. Gol.,—Rhyw go ychydig o hanes Sir Fon yma sydd yn cael ei yru i chwi, neu o leiaf ychydig sydd yn ymddangos yn y TYST. Mae digwyddiadau pwysig iawn wedi cymmeryd lie heb i chwi goffhau dim am danynt. Clywais gwynion lawer gwaith yn y Sir na bae mwy o hanes o'r Sir yn y TYST. Ond yr wyf yn meddwl mai arnom ni y mae y bai, ac nid arnoch chwi. Efallai nad annerbyniol genych fyddai rhyw bwt o lythyr rwan ac yn y man o'r hen Sir glodwiw. A dyweyd y gwir i chwi yn ddistaw, yr wyf yn credu y byddai eich derbynwyr yn lluosocach o lawer pe byddai genych ryw ohebydd ffyddlon yn y Sir; a buaswn yn cynyg iddo fod yn boliceman yr enwad. Clywais gynygiad unwaith mewn Sir arall am osod brawd mewn swydd felly. Nid wyf yn enwi Neb, rhag i Neb wybod fod son wedi bod am dano. Ond dyna oedd yn cael ei gynyg-rhoddi coat las, a botymau gwynion, a stripe ar ei fraich. Ond ni welais mo Neb yn ei lifrau eto. Ond efallai bod gwelliant wedi ei gynyg ar ol i mi adael y Cwmni, a'u bod wedi barnu yn well ei wneud yn detective. Yr wyf yn credu bron mai felly y bu, oblegid mae y detectives yn newid eu gwisg, fel y gwyddoch chwi tua'r dref yna. Na ddigied Neb wrthyf am i wneud rhyw sylw fel hyn yn fy rhag- ymadrodd. Cleve)- fellow ydyw o er hyny. Wel, rhaid i mi fyn'd yn fy mlaen, onide dyma lie byddaf, chwedl yr hen bregethwr er's talm. Sir Fon oedd genyf yn cychwyn, ond dyn a'm helpo, dyma fi wedi ei gadael er's meityn i rywle, Nid wyf yn bwriadu y tro hwn gasglu rhyw lawer o hanes i'w anfon i chwi—cymmerwch hwn fel rhyw ragym- adrodd. Mae peth wmbreth o hanes i'w gael wrth grwydro y wlad efo'r moch yma. Clywais dipyn o hanes y cyfarfodydd a fu tuag ardal Amlwch, ond gadawaf hyny gan gredu eich bod wedi cael eu hanes gan rywun wyr yn well. Clywais dipyn o hanes marchnad Llangefni ddoe, sef Dydd Iau Dyrchafael. Mae hon yn farchnad fawr iawn yn arferol a bod, gan ei bod ar ben tymor. Deallaf mai felly yr oedd hi ddoe llawer iawn o bobl ieuainc o'r ddau ryw, a rhai o honynt yn lied afreolus, medda nhw. Dy- wedwyd wrthyf mai go slow oedd y cyflogi yno, ac wrth edrych ar y fath dyrfa ag oedd yno, mae yn anhawdd gwybod pa le y ceid lie iddynt i gyd. Clywais fod un digwyddiad anghysurus iawn wedi cymmeryd lie, sef ceffyl wedi rhedeg mewn gwyllt- ineb trwy gwr o'r dref wrth ddod i'r farchnad. Ni chlywais beth a achosodd y trychineb, ond fe anaf- wyd un dyn yn drwm iawn, a dwy ddynes. Ofnir y bydd y codwm a gafodd pan ddymchwelodd y car yn angeuol iddo. Car Ty Pigin, yn agos i Fall- traeth, ydoedd. Syrthiodd un dyn arall oddiar wal y bont, tra yr oedd yn edrych ar y stalwyni yn cael eu dangos, a brifodd ei weft., Peth rhyfedd na byddai mwy yn brifo, neu gael eu brifo, pan mae cymaint o ryfyg yn cael ei arfer wrth eu dangos. Yr wyf wedi ymdroi gormod ar y dechreu i fanylu iim y tro hwn ar bethau y wlad, ac y mae llawer Lawn o bethau pwysig ryfeddol wedi myned bellach yn rhy hen; ond ceisiaf wylio symudiadau pethau o hyn allan, os bydd hyny yn dderbyniol gan Olygwyr y TYST CYMEEIO. Da genyf gael dyweyd wrthych yn gyhoeddus fel hyn fod y TYST yn trymhau bob bro yn mam y wlad. Mae busnes yn fy ngalw, fel y gwyddoch, i bob cwr, a chodi y TYST glywaf fi yn fwy y naill wythnos ar ol y llall. Bernir yn gyffred- inol y daw yn bapur pwysig iawn. Ewch yn mlaen, foneddigion, i wasanaethu y wlad, a gobeithiaf y bydd y wlad yn ffyddlon i'ch gwasanaethu chwithau.
MERTHYR TYDFIL.
MERTHYR TYDFIL. Rhyw ddistaw a digyffro yr ydym ni wedi byw yma yr wythnos hon. Yr oedd Cymanfa yr Anni- bynwyr yn cael ei chynhal yn Newton Nottage, a Chymanfa Ddirwestol Gwent a Morganwg yn Dow- lais ar yr un dyddiau fe allai fod gan hyny rhyw beth i'w wneud er cadw pob cyffro neillduol oddi ymaam yr wythnos hon. Er na wnaeth dynion lawer o dwrw yr wythnos hon, gwnaeth anian dipyn bach tua phrydnawn dydd Iau, drwy fellt a tharan- au. Ni ddigwyddodd niwed i ddyn nac anifail, ond i ambell i nervous system, ac y mae yn debyg i hen fur gardd ar Dwynyrodyn syrthio. Ni wyddis pa on ai cael ei tharo gafodd neu ynte dychryn nes syrthio, oblegid yr oedd yn hen a chrynedig, a thipyn bach o gryndod o dan ei gwadnau oedd yn ddigon iddi golli ei chydbwySedd. Er nad oes llawer o bethau cyhoeddus yn myned yn mlaen yma yn awr, h.y., pethau ag y gofalai eich darllenwyr wybod am danynt, y mae yma bethau dirgelaidd yn cael eu cario yn mlaen. Gwyddoch, Mri. Gol., i mi eich hysbysu ychydig amser yn ol am y cyffro mawr fu yma ar bwnc Addysg. Yn y cyf- arfod cyhoeddus diweddaf ar y pwnc, pasiwyd pen- derfyniad croes i addysg orfodol a secular. Yr oedd leaders y mudiad dros addysg orfodol a secular, ac wedi cael eu gorchfygu ar open platform, y maent wedi efelychu yr Eglwyswyr yn Llundain i gynhal cyfarfodydd i bleidleisio yn erbyn Bill Mr Glad- stone, sef gwrthod admittance i bob un na fydd wedi cael tocyn, ond nid oes tocyn i neb heb iddo broffesu ei hun yn ffafriol i'r Eglwys Sefydledig. Felly y mae cyfeillion addysg orfodol a secular yn gwneud yma. Cynhelir yma gyfarfodydd (dirgelaidd wrth reswm) er cynllunio mesurau i bleidio addysg orfod- ol a secular. Yr oedd yn ddealledig fod penderfyn- iadau y cyfarfod cyhoeddus i gael eu hanfon i'r Sen- edd, ond nid ydynt hyd yn hyn, meddir, wedi cy- chwyn o Merthyr. Rhyddfrydwyr yw y rhan fwyaf, os nid yr oil, o'r cyfeillion hyn, ac ymddengys wrth glee y gath sydd weithiau yn dod allan o'r cwd, eu bod yn teimlo mor bwysig ar y cwestiwn, fel mai hwn fydd eu war cry nhw yn yr etholiad nesaf. Clywsom, ond yr ydym yn gobeithio mai nid gwir- ionedd yw, fod Ysgrifenydd Pwyllgor Mr Henry Richard yn dyweyd na rydd efe ei vote i Mr Richard hyd nes yr addawo bleidio addysg orfodol a secular. Y mae yn llawn bryd bellach i Xmneillduwyr Mer- thyr i ddeall eu gilydd, ac i ddewis eu tir erbyn y frwydr sydd yn agoshau.
DOLGELLAU.
DOLGELLAU. CYFARFOD BLYNYDDOL Y BEDYDDWYE.—Cynhaliodd y Bedyddwyr eu Cyfarfod Pregethu eleni ar y Sul a'r Llun, Mai 17 a'r 18, pryd y gweinyddwyd ar yr achlysur gan y Parchedigion Thomas, Llangefni; Davies, Llangollen; Evans, Cefncymerau Thomas, Aberteifi; a Jones, Pwllheli. Hyderwn na bu ym- weliad y gwyr parchedig hyn a'n tref ddim yn ofer, ond yn hytrach iddynt ddyfod i'n plith, < gyda chyf- lawnder bendith efengyl tangnefedd.' Dymunem o'n calon bob llwyddiant iddynt, a hir oes i'r eglwys a'i gweinidog i ymdrechu o blaid rhinwedd a sob- rwydd, ac yn erbyn pob gormes ac anghyfiawnder. Ewch rhagoch, gyfeillion, y mae genych chwi, fel eraill, dir lawer eto heb ei feddianu.' TEA PABTY A CIIYFAEFOD ADEODDIAD.—Mr Gol., clywais lawer o siarad a brolio, a chanmol, gan wa- hanol bersonau o bryd i bryd ar Gyfarfodydd Tea, a gwelais dudalenau newyddiaduron yn cael eu britho a hanesion am y cyfryw gyfarfodydd, ond rywfodd neu gilydd, ni ddisgynodd fy nghoelbren i syrthio yn gyfleus i fyned iddynt hyd ddydd Iau Derchafael diweddaf ac yn wir, os cariwyd pob un yn mlaen mor rheolaidd, trefnus, a deheuig, a'r un a gynhal- iwyd yma, yr oeddynt yn teilyngu canmoliaeth. Er mai yn Nghapel yr Annibynwyr y cynhaliwyd ef, a bod yr holl elw deilliedig oddiwrtho i fyned i drys- orfa Capel newydd yr enwad sydd bron a dyfod i orpheniad, eto, yr oedd yr holl dref, yn Fethodistiaid, Bedyddwyr, Wesleyaid, ie, hyd yn nod aelodau yr Eglwys Sefydledig yn teimlo dyddordeb neillduol ynddo, a dangosasant hyny hefyd, nid mewn enw yn unig, ond mewn gweithred a gwirionedd—rhoddas- ant eu presenoldeb ynddo, ac hefyd cymmerasant ran fawr o'r boen a'r drafferth sydd yn gyssylltiedig a chyfarfodydd o'r fath. Rhag ofn na chydnabyddir hwy'am eu trafferth mewn un ffordd arall, dymunwn i, fel un o aelodau yr eglwys, ddychwelyd fy niolch- garwch mwyaf gwresog a diffuant iddynt oil,, a gwn yn eithaf da, fod yr holl frawdoliaeth yn yr un teimlad. Dylid crybwyll hefyd fod yr holl ddefn- yddiau a gafwyd tuag ato, wedi cael eu rhoddi yn rhad ac am ddim,' a hyny hefyd gan yr un person, sef Mr Rowland Hughes, un o ddiaconiaid yr eglwys. Credwyf fod Mr Hughes yn deimladwy o wirionedd y syniad hwnw o eiddo'r Ysgrythyr, sef mai ded- wyddach yw rhoddi na derbyn.' Y mae fy llith wedi myned eisioes yn faith, a fy amser yn fyr, fel nas gallaf roddi dim o hanes cyfar- fod yr hwyr, ond yn unig dweyd na chafwyd yr un gwell nag ef, yn mhob ystyr, yn ein tref er's llawer dydd, a buasem yn hoffi yn fawr cael un o'r un stamp ag ef eto yn fuan. Yr oedd yr elw deilliedig oddiwrth y ddau gyfarfod oddeutu lop.—Gohebydd.
LLANRWST.
LLANRWST. DAMWAIN ANGEUOL.—Cyfarfyddodd dyn o'r enw Morris Owen, Highgate, yn agos i r dre uchod, a i ddiwedd yn dra disymwth, tra yn dilyn ei orchwyl yn Nghloddfa Rhiwbryfdir, Festiniog, trwy i ddarn o'r graig roddi ffordd, gan ei gladdu a'i falurio yn ddychrynllyd. Yr ydoedd yn hynod o'r addfwyn, call, diniwaid, a difalais, ac yn aelod dichlynaidd o'r Tabernacl, Llanrwst.—Gohebydd.
LLANSTEPHAN.
LLANSTEPHAN. Nos Fawrth Maiy oed, cynhaliwyd cyfarfod cystad- leuol yn Ysgoldy Cenedlaethol y lie uchod. Cymer- y gadair gan Mr David Davies, (T.C.), Llanstephan, am 7 o'r gloch; ac aed yn mlaen yn y drefn ganlyn- ol Adroddiad, 'The dying girl;' un ymgeisydd, sef Mr Thomas Lodwick, a chafodd y wobr. 2. Canu solo bass o'r anthem 'Deffro gwisg nerth;' pedwar o ymgeiswyr, buddugol—Mr T. Williams, gwehydd. 3. Darllen beirniadaeth ar y penillion ar Werth amser;' buddugol—Mr John Davies, draper. 4. Canu solo treble, dwy yn cystadlu, sef Miss Anna Williams, a Miss Ann Williams, yn gydfuddugol. 5. Adroddiad y 'Llafurwr Tlawd;' dau yn cystadlu, buddugol—Mr D. Williams, Plas. 6. Datganiad 'Pob rhyw seren;' dau gor yn cystadlu, buddugol- cor Mr E. Bowen. 7. Adroddiad 'Cwynfan Jane;' dwy yn cystadlu, sef Miss H. Williams, a Miss A. Williams, yn gydfuddugol. 8. Canusofo tenor; wyth o ymgeiswyr, buddugol—Mr D. Tucker. 9. Darllen beirniadaeth ar y traethodau a'r 'Gymeriad da;' daeth pedwar o gyfansoddiadau i law, dau \n gyd- fuddugol, sef Mri J. Davies, draper, a W. Clarke, got. 10. Datganiad yr 'Afonig;' dau gor yn cys- tadlu, buddugol—cor Mr George Killa. 11. Adrodd- iad 'Dinystr y Demi yn Jerusalem;' saith o ymgeis- wyr, buddugol—Mr C. James. 12. Canu difyfyr ton a roddwyd ar y pryd; dau o ymgeiswyr, budd- ugol-Mr D. Tucker. 13. Cyd ganwyd gan y dorf yr Anthem Genedlaethol ar y diwedd. Beirniaid y canu oedd Mri Evan Francis, a John Morris; y traethodau-Mr T. Thomas; yr adroddiadau-Mr T. Williams. Llywyddwyd y cyfarfod gan Mr David Morris. Fe aeth y cyfarfod drosodd yn dda iawn, ac yr ydym yn bwriadu cael un eto o'r natur yma yn fuan.— W. C,
LLANWRDA.
LLANWRDA. Saif y pentref tlws hwn yn nyffryn Towy, rhwng Llandilo a Llanymddyfri. Treuliwyd y 29ain cyfisol yma, yn ddydd o lawenydd ar yr achlysur o briodas Charles Bishop, ail fab Charles Bishop, Ysw., Dol- gareg, ger y He hwn, a Miss Hellen Lezzy, ail ferch John Carnegie, Ysw., Read Hall, Kincardinshire, Scotland. Er mwyn cael dangos ein parch i'r priod- fab a'r briodferch a theulu Dolgareg, cyflogwyd magnelau a gosodwyd hwynt mewn man eyfleus ar faes Mr Morgan, Neuadd. Dechreuwyd yn .forau ar y chwareu trwy ollwng y cannons, a pharhawyd yn fywiog trwy'r dydd, a gollyngwyd amryw farilau o gwrw yn ystod yr amser. Yn yr hwyr taniwyd y y bonfire, yr hwn a barhaodd i fflamio am oriac.. I goroni y cwbl, terfynwyd pob peth heb ddim yn an- foesol, gyda dymuniad cynes am fywyd hir a dedwydd i'r par priodasol. Dylasid hysbysu yr anrhegwyd y priodfab a swm o arian gan ddeiliaid Dolgareg, er prynu dodrefnyn o'i ddewisiad ei hun, a deallwn wrth y Montrose Standard, fod deiliaid Read Hall wedi cyflwyno Bibl hardd i'r briodferch.D. C.
PORTHMADOG.
PORTHMADOG. Un o'r cangenau mwyaf ffrwythlawn yn masnach y lie hwn yw adeiladu llongau. Y mae yma amryw yn awr yn cael eu parotoi, y rhai y mae eu gwerth unedig yn agos i ugain mil o bunau. Lansiwyd un nos Wener a dwy bore dydd Sadwrn.
BETTWS Y COED.
BETTWS Y COED. Cyfarfyddodd dyn o'r enw David Jones, brodor o Roe Wen, ger Conwy, a'i ddiwedd trwy i haitdle y crane ei daraw yn ei ben, gan ei ladd yn y fan! Dyma offeryn ag sydd wedi cymmeryd bywyd llawer, Beth ddywed bechgyn y chwarelau o roddi y cynllun goreu, neu y gwelliant goreu ar yr offeryn rrl i lwytho cerrig mawr, yn destyn yn eu Heisteddfod- ydd y Gwyliau nesaf ?—Giveithhvr.
CAERFYRDDIN.
CAERFYRDDIN. CYNGHEEDD ER BUDD i Miss LEWIS.—Cynhaliwyd hwn yn yr Assembly Rooms, dydd Mawrth, 19eg cyf. Y mae Miss Lewis wedi enwogi ei hunan fel cantor- es, a phob amser y mae yn ymddangos yn gyhoeddus y mae yn gymmeradwy iawn. Yr oedd y cynnulliad yn lied luosog, ac yn cael ei freintio a phresenoldeb mawrion y dref, nid llai na theulu Mr W. Morris, M.P., a Iarll Cawdor. Yr oedd amryw o gyfeillion Miss Lewis yn ei chynnorthwyo, ac yn mhlith eraill y cerddor medrus a thalentog Mr Gwilym Phillips. TONIC SOLFA.- Y mae Mr Griffith, Llundain, yr areithiwr ar y drefn Tonic Solfa, wedi talu ymweliad a'r dref hon. Y mae llawer o ymdrech yn y cylch- oedd hyn er dwyn y genedl ieuanc i fynu yn gan- torion, a'r drefn a fabwysiedir yn benaf ydyw y Tonic Solfa. Y mae cannoedd wedi myned drwy arholiadau yn y gwahanol gymmydogaethau er cael yr Elementary a'r Intermediate Certificates, ac y mae dosparthiadau mawrion yn cael eu dysgu yn bresen- ol gan athrawon. Gwelodd Mr Griffith yn ddoeth i alw cynhadledd o athrawon, ac eraill oeddynt yn dal perthynas a'r canu, i roddi hanes eu llwyddiant a desgrifiad o'u anhawsderau i ddysgu eu dosbarthiad- au. Yr oedd y nifer a ddaeth yn nghyd yn llawer mwy na'r disgwyliad, ac amlygodd Mr Griffith ei foddhad wrth weled cymmaint. Cafwyd sylwadau gwir bwrpasol gan Mr Griffith ar lwyddiant y drefn yn gyffredinol yn Nghymru. Wedi hyn galwodd y Parch. J. Evans, y Cadeirydd, a gweinidog Sion, lie y cynhelid y gynhadledd, ar y gwahanol gyfeillion i roddi cyfrif o ansawdd canu yn eu hardaloedd. Wedi i amryw wneud sylwadau pwrpasol, pasiwyd y penderfyniad canlynol yn unfrydol: Fod y cyf- arfod hwn o'r fam mai dyledswydd pawb yn bres- enol oedd gwneud eu goreu gyda'r dosparthiadau presenol a chodi rhai newyddion er cael gwelliant yn ein canu cynnulleidfaol, ac mai trefn y Tonic Solfa yw yr un fwyaf lwyddianus i gyrhaedd yr amcan.' Yn yr hwyr traddododd Mr Griffith araeth syml a buddiol ar drefn y Tonic Solfa. Diamheu ei fod trwy ei waith yn cyfeirio at y Modulator ac yn gwneud i'r holl gynulleidfa gann gwahanol ddamau o'i Lecture Slip yn argyhoeddi pawb mai'r ffordd symlaf i ddysgu canu yw trefn y Tonic Solfa.
ICARMEL, LLANLLECHID.
ICARMEL, LLANLLECHID. Cynhaliodd yr Annibynwyr yn y lie hwn eu cyf- arfod blynyddol ar Ddydd lau Dyrchafael. Pre- gethwyd ar yr amgylchiad gan y Parch W. Rees, D.D., Liverpool, y Parch W. Ambrose, Porthmadog, a'r Parch Henry Rees, Caer. Cafwyd pregethau grymus a defnyddiol. Y mae'r eglwys hon o dan ofal y Parch E. Stephen, Tanymarian, ac y mae ben- dith lor wedi bod ami yn amIwg iawn.
LLANSAWEL.
LLANSAWEL. Y mae yn hysbys i ddarllenwvr y TYST, fod ym- drech )n cael ei wneuthur i adeiladu capel newydd, er sefydlu achos Annibynol yn y lie uchod. Da genyf ddyweyd fod y capel wedi ei roddi yn llaw yr adeil- adydd medrus Mr J. Evans, Pencareg, ac i fod yn barod erbyn diwedd y flwyddyn hon. Yr ydys wedi cael profion amlwg o wenau'r nefodd, fel yr ydys yn teimlo yn hyderus yn llwyddiant yr amcan—cael capel hardd, teilwng o'r oes a'r gymdogaeth, a chael achos crefyddol dan nawdd y Gwaredwr.—
LLANELLI.
LLANELLI. Da genym ddeall fod yr eglwys Annibynol a ym- gyferfydd yn Llanelli, Brycheiniog, wedi rhoddi galwad unfrydol i Mr H. Davies, o Goleg Aberhon- ddu, i ddyfod i'w bugeilio yn yr Arglwy dd. Hoffem glywed eto yn fuan fod Mr Davies wedi ateb yr al- wad yn gadarnhaol. Dyn ieuanc o Dilewyd, Cared- igion, yw Mr Davies, a chredwn os cydsynia a'r cais yma y bydd yn anrhydedd i'r hen sir o ba le y daeth, yn gystal ag yn ogoniant i grefydd Iesu yn sir Fry- cheiniog. Bendith Duw a'i dilyno ef a'r eglwys.- B. S. T.
CWMAFON.
CWMAFON. Cynhaliwyd cyfarfod blynyddol yn Carmel, Bryn, Cwmavon, Sabbath yr 17eg o'r mis hwn; yr oedd hefyd yn gyfarfod y Jubili. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan y gweinidogion canlynol:—am 10, y Parch J. Morlais Jones, Brynmawr, Mynwy, a'r Parch J. Phillips (B), Pontrhydyfen. Am 2, Jones ac Edwards (M.C.), Brynmawr. Ac am 6, J. Davies, Tanmawr, D. M. Jones, Brynmawr, a D. Jones, Sardis. Cafwyd cyfarfodydd hwyliog o'r dechreu i'r diwedd, ac arwyddion amlwg fod yr Arglwydd yn ein plith. Nid oes ond saith mlynedd er pan ag- orwyd y Capel uchod, a phan ordeiniwyd y Parch R. Williams yn y lie. Y mae yr Eglwys fechan wedi gweithio yn rhag- orol, tu hwnt i'w gallu, er talu y ddyled sydd ar jyr addoldy, yr hwn a gostiodd tua 254p. Llwyddiant iddi medd un sydd yn ei hoffi, Gohiriwyd y ddarlith ddisgwyledig gan Mr Jones hyd rhyw adeg arail.- Uii o'r lie.
PENCADER.
PENCADER. MOEMONIAETH.—Penderfyna holl Foi-moniaid y lie hwn ymadael eleni am y Llyn Halen. Y mae wedi myned yn ormod o'r dydd yma iddynt enill dysgybl- ion newydd. Yn ofer yr haerant eu bod yn alluog i wneud gwyrthiau, iachau cleifion, bwrw allan o-ythreuliaid, a llefaru athafodau dieithr. Dynoethir eu gau resymau hyd yn oed gan blant yr Ysgol Sab- bothol. Bygythiant ryw ddyfodol dychrynllyd i Bencader, ac ysgydwant hyd yn oed y llwch oddiar eu traed yn dystiolaeth yn ei herbyn am wrthod o honi wrando ar Saint y Goruchaf. Ond wedi'r cyfan, ein dymuniad ni yw iddynt gyrhaedd eu Canaan yn ddiogel. Nid oes yma neb am eu gwared. YR EGLwYS ANNIBYNOL.-Y mae yma hen achos gan yr Annibynwyr. 9Ystyrid eglwys Pencader, ac ystyrir hi eto, yn un o r rhai mwyaf gwybodus yn Neheudir Cymru. Cafodd myfyrwyr a geneuau cy- hoeddus eraill deimlo lawer gwaith fod cawri yn yr eglwys hon. Ond y mae y rhan fwyaf o honynt wedi myned i orwedd. Ofnid y misoedd a aethant heibio y gwelid yr hen eglwys barchus yn chwalfa, ond y mae yn dda genym gael ar ddeall fod pethau wedi gwisgo gwell agwedd erbyn hyn. Y mae yr eglwys yn awr heb un bugail. Gobeithiwn y llwyddir i gael yma wainidog talentog, gweithgar, a duwiol. Y mae yma faes ardderchog i ddyn o'r nodweddiad hwn.Philos.
ETHOLIAD BRYSTE.
ETHOLIAD BRYSTE. Dydd Llun, Y mae ofn a dychryn yn ein gwersyll yn awr, o herwydd yr ydym yn meddwl ar brydiau y dadgorff- orir y senedd, cyn y diseddwn Miles. Pe byddai dad- gorfforiad i gymeryd lie fe gaem yn y man etholiad cyffredinol, ac yn ddiameu y byddai i'r hen ddinas hon wneud yn ol ei harfer-sef dychwelyd i'r senedd ddau Ryddfrydwr trwyadl. Ond ysywaeth ni fodd- lonai hyny ni—wna dim ein boddloni, ond gosod blaen troed mewn cymmydogaeth neillduol o Miles a'i yru maes o'r senedd. Tro digon digrif oedd i Miles ar ddydd ei etholiad i hirio special train-a thalu £.50, mwy neu lai am dano-i fyned i'r senedd hwyr y dydd yr etholwyd ef. Boreu dranoeth, fel y gwyr y darllenydd, yr oedd 66 o fwyafrif gan y Rhyddfrydwyr o barthed i ddad- waddoliad yr Eglwys Wyddelig. Y mae cyfarfod mawr i fod heno neu nos y for a, gan yr eglwyswyr, yn y Victoria Rooms, Cliffton, i wrthdystio yn erbyn 'distrywiad' yr eglwys Brotest- anaidd yn Iwerddon. Yn ddiamheu y carir hwn yn mlaen fel cyfarfodydd ereill cyffelyb-trwy dywyllu cynghor a geiriau heb wybodaeth, ac y diwedda mewn costrelaid o fwg. Os bu hi yn gyfyng-gynghor erioed ar ddisgyn-' yddion Aaron a'r Apostolion (?) y mae hi felly y dyddiau presenol,—ni wyddant beth i'w wneyd! Y maent yn gwybod o'r goreu os bydd iddynt fyw ar yr ewyllys rydd, y bydd rhaid iddynt yfed mwy o ddwfr a llai o win; bwytta ambell i doc o fara a chaws, a bod yn ddiolchgar am hwnw neu fod heb ddim. Yr wyf i yn un o'r rhai hyny ag sydd yn credu mae 'teilwng i'r gweithiwr ei fwyd,'—ond a'i gtveith- ivyr a'i segurwyr yw 3 o bob 4 o'r offeiriaid ? Os se- gurwyr, cymerent gynghor yr Ysgrythyr—maent yn credu hono meddent hwy,—' Yr hwn ni weitliia, na fwyttaed chwaith.T.
LLUNDAIN.
LLUNDAIN. CYFAEFOD CYSTADLEUOL ALDERSGATE STREET.-Nos Lun, Mai y 18fed, cynhaliodd pobl ieuainc y Taber- nacle, Aldersgate Street, Llundain, eu cyfarfod cys- tadleuol blynyddol. Daeth tyrfa luosog yn nghyd. Ac yn absenoldeb Y Gohebydd,' yr hwn oedd wedi ei alw i Langollen y diwrnod hwnw i ddilyn gwedd- illion marwol ei anwyl fam i'r gladdfa, cymmerwyd y gadair gyda pharodrwydd a serch gan Morgan Lloyd, Ysw., Barrister. Mae Mr Lloyd mor adnab- yddus i'w gyd-genedl, yn enwedig yn y Gogledd ac yn Llundain, fel na raid ini gymmeryd y drafferth i hysbysu pwy ydyw, a da genym feddwl am y dydd- ordeb mae dyn o'i sefyllfa ef yn ei gymmeryd yn amgylchiadau ei wlad a'i genedl. Wedi cael ton gynnulleidfaol gan y dyrfa, dywedodd, fod yn ddy- wenydd ganddo eu cyfarfod a gweled y fath luaws o Gymry Llundain wedi ymgynnull i gadw cyfarfod cystadleuol, ac i gynnorthwyo eu gilydd i gyrhaedd gwybodaeth. Fod hwn yn gyfarfod o'r fath a wna ddaioni i'n cenedl, a phe byddai mwy o'r fath ya mhlith pobl Lloegr yn gyffredinol byddai agwedd wahanol ar y wlad. Er nad all y Cymry ymffrostio o gymmaint o ddynion mawrion mewn dysg a chel- fyddyd a'r Saeson yn ol poblogaeth y wlad, fod y Cymry fel cenedl yn rhagori mewn llawer peth ar y Saeson. Fod gwerin Cymru yn rhagori mewn gwy- bodaeth ar werin Lloegr, a bod y Cymry o fiaen pob cenedl arall yn Ewrop, ond y Scotiaid mewn addysg grefyddol. Dylai yr ystyriaethau hyn ein cefnogi i fyned yn mlaen, ac i ymegnio, i ragori mewn pob peth. Fod gwybodaeth yn allu ac y gwna addysg ddyrchafu cenedl. Fod y Cymry yn ddigon Iluosog i fod yn bobl fawr, a gallant gydag ymdrech ddyfod yn enwog yn mhlith cenhedloedd y ddaear. Er nad yw Cymru ond rhan fechan o'r ymerodraeth gall. mewn amser ragori cymmaint nes y byddo yn tynu. sylw pob talaeth ati ei hun. I'r dyben o gyrhaedd y fath safle fod yn angenrheidiol i'r genedl gyduno, a chydweithredu i ledaenu gwybodaeth ac i roddi addysg gyffredinol i bawb. Fod tuedd mewn rhai gwledydd yn y dyddiau hyn i gyd-raddu dynion trwy ddarostwng y mawrion yn gydwastad a'r wer- in, ond fod arno ef eisiau i bobl Cymru ddyfod yn gydradd a'r mawrion, trwy ymgodi i'r un safle a'r goreu. Trefn rhagluniaeth yw diwyllio dyn,- gwneud y da yn well, a'r doeth yn fwy gwybodus, -eydraddu trwy ddyrchafu, ac ymlid tywyllwch ae anwybodaeth o blith dynion. Prif amcan y Cymry yn bresenol ddylai taenu gwybodaeth yn mhlith y genedl. Gellir rhanu addysg yn dri dosparth,—sef, addysg grefyddol, addysg gyffredinol, ac addysg gelfyddydol. Mae ein cenedl eisioes yn rhagori mewn addysg grefyddol, ond y mae eisiau dal i gyd- weithredu yn hyn nes byddo pob Cymro yn Nghym- ru ac yn Lloegr wedi dysgu yn drwyadl brif eg- wyddorion y grefydd Gristionogol. Nid oes na newyddiadur nac un cyhoeddiad arall yn dyfod allan o'r wasg Gymreig sydd yn pleidio egwyddorion an- ffyddiaeth, pan y mae lluaws o'r fath yn cael eu lledaenu yn barhaus yn mhlith y Saeson. Cyng- horai Gymry ieuainc Llundain i beidio darllen y fath sothach gwael a diwerth ag yw y cyhoeddiadau hyn, y rhai yr oedd llawer ohonynt yn waith dynion penboethion, diddysg, a llygredig, Tuag at ledaenu gwybodaeth gyffredinol fod eisiau ymdrech bersonol ac ymdrech gyffredinol. Trwy ymdrech bersonol y golygai i bob un-yn enwedig y bobl ieuainc, wneud defnydd o bob hamdden i addysgu eu hunain. Ym- drech gyffredinol ydyw cydweithrediad i godi ysgol- ion rhyddion ac agored i bawb trwy y wlad, a sefydlu Prif Ysgol fyddo yn ganolbwynt o ba un y tardda gwybodaeth trwy Gymru i gyd. Pwnc arall i ymgyrhaedd ato ydyw addysg gelfyddydol i blant y genedl oll,fel y byddont yn rhagori mewn celfydd- yd ar eu cymmydogion. Fod rhagoriaeth mewn celfyddyd yn arwain i gyfoeth a da fyddai ganddo weled bechgyn Cymru yn dyfod yn gyfoethogion trwy fasnach a chelfyddyd yn nhrefydd Lloegr, ac yn feddianwyr y tai a'r tiroedd goreu yn yr hen wlad. Wrth derfynu, dywedai,—daliwch ati blant a phobl ieuainc, a bydd i lwyddiant goroni eich yrn- drechiadau. Yna aeth yn mlaen at y Rhageirlen oedd ger ei fron fel y canlyn:— 1. Cystadlu adrodd yr Eos' (i blant)—buddugol, Miss Annie Evans. 2. Beirniadaeth y Traethodau ar y Corph dynol '—Mr Thomas George a Mr David Davies yn gyfartal. 3. Cydgan gan y Cor, I Mai,' o dan arweiniad Mr J. D. Evans. 4. Cystadlu y Ped- warawd Boreu Niwliawg,'—loan Morganwg a'i dri chyfaill. 5. Darllen Ehangder y Greadigaeth' (i ferched)—Miss Evans. 6. Unawd difyfyr-Mr David Lewis. 7. Beirniadaeth yr Englynion i'r Geninen'—Tudur Aled. 8. Cystadlu Deuawd Fy Nhad, &c.Mr J. D. Evans a'i gyfaill, a Mr Grif- fiths a'i gyfaill, yn gyfartal. 9. Rhifyddiaeth ddi- fyfyr—Master George. 10. Cystadleuaeth Gorawl 'YBlodeuyn olaf,'—Cor Wilton Square. 11. Cys- tadlu adrodd o'r 'Bardd Cwsg,'—Mr T. George. 12.'Can Bugeilio'r gwenith gwyn,' gan Miss Jones. Cafodd encore, ac ail ganodd gan chwareu ar yr Harmonium. 13. Beirniadaeth y Tonau Cynnull- eidfaol' Rhys Goch o Feirion, ac Eos Glandyfi, yn gyfartal. 14. Cystadlu Unawd Yr Iesu a ddilynem' —Mr David Lewis. 15. Darllen difyfyr—' Darllen- wr Gwael.' 16. Cydgan gan y Cor Yr Haf.' 17. Beirniadaeth y Traethodau ar y 'Pedair Cenedl Brydeinig'—Mr Griffith Griffiths. Yna cyfododd y Parch William Lloyd a chynhyg- iodd ddiolchgarwch y Cyfarfod i'r Cadeirydd dysg- edig am ei barodrwydd yn cydsynio a'u cais o dan yr amgylchiadau, ac am y medr a'r mwynder a ddangosodd yn ei waith. Hysbysodd ei fod yn un o'r rhai blaenaf i gychwyn y symmudiad am y Welsh University, a'i fod yn ffyddlon ar y Commit- tee, a'u bod yn dra hyderus o gael ei gweled wedi ei sefydlu yn fuan er mantais fawr i'r Dywysogaeth yn gyffredinol. Ond disgwyliai fod cyhoeddusrwydd a defnyddioldeb uwch o'i flaen yn fuan-sef cyn- nrychioli rhyw ran o Gymru yn y Senedd,—a pha le mwy priodol na'i swydd enedigol, sef Meirionydd. Derbyniwyd y sylw hwn gyda Jgwresawgrwydd gan y dorf, a byddai yn dda genym weled Mr Lloyd o flaen yr etholwyr yn fuan,—ac nid yn unig hyny ond drwy eu hunol lais yn gyimrychiolydd iddynt yn y Senedd. Cefnogwyd y cynhygiad gan Mr David Jones, yr hwn fel brodor o Feirionydd a ddymunai o'i galon weled yr awgrym uchod yn ffaith. Wedi cydnabod y diolchgarwch gan y Cadeirydd, cynhygiwyd di- olchgarwch i'r beirniaid, sef J.R., Asaph Glan Dyfi, Mr Isaac Williams,Chelsea, Mr William Cincinnati, a Mr Peters, yr hwn a gefnogwyd gan Mr J. S. Evans, ac a gydnabyddwyd gan Mr Peters. Ter- fynwyd y cyfarfod drwy ganu yr Anthem Genedl- aethol Gymreig.—Gohebydd.