Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

11 articles on this Page

ANERCHIAD I'R 'TYST CYMREIG.'

YSGOLION SABBOTHOL ANNIBYNWYR…

AT DAEAREGYDD.

RHYBYDD I'R BEIRDD.

I: ! CYMMERIADAU.

News
Cite
Share

CYMMERIADAU. PEN. V.—Y DYN DAUWYNEBOG. Mr Gol.,—Byddaf yn clywed pobl weithiau yn yn dyweyd—' Dyn dauwynebog' am y cymmeriad Soll-wynebog, Cam mawr a chymmeriad llawer un yw dweyd dau-wjnebog ac nid holl-wyjiebog. Nid dau ac nid deq, wyneb sydd gan lawer dyn, ond y mae ganddo wyneb i dderbyn pob wyneb, bob amser, bydded beth y fyddo. Y mae gan y bobl yna sydd yn cynllunio y ffurf-liwiau (designs) beiriant bychan sydd yn cyfleu llu amryfath o honynt o'flaen y llygad. Y mae pob ysgogiad roddir i'r peiriant yn gosod golygf a newydd o flaen yr edrychydd, a hyny braidd yn ddiderfyn. Rhyw beiriant felly yw y cymmeriad dan sylw. Y mae ganddo wyneb i dder- byn pawb—gelynion a chyfeillion, drwg a da yn ddiwahaniaeth. Medr draws-newid ei wyneb i bob ffurf ac i bob llun yn ddidrafferth, ac yn ddiderfyn. Ymddengys fod ganddo fwy o awdurdod ar ei wyneb nag sydd gan y crochenydd ar y priddgist. Gall ei drawsfFurfio gyda mwy o rwyddineb, ac i ddullwedd- au mwy amrywiol. Gwareded y nefoedd ni oddi- wrth y fath adyn! Un galon ac un wyneb mae yr \nfeidrol wedi roddi i bob dyn, a dylai fod calon pob r>b amser yn ei wyneb. Dylai gwyneb fod yn cspamaa i bob dyn o'r galon, a "diamheu fod ywyn wecu ,• OSO(j a>j amcanu j f0(j felly ond sicr ^yn Ao/wynebog y darn a f^^l-hudol yn yr hoU gread- ° A* 1 y 7™ hanner troedfedd y g a s§Trn a C1nf,w<?! 0 ymi cynnyrchu mwy o ragrith na chyfandir eang o ddaeai. Gwen sydd ar ei wyneb i bawb, yn ddi-wahaniaeth, ac y mae yn anmhossibl gwybod pa bryd y mae y wen hono yn ddidwyll a gwirioneddol, os ydyw byth o gwbl. Ceisio dangos y cyfaill i bawb y mae, ond nid yw yn gyfaill i neb—dim ond iddo ei hun. Y mae yn ceisio prynu pawb, ac wrth hyny yn gwerthu pawb sydd ganddynt rith o barch iddynt eu hunain. Pan y mae efe yn canfod ei hun yn y drych, y mae yn gwenu arno ei hun, ac y mae y pryd hwnw yn gwenu yn ngwyneb ei elyn penaf. Wrth wneud marchnad rad a'i wyneb i brynu cyfeillion, y mae yn gwneud ei hun y gelyn gwaethaf iddo ei hun o bawb yn yr holl fyd. Os na bydd dyn yn ffyddlon i bob peth sydd yn anrhydeddus ynddo ei hun nid ydyw yn wertR dim fel cyfaill i neb arall, ac nid ydwyf erioed wedi gweled neb yn gyfaill iddo, er yr holl aberth y mae yn ei wneud o wirionedd, gonestrwydd, a didwylledd. Gwena y dyn hwn yn ngwyneb ei gyd-ddyn, pan ar yr un pryd yn ddigon parod i frathu cledd i'w galon. Dylid hwtio i hades y fath outrage ar bob peth sydd yn anrhydeddus mewn dyn- oliaeth a chymdeithas. Y mae gwg onest ar y wyneb yn annhraethol well na gwen ragrithiol. Os bydd y sail yn ddrwg, gwna ei wyneb ddangos hyny Os bydd yr olwynion o'u lie yn yr awrlais, gwna ei wyneb yn union ddweyd hyny. Os bydd dig yn y gaion, ac os oyaa tramgwydd yn y meddwl, gadewir i'r wyneb ei ddangos, ac nid ei guddio. Y mae gelyn gonest yn well na chyfaill twyflodrus. Y mae ath- rodwyr bob amser yn hoffl cyfarfod yr; hollwynebog. Chwiliant am dano a mynychant ei dy yn mhob cymmydogaeth, ac y mae yntau yn eu derbyn gyda gwyneb siriol, ac y mae hyny yn eu cefnogi yn eu drwg Ceir lleng o athrodwyr bob amser Ue y byddo dynion lwll-wynebog. Os ydwyt ti, ddarllenydd, yn cashau yr athrodwr, gosod ddig yn lie gwen ar dy wyneb,,pan yn ei gyfarfod; a bydd mor sicr o wneud lies iddo a bod Solomon wedi dweyd hyny. Dyma ei eiriau,—' Gwynt y gogledd a yrr y gwlaw ymaith: felly y gyrr wynebpryd digllawn dafod athrodgar.' Y mae yr operation yna yn lied annyoddefol i gnawd ond y mae yn sicr o yru y drwg i ffwrdd. Nid oes derbyn wyneb gyda Duw.' Nid un wyneb i dderbyn y cyfaill, a gwyneb arall i dderbyn y gelyn, sydd ganddo ef, ond un wyneb, a gwen ar hwnw i bob cyfaill, a gwg i bob gelyn. Y mae ei wyneb ef fel efe ei hun,—yn onest i bawb. Nid oes dim yn cael ei ddangos ar ei wyneb nad ydyw yn ei galon. cl\Avyt ddarllenydd, yn debyg iddo ? Gwyneb ao-oi\ y r^an *iar<l<laf o'i g'orph> a dylai fod yn mawr" weledadwy, ac yn lanwedd. Gresyn brorlw^lT^ ^a<^ae^ ^arf hir i'w guddio. Y mae y tiQw/Vi 87^ yn peidio eillio, yn dywedyd wrth fell 1 ^dywectodd Paul g^nt wrth henuriaid p e..us, iN'^chewch weled fy wyneb mwy.' Gad- m wch i ni weled eich gwynebau, fechgyn ? Nid yd- ryf yn hoffi y gwyneb salw, y gwyneb hir, na'r wyneb caled, ond y mae yn well genyf bob wyneb \\t'r lwll-wynebog. Yn sicr i chwi, y mae ei gefn yn ell na'i wyneb. Ac mi garwn I yn fawr iawn sled eu cefnau bob un yn myned o Gymru ac o'r Id i Patagonia. FORPEX. 3 'i —-

ENNANTLLIW BACH, LLANTJWCHLLYN.

GEIRIAU YMADAWOL Y DDjWEDDAR…

Y DYN ANWADAL.

Gynhygiad Arwyddocaol,

[No title]

LLYTHYRAU OYk. N NGHANAA-W.…