Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
11 articles on this Page
ANERCHIAD I'R 'TYST CYMREIG.'
ANERCHIAD I'R 'TYST CYMREIG.' Mr. Gol.,—Dichon fy mod yn cyfeiliorni wrth ddweyd Mr Gol., yn lie Mri. Golygwyr—nis gwn yn iawn pa un ai lleng ai un sydd o honoch; ond sut bynag am hyny, yr wyf yn cael llawer o fudd a difyrwch wrth ddarllen eich tystiolaeth eglur a difloesgni ar bynciau pwysig y dydd mewn byd ac eglwys. Ond cyn myned yn inhellacli, gadewch i mi gywiro un peth a ddy- wedodd eich gohebydd doniol a thalentog o'r dref hon ychydig wythnosau yn ol wrth gofnodi gorchest fawr Tywysog Cymru yn troi allwedd y gwaith dwr, ac yn taenellu y bobl mewn dull helaeth a mawreddog. Gwir i'r Tywysog daenr ellu cenedloedd lawer, ac yr oedd y gawod bron mor drom a Clinic baptism yr hen dadau gynt; ond y camsyniec1 oedd barnu fod Cynddelw hefyd o dan vr oruchwyliaeth. Na, na, Mr Gol., go- fala rhagluniaeth yn wastad am ei phlant, ac felly y tro hwn hefyd; chwythodd y gwynt ffordd arall, a bu Cynddelw mor ffodus a bod yr ochr oleu i'r cwmwl; a phe buasai sylw eich gohebydd yn iawn, buasai fy het newydd wedi ei spwylio ar unwaith, ac nis gallaswn ymddang- os mor tiewsych weddill y dydd. Y peth sydd yn difyru mwyaf arnaf fi yn y TYST yw athrylith ryfedd y taelwriaid. Prin y gellir dysgwyl i daeliwr fod mor gryf ei gyn- neddfau a dyn arall gan mor fasw a lliprynaidd yw ei alwedigaeth. Yr oedd rhai o hen Fedyddwyr cyntefig gwlad Gwent yn cario meddyliau culion a rhagfarnllyd iawn am daelwriaid. Yr oedd yr hen Samuel Morgan, neu Sami Shon o Nantyglo, yn barnu nad oedd cymaint ag un taeliwr yn gadwedig! hyd nes y clywodd efe daeliwr yn gweddio. Gan i weddi y taeliwr gyffnvrdd a'i deimlad, syrthiodd ar ei liniau yn ei ymyl, a dywedodd yn hyglyw, Mae dy ras di yn fawr, Arglwydd, -yn fwy nag y meddyliais i erioed ei fod e. 'Doeddwn i ddim yn meddwl dy fod ti yn rhoi gras i daelwriaid! Ond dyma daeliwr wedi ei achub. A thaeliwr anw'l yw e hefyd.' Lied gul hefyd oedd barn yr enwog F. Hiley am gyiiyrau taelwriaid, gan i rai o honynt beri poen iddo yn yr eglwys. Galwyd arno un tro i gwrdd i dawelu anghydfod, ac iddo ef y rhodd- wyd y gadair. Y peth cyntaf a ofynodd oedd, 'Sawl taeliwr sydd yma P' I Dou,' ebe rhywun, 'Yr Arglwydd a'n helpo,' ebe yntau. Ond mae y TYST yn dangos pa beth a all tael- wriaid wneyd; a dylai yr Hen Daeliwr gael blawr am cyfled a llabwd, ac mor drwchus hefyd, yn destimo-nial am godi yr urdd hwnw i'r fath emvogrwydd awdurol. Llwyddiant heb siomiant yn siwr I da-lent yr Hen Daeliwr. CYNDDELW.
YSGOLION SABBOTHOL ANNIBYNWYR…
YSGOLION SABBOTHOL ANNIBYNWYR LIVERPOOL A BIRKENHEAD. Foneddigion,—Yr ydym wedi disgwyl llawer am weled adi-oddiad yn y TYST 0 gyfarfod Undeb Ysgol- ion ydoedd i'w gynal yn rhywlo o amgylch Dyffryn Maelor, i'r hwn yr oedd gwahoddiad i ysgolion Liverpool a Birkenhead anfon cynrychiolwyr; ond ni ddigwyddodd i ni weled na chlywed dim yn ei gylch, felly yr ydym yn analluog i wybod beth sydd wedi ei drefnu ar gyfer y Gymanfa a fwriedir ei chynal o fewn yr hat presenol yn Ngwrecsam. Os oes rhywbeth wedi ei drefnu, ai ni fyddai yn fuddiol i'r ysgolion hyn gael rhyw hysbysrwydd yn ei gylch bellaeh ? Yr oedd yn dda genym weled sylw rhyw un a ahvai ei Samee,' ychydig amser yn ol, ar yr undeb hwn. Dymunai arnom dynu rhyw gynllun i gael yr undeb hwn oddiamgylch. Yr ydym yn teimlo ein hunain dan anfantais i dynu unrhyw gynllun, -tlri fod amgylchiadau yr ysgolion yn anhysbys i ni, ryeh fi.;}!'111 goreu i ddechreu farnem ni fyddai i gyn- fan. Os Pj^oh ysgol gyfarfod a'u gilydd yn rhyw dyfod i ychydig Icam cyn priodi,' mae yn ofynol ^uabyddiaeth cyn caru.' Yr eiddoch, E. M.
AT DAEAREGYDD.
AT DAEAREGYDD. Syr,—Ar ol darllen eich llythy.i doniol a tii. Garreg y Lluniau," yn y TYST am Mai 15, cynhyi^}/1!' fi i ysgrifenu gair attoch ar y lluniau. Yn yr ardal lie yr wyf fi yn byw y mae creigiau calch, pa rai sydd oddeutu tair modfedd i'r llathen yn ogwyddol i'r gog- ledd ddwyremiol, (hyny ar gyfartaledd), yn mha le y gwelir Iluniau traed, neu yn hytrach olion traed amryw greaduiiaid, megis gwartheg, meirch, defaid, &c. Hefyd, yn yr un lie, y mae amryw fath o dyllau, nas gellir yn gywir eu tebygoli i ddim ac yn ein mysg ni, y creigwyr, methir a chael yr un rheswm boddhaol ar y rh pwngc. Myn rhai mai o ddamwain y bu hyn oil, eraill mai dwfr y diltiw a'i treuliodd, a'r trydydd mai y fath greaduJiaid a sangasant ar y graig cyn iddi fyned i'r "iledwch presenol; ond nid ydym am ogwyddo dim diweddaf, am fod yr olion oil megis pe buasai y yn myned a'u penau ar i wared, a rhai o'r igos i'r dibyn fel na byddai modd i'r creadur- eu hunain i gychwyn. Hefyd, am fod amryw rhyddion {loom) oddiwrth y creigiau, a'r fath uynt, a'r rhai hyny yn sefyll yn y fath le na onon i greadur sangu yno. wyf yn honi fy mod ond daearegydd gwan ond yr ydwyf fel pob un gwan, tra yn iach, yn awyddu am nourishment i'm cryfhau; a byddaf yn .Alr ddiolchgar i chwi os rhoddwch ychydig oleuni i mi ar y lluniau crybwylledig. Ap DAEAEEGYDD.
RHYBYDD I'R BEIRDD.
RHYBYDD I'R BEIRDD. Mr Gol.-Mae 'steddfod Rhuthyn yn nesu-a llawer o gyfansoddi ar ei chyfer ma'n debig. Ond gwybyddad pob un sy yn treio ar Englyn y M'linydd' y Bydd o yn sicr o golh-achos mi wn (ac mi yr ydwyf i yn dallt llawn cimin am farddoniaeth a nemawr un sy yn sir Pon yma—beth bvnag am Llanrwst) am fy ngyfaill ffraethbert Bro Grwalia,' i fod o wedi gneyd englyn campus iddo yr wsnos dwaetha, pan own i yn 'Ng'nar- '">n—ac i brofi hyny, dyma fo och blaen chi ENGLTTN I'R MILINIDD. Ta Iwynion y felin yn chwildroio-i falu jPob math o flawd-ac i silio.— B fudd coccos yn drysu a stopio, uu M'linidd ono yn sydyn yn gwilltio. Eich 'wllysiwr da, BARDD BEEW.
I: ! CYMMERIADAU.
CYMMERIADAU. PEN. V.—Y DYN DAUWYNEBOG. Mr Gol.,—Byddaf yn clywed pobl weithiau yn yn dyweyd—' Dyn dauwynebog' am y cymmeriad Soll-wynebog, Cam mawr a chymmeriad llawer un yw dweyd dau-wjnebog ac nid holl-wyjiebog. Nid dau ac nid deq, wyneb sydd gan lawer dyn, ond y mae ganddo wyneb i dderbyn pob wyneb, bob amser, bydded beth y fyddo. Y mae gan y bobl yna sydd yn cynllunio y ffurf-liwiau (designs) beiriant bychan sydd yn cyfleu llu amryfath o honynt o'flaen y llygad. Y mae pob ysgogiad roddir i'r peiriant yn gosod golygf a newydd o flaen yr edrychydd, a hyny braidd yn ddiderfyn. Rhyw beiriant felly yw y cymmeriad dan sylw. Y mae ganddo wyneb i dder- byn pawb—gelynion a chyfeillion, drwg a da yn ddiwahaniaeth. Medr draws-newid ei wyneb i bob ffurf ac i bob llun yn ddidrafferth, ac yn ddiderfyn. Ymddengys fod ganddo fwy o awdurdod ar ei wyneb nag sydd gan y crochenydd ar y priddgist. Gall ei drawsfFurfio gyda mwy o rwyddineb, ac i ddullwedd- au mwy amrywiol. Gwareded y nefoedd ni oddi- wrth y fath adyn! Un galon ac un wyneb mae yr \nfeidrol wedi roddi i bob dyn, a dylai fod calon pob r>b amser yn ei wyneb. Dylai gwyneb fod yn cspamaa i bob dyn o'r galon, a "diamheu fod ywyn wecu ,• OSO(j a>j amcanu j f0(j felly ond sicr ^yn Ao/wynebog y darn a f^^l-hudol yn yr hoU gread- ° A* 1 y 7™ hanner troedfedd y g a s§Trn a C1nf,w<?! 0 ymi cynnyrchu mwy o ragrith na chyfandir eang o ddaeai. Gwen sydd ar ei wyneb i bawb, yn ddi-wahaniaeth, ac y mae yn anmhossibl gwybod pa bryd y mae y wen hono yn ddidwyll a gwirioneddol, os ydyw byth o gwbl. Ceisio dangos y cyfaill i bawb y mae, ond nid yw yn gyfaill i neb—dim ond iddo ei hun. Y mae yn ceisio prynu pawb, ac wrth hyny yn gwerthu pawb sydd ganddynt rith o barch iddynt eu hunain. Pan y mae efe yn canfod ei hun yn y drych, y mae yn gwenu arno ei hun, ac y mae y pryd hwnw yn gwenu yn ngwyneb ei elyn penaf. Wrth wneud marchnad rad a'i wyneb i brynu cyfeillion, y mae yn gwneud ei hun y gelyn gwaethaf iddo ei hun o bawb yn yr holl fyd. Os na bydd dyn yn ffyddlon i bob peth sydd yn anrhydeddus ynddo ei hun nid ydyw yn wertR dim fel cyfaill i neb arall, ac nid ydwyf erioed wedi gweled neb yn gyfaill iddo, er yr holl aberth y mae yn ei wneud o wirionedd, gonestrwydd, a didwylledd. Gwena y dyn hwn yn ngwyneb ei gyd-ddyn, pan ar yr un pryd yn ddigon parod i frathu cledd i'w galon. Dylid hwtio i hades y fath outrage ar bob peth sydd yn anrhydeddus mewn dyn- oliaeth a chymdeithas. Y mae gwg onest ar y wyneb yn annhraethol well na gwen ragrithiol. Os bydd y sail yn ddrwg, gwna ei wyneb ddangos hyny Os bydd yr olwynion o'u lie yn yr awrlais, gwna ei wyneb yn union ddweyd hyny. Os bydd dig yn y gaion, ac os oyaa tramgwydd yn y meddwl, gadewir i'r wyneb ei ddangos, ac nid ei guddio. Y mae gelyn gonest yn well na chyfaill twyflodrus. Y mae ath- rodwyr bob amser yn hoffl cyfarfod yr; hollwynebog. Chwiliant am dano a mynychant ei dy yn mhob cymmydogaeth, ac y mae yntau yn eu derbyn gyda gwyneb siriol, ac y mae hyny yn eu cefnogi yn eu drwg Ceir lleng o athrodwyr bob amser Ue y byddo dynion lwll-wynebog. Os ydwyt ti, ddarllenydd, yn cashau yr athrodwr, gosod ddig yn lie gwen ar dy wyneb,,pan yn ei gyfarfod; a bydd mor sicr o wneud lies iddo a bod Solomon wedi dweyd hyny. Dyma ei eiriau,—' Gwynt y gogledd a yrr y gwlaw ymaith: felly y gyrr wynebpryd digllawn dafod athrodgar.' Y mae yr operation yna yn lied annyoddefol i gnawd ond y mae yn sicr o yru y drwg i ffwrdd. Nid oes derbyn wyneb gyda Duw.' Nid un wyneb i dderbyn y cyfaill, a gwyneb arall i dderbyn y gelyn, sydd ganddo ef, ond un wyneb, a gwen ar hwnw i bob cyfaill, a gwg i bob gelyn. Y mae ei wyneb ef fel efe ei hun,—yn onest i bawb. Nid oes dim yn cael ei ddangos ar ei wyneb nad ydyw yn ei galon. cl\Avyt ddarllenydd, yn debyg iddo ? Gwyneb ao-oi\ y r^an *iar<l<laf o'i g'orph> a dylai fod yn mawr" weledadwy, ac yn lanwedd. Gresyn brorlw^lT^ ^a<^ae^ ^arf hir i'w guddio. Y mae y tiQw/Vi 87^ yn peidio eillio, yn dywedyd wrth fell 1 ^dywectodd Paul g^nt wrth henuriaid p e..us, iN'^chewch weled fy wyneb mwy.' Gad- m wch i ni weled eich gwynebau, fechgyn ? Nid yd- ryf yn hoffi y gwyneb salw, y gwyneb hir, na'r wyneb caled, ond y mae yn well genyf bob wyneb \\t'r lwll-wynebog. Yn sicr i chwi, y mae ei gefn yn ell na'i wyneb. Ac mi garwn I yn fawr iawn sled eu cefnau bob un yn myned o Gymru ac o'r Id i Patagonia. FORPEX. 3 'i —-
ENNANTLLIW BACH, LLANTJWCHLLYN.
ENNANTLLIW BACH, LLANTJWCHLLYN. YN Uwchllyn mae'r glyn glanaf-yn mro wen Meirionydd hawddgaraf; Pennantlliw bach yw'r iachaf, O'r cymoedd dan nefoedd Naf. 3ro anwyl doldir a bryniau,—a cheir Ei choed yn heirdd hvynau; Para'n hir wnant heb brinhau, A chuddiant ei llechweddau. ri a noddir gan fynyddau-iachus, Uchel yw ei chreigiau; A'i gwyn neint lifynt, gan wau, Llithrynt ar draws ei llethrau. '4a'r llyn, trwy'r tir, y Lliw—o gylch dry, Golcha draed Pennantlliw; lawr rhed, dros lawer rhiw, .'i hymroliad amryliw. Eiyfodiad sydd o'r Defeidiog—garw, Ac o Erwent niwliog; '•os ddannedd creig mawreddog, illawn grym, mae felllen grog. 0 iliau y cwm, wele, cant-o bur Aberoedd a frysiant; itnwy eu pwys, am y pant nydd ymofynant. Un ddaw o Waun y Dduallt,-a'r, tleiu 'r Lliw sy'n ymdywallt; io'r Bwa hon heibio'r Wenallt, A'^erwin ru gryna'r allt. I Y rhadr crychwyn, rhuol,—Rhaiadr Mwy, j dwrw mawr parhaol; Saiei hir don syfrdanol I Olau res, sy ar ol. Ef a'iwn oedd yn fy synu—yn nydd. Aios, wrth raiadru; Twi, hwn yn taranu Yn imhen yn fachgen fu. Credailarswydais y son-a daenid, Foyno ysbrydion, Fwy a, rhif, yn yr afon Yn gueud twrf, gan ganu ton. Iach wyod, ar uchelfan,—fu castell Cry. costus, Carndochan; Heriaiu i ddod i'r lan Hyd eeigfawr, lwyd grogfan. I'r uwch.Wnt bu'n rhoi achles,—a nodded;. Gyn^n nyddiau gormes; Dyddia 0 lid, oedd ddi les, Gwrhyti gwag, a rhodres. Pa ddewii pwy a ddywed—ei hanes p. Hono i amgrfEred Gwyr deilus, craffus, cred, Na'r un enor a aned. Dwyn fy lIrd ar hyd rhedyn,—a grugoedd, A'r grsg i'm hamddiffyn, Yn y fro ,e's, foiau gwyn Fy einioet fy nhirf wanwyn. A diau esgucy dysgodd-fy nhad. Fi'n hir,ac ni flinodd Eithr ef fuathraw o'i fodd, I'm hyrwyidaw yxaroddodd. I mi, yno, fj nam antvyl—fu'n dda, Fu'n dciotth ar bob egwyl; Gwarchoc, i gwneul ei gorchwyl, A fynai hi fenyw wyl. Llo. Yn wyn5) caledfyc; 4 Canai hi, htb ofni'r tyd, Yn oedfa gerwin adfjd. Michael Jones fawr, FAYR, yno fu,—manwl Y mynoddein dysgi; A thrwy y cvm, athraw cu-i bawb oedd, A diail ydoedl i'n hadiiladu, Yr oes hono, o fawr wasaiaeth,—bawb Aent i byrtl marwolseth; Du ogof llygredigaeth, Lawn o gyrph, a'u deil rn gaeth. Yn adnabod pryc, w-ynebai-y bobl Sy'n byw'n y hoff farAU Nid ydwyf, a'mcyndadat Ni cheir byth yn ochr y bu. I'r fynwent yr at inau,-i'run daith, A'r un dull a Iwythau: Ond hedd, pur hedd, fo'n )arhau Yn mro anwyl fS mryniau Bangor, Mai 25, 1868 AP FYCHAN.
GEIRIAU YMADAWOL Y DDjWEDDAR…
GEIRIAU YMADAWOL Y DDjWEDDAR SARAH HUGHES, ROCK IERRY, SVYDD GAER.* (Swfft Home.) Fy nghorff sy'n dyhoBni fy nglalon sydd wan, Fel bad ar y tonau, an ddrylliiu'n y man Llesgau mae fy ysbryl, gwanhtu mae fy lief, Ond mwy a fy hiraetl am fynei i'r nef; Nef nef, I Ne:'y nef,' Ond mwy a fy hiraetl: am fynec i'r nef. Disgyna erddygan y gig ar fy nhlyw, Ymegyr y blodau, maEanian ynfyw; Fy enaid ymgyfyd, fryesgyn fy lef Gwyrdd wanwyn sydd yma, ond haf yn y nef; Nef nef, Nef' nef,' Gwyrdd wanwyn sydd Ima, ond laf yn y nef. Telorwch fwyn adar, a Jiwyddwch eich mawl, Nes byddo'n ymgolli ynalaw y gvawl; A dygwch y moliant a rjdd fy ngvyl lef, I ffiniau bytholwyrdd, bioydd iesiin y nef; Nef nef, 'Nef y ief,' I ffiniau bytholwyrdd, broydd iesiny nef. Fy angel gwarcheidiawl, 0 cluda fi'jl awr, 0 gyrhaedd golidiau diddarfod y Ilawr. Disgwyliaf mewn hiraeth—pryderusfy lief— 0 cluda fi bellach i 'nghartref y nef; Nef nef, 'Nef y nef,' 0 cluda fi bellach i 'nghartref y nef. Fe roddwyd i gadw er's llawer dydd lir, Aur delyn, a choron, a gorsedd, yn wi: Fy angel nag oeda, 0 gwrando fy llef, A chluda fi'n ebrwydd i 'nghartref y nf; Nef nef. < Net v nef.' A chluda R'n ebrwydd i 'nghartref y nif. Yn iach i chwi riaint, a'm ceraint i gyd, Yn iach fy nghyfeillion, ar ol yn y byd Boed i chwi bob bendith, sisiala fy llef, Fe'm cludir—esgynaf—yn iach, af i'r nef; Nef nef, I Nef y nef,' Fe'm cludir—esgynaf—yn iach-af i'r GWILYM GWEJJFFKWD. Benyw ieuanc hynod o'r duwiol oedd Miss Hughes. Bu farw o'r darfodedigaeth ar yr 2fed o Fai. Yr oeddei diwedd fel eiddo Elizabeth Wallbridge—1 merch y Uaethwr —vn wir ddedwydd. Ei thad, Mr Richard Hughes, sydd flaenor def- nyddiol gydalr Wesleyaid yn Birkenhead. Byddai 'yn nefoedd ar y ddaear I pan y byddai y tad ar ei liniau yn gweddio, a'r iereh. ar ei gorweddfa yn diolch. Gadawodd ei rhan farwol i orphwys yn mynwent Bebington hyd ddydd prynedlgaeth ein corff.' Nefoeddolrwydd profiad yr ymadawedig roddodd feddylddrych y llinellau.
Y DYN ANWADAL.
Y DYN ANWADAL. BYD yw hwn dan greithiau marwol, Llawn o fodau cyfnewidiol, Wedi Adda'n Eden bechu, Anwadalweh lanwai'i deulu; Ond er colli ein cymeriad— 0 dan nod o gyfnewidiad, Nid yw pawb yn myd yr anial Yn dwyn nod y 'dyn anwadal.' ] Hynod amlwg yw'r nod yma, ■ Delw annwn a'i dilyna, y*'l Gwelir e'n ei holl agweddau ■ ?" Yn gerfiedig ar fywydau; Cafodd miloedd lawer drwyddo Yn y diwedd eu handwyo, Fe'u harweiniwyd ar eu hunion I dylodi a dyledion. Coegaidd wr, rhigymwr gwamal, Oer, a nwydog yw'r anwadal, Weithiau'n bobpeth-yn ddim wed'yn, Heddyw'n win, yforu'n wenwyn; Gallech feddwl ar rai troion Mai efe yw'r rhwydda'i galon, Ond pe baem yn ymddibynu Ar ei wen, fe wnaem newynu. Rhoddion hael i bawb ddigonedd A addawa yn ddiddiwedd, Ond yn adeg y cyflawni, Gwnaiff ystwr, a thrydd ei stori; Nid yw'n werth in' ddisgwyl wrtho Mewn un modd am ddim o'i eiddo, A phob tro yr ymddiriedir Yn y gwr, yn siwr fe'n siomir. Mae fel aelod o gymdeithas— Yn ddifudd ac anghyfaddas, Troir ei wen, ei wg, a'i agwedd, Yn wrthddrychau gwawd yn gydweddy Syrth pob gair a phob awgrymiad Ddel o'i enau'n ddiddylanwad, Nid oes bywyd yn y cyfryw, Am mai dyn anwadal ydyw. yn y Ilys, y wlad, a'r ardal, Fe gyfrifir yr anwadal' Megis ceiliog gwynt dry'n gyson Drwy reoliad yr awelon; Byth ni saif ar hin dymhestlog Am anadliad pi sefydlog, A phob doethwr a'i canfydda Yn y storom, ni thosturia. Pan yn Seion gyda'r brodyr, Dynanwastad yw 'mhob ystyr, Fe gyflawna'i ddyledswyddau Yn wr selog am rai Suliau, Ond yn fuan mae'n tramgwyddo, Yna gwelir e'n gwrthgilio, Ac Ow! trydd ei ddu gymeriad A'i wrthuni'n warth i'w enwad! Ni chroesawir y'mhyrth Seion Mwy ei farwol ymarferion, Gan y dylid dal deb wyro i .J Fel ei Brenin yn bur yno; Nid yw aberth neb ond dibwys E arogliad yn yr eglwys, Pin mae delw anwadalwch A y cyfan a wneir-cofiwch. Wern, PENRHYN FARDD.
Gynhygiad Arwyddocaol,
Yn Nly y Cyffredin, Nos Fercher, cynhygiodd Syr C. O. Leglen fod i'r Ty ymffurfio yn bwyllgor ar Fil Athrod; a chynhygiodd Mr. Newdegate fod i'r Ty ymffurfu yn bwyllgor chwe mis i'r diwrnod hyny. Prif amcan y bil ydyw amddiffyn perchenogion new- yddiadmon rhag cyfreithwyr cyfrwys a gychwynant yn fynyci athrod, er mwyn tynu arian oddiar berson- au, ac In o'i brif adranau ydyw gwneyd unrhyw berson aedrydd athrod mewn cyfarfod cyhoeddus yn gyfrifol tm yr hyn a ddywed. Siaradodd Mr. Roe- buck, y iwrne cvffredinol, Mr. Goldsmith, Sergeant Armstroig, Arlywydd Amberley, a Mr. Buxton, dros y bil; a Hr. Newdegate, Mr. Chambers, Mr. Whalley, Mr. Cole-idge, y twrne cyflEredinol dros yr Iwerddon, a Mr. Dllwyn, yn erbyn. Cariwyd y cynhygiad i ymffurfu yn bwyllgor trwy fwyafrif o 70. Yna cymerocR peth dadl ar y trydydd adran, ar y tir y gwnai gyfyngu ar ryddid ymadrodd, ac yn y diwedd gohiriw-d ystyriaeth pellach ar yr adran am bythef- nos. Daetl amryw o'r arglwyddi i Dy y Cyffredin Nos Iau, trwy nad oedd y Ty uchaf yn eistedd y noson hono, ei mwyn bod yn dystion o un o'r golygfeydd cynhyrfis sydd wedi bod mor fynych yno yn ddi- weddar,ac a ddisgwylid i gymeryd lie y noson hono, ac yn nysg lluaws o bersonau enwog eraill, yr oedd y Tyw;sog Christian, Iarll Bernstorff, a Barwn Brunncw yn bresenol. Cyfododd Mr. Hardy yn nghancl bloeddiadau uchel o gymmeradwyaeth oddi- wrth yToryaid, a rhoddodd rhybydd ar ran y 'Lly- wodragth, y byddai iddo ef gynhyg ar ail ddalleniad y Bil Oedfuddiadol, fod ystyriaeth pellach arno i gael ei ohiiio am chwe mis. Heb oedi diTn wedi hyny, dyma Mr. Disraeli ar ei draed i egluro mewn modd tawel iawn y dull a fwriadai y Llywodraeth gymeryd mewn perthynas i Fil Diwygiadol yr Ysgotland. Plygai y Llywodraeth i benderfyniad y Ty ar well- iant Iti. Baxter yn ddifreintio rhai bwrdeisdrefi, gan rocldi v seddi a enillid felly i Ysgotland; ond ni allentgydweled a gwelliant Mr. Bouverie, i sefydlu etholfraint tyddaliadol anghyfyngol, yr hwn a gariwyd hefyd trwy gryn fwyafrif. Barnai ef wrth ail yslyried.y gwelliant hwn, y gwnai ddadwneud yr hyn wnaeth y noson o'r blaen, ac y cai gyfle i wneyd hyny nos Lun nesaf. Bu cryn ddadl ar hyn, edliwd i'r gweinidogion eu bod yn foddlawn i fab- wysialu agos bob peth, er mwyn cael aros yn eu swyd(i. Siaradai rhai yn finiog a phersonol iawn ar y ma%r yma. Mr. Bright oedd y mwyaf cymedrol o lawer ond yr oedd yntau yn brathu yn bur drwm. Protettiai fod angyfwng gweinidogaethol bob wyth- nos fil hyn yn ormod i'w ewynau ef, a chyfeiriodd at ddifflg medr Disraeli yn rhoddi rhybudd o wrthwyn- ebiaduniongyrchol i'r Bil Oedfuddiadol bron ar yr adegag yr oedd arno eisiau tawelu i lawr deimladau y Ty Wrth gael eu trin fel hyn, galwai Mr. Hardy ar i'i Wrthblaid gynhyg penderfyniad o ddiffyg ym ddirfed yn y Weinyddiaeth. Gofynodd Mr. Graves, os odd y Llywodraeth yn bwriadu myned yn mlaen yr eJsteddiad hwn gyda Bil y Pellebyr, ac atebwyd ef yn gidarnhaol, ond nid ymddangosai hyn yn fodd- haoliawn gan y Ty. Rhoddodd Mr. Reardon, aelod drosAthlone, rhybudd am Gynhygiad Arwyddocaol, sef,cael gwybod os oedd y Llywodraeth yn bwriadu all y Frenhines ar gyfrif ei hymneillduad hirfaeth, a'i labsenoldeb bron parhaus o'r brifddinas, i roddi ei kydd i fyny yn ffafr Tywysog Cymru, neu ffurfio Rh,glaw yn mherson ei Uchelder Brenhinol. led yn mlaen gydag amryw fesurau yn Nhy yr Arflwyddi nos Wener, a darllenwyd rhai o honynt y drjledd waith; megys Bil Rheoleiddiad y Rheil- ffydd. Yn Nhy y Cyffredin, dywedai Mr. Reardon eliod am ofyn eglurhad i Mr. Disraeli nos Lun, am yi'hyn y rhoddodd rhybydd mewn perthynas i'w ^Wrhydri, ond dangoswyd anghymeradwyaeth mawr lO, a dywedai y llefarwr fod ei gynhygiad wedi ei eHo yn anseneddol. Cynhygiodd Mr. Gladstone ail darlleniad y Bill Oedfuddiadol. Datganodd ei syn- dd fod y Llywodraeth wedi mabwysiadu yr ail a'r 4dydd penderfyniad, ac yn myned i wrthwynebu y ?1 oedd wedi ei seilio arnynt, ar ei ail ddarlleniad. perthynas i dynged terfynol y Bil, awgrymai ^ld oedd ef yr un farn a r rhai a dybient y byddai iflo gael ei wrthod gan Dy yr Arglwyddi, a chredai 31 gryf y byddai i ddedfryd Ty y Cyffredin bender- fnu y cwestiwn, gan nad o ba le y deuai y gwrth- 1Yllbiad iddo. Cynhygiodd Mr. Hardy yn unol a'r hybudd a roddodd, i'r Bil gael ei ddarllen yr n waith yn mhen y chwe mis, w dywedodd ei fod ef fi gydswyddogion yn barod i apelio at y wlad ar y later. Cymerodd dadl faith Ie ar y cwestiwn, ond j wnaed ond myned dros'yr hen resymau y naill Ichr a'r llall. Wedi i Mr. Disraeli gyfiawnhau ym- Idygiad y Llywodraeth, ac i Mr. Gladstone ateb, •hanwyd y Ty, a chafwyd fod Dros yr ail ddarlleniad 312 Yn erbyn 258 Mwvafrif yn erbyn y Llywodraeth 54 1 Eisteddodd Ty yr Arglwyddi am ychydig funudau I nos Lun, pan, yn mysg pethau eraill, y darllenwyd ,f)f ilyr Ysgolion Gwaddoledig y drydedd waith. Yn Nhy y Cyffrechn yr un noSlm, gofynodd Svr F. Hey- !gate i Iarll Mayo, os gwnai y Llywodraeth ffurfio diddymiad Cyfraith Plaid Orymdutbiau, pan yr ateb- wyd ef, yn nacaol. Cyfeiriodd Mr. Maguire at areithiau Murphy, a'r angenrheidrwydd am roi taw ar bethau o'r fath. Dywedai Mr. Hardy nad oedd v gyfraith yn rhoddi un awdurdod gvffredinoli myr- aeth yn y mater. Gofynodd y Milwriad Jervl'b, OS oedd y Llywodraeth yn myned i dalu treuliau y Cyn- Lywydd Eyre i amddiffyn ei hun yn erbytt j cyhuddiadau a ddygid yn ei erbyn. Dywedai Mr. Disraeli fod y Llywodraeth wedi dod i'r penderfyniad nad oedd yn un rhan o'u dyledswydd i vmgymeryd a'i amddiffyn. Aed trwy amryw adranau o Fil Diw- igiadol yr Ysgotland.
[No title]
CERFLUN COFFADWQIAETHOL I MR. RATHBONE.—Y mae y pwyllgor wedi penderfynu codi cerflun i'r hen Ryddfrydwr parchus hwn. Tanysgrifiwyd zC2,980 at hyn. DAMWAIN ANGEUOL YN TRANMERE.—Fel yr oedd dyn a'r enw James Hendley, yn myned adref i Higher Tran- mere,nos Wener diweddaf, syrthiodd dros ymyl craig 60 troedfedd o ddyfnder, a rhaid iddo farw yn union- gyrchol. Yr oedd y trancedig yn 35 mlwydd oed, a gadawodd weddw a phedwar neu bump o blant. MARW WRTH YMLADD.—Prydnawn dydd Sadwrn, fel yr oedd John Williams, a William Lambert, yn ymladd a'u gilydd, tarawyd y cyntaf i lawr, a bu farw yn fuan wedi hyny. Yr oedd y ddau ymladdwr yn byw mewn cwrt yn Llanrwst-street, Toxteth Park, yn y dref hon. Cyfododd ffrae rhyngddynt, yr hyn a barodd iddynt fyned i ymladd. Saith ar hugain oed oedd y trancedig, yr oedd ganddo wraig ond dim un plentyn. Berrur mai dolur y galnn oedd prif achos ei farwolaeth, ond y mae Lambert wedi ei gymeryd i fyny ar y cyhuddiad-o brysuro ei angeu. GWENWYNIAD TAD A MAB YN CREWE TRWY GIG MOOR Ar, iAcH.-Yr wythnos ddiweddaf tarawyd dyn o'r enw George Steele, pan ydoedd yn ei waith, yn sal iawn, a chymerwyd ef i'r hysbytty. Bron gyda i'r tad gyraedd, dygwyd ei fachgen 15 oed yno, yn dioddef yn union fel yntau. Daeth Dr Otde atynt, a barnai ar unwaith eu bod ryw fodd wedi cymeryd gwenwyn, ac wrth eu holi, cafodd eu bod eu dau wedi bwyta pen mochyn. Rhodd- wyd meddyginiaeth briodol iddynt, ond buont am oriau yn y perygl mwyaf. Pan gyraeddodd y newydd am hyn at wraig Steele, cafodd ei gwely yn anamserol ar efeilliaid. YMCHWILIAD AM GYDFRADWYR O'FARRELL AR FWRDD Y GREAT BRITAIN.—Yr oedd disgwyliad mawr am gyr- haeddiad y Great Britain 0 Awstralia, trwy fod y Llyw- odraeth wedi cael hysbysiad fod y brad i lofruddio y Tywysog Alfred yn un eang iawn, ac fod tebygrwydd y byddai rhai o'r giwed yn ceisio dychwelyd i Loegr. Prydnawn ddydd Sadwrn fel yr oedd y llong enwog hon yn dod i mewn i'r Mersey, byrddiwyd hi gan am- ryw heddgeidwaid, ond ni chymerwyd yr un o'r teith- wyr i fyny, gan na cheid lie i gredu fod yr un o honynt yn dal cysylltiad a'r anfadwaith. BWRDD DRTJDFAWR.—Y mae y Sultan wedi erchi i fwrdd arian gael ei wneyd iddo yn Paris, a chostia ddim llai na 3,000,000 o ffrancod. FFYNHON WHISKY.—Dywed y papurau Americanaidd am ddarganfyddiad ffynhon whisky yn agos i Nodaway, yn Missouri. Llifa rhwng dwy graig, ac ymddengys yn debyg i frandi o liw uchel, ond y mae vn tastio ac yn arogli fel whisky pur, ac y mae yr effeithiau yr un mor feddwol. Bwriadai amryw bersenau fyned yno i'w gweled, ond rhwystrodd y gwlaw hwynt—hyny yw nid oeddynt yn hoffi cymysgu dwfr a'u whisky. Pa un a'i ffaith neu farddoniaeth Yanciyddol ydyw hyn tybed. DALFA FAWR o FECRYLP—Daliwyd oddeutu 50,000 o fecryll tu ol i Isle of Wight yrwythnos ddiweddaf. DARGANFYDDIAD LLENYDDOL.—Cyhoedda y papurau Italaidd, fod gohebiaeth ddyddorol cydrhwng Arglwydd Byron a mynachod St. Lazare, yn agos i Venice, wedi ei darganfod yn ddiweddar yn y mynachdy hwnw. Fe gofir i Arglwydd Byron dreulio rhan fawr o'i amser yn St. Lazare, a'i fod yn hoff iawn o'r mynachod oedd yno, at ba rai y cyfeiria yn ei 'Childe Harold.' MR MORLKY A PIIEIFYSOOI, OYMRTT.—Dywedir fod y boneddwr haelfrydig hwn wedi rhoddi mil o bunnau at gael Prifysgol i Gymru. PREGETHWR MOLMONAIDD MEWN DALFA. Cafodd Isaac Aldridge, pregethwr Mormonaidd, ei gyhuddo ddydd Sadwrn yn yr Amwythig, o ymosod yn anweddus ar eneth fud a byddar, o'r enw Alice James, Dywedid mai yn ddiweddar y daeth y carcharor i'r wlad hon o'r America. Yr oedd dyddlyfr yn ei feddiant, yn yr hwn yr oedd yn ysgrifenedig, 'Anerch y saint yn Wolver- hampton, ac wedi hyny myned i'r Theatre'—tro sant- yddol iawn, onide P Traddodwyd ef i gymmeryd ei brawf. Y BARDD LONGFELLOW.—Dywed y Carlisle Journal fod y bardd Longfellow, yn myned i dreulio mis yr haf hyn yn nghymmydogaeth y llynoedd Seisnig. Ni wnai un niweid i'w awen fyned i Lanau Llyn Tegid. YMERAWDWR FFRAINC A'R CYNGRAIR EFENGYLAIDD. —Cafodd y Parch James Davies, ysgrifenydd y Cyng- rair, gyfle i osod ger bron yr Ymerawdwr, achos cen- hadaethau Protestanaidd New Caledonia. Datganai yr Ymerawdwr ei ofid fod dim rhwystr wedi ei osod ar eu ffordd, a sicrhai y .byddai i'r un rhyddid crefyddol ag oedd yn Ffrainc, gael ei estyn trwy yr holl drefedig- aethau. RHAGOLYGON Y CYNHATTAF.—Y mae y cnwd gwenith yn neheudir Lloegr yn edrych yn addawol iawn. Cyf- rifir y cynhyrcha dair sach yr acr fwy na'r un y llynedd. Y mae y cynhauaf gwair wedi dechreu yn nghymmyd- ogaeth Blandford, swydd Dorset. DARGANFYDDIAD PLANED NEWYDD.-Darganfydd- wyd planed newydd ar y 18fed o'r mis diweddaf, gan y, Proffeswr Peters, o Clinton, New York. Y mae ei throgylch yn mysg y ser sydd yn troi rhwng Mawrth a Jupiter. IECHYD YR YMERODRES CHARLOTTE.-Y mae y fon- eddiges anffodus hon yn gwellhau yn gyfiym. Bydd yn myned allan bob dydd am daith lied bell yn ei cher- byd. Disgwylir yn gryf y llwyr adferir ei synwyr. MR GLADSTONE I OLYNU ARGLWYDD BROUGHAM.—Y mae parotoadau yn eu gwneud i ethol Mr Gladstone i fod yn Ganghellydd Prifysgol :Edinburgh, yr hon swydd a aeth yn wag trwy farwolaeth Arglwydd Brougham. CREULONDEB RHIENI YN NGHYMRIT.—Dygwyd gwr a gwraig ger bron yr ynadon yn Blackburn, ddydd Llun diweddaf, ar y cyhuddiad o arfer creulondeb at fachgen bach naw blwydd oed, plentyn i'r wraig o'r gwr cyntaf Rhwyn-iid y creadur bach mewn basged, a chedwid ef yno am oriau heb damaid o fwyd. Dioddefai y plant eraill oddiwrth greulondeb y rhieni, fel yr oedd eu gwedd welw a nychlyd yn dangos. Anfonwyd y rhieni i r carchar am chwe mis bob un, yr hyn a barodd fodd- londeb mawr i bawb oedd yn gwrando y prawf. Rhoddwyd y plant druain o dan ofal y Eeleiving Officer. YN OL Y PENDERFYNIADATT.—Yn ddiweddar, mewn cyfarfod cenhadol o'r negroaid o un o'r eglwysi negroaidd cyfoethocaf yn America, pasiwyd y pen- derfyniadau canlynol yn unfrydol:—1. Y rhoddwn rhywbeth. 2. Y rhoddwn yn ol ein gallu. 3. Y rhoddwn yn ewyllysgar. Wedi darllen a chymmer- adwyo y penderfyniadau, aeth negro blaenllaw at y gadair wrth y bwrdd, a chymmerodd ysgrif-bin ac inc er dodi i lawr yr hyn a ddaethant i danysgrifio. Daeth llawer yn mlaen a'u tanysgrifiadau at y bwrdd, a rhoddodd rai lawer ac eraill ychydig. Yn mhlith y tanysgrifwyr yr oedd hen negro, yr hwn oedd yn bur gyfoethog—bron mor gyfoethog a'r cwbl gyda'u gilydd. Taflodd i lawr fil bychan. Cym- merwch ef yn ol eto,' medclai y eacleirycld, gall hyn fod yn ol y penderfyniad cyntaf, ond nid yw yn ol yr ail.' Cymmerodd ef yn ol, ac aeth i'w le wedi cyn- ddeiriogi. Aeth lluaws yn mlaen, i gyd yn rhoddi ychwaneg nag ef. Cywilyddiodd, ac yn ddjgofus taflodd fil mwy ar y bwrdd, gan ddyweyd, f H wd. iwch, cymmerwch hynyna.' Greenback ugaiu dolar ydoedd, ond gan iddo ei rhoddi mewn tymher ddrwg gAvrthododd y eadeirydd ef drachefn, g^an ddyweyd, 'Na, Syr, ni wna y tro. Gall fod yn ol y pender- fyniad cyntaf a'r ail, ond nid yw yn ol y trydydd.' Bu gorfod iddo ei chymmeryd i fynu yr ail waith. Parhau yn llidiog wrtho ei hunan ydoedd, ac eis- teddodd i lawr am amser luaith, nes aeth pawb allan bron, ac aeth yn mlaen at y bwrdd, a chyda gwen ar ei wynebpryd rhoddodd swm mawr o arian ar y bwrdd. Dyna,—da iawn,' ebe'r cadeirydd, hynyna y tro; y mae yn ol yr holl benderfyniadau.'
LLYTHYRAU OYk. N NGHANAA-W.…
LLYTHYRAU OYk. N NGHANAA-W. ,r „ YN NGHANAAN Mae ein darllenwyr wedT „ yn yr ychydig lythyrau a V hoadhau yn ddirfawr Miss Margaret J^nes, o je^peddasom oddiwrth atom eilwaith ac eilwaith i ofyn^a111' ac .an^onwy^ i'w gael. Trwy garedigrwydd ei^ r^a^or •Jones, ein dosparthwr ffyddlon a llanerchrugog, yr ydym newydd dderbyn^ o'i Hythyrau. Bwriad ei thad ydyw eu dwfr yn llyfr; ond y mae wedi caniatau i ni eu cyhTvf yn y TYST, ac yr ydym yn dra sicr y bydd eu hoeddiad genym yn fantais, ac nid yn rhwystr, j' gwerthiad pan y dygir hwy allan yn llyfr. Gyda'r amcan o'u dwyn allan yn Hyfr ysgrifenodd ei thad at Mr Thomas Lewis, Bangor, yr hwn a fu ar ym- weliad a gwlad Canaan, ac sydd ar ol ei ddychweliad wedi difyru ac adeiladu degau o gynnulleidfaoedd ag adroddiad o'r pethau a welodd. Derbyniwyd llythyr caredig oddiwrth Mr Lewis, a chetii y gwyddom v bydd yn ddyddorol gan ein darllenwyr, yr ydym yn ei osod i lawr yma; ac ymddengys llythyr cyntaf Miss M. Jones yn ein rhifyn nesaf, a pharheir hwy yn ein rhifynau dilynol. Dichon y cyhoeddir am- beil un sydd wedi ymddangos eisioes, ond gwneir hyny am y gwyddom nad oes un o bob pump o'n darllenwyr erioed wedi eu gweled. Mae fod merch ieuanc heb gael ond ychydig fanteision, Y8 gallu ysgrifenu llythyrau mor llawn o ddesgrifmdau byw, yn anrhydedd i'r rhieni a'r eglwys lie y magwyd hi. BANGOR, Mawrth 25, 1867. Anwyl Syr,-Da genyf ddeall eich bod yn bwriadu argraffu y llythyrau a dderbyniasoch oddiwrth eich merch, Miss Margaret Jones, o Jerusalem; diau y byddant yn dra dyddorol. Mae cael llythyrau oddiwrth Gymraes o Jerusalem, wedi eu hysgrifenu yn Gymraeg, a'r rhai hyny yn des- grifio hen wlad yr addewid, a'r ddinas sanctaidd, yn beth a werthfawrogir, yr wyf yn credu, gan filoedd o'r Cymry, yn enwedig gan na bu, hyd y gwyddis, un Cymro na Chymraes erioed yn trigianu mor hir yn N gwlad Canaan a Miss Jones. Ymddengys nad oes yn bresenol ddim un Cymro yn byw yn yr holl wlad, na dim un Gymraes ond Miss- Jones yn unig. Y modd y daethum yn gydnabyddus a Miss Jones oedd fel hyn:—Yr oedd fy niweddar gyfaill a chyd- deithydd, Mr Parry, a minau yn digwyddo bod yn Jerusalem yn mis Ebrill diweddaf. Yr oeddym wedi ffurfio cyfeillach a nifer o deithwyr-rhai o honynt yn Prwssiaid-ac wedi bod ar daith gyda hwy am amryw ddyddiau tua Jericho, yr Iorddonen, Mor Marw, He- bron, Bethlehem, ac yn ol i Jerusalem. Ar ol dych- welyd, llwyddodd y boneddigion hyn i gael dylanwad y Prussian Consul i'n party i gael myned i weled y Mosque of Omar, sef teml Fahometanaidd dra hardd sydd wedi ei hadeiladu ar ben Moriah, ar y fan y safai teml Solomon gynt. Yr oeddym i gyfarfod mewn typenodol 81 boreu cyn cychwyn yno. Pan aethom i fewn, gwelem yno un gwr eglwysig, sef y Parch A. B. Frankel, un o weinidogion yr Eglwys Brotestanaidd syftd wedi ei hadeiladu ar fynydd Sion, sef Eglwys yr Esgob Gobbat. Ar ein dyfodiad i fewn, gofynodd y gwr hwn i ni (wedi deall rywfodd cyn ein dyfodiad fod rhai o Gymru yn perthyn i'r party) a allem ni siarad Cymraeg? Atebasom y gallem. I Wel,' meddai yntau, < y mae yn dda genyf eich gweled, o herwydd y mae gyda ni ferch ieuanc o Gymru yn gwasanaethu, ao yma er's tair blynedd, ac ni welodd neb o Gymru yr holl amser. Clywais hi yn dweyd amryw weithiau y buasai yn well ganddi na phunt pe clywsai rywun yn sfarad un gair o Gymraeg. Rhaid i chwi ddod i edrych am dani; diau y bydd yn dda ganddi eich gweled. Yr oedd yn bur dda genym glywed y newydd, a galwasom i edrych am dani y cyfleusdra cyntaf, pryd y cawsom bob sirioldeb a charedigrwydd gan ei meistres, a chawsom gyda hithau gryii lawer o ymgom yn Gymraeg am yr hen wlad a'r hen gyfeillion a adwaenai. Gwelsom hi amryw weithiau cyn gadael y ddinas, ac yn y diwedd gofynai i ni a fyddem mor garedig a chario anrheg fechan i'w thad a'i mam gartref, sef potelaid o ddwfr o Afon yr Iorddonen. Addawsom wneud, ac fel y gwyddoch, cyrhaeddodd y botelaid dwfr i'ch llaw yn ddiogel. Da genyf allu tystio hefyd, fod ei meistr a'i meistres yn rhoddi character rhagorol iddi, fel merch ieuanc grefyddol, synhwyrol, &c., ac fe ymddengys eu bod yn dra hoff o honi-ni fynent er dim ymadael a hi. Yr wyf yn deall hefyd ei bod yn meddu gryn raddau o allu i ysgrifenu a desgrifio yr hyn a welodd—llawer mwy nag a allesid ddisgwyl gan un yn ei sefyllfa ac o'i manteision hi. Rhwng pob peth, yr wyf yn credu ac yn gobeithio y try eich anturiaeth o gyhoeddi ei llyth- yrau yn fantais mewn mwy nag un ystyr. Yr eiddoch yn gywir, THOMAS LEWIS. Mr O. Jones, Independent Chapel, Rhos.